Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid a holl awdurdodau lleol Cymru, Is-adran Rhwydwaith Ffyrdd Strategol fel awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd Cymru a’r gwasanaethau brys. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Ionawr a Mawrth 2023. Mae’r newidiadau a gynigir a’r ymatebion i’w gweld isod.

Derbyniwyd 13 o ymatebion.

1. Arwyddion ailadrodd

Cynnig

Ni ddylai arwyddion i ddiagram 670 sy’n dangos y rhifolion ‘20’ sy’n cael eu defnyddio fel arwyddion ailadrodd, gael eu harddangos ar ffyrdd 20mya gyda goleuadau stryd. Fodd bynnag, bydd arwyddion i ddiagram 670 sy’n dangos ‘30’ yn cael eu defnyddio fel arwyddion ailadrodd ar ffyrdd 30mya.

Cynigir felly bod atodlen 10, rhan 4 cyfarwyddyd cyffredinol 2 (atodlen 10, rhan 4 - 2) yn cael ei ddiwygio i ddatgan:

“Ni chaniateir gosod yr arwydd pan mae’r ffordd yn destun terfyn cyflymder uchaf o 20 mya a bod ganddi system o oleuadau ffordd gerbydau.”

Roedd yr holl ymatebwyr yn cytuno gyda hyn, a dim ond mewn perthynas â'r union eiriad a ddefnyddiwyd y gwnaed awgrymiadau. Roedd un ymatebwr o'r farn y dylid caniatáu'r marciau ffordd 20mya mewn ardaloedd â goleuadau stryd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae'r defnydd o farciau ffordd 20 mya mewn ardaloedd sydd wedi'u goleuo wedi'i ddiystyru er mwyn osgoi anghysondeb rhwng awdurdodau, a hefyd i osgoi'r posibilrwydd y bydd y marciau ffordd hyn yn cynyddu ac yn dod yn ddisgwyliedig gan ddefnyddwyr ffyrdd.

2. Parthau 20mya

Cynnig

Rhaid cael gwared ar yr holl barthau 20mya ar ffyrdd sydd â system o oleuadau ffordd gerbydau, gan na fydd angen iddynt unwaith y byddant wedi'u nythu o fewn y terfynau cyflymder diofyn newydd o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig.

Cynigir felly, o dan rtodlen 10, rhan 2, diagram bod arwyddion 674, 675A a 675B yn cael eu dileu.

Rydym hefyd yn cynnig cynnwys cyfnod arbed 12 mis ar gyfer tynnu’r arwyddion hyn ar ôl y dyddiad Dod i Rym ar 17 Medi 2023, er mwyn caniatáu i Awdurdodau Priffyrdd roi blaenoriaeth i godi’r arwyddion terfynol 20mya angenrheidiol a chael gwared ar arwyddion 30 mya diangen.

Roedd pawb ond un yn cytuno â hyn, gydag awgrymiadau ond yn ymwneud â'r union eiriad a ddefnyddiwyd. Roedd un ymatebwr o'r farn y dylai'r parthau 20mya aros ar gyfer ardaloedd gerllaw strydoedd sydd i'w heithrio a chadw eu terfynau cyflymder 30 mya.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pe bai parthau 20 mya yn cael eu cadw i’w defnyddio mewn amgylchiadau mor brin, byddai’n anodd disgwyl i’r cyhoedd eu deall a sut yr oeddent yn wahanol i’r terfyn 20 mya cyffredinol. Felly, bydd yr holl arwyddion parth 20 mya yn cael eu tynnu'n ôl (ar ôl y cyfnod arbed o 12 mis).

3. Arwyddo twmpathau ffordd a arwyddion ardal tawelu traffig

Cynnig

Mae’n bosibl bod gan lawer o’r ‘parthau’ 20mya nodweddion tawelu traffig ffisegol, megis twmpathau ffordd.

Cynigir naill ai bod pob twmpath yn cael ei lofnodi â diagram, atodlen 2, rhan 2, diagram 557.1 neu fod opsiwn testun ychwanegol newydd yng ngeiriad y blât gysylltiedig gyntaf yn cael ei ragnodi ar gyfer Cymru: Defnyddir ‘Ardal tawelu traffig/Traffic calmed area’ atodlen 2, rhan 2, diagram 43.5 i gwmpasu sefyllfaoedd lle mae twmpathau yn ddi-dor o fewn ardal ehangach, fel na fydd yn rhaid arwyddo pob ffordd ymyl yn unigol.

Fe ganiateir ail is-blât opsiynol yn darlunio llun plentyn i hysbysu o’r cyffiniau i ysgol, i’w ychwanegu at atodlen 2, rhan 3. (gweler hefyd Arwyddion ger ysgolion).

Gellid gosod arwydd dewisol newydd i roi gwybod am ddiwedd ardal arafu traffig lle byddai arwydd ‘diwedd parth 20mya’ wedi bod, os yw’r awdurdod yn ystyried bod angen hynny.

Cynigir y bydd yr arwydd hwn yn cael ei ragnodi mewn diagram 896 newydd (atodlen 11, rhan 2 - 87).

Newidiadau: atodlen 2, rhan 3-5 ac atodlen 11, rhan 2 - 87

Roedd saith o ymatebwyr yn anghytuno neu'n cwestiynu agweddau ar y cynnig hwn. Roedd pryderon yn cynnwys bod yr arwyddion yn rhy fawr, yn achosi annibendod, neu fod y diagram 883 presennol yn cyflawni'r pwrpas hwn. Roedd pedwar ymatebydd yn gwrthwynebu cynnwys yr arwydd  “Diwedd yr Ardal Tawelu Traffig” ac un yn awgrymu y gellid defnyddio pellter (“am xxx llathen”) ar yr arwydd rhybuddio twmpathau (diagram 557.1) yn ei le. Dywedodd un ymatebwr nad oedd yr arwydd rhybudd hwn yn cwmpasu pob math posibl o fesurau tawelu traffig ffisegol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dyma’r rhesymau dros gynnig yr arwydd “Ardal tawelu traffig” newydd:

Sicrhau bod gan awdurdodau ddull o gyflawni gofyniad Rheoliad 6 o Reoliadau Priffyrdd (Twmpathau Ffordd) 1999 i ddarparu arwyddion rhybuddio ar gyfer twmpathau ffordd mewn ardaloedd a oedd gynt yn barthau 20 mya.

I roi cyfle i waith celf plant neu neges diogelwch ffyrdd eraill fel a ddangoswyd yn flaenorol ar arwyddion mynediad parth 20 mya barhau i gael eu harddangos.

Er bod pellter ar y blât o dan yr arwydd rhybudd twmpathau eisoes wedi'i ragnodi ac felly ar gael i'w ddefnyddio, nid yw hyn yn caniatáu ar gyfer cynghori ynghylch tawelu traffig dros ardal gyfan sy'n ymestyn i ffyrdd ymyl ac yn troi oddi ar y ffordd bresennol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno mai anaml y bydd angen yr arwydd “Diwedd yr ardal dawelu traffig” ond mae’n bwriadu ei ragnodi er mwyn iddo gael ei  ddefnyddio yn ôl disgresiwn awdurdodau unigol pan fyddant yn ystyried ei fod yn ddefnyddiol. Drwy roi amrywiaeth o opsiynau i awdurdodau eu defnyddio, disgwylir iddynt ddefnyddio eu disgresiwn i ddarparu cyn lleied o arwyddion ag sy’n angenrheidiol yn eu barn hwy ac osgoi annibendod.

4. Arwyddion ger ysgolion

Cynnig

Bydd yn rhaid cael gwared ar yr holl arwyddion 20mya sy'n agos at ysgolion os ydynt wedi'u nythu mewn arwydd parth mynediad neu arwydd ailadrodd. Hefyd, ni ellir cadw Arwydd sy'n cael ei gynnau gan Gerbydau (VAS) ac arwyddion 20mya rhan amser y tu allan i ysgolion gan y byddant mewn gwirionedd yn troi'n arwyddion ailadrodd na chaniateir ar ffyrdd cyfyngedig oherwydd bod y colofnau lampau yn atgof. Ar hyn o bryd bydd gan rai arwyddion parth 20mya is-blât o lun plentyn.

Roedd tri o’r ymatebwr yn cwestiynu'r honiad y gall VAS ei oleuo i arddangos y terfyn cyflymder yn cael eu hystyried yn arwyddion ailadrodd. Mae yna leoliadau lle maent yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd heb wrthwynebiad ar ffyrdd sydd wedi'u cyfyngu i 30 mya oherwydd goleuadau stryd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod hwn yn bwynt dadleuol a bydd yn gadael i awdurdodau unigol a’u cynghorwyr cyfreithiol a ddylid defnyddio VAS a all ddangos yr 20 mya mewn ardaloedd sydd wedi’u goleuo yn y dyfodol.

Er mwyn parhau i helpu gyrwyr i wneud cysylltiad seicolegol â phresenoldeb tebygol plant ysgol o amgylch ysgolion, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig rhagnodi’r defnydd o is-blât ysgol genedlaethol newydd sy’n darlunio llun plentyn. Trefnir cystadleuaeth arlunio gyda chymorth y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) i ddewis dyluniad buddugol.

Gellir gosod yr is-blât hwn fel is-blât ar yr arwydd twmpath (gweler newid 4. uchod) neu fel is-blât ychwanegol i’r arwydd trionglog ‘plant yn mynd i’r ysgol neu’n ôl’ diagram 545.

Newid: Is-blât ychwanegol ar gyfer arwydd diagram 545, o dan atodlen 2, rhan 2

Roedd cytundeb cyffredinol gyda'r datganiad hwn gyda'r amod y gellir defnyddio unrhyw graffig a gytunwyd yn lleol yn lle enillydd y gystadleuaeth. Roedd un ymatebwr o'r farn bod y graffig yn ddiangen.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhagnodi'r defnydd o ddelwedd diogelwch ffyrdd i gyfleu'r angen am ofal ychwanegol a chyflymder araf fel is-blât i'r Twmpath Ffordd a'r arwyddion Rhybudd Ysgol. Byddai llun plentyn a ddewiswyd mewn cystadleuaeth genedlaethol a drefnwyd gyda chymorth RoSPA ar gael i awdurdodau traffig ei ddefnyddio ar yr is-blât hwn os dymunant.

5. Arwyddion dros dro:

Cynnig

Rydym yn cynnig newid yr arwydd dros dro (testun gwyn ar gefndir coch i diagram 7032) gyda darlleniad testun newydd: ‘Terfyn newydd o 20mya / New 20mph limit’. Rydym yn cynnig y gall yr arwyddion dros dro hyn aros ar eu traed am gyfnod o 12 mis a gellir eu gosod nid yn unig pan fydd terfyn cyflymder newydd o 20mya yn cychwyn, ond hefyd ar ffyrdd sy’n destun terfyn 20mya o dan yr amgylchiadau hyn:

  • Ar ffyrdd lle mae'r terfyn yn, neu'n newid i 20mya wrth yrru i mewn i Gymru
  • Lle byddai terfyn Parth 20mya/20mya wedi dod i ben,  pan oedd y terfyn diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yn 30mya
  • Mewn lleoliadau, lle mae pryderon ynghylch cydymffurfio â'r terfyn cyflymder yn ystod y cyfnod trosiannol yn unig

Newid: Bydd angen addasu atodlen 13, rhan 12, cyfarwyddyd cyffredinol 13 yn unol â hynny

Cytunir ar y cynnig hwn yn gyffredinol, ond gyda rhai pryderon am yr angen am yr arwyddion hyn yn yr holl leoliadau a gynigir, neu eu gwerth am arian.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Rydym yn bwriadu rhagnodi fersiwn ddiwygiedig o'r arwydd hwn. Bydd yr arwydd yn dweud ‘TERFYN NEWYDD O 20MYA / NEW 20MPH LIMIT’. Bydd yna hefyd amrywiad a ganiateir i'w ddefnyddio sy’n ychwanegu AHEAD/O'CH BLAEN. Cyhoeddir canllawiau yn nodi na ddylid ei or-ddefnyddio ac i'w tynnu oddi ar y ffyrdd o fewn 12 mis.

Mae’r arwyddion yn darparu gwerth da am arian gan y byddant yn atgoffa gyrwyr o’r terfyn cyflymder cenedlaethol newydd ar ffyrdd cyfyngedig, ac wrth i’r risg o anaf/marwolaeth gynyddu’n esbonyddol o ganlyniad i effaith y cyflymder, felly os ydynt yn arwain at hyd yn oed ychydig o ostyngiad mewn cyflymder mewn lleoliadau risg uchel, mae ganddynt y potensial i wneud arbedion mwy ac ehangach i'r Gwasanaeth Iechyd ac i gymdeithas.

6. Arwyddion camera cyflymder

Cynnig

Rydym yn cynnig disodli diagram 880:

  • Camera Cyflymder O’ch Blaen ar y ffordd wedi'i goleuo a nodyn atgoffa o’r arwydd hwn sy’n dangos terfyn cyflymder o 20mya

Newid: diagram 880.2, newydd i'w ychwanegu at atodlen 11, rhan 2, eitem 64

Derbyniodd y cynnig hwn gefnogaeth ac eithrio un ymatebwr a oedd o bosibl wedi camddeall y byddai’n cael ei ddefnyddio cyn lleoliadau lle mae gweithgarwch gorfodi cyflymder yn digwydd yn rheolaidd yn unig (fel ar gyfer yr arwydd cyfatebol presennol sy’n dangos ‘30’).

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd yr arwydd hwn yn cael ei ragnodi, yn amodol ar yr un disgrifiad ac amod sydd ar hyn o bryd yn ymwneud ag arwydd 30 mya cyfatebol.

7. Unrhyw sylwadau pellach

Cafwyd dau gais i ystyried rhagnodi arwydd rhybudd ‘plant’ fel marc ffordd.

Cafwyd awgrymiadau hefyd ynghylch newidiadau angenrheidiol i Reolau'r Ffordd Fawr, ac eglurhad posibl o ofynion goleuo cerbydau a larymau bacio.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nodwyd y sylwadau hyn ond ystyriwyd eu bod allan o gwmpas yr ymgynghoriad presennol.