Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Ers agor y swyddfa dramor gyntaf yn Tokyo ganol yr 1980au, mae rhwydwaith tramor Llywodraeth Cymru wedi tyfu i 21 o swyddfeydd mewn 11 o wledydd heddiw.

Mae llawer wedi newid yn fyd-eang dros y cyfnod hwnnw ac mae ein swyddfeydd tramor wedi bod yn hanfodol i helpu Cymru i ymdopi â heriau marchnadoedd rhyngwladol sy’n newid o hyd, gan hyrwyddo’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i’r byd nawr ac yn y dyfodol.

Blaenoriaethau cyfredol

Mae gan bob swyddfa gylch gwaith i gyflawni’r dyheadau sydd yn y Strategaeth Ryngwladol, a gafodd ei lansio ym mis Ionawr 2020, a’i chynlluniau gweithredu. cysylltiedig. Mae’r strategaeth yn nodi ein huchelgais i:

  • Codi proffil rhyngwladol Cymru
  • Tyfu ein heconomi drwy allforio rhagor a denu mewnfuddsoddiad, a
  • Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae pob un o’r swyddfeydd rhyngwladol yn canolbwyntio ar bob uchelgais i raddau gwahanol er mwyn adlewyrchu’r enillion a’r perthnasedd posibl i’r wlad y maent yn gweithredu ynddi. Fodd bynnag, mae gan bob swyddfa gylch gwaith cyffredin i ddod o hyd i gyfleoedd mewnfuddsoddi, i ddod o hyd i gyfleoedd masnach ac i feithrin rhwydweithiau cryf ymysg Cymry ar wasgar y wlad. Mae’r swyddfeydd yn parhau i ymgysylltu a gweithio’n agos gyda phartneriaid yn y farchnad, gan gynnwys yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT), er mwyn rhannu gwybodaeth a hybu cydweithio a chydweithredu i ymhelaethu ar gryfderau Cymru a chynyddu’r cyfleoedd.

Sut ydyn ni’n ailgysylltu â’r byd ar ôl Covid?

Mae’r byd yn dal i wynebu nifer o heriau byd-eang, gan gynnwys COVID-19. Mae economi’r DU yn gwella’n gyflymach na rhai ond mae’r pandemig wedi effeithio ar bob economi ym mhedwar ban byd ac mae llawer yn dal i wynebu heriau sylweddol. Mae’r pandemig wedi effeithio’n waeth ar rai o’n staff tramor na staff yng Nghymru, ond er hynny maent wedi parhau i gyflawni blaenoriaethau rhyngwladol Cymru. Mae hyn wedi cynnwys cael gafael ar gyfarpar diogelu personol, cefnogi teithiau masnach rhithiol, cynnal cysylltiad â chwmnïau yn eu priod diriogaethau a darparu gwybodaeth hanfodol am ymatebion byd-eang i’r pandemig er mwyn cyfrannu at bolisïau yma yng Nghymru.

Wrth i ni ddod dros y pandemig, bydd rôl y timau tramor yn bwysicach fyth o ran gwerthu Cymru i’r byd. Maent eisoes wedi ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau i gyflawni uchelgeisiau rhyngwladol Cymru. Mae hyn wedi cynnwys ymgysylltu â phartneriaid rhyngwladol a buddsoddwyr posibl, cefnogi teithiau masnach rhithiol a chynrychioli Cymru mewn digwyddiadau byd-eang allweddol fel Expo’r Byd a COP26. Mae’r gweithgareddau hyn yn mynd â nifer o gamau gweithredu y Strategaeth Ryngwladol rhagddynt ac yn diwallu blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Rhaglen Lywodraethu.

Lleoliadau swyddfeydd

Image
Asia Ewrop Gogledd America Y Dwyrain Canol
Beijing Brwsel Atlanta Doha
Chongqing Berlin Chicago Dubai
Shanghai Düsseldorf Efrog Newydd  
Bangalore Dulyn San Francisco  
Mumbai Paris Washington DC  
New Delhi Llundain Montreal  
Tokyo      

Ffocws rhanbarthol

Mae gan ein rhwydwaith dri rhanbarth:

Mae gan bob rhanbarth ffocws wedi’i deilwra yn ôl ei gryfderau ac mae hyn yn cael ei amlinellu yn y cylchoedd gwaith. Mae’r adran hon yn nodi uchafbwyntiau gweithgareddau pob un o’r rhanbarthau yn ystod 2021-22.

Ewrop

Roedd ein swyddfeydd wedi addasu eu hymgysylltiad â phartneriaid ar draws Ewrop ar ôl i’r DU adael yr UE, gan gefnogi Llywodraeth Cymru drwyddi draw gyda materion a oedd yn parhau o ganlyniad i ddiwedd y cyfnod pontio. Maent wedi bod yn ymgysylltu’n rhagweithiol â phartneriaid Ewropeaidd i ddangos bod Cymru’n parhau i fod yn rhan weithredol o Ewrop. Mae’r swyddfa ym Mrwsel yn ymwneud ag effaith barhaus polisi’r UE ar Gymru ac mae’r swyddfa yn Iwerddon yn darparu cefnogaeth ynghylch effaith protocol Gogledd Iwerddon a materion sy’n ymwneud â’r ffin. Ym mis Ionawr 2021, penododd Llywodraeth Cymru Gynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop, sy’n gweithio’n agos gyda’r swyddfeydd Ewropeaidd, ac yn enwedig y swyddfa ym Mrwsel.

Cafodd Iwerddon-Cymru Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021 i 2025 ei lofnodi ym mis Mawrth 2021; dyma’r flwyddyn gyflawni gyntaf, gan gynnwys cyfarfod cyntaf y Fforwm Gweinidogion Iwerddon-Cymru a gynhaliwyd yng Nghymru ym mis Hydref (gweler Atodiad A).

Cynhaliwyd y fenter “Cymru yn...” gyntaf yn 2021, gyda Chymru yn yr Almaen 2021. Roedd hyn yn edrych ar gyflawni ar draws pob agwedd ar y Strategaeth Ryngwladol (gweler Atodiad A).

Daliodd y swyddfeydd ati i weithio’n agos gyda’n partneriaid rhanbarthol ar draws Ewrop – yn enwedig Llydaw, Gwlad y Basg, Fflandrys a Baden-Württemberg. Roeddem wedi diweddaru’r Cynllun Gweithredu gyda Llydaw ac wedi ymestyn y Memorandwm Cydddealltwriaeth gyda Gwlad y Basg. Gwnaethom barhau â’n trafodaethau gyda Fflandrys a Baden-Württemberg ar Femoranda Cyd-ddealltwriaeth. Llofnodwyd cytundeb partneriaeth rhwng Techspark Wales / Tramshed Tech a Saint-Quentin-en-Yvelines (SQY) yn Ffrainc a oedd yn berthnasol i amrywiaeth o ddisgyblaethau technolegol a digidol.

Mae Cymru’n cymryd rhan mewn amrywiol rwydweithiau Ewropeaidd sy’n rhannu ein diddordebau a’n gwerthoedd ac yn darparu fforymau ar gyfer deialog a rhannu gwybodaeth. Eleni, roedd rhain wedi cynnwys y canlynol:

  • Rhwydwaith Arloesi Menter Vanguard (40 rhanbarth o 14 o wledydd Ewrop):
    • Cryfhau arloesedd cydweithredol
    • Codi proffil asedau ac arbenigedd ym maes ymchwil ac arloesi yng Nghymru
    • Ymgysylltu â sefydliadau’r UE, cefnogi ein gallu i ddadansoddi effaith polisi’r UE ar Gymru
  • Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol:
    • Datganiad y Cynulliad Cyffredinol a Chynhadledd ar Ddyfodol Ewrop
    • Comisiwn Bwa'r Iwerydd ynghylch dichonoldeb Rhanbarth Macro Iwerydd
  • Rhwydweithiau iechyd Ewropeaidd fel EUREGHA, sy’n arbennig o berthnasol o ystyried COVID-19.

Ewrop yw ein marchnad allforio fwyaf o hyd, gan gynnwys yr Almaen, Ffrainc ac Iwerddon. Yn ystod 2021-22, rhoddodd pob swyddfa gymorth masnach i gwmnïau yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys teithiau masnach i Ewrop o Gymru, fel ymweliad masnach â Dulyn o dan Raglen Cwmnïau Allforio Newydd Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth, Arddangosfa Niwclear y Byd (Ffrainc) a Medica (yr Almaen).

Mae Ewrop hefyd yn rhoi llawer iawn o fewnfuddsoddiad lle mae ein ffocws sy’n gysylltiedig â buddsoddi yn cyd-fynd â’r sectorau a nodir yn y Strategaeth Ryngwladol, ynghyd â’r rheini sy’n ychwanegu gwerth go iawn at economi Cymru, gan gynnwys ynni adnewyddadwy a pheirianneg uwch mewn gwledydd lle ceir cysylltiadau cryf â Chymru. Er enghraifft, mae swyddfa Ffrainc wedi canolbwyntio ar seiber, technoleg a lledddargludyddion cyfansawdd i ddatblygu cyfleoedd masnachu a buddsoddi ac wedi defnyddio technoleg fel cyfrwng ar gyfer diplomyddiaeth gyhoeddus. Fel rhan o’r gwaith hwn, roedd presenoldeb cryf o Gymru yn y Fforwm Rhyngwladol ar Seiber yn Lille ac yn Wythnos Seiber Ewrop yn Llydaw, gyda siaradwyr o Gymru yn y digwyddiad Menywod mewn Seiber.

Roedd swyddfeydd Ewrop wedi gweithio gyda thîm Arloesi Llywodraeth Cymru ar gydweithredu rhyngwladol ym maes arloesedd a phroffil arloesi Cymru, ac roedd hyn yn cael ei ategu gan ein haelodaeth o rwydweithiau arloesi Ewropeaidd fel  Menter Vanguard, ERRIN a CRIQUE. Mae’r cydweithio wedi helpu i osod y sylfeini ar gyfer cyllid consortiwm posibl gyda chysylltiadau cryf â gweithgareddau masnachu a buddsoddi. Rydym wedi gwella ein cydweithrediad ym maes arloesedd gyda Gwlad y Basg yng nghyd-destun ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, gan ganolbwyntio ar ynni’r môr, gweithgynhyrchu uwch a gwyddorau bywyd. Mae trafodaethau ym Menter Vanguard wedi arwain at ymgysylltu manylach ag eMobil (asiantaeth e-symudedd) yn Baden-Württemberg. Mae Clwstwr yn gweithio gyda Minalogic yn Auvergne-Rhône-Alpes i hwyluso ar gyfleoedd masnach a buddsoddi sy’n canolbwyntio ar ymchwil ac arloesi.

Mae rhanddeiliaid ar draws Ewrop wedi croesawu Taith ac mae’r swyddfeydd wedi’i hyrwyddo i ystod eang o randdeiliaid sefydliadol, Aelod Wladwriaethau a rhanbarthol yr UE. Ym mis Mawrth, cynhaliodd tîm Brwsel ddigwyddiad ar Taith a pholisi symudedd addysg Ewrop, gyda 15 o banelwyr o sefydliadau symudedd Ewropeaidd.

Defnyddiodd pob swyddfa Ddydd Gŵyl Dewi i hyrwyddo Cymru. Roedd y Prif Weinidog wedi ymweld â Brwsel i gymryd rhan mewn rhaglen o ddigwyddiadau. Ym Mharis, roedd derbyniad yn neuadd breswyl Llysgennad y DU wedi dathlu cysylltiadau Cymru/Ffrainc. Roedd cinio ym Mhreswylfa Llysgennad y DU yn Nulyn, gyda rhanddeiliaid allweddol o Iwerddon, wedi dathlu cysylltiadau Cymru/Iwerddon ac roedd pob swyddfa wedi cymryd rhan yn ymgyrch Gwnewch y Pethau Bychain Llywodraeth Cymru.

Gogledd America

Yn dilyn Cymru yn yr Almaen 2021, mae rhanbarth Gogledd America wedi bod yn hyrwyddo perthynas Cymru â Chanada drwy’r ail o’n blynyddoedd thema - Cymru yng Nghanada 2022 - gyda dathliadau dwyochrog gan Uchel Gomisiwn Canada yn ei fenter Canada Goes Cymru. Mae cynlluniau ar gyfer trydydd Cais am Gynigion Cymru-Québec yn 2022, gan gynnwys mewn ymchwil a datblygu.

Yn UDA, roedd y rhanbarth wedi cefnogi’r Urdd i gefnogi’r neges heddwch yn ystod ei vymweliad ag Alabama drwy gyfarfodydd gyda phobl ddylanwadol yn y mudiad hawliau sifil. Roedd y daith yn llwyfan i dalent Cymru ac wedi galluogi’r rhanbarth i gynnal digwyddiadau ar gyfer y gymuned fusnes a Chymry ar wasgar er mwyn cryfhau’r cyswllt Alabama-Cymru ymhellach. Roedd perthynas y rhanbarth ag asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig wedi golygu bod Menywod y Cenhedloedd Unedig a Penderyn wedi hyrwyddo’r neges heddwch mewn clwb i Lysgenhadon y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r rhanbarth yn aelod gweithredol o gymdeithasau busnes fel BABA. Yng nghyswllt COP26, roedd y rhanbarth wedi cynnal digwyddiad ar y cyd ar leihau carbon gyda BABA yn Philadelphia gyda siaradwr o swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac roedd wedi hwyluso cyfarfodydd gweinidogol gyda llywodraeth Québec yn COP26.

Yn ystod 2021-22, roedd pob swyddfa wedi rhoi cymorth masnach i gwmnïau yng Nghymru, gan gynnwys cefnogi teithiau allforio rhithiol i Ganada a Dwyrain UDA a theithiau masnach i’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau a Chynhadledd Cymdeithas Niwclear Canada.

Mae sicrhau llwyddiannau o ran allforio bwyd a diod yn flaenoriaeth ac mae’r rhanbarth wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cig oen yn cael mynediad i’r farchnad yn yr Unol Daleithiau. Rydym hefyd wedi hyrwyddo cynnyrch o Gymru drwy eu harddangos yn ein digwyddiadau a gweithio gyda’r Adran Masnach Ryngwladol i gael rhagor o gynnyrch o Gymru o flaen prynwyr o Ganada drwy flychau blasu, gan gynnwys fel rhan o deithiau masnach o Gymru i Ogledd America.

Mae’r ffocws ar fuddsoddi ar draws Gogledd America yn cyd-fynd â sectorau allweddol yn y Strategaeth Ryngwladol ond gan ychwanegu blaenoriaethau sy’n benodol i wledydd gan ystyried cryfderau a chyfleoedd rhanbarthol. Yng Nghanada, mae hyn yn cynnwys y sectorau niwclear ac ynni adnewyddadwy lle ceir cysylltiadau cryf rhwng y clystyrau yng Nghymru a’r farchnad darged. Cafodd y diwydiannau creadigol eu cefnogi drwy noddi FOCUS Cymru yn SXSW, dangosiad cyntaf o ffilm Gymraeg yn Los Angeles a BreakOut West yng Nghanada.

Roedd y rhanbarth wedi bod mewn amrywiol gynadleddau eraill i dynnu sylw at Gymru fel lleoliad ar gyfer mewnfuddsoddi, gan gynnwys cynadleddau technoleg ariannol a lled-ddargludyddion cyfansawdd pwysig, cynadleddau gwyddorau bywyd allweddol, Diwrnodau Masnach y Byd, digwyddiadau uwchraddio a chyfarfodydd cynhyrchu arweiniad.

Roedd rhanbarth Gogledd America wedi gweithio gyda Phrifysgol Abertawe ar Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton. Cafodd 300m o bobl wybod am yr Uwchgynhadledd, a thrydariad am yr Uwchgynhadledd oedd y trydariad a oedd wedi cael ei “hoffi” fwyaf o holl drydariadau Llywodraeth Cymru yr wythnos honno.

Roedd y rhanbarth wedi gweithio gyda sefydliad Cymry ar wasgar i sicrhau ysgoloriaethau newydd i fyfyrwyr o Ogledd America astudio yng Nghymru. Fel rhan o Gymru yng Nghanada, mae Canada bellach yn un o wledydd blaenoriaeth Cymru Fyd-eang, sy’n golygu bod ysgoloriaethau bellach ar gael i fyfyrwyr Canada.

Roedd y rhanbarth wedi noddi Gŵyl Cymru Gogledd America ac wedi cynnal sesiynau am waith Llywodraeth Cymru yn ogystal â digwyddiadau Cymry ar Wasgar fel:

  • Derbyniad Dydd Gŵyl Dewi Cymdeithas Gymreig Philadelphia
  • Celtic Classic, yr ŵyl Geltaidd am ddim fwyaf yn UDA
  • Digwyddiadau cyn-fyfyrwyr i ddod o hyd i ragor o Gymry ar wasgar yn UDA a Chanada a gweithio gyda Phrifysgolion Cymru ar ddigwyddiadau o’r fath.

Cydweithiodd y rhanbarth â Chlwb Pêl-droed Wrecsam, S4C ac FX/Disney+ i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Los Angeles gyda Rob McElhenney yn westai anrhydeddus. Daeth cyfran sylweddol o’r gwesteion o’r diwydiannau creadigol a arweiniodd at drafodaethau am gyfleodd ar gyfer mewnfuddsoddi. Cafodd y digwyddiad sylw yn y cyfryngau yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau a dyma oedd y trydariad a gafodd ei ‘hoffi’ fwyaf yn y rhwydwaith rhyngwladol eleni (3.7k wedi ymgysylltu).

Yn Ninas Efrog Newydd, roedd digwyddiadau wedi dod â Chymry ar wasgar a busnesau ynghyd gyda cherddoriaeth Gymreig fyw. Roedd digwyddiad ar wahân wedi hyrwyddo wisgi o Gymru i 40 o lysgenhadon y Cenhedloedd Unedig. Yn Chicago, roedd dathliadau wedi dod â Chymry ar wasgar, busnesau a byd academaidd o Ganol Gorllewin yr Unol Daleithiau at ei gilydd ynghyd â dirprwyaeth o Brifysgol Caerdydd. Yn Washington DC, fel rhan o’r ymgyrch “Gwnewch y Pethau Bychain”, cafodd cacenni cri eu rhoi i randdeiliaid a chynhaliwyd brecwast gyda Chawcws Cyfeillion Cymru.

Yng Nghanada, roedd Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i gynnal lansiad wyneb yn wyneb ar gyfer y fenter Cymru yng Nghanada 2022 yn yr Uchel Gomisiwn yn Ottawa, ar ôl ei lansio’n rhithiol ym mis Ionawr oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Roedd y digwyddiadau’n codi ymwybyddiaeth o Gymru yng Nghanada ymysg y corfflu diplomyddol yn Ottawa, yn cysylltu ag unigolion allweddol ar gyfer Cymru yng Nghanada ac yn hyrwyddo cynnyrch o Gymru. Yn dilyn y digwyddiad, mae llywodraeth y DU wedi penderfynu ychwanegu un o’r cynnyrch Cymreig poblogaidd i’w ddefnyddio yn ei digwyddiadau.

Dwyrain Canol ac Asia

Mae gan y timau ar draws y Dwyrain Canol ac Asia gylch gwaith eang. Yn ystod 2021-22, maent wedi canolbwyntio ar weithgareddau sy’n amrywio o gyflawni rhaglen Llywodraeth Cymru yn y Expo’r Byd yn Dubai (gweler Atodiad A), llunio cysylltiadau addysgol cryf yn India a Tsieina a gwaith etifeddiaeth helaeth ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd 2019, a arweiniodd at lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywyddiaeth Oita yn Japan ym mis Mawrth. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn benllanw tair blynedd o waith yn Japan i ffurfioli cysylltiadau rhwng Cymru ac Oita.

Mae’r rhanbarth wedi parhau i feithrin cysylltiadau cryfach gyda gwledydd a rhanbarthau partner eleni. Mae timau ar draws y rhanbarth wedi gweithio’n uniongyrchol gyda rhanddeiliaid yng Nghymru, o brifysgolion a cholegau i grwpiau chwaraeon, grwpiau diwylliannol a rhwydweithiau busnes i hwyluso cysylltiadau rhyngwladol.

Mae'r rhanbarth wedi llunio partneriaethau newydd, gan gynnwys llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth eang gyda Llywyddiaeth Oita yn Japan ar gydweithio ar draws chwaraeon, y celfyddydau a diwylliant, y byd academaidd, twristiaeth a’r sector bwyd a diod a Memoranda Cyd-ddealltwriaeth sy’n canolbwyntio ar addysg sydd wedi cael eu llofnodi yn India a Tsieina rhwng sefydliadau academaidd.

Mae’r timau yn y Dwyrain Canol ac Asia yn dal i ganolbwyntio’n gryf ar fasnach a buddsoddi. Mae’r rhanbarth wedi darparu cymorth allforio i fusnesau Cymru ac wedi darparu gweminarau ar baratoi ar gyfer y farchnad a chymorth uniongyrchol drwy deithiau masnach ffisegol yn y sectorau gwyddorau bywyd, bwyd a diod, technoleg a seiber. Yn ystod 2021-22, roedd pob swyddfa wedi darparu cymorth masnach i gwmnïau yng Nghymru, gan gynnwys fel rhan o rith-ymweliadau â marchnadoedd allforio India a Qatar a thaith fasnach go iawn i’r Emiraethau Arabaidd Unedig/Abu Dhabi.

Yn ogystal â sicrhau bod y ffocws ar fuddsoddi yn cyd-fynd â’r Strategaeth Ryngwladol, mae blaenoriaethau sy’n benodol i wledydd yn ystyried cryfderau a chyfleoedd rhanbarthol ym maes technoleg, ynni adnewyddadwy a’r sectorau gwyddorau bywyd.

Mae’r swyddfeydd wedi darparu llawer o weithgareddau rhithiol ar-lein yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys tynnu sylw at gyfleoedd yn sector gwyddorau bywyd India. Mae hyn yn cael ei ddangos gan lwyddiant y cynhyrchydd brechlyn Indiaidd Wockhardt yn Wrecsam, cyfleoedd ynni ar y môr gydag awdurdodau porthladdoedd a’r gadwyn gyflenwi Gymreig yn Japan.

Gyda swyddfeydd yn dychwelyd i weithgareddau wyneb yn wyneb, mae’r timau wedi cynrychioli Cymru mewn arddangosfeydd sector pwysig, gan gynnwys hyrwyddo’r sector lled-ddargludyddion yn sioe flaenllaw Asia yn Tokyo a sector bwyd a diod Cymru yn Tsieina.

Mae pob swyddfa ar draws y rhanbarth wedi parhau i estyn allan ac adeiladu rhwydwaith y Cymry ar wasgar; mae timau yn Tsieina ac India wedi canolbwyntio ar gyn-fyfyrwyr o Gymru a meithrin cysylltiadau academaidd. Mae pob tîm wedi darparu gweithgareddau ffisegol i ddatblygu’r rhwydwaith Cymry ar wasgar ac, yn Dubai, roedd y tîm wedi darparu cyfres o ddigwyddiadau gan ddefnyddio ein cennad penodedig ac ymweliadau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau cysylltiadau newydd.

Mae’r sector addysg yn allweddol i farchnadoedd y Dwyrain Canol ac Asia ac mae’r rhanbarth wedi darparu cymorth uniongyrchol i lawer o brifysgolion a cholegau yng Nghymru i ddatblygu uchelgeisiau rhyngwladol o ran recriwtio myfyrwyr a chydweithio ar ymchwil. Mae’r swyddfeydd wedi cefnogi sefydliadau academaidd yng Nghymru i ddatblygu Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda phartneriaid yn Qatar, Tsieina ac India.

Mae’r tîm yn India wedi cefnogi darparu’r rhaglen cyfnewid feddygol rhwng ysgolion meddygol Cymru yng Nghaerdydd ac Abertawe a cholegau meddygol ym Mumbai; yn Tsieina roedd y rhwydwaith wedi cefnogi Caerdydd a Phrifysgol De Cymru i sicrhau cytundebau partneriaeth gyda Phrifysgol Zhengzhou, Prifysgol Technoleg Henan a Sefydliad Gwyddoniaeth ac Arloesi Luoyang.

Roedd Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i lunio cysylltiadau newydd ac ailgysylltu â busnesau a rhanddeiliaid allweddol ar draws y rhanbarth. Roedd pob swyddfa wedi gweithio’n uniongyrchol gyda Llysgenhadon a Phrif Gonswliaid y DU yn eu gwledydd perthnasol sydd wedi cefnogi a rhannu negeseuon allweddol o Gymru yn ystod y diwrnod cenedlaethol ac wedi cynnal gweithgareddau yn y preswylfeydd swyddogol. Roedd y timau yn Tsieina ac India wedi cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, o gêm o rygbi bach yn Chongqing gyda chyn-fyfyrwyr o Gymru, i ddigwyddiadau trafod gyda busnesau ym Mumbai agyda buddsoddwyr a darpar fuddsoddwyr.

Roedd y tîm yn Dubai wedi cynnal cyfres o weithgareddau a oedd wedi cael eu targedu at wahanol grwpiau yn Expo’r Byd, a oedd yn dathlu busnesau a chryfderau diwylliannol Cymru drwy berfformiadau byw ac araith gan Weinidog yr Economi a oedd yn ymweld â’r Expo fel rhan o raglen ehangach yn y Dwyrain Canol; yr ymweliad tramor cyntaf gan Weinidog ers dros ddwy flynedd.

Astudiaethau achos

Iwerddon-Cymru Cyd-ddatganiad

Ar Ddydd Gŵyl Dewi 2021, llofnododd y Prif Weinidog Ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon Cymru gyda Simon Coveney TD, Gweinidog Materion Tramor Iwerddon.

Mae hwn yn nodi ein hymrwymiad i wella cydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon rhwng nawr a 2025 a sut rydym yn bwriadu adeiladu ar hanes cryf a chadarnhaol hen gysylltiadau a dealltwriaeth ddiwylliannol ddofn.

Mae’r Datganiad yn uchelgeisiol ond yn hollbwysig gan fod Cymru’n ceisio cryfhau’r berthynas â’i chymdogion yn Ewrop ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n canolbwyntio ar chwe maes cydweithredu y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb datganoledig drostynt:

  1. Ymgysylltu Gwleidyddol a Swyddogol
  2. Yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd
  3. Masnach a Thwristiaeth
  4. Addysg ac Ymchwil
  5. Diwylliant, Iaith a Threftadaeth
  6. Cymunedau, Cymry/Gwyddelod ar Wasgar a Chwaraeon

Fforwm Gweinidogol

Un o ymrwymiadau allweddol y Datganiad yw cynnal Fforwm Gweinidogol blynyddol rhwng Cymru ac Iwerddon. Cynhaliodd y Prif Weinidog y fforwm cyntaf yng Nghaerdydd ar 22 Hydref 2022. Yn bresennol o’r Cabinet roedd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS; y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffith AS a’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters AS.

Roedd y ddirprwyaeth Weinidogol o Iwerddon wedi cael ei harwain gan y Gweinidog Coveney, a’r Gweinidog Gwladol dros Hyrwyddo Masnach a Gwasanaethau Digidol, Robert Troy TD ac roedd Gweinidog yr Amgylchedd, Hinsawdd a Chyfathrebu, Eamon Ryan TD wedi ymuno o bell.

Adferiad gwyrdd oedd thema drosfwaol y Fforwm a chafwyd trafodaethau sylweddol ynghylch:

  • Cysylltiadau dwyochrog a datblygiadau gwleidyddol mawr
  • Hyrwyddo masnach a datblygu economaidd
  • Ynni a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Roedd trafodaethau ar ynni a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ynni adnewyddadwy a’r cyfleoedd posibl ar gyfer cydweithredu. Rydym yn parhau i archwilio hyn, yn enwedig o ran datblygiad economaidd y Môr Celtaidd.

Roedd y Fforwm yn gyfle ehangach i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol fel Amgueddfa Cymru, lle croesawodd y Prif Weinidog westeion a oedd yn cynnwys aelodau o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Gan adeiladu ar amrywiaeth o waith sydd eisoes wedi cael ei wneud yn Iwerddon i hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, roedd hyn yn llwyfan i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Weinidogion Iwerddon am hynt y Ddeddf, trosolwg o flaenoriaethau eiriolaeth pobl ifanc yng Nghymru ar gyfer COP26 a thrafodaeth ar sut mae ymgysylltu â chenedlaethau’r dyfodol gan ddefnyddio’r Datganiad.

Roedd y trafodaethau ynghylch hyrwyddo masnach a datblygu economaidd yn canolbwyntio ar goridor masnach Gogledd Cymru. Ym mis Mawrth 2022, roedd swyddfa Dulyn Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â’r Guinness Enterprise Centre, yn falch o groesawu dirprwyaeth o gwmnïau o Barc Gwyddoniaeth Menai ar ymweliad masnach â Dulyn. Cafodd yr ymweliad ei ariannu drwy gronfa ddwyffordd Cymru-Iwerddon SCoRE Cymru sydd newydd gael ei sefydlu.

Edrych Ymlaen

Yn 2022-23 bydd tîm Llywodraeth Cymru yn Iwerddon yn cyflawni:

  • Ymweliad arall â Chymru gan Weinidog yr Amgylchedd, Hinsawdd a Chyfathrebu Iwerddon, Eamon Ryan TD.
  • Y gyntaf yn y gyfres o ddarlithoedd Iwerddon Cymru yn Nulyn, yn unol â’r ymrwymiad yn y cynllun gweithredu ar y cyd.
  • Cyfnewid dysgu i Iwerddon ar gyfer aelodau Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Cyfres o weithgareddau datblygu busnes ar sectorau allweddol, diwydiannau creadigol, ynni adnewyddadwy a chefnogaeth barhaus i allforwyr Newydd.
  • Cefnogaeth i’r ail Fforwm Gweinidogol yn yr hydref (yn Iwerddon)

Expo’r Byd 2020 Dubai (1 Hydref 2021 – 31 Mawrth 2022)

Drwy ei phartneriaeth swyddogol â Phafiliwn y DU yn Expo 2020 Dubai, roedd Llywodraeth Cymru yn gallu arddangos goreuon Cymru ar lwyfan byd-eang a chyfrannu at dair uchelgais Strategaeth Ryngwladol Cymru.

Roedd ein gweithgareddau yn Expo yn canolbwyntio ar feysydd lle mae Cymru’n arwain y byd, gyda chreadigrwydd, cynaliadwyedd, gwyddoniaeth a thechnoleg yn themâu trosfwaol.

Llwyddodd tîm y Dwyrain Canol i sicrhau cynrychiolaeth gref o Gymru drwy raglen y DU drwy gydol Expo, gan gyflwyno negeseuon a themâu Cymreig wedi’u teilwra ar ddiwrnodau a oedd yn canolbwyntio ar Gymru. Roedd busnesau, sefydliadau sector, arweinwyr academaidd a rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru wedi defnyddio llwyfan Expo i ddatblygu eu huchelgeisiau allgymorth a rhyngwladol. Roedd cynrychiolwyr Cymreig o’r byd academaidd a diwydiant wedi llwyddo i gymryd rhan yn rhaglen ehangach y DU.

Roedd oddeutu 1.1 miliwn o bobl wedi ymweld â Phafiliwn y DU.

Ymwelwyr allweddol o Gymru

  • Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru
  • Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Roedd yr ymweliadau hyn yn gyfle amhrisiadwy i ymgysylltu’n bersonol â rhanddeiliaid allweddol yr Emiraethau Arabaidd Unedig, gan gynnwys Gweinidog Gwladol yr Emiraethau Arabaidd Unedig dros Fasnach Dramor, Gweinidog Gwladol yr Emiraethau Arabaidd Unedig dros Faterion Ieuenctid, Gweinidog yr Emiraethau Arabaidd Unedig dros Ddatblygu’r Llywodraeth a’r Dyfodol, Cronfa Cyfoeth Sofran, MASDAR (datblygwr ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd), a’r Dubai Future Foundation.

Roedd Expo yn llwyfan i Gymru lunio cysylltiadau newydd gyda gwledydd a rhanbarthau targed a chryfhau’r cysylltiadau rhyngwladol sy’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru gyda Chanada, Iwerddon, a Baden-Württemberg drwy gysylltu a digwyddiadau a oedd yn cael eu cynnal yn eu Pafiliynau Expo perthnasol.

Rhaglen Fusnes Llywodraeth Cymru

Roedd y rhaglen yn targedu partneriaethau cydweithredol mewn ymchwil, buddsoddiad ac allforion gan gynnwys dau ddigwyddiad hybrid:

  • Roedd yr Uwchgynhadledd Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd wedi hyrwyddo’r sector yng Nghymru a’r berthynas rhwng llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant.
  • Roedd Uwchgynhadledd Technoleg Symudedd y Dyfodol yn hyrwyddo clystyrau lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru, seiberddiogelwch a thechnoleg ariannol. Roedd Gweinidog yr Economi wedi cyflwyno araith yn y digwyddiad.

Roedd gweithgareddau hyrwyddo allforio bwyd a diod yn cynnwys:

  • Arddangosfa a oedd yn cynrychioli 10 cwmni ac yn hyrwyddo gwerthoedd brand cynaliadwy Cymru.
  • Cinio wedi’i baratoi gan y Cogydd o Gymru, a’r llysgennad cig oen, Chris Roberts, dan ofal Gweinidog yr Economi, gyda chefnogaeth Hybu Cig Cymru a Lobster Pot yn hyrwyddo Cig Oen Cymru, bwyd môr, iogwrt, caws, mêl, dŵr, gwirodydd a diodydd dialcohol.

Ymweliad â Marchnadoedd Allforio:

  • Roedd naw o allforwyr o Gymru sy’n canolbwyntio ar dechnoleg wedi ymweld â’r Emiraethau Arabaidd Unedig gyda Hub 71 Abu Dhabi a Fintech Hive Dubai.

Rhaglen Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru

  • Roedd Opera Cenedlaethol Cymru wedi cynnal gweithdai gwaith maes i blant ysgol 
  • Roedd Cymry ar wasgar wedi bod mewn derbyniad rhwydweithio i ddathlu Dydd Miwsig Cymru.
  • Cafwyd perfformiadau dwyieithog gan y gantores a’r gyfansoddwraig werin o Gymru, Eve Goodman ac roedd Welsh of the West End wedi denu torfeydd ym Mhafiliwn y DU ac ar draws safle Expo.

Rhaglen Expo

  • Roedd Pafiliwn y DU wedi cynnal tri digwyddiad “World Majlis Series” a oedd yn cynnwys panelwyr o Gymru:
    • Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
    • Yr Athro Yacine Rezgui, Canolfan Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE), Prifysgol Caerdydd
    • Dr Alex George, Llysgennad Iechyd Meddwl Ieuenctid y DU
  • Cafodd yr opera Emirataidd gyntaf, “Al Wasl”, a gomisiynwyd gan Expo, ei gynhyrchu a'i berfformio ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru

Cyfryngau Cymdeithasol

Roedd dilynwyr LinkedIn Cymru yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica wedi cynyddu 212% ac roedd dilynwyr Twitter @Walesinmena wedi cynyddu 17%.

LinkedIn
  • Ymgysylltu 5.8k
  • Cliciau ar Dudalen 25k
  • Cyrhaeddiad Tudalennau 115k
  • Sawl gwaith roedd postiadau yn weladwy 210k
  • Sawl gwaith roedd tudalennau’n weladwy 211k
Twitter
  • Negeseuon trydar 543
  • Ymgysylltu 2.4k
  • Traffig 2.3k

Canlyniadau

Bydd canlyniadau cyfranogiad Cymru yn Expo 2020 yn parhau ac yn cael eu gwireddu’n uniongyrchol mewn masnach ryngwladol a chyfleoedd buddsoddi posibl. Bydd llawer yn cael eu gwireddu yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf gan y sefydliadau a’r rhanddeiliaid yng Nghymru a oedd yn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol a llunio cysylltiadau newydd.

Yn ogystal â chodi proffil Cymru a hyrwyddo Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fydeang, mae dau ganlyniad mawr yn cynnwys ymweliadau â Chymru ym mis Mai 2022 gan Weinidog Tramor yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Chronfa Cyfoeth Sofran. Mae’r rhain yn hanfodol i gryfhau ein cysylltiadau masnach a buddsoddi â’r Emiraethau Arabaidd Unedig.

Cymru yn yr Almaen 2021

Mae’r blynyddoedd thema ‘Cymru yn...’ wedi’u cynllunio i gryfhau’r berthynas rhwng Cymru a’r wlad bartner a defnyddio’r themâu a nodir yn y Strategaeth Ryngwladol i roi ffocws strategol i’n gweithgareddau. Maent yn ymwneud ag adeiladu cysylltiadau.

Cymru yn yr Almaen 2021 oedd y cyntaf o’n blynyddoedd thema. Cafodd llawer o’r gweithgareddau eu cyflawni o dan gyfyngiadau COVID-19 llym, naill ai yng Nghymru neu yn yr Almaen, gyda llawer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn symud i blatfform rhithwir.

Codi Proffil Cymru

Cafodd y gweithgareddau diplomyddiaeth gyhoeddus canlynol eu cynnal yn ystod y flwyddyn:

  • Seminar deuddydd o hyd ar Lenyddiaeth Cymru ar iaith ac amrywiaeth a drefnwyd gan British Council Cymru/Germany, Llenyddiaeth Cymru a Literaturhaus Stuttgart
  • Partneriaeth newydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru gyda British Council Germany – Fonds Soziokultur – sy’n cefnogi prosiectau celfyddydau cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig
  • Roedd Amgueddfa Cymru wedi ymweld â Berlin a llunio partneriaeth newydd â’r Amgueddfa Hanes Genedlaethol a Fforwm Humboldt.
  • Roedd Cynghrair Prifysgol Caerdydd/Bremen wedi cynnal tri digwyddiad
  • Cyfnewidfa theatr, llenyddiaeth a cherddoriaeth ar-lein Osnabrück a Llenyddiaeth Cymru
  • Pedwar digwyddiad cymunedol a Chymry ar wasgar ar-lein:
    • Digwyddiad Lansio Cymuned yr Almaen yng Nghymru
    • Cymry ar Wasgar yn yr Almaen
    • Sesiwn Goginio bwyd a diod o Gymru
    • Taith Werdd drwy Gymru

At ei gilydd, cawsom dros 40,000 o gysylltiadau, gan gynnwys cysylltiadau o’r 26 o drefi yng Nghymru sydd wedi'u gefeillio a threfi yn yr Almaen.

Masnach a buddsoddi

Roedd y fenter yn llwyfan ar gyfer datblygu cysylltiadau economaidd:

  • Perthynas newydd gyda 18 cwmni o’r Almaen a 15 sydd â gweithrediadau yng Nghymru ac ychwanegu gwerth ychwanegol drwy frocera perthnasoedd eraill yng Nghymru.
  • Ymgyrch ddigidol i gynhyrchu arweiniad i dargedu sectorau busnes allweddol fel seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a bwyd a diod. Cafodd hyn ei ategu gan ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus a gyrhaeddodd dros 1,050,000 o gysylltiadau.
  • Roedd ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus lled-ddargludyddion cyfansawdd digidol wedi cyrraedd dros 1,760,000 o gysylltiadau, roedd yr ymgyrch gymdeithasol wedi cyrraedd 385,000 o gysylltiadau, 120,300 o ymgysylltiadau.
  • Cefnogi sefydlu a lansio Siambr Fasnach Prydain yng Nghynghrair newydd CymruCanolbarth yr Almaen.
  • Cefnogi 56 o gwmnïau o Gymru sy’n dymuno allforio i’r Almaen.
  • Hwyluso 14 o ymweliadau cyfnewid rhwydwaith clwstwr rhwng Cymru a’r Almaen.
  • Roedd Clwstwr Creadigol wedi ymrwymo i bartneriaeth gyda’r asiantaeth greadigol, MFG Baden-Württemberg.

Cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Roedd y flwyddyn thema hefyd yn dangos ymrwymiad Cymru i gyfrifoldeb byd-eang:

  • Roedd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi cwrdd ag UK-German Connection. Trafodaethau ynghylch cyfnewidfa ieuenctid gyda Wales Democracy Box a Chynghorwyr Ieuenctid B-W yn 2022.
  • Presenoldeb Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghynhadledd One Young World.
  • Ffilmio Arweinydd Ifanc Cenedlaethau’r Dyfodol gyda Llysgennad y DU i’r Almaen, gan drafod newid hinsawdd ar gyfer ymgyrch cyn-COP26/One Young World yr Almaen. Cafodd y ffilm ei hyrwyddo’n ddigidol gydag ymgyrch gan FCDO ar Google/rwydweithiau cymdeithasol yn cael effaith ehangach.
  • Cyflwyno’r Academi Heddwch i Sefydliad Ymchwil Heddwch yr Almaen a Thref Heddwch yr Almaen Osnabrück. 
  • Cysylltu’r Urdd ag UK-German Connection a hyrwyddodd ei neges heddwch flynyddol.

Perthynas Ranbarthol â Baden-Württemberg

Cynhaliwyd cyfarfodydd drwy gydol y flwyddyn rhwng Gweinidogion Cymru, Swyddfa Canghellor y Wladwriaeth/Gweinyddiaethau Baden-Württemberg. Y fenter oedd y platfform ar gyfer trafodaethau ar gyfer Cyd-ddatganiad rhwng Cymru a Baden-Württemberg i sôn am feysydd fel:

  • cysylltiadau gwleidyddol
  • masnach ac entrepreneuriaeth
  • gwyddoniaeth ac arloesedd
  • symudedd dinesig/ieuenctid
  • hinsawdd a chynaliadwyedd

Perthynas â Llysgenhadaeth yr Almaen

Gwnaethom gryfhau ein perthynas â Llysgenhadaeth yr Almaen drwy gyfres o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Ymweliadau rhithiol ac ymweliadau go iawn â Chymru gan Lysgennad yr Almaen yn y DU.
  • Cysylltiadau newydd gydag asiantaethau dwyochrog fel yr UK-German Connection (symudedd ieuenctid).
  • Trafodaethau ynghylch Taith.
  • Cyflwyniadau i’r Urdd a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

O ganlyniad uniongyrchol i fenter Cymru yn yr Almaen 2021, mae Llysgenhadaeth yr Almaen wedi ymrwymo i lansio ‘Ffair Recriwtio’r Almaen yn y DU’ yng Nghymru yn 2022 – y tro cyntaf i’r prosiect gael ei gynnal y tu allan i Lundain ers ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl.