RPW Ar-lein - arweiniad i asiantau ac undebau ffermio: tudalen hafan
Canllawiau manwl i asiantau ac undebau ffermio ar sut i ddefnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Tudalen hafan asiant
Pan fyddwch chi'n mewngofnodi i'ch cyfrif RPW Ar-lein am y tro cyntaf, bydd y Sgrin Dewiswch y Cwsmer yn cael ei chyflwyno i chi. Ar ochr dde'r dudalen, cliciwch y botwm glas Hafan Asiant.
Tudalen hafan
Bydd gan eich bar dewislen gwyrdd opsiynau i chi i'w dewis o gwymplen fel y gallwch weld neu wneud newidiadau i'ch manylion.
Sylwch: fod yr opsiynau a ddangosir a'r gallu i ddiwygio ardaloedd yn y bar hwn yn dibynnu ar lefel y mynediad a roddir i chi gan weinyddwr y CRN.
- Hafan –
- Bydd yr Hafan yn ymddangos.
- Manylion CRN
- Manylion y Cwsmer
- Manylion Cyffredinol – Gweld a Diwygio Manylion Busnes.
- Cyfeiriadau – Gweld a Diwygio Cyfeiriadau sy'n ymwneud â'r Busnes.
- Rheoli Unigolion
- Diwygio a gweld manylion yr holl unigolion sy'n gysylltiedig â'r busnes.
- Dewisiadau Ar-lein - Gweld a diwygio sut rydych chi'n derbyn hysbysiad am negeseuon newydd.
- Rheoli Cwsmeriaid – Gweld a diwygio Trydydd Partïon sy'n cael gweithredu ar ran y busnes.
- Cymeradwywyd - Gweld y cwsmeriaid rydych chi wedi'u cymeradwyo i weithredu ar eu rhan.
- Aros am Gymeradwyaeth Asiant/Undeb Ffermio – Derbyn neu Wrthod cwsmeriaid sydd wedi gofyn i chi weithredu ar eu rhan.
- Gwrthodwyd gan Asiant/Undeb Ffermio – Gweld yr holl gwsmeriaid y mae'r busnes wedi gwrthod eu cynrychioli.
- Gwrthodwyd gan y Cwsmer – Gweld yr holl gwsmeriaid sydd wedi gwrthod cael eu cynrychioli gan y busnes.
- Gohebiaeth
- Dogfennau – Gweld unrhyw ddogfennau sydd wedi'u lanlwytho neu eu lawrlwytho.
- Negeseuon – Gweld unrhyw negeseuon a anfonwyd neu a dderbyniwyd.
Bydd eich Hafan hefyd yn dangos ardal Hysbysu mewn Glas i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Ar frig yr 'Hafan’ byddwch yn gallu gweld y dogfennau diweddaraf a anfonwyd atoch (Dogfennau RPW) a'r dogfennau diweddaraf rydych chi wedi'u cyflwyno i RPW (Eich Dogfennau).
Ar y dde ar waelod y sgrin mae adran gyda dolenni at wasanaethau eraill sydd ar gael. Gweler crynodeb o'r rhestr gwefannau hyn isod:
- BCMS - https://secure.services.defra.gov.uk/wps/portal/ctso
- Gwybodaeth am ffermio a chynlluniau - https://www.llyw.cymru/grantiau-a-thaliadau-gwledig
- TB mewn gwartheg - https://www.llyw.cymru/tb-gwartheg
- Symudiadau ac adnabod anifeiliaid fferm - https://www.llyw.cymru/cadw-anifeiliaid
- Cyswllt Ffermio - https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy
- Swyddfeydd Llywodraeth Cymru - https://www.llyw.cymru/swyddfeydd-llywodraeth-cymru
- Grantiau'r Môr a Physgodfeydd - https://www.llyw.cymru/grantiaur-mor-a-physgodfeydd
- EID Cymru - https://www.eidcymru.org/cy
- Gwybodaeth am ffermio a chynlluniau - https://www.llyw.cymru/grantiau-a-thaliadau-gwledig
