RPW Ar-lein: canllaw i gwsmeriaid: sut i ddefnyddio eich hafan
Canllawiau manwl i gwsmeriaid ar sut i ddefnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
RPW Ar-lein
Hafan
Ar ol i chi gadarnhau eich bod wedi darllen ac wedi derbyn y Telerau ac Amodau, gosodwch eich Meysydd Busnes. Rydych chi nawr wedi mewngofnodi i'ch Cyfrif RPW Ar-lein. Y dudalen gyntaf y byddwch chi'n ei gweld yw eich tudalen gartref.
Bydd y faner groeso yn ymddangos:
Ar y gornel chwith uchaf:
- Enw'r person sydd wedi mewngofnodi; neu
- Cyfeirnod Cwsmer (CRN)
- Teitl Masnachu'r busnes
Ar y gornel dde uchaf:
- Eich proffil
a) Cyrchu neu greu CRN
b) Newid manylion mewngofnodi
- Iaith (Bydd y dudalen yn ymddangos yn yr iaith a nodwyd gennych wrth gofrestru.) Fodd bynnag, mae gennych yr opsiwn yma i newid rhwng ieithoedd wrth ddefnyddio RPW Ar-lein.
Noder: Os ydych chi'n newid yr iaith yma, ni fydd yn newid yr iaith a ffefrir gennych chi a nodwyd wrth gofrestru, ond os ydych chi'n nodi tudalen neu'n ychwanegu'r dudalen at ffefrynnau eich porwr, bydd y dudalen yn ymddangos yn yr iaith yr oeddech chi'n ei defnyddio ar yr adeg y gwnaethoch gadw'r dudalen) - Gadael
Bydd gan eich Bar Dewislen Gwyrdd opsiynau i chi i'w dewis o gwymplen fel y gallwch weld neu wneud newidiadau i'ch manylion.
Sylwch: fod yr opsiynau a ddangosir a'r gallu i ddiwygio ardaloedd yn y bar hwn yn dibynnu ar lefel y mynediad a roddir i chi gan weinyddwr y CRN.
- Cartref –
a. Bydd y Dudalen Gartref yn ymddangos. - Manylion fy CRN
a. Manylion y Cwsmer
i. Manylion Cyffredinol – Gweld a Diwygio Manylion Busnes.
ii. Cyfeiriadau – Gweld a Diwygio Cyfeiriadau sy'n ymwneud â'r Busnes.
iii. Meysydd Busnes – Gweld a diwygio Meysydd Busnes.
b. Rheoli Unigolion
i. Diwygio a gweld manylion yr holl unigolion sy'n gysylltiedig â'r busnes.
c. Hawliau – Rheoli a Gweld Hawliau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol sy'n ymwneud â'r busnes.
i. Gwybodaeth Ariannol - Gweld Manylion Banc sy'n ymwneud â'r busnes.
ii. Dewisiadau Ar-lein - Gweld a diwygio sut rydych chi'n derbyn hysbysiad am negeseuon newydd.
d. Rheoli Asiantwyr/ Undebau Ffermio – Gweld a diwygio Trydydd Partïon sy'n gallu gweithredu ar ran y busnes. - Tir
a. Mapiau sy'n ymwneud â rheoli tir, rheoli CPH a rheoli unrhyw hawliadau a wneir. - Gohebiaeth
a. Dogfennau – Gweld unrhyw ddogfennau sydd wedi'u lanlwytho neu eu lawrlwytho.
b. Negeseuon – Gweld unrhyw negeseuon a anfonwyd neu a dderbyniwyd. - Ffurflenni
a. Gweld, llenwi a chyflwyno ffurflenni yn electronig. - Contractau a Grantiau Bach
a. Contractau – Adolygu, cwblhau a chyflwyno contractau.
b. Grantiau Bach – Cwblhau datganiadau o ddiddordeb ar gyfer hawliadau Grantiau Bach.
c. Lanlwytho Dogfennau – Lanlwythwch ffotograffau wedi'u geo-dagio i gefnogi a hawlio grantiau neu gontractau. - Cynlluniau Coetir – Gweld a rheoli eich Cynlluniau Coetir.
Bydd eich tudalen Cartref hefyd yn dangos ardal Hysbysu mewn Glas i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Ar frig y 'Tudalen Gartref' byddwch yn gallu gweld y dogfennau diweddaraf a anfonwyd atoch (Dogfennau RPW) a'r dogfennau diweddaraf rydych chi wedi'u cyflwyno i RPW (Eich Dogfennau).
O dan yr adran hon mae'r gallu i Gofrestru gyda Cyswllt Ffermio (mae cael mynediad i'r adran hon yn dibynnu ar eich rôl o fewn y busnes).
Mae cornel chwith isaf y sgrin yn cynnwys adran gyda dolenni i'r ffurflenni mwyaf poblogaidd.
Mae gwaelod y sgrin ar y chwith yn cynnwys adran gyda dolenni i wasanaethau eraill sydd ar gael. Gweler crynodeb o'r rhestr gwefannau hyn isod:
- BCMS - https://secure.services.defra.gov.uk/wps/portal/ctso
- Gwybodaeth am ffermio a chynlluniau - https://www.llyw.cymru/grantiau-a-thaliadau-gwledig
- TB mewn gwartheg - TB gwartheg | LLYW.CYMRU
- Symudiadau ac adnabod anifeiliaid fferm - Cadw anifeiliaid
- Cyswllt Ffermio - https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy
- Swyddfeydd Llywodraeth Cymru - https://www.llyw.cymru/swyddfeydd-llywodraeth-cymru
- Grantiau'r Môr a Physgodfeydd - https://www.llyw.cymru/grantiaur-mor-a-physgodfeydd
- EID Cymru - https://www.eidcymru.org/cy
