Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Cefndir 

Rhaid i bob cartref cymdeithasol presennol gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol ar landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru. Diben SATC yw gwella ansawdd cartrefi cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wella safon tai cymdeithasol presennol yng Nghymru drwy bennu Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) heriol y mae'n rhaid i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru ei chyrraedd. 

Safon sy'n canolbwyntio ar y tenant yw SATC, y bwriedir iddi uwchraddio asedau a sicrhau tai o ansawdd uwch, gan wella canlyniadau iechyd, llesiant ac addysg pobl. Mae SATC hefyd yn nodi safonau sy'n ymwneud â datgarboneiddio er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon o'r stoc dai yng Nghymru a chyfrannu at gyflawni nodau hinsawdd y llywodraeth. 

Mae safon bresennol SATC yn bodoli ers 2002 ac yn ystod y cyfnod hwnnw llwyddwyd i sicrhau bod yr holl gartrefi cymdeithasol yng Nghymru yn cyrraedd y safon ar 31 Mawrth 2022. Mae'r safon bellach wedi'i diweddaru er mwyn adlewyrchu disgwyliadau modern o ran tai, uwchraddio asedau ymhellach a helpu i ddatgarboneiddio'r stoc dai yng Nghymru, sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni uchelgeisiau ar gyfer yr hinsawdd. 

At hynny, gwnaeth yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy (2019) 22 o argymhellion allweddol gan gynnwys y “Dylai sefydliadau Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr ac awdurdodau lleol orfod dangos bod rhaglen garlam ar gyfer datgarboneiddio tai sy'n bodoli eisoes ar waith yn gyfnewid am ymrwymiad parhaus i Daliadau Gwaddoli a'r Lwfans Atgyweiriadau Mawr”.

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi safon newydd a elwir yn “Safon Ansawdd Tai Cymru 2023” mewn ymateb i argymhellion o'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy, sy'n ymdrin â'r argymhelliad hwn. 

Wrth baratoi'r safon newydd, rhoddwyd ystyriaeth i gymhwyso'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel a ganlyn.

Hirdymor

Mae Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol 2021, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol y dyfodol ar gyfer Cymru. Bydd y safon newydd arfaethedig yn effeithio ar y rhan fwyaf o chwe thema'r adroddiad.

Rhagamcenir y bydd twf y boblogaeth yng Nghymru yn cynyddu dros yr 20 mlynedd nesaf gan roi mwy o bwysau ar y stoc dai bresennol. Parodd rhaglen SATC 1 18 mlynedd ac, ym mis Gorffennaf 2021, cafodd effaith SATC ei gwerthuso'n annibynnol yn y Gwerthusiad crynodol o Safon Ansawdd Tai Cymru. Pwysleisiodd y canfyddiadau bwysigrwydd arddel safbwynt hirdymor a phennu polisïau i uwchraddio'r stoc dai a oedd yn darparu ar gyfer buddsoddi hirdymor gan landlordiaid. 

Nododd yr adroddiad mai safon Cymru oedd yr un fwyaf heriol o blith holl safonau cartrefi cymdeithasol presennol y DU ac mai lefelau cydymffurfiaeth Cymru â'r safon yw'r rhai uchaf ymhlith pedair gwlad y DU. Nododd yr effaith gadarnhaol y mae SATC wedi'i chael ar ganlyniadau iechyd ac addysg ehangach, ac ar leihau tlodi mewn rhai o'r cymunedau sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Gwnaeth yr adroddiad annibynnol argymhellion hefyd i godi'r safon ymhellach, drwy ystyried rôl lloriau, band eang, nodweddion teithio llesol ac ailgylchu. Mae'r safon newydd yn ymdrin â'r pryderon hyn. 

Mae effeithiau argyfwng COVID-19 wedi rhoi mwy o bwyslais ar bwysigrwydd safonau gofod ar gyfer gweithio gartref ac anghenion teuluol cysylltiedig, yn ogystal â mannau awyr agored diogel. Mae adnewyddu cartrefi er mwyn sicrhau galw hirdymor am gartrefi cymdeithasol, drwy sicrhau eu bod yn bodloni'r disgwyliadau o ran ffyrdd modern o fyw, yn allweddol.

Atal

Cydnabyddir yn eang y bydd darparu tai o ansawdd da yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant pobl sy'n byw yn eu cartrefi. Bydd safon newydd SATC yn adeiladu ar waith a wnaed ar y safon flaenorol a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Codi safon diogelwch adeiladau yn dilyn trychineb Grenfell, gan sicrhau bod cartrefi ac ardaloedd cymunol yn cyrraedd safonau diogelwch modern.
  • Bydd gallu byw'n ddiogel mewn cartrefi drwy gynyddu gofyniad cynllun HHSRS i leihau nifer yr achosion o lithro, baglu a chwympo i'r band uchaf (band j) yn gwella diogelwch tenantiaid yn eu cartrefi.
  • Creu diogelwch i breswylwyr yn eu cartrefi eu hunain, gyda'r safon newydd yn mynnu bod adeiladau yn cael achrediad diogelu drwy ddylunio – gan atal troseddu drwy waith dylunio, gwneud cartrefi yn fwy diogel a chreu lleoedd diogel i fyw ynddynt.

Nod y safon newydd yw lliniaru effeithiau amgylcheddol drwy leihau allyriadau carbon o gartrefi.

Integreiddio

Mae datgarboneiddio tai yng Nghymru yn dal i fod yn bolisi allweddol i Lywodraeth Cymru a bydd SATC 2023 yn galluogi canlyniadau eraill drwy integreiddio ar draws meysydd polisi'r llywodraeth. Mae ymrwymiadau Cymru o ran Sero Net yn sicrhau bod buddsoddiad mewn tai yn cefnogi economi Cymru o ran cynnal a chefnogi swyddi yn y diwydiant adeiladu, yn ogystal â'r gadwyn gyflenwi. Mae hyn yn cyfrannu at yr agenda “trechu tlodi” o ran cynnig cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Mae prosesau caffael contractau yn sicrhau y gall ein buddsoddiad barhau yng Nghymru ac y gellir cyflwyno'r manteision mwyaf posibl i'n cymunedau. Dylai swyddi a grëir gan ddatblygiadau tai ddarparu cyflogaeth i lawer o'r bobl hynny sy'n ddi-waith yn y gweithlu adeiladu gan gael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu llesiant meddyliol a chorfforol (mae effeithiau bod yn ddi-waith ar iechyd wedi'u dogfennu'n eang), gan leihau gwariant ar fudd-daliadau, helpu i fynd i'r afael â digartrefedd a chynyddu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant.

Mae'r safon newydd yn ategu ymrwymiad allweddol Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio tai yng Nghymru er mwyn cyflawni targedau hinsawdd cyfreithiol gyfrwymol yn 2050, gan sicrhau, ar yr un pryd, y gall aelwydydd fforddio i wresogi eu cartrefi a chael eu codi allan o dlodi tanwydd. Mae'r safon newydd wedi'i drafftio yn ysbryd Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi, gan roi sylw dyladwy i'r strategaeth genedlaethol ac ymrwymiadau “Symud Cymru Ymlaen” sy'n nodi llwyfan ar gyfer darparu cartrefi ynni effeithlon o ansawdd uchel ar gyfer y dyfodol.

Cydweithio a Chynnwys

Yn 2020, cynhaliwyd cyfres o grwpiau ffocws gyda landlordiaid cymdeithasol er mwyn casglu barn ar SATC a phrofiadau o SATC. Yn 2021, cynhaliwyd arolwg annibynnol o denantiaid a oedd yn gofyn iddynt roi eu hadborth ar effaith y safon ar eu cartrefi a'u bywydau. 

Comisiynwyd gwerthusiad crynodol annibynnol ym mis Gorffennaf 2021, a edrychodd ar effaith safon gyntaf SATC ac a wnaeth argymhellion ar gyfer y fersiwn ddiwygiedig. Roedd yr ymchwil hon yn cynnwys cydweithio â landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid. 

Bu system gyllido'r Lwfans Atgyweiriadau Mawr a Thaliadau Gwaddoli yn destun craffu gan banel yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol yn 2019. Roedd y panel yn cynnwys croestoriad o randdeiliaid a wnaeth sawl argymhelliad ar gyfer y safon newydd. 

Comisiynwyd RH Environmental Limited yn 2021 i roi cyngor technegol annibynnol ar y safon newydd ac roedd ei waith yn cynnwys ymgysylltu â thimau technegol landlordiaid cymdeithasol er mwyn llunio safon ddrafft newydd. 

Cafodd drafft cyntaf y safon newydd ei brofi ymhlith aelodau Grŵp Gorchwyl a Gorffen SATC a oedd yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Tai Cymunedol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS) a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Cafodd yr un drafft cyntaf ei brofi gydag amrywiaeth o uwch-reolwyr yn fewnol yn Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag ymarferwyr a oedd yn landlordiaid cymdeithasol a phrif swyddogion gweithredol Cymdeithasau Tai ledled Cymru.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer SATC yn 2022. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y dyfodol wrth inni symud ymlaen i gam gweithredu'r safon newydd. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid gan gynnwys landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid er mwyn deall y rhwystrau posibl i weithredu'r safon newydd a gweld sut y byddant yn ei chyrraedd yn y dyfodol. 

Effaith

Tai yw conglfaen bywydau pobl ac mae cartrefi cymdeithasol o ansawdd uchel yn cael effaith ar aelwydydd a chymunedau sy'n fwy na dim ond y buddsoddiad mewn cartrefi. I grynhoi, mae tai gwell yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol o ran iechyd ac addysg yn ogystal â swyddi a chyfleoedd cyflogaeth, ac i sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. 

Roedd landlordiaid cymdeithasol wedi cyrraedd y safon ansawdd tai gyntaf ar gyfer cartrefi presennol ar ôl iddi fod ar waith am 18 mlynedd. Mae disgwyliadau o ran tai wedi newid, yn bennaf am fod y pandemig byd-eang wedi newid y ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teimlo am eu cartref. Mae prisiau ynni cynyddol sydd i'w priodoli i ddigwyddiadau ar lwyfan y byd, hefyd yn golygu mai cynhesrwydd fforddiadwy sydd flaenaf ym meddyliau aelwydydd. Bwriedir i safon newydd SATC liniaru effaith y digwyddiadau byd-eang hyn. Mae Rhan 3 yn rhoi arweiniad clir ynglŷn â'r safon sydd ei hangen ar gyfer datgarboneiddio cartrefi a darparu cartrefi cynnes sy'n fforddiadwy i'w gwresogi.

Roedd cefnogaeth eang o blaid darparu fersiwn ddiwygiedig o SATC yn y sector Tai Cymdeithasol.

Un o argymhellion allweddol yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy yw y dylai Llywodraeth Cymru bennu nod hirdymor i gael yr un safon ar gyfer pob cartref waeth beth fo'r ddeiliadaeth. Dros amser, rhagwelir y bydd SATC yn gymwys i fathau eraill o dai a deiliadaethau tai eraill, a chaiff hyn ei adolygu'n rheolaidd.

Costau ac Arbedion

Mae'r safon hirdymor newydd hon yn feiddgar ac yn uchelgeisiol a disgwylir i landlordiaid cymdeithasol weithio tuag at gyflawni pob elfen ohoni – er mwyn adlewyrchu disgwyliadau modern o ran cartrefi a mynd i'r afael ag allyriadau carbon yn unol â Strategaeth Sero Net Llywodraeth Cymru. Mae angen inni dderbyn nad yw'r costau sy'n gysylltiedig ag adnewyddu tai yn debygol o leihau, wrth i'r rôl y mae tai yn ei chwarae ym mywydau pobl gynyddu. Rhagwelir y bydd costau sylweddol yn gysylltiedig â sicrhau bod y stoc tai cymdeithasol bresennol yn cyrraedd y safon newydd hon. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector i nodi ffynonellau cyllid er mwyn helpu i gyflawni hyn. 

Bu dyraniad cyllidebol hirdymor i gyrraedd y safon ar gael ar gyfer sefydliadau Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr ac Awdurdodau Lleol ac, ar y cyfan, mae'r swm hwn yn cyfateb i tua 30% o gostau'r rhaglen gyda landlordiaid yn cyllido'r 65% sy'n weddill o'u trefniadau cyllido eu hunain.

Cynhelir adolygiad o gyllid unwaith y bydd y safon newydd wedi'i chyhoeddi. Ni phenderfynwyd eto ar y trefniadau cyllido ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, yn y cyfamser, mae'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio wedi neilltuo £250m dros dymor y llywodraeth hon er mwyn ystyried y posibilrwydd o ôl-osod cartrefi i safonau carbon isel, yn unol â Rhan 3: y targedau ar gyfer cynhesrwydd fforddiadwy a'r effaith amgylcheddol leiaf posibl fel rhan o SATC 2023.

Gan gydnabod, er bod costau uwch yn gysylltiedig â gwella ansawdd tai, y gallai hyn, yn ei dro, sicrhau arbedion cost posibl e.e. bydd landlordiaid yn darparu cartrefi sy'n rhatach i'w gwresogi i denantiaid gan eu galluogi i gynnal tymheredd cyfforddus na fydd yn diraddio ffabrig mewnol y tŷ (h.y. atal problemau llwydni a lleithder). Gallai hyn ddarparu cyllideb ychwanegol i denantiaid a'i gwneud yn llai tebygol y byddant yn mynd i ôl-ddyledion rhent, a ddylai helpu i wella llif arian parod landlordiaid cymdeithasol er mwyn gallu gwella ansawdd a ffabrig adeiladau ymhellach. Felly, gallai leihau costau cynnal a chadw parhaus yn y dyfodol.

Yn y byrdymor, gallai'r costau sy'n gysylltiedig ag ôl-osod cartrefi mewn ffyrdd carbon isel newydd gynyddu'r gost fesul cartref wrth i gadwyni cyflenwi yng Nghymru dyfu ac addasu i gyfleoedd a gynigir yn sgil adferiad economaidd gwyrdd ar ôl y pandemig. Mae rhaglenni llywodraethu bob amser wedi rhagweld ac wedi ystyried y bydd costau uwch yn gysylltiedig â safonau uwch. 

Mecanwaith

Ni chynigir unrhyw ddeddfwriaeth newydd. Mae SATC yn safon gyfreithiol gyfrwymol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi pennu'r safonau y mae'n ofynnol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu cyrraedd (Y Safonau Rheoleiddiol) o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996 (Deddf 1996). Rhaid i bob landlord cymdeithasol cofrestredig gydymffurfio â SATC 2023, rheolau a chanllawiau. Mae'r rheolau a nodir yn unol ag adran 33A (2A) o Ddeddf 1996 a chyhoeddir y canllawiau o dan adran 33B (1) (a) a (b).

Rhaid i Awdurdodau Lleol gydymffurfio â'r safon yn unol ag adran 111 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Deddf 2014). Rhaid i bob Awdurdod Tai Lleol yng Nghymru gydymffurfio â SATC 2023, rheolau a chanllawiau. Mae'r rheolau a nodir yn unol ag adran 111 (3) (a) a (b) o Ddeddf 2014. 

Ym mis Hydref 2023, lansiodd Julie James, sef y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, y Safon Ansawdd Tai newydd i Gymru, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024. 

Casgliad

Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi helpu i'w ddatblygu?

Mae SATC 2203 wedi datblygu'n barhaus ers yr ymgynghoriad llawn ym mis Mai 2022 ac mae wedi cynnwys ymgynghori'n helaeth â rhanddeiliaid hyd at yr adeg y cyhoeddwyd y safon newydd ym mis Ebrill 2024.

Rydym wedi ein bodloni bod y cynigion yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gynnwys pobl, gan gynnwys rhieni sy'n cynrychioli plant, pobl â nodweddion gwarchodedig a phob unigolyn arall y gallai'r cynigion effeithio arno.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol? 

Mae SATC 2023 wedi disodli'r SATC gyntaf a gyhoeddwyd yn 2002. Mae'r gofynion yn disgwyl cartrefi o ansawdd uchel – rhaid i gartrefi cymdeithasol fod yn ddiogel, mewn cyflwr da a chefnogi cysur a llesiant, yn ogystal â bod yn ynni effeithlon ac yn garbon isel.

Mae'r safon newydd yn ategu ymrwymiad allweddol Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio cartrefi yn ystod tymor y llywodraeth hon, drwy sicrhau cartrefi cymdeithasol carbon isel o ansawdd uchel, cyn ymestyn yr ymrwymiad i ddatgarboneiddio i gynnwys deiliadaethau eraill. Datblygwyd y safon newydd yn ysbryd “Ffyniant i Bawb”, gan roi sylw dyladwy i'r strategaeth genedlaethol ac ymrwymiadau “Symud Cymru Ymlaen” sy'n nodi llwyfan ar gyfer darparu cartrefi o ansawdd da ar gyfer y dyfodol.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: 

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu,
  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae ôl troed carbon stoc dai Cymru yn destun pryder am fod y 1.4 miliwn o gartrefi yn gyfrifol am tua 25% o'r allyriadau carbon bob blwyddyn. Bydd safon newydd SATC yn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at nodweddion cartrefi sy'n arwain at anghydraddoldeb cymdeithasol ac anghyfiawnder, megis argaeledd gwael band eang sy'n cyfyngu ar swyddi lle y gellir gweithio cartref neu ar gyfleoedd addysgol ar gyfer dysgu gartref. 

Polisi gwrthdlodi yw SATC yn ei hanfod, sy'n defnyddio'r gwaith o uwchraddio asedau ffisegol i wella bywydau tenantiaid drwy ei wneud yn ofynnol i ddarparu lloriau a gwres fforddiadwy, yn ogystal â sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i gysylltedd digidol a hyrwyddo diogelwch i breswylwyr yn eu cartrefi eu hunain.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben? 

Caiff y safon newydd ei hadolygu'n rheolaidd mewn ymateb i newidiadau mewn polisi, yn enwedig y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol newydd, ac er mwyn ystyried adborth o adolygiadau ansawdd tai ar gyfer prosiectau a ariennir gan grantiau. Bydd y dyddiad adolygu arfaethedig nesaf ar gyfer cynhesrwydd fforddiadwy ac elfennau amgylcheddol yn 2027, er mwyn adlewyrchu newidiadau i amgylchedd gweithredu dynamig sy'n newid yn gyflym ar gyfer datgarboneiddio cartrefi. Bydd swyddogion yn goruchwylio'r rhaglen yn ofalus, gyda chapasiti monitro'r tîm yn cael ei gynyddu.