Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r ystadegau hyn?

Mae'r ystadegau hyn yn darparu gwybodaeth gryno ar nifer yr anheddau tai cymdeithasol sy'n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys methiannau derbyniol) ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Mae'r datganiad yn cynnwys cydymffurfiaeth â'r safon a gwybodaeth am gydymffurfiaeth â’r Safon yn ôl y math o gydran unigol.

Yn ogystal â'r dadansoddiad manwl a ddangosir yn y datganiad blynyddol hwn, cyhoeddir yr holl ddata ar lefel landlordiaid cymdeithasol unigol ar wefan StatsCymru.

Y cyd-destun gweithredol a pholisi

Safon Ansawdd Tai Cymru

Safon Ansawdd Tai Cymru yw ffordd Llywodraeth Cymru o fesur ansawdd tai. Cyflwynwyd y Safon yn gyntaf yn 2002, a’r bwriad yw sicrhau bod pob annedd o ansawdd da ac yn addas ar gyfer anghenion trigolion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Gosododd Llywodraeth Cymru darged i bob landlord cymdeithasol wella eu stoc tai er mwyn cyfarfod y SATC cyn gynted â phosibl, gyda'r dyddiad cau ar gyfer cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ddiwedd Rhagfyr 2020 gyda nifer fach o landlordiaid cymdeithasol yn cael estyniad i fis Rhagfyr 2021 o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Rhaid i landlordiaid cymdeithasol gynnal y SATC yn barhaus.

Er mwyn cyflawni'r safon, disgwylir i bob landlord cymdeithasol:

  • feddu ar wybodaeth gyfoes am gyflwr eu stoc, a gasglwyd drwy raglen dreigl o arolygon cyflwr stoc
  • gweithio o fewn strategaeth gynhwysfawr ar gyfer gwelliannau a chynnal a chadw wedi ei gynllunio yn seiliedig ar yr wybodaeth hon ac ystyried barn a dyheadau ei denantiaid, gyda'r nod o sicrhau bod yr holl gartrefi’n cydymffurfio â'r safon, cyn belled ag y bo'n ymarferol

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru ym mesur 41 elfen unigol yn y saith categori a ganlyn:

  1. Mewn cyflwr da
  2. Diogel a saff
  3. Wedi ei gynhesu'n ddigonol, yn defnyddio tanwydd yn effeithlon ac wedi ei insiwleiddio'n dda
  4. Yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
  5. Wedi ei reoli’n dda (ar gyfer tai rhent)
  6. Wedi ei leoli mewn amgylcheddau deniadol a diogel
  7. Cyn belled â phosibl, yn bodloni gofynion penodol yr aelwyd (e.e. anableddau penodol).

Nid yw'r wybodaeth a ddangosir yn y datganiad hwn yn cwmpasu pob un o'r 42 elfen unigol gan nad oedd yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol adrodd ar Ran 6 [troednodyn 1] Safon Ansawdd Tai Cymru (Wedi ei leoli mewn amgylcheddau deniadol a diogel) gan y barnwyd y buasai'n rhy anodd mesur hynny'n gyson. Ceir rhestr lawn o'r elfennau unigol, ac i ba gategori maen nhw'n perthyn o ran Safon Ansawdd Tai Cymru, yn Atodiad 1.

Cyhoeddwyd canllawiau diwygiedig i landlordiaid cymdeithasol yn 2008.

Mae cydymffurfiaeth lawn yn cyfeirio at anheddau lle cyflawnir y Safon yn achos pob elfen unigol.

Fodd bynnag, gall fod sefyllfaoedd lle nad yw cyrraedd y safon ar gyfer elfen unigol yn bosibl. Gall sefyllfaoedd o'r fath gynnwys cost neu amseriad y gwaith, trigolion yn dewis peidio â gwneud y gwaith neu lle mae cyfyngiadau corfforol yn atal y gwaith rhag cael ei wneud. Yn yr achosion hyn, gall y landlordiaid gofnodi un neu ragor o elfennau fel methiannau derbyniol. Pan fo annedd yn cynnwys un neu ragor o fethiannau derbyniol, ond bod yr holl elfennau eraill yn cydymffurfio, tybir bod yr annedd yn cydymffurfio yn amodol ar fethiannau derbyniol.

Unwaith mae Awdurdod Lleol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn cyrraedd 100% cydymffurfiad, maent wedi cyrraedd safon orfodol y WHQS ac yn dechrau cyfnod cynhaliaeth lle fydd unrhyw eiddo sy’n syrthio tu allan i’r cydymffurfiad yn cael ei hystyried fel bod yn cydymffurfio (gan gynnwys methiannau derbyniol).

Mae’r Strategaeth Dai Genedlaethol yn cynnwys amcan i bob aelwyd yng Nghymru gael y cyfle i fyw mewn cartrefi o ansawdd da.

Mae'r Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell a gyhoeddwyd ym mis Mai 2012 yn cynnwys y cynnig i ‘wella ansawdd cartrefi sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys gwella eu heffeithlonrwydd ynni, drwy Safon Ansawdd Tai Cymru a dulliau eraill’.

Daeth Deddf Tai (Cymru) i rym ar 17 Medi 2014. Nod y Ddeddf Tai yw  gwella safonau tai, cynyddu fforddiadwyedd, gwella ein cymunedau a helpu i atal yr anawsterau a'r diffyg cyfleoedd y mae pobl sy'n agored i niwed yn eu hwynebu’n aml.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu nod llesiant i Gymru. Mae'r rhain er mwyn sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10 (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gall gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Defnyddwyr a sut defnyddir y data

Cyflwynwyd y casgliad i fonitro'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu holl stoc.

Yn fwy cyffredinol, defnyddir yr wybodaeth ar gyfer:

  • monitro tueddiadau tai
  • datblygu polisi
  • cyngor i Weinidogion
  • llywio dadleuon yng Senedd Cymru a thu hwnt
  • proffilio daearyddol, cymariaethau a meincnodi.

Bydd nifer o ddefnyddwyr yn defnyddio'r ystadegau hyn gan gynnwys llywodraeth ganol a lleol, ymchwilwyr, academyddion a myfyrwyr.

Cryfderau a chyfyngiadau'r data

Cryfderau

  • Mae’r wybodaeth yn cael ei phrosesu a’i chyhoeddi’n aml ac mewn trefn er mwyn i ddefnyddwyr weld yr ystadegau pan maen nhw’n gyfredol ac o bennaf ddiddordeb.
  • Mae gan yr allbynnau ffocws clir ar Gymru ac maen nhw wedi cael eu datblygu i ddiwallu angen defnyddwyr mewnol ac allanol yng Nghymru.
  • Darperir ystadegau manwl drwy ein gwefan StatsCymru ar lefel awdurdod lleol.

Cyfyngiadau

  • Ar hyn o bryd mae'r Safon yn berthnasol i dai cymdeithasol yn unig. Gan hynny, nid yw'r datganiad yn darparu unrhyw wybodaeth am ansawdd neu gyflwr eiddo mewn deiliadaethau eraill, gan gynnwys anheddau sy’n eiddo i berchen-feddianwyr ac anheddau wedi eu rhentu'n breifat.
  • Nid yw'r wybodaeth a ddangosir yn y datganiad hwn yn cwmpasu pob un o'r 42 elfen unigol gan nad oedd yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol adrodd ar Ran 6[troednodyn 1] Safon Ansawdd Tai Cymru (Wedi ei leoli mewn amgylcheddau deniadol a diogel) gan y barnwyd y buasai'n rhy anodd mesur hynny'n gyson.
  • Oherwydd y gweinyddiaethau datganoledig a pholisïau gwahanol, nid yw gwneud cymariaethau uniongyrchol ar lefel y DU mor hawdd (gweler ‘Cydlyniant’ yn ddiweddarach yn y ddogfen). 

Y cylch prosesu data

Ffynhonnell a chwmpas y data

Cyflwynwyd y gwaith casglu data blynyddol hwn ym mis Gorffennaf 2012 er mwyn monitro'r cynnydd yr holl landlordiaid cymdeithasol (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) yn rheolaidd wrth gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu holl stoc.  Gofynnir i landlordiaid ddarparu gwybodaeth am nifer yr anheddau yn eu stoc sy'n cydymffurfio â'r safon gyfan (ac eithrio unrhyw asesiad o dan Ran 6). Yn ogystal â gwybodaeth am nifer yr anheddau a oedd yn cydymffurfio, yn amodol ar 'fethiannau derbyniol'.

Casglu data

Mae’r ffigurau a ddangosir yn y Datganiad Ystadegol hwn yn seiliedig ar ffurflenni ystadegol blynyddol sy’n cael ei llenwi gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru. Caiff awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wybod am amserlen yr ymarfer casglu data ymlaen llaw.  Mae hyn yn rhoi digon o amser i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig goladu’u gwybodaeth a lleisio unrhyw bryderon a all fod ganddyn nhw. Mae arweiniad ar gael yn y daenlen, sy’n helpu defnyddwyr i lenwi'r ffurflenni. 

Mae copïau o’r ffurflenni casglu data Safon Ansawdd Tai Cymru cyfredol ar gael ar y wefan ystadegau ac ymchwil.

Casglwyd data gan yr 11 awdurdod lleol a oedd yn cadw stoc ar 31 Mawrth 2022 a gan 49 o'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, gan gynnwys cymdeithasau Abbeyfield, Elusennau Elusendai a chymdeithasau Cyd-berchnogaeth.

At ddibenion y gwaith casglu data hwn, diffinnir "stoc i'w asesu" fel pob eiddo hunangynhwysol, gan gynnwys fflat un ystafell, o dan y penawdau tai anghenion cyffredinol, tai lloches, tai â chymorth eraill a thai gofal ychwanegol fel y darperir yn y ffurflen stoc flynyddol ar gyfer 2018-19 ar gyfer pob landlord cymdeithasol.

Bydd cyfran y stoc tai cymdeithasol a reolir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi ei ddylanwadu gan ar drosglwyddiadau gwirfoddol o stoc awdurdod lleol ar raddfa fawr, fel y dangosir isod. Roedd yr holl drosglwyddiadau'n cwmpasu 100 y cant o stoc tai awdurdodau lleol.

Dyddiad Trosglwyddo Stoc
Awdurdod lleol Dyddiad trosglwyddo Landlord cymdeithasol cofrestredig
Pen-y-bont ar Ogwr 12 Medi 2003 Tai Cymoedd i'r Arfordir
Rhondda Cynon Taf 10 Rhagfyr 2007 Cartrefi RCT
Sir Fynwy 17 Ionawr 2008 Tai Sir Fynwy
Torfaen 01 Ebrill 2008 Tai Cymunedol Bron Afon
Conwy 29 Medi 2008 Cartrefi Conwy
Casnewydd 09 Mawrth 2009 Cartrefi Dinas Casnewydd 
Merthyr Tudful 20 Mawrth 2009 Cartrefi Cymoedd Merthyr
Ceredigion 30 Tachwedd 2009 Tai Ceredigion
Gwynedd 12 Ebrill 2010 Cartrefi Cymunedol Gwynedd
Blaenau Gwent 26 Gorffennaf 2010 Tai Cymunedol Tai Calon
Castell-nedd Port Talbot 05 Mawrth 2011 Cartrefi NPT

Gofynnwyd i landlordiaid ddarparu gwybodaeth am nifer yr anheddau yn eu stoc a oedd yn cydymffurfio â'r safon gyfan ar 31 Mawrth 2022 (ac eithrio unrhyw asesiad o dan gategori 6) yn ogystal â gwybodaeth am nifer yr anheddau a oedd yn cydymffurfio yn amodol ar fethiannau derbyniol. Gofynnwyd i landlordiaid cymdeithasol gynnwys dim ond yr eiddo hynny sy'n bodloni holl elfennau Safon Ansawdd Tai Cymru, ar wahân i'r safonau amgylcheddol (fel yr amlinellir yn Rhan 6 o ganllawiau diwygiedig Safon Ansawdd Tai Cymru 2008) yn Nhabl 1 y ffurflen casglu data. Yn Nhabl 2 y ffurflen casglu data, holwyd landlordiaid cymdeithasol ynghylch nifer yr eiddo sy'n cydymffurfio â 10 cydran. Gan hynny, bydd y niferoedd sy'n cydymffurfio yn Nhabl 2 yn gyffredinol yn uwch na'r rhai a roddir yn Nhabl 1, oherwydd gall eiddo gydymffurfio ag is-set o'r elfennau heb gydymffurfio â nhw i gyd o reidrwydd.

Mae’r Safon yn un y gellir ei dehongli, ac mae llawer o sefyllfaoedd lle na fu modd i landlordiaid cymdeithasol gydymffurfio’n llawn â'r safon ar gydrannau unigol oherwydd effeithiolrwydd cost y gwaith (er enghraifft, gwneud newidiadau strwythurol i'r cartref i gynyddu gofod mewnol), lle mae trigolion yn arfer eu dewis (er enghraifft, lle nad ydyn nhw’n dymuno cael bath a chawod yn eu hystafell ymolchi) neu lle mae cyfyngiadau corfforol i'r gwaith. Yn yr achosion hyn, rhoddwyd cyfarwyddyd i landlordiaid gofnodi 'Methiant Derbyniol' ar gyfer yr elfen unigol honno. Dim ond ar elfennau unigol, ac nid yr annedd yn gyffredinol, y caniateir 'Methiant Derbyniol'.

Dilysu a gwirio

Mae’r wybodaeth yn cael ei chasglu'n flynyddol drwy daenlenni Excel sy'n cael eu llwytho i lawr o wefan trosglwyddo ffeiliau Afon sy’n darparu dull diogel o gyflwyno data i ddefnyddwyr.  Mae arweiniad ar gael yn y daenlen, sy’n helpu defnyddwyr i lenwi'r ffurflen. Mae’r taenlenni yn gadael i ymatebwyr ddilysu rhywfaint o ddata cyn anfon y daenlen at Lywodraeth Cymru.

Ymysg yr enghreifftiau o wiriadau dilysu ar y ffurflenni y mae croeswiriadau gyda thablau perthnasol eraill a gwiriadau i sicrhau bod data’n rhesymegol gyson. Rhoddir cyfle hefyd i ymatebwyr gynnwys gwybodaeth gyd-destunol lle mae newidiadau mawr wedi digwydd (e.e. eitemau data yn newid mwy na 10% o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol). Mae hyn yn galluogi rhywfaint o ‘lanhau’ data lle tarddodd, ac mae'n lleihau ymholiadau dilynol.

Ar ôl cael y ffurflenni casglu data, mae'r tîm casglu data yn cynnal rhagor o wiriadau dilysu a gwirio, er enghraifft:

  • Gwiriad synnwyr cyffredin am unrhyw ddata anghywir/coll heb unrhyw esboniad.
  • Gwiriadau cysondeb rhifyddol.
  • Croeswiriadau yn erbyn data'r flwyddyn flaenorol.
  • Croeswiriadau â chasgliadau data perthnasol eraill.
  • Gwiriadau goddefiant trwyadl.
  • Dilysu bod y data y tu allan i'r goddefiannau yn gywir.
  • Rydym yn cynnal cyfres o gamau dilysu i sicrhau bod y data'n gywir ac yn gyson.

Mae'r tîm casglu data yn gweithio'n agos gyda'r darparwyr data i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir ac yn gyson. Mae hefyd yn gwirio bod y data yn gyson â nifer yr unedau adeiladu newydd a adroddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn datrys unrhyw ymholiad â landlordiaid. Os oes gwall dilysu, byddwn yn cysylltu â'r awdurdod lleol neu’r landlord cymdeithasol cofrestredig ac yn ceisio datrys y mater. Os na fyddwn yn cael ateb o fewn amserlen resymol, byddwn yn mewnbynnu i wella ansawdd data, a bydd yn hysbysu'r sefydliad ac yn esbonio iddo sut rydym wedi diwygio neu fewnbynnu'r data.

Gellir mynd at gopïau o'r ffurflenni casglu data ar y wefan.

Mewn tablau lle mae ffigurau wedi eu talgrynnu, efallai na fydd swm y ffigyrau unigol yn gyfartal â'r cyfanswm a ddangosir.

Cyhoeddi

Unwaith y bydd y data ar ei ffurf derfynol, caiff y datganiad ei lunio a bydd y sylwebaeth a’r prif bwyntiau’n cael eu drafftio. Mae’r datganiad yn cael ei wirio’n annibynnol a chynhelir gwiriad synnwyr terfynol gan yr ystadegydd perthnasol cyn cyhoeddi ar y wefan.

Safonau

Mae’r ystadegau a baratoir yn cydymffurfio â safonau proffesiynol cydnabyddedig. Cânt eu llunio yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn annibynnol o dan gyfrifoldeb Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Cynhyrchir Ystadegau Swyddogol i safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maen nhw’n destun adolygiadau sicrwydd ansawdd rheolaidd i sicrhau eu bod nhw’n diwallu anghenion cwsmeriaid. Fe'u cynhyrchir yn rhydd o unrhyw gyfeiriad gwleidyddol.

Mae gwybodaeth am ansawdd mwy manwl sy'n ymwneud yn benodol â Safon Ansawdd Tai Cymru, nad yw wedi ei chynnwys yn yr adroddiad ansawdd, wedi cael ei nodi isod.

Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol

Mae'r datganiad hwn wedi ei sgorio yn erbyn Matrics Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Y matrics yw safon rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ar gyfer sicrhau ansawdd data gweinyddol. Mae’r Safon yn cydnabod y rôl gynyddol sydd gan ddata gweinyddol yn y gwaith o lunio ystadegau swyddogol, ac mae’n esbonio beth ddylai cynhyrchwyr ystadegau swyddogol ei wneud i fodloni'u hunain bod y data o'r ansawdd iawn. Mae'r pecyn sy’n ei chefnogi’n darparu arweiniad defnyddiol i gynhyrchwyr ystadegau am yr arferion y gallan nhw eu mabwysiadu i sicrhau ansawdd y data a dderbyniant, ac mae’n pennu'r safonau ar gyfer asesu ystadegau yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae'r matrics yn asesu'r datganiad ar sail y meini prawf a ganlyn:

  • Cyd-destun gweithredol a chasglu data gweinyddol.
  • Cyfathrebu â phartneriaid cyflenwi data.
  • Gwiriadau, safonau ac egwyddorion sicrhau ansawdd a ddefnyddir gan gyflenwyr data.
  • Dogfennau ac ymchwiliadau sicrhau ansawdd y cynhyrchwyr.

Mae'r datganiad wedi cael ei sgorio dros dro fel ‘A2: Sicrwydd gwell’ ar gyfer pob un o'r tri chategori cyntaf uchod, ac fel ‘A3: Sicrwydd cynhwysfawr’ ar gyfer y categori terfynol.

Ansawdd

Mae ystadegau tai Cymru yn cydymffurfio â Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol Llywodraeth Cymru, ac mae hyn yn unol â chwe dimensiwn ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd, fel y’u rhestrir yn Egwyddor 4 y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Mae manylion y chwe dimensiwn, a sut yr ydym yn cydymffurfio â nhw, ar gael isod:

Perthnasedd

I ba raddau y mae'r cynnyrch ystadegol yn bodloni anghenion y defnyddwyr o ran cwmpas a chynnwys.

Mae'r data yn y Datganiad Ystadegol hwn yn sail i dystiolaeth ar gyfer mesur nifer yr anheddau gan landlordiaid cymdeithasol sydd wedi cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru. Fe'u defnyddir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau tai eraill i fonitro'r cynnydd a wneir gan landlordiaid cymdeithasol Cymru o ran cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu holl stoc erbyn 2022. Mae diddordebau eraill a defnydd arall o'r data hyn yn cael eu disgrifio uchod.

Rydym yn adolygu’n hallbynnau’n gyson ac yn croesawu adborth.

Cywirdeb

Casglwyd data gan yr 11 awdurdod lleol a oedd yn cadw stoc ar 31 Mawrth 2022 a gan 49 o'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, gan gynnwys cymdeithasau Abbeyfield, Elusennau Elusendai a chymdeithasau Cyd-berchnogaeth.

Mae rhai landlordiaid wedi ein cynghori am arolygon cyflwr stoc ddiweddar, gwelliannau mewn prosesau amcangyfrif a systemau rheolaeth data, sydd oll wedi arwain tuag at welliant yng nghywirdeb y data. Mewn nifer fechan o achosion, nid yw wedi bod yn bosibl diwygio'r data hanesyddol (mae'r rhain wedi’u cyfeirio ar StatsCymru). Mae hyn wedi arwain at leihad yn lefelau cydymffurfio  y landlordiaid hyn.

Diwygiadau

Ni wnaed unrhyw ddiwygiadau i unrhyw un o ddata'r blynyddoedd blaenorol.

Rydym yn glynu wrth bolisi adolygiadau ystadegol Llywodraeth Cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae amseroldeb yn cyfeirio at yr amser rhwng cyhoeddi'r data a'r cyfnod y mae'r data'n cyfeirio ato. Mae prydlondeb yn cyfeirio at yr amser rhwng y dyddiad y cyhoeddwyd y data mewn gwirionedd a'r dyddiad cyhoeddi a oedd wedi’i nodi i gychwyn.

Mae’r holl allbynnau’n cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar Ystadegau drwy gyhoeddi ymlaen llaw ddyddiad y cyhoeddi ar dudalennau I’w cyhoeddi cyn hir ar wefan Ystadegau i Gymru. Yn ogystal, petai angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn trefniadau diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau Llywodraeth Cymru.

Rydym yn cyhoeddi datganiadau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y cyfnod amser perthnasol.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae hygyrchedd yn cyfeirio at ba mor hawdd ydyw i’r defnyddwyr gael gafael ar y data, a hefyd ym mha fformat y mae’r data ar gael ac a oes gwybodaeth ategol ar gael. Mae eglurder yn cyfeirio at ansawdd a digonolrwydd y metaddata, y darluniadau a'r cyngor atodol.

Mae ystadegau Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael eu cyhoeddi mewn dull hygyrch a threfnus ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y dyddiad cyhoeddi,. Nodir ymlaen llaw y bydd yr ystadegau yn cael eu cyhoeddi.

Mae porthiant RSS yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr cofrestredig am y cyhoeddiad hwn ac mae neges drydar oddi wrth @ystadegau Cymru yn dweud wrth ddefnyddwyr Twitter. Mae’r datganiadau hefyd yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd ar GOV.UK.

Anelwn at roi gwybod i ddefnyddwyr allweddol hysbys fod yr ystadegau wedi’u cyhoeddi. Dosberthir neges e-bost i'r Grŵp Gwybodaeth am Dai.

Mae’r holl ddatganiadau ar gael i'w llwytho i lawr am ddim. Hefyd, mae data mwy manwl ar gael ar yr un pryd ar wefan StatsCymru a gellir eu trin ar-lein neu eu llwytho i lawr ar ffurf taenlenni i'w defnyddio all-lein.

Yn ein hallbynnau, anelwn at ddarparu cydbwysedd o  ran sylwebaeth, tablau cryno, siartiau a mapiau os ydyn nhw’n berthnasol. Y nod yw ‘dweud y stori’ yn yr allbwn, heb i'r bwletin na’r adroddiad fynd yn rhy hir.

Anelwn at ddefnyddio iaith glir yn ein hallbynnau ac mae’r holl allbynnau yn cydymffurfio â pholisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Hefyd, mae ein holl benawdau’n cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.

Mae ein hallbynnau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd gan gydweithwyr yn fewnol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ystadegau ar gael drwy gysylltu â'r staff perthnasol sy’n cael eu nodi ar y datganiad neu drwy ystadegau.tai@llyw.cymru.

Mae set lawn o ddata, gan gynnwys gwybodaeth yn ôl awdurdodau lleol unigol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig unigol yn ôl i 2007-08, ar gael i'w llwytho i lawr oddi ar ein gwefan ryngweithiol StatsCymru.

Cymaroldeb

I ba raddau y mae modd cymharu data dros amser a pharth.

Ym Mai 2014, cyhoeddwyd adroddiad ymchwil cymdeithasol gan Altair dan y teitl ‘Safon Ansawdd Tai Cymru: gwirio’r cynnydd tuag at dderbyn y safon’ a oedd yn cynnwys argymhelliad i Lywodraeth Cymru ‘ystyried rhannu'r canlyniadau i adlewyrchu'r tri math o landlord: Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr a Chymdeithasau Tai Traddodiadol.'  Yn dilyn hyn, er nad yw'r datganiad hwn yn darparu unrhyw ddadansoddiad ar wahân ar hyn o bryd ar gyfer pob un o'r 3 math gwahanol o landlord, mae data manwl bellach ar gael ar wefan StatsCymru ar lefel landlord unigol ac yn ôl pob un o'r tri math o landlord.

Cydlyniant

I ba raddau y mae data sy’n deillio o wahanol ffynonellau neu ddulliau, ond sy’n cyfeirio at yr un ffenomen, yn debyg.

Systemau graddio tai, iechyd a diogelwch

Cyflwynwyd Safon Ansawdd Tai Cymru am y tro cyntaf yn 2002. Yn 2004, newidiodd y Ddeddf Tai y ffordd y mae landlordiaid yn asesu safon a diogelwch eu tai. Roedd y Ddeddf yn disodli'r Safon Addasrwydd gyda'r System Graddio Tai, Iechyd a Diogelwch (HHSRS) sy'n asesu dau ddeg naw categori o beryglon tai ac sy’n darparu gradd ar gyfer pob perygl. O 2004 ymlaen, roedd yn ofynnol i landlordiaid gynnwys y System Graddio Tai, Iechyd a Diogelwch yn eu proses arolygu ac arolygon cyflwr stoc. Byddai unrhyw elfen sydd wedi ei chategoreiddio â Pherygl Categori 1 y System Graddio Tai, Iechyd a Diogelwch yn arwain yn awtomatig at yr annedd yn 'Methu' cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

Ystadegau Cysylltiedig ar gyfer Gwledydd Eraill y Deyrnas Unedig

Lloegr

Ym mis Gorffennaf 2000, pennwyd targed 10 mlynedd gyda'r nod o sicrhau bod holl dai cymdeithasol Lloegr yn cyrraedd safon dda erbyn 2010 neu ddyddiad arall wedi ei drafod. Cododd y Safon Tai Gweddus o Bapur Gwyrdd Tai Llywodraeth y Deyrnas Unedig - 'Quality and Choice: A Decent Home for All’, a chyhoeddwyd y safon am y tro cyntaf yn Lloegr ym mis Ebrill 2002. Pennwyd y llinell sylfaen genedlaethol ar 1 Ebrill 2001 gan ddefnyddio data o Arolwg Cyflwr Tai Lloegr (EHCS) 2001. Mae cynnydd hyd at 2011 wedi cael ei fonitro'n genedlaethol yn rheolaidd drwy'r un arolwg.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn ‘English Housing Survey: 2020 to 2021 Headline Report’ (Y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol).

Yr Alban

Cyflwynwyd Safon Ansawdd Tai yr Alban (SHQS) ym mis Chwefror 2004, a dyma brif ffordd Llywodraeth yr Alban o fesur ansawdd tai yn yr Alban. Mae SHQS yn set o bum maen prawf tai eang y mae'n rhaid eu bodloni i gyd er mwyn i’r eiddo basio SHQS. Pennodd Llywodraeth yr Alban darged polisi ar gyfer y landlordiaid hynny i sicrhau bod eu stoc yn cyrraedd pob elfen o'r Safon (lle bo hynny'n berthnasol) erbyn mis Ebrill 2015.

Arolwg Cyflwr Tai yr Alban (SHCS) yw’r mesur swyddogol cenedlaethol o gynnydd SHQS tuag at y dyddiad cau ym mis Ebrill 2015 i landlordiaid cymdeithasol. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn yr adroddiad dan y teitl Scottish House Conditions Survey: Prif ganfyddiadau 2019 (Llywodraeth yr Alban).

Gogledd Iwerddon

Cyflwynwyd y Safon Tai Gweddus ym mis Mehefin 2004 i hyrwyddo gwelliannau mesuradwy i dai yng Ngogledd Iwerddon. Dilynir y safon Cartrefi Gweddus yng Ngogledd Iwerddon drwy’r Arolwg o Gyflwr Tai (Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon), ac mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael mewn adroddiad dan y teitl Northern Ireland House Condition Survey 2016 Main Report (Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon).

Gwerthuso

Rydym bob amser yn falch o gael adborth am unrhyw rai o’n hystadegau. Cysylltwch â ni drwy e-bostio: ystadegau.tai@llyw.cymru

Troednodiadau

[1] Rhan 6 yw safon amgylchedd Safon Ansawdd Tai Cymru, 'Wedi ei leoli mewn amgylcheddau deniadol a diogel' ac ni ellir mesur cydymffurfiaeth â hyn yn gyson.