Safon Ansawdd Tai Cymru
Nid ydym bellach yn diweddaru'r gyfres hon. Gweler ystadegau Safon Ansawdd Tai Cymru am ein datganiad diweddaraf ar safonau 2023.
Gwybodaeth am y cynnydd a wneir gan landlordiaid cymdeithasol o ran cyflawni'r Safon Ansawdd Tai Cymru (2002) ar gyfer eu holl stoc.
Cynnwys
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cyhoeddiadau blaenorol
Data ar gyfer 31 Mawrth 2020
Wrth i'r galw gynyddu ar gyfer ystadegau a data i fesur effaith y pandemig COVID-19, mae rhaid i ni newid ein harferion casglu a rhyddhau data, gan ganolbwyntio ymdrechion ar ddadansoddiadau ac ystadegau blaenoriaeth. Mae ein datganiad yn egluro hyn ymhellach ac, yn unol â chanllawiau gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, mae'r penderfyniad wedi'i wneud i ganslo'r casgliad a chyhoeddiad data ar 31 Mawrth 2020.
Safon Ansawdd Tai Cymru 2023
Lansiwyd Safon newydd, SATC 2023, ym mis Hydref 2023. Bydd gwybodaeth am gynnydd tuag at SATC 2023 yn cael ei chasglu o 31 Mawrth 2025 mewn casgliad newydd ar lefel eiddo. Rydym yn rhagweld y bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi o haf 2025.
Adroddiadau ansawdd
Mae adroddiad Safon Ansawdd Tai Cymru ar gael ar gais.
