Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y cynnydd a wneir gan landlordiaid cymdeithasol o ran cyflawni'r Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu holl stoc ar 31 Mawrth 2023.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflawni'r Safon bresennol oedd Rhagfyr 2020 (o ganlyniad i bandemig coronafeirws (COVID-19), rhoddwyd estyniad i nifer fach o landlordiaid cymdeithasol tan fis Rhagfyr 2021). Bydd Safon newydd, Safon Ansawdd Tai Cymru 2023, yn cael ei lansio yn hydref 2023, ac felly dyma'r cyhoeddiad terfynol o dan y Safon bresennol. Rydym yn rhagweld y bydd data sy'n mesur cynnydd tuag at Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 yn dechrau cael ei gyhoeddi o 2025.

Prif bwyntiau

  • Ar 31 Mawrth 2023, llwyddodd yr holl stoc tai cymdeithasol (234,665 anhedd) i gydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys methiannau derbyniol), sy'n gyson â'r flwyddyn flaenorol.
  • Llwyddodd tri chwarter (78%) o'r stoc tai cymdeithasol i gydymffurfio’n llawn.
  • Y rheswm mwyaf cyffredin dros fethiant derbyniol oedd 'Amseriad y gwelliant', a gofnodwyd ar gyfer hanner yr holl anheddau â methiant derbyniol.

Adroddiadau

Safon Ansawdd Tai Cymru: ar 31 Mawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 584 KB

PDF
Saesneg yn unig
584 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Holly Flynn

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.