Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau sy'n caniatáu dealltwriaeth o ansawdd tai yng Nghymru ar draws y sectorau tai cymdeithasol a phreifat.

Asesu elfennau o’r SATC yn yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru

Safon Ansawdd Tai Cymru yw ein safon ansawdd ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru. Er mai dim ond i dai cymdeithasol y mae'r safon yn gymwys, drwy ddadansoddi'r elfennau hynny a gafodd eu hasesu gan yr Arolwg, gallwn gymharu pob deiliadaeth er mwyn gwella ein dealltwriaeth o'r sector tai cymdeithasol a'r sector tai preifat. Nid yw anheddau gwag wedi'u cynnwys.

Mae tablau ychwanegol sy'n ymwneud â'r elfennau hynny o SATC a gafodd eu hasesu gan yr Arolwg i'w gweld yn y Gwyliwr Canlyniadau.

Ffynhonnell data amgen

Caiff Ystadegau Swyddogol ar SATC ar gyfer tai landlordiaid cymdeithasol eu llunio gan Lywodraeth Cymru ar sail ffurflenni gan landlordiaid cymdeithasol. Dylai defnyddwyr sydd am edrych ar dueddiadau yn y graddau y caiff y safon ansawdd ar gyfer tai cymdeithasol ei chyrraedd dros amser ddefnyddio'r Ystadegau Swyddogol, dylai'r rheini sydd am gymharu deiliadaethau ddefnyddio'r adroddiad hwn (gan nodi mai dim ond is-set o elfennau sydd wedi cael eu mesur). Ni ellir cymharu'r ddwy ffynhonnell ddata yn uniongyrchol.

Adroddiadau

Arolwg Cyflwr Tai Cymru (asesiad o elfennau o’r Safon Ansawdd Tai Cymru): Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 732 KB

PDF
732 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.