Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y cynnydd a wneir gan landlordiaid cymdeithasol o ran cyflawni'r Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu holl stoc ar 31 Mawrth 2019.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer yr anheddau tai cymdeithasol sy’n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys methiannau derbyniol) yn parhau i gynyddu. 
  • Roedd 91% o anheddau tai cymdeithasol yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys methiannau derbyniol) o’i gymharu gyda 90% y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 69% o dai cymdeithasol yn cydymffurfio’n llwyr â Safon Ansawdd Tai Cymru ar 31 Mawrth 2019. 
  • Roedd lefelau cydymffurfio gyda Safon Ansawdd Tai Cymru yn uwch ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gyda 99% o’u anheddau yn cydymffurfio gyda’r Safon (gan gynnwys methiannau derbyniol) o gymharu â 84% o anheddau awdurdodau lleol.   
  • Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd ar gyfer methiant derbyniol oedd ‘Amseriad y gwelliant’ : rheswm a rodddwyd mewn dros hanner yr anheddau oedd yn cydymffurfio ac oedd yn cynnwys un methiant derbyniol. 
  • Roedd gan yr elfennau ‘synwyryddion mwg sy’n rhedeg oddi ar y prif gyflenwad trydan’, ‘ceginau’, ‘ystafelloedd ymolchi’, a ‘systemau gwres canolog’ gydymffurfiaeth o 99% â’r Safon (yn cynnwys methiannau derbyniol). 

Adroddiadau

Safon Ansawdd Tai Cymru: ar 31 Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 587 KB

PDF
Saesneg yn unig
587 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.