Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y cynnydd a wneir gan landlordiaid cymdeithasol o ran cyflawni'r Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu holl stoc ar 31 Mawrth 2022.

Oherwydd pandemig coronafeirws (COVID-19), cafodd casgliad a chyhoeddiad data 31 Mawrth 2020 ei ohirio tan 31 Rhagfyr 2020 a chanslwyd cyhoeddiad 2021.

Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn cyflwyno’r cynnydd a wnaed gan bob landlord cymdeithasol (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu holl stoc.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer yr anheddau tai cymdeithasol sy’n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys methiannau derbyniol) yn parhau i gynyddu. 
  • Roedd 100% o anheddau tai cymdeithasol yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys methiannau derbyniol) o’i gymharu gyda 99% ar 31 Rhagfyr 2020.
  • Am y tro cyntaf, roedd 100% o anheddau awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ill dau, yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys methiannau derbyniol) ar 31 Mawrth 2022.
  • Roedd 78% o dai cymdeithasol yn cydymffurfio’n llwyr â Safon Ansawdd Tai Cymru ar 31 Mawrth 2022. 
  • Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd ar gyfer methiant derbyniol oedd ‘Amseriad y gwelliant’: rheswm a roddwyd mewn ychydig dros hanner yr anheddau a oedd yn cynnwys un methiant derbyniol.

Adroddiadau

Safon Ansawdd Tai Cymru: ar 31 Mawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 573 KB

PDF
Saesneg yn unig
573 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Rachel Bowen

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.