Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y cynnydd a wneir gan landlordiaid cymdeithasol o ran cyflawni'r Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu holl stoc ar 31 Rhagfyr 2020.

Mae'r data'n cyflwyno'r cynnydd a wnaed gan bob landlord cymdeithasol (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu holl stoc.

Oherwydd pandemig COVID-19, cafodd casgliad a chyhoeddiad 31 Mawrth 2020 ei ganslo ac fe'i disodlwyd gan gasgliad sy'n ymdrin â chydymffurfiaeth â Safon Ansawdd Tai Cymru ar 31 Rhagfyr 2020. Mae fersiwn wedi'i diweddaru o Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer yr anheddau tai cymdeithasol sy’n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys methiannau derbyniol) yn parhau i gynyddu. 
  • Roedd 99% o anheddau tai cymdeithasol yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys methiannau derbyniol) o’i gymharu gyda 93% ar 31 Mawrth 2019.
  • Roedd 75% o dai cymdeithasol yn cydymffurfio’n llwyr â Safon Ansawdd Tai Cymru ar 31 Rhagfyr 2020. 
  • Mae’r lefelau cydymffurfio gyda Safon Ansawdd Tai Cymru yn uwch ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gyda bron pob anheddau yn cydymffurfio gyda’r Safon (gan gynnwys methiannau derbyniol) o gymharu â 97% o anheddau awdurdodau lleol.   
  • Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd ar gyfer methiant derbyniol oedd ‘Amseriad y gwelliant’: rheswm a roddwyd mewn ychydig dros hanner yr anheddau a oedd yn cynnwys un methiant derbyniol. 

Adroddiadau

Safon Ansawdd Tai Cymru: ar 31 Rhagfyr 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 691 KB

PDF
Saesneg yn unig
691 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.