Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Rydym yn ymgynghori ar y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth 

Mae'r ymgynghoriad hwn i bob gweithiwr addysg proffesiynol sy'n gweithio mewn ysgol yng Nghymru sy'n gyfrifol am gefnogi dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys athrawon, athrawon newydd gymhwyso, cynorthwywyr addysgu, arweinwyr ysgolion ar bob lefel, gan gynnwys penaethiaid, a'r rhai sy'n gweithio mewn rolau arwain yn y system ehangach.

Cyflwyniad

Cyflwynwyd y Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu, Addysgu ac Arweinyddiaeth ym mis Medi 2018. Prif ddiben y safonau oedd cefnogi ymarferwyr ledled Cymru i baratoi ar gyfer cyflwyni'r Cwricwlwm i Gymru. Ers 2018, mae'r agenda diwygio addysg barhaus wedi creu tirlun newydd ar gyfer y sector addysg yng Nghymru. Er mwyn cydnabod a chefnogi'r tirlun newydd hwn, mae'r Safonau Proffesiynol wedi'u diwygio, drwy waith cyd-lunio helaeth gyda'r sector addysg, i adlewyrchu blaenoriaethau'r sector ar hyn o bryd a chefnogi cyfeiriad addysg yng Nghymru yn y dyfodol, y disgwylir iddo barhau i ddatblygu ac esblygu dros y blynyddoedd i ddod. 

Mae'r ddogfen ymgynghori hon hefyd yn nodi'r safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu, arwain ysgolion, bod yn bennaeth ac arwain systemau, ac mae'n ceisio barn o bob rhan o'r sector a thu hwnt, er mwyn llunio fersiwn derfynol y safonau proffesiynol a gaiff eu lansio ym mis Medi 2026. 

Mae'r safonau diwygiedig ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC) wrthi'n cael eu datblygu a byddant yn cyd-fynd â'r gyfres ehangach o safonau proffesiynol a nodir yn y ddogfen ymgynghori hon. Cynhelir yr ymgynghoriad ar y safonau diwygiedig ar SAC yn ystod tymor hydref 2026 a disgwylir i'r safonau diwygiedig gael eu lansio ym mis Medi 2027.

Beth yw'r Safonau Proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth

Mae'r safonau diwygiedig wedi'u llunio i gefnogi cynorthwywyr addysgu, athrawon ac arweinwyr drwy gydol eu gyrfaoedd proffesiynol, o addysg gychwynnol i athrawon i rolau arwain profiadol. Wedi'u gwreiddio yng ngwerthoedd tegwch, rhagoriaeth, a disgwyliadau uwch, mae'r safonau proffesiynol yn hyrwyddo ymarferol myfyriol, cydweithio a dysgu gydol oes. Y nod yw sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â chynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth yng Nghymru wedi'u grymuso i ysbrydoli dysgwyr, arwain arloesedd, a chyfrannu'n ystyrlon at system addysg gynhwysol fywiog sy'n diwallu anghenion pob dysgwr. 

Mae'r safonau proffesiynol yn adnodd i sicrhau effeithiolrwydd, twf a datblygiad proffesiynol unigol yn ogystal ag arwain cyrff llywodraethu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wrth gefnogi arweinwyr a thimau eu hysgolion i gyflawni eu dyheadau personol a phroffesiynol.

I bwy y mae'r safonau proffesiynol

Mae'r safonau proffesiynol yn gymwys i bob gweithiwr addysg proffesiynol sy'n gweithio mewn ysgol yng Nghymru sy'n ymwneud â chefnogi dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys athrawon, athrawon newydd gymhwyso, athrawon cynorthwyol, arweinwyr ysgolion ar bob lefel, gan gynnwys penaethiaid, ac ymarferwyr mewn rolau arwain yn y system ehangach.

Sut i ddefnyddio'r safonau proffesiynol

Mae pob un o'r pum safon broffesiynol wedi'i hategu gan gyfres o ddisgrifyddion allweddol sy'n crynhoi sut y gellir dangos pob safon yn ymarferol. Er mwyn ysgogi sgyrsiau proffesiynol ystyrlon, mae pob disgrifydd yn cyfateb i gwestiynau myfyriol y bwriedir iddynt ysgogi sgyrsiau rhwng cydweithwyr, gan eu hannog i werthuso eu heffeithiolrwydd yn y maes gwaith penodol hwnnw yn feirniadol. Mae'r cwestiynau hyn wedi'u categoreiddio yn ôl rolau proffesiynol gwahanol, cynorthwyo addysgu, addysgu, wrth arwain ysgolion, bod yn bennaeth, ac arwain systemau. Mae'r strwythur hwn yn galluogi unigolion i ddefnyddio'r disgrifyddion mewn ffyrdd sy'n berthnasol i'w rolau a'u cyfrifoldebau gan arwain at welliannau cadarnhaol a pharhaus mewn ymarfer proffesiynol. 

Ni fwriedir i'r holl ddisgrifyddion gael eu defnyddio yn eu cyfanrwydd. Yn hytrach, bwriedir iddynt ysgogi sgyrsiau penodol cynhyrchiol. Mae'r cwestiynau'n ffordd o ddechrau sgwrs, yn adnoddau i ysgogi dealltwriaeth a meddwl beirniadol am ymarfer proffesiynol mewn perthynas â phob disgrifydd a'r safon gysylltiedig.

Sut y bydd y safonau proffesiynol yn cael eu cyflwyno

Bydd y safonau proffesiynol yn cael eu cyflwyno ar lwyfan gwe penodol sydd â diwyg a ddyluniwyd yn fwriadol i ddangos i ddefnyddwyr sut y dylid dehongli a defnyddio'r safonau proffesiynol. Bydd y llwyfan gwe yn cynnwys nodweddion rhyngweithiol, fel testun y gellir hofran drosto, sy'n galluogi defnyddwyr i archwilio diffiniadau, cyfeiriadau a therminoleg yng nghyd-destun eu sgyrsiau proffesiynol. Ein bwriad yw lletya fersiynau ar-lein y Safonau diwygiedig ar Hwb o fis Medi 2026. 

Ni fwriedir i'r disgrifyddion gael eu darllen na'u defnyddio fel rhestr wirio, cerdyn sgorio na thaenlen. Yn hytrach, maent wedi'u dylunio'n fwriadol i annog unigolion i archwilio agweddau ar eu gwaith a defnyddio'r safonau proffesiynol mewn ffyrdd sy'n berthnasol i'w cyd-destun proffesiynol. 

Mae cysylltiad rhwng llawer o'r disgrifyddion, a hynny a fewn un safon ac ar draws y pum safon broffesiynol arall. Mae'r dyluniad hwn yn rhoi'r cyfle i unigolion weithio ar lefelau gwahanol mewn amrywiaeth o gyd-destunau yn dibynnu ar eu rolau a'u profiad. Bwriedir i'r safonau proffesiynol gael eu defnyddio'n gyfrifol, gan alluogi unigolion i'w defnyddio yn y ffyrdd sydd fwyaf addas i gefnogi eu datblygiad proffesiynol a'u hymarfer eu hunain.

Yr adolygiad o ddatblygiad proffesiynol

O leiaf bob blwyddyn, mae hawl gan bob ymarferydd sy'n gweithio mewn ysgol i gael adolygiad o ddatblygiad proffesiynol, er enghraifft, sgwrs ffurfiol â chydweithiwr arall sy'n gyfrifol am ei dwf ac yn gyfarwydd iawn â'i waith, ac a all arwain ei ddatblygiad.

Mae defnyddio'r safonau wrth adolygu datblygiad proffesiynol yn cynnig proses ffurfiol o fyfyrio'n unigol, cydnabod llwyddiant a chanolbwyntio ar dwf proffesiynol. Er mwyn cefnogi'r broses hon, gallai ymarferydd unigol ddewis disgrifydd o bob un o'r safonau proffesiynol sy'n arbennig o berthnasol i'w rôl yn ei farn ef, gan ddefnyddio'r cwestiynau cysylltiedig i ddechrau'r sgwrs. Dylai'r cwestiynau bob amser greu sgwrs naturiol, yn hytrach na theimlo fel ymarfer cyfiawnhau neu ddilysu. 

Er y gallai cadw cofnod o'r sgyrsiau hyn fod yn ddefnyddiol, nid yw'n orfodol. Fodd bynnag, gall fod yn ddefnyddiol wrth fyfyrio'n ddiweddarach neu lywio camau gweithredu ar gyfer y dyfodol, yn enwedig pan fydd ymarferydd yn ystyried ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun. Er enghraifft, bydd y Pasbort Dysgu Proffesiynol yn adnodd defnyddiol i lawer o weithwyr proffesiynol gofnodi a rhannu tystiolaeth o'r ffordd y maent yn cyrraedd y safonau proffesiynol. Drwy lanlwytho enghreifftiau o ymarfer, gall ymarferwyr fyfyrio ar eu datblygiad a dangos eu hymgysylltiad â'r safonau proffesiynol. Bydd yr enghreifftiau hyn yn cyfrannu at gasgliad cynyddol o ddeunyddiau enghreifftiol a fydd yn helpu ymarferwyr i ddeall y safonau proffesiynol a'u cymhwyso yn eu cyd-destunau yn eu hunain. 

Nodir y safonau proffesiynol drafft ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth yn Atodiadau A i C isod.

  • Adran A: Ymrwymiadau proffesiynol
  • Adran B: Safonau proffesiynol
  • Adran C: Disgrifyddion a chwestiynau

Adran A: Ymrwymiadau proffesiynol

Y weledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru

Mae ymarfer dan sylw yn gyfrifol am hyrwyddo'r agenda addysg genedlaethol a'i rhoi ar waith yn effeithiol. Mae ymarfer sy'n cefnogi llesiant cenedlaethau'r dyfodolbod yn Gymru wrth-hiliol erbyn 2030 a chyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn effeithio'n gadarnhaol ar ddyfodol pob dysgwr, y genedl a'r byd ehangach.

Y Gymraeg

Mae cefnogaeth effeithiol i Cymraeg 2050 drwy ymgorffori'r Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm a diwylliant ysgolion yn sicrhau bod pob dysgwr a gweithiwr proffesiynol yn cael y cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus a medrus sy'n gwerthfawrogi ac yn defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.

Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel rhan o brofiad cwricwlwm eang

Cwricwlwm ysgol neu leoliad yw popeth y mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Nid dim ond yr hyn rydym yn ei addysgu sy'n bwysig, ond sut rydym yn ei addysgu ac, yn hollbwysig, pam ein bod yn ei addysgu. Mae pwysigrwydd canolog llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wrth wraidd cwricwlwm eang a dwfn sy'n defnyddio dulliau dysgu dilys i gynnig byd o gyfleoedd i bob dysgwr.

Cymuned ac ymdrech ar y cyd

Mae llwyddiant addysg yng Nghymru yn dibynnu ar gydgyfrifoldeb ac ymdrech pawb dan sylw i ymgysylltu â chydweithwyr a'r gymuned ehangach y tu hwnt i'r ysgol.

Uniondeb proffesiynol a chyfrifoldeb moesegol

Mae gweithwyr proffesiynol yn cynnal y safonau uchaf o uniondeb drwy weithredu er budd pennaf pob dysgwr a thrwy herio arferion neu ymddygiadau a all gyfyngu ar gyfle unrhyw ddysgwr i lwyddo, hyd yn oed pan fydd hyn yn golygu bod angen bod yn ddewr a chynnal sgyrsiau anodd.

Manteisio ar y safonau proffesiynol

Fel rhan o sgwrs barhaus a datblygiadol, nod y safonau proffesiynol yw datblygu pob unigolyn i fod y gorau y gall fod yn broffesiynol mewn system hunanwella i ysgolion sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu twf proffesiynol a datblygiad proffesiynol.

Atodiad B: Safonau professiynol

Y safon ar gyfer Addysgeg

Mae gweithwyr proffesiynol yn derbyn atebolrwydd am eu datblygiad addysgegol eu hunain ac yn gweithio gydag eraill i fireinio dulliau addysgu a datblygu dysgu, gan sicrhau cynnydd pob dysgwr. Maent yn cymryd rhan mewn cylch parhaus o fyfyrio a gwella sy'n cefnogi disgwyliadau uchel i bob dysgwr, yn hybu llesiant, ac yn meithrin awydd gydol oes i ddysgu.

Y safon ar gyfer Cydweithredu

Mae gweithwyr proffesiynol yn atgyfnerthu eu hymarfer drwy weithio'n agos gydag eraill yn eu hysgol eu hunain i gynyddu effeithiolrwydd drwy gyfrannu at hinsawdd o ymddiriedaeth, cydgefnogaeth a chyd-feddwl. Maent yn chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu ag ysgolion eraill a phartneriaid ehangach i wella effeithiolrwydd proffesiynol ac ehangu addysgeg ac ymarfer effeithiol gan gyfrannu at welliant system gyfan.

Y safon ar gyfer Dysgu Proffesiynol

Mae gweithwyr proffesiynol yn cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol parhaus, gan ddyfnhau eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau drwy fyfyrio ac ymholi. Maent yn creu cyfleoedd pwrpasol am sgwrs ac ymholiad trylwyr â chydweithwyr er mwyn meithrin twf ar y cyd ar draws cymunedau dysgu yn yr ysgol a thu hwnt, gan arwain at welliannau parhaus mewn addysgeg a deilliannau dysgwyr.

Y safon ar gyfer Arloesi

Mae gweithwyr proffesiynol yn croesawu'r cyfle i arloesi drwy ddatblygu technegau a dulliau gwell i wella ymarfer addysgegol a chynnydd dysgwyr mewn ffordd reoledig a mesuredig. Maent yn cyfrannu at hinsawdd gadarnhaol ar gyfer arloesi, gan werthuso arferion yn gywir, fel bod ymarfer arloesol y gydlynol a bod deilliannau'n cael eu lledaenu a'u cymhwyso'n effeithiol.

Y safon ar gyfer Arweinyddiaeth

Mae gweithwyr proffesiynol yn gosod addysgeg wrth wraidd eu rôl arwain. Maent yn cydnabod eu cyfrifoldeb i ddangos agwedd gadarnhaol at eraill wrth geisio sicrhau datblygiad a gwelliant cydlynol ac eglur. Maent yn arwain cydweithwyr a'r gymuned ehangach i gyflawni uchelgeisiau addysgol Cymru er budd pennaf pob dysgwr.

Atodiad C: Disgrifyddion a chwestiynau

Addysgeg

Dulliau addysgu amrywiol i ddiwallu anghenion dysgwyr

Mae dysgwyr yn fwy brwdfrydig ac awyddus i lwyddo pan fydd athrawon yn defnyddio dulliau sy'n briodol o safbwynt datblygiadol ac addysgegol sy'n eu helpu i gyflawni dibenion y cwricwlwm.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn deall ac yn addasu'r dulliau a ddefnyddir i lywio profiadau dysgu i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol?

Addysgu

Pa mor dda rydych yn creu cyfleoedd gwerth chweil i ystod amrywiol o ddysgwyr ddod o hyd i'w datrysiadau eu hunain, magu hyder, dod yn feddylwyr beirniadol a chwarae rôl weithredol wrth lywio eu profiad dysgu eu hunain?

Arwain Ysgolion

Mewn deialog broffesiynol, pa mor dda rydych yn arwain, yn modelu ac yn dathlu dulliau cynhwysol o ddysgu sy'n annog sgiliau sy'n rhan annatod o'r pedwar diben?

Prifathrawiaeth

Pa mor dda rydych yn creu diwylliant ac amgylchedd lle mae'r staff yn cael eu hannog i fabwysiadu a chymhwyso dulliau addysgegol perthnasol a chynhwysol sy'n galluogi pob dysgwr i wireddu dibenion y cwricwlwm?

Arwain Systemau

Pa mor dda rydych yn cefnogi ysgolion a chyrff llywodraethu i fabwysiadu dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chymhwyso addysgeg ddiddorol sy'n sicrhau cynnydd gwirioneddol ar gyfer yr ystod amrywiol o ddysgwyr?

Deall sut mae dysgwyr yn datblygu

Mae dysgu yn effeithiol pan fydd athrawon yn deall sut mae plant a phobl ifanc yn datblygu yng nghyd-destun profiadau ac anghenion penodol pob dysgwr.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn deall sut mae plant a phobl ifanc yn datblygu? Sut mae'r ddealltwriaeth hon yn eich helpu i gefnogi dysgu effeithiol?

Addysgu

Pa mor effeithiol rydych yn diweddaru eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ddatblygiad plant a phobl ifanc a'r goblygiadau ar gyfer eich addysgeg a'ch ymarfer. Pa mor dda rydych yn integreiddio dealltwriaeth newydd yn eich addysgu er mwyn dileu rhwystrau a chynyddu cyfranogiad?

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn modelu, yn hwyluso ac yn hyrwyddo dealltwriaeth gadarn o ddatblygiad dysgwyr a'u hanghenion yn eich tîm?

Prifathrawiaeth

I ba raddau rydych yn arwain y gwaith o feithrin dealltwriaeth ddofn o ddatblygiad dysgwyr er mwyn sicrhau addysgu o ansawdd uchel a dysgu effeithiol i bob dysgwr, gan roi sylw penodol i ddysgwyr sy'n wynebu anawsterau.

Arwain Systemau

Pa mor llwyddiannus rydych yn defnyddio ffynonellau dibynadwy i hwyluso deialog drylwyr a gwerth chweil sy'n seiliedig ar dystiolaeth am ddatblygiad dysgwyr, gan alluogi athrawon ac arweinwyr i fyfyrio ar eu hymarfer eu hunain? I ba raddau y gallwch ddangos yr effaith y mae hyn wedi ei chael o ran cynnwys dysgwyr a gwella deilliannau bwriadedig.

Deall y continwwm 3 i 19 a'r goblygiadau ar gyfer addysgeg

Mae addysgeg effeithiol yn seiliedig ar ddysgu sy'n briodol yn ddatblygiadol drwy'r continwwm dysgu 3 i 19 oed a thu hwnt.

Cynorthwyo Addysgu

Pa mor dda rydych yn deall y rhesymau dros ddulliau dysgu gwahanol wrth i ddysgwyr ddatblygu? Sut mae hyn yn eich helpu i gefnogi'r dysgu

Addysgu

Pa mor dda rydych yn deall dulliau dysgu blaenorol eich dysgwyr sut mae hyn wedi llywio eich penderfyniadau addysgegol a'ch gwaith cynllunio ar gyfer cynnydd? 

Arwain Ysgolion

Pa mor effeithiol rydych yn meithrin dealltwriaeth ac ymarfer cydlynol yn y continwwm 3 i 19 oed yn eich maes cyfrifoldeb?

Prifathrawiaeth

Pa mor dda rydych yn arwain dull ysgol gyfan o ddatblygu ymarfer addysgegol ar draws y continwwm 3 i 19 oed ac yn sicrhau bod y staff yn cael eu cefnogi i addasu wrth i ddysgwyr aeddfedu fel unigolion ag anghenion gwahanol? Pa systemau sydd ar waith i alluogi deialog broffesiynol am gynnydd dysgwyr ac i ba raddau y mae llywodraethwyr yn rhan o'r sgyrsiau hyn?

Arwain Systemau

Pa mor dda rydych yn deall datblygiad plant a phobl ifanc ac i ba raddau rydych yn defnyddio'r continwwm 3 i 19 oed i lywio eich gwaith? Pa mor effeithiol rydych yn cefnogi deialog ar draws cyfnodau i ddatblygu dulliau addysgol sy'n briodol i aeddfedrwydd a datblygiad cyfannol pob dysgwr?

Cynnydd wrth ddysgu

Mae deall datblygiad dysgwyr a'r ffactorau sy'n effeithio ar gynnydd yn galluogi arferion addysgu i gefnogi deilliannau dysgu bwriadedig yn well.

Cynothwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn deall anghenion datblygiadol y dysgwyr unigol rydych yn gweithio gyda nhw a'r ffactorau eraill sy'n effeithio ar eu cynnydd, ac yn addasu eich dull er mwyn iddynt gyflawni?

Addysgu

Pa mor dda rydych yn cynllunio ac yn addasu profiadau dysgu i fynd i'r afael ag anghenion datblygiadol penodol eich dysgwyr a sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd? Pa mor effeithiol rydych yn galluogi'r rhai sy'n eich cefnogi i ddeall anghenion dysgwyr unigol? 

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn helpu athrawon i feithrin dealltwriaeth a rennir o ddatblygiad a chynnydd dysgwyr, gan eu helpu i gydnabod anghenion penodol eu dysgwyr ac ymateb iddynt? 

Prifathrawiaeth

Pa mor effeithiol y mae eich gweledigaeth a rennir ar gyfer dysgu, a dyluniad y cwricwlwm yn sgil hynny yn cefnogi datblygiad a chynnydd pob dysgwr ac yn herio athrawon i ymateb i anghenion dysgu penodol ac ychwanegol. 

Arwain Systemau

Pa mor dda rydych yn galluogi ysgolion a lleoliadau i sicrhau bod eu dealltwriaeth a'u camau gweithredu mewn perthynas â datblygiad a chynnydd dysgwyr yn gyson â'r disgwyliadau yn y Cwricwlwm i Gymru?

Cyd-destun a'r gymuned ehangach

Mae gwybodaeth gyd-destunol am bob dysgwr a'r gymuned ehangach yn galluogi'r ddarpariaeth i sicrhau'r dysgu mwyaf posibl.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn adnabod cymuned y dysgwyr a'r ffactorau sy'n effeithio ar fywydau'r dysgwyr? Sut rydych yn helpu eraill i ddefnyddio'r wybodaeth hon i gefnogi dysgu effeithiol yn yr ysgol? 

Addysgu

Pa mor effeithiol rydych yn defnyddio eich gwybodaeth am eich dysgwyr, eich ysgol a'r gymuned ehangach a'ch dealltwriaeth ohonynt i ddylunio ac addasu eich cwricwlwm a'ch dulliau addysgegol ar gyfer dysgwyr unigol?

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn cefnogi eich tîm i ddefnyddio gwybodaeth gyd-destunol yn effeithiol i lywio eu dulliau o ymdrin â'r cwricwlwm a'u dulliau addysgegol, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion pob dysgwr?

Prifathrawiaeth

I ba raddau rydych yn sicrhau bod y staff yn meddu ar yr wybodaeth angenrheidiol am gyd-destun yr ysgol a'i holl ddysgwyr a'u bod yn cymhwyso'r wybodaeth honno i ddylunio dulliau effeithiol o ymdrin â'r cwricwlwm a dulliau addysgegol effeithiol sy'n gwella'r dysgu? Pa mor effeithiol y mae cymorth amlasiantaethol yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgol?

Arwain Systemau

Pa mor dda rydych yn cefnogi'r broses o rannu a defnyddio gwybodaeth gyd-destunol ar draws grwpiau gwahanol o ddysgwyr yn y system ysgolion, gan alluogi athrawon ac arweinwyr i ddylunio, addasu eu hymarfer o ran y cwricwlwm a'u hymarfer addysgegol i ymateb yn effeithiol i anghenion cyd-destunol? I ba raddau y caiff cymorth amlasiantaethol ei gydlynu yn y ffordd orau i gefnogi ysgolion?

Ymgorffori'r cwricwlwm mewn cyd-destunau dilys pwrpasol

Mae ymgorffori'r cwricwlwm mewn cyd-destunau dilys pwrpasol yn hanfodol i sicrhau presenoldeb, cyfranogiad a chynnydd pob dysgwr.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn cefnogi dysgwyr wrth iddynt gymryd rhan mewn profiadau dysgu sy'n seiliedig ar gyd-destunau dilys? Pa mor dda rydych yn helpu i feithrin ymdeimlad dysgwyr o fwynhad a hyder wrth ddysgu? 

Addysgu

Pa mor dda rydych yn dylunio ac yn cyflwyno profiadau mewn cyd-destunau dysgu dilys sy'n helpu i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru yn effeithiol?

Arwain Ysgolion

Pa mor effeithiol rydych yn dangos ac yn darparu cyd-destunau dysgu dilys ac yn mesur eu heffaith wrth gefnogi datblygiad cynyddol pob dysgwr? 

Prifathrawiaeth

Pa mor effeithiol rydych yn hyrwyddo ac yn ymgorffori cyd-destunau dysgu dilys i gefnogi datblygiad cynyddol pob dysgwr i ymgysylltu'n llawn â'r Cwricwlwm i Gymru?

Arwain Systemau

Pa mor dda rydych yn annog ac yn cefnogi eraill i ymgorffori diben pwrpasol cyd-destunau dysgu dilys mewn ysgolion i gefnogi presenoldeb, cyfranogiad a chynnydd dysgwyr?

Defnyddio technoleg i gyfoethogi'r dysgu

Gall dulliau addysgegol sy'n integreiddio technoleg mewn ffordd foesegol, effeithiol a chynhwysol bersonoli'r dysgu, hyrwyddo cymhwysedd digidol, gwella hygyrchedd a pharatoi dysgwyr ar gyfer byd cynyddol ddigidol.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn cefnogi'r ysgol i sicrhau bod adnoddau digidol yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn cael eu defnyddio'n foesegol, yn feirniadol ac yn greadigol? 

Addysgu

Pa mor effeithiol rydych yn dangos defnydd moesegol, beirniadol a chyfrifol o dechnoleg i ddatblygu cymhwysedd digidol a chyfoethogi'r dysgu? 

Arwain Ysgolion

Pa mor effeithiol rydych yn cefnogi eich tîm i feithrin yr hyder a'r sgiliau i ymgorffori'r defnydd o dechnoleg mewn ffordd ddilys a chynhwysol? 

Prifathrawiaeth

Pa mor dda rydych yn arwain dull strategol ysgol gyfan o werthuso a chynllunio ar gyfer defnyddio technoleg sy'n foesegol, yn canolbwyntio ar y dysgwr ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol?

Arwain Systemau

Pa mor effeithiol rydych yn cefnogi ysgolion i ddefnyddio technoleg mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo tegwch mewn perthynas â mynediad, ymgysylltiad a chyfranogiad wrth ddysgu?

Meithrin agweddau cadarnhaol ymhlith dysgwyr

Mae'r dysgu yn fwyaf effeithiol pan fydd arferion pob dydd yr ysgol yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol ymhlith dysgwyr, fel brwdfrydedd, hyder a chyfrifoldeb.

Cynorthwyo addysgu

Fel model rôl cadarnhaol, pa mor llwyddiannus rydych yn annog dysgwyr i feithrin ymdeimlad o berthyn a pharodrwydd i ddysgu? 

Addysgu

Sut rydych yn annog dysgwyr i ddatblygu agweddau cadarnhaol, ymdeimlad o berthyn a pharodrwydd i ddysgu drwy feithrin cydberthnasau cryf a rheoli eich amgylchedd dysgu? 

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn cefnogi disgwyliadau a rennir sy'n hyrwyddo diwylliant o barch, safonau uchel ac agweddau cadarnhaol ymhlith dysgwyr? 

Prifathrawiaeth

Pa mor effeithiol y mae polisïau'r ysgol yn annog dysgwyr i arfer cyfrifoldeb (yn hytrach na chydymffurfio â rheolau) a mynd ati'n hyderus i ddysgu? 

Arwain Systemau

I ba raddau y mae eich disgwyliadau o ysgolion yn hyrwyddo diwylliannau sy'n cefnogi agweddau cadarnhaol ymhlith dysgwyr a dysgu o ansawdd uchel yn gyson? Pa mor effeithiol rydych yn mynd i'r afael ag arferion sy'n llesteirio uchelgeisiau'r ysgol ar gyfer ei dysgwyr?

Asesiad cynhyrchiol a phwrpasol sy'n gysylltiedig â'r dysgu

Mewn ysgolion lle defnyddir dulliau asesu yn effeithiol, caiff anghenion dysgwyr eu nodi a'u diwallu er mwyn sicrhau cynnydd.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn defnyddio eich gwybodaeth am ddysgwyr a'ch arsylwadau arnynt i gefnogi dulliau asesu a helpu i addasu'r addysgu a'r dysgu?

Addysgu

Pa mor dda rydych yn deall ac yn defnyddio dulliau asesu i nodi anghenion dysgwyr a deall cynnydd, gan gydnabod sut y gellir defnyddio arferion addysgu ymaddasol i alluogi'r rhai sy'n wynebu llawer mwy o anhawster wrth ddysgu? 

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn defnyddio gwybodaeth o asesiadau, gan gynnwys arsylwadau, i ddadansoddi, gwerthuso a gwella effeithiolrwydd addysgegol? 

Prifathrawiaeth

Pa mor dda rydych yn mynegi dibenion ac effeithiolrwydd asesu i'r amrywiaeth o randdeiliaid ac asiantaethau dan sylw? Pa mor effeithiol rydych yn dadansoddi, yn gwerthuso ac yn cefnogi eich ysgol i ddefnyddio arferion sy'n gyson ag egwyddorion asesu i gyfoethogi'r dysgu a sicrhau cynnydd?

Arwain Systemau

Pa mor dda rydych yn helpu ysgolion a chyrff llywodraethu i ddefnyddio arferion asesu i alluogi dysgu? Pa mor dda rydych yn herio arferion asesu aneffeithiol? Pa mor dda rydych yn hwyluso'r broses o rannu arferion asesu effeithiol rhwng ysgolion, gan gynnwys yn ystod cyfnodau pontio, er budd pob dysgwr? Pa mor dda rydych yn helpu ysgolion i nodi dysgwyr sy'n wynebu llawer mwy o anhawster wrth ddysgu neu'r rhai y mae angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arnynt, ac yn darparu ar eu cyfer? 

Cydweithredu

Cydgyfrifoldeb

Mae manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i geisio a chynnig cyngor proffesiynol, gan gynnwys defnyddio mewnbwn amlasiantaethol, i gefnogi gwaith myfyrio, ymholi a datrysiadau a rennir yn atgyfnerthu cydgyfrifoldeb ac yn gwella'r addysgu, er budd pawb.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor effeithiol rydych wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol, gan gynnig eich gwybodaeth a cheisio cyngor gan eraill i gefnogi'r dysgu yn y ffordd orau posibl? 

Addysgu

Pa mor dda rydych yn cymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol, gan gyfrannu cyngor a chymorth yn seiliedig ar eich profiadau eich hun yn ogystal â cheisio dysgu o gyngor gan eraill a chael budd ohono? Pa effaith y mae'r cydweithredu hwn wedi ei chael arnoch chi, eich cydweithwyr, a'ch dysgwyr?

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn creu ac yn modelu cyfleoedd ar gyfer cyd-gymorth a chyngor pwrpasol o fewn eich tîm a thu hwnt. Pa effaith y mae hyn wedi ei chael?

Prifathrawiaeth

Pa mor effeithiol rydych yn hyrwyddo ac yn ymgorffori trefniadau cydweithredu yn eich ysgol, mewn partneriaeth â'r llywodraethwyr a phartneriaid amlasiantaethol allanol, er mwyn gwell ymarfer proffesiynol? Pa enghreifftiau sydd gennych o effaith y cydweithredu hwn ar ddeilliannau dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol?

Arwain Systemau

Pa mor llwyddiannus rydych yn galluogi'r broses o rannu cyngor a chymorth, o fewn ac ar draws eich cymuned eich hun o ysgolion, a thu hwnt. Pa mor effeithiol y mae asiantaethau allanol wedi cael eu cynnwys yn y broses hon? Pa dystiolaeth sydd gennych o effaith y cydweithredu hwn ar y system?

Siarad am addysgeg

Daw addysgu yn fwy effeithiol pan fydd gweithwyr proffesiynol yn myfyrio ar eu hymarfer addysgegol presennol eu hunain ac yn ei werthuso drwy sgyrsiau proffesiynol a arweinir.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn cymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol â chydweithwyr am wella addysgeg i ddysgwyr? 

Addysgu

Pa mor effeithiol rydych yn cymryd rhan mewn sgyrsiau bwriadol am addysgeg â chydweithwyr er mwyn datblygu ymarfer mwy effeithiol, effeithlon a phleserus i bob dysgwr? 

Arwain Ysgolion

I ba raddau rydych yn annog eich tîm i drafod a myfyrio ar ddulliau addysgegol, gan ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil dilys a dibynadwy i wella ymarfer? 

Prifathrawiaeth

Pa mor dda rydych yn arwain ac yn rheoli sgyrsiau proffesiynol am addysgeg i alluogi athrawon i gydweithio i ddatblygu a mireinio dulliau gweithredu er budd pob dysgwr?

Arwain Systemau

Pa mor effeithiol rydych yn hwyluso sgyrsiau proffesiynol mewn ysgolion a rhyngddynt am werthoedd, egwyddorion ac ymarfer addysgegol i hyrwyddo cynhwysiant sicrhau gwelliant i bob dysgwr?

Rhannu adnoddau

Gellir sicrhau gwelliant cydweithredol pan gaiff adnoddau eu rhannu mewn ysgolion, asiantaethau a chymunedau a rhyngddynt. Drwy rannu gwybodaeth ac arferion gorau, gall ysgolion ddysgu o gryfderau ei gilydd a chreu datrysiadau costeffeithiol mwy effeithlon.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn gweithio gydag eraill i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau? 

Addysgu

I ba raddau rydych yn gweithio gydag eraill i ddatblygu adnoddau ac arferion gorau yn effeithiol ar y cyd.

Arwain Ysgolion

Pa mor effeithlon rydych yn rheoli amser, adnoddau a lle fel bod eich tîm yn gallu gweithio'n effeithiol er budd pennaf dysgwyr?

Prifathrawiaeth

I ba raddau rydych yn datblygu diwylliant agored a chydgefnogol o wella dysgwyr drwy rannu adnoddau ar gyfer gwaith cydweithredol? Pa mor dda rydych yn rhannu gwybodaeth ac arferion gorau ag ysgolion eraill, asiantaethau a'r gymuned? 

Arwain Systemau

I ba raddau rydych yn nodi ac yn hwyluso cydweithio effeithiol mewn perthynas â phenderfyniadau am adnoddau er budd ysgolion ac er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar ddysgwyr? 

Dysgu proffesiynol

Sicrhau gwelliant

Mae dysgu proffesiynol yn effeithiol pan fydd newidiadau cadarnhaol mewn agweddau, ymddygiadau ac arferion proffesiynol yn arwain at wella ysgolion.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor effeithiol rydych yn defnyddio eich profiadau dysgu proffesiynol i'ch galluogi i gefnogi dysgwyr?

Addysgu

I ba raddau y gallwch nodi effaith eich dysgu proffesiynol eich hun fel athro ar gynnydd cyfannol dysgwyr?

Arwain Ysgolion

I ba raddau rydych yn modelu, yn hyrwyddo ac yn cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol pwrpasol sy'n cyfrannu at welliant parhaus ar draws blaenoriaethau'r ysgol?

Prifathrawiaeth

I ba raddau rydych yn datblygu, yn modelu ac yn cynnal diwylliant lle mae dysgu proffesiynol wedi'i ymgorffori, a lle mae'r dysgu proffesiynol hwnnw'n gydweithredol ac yn seiliedig ar gynllunio i wella'r ysgol.

Arwain Systemau

I ba raddau rydych yn cefnogi ysgolion yn unigol a gyda'i gilydd, yn ogystal â chyrff llywodraethu i ddatblygu, rhannu a defnyddio dysgu proffesiynol i ysgogi gwelliant?

Cyfrifoldeb personol

Mae cymryd cyfrifoldeb am ddysgu proffesiynol yn rhan ddisgwyliedig o dwf a datblygiad personol a phroffesiynol, wedi'i lywio ar sail gyfartal gan flaenoriaethau unigol, lleol a chenedlaethol.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn defnyddio adborth ac yn myfyrio ar eich profiadau i nodi meysydd i ddatblygu'n broffesiynol? Sut mae hyn o fudd i'r dysgwyr rydych yn eu cefnogi?

Addysgu

Pa mor effeithiol rydych yn defnyddio amrywiaeth o wybodaeth i nodi eich anghenion dysgu proffesiynol? Pa mor dda rydych yn sicrhau bod eich profiadau dysgu proffesiynol yn cael effaith gadarnhaol ar eich ymarfer ac yn gwella deilliannau dysgwyr?

Arwain Ysgolion

I ba raddau rydych yn galluogi aelodau o'ch tîm i fyfyrio ar eu dysgu proffesiynol eu hunain a chymryd cyfrifoldeb amdano? Pa mor dda rydych yn eu cefnogi i nodi a chydbwyso eu blaenoriaethau unigol a blaenoriaethau'r tîm ar gyfer dysgu ac i ddefnyddio'r profiadau hyn yn effeithiol ar draws y tîm? 

Prifathrawiaeth

I ba raddau rydych yn defnyddio canfyddiadau hunanwerthusiad ysgol gyfan i nodi eich anghenion dysgu proffesiynol eich hun ac anghenion eich cydweithwyr a fydd yn helpu i sicrhau'r gwelliant sydd ei angen yn yr ysgol? 

Arwain Systemau

Ym mha ffyrdd rydych yn cydlynu cyfleoedd dysgu proffesiynol yn effeithiol ar draws ysgolion er mwyn cael effaith gadarnhaol ar eich dysgu proffesiynol eich hun a dysgu proffesiynol mewn lleoliadau eraill? Sut y gall hyn fod yn fwy effeithiol?

Manteisio ar yr Hawl Genedlaethol

Bydd y gallu i gymryd rhan mewn profiadau dysgu proffesiynol strwythuredig ac achlysurol, ffurfiol ac anffurfiol o fudd i unigolion ac ysgolion. Dylai unigolion fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy'n gyson â dulliau gweithredu cenedlaethol.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda mae eich ymrwymiad i ddysgu proffesiynol yn galluogi newidiadau proffesiynol i'r cymorth rydych yn ei gynnig i ddysgwyr?

Addysgu

I ba raddau rydych yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brofiadau dysgu proffesiynol ffurfiol ac anffurfiol sy'n herio eich credoau, eich meddylfryd a'ch arferion, ac yn cefnogi newidiadau cadarnhaol yn eich arferion addysgu?

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn sicrhau bod eich tîm yn cael cyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n cyflawni blaenoriaethau'r ysgol a blaenoriaethau cenedlaethol, yn ogystal â diwallu anghenion datblygiadol unigol?

Prifathrawiaeth

I ba raddau rydych yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brofiadau dysgu proffesiynol sy'n herio eich meddylfryd fel arweinydd, a pha mor dda rydych yn dangos gwerth eich dysgu eich hun i'ch staff, llywodraethwyr a chydweithwyr?

Arwain Systemau

I ba raddau y mae eich dysgu proffesiynol parhaus eich hun yn gwella eich gallu i gefnogi eich ysgolion ym mhob rhan o'r system?

Sicrhau effaith

Mae dysgu proffesiynol yn effeithiol pan fydd yn ehangu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ac yn cael ei ddefnyddio er budd pob dysgwr.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor effeithiol rydych yn myfyrio ar eich dysgu proffesiynol ac yn ei ddefnyddio i alluogi dysgwyr i wneud cynnydd?

Addysgu

Pa mor dda rydych yn sicrhau bod eich dysgu proffesiynol parhaus yn berthnasol ac yn cael ei gymhwyso mewn ffyrdd sy'n diwallu anghenion penodol ac unigol dysgwyr yn briodol? 

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn cefnogi eich tîm i sicrhau bod dysgu proffesiynol yn effeithiol ac yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu? Sut rydych yn mesur ei effeithiolrwydd?

Prifathrawiaeth

Pa mor dda rydych yn hwyluso diwylliant o ddysgu ac ymholi proffesiynol ac yn rhoi profiadau perthnasol ac amserol i gydweithwyr? I ba raddau rydych yn sicrhau bod y profiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol fel eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr? 

Arwain Systemau

I ba raddau rydych yn cefnogi ysgolion yn strategol i nodi a hwyluso cyfleoedd dysgu proffesiynol angenrheidiol a pherthnasol sy'n gyson ag arferion cydlynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth? Sut rydych yn rhannu arferion da ar draws eich ysgolion a'ch lleoliadau er budd y system ehangach?

Defnyddio dysgu proffesiynol i gyflawni gweledigaeth yr ysgol

Bydd nodi a chydlynu dysgu proffesiynol priodol o ansawdd uchel yn atgyfnerthu ac yn gwella'r addysgu a'r arweinyddiaeth.

Cynorthwyo Addysgu

I ba raddau y mae eich dysgu proffesiynol wedi eich helpu i gefnogi gweledigaeth yr ysgol?

Addysgu

I ba raddau y mae eich dysgu proffesiynol yn gwneud gwahaniaeth i chi, eich dysgwyr a'ch ysgol? Pa mor dda rydych yn defnyddio adborth gan eraill, gan gynnwys dysgwyr, i wella deilliannau i bawb? 

Arwain Ysgolion

I ba raddau rydych yn sicrhau eich bod chi a'ch tîm yn rhannu ac yn myfyrio ar ddysgu proffesiynol, ac yn cydweithio'n effeithiol er mwyn helpu i wella'r ysgol yn barhaus? 

Prifathrawiaeth

I ba raddau rydych yn sicrhau eich bod chi a'ch staff yn cael digon o le ac amser i ymgymryd â dysgu proffesiynol sy'n cael effaith gadarnhaol ar wella'r ysgol gyfan drwy wella effeithlonrwydd a mwynhad y staff, ac i rannu'r dysgu proffesiynol hwnnw. 

Arwain Systemau

Pa mor llwyddiannus rydych yn arwain neu'n cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol cyffredinol a phwrpasol ochr yn ochr ag arweinwyr a chyrff llywodraethu i sicrhau deilliannau gwell i chi eich hun a'r system?

Arloesedd

Grymuso proffesiynoldeb

Mae sefydlu a chymhwyso arferion arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn grymuso athrawon ac arweinwyr i archwilio, addasu a chyd-greu.

Cynorthwyo Addysgu

Pa mor dda rydych yn cefnogi arloesedd yn eich maes gwaith? Pa mor effeithiol rydych yn cyfrannu awgrymiadau i gyfoethogi'r dysgu? 

Addysgu

Pa mor effeithiol rydych yn cynnwys dysgwyr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol wrth lywio, treialu a gwerthuso datblygiadau arloesol newydd er mwyn cyfoethogi'r dysgu? 

Arwain Ysgolion

Pa mor effeithiol rydych yn creu diwylliant o chwilfrydedd, ymholi a chymryd risgiau ymhlith eich staff ac yn grymuso cydweithwyr i ehangu ac ymgorffori arferion arloesol? Sut rydych yn sicrhau bod arferion arloesol yn parhau i fod yn foesegol, yn gynhwysol ac i ganolbwyntio ar y dysgwr, ac nad ydynt yn ymatebol neu'n seiliedig ar dueddiadau? 

Prifathrawiaeth

Pa mor dda rydych yn ennyn ymddiriedaeth ac yn galluogi ymagwedd agored at arloesi ac ymholi proffesiynol sy'n foesegol, yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar y dysgwr? Pa mor dda rydych yn cysylltu datblygiadau arloesol eich ysgol â diwygiadau, ymchwil a threfniadau cydweithio ar draws y system gyfan i sicrhau cysondeb a chynaliadwyedd? 

Arwain Systemau

Pa mor llwyddiannus rydych yn galluogi ysgolion i arloesi o fewn fframwaith o ymddiriedaeth, hyblygrwydd ac egwyddorion moesegol clir? Pa strategaethau rydych yn eu defnyddio i feithrin capasiti a defnyddio amser, adnoddau a rhwydweithiau i arloesi'n gynaliadwy ar draws cyd-destunau amrywiol ysgolion?

Ymagwedd arloesol

Mae chwilfrydedd proffesiynol ac ymholi yn arwain at ymarfer arloesol sy'n sicrhau gwelliant.

Cynorthwyo Addysgu

Pa mor dda rydych yn ceisio gwella ymarfer? Ym mha ffyrdd y mae hyn wedi gwella'r ffordd rydych yn cefnogi dysgwyr? 

Addysgu

I ba raddau rydych yn arloesi er mwyn gwella eich ymarfer addysgu eich hun? 

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn annog, yn modelu ac yn hwyluso dulliau arloesol ymhlith eich tîm? Sut rydych yn sicrhau bod hyn yn arwain at welliannau parhaus? 

Prifathrawiaeth

I ba raddau rydych yn arwain y broses o roi systemau a gweithdrefnau arloesol ar waith yn eich ysgol yn strategol, ac yn annog hynny? Sut mae hyn yn cael ei werthuso?

Arwain Systemau

I ba raddau rydych yn hwyluso ac yn cefnogi'r broses o ddatblygu arferion arloesol mewn ysgolion? Sut rydych yn sicrhau bod yr arferion hyn yn ystyrlon ac yn cael eu rhannu'n briodol ar draws y system ehangach?

Gwerthuso a mireinio

Mae diwylliant sy'n ymgorffori arferion arloesol, ochr yn ochr â gwaith gwerthuso a mireinio parhaus, yn arwain at wella'r addysgu a'r dysgu'n barhaus.

Cynorthwyo Addysgu

Pa mor dda rydych yn rhannu eich canfyddiadau o'r ffordd y mae arloesedd yn gwella'r dysgu? 

Addysgu

Pa mor effeithiol y mae newidiadau i'ch ymarfer wedi bod a sut rydych wedi gwerthuso eu heffaith ar eich dysgwyr? 

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn gwerthuso pa welliannau arloesol y dylid eu mireinio a'u hehangu er budd cydweithwyr ac er mwyn gwella'r addysgu yn yr ysgol? 

Prifathrawiaeth

Pa mor llwyddiannus rydych yn sicrhau bod newidiadau arloesol yn seiliedig ar dystiolaeth a chyd-destun ac yn arwain at wella'r dysgu a'r addysgu yn barhaus? 

Arwain Systemau

Pa mor dda rydych yn sicrhau bod arferion arloesol yn cael eu gwerthuso a'u rhannu'n effeithiol ag ysgolion er mwyn rhannu canfyddiadau a gwybodaeth? 

Arweinyddiaeth

Gweledigaeth a rennir

Mae ysgolion arloesol yn gweithio tuag at weledigaeth a rennir sydd wedi ei deall yn glir ar gyfer pob dysgwr sy'n adlewyrchu disgwyliadau cenedlaethol sy'n newid ac anghenion penodol eu cymunedau.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn cefnogi gweledigaeth a gwerthoedd eich ysgol i gefnogi dysgwyr? 

Addysgu

I ba raddau rydych yn myfyrio ar y ffordd rydych yn arwain yr addysgu a'r dysgu i hyrwyddo gweledigaeth a rennir yr ysgol yn eich ymarfer pob dydd? 

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn gwerthuso effaith yr addysgu a'r dysgu ac yn arwain sgyrsiau penodol â chydweithwyr er mwyn helpu i wireddu gweledigaeth a rennir yr ysgol? 

Prifathrawiaeth

Pa mor effeithiol rydych yn gwerthuso ac yn herio cynnydd, deilliannau a llesiant dysgwyr, yn unol â gweledigaeth yr ysgol a'i datblygiad fel sefydliad sy'n dysgu?

Arwain Systemau

Pa mor effeithiol rydych yn cefnogi ysgolion i ddatblygu'n sefydliadau sy'n dysgu effeithiol sy'n addasu i newid ac yn cysoni â'r agenda addysg yng Nghymru? I ba raddau rydych yn cyfrannu at y weledigaeth ar y cyd i sicrhau newid lleol mewn ysgolion? 

Yr ysgol a'i chymuned

Mae meithrin partneriaethau cadarnhaol â theuluoedd, y gymuned ehangach a rhanddeiliaid yn cynyddu effeithiolrwydd yr addysgu a'r dysgu.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn cyfrannu at ymdrechion yr ysgol i feithrin cydberthnasau cadarnhaol â theuluoedd a'r gymuned ehangach?

Addysgu

Pa mor dda rydych yn gweithio gyda theuluoedd, asiantaethau a rhanddeiliaid i sicrhau parodrwydd i ddysgu a gwella'r dysgu?

Arwain Ysgolion

Pa mor dda y mae eich tîm yn achub ar gyfleoedd i ymgysylltu â'r gymuned ehangach y tu hwnt i'r ysgol er budd y dysgwyr? Pa strategaethau rydych yn eu defnyddio i sicrhau bod yr ymgysylltu hwn yn gynhyrchiol ac yn barhaus?

Prifathrawiaeth

Pa mor effeithiol rydych yn gwrando, yn cyfathrebu ac yn modelu gweledigaeth a rennir yr ysgol yn gadarnhaol yn y gymuned ac i ba raddau y mae hyn yn atgyfnerthu cydgyfrifoldeb am yr ysgol a'r dysgu? Pa gamau rydych yn eu cymryd i feithrin yr hyder sydd ei angen i sicrhau ymgysylltu effeithiol rhwng teuluoedd a'r ysgol, ac i nodi unrhyw rwystrau a all fodoli a mynd i'r afael â nhw? 

Arwain Systemau

Sut rydych yn cefnogi ac yn galluogi ysgolion, asiantaethau a rhanddeiliaid i ddeall, blaenoriaethu a gweithredu ar bwysigrwydd ymgysylltu'n gadarnhaol â theuluoedd a'r gymuned fel ffordd o ysgogi gwelliant?

Addysg deg

Mae ysgolion effeithiol yn sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i ddatblygu ei ddoniau a'i sgiliau, beth bynnag fo'i gefndir neu amgylchiadau, ac yn cael y cymorth a'r adnoddau sydd eu hangen i oresgyn unrhyw rwystrau o ran eu presenoldeb, eu cyfranogiad a'u cyflawniad er mwyn gwireddu eu potensial.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn cyfrannu at amgylchedd dysgu teg a chynhwysol lle mae pob dysgwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi ac yn gallu gwireddu ei botensial?

Addysgu

Pa mor dda rydych yn deall bywydau a phrofiadau eich dysgwyr a pha mor effeithiol rydych yn ystyried eu profiadau ehangach wrth ddylunio profiadau dysgu a datblygu amgylchedd dysgu lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys? 

Arwain Ysgolion

Pa mor effeithiol rydych yn arwain ac yn cefnogi eich tîm i ddeall bywydau a phrofiadau dysgwyr ac i ddylunio profiadau dysgu sy'n datblygu addysg deg a chynhwysol? 

Prifathrawiaeth

Pa mor dda rydych yn galluogi dealltwriaeth o fywydau a phrofiadau dysgwyr wrth ddylunio profiadau dysgu a datblygu amgylchedd dysgu lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys? I ba raddau rydych yn meithrin parch ac agwedd gadarnhaol ymhlith y staff, dysgwyr, a rhanddeiliaid ac yn herio stereoteipiau niweidiol neu gyfyngol? 

Arwain Systemau

Pa mor dda rydych yn cefnogi ac yn herio ysgolion a chyrff llywodraethu i feithrin parch rhwng ysgolion a'u cymunedau gan sicrhau profiad addysgol teg a chynhwysol i bawb?

Llais y dysgwr

Mae ysgolion sy'n gwrando ar ddysgwyr ac yn ymateb iddynt yn gweld cynnydd mewn lefelau presenoldeb, cyfranogiad a chyflawniad ac yn fwy effeithiol o ran diwallu anghenion a chyflawni'r pedwar diben.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn defnyddio llais y dysgwr i feithrin cydberthnasau llawn ymddiriedaeth a chyflawni'r pedwar diben?

Addysgu

Pa mor llwyddiannus rydych yn ymgysylltu â dysgwyr i nodi eu blaenoriaethau, eu llwyddiannau, eu pryderon a'u rhwystredigaethau, a gweithredu arnynt?

Arwain Ysgolion

I ba raddau rydych yn ymwybodol o safbwyntiau amrywiol dysgwyr am eu profiadau ac i ba raddau rydych wedi cysylltu'r amrywiaeth hon â deilliannau. Pa mor effeithiol rydych yn gweithredu ar yr wybodaeth hon? 

Prifathrawiaeth

Pa mor effeithiol yw'r dulliau o gasglu safbwyntiau dysgwyr, ar y cyd ac yn unigol, ac i ba raddau y mae'r ysgol yn ymateb iddynt? Pa mor effeithiol mae'r ysgol yn cydnabod ac yn myfyrio ar rôl dysgwyr fel arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain?

Arwain Systemau

I ba raddau rydych yn ymwybodol o safbwyntiau dysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau a pha mor dda rydych yn galluogi'r safbwyntiau hyn i gael eu defnyddio mewn ffordd gadarnhaol i sicrhau gwelliant?

Hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau

Lle y caiff arferion hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau eu mireinio'n ofalus a'u defnyddio'n dda, mae'r ysgol yn gynyddol effeithiol.

Cynorthwyo addysgu

Pa mor dda rydych yn myfyrio ar eich ymarfer a'i effaith, gan awgrymu gwelliannau pan fo angen? 

Addysgu

Pa mor dda rydych yn cymryd rhan mewn gwaith hunanwerthuso o ran eich addysgu eich hun yng nghyd-destun gweledigaeth yr ysgol, a pha mor dda y mae hyn yn llywio gwaith cynllunio gwelliannau'r ysgol?

Arwain Ysgolion

I ba raddau y mae hunanwerthuso wedi taflu goleuni ar waith eich tîm a'ch arweinyddiaeth a pha newidiadau i arferion sydd wedi'u gwneud?

Prifathrawiaeth

Pa mor dda rydych yn gwerthuso gwaith eich ysgol eich hun? Pa mor effeithiol rydych yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau ymholi a safbwyntiau allanol i feithrin gwybodaeth a sefydlu cynlluniau effeithiol ar gyfer gwella? 

Arwain Systemau

Pa mor llwyddiannus rydych yn gwerthuso eich gwaith eich hun o ran galluogi'r ysgolion rydych yn eu cefnogi i ddeall eu mannau cynnydd a sicrhau gwelliant yn eu herbyn ac i roi eu cynlluniau datblygu ar waith?

Cydlyniant rhwng disgwyliadau ac ymarfer

Bydd arweinyddiaeth sy'n sicrhau cydlyniant rhwng gweledigaeth, gwerthoedd ac ymarfer yn cael effaith fwy cadarnhaol ar ddysgu a llesiant.

Cynorthwyo addysgu

I ba raddau y mae eich ymarfer yn gyson â gweledigaeth a gwerthoedd eich ysgol?

Addysgu

I ba raddau y mae eich ymarfer yn gyson â gweledigaeth a gwerthoedd addysg yng Nghymru?

Arwain Ysgolion

Pa mor dda rydych yn sicrhau cysondeb o ran disgwyliadau eich tîm mewn perthynas â dysgu? Pa mor dda rydych yn nodi unrhyw anghysondeb ac yn mynd i'r afael ag ef? 

Prifathrawiaeth

Pa mor effeithiol rydych yn arwain ac yn ysgogi'r weledigaeth ar gyfer dysgu er mwyn sicrhau disgwyliadau a phrofiadau dysgu cyson ym mhob rhan o gymuned yr ysgol? 

Arwain Systemau

Pa mor llwyddiannus rydych yn cefnogi ac yn herio eraill i ymgorffori ac ysgogi gweledigaeth gydlynol sy'n gyson â'r agenda addysg yng Nghymru ac yn datblygu'n unol â hi?

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1a

Ydych chi'n cytuno bod y strwythur ar gyfer y safonau proffesiynol diwygiedig yn glir ac yn hawdd ei ddeall? 

Cwestiwn 1b

Ydych chi'n cytuno bod y strwythur ar gyfer y safonau proffesiynol diwygiedig yn berthnasol i'r anghenion a'r arferion presennol?

Cwestiwn 2a

Ydych chi'n cytuno bod y safonau proffesiynol diwygiedig, y cwestiynau cysylltiedig a'r disgrifyddion ategol yn briodol ar gyfer cynorthwywyr addysgu?

Cwestiwn 2b

Ydych chi'n cytuno bod y safonau proffesiynol diwygiedig, y cwestiynau cysylltiedig a'r disgrifyddion ategol yn briodol ar gyfer athrawon?

Cwestiwn 2c

Ydych chi'n cytuno bod y safonau proffesiynol diwygiedig, y cwestiynau cysylltiedig a'r disgrifyddion ategol yn briodol ar gyfer arweinwyr yn yr ysgol?

Cwestiwn 2d

Ydych chi'n cytuno bod y safonau proffesiynol diwygiedig, y cwestiynau cysylltiedig a'r disgrifyddion ategol yn briodol ar gyfer prifathrawon?

Cwestiwn 2e

Ydych chi'n cytuno bod y safonau proffesiynol diwygiedig, y cwestiynau cysylltiedig a'r disgrifyddion ategol yn briodol ar gyfer arweinwyr systemau?

Cwestiwn 3a 

Ydych chi'n cytuno bod y safonau proffesiynol diwygiedig a'r disgrifyddion ategol yn briodol i'w defnyddio yng nghyd-destun y broses sefydlu statudol orfodol (Athrawon Newydd Gymhwyso)?

Cwestiwn 3b

Ydych chi'n cytuno bod y safonau proffesiynol diwygiedig a'r disgrifyddion ategol yn briodol i'w defnyddio yng nghyd-destun dilysu ac achredu fel ei gilydd (er enghraifft ar gyfer Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu a'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth)?

Cwestiwn 4

Ydych chi'n cytuno y bydd y safonau proffesiynol diwygiedig a'r disgrifyddion ategol yn hwyluso sgyrsiau datblygu anffurfiol?

Cwestiwn 5a

Ydych chi'n cytuno bod y safonau proffesiynol diwygiedig, y disgrifyddion ategol a'r cwestiynau cysylltiedig yn gefnogol ac yn ddatblygiadol?

Cwestiwn 5b

Ydych chi'n cytuno bod y safonau proffesiynol diwygiedig, y disgrifyddion ategol a'r cwestiynau cysylltiedig yn hyrwyddo ymdeimlad o broffesiynoldeb?

Cwestiwn 6a

Ydych chi'n cytuno y bydd y safonau proffesiynol diwygiedig a'r disgrifyddion ategol yn ysgogi sgyrsiau proffesiynol a fydd yn annog unigolion i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau i'r sector addysg yng Nghymru?

Cwestiwn 6b

Ydych chi'n cytuno y bydd y safonau proffesiynol diwygiedig a'r disgrifyddion ategol yn galluogi'r agenda gwella ysgolion sy'n datblygu?

Cwestiwn 7

A oes unrhyw ddisgrifyddion sy'n aneglur, y dylid eu newid neu sydd ar goll?

Cwestiwn 8

Pa fath o gymorth allai fod o ddefnydd er mwyn i'r safonau gael eu defnyddio'n effeithiol?

Cwestiwn 9

A oes effeithiau eraill i'r cynigion hyn yr hoffech sôn amdanynt?

Cwestiwn 10

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?

Cwestiwn 11

Yn eich barn chi, a ellid geirio neu newid y cynigion er mwyn:

  • sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â'i thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, neu
  • lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â'i thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiynau uchod.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych chi’n dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd. 

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: Wefan ICO