Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir

Mae sector yr amgylchedd adeiledig yn cwmpasu'r sectorau a'r busnesau hynny sy'n darparu'r gwaith, y nwyddau a'r gwasanaethau i ddarparu'r adeiladau, y seilwaith a'r tirweddau sy'n sylfaenol i fywydau pobl bob dydd ledled Cymru.

Mae mewnwelediad y sector, a gasglwyd drwy berthynas gontractiol Llywodraeth Cymru ag Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, wedi dangos bod angen arweinyddiaeth strategol, yn enwedig mewn meysydd lle nad oes polisi cyfredol sy'n benodol i sector yr amgylchedd adeiledig. Mae'r wybodaeth hon yn dangos yr angen i uno'r sector o amgylch gweledigaeth ystyrlon a rennir tuag at effeithlonrwydd, cynhyrchiant, proffidioldeb, arloesedd, diogelwch a chynaliadwyedd. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen cryf i ddiffinio paramedrau a phrosesau'r sector yn glir i feithrin dealltwriaeth a rennir. Mae hyn yn cynnwys darparu llwybrau cyraeddadwy ar draws cylch oes llawn y sector a all hefyd gynnig budd ar gyfer dibyniaethau traws-sector a rennir fel y ceir mewn cadwyni cyflenwi, sgiliau llafur a marchnadoedd deunyddiau.

Diben y datganiad cenhedlaeth hwn yw:

  • Uno'r sector (Busnesau, Prosiectau, Pobl) o amgylch nodau a rennir;
  • Meithrin gwybodaeth, ymwybyddiaeth a gallu;
  • Llywio uchelgeisiau Sero Net ac alinio polisïau allweddol eraill; a
  • Gwella sgiliau lleol a chreu cadwyn gyflenwi wydn.

Diffiniad

Mae sector yr amgylchedd adeiledig yn rhan allweddol o ddiffiniad Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys llu o sectorau medrus, rhyng-gysylltiedig sy'n rhan o system o systemau: systemau adeiledig, systemau naturiol a systemau seiber-ffisegol. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol:

  • tir, cynllunio a thirfesur; treftadaeth, ôl-osod, adfywio asedau adeiledig presennol;
  • pensaernïol, dylunio mewnol, dylunio trefol, dylunio tirwedd, technolegwyr a dylunio peirianneg a datblygu prosiectau adeiladu;
  • adeiladu adeiladau masnachol, adeiladau domestig, adeiladau addysgol, adeiladau amddiffyn, seilwaith ac adeiladau ategol (e.e. cefnogi ynni adnewyddadwy), ffyrdd a thraffyrdd, pontydd a thwneli, prosiectau cyfleustodau a dŵr, prosiectau tirlunio a natur, prosiectau cymdogaeth a dylunio dinasoedd;
  • contractwyr arbenigol, gan gynnwys gweithwyr mewn meysydd trydanol, mecanyddol, plymio, gwasanaethau adeiladu, rheoli cyfleusterau; rheoli ystadau, arolygu adeiladau, arolygu gwaith cadwraeth hanesyddol, arbenigwyr dymchwel;
  • gwasanaethau proffesiynol arbenigol, gan gynnwys ym meysydd rheoli, cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch;
  • gweithgynhyrchu cynhyrchion a Dulliau Adeiladu Modern, gan gynnwys adeiladu modiwlar i'w defnyddio wrth wneud penderfyniadau sector yn ystod cyfnod cynnar, cynllunio, dylunio, adeiladu ac ôl-feddiannaeth yn ogystal â chefnogi diwydiannau eraill gyda datblygiadau arloesol technolegol yr amgylchedd adeiledig;
  • defnyddio a meddiannaeth, atgyweirio a chynnal a chadw; a
  • diwedd oes, dymchwel, achub, ailgylchu ac ailddefnyddio.

Pwysigrwydd y sector fel cyflogwr/cyfraniad economaidd

Mae sector yr amgylchedd adeiledig yn cynnwys 16,450 o fusnesau sydd wedi'u cofrestru at ddibenion TAW yng Nghymru yn y diwydiant adeiladu, sy'n cynrychioli 15% o'r holl fusnesau sy'n gweithredu yn ein heconomi, gyda 99% â llai na hanner cant o weithwyr.

Mae gan y diwydiant drosiant o £17.2bn (10% o gyfanswm gweithgarwch economaidd Cymru) gyda gweithlu o 83,565 o weithwyr (tua un o bob 14 o'r holl swyddi yng Nghymru). Mae'r sector yn darparu ystod o swyddi medrus a swyddi sy'n talu'n dda. Mae'n hwylusydd nodau llesiant a ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Gall y sector fod yn sbardun pwysig o ran creu a chadw cyfoeth, gyda 99% o fusnesau yn yr amgylchedd adeiledig â'u pencadlys yng Nghymru.

Yng nghefn gwlad Cymru, mae busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn ffurfio asgwrn cefn y diwydiant amgylchedd adeiledig. Nid cyfranwyr yn unig yw'r busnesau hyn, maent yn ysgogwyr hanfodol o ran bywiogrwydd economaidd, datblygu cymunedol, ac arloesi.

Deddfwriaeth gaffael newydd Cymru sy'n effeithio ar y sector

Mae adeiladu yn cyfrif am oddeutu traean o'r £11bn sy'n cael ei wario drwy gaffael yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd y dyletswyddau caffael yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, unwaith y bydd mewn grym yn llawn, yn gosod dyletswyddau newydd ar gaffael ym maes adeiladu. Disgwylir i hyn fod yn gynnar yn 2026.

Gweledigaeth ar gyfer y sector

Mae Llywodraeth Cymru am weld sector amgylchedd adeiledig lle mae busnesau nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu. Mae hyn yn golygu defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i feithrin a thyfu'r sector a gweithio gyda rhanddeiliaid i adeiladu ar gynnydd a gwella proffidioldeb, cynhyrchiant, arloesedd, diogelwch, cyflogwr o ddewis, swyddi medrus, gwaith teg ac effaith amgylcheddol ymhellach.

Blaenoriaethau ac amcanion y sector

Byddwn yn annog y sector i gofleidio arferion gorau a fydd yn helpu i dyfu ein stoc o fusnesau canolig a chadwyni cyflenwi lleol gwydn, gan arwain at y canlynol:

  • cadwyni cyflenwi cryfach, lleol, wedi'u hangori ar draws rhannau o Gymru;
  • rhan gynyddol gynhyrchiol o'r economi;
  • busnesau a gweithlu sy'n gymwys yn broffesiynol, sy'n meddu ar achrediadau priodol sy'n cydymffurfio ac wedi'u harchwilio'n briodol;
  • hyrwyddo economi ddigidol Cymru;
  • buddsoddi a chefnogi arloesi a datblygu/cyflenwi cynnyrch lleol;
  • ymddygiad moesegol yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys arferion gorau o ran talu fel cyfrifon banc prosiectau;
  • mabwysiadu dulliau modern o adeiladu a datblygu technegau newydd tuag at egwyddorion adeiladu diwydiannol;
  • ecsbloetio cyfleoedd y gellir eu masnachu; a
  • chydweithio a chyflwyno cynigion ar y cyd i gynyddu capasiti a gallu'r gadwyn gyflenwi.

Byddwn yn hyrwyddo ein hegwyddorion Gwaith Teg i alluogi'r sector ymhellach i gefnogi mwy o swyddi a swyddi gwell, gan gynorthwyo cyflogwyr i wneud y canlynol:

  • cofleidio egwyddorion Gwaith Teg;
  • cefnogi swyddi da, medrus, gwyrdd sy'n darparu cyflogaeth leol;
  • cynyddu cymhwysedd i fabwysiadu technoleg, dulliau adeiladu modern, sero net a sgiliau gwyrdd;
  • bod yn gyflogwyr o ddewis, gan gadw a denu talent newydd;
  • darparu dealltwriaeth glir o fylchau yn y gweithlu;
  • datblygu gweithlu amrywiol a chymwys;
  • creu cymunedau iachach trwy ddarparu cyfleoedd Gwaith Teg i'r rhai sydd bellaf o gyflogaeth;
  • cyflwyno prentisiaethau/cynlluniau prentisiaethau a rennir ar y cyd; a
  • chysylltu â'r system addysg yn well.

Byddwn yn gweithio gyda'r sector i gynnal y safonau diogelwch a chynaliadwyedd uchaf, gan wella'r gwaith o gyflawni prosiectau fel ein bod ar y cyd yn:

  • cyflawni prosiectau o safon sy'n para'r cyfnod disgwyliedig ac sy'n darparu gwerth am arian;
  • anelu at ôl-osod yn gyntaf, system ddolen gaeedig ddiwastraff, mabwysiadu asesiadau carbon oes gyfan ac egwyddorion a dulliau gweithredu'r Economi Gylchol a defnyddio deunyddiau adfywiol a ffynonellau ynni adnewyddadwy;
  • cefnogi Pontio Teg i sefyllfa Sero Net;
  • sector sy'n ymwneud yn llawn ag ynni glân, gwynt ar y môr, hydrogen a niwclear;
  • ymwneud ag arloesi i gefnogi gwelliant parhaus; a
  • sicrhau bod diogelwch yn rhan o bob agwedd ar weithredu

Byddwn yn gweithio gyda'r sector i hyrwyddo'r effaith gadarnhaol y mae ef a'r gwaith y mae'n ei gyflawni yn ei chael ar gymunedau a phobl ledled Cymru, gan arwain at y canlynol:

  • prosiectau wedi'u dylunio'n dda sy'n cefnogi lle hyfyw, gan wella lles;
  • prosiectau sy'n cydymdeimlo ag anghenion cymunedau lleol, y mae eu heffeithiau cadarnhaol yn cael eu cofnodi trwy ddefnyddio'r Pecyn Cymorth Gwerth;
  • strategaethau cyflogaeth sy'n cyd-fynd â dulliau ‘tyfu eich hun’ yn y sector cyhoeddus; a
  • chysylltu â gwaith cyflawni prosiectau seilwaith trafnidiaeth

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i safoni dulliau caffael ymhellach a chynyddu gallu lleol ar gyfer cynnig am gontractau, gan gynnwys:

  • defnyddio dull sy'n seiliedig ar werth ar gyfer caffael gan ddefnyddio'r Pecyn Cymorth Gwerth;
  • datblygu piblinell contractau digidol gweladwy, cyson, canolog;
  • cefnogi busnesau i ddod yn fwy cymwys wrth gynnig am gontractau;
  • defnyddio'r dyletswyddau sy'n benodol i adeiladu yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023;
  • cynyddu cydweithrediad y sector cyhoeddus ar draws sectorau, gan gynnwys cyflwyno datblygiadau ar y cyd ar safleoedd a rennir;
  • contractau'r sector cyhoeddus sy'n agored i fusnesau lleol a chonsortia ar y cyd;
  • cleientiaid a chontractwyr yn gweithio ar y cyd i'r tendr mwyaf manteisiol;
  • contractau ac amodau mwy safonol; a
  • dull gweithredu cymesur ar gyfer rhannu risg.

Cyflawni blaenoriaethau ac amcanion

Byddwn yn ymgysylltu â'r sector ac yn gweithio ar y cyd i gyflawni'r uchelgais a nodir yn y datganiad cenhadaeth hwn fel ei fod yn cael ei symud ymlaen trwy gynllun gweithredu ar y cyd. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl cytuno ar yr hyn y bydd llwyddiant yn ei olygu a datblygu cynllun y gellir ei fonitro trwy gydol y daith o gyflawni ein hamcanion a rennir.

Bydd yr amgylchedd adeiledig yn cael ei ymgorffori o fewn polisi trawsbynciol i gefnogi mentrau blaenoriaeth, gan alluogi gwell dealltwriaeth o allu a chapasiti'r sector i gael ei sefydlu.

Bydd adroddiad blynyddol o gynnydd yn cael ei ddatblygu a'i gyhoeddi ar y cyd.