Neidio i'r prif gynnwy

Mae ceisiadau Sefydliad Rheoli Ernes bellach ar agor ac mi fydd y cyfnod ymgeisio yn dod i ben ar 23 Ionawr 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwybodaeth i’r ymgeisydd

Rhaid i’ch sefydliad fod yn gorff annibynnol, nid-er-elw a preifat. Bydd gennych rwymedigaethau a phwerau o dan reoliadau’r cynllun, sef  Deddf Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diod (Cymru) 2026.

Mi fydd y SRE yn gyfrifol am:

  • rheoli’r Cynllun Dychwelyd Ernes, gan gynnwys goruchwylio llif deunyddiau a llif ariannol
  • cynhyrchu a chyhoeddi gwybodaeth dechnegol i gynorthwyo busnesau Cymru i baratoi ar gyfer y Cynllun Dychwelyd Ernes
  • ymgysylltu â’r diwydiant i sicrhau bod gwybodaeth am y cynllun ar gael mewn fformat hygyrch
  • cyfathrebu â defnyddwyr am eu rôl yn y cynllun
  • datblygu proses syml a hawdd i ddefnyddwyr godi ymholiadau
  • sicrhau cydymffurfiaeth â’r cynllun gweithredu

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb, cyflwynwch ffurflen gais yn ogystal â dogfennau ategol i dîm Cynllun Dychwelyd Ernes Llywodraeth Cymru: llc.rhaglendrs@llyw.cymru   

Dychwelwch eich ffurflen gais erbyn 23 Ionawr 2026.

Rydym yn cadw’r hawl i ymestyn yr amserlen ar gyfer ceisiadau.

Y broses o wneud cais

Mae’r pecyn cais yn cynnwys:

  • ffurflen gais
  • dogfen ganllaw i gynorthwyo gyda chwblhau’r cynlluniau gweithredu a busnes

Bydd eich cais yn cael ei werthuso’n deg yn seiliedig ar ei rinweddau a chydnawsedd eich sefydliad â gofynion y penodiad fel SRE. Mae hyn yn cynnwys sut y byddwch yn:

  • cyflawni eich cyfrifoldebau o dan bob un o’r rheoliadau
  • sefydlu’r cynllun yng Nghymru

Ar ôl asesiad cychwynnol o’r ceisiadau, efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am wybodaeth ychwanegol. Yna byddwn yn sgorio ceisiadau yn seiliedig ar system sgorio safonol sy’n caniatáu cymharu os derbyniwn mwy nag un cais.

Byddwn yn defnyddio’r sgôr i gefnogi argymhelliad i Weinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch penodi’r SRE.

Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diod

Bydd y cynllun yn cyflwyno blaendal ar gynwysyddion diod. Ei nod yw i :

  • Leihau sbwriel a gwella glendid strydoedd, parciau a mannau cyhoeddus ledled Cymru.
  • Sefydlu mecanwaith casglu cadarn ar gyfer deunyddiau perthnasol, gan sicrhau cyfraddau dal uchel a chefnogi economi gylchol.
  • Greu llwybr ailddefnyddio a hyrwyddo datblygiad a defnydd cynyddol o gynwysyddion diod ailddefnyddio, gan leihau dibyniaeth ar becynnu untro.
  • Ddarparu buddion amgylcheddol i Gymru, gan gynnwys lleihau allyriadau carbon, lleihau defnydd adnoddau, a gwella ansawdd ailgylchu.
  • Gefnogi amcanion Cymru ar gyfer dim gwastraff a’r hinsawdd, gan gyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy feithrin defnydd a chynhyrchu cynaliadwy.
  • Ymgysylltu â chymunedau a busnesau, gan greu cyfleoedd ar gyfer arloesi, swyddi gwyrdd, a buddion economaidd lleol.
  • Wella enw da Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes ailgylchu ac effeithlonrwydd adnoddau, gan gyd-fynd â strategaethau cenedlaethol a chyfrifoldebau rhyngwladol.

Bydd y cynllun yn cynnwys cynwysyddion diod o 150ml i 3 litr wedi’u gwneud o unrhyw un o’r canlynol:

  • gwydr
  • plastig PET (polyethylene terephthalate)
  • dur
  • alwminiwm

Rhesymeg y cynllun

Mae cyfraddau ailgylchu presennol yn y DU ar gyfer cynwysyddion sy’n dod o fewn cwmpas y cynllun tua 70%, sy’n gadael tua 4 biliwn o boteli plastig, 2.7 biliwn o ganiau a 1.5 biliwn o boteli gwydr heb eu hailgylchu bob blwyddyn.

Pan fydd cynwysyddion diod yn mynd i safle tirlenwi neu’n cael eu llosgi, maent yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr llygredig. Mae’r deunyddiau’n cael eu colli, felly rhaid gwneud cynwysyddion newydd o ddeunyddiau crai. Mae echdynnu’r deunyddiau crai hyn hefyd yn cynhyrchu allyriadau llygredig.

Unwaith y bydd y cynllun wedi’i gyflwyno, disgwylir i ni gasglu o leiaf 90% o’r cynwysyddion diod berthnasol erbyn blwyddyn 3. Bydd hyn yn hybu cyfraddau ailgylchu ac yn lleihau sbwriel.

Bwriad y cynllun hefyd yw arwain at ddeunyddiau ailgylchu fwy glan. Bydd hyn yn golygu y gellir ail-wneud cynwysyddion diod yn fwy o gynwysyddion diod. Bydd gan SRE yr hawl gyntaf i ailddefnyddio unrhyw gynwysyddion diod a gesglir.

Cyfrifoldebau’r Llywodraeth a’r rheoleiddiwr

Gan weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a thimau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol, mae rôl Llywodraeth Cymru wedi cynnwys datblygu’r rheoliadau ar gyfer y CDE a phenodi’r SRE.

Yn y dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn goruchwylio ac yn rheoli perfformiad y cynllun a fydd CNC yn rheoli cydymffurfiaeth a gorfodi Deddf Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diod (Cymru) 2026.

Mae Llywodraeth Cymru, CNC a thimau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol i gyd yn gyfrifol am ateb cwestiynau ar ddiffiniadau cyfreithiol a manylion am y rheoliadau. Maent hefyd yn gyfrifol am gefnogi sefydlu llwyddiannus y cynllun gan y SRE.