Neidio i'r prif gynnwy

Sut yr ydym yn diwallu’r anghenion sgiliau yn 2024 a’r hyn a gynllunnir wrth symud ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma rai o'r camau sydd ar y gweill yn 2024

Y Fframwaith Pontio Teg

Rydym am sicrhau y gall unigolion o bob oed gael addysg o ansawdd uchel. Mae rhoi'r sgiliau gofynnol i ddysgwyr i sicrhau swyddi sy'n darparu gwaith teg yn hanfodol, a chreu Cymru gadarnhaol sy'n gweithio lle gall busnesau a gweithwyr ffynnu mewn economi sero net sy'n hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb. Mae'n bwysig, felly, ein bod yn cydweithio â'n partneriaid i ymgorffori egwyddorion y Fframwaith Pontio Teg ym mhopeth a wnawn. Ein nod yw prif-ffrydio cydraddoldeb yn ein holl weithgarwch, ac er mwyn cyflawni hyn rydym yn cydweithio ar Gynllun Gweithredu. 

Cynhaliwyd gweithdy sgiliau yng nghyd-destun y Fframwaith Pontio Teg ar 8 Chwefror yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Medwas. Y nod oedd gweithio gyda rhanddeiliaid o grwpiau cydraddoldeb i nodi materion a heriau penodol a wynebir gan grwpiau difreintiedig o ran mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd dysgu sero net (yn y gweithle a'r tu allan iddo). Roedd hefyd yn gyfle i drafod sut y gallwn feithrin y sgiliau y bydd eu hangen i'r dyfodol, gan roi cryn sylw i gydraddoldeb a sicrhau cyfleoedd i bawb.

Mae cyfarfodydd pellach wedi'u cynllunio er mwyn nodi camau ymarferol ac atebion i broblemau er mwyn gofalu nad yw unrhyw un yn cael ei adael ar ôl wrth symud tuag at Economi Sero Net. 

Mapio Hyfforddiant Sgiliau Addysg Bellach (AB)

Mae ymarfer mapio ar y gweill i gofnodi'r hyfforddiant a ddarperir ar hyn o bryd, ac sydd wedi'i drefnu i'r dyfodol, o ran Sgiliau Sero Net, a gynigir gan ein rhwydwaith Addysg Bellach. Mae disgwyl adroddiad ddiwedd Mawrth yn crynhoi'r canfyddiadau. Bydd yr adroddiad yn helpu i lywio polisi'r dyfodol a rhoi camau ar waith i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar ddiwydiant a chyflogwyr. 

Mae Cyfrifon Dysgu Personol Gwyrdd Cymru gryfach, decach a gwyrddach: sgiliau sero net | LLYW.CYMRU a Chyfrifon Dysgu Personol eisoes yn darparu ystod eang o gyrsiau i uwchsgilio'r gweithlu. 

Cryfhau'r Gefnogaeth i Gyflogwyr 

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil ac yn cynnal nifer o ymarferion mapio er mwyn cryfhau ein dealltwriaeth o'r heriau a'r rhwystrau sy'n wynebu cyflogwyr, gan ganolbwyntio ar eu dealltwriaeth o sero net a sgiliau sero net, a'r buddsoddiad sydd ei angen yn eu gweithlu. Ar sail y canlyniadau, caiff y ddarpariaeth sgiliau ar gyfer cyflogwyr ei diweddaru, a bydd ar gael yn ystod 2024. 

Rhestr Derminoleg

Mae rhestr o derminoleg sero net yn cael ei datblygu er mwyn cynyddu dealltwriaeth pawb o sgiliau sero net. Bydd yn rhannu negeseuon cyson a chlir ar iaith sero net, a fydd, gobeithio, yn rhoi eglurder mewn nifer o feysydd ac yn golygu newid i ni i gyd yn yr iaith rydym yn ei defnyddio ac yn ei deall wrth edrych tua'r dyfodol. 

Y Daith tuag at Gymhwysedd

Nod model y Daith tuag at Gymhwysedd yw manylu ar y gwahanol lwybrau cynnydd er mwyn dangos: 

  • dewisiadau gyrfa ar gyfer pob galwedigaeth neu 
  • yr opsiynau ym mhob sector o ran swyddi newydd a phontio 
  • yr ystod o sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael

Bydd y Daith tuag at Gymhwysedd yn sicrhau bod y cymwysterau cywir yn cefnogi ac yn diwallu anghenion y diwydiant, gan ddarparu gweithlu cymwys a medrus. Bydd yn helpu i gynnig opsiynau clir fel y gall unigolion wneud dewisiadau deallus ynghylch eu gyrfa mewn ystod o alwedigaethau, a allai hefyd helpu i fynd i’r afael â stereoteipiau. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu'r model hwn ar draws pob sector. 

Ailedrych ar Sectorau 

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda sectorau a chydweithwyr polisi i ddeall sut mae sectorau yn newid. Mae ein polisi Sero Net yn cydnabod y bydd pob swydd yn newid i gyd-fynd â'n dyfodol Sero Net, rhai i raddau llai nag eraill, ond bydd angen iddynt newid ac addasu, ac yn sylfaenol i hynny y mae meithrin sgiliau newydd a newid y ffordd rydym yn gweithio. Byddwn yn gweithredu ar adborth a chanlyniadau'r ymgynghoriad a Mapiau Ffordd Sectorau, byddwn yn edrych ar ffyrdd newydd o dynnu sylw at yr hyn sydd gan sector i'w gynnig a sut mae'n newid, sut rydym yn ysbrydoli gweithlu'r dyfodol i ymuno â'r sectorau a'r galwedigaethau hyn yn ogystal ag amlygu cyfleoedd heddiw ac i'r dyfodol. 

Bellach, mae Gweithredu ar Hinsawdd Cymru yn cynnwys gwybodaeth a dolenni ar Addysg, Sgiliau a Gyrfaoedd:Newid Hinsawdd – Gweithredu ar Hinsawdd Cymru (llyw.cymru).

Swyddi yn y Dyfodol - Gyrfa Cymru

Un o'r gwefannau y mae gwefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru yn darparu dolen iddi yw Gyrfa Cymru, sy'n rhoi gwybodaeth am swyddi yn y dyfodol. Mae'r safle bellach yn cynnwys data rhanbarthol sy'n cynnwys rhestrau o ysgolion a cholegau ym mhob ardal ac yn amlygu sectorau blaenoriaeth. Mae manylion pellach ar gael ar y sectorau Adeiladu, Ynni ac Iechyd, ac mae'r wybodaeth am sectorau pellach yn cael ei datblygu.

Ein hamcanion gweithredu yn 2024

  • Cyhoeddi adroddiad am ganfyddiadau'r ymgynghoriad ar sgiliau sectorau mewn perthynas â sero net.
  • Cyhoeddi a gofyn am adborth ar ddrafftiau cychwynnol o fapiau ffordd sgiliau sectorau, yn seiliedig ar ganlyniadau'r ymgynghoriad.
  • Parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi ein sectorau allweddol.
  • Cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth ledled Cymru, ac yn rhithiol, gyda'r nod o rannu canlyniadau'r ymgynghoriad a cheisio adborth ar y mapiau ffordd drafft ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf.
  • Creu a chodi ymwybyddiaeth o becyn cymorth diwygiedig i gyflogwyr, sy'n tynnu sylw at fanteision sgiliau a chyfleoedd uwchsgilio i fusnesau.
  • Cwblhau adolygiad o'r system sgiliau ehangach, gan gynnwys y cynnig i unigolion. 
  • Cryfhau cynnwys cyffredinol gwefannau, gan gynnwys astudiaethau achos pellach sy'n tynnu sylw at y camau sydd eisoes yn cael eu cymryd ledled Cymru sy'n cyfrannu at ein taith tuag at sero net, ac sy'n dangos manteision buddsoddi mewn sgiliau ac ysbrydoli gweithlu'r dyfodol.
  • Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Sgiliau yng nghyd-destun y Fframwaith Pontio Teg.

Dyma rai o'r camau gweithredu a gwblhawyd yn 2023

Cyhoeddi ein cynllun gweithredu ar sgiliau sero net ym mis Chwefror 2023

Yn dilyn ymgynghoriad helaeth ag ystod eang o randdeiliaid, rydym wedi cyhoeddi ein cynllun gweithredu cyntaf. Mae'r cynllun yn nodi 36 o gamau gweithredu ar draws 7 maes blaenoriaeth, gyda'r nod o ddarparu sgiliau sy'n cefnogi'r broses bontio i sero net.

Lansio ymgynghoriad ar sgiliau sero net sectorau ym mis Hydref 2023

Nod yr ymgynghoriad oedd adeiladu ar y wybodaeth a gofnodwyd yn y cynllun gweithredu ar sgiliau sero net. Daeth y ffenestr ymgynghori i ben ar 31 Rhagfyr 2023, a'r gynulleidfa darged oedd yr holl randdeiliaid sydd â buddiant mewn cyfrannu at a llywio'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi ein taith tuag at sero net.