Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

I lawer o bobl, bydd gwyliau'r Nadolig 2021 wedi rhoi amser yr oedd mawr ei angen iddynt gyda'u teuluoedd, wrth i'r pandemig barhau i effeithio ar ein bywydau bob dydd.

I’r rhai hynny â theuluoedd ifanc, efallai mai'r amser hwnnw oedd yr anrheg orau y gallai pobl ei roi i'w plant - anrheg a fydd o fudd iddynt ar hyd eu hoes.

Yn ôl arbenigwyr, gall hyd yn oed cynnydd bach yn yr amser sy’n cael ei dreulio yn rhyngweithio â phlant ifanc roi hwb enfawr i'w sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Mae arbenigwyr yn dweud bod siarad â phlant drwy chwarae, darllen, neu sgwrsio cyffredinol, yn helpu eu hymennydd i dyfu a datblygu. Gall hyd yn oed y camau symlaf eu helpu i ddatblygu wrth iddynt ddysgu ffurfio geiriau newydd, gwneud cysylltiadau rhwng geiriau, a rhoi brawddegau at ei gilydd.

Gall y sgiliau hynny hefyd helpu plant i fynegi eu hunain, gwneud ffrindiau'n haws, a theimlo'n hapusach. Profwyd hefyd y gall clywed mwy nag un iaith o oedran cynnar helpu plant gyda'u gallu i ddysgu'n ddiweddarach mewn bywyd.

Ond, beth yw'r tips a'r gweithgareddau y gall rhieni a gofalwyr eu defnyddio i helpu eu plant i ddatblygu?

Nod rhaglen Siarad Gyda Fi Llywodraeth Cymru yw rhannu cyngor ar sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gyda rhieni a'r rhai sy'n gofalu am blant rhwng 0-5 oed.

Yma, mae therapyddion iaith a lleferydd yn datgelu rhai o'r pethau bach y gallwch chi eu gwneud i helpu hybu datblygiad plentyn a rhoi'r dechrau gorau iddo mewn bywyd.

1. A yw siarad gyda fy mabi cyn iddo gael ei geni yn helpu?

Ydy! Mae ymchwil yn dangos y gall babanod glywed lleisiau tra byddant yn dal yn y groth erbyn tua 24 wythnos – felly nid oes rhaid i chi aros i'ch babi gael ei eni cyn dechrau siarad ag ef.

Yn wir, gall siarad am yr hyn yr ydych chi'n ei wneud, yr hyn y gallwch chi ei weld, hyd yn oed ganu caneuon a rhigymau neu ddarllen cylchgrawn yn uchel i'ch bwmp, i gyd helpu gyda'i ddatblygiad iaith yn nes ymlaen.

Ar ôl iddo gael ei eni, mae hefyd yn ymateb yn gryfach i leisiau y mae wedi'u clywed tra yn y groth.

2. Rwyf eisiau rhannu amser stori gyda fy mhlentyn, ond beth gallaf i ei wneud os na allaf ddod o hyd i lyfr yn fy iaith fy hun?

Nid oes angen i iaith fod yn rhwystr i fwynhau amser stori gyda'ch gilydd.

Peidiwch â theimlo dan bwysau i ddarllen yr hyn sydd wedi'i ysgrifennu ar y dudalen. Bydd mynd drwy lyfr a siarad am y pethau yr ydych chi'n eu gweld yn yr iaith yr ydych chi fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio yn ei helpu i adnabod geiriau. Bydd eich plentyn yn gwrando ar y geiriau yr ydych chi'n eu defnyddio ac yn eu cysylltu â'r lluniau y mae'n eu gweld.

A pheidiwch â phoeni am eich plentyn yn dysgu un iaith gartref ac un arall yn y feithrinfa neu'r ysgol – mae'n naturiol ac yn fuddiol. Mae plant yn gallu codi mwy nag un iaith yn hawdd o'u genedigaeth, ac mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn ddwyieithog neu'n amlieithog.

3. Sut y gallaf gael sylw fy mhlentyn pan fyddaf eisiau siarad gyda nhw?

Mae math o ryngweithio o'r enw "siarad digwyddiadol", sydd yn y bôn yn golygu siarad â'ch plentyn am y peth y mae’n canolbwyntio arno.

Felly, os yw eich plentyn yn eistedd ar y llawr a'ch bod yn gallu mynd i lawr i'w lefel hefyd, ymunwch ag ef! Yn syml, mae eistedd gydag ef am ychydig funudau bob dydd, gan sicrhau eich bod wyneb yn wyneb, a chymryd rhan yn yr hyn y mae’n ei wneud, yn helpu i rannu ei ffocws ac yn gallu rhoi hwb gwirioneddol i'w ddatblygiad iaith.

Os yw plentyn yn gwneud ystum tuag at goeden y tu allan, gallwch ddweud pethau fel "dyna goeden fawr" neu "mae'r goeden yna'n cael ei chwythu gan y gwynt". Ceisiwch beidio â phoeni am fod yn wirion neu wneud synau doniol yn gyhoeddus wrth sôn am y pethau yr ydych chi'n eu gweld – byddant yn diolch i chi yn nes ymlaen!

4. Alla i ddim canu, ond rwy'n gwybod ei fod yn helpu fy mhlentyn - beth ddylwn i ei wneud?

Mae llawer ohonom ni’n teimlo nad oes gennym leisiau canu gwych – ond y gwir amdani yw bod gennych chi'r llais harddaf yn y byd i'ch plentyn. Peidiwch â chael eich twyllo neu eich cywilyddio – rydych chi'n gwneud gwyrthiau ar gyfer datblygiad eich plentyn.

Mae hwiangerddi gyda symudiadau, fel "Heads, shoulders, knees and toes" yn Saesneg, neu "Mi welais jac-y-do" yn Gymraeg, yn ganeuon gwych i'w canu gyda'ch plentyn oherwydd eu bod yn cynnwys symudiadau sy'n golygu bod y geiriau'n fwy tebygol o aros yn ei gof.

5. Faint o amser ddylwn i ei dreulio'n siarad gyda fy mhlentyn?

Mae llawer o bwysau ar ein hamser ac mae llawer ohonom ni’n brysur iawn, ond mae dod o hyd i hyd yn oed ychydig funudau'r dydd i ganolbwyntio'n llawn ar eich plentyn yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr iddo.

Ceisiwch wneud y mwyaf o'r amser pan fyddwch chi’n gwneud rhywbeth arall. Felly, siaradwch gyda'ch plentyn tra byddwch yn rhoi trefn ar y golchi, gan enwi mathau o eitemau wrth i chi eu casglu, neu dynnu sylw at y lluniau ar eu dillad.

Canolbwyntiwch ar geisio cynnwys adegau bach o ryngweithio drwy gydol y dydd.

6. Beth ddylwn i ei wneud os nad yw fy mhlentyn yn hoffi eistedd i lawr i ddarllen llyfr?

Nid yw eistedd yn dawel a gwrando ar stori yn hawdd i bob plentyn, felly ffordd wych o'u cael i gymryd rhan ar amser darllen yw caniatáu iddo ddefnyddio llyfrau fel teganau. Gall gadael iddo drin a chwarae gyda llyfr mewn ffordd sy'n bleserus iddo greu profiad hwyliog y bydd eisiau ei ailadrodd.

Edrychwch ar yr hyn y mae gan eich plentyn ddiddordeb ynddo, beth y mae eisiau siarad amdano, a'r lluniau y mae’n pwyntio atynt. Ac os yw eisiau darllen yr un llyfr dro ar ôl tro, mae hynny'n gwbl arferol – po fwyaf y mae’n clywed yr un geiriau, y mwyaf tebygol y bydd o'u deall a'u defnyddio.

7. A ddylwn i boeni am yr amser y mae fy mhlentyn yn ei dreulio o flaen sgrin?

Mae llawer o blant yn treulio peth amser ar sgriniau yn ystod y dydd – y peth allweddol yw troi hyn yn gyfle i chi ryngweithio â'ch gilydd.

Rhowch gynnig ar edrych ar luniau gyda'ch gilydd ar y sgrin a siarad am yr hyn sy'n digwydd ynddynt, neu wylio rhaglenni gyda'ch gilydd a siarad am ei hoff gymeriadau a beth sy'n digwydd.

8. Beth allaf ei wneud i helpu i ddatblygu geirfa fy mhlentyn?

Ffordd wych o wneud hyn yw ychwanegu gair at yr hyn y mae eich plentyn eisoes wedi'i ddweud, ac felly ei gyflwyno i rai newydd.

Os yw eich plentyn yn dweud "car", gallech ddweud "car mawr" neu "car cyflym". Os yw'r plentyn yn dweud "nain" gallech ddweud "ie, ry’ ni’n mynd i dŷ nain". Mae'n ymwneud ag ehangu ar yr hyn y mae eisoes wedi'i ddweud i'w helpu i ddatblygu ymadroddion a brawddegau byr.

9. Beth allaf ei wneud i helpu fy mhlentyn i siarad gyda phobl eraill neu aelodau o'r teulu os yw’n swil?

Mae plant wrth eu bodd yn rhyngweithio â llawer o wahanol bobl, ond mae'n arferol iddynt fod yn swil o gwmpas pobl nad ydynt yn eu hadnabod neu nad ydynt wedi gweld llawer ohonynt.

Bydd lleihau'r pwysau ar blant i siarad yn eu helpu i feithrin y sgiliau cyfathrebu hynny yn y tymor hir.

Gallwch ei annog i ryngweithio heb bwyso arno i siarad, drwy wneud pethau fel cyfarch y person arall eich hun mewn ffordd gyfeillgar a syml. Ceisiwch wrthsefyll y demtasiwn i ofyn i'ch plentyn siarad. Bydd yn gwrando ac yn eich gwylio, ac efallai y bydd yn eich copïo beth bynnag os nad yw’n teimlo dan bwysau i wneud hynny.

Mae’n bwysig iawn bod babanod a phlant ifanc yn datblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu er mwyn rhoi dechrau da iddyn nhw mewn bywyd. Gall y camau symlaf gael effaith gadarnhaol iawn ar eu bywydau.

Mae helpu'ch plentyn i feithrin y sgiliau hyn yn golygu bod ganddo siawns lawer gwell o allu siarad yn glir ac yn hyderus, a fydd wedyn yn ei helpu i ddysgu yn y feithrinfa ac yn y ddarpariaeth cyn-ysgol yn ogystal â gwneud ffrindiau.

Mae llawer o ffyrdd y gall pobl yng Nghymru gael cyngor a hyfforddiant i helpu gyda hyn, gan gynnwys mynd i wefan Siarad Gyda Fi, a chwilio am yr adran 'gwasanaethau plant' neu 'therapi lleferydd ac iaith' ar wefan eich bwrdd iechyd.

Gall staff mewn darpariaethau cyn-ysgol hefyd drafod pethau syml y gallwch eu hychwanegu at eich arferion dyddiol gartref yn ogystal â phan fyddwch allan.

Lisa Davies, Athrawes Ymgynghorol Addysg Blynyddoedd Cynnar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy