Sicrhau tryloywder i berchnogion tai rhydd-ddaliad sy'n talu taliadau gweinyddu
Hoffem glywed eich barn ar gynigion i weithredu agweddau ar Ran 5 o Ddeddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 mewn perthynas â Thaliadau Gweinyddu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae hwn yn ymgynghoriad ynghylch arfer pwerau Gweinidogion Cymru yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, mewn perthynas â Rhan 5 – Taliadau Gweinyddu (Administration Charges) fel y'u hamlinellir yn Adrannau 83 i 87.
Sut i ymateb
Gellir cyflwyno ymatebion drwy e-bost, drwy'r post neu drwy ffurflen ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dylid anfon ymatebion drwy e-bost/post i'r cyfeiriad isod, i gyrraedd hanner nos ar 12 Mawrth 2026 fan bellaf. Cofiwch sicrhau eich bod yn nodi 'Ymgynghoriad: Sicrhau tryloywder i berchnogion tai rhydd-ddaliad sy'n talu taliadau gweinyddu' yn y llinell pwnc/pennawd.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau print bras a Braille o'r ddogfen hon ar gael ar gais ynghyd â chopïau mewn ieithoedd eraill.
Manylion cyswllt
Am ragor o wybodaeth:
Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol a'r Is-adran Busnes Strategol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: leaseholdreform@llyw.cymru
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd / This document is also available in English: Transparency to freehold homeowners who pay an administration charge on privately managed estates | GOV.WALES
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yn eich ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith dadansoddi ar ymatebion i ymgyngoriadau, mae'n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol sy'n cael eu cadw amdanoch chi, a'u gweld
- i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i ofyn am i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd y data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd y mae'n cael ei defnyddio, neu os hoffech chi arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
Y Cefndir
Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 ('Deddf 2024') yn cyflwyno rheolau newydd i roi rhagor o hawliau ac amddiffyniadau i berchnogion tai a lesddeiliaid.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o'r pecyn gwaith i weithredu Rhan 5 o Ddeddf 2024 , a fydd yn rhoi hawliau, amddiffyniadau a phwerau newydd i berchnogion tai ar ystadau a reolir yn breifat i wneud eu rheolwr ystad yn atebol am yr arian mae'n ei wario. Mae'r fframwaith hwn wedi cael ei adeiladu o amgylch yr hawliau sydd eisoes gan lesddeiliaid, ac mae'n cynnwys sicrhau tryloywder ynghylch taliadau rheoli ystadau, rhoi hawl i berchnogion tai herio rhesymolrwydd eu taliadau, a chaniatáu i'r perchnogion tai hyn wneud cais i dribiwnlys i benodi rheolwr os bydd methiannau rheoli difrifol.
Yr ysgrifennydd Gwladol sy'n arfer mwyafrif y pwerau i wneud rheoliadau yn Rhan 5 o Ddeddf 2024, gyda nifer fach o bwerau mewn perthynas â Chymru sydd i'w harfer gan Weinidogion Cymru. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynigion mewn perthynas â 'thaliadau gweinyddu' (administration charges) sy'n gysylltiedig â rheolwyr ystadau yng Nghymru.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ymgynghori ar gynigion a fydd yn llunio'r drefn newydd yng Nghymru a Lloegr, a gallwch rannu eich barn ar yr elfennau hynny (ac eithrio cynigion ynghylch taliadau gweinyddu, sydd ar gyfer Lloegr yn unig) yma: https://www.gov.uk/government/consultations/enhanced-protections-for-homeowners-on-freehold-estates
Yn y ddogfen hon
- Mae 'rheolwr ystad' (estate manager) yn cyfeirio at [1] gwmnïau rheoli preswylwyr (RMCs) a chwmnïau[2] rheoli a ymgorfforwyd (EMCs), neu gyrff eraill o bersonau sy'n rheoli ystadau ac sy'n adennill y costau drwy rwymedigaethau perthnasol.
- Ystyr 'perchennog tŷ' (homeowner) yw unrhyw un sydd â buddiant rhydd-ddaliad neu lesddaliad mewn tŷ neu fflat ac y mae'n rhaid iddo dalu tâl gweinyddu.
- Mae 'tribiwnlys priodol' (appropriate tribunal) yn cyfeirio at Dribiwnlys Prisio Lesddaliad yng Nghymru (neu'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn Lloegr).
Cefndir yr ymgynghoriad hwn
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â'r rheolau newydd ynghylch tryloywder unrhyw daliadau gweinyddol sy'n gysylltiedig â thaliadau rheoli ystadau, y mae'n rhaid i berchnogion tai eu talu, fel y nodir yn Adrannau 83 i 87 o Ddeddf 2024. Pan fydd yr holl ddarpariaethau yn Rhan 5 wedi cael eu cychwyn, a bod is-ddeddfwriaeth wedi cael ei gwneud, bydd fframwaith rheoleiddio newydd sy'n berthnasol i dalu taliadau gweinyddu mewn cysylltiad â'r taliadau rheoli ystad ar waith.
Hoffem glywed eich barn ar ein cynigion, a bydd eich adborth yn llywio is-ddeddfwriaeth ynghylch ffurf a chynnwys yr atodlen taliadau gweinyddu.
Cyflwyniad
- Mae angen amwynderau fel ffyrdd, carthffosydd, draenio, a mannau agored ar ddatblygiadau preswyl. Mae awdurdodau perthnasol, fel awdurdodau priffyrdd a chwmnïau dŵr, yn aml yn 'mabwysiadu' amwynderau ar ddatblygiadau newydd fel mater o gwrs, fel eu bod yn cael eu cynnal ar draul y pwrs cyhoeddus. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd mewn rheolaeth breifat ar ystadau tai lle nad yw rhywfaint neu'r cyfan o'r seilwaith a rennir yn cael ei gynnal gan yr awdurdodau perthnasol – yn hytrach mae perchnogion tai yr ystad, yn rhinwedd telerau perchnogaeth eu cartrefi, yn ysgwyddo'r costau cynnal a chadw parhaus. Mae'r trefniant hwn yn arwain at yr hyn a elwir yn 'tâl rheoli ystad'. Mae talu 'tâl rheoli ystad' yn ychwanegol at y dreth gyngor. Amcangyfrifodd adroddiad 2024 yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i'r diwydiant adeiladu tai mai'r tâl rheoli ystadau cyfartalog ym Mhrydain Fawr yn 2022 oedd £358 y flwyddyn, ond roedd yn amrywio yn fawr yn dibynnu ar amgylchiadau ystadau[3] unigol.
- Cafwyd dros 600 o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar daliadau ystadau yn 2020[4], gan gynnwys gan 566 o berchnogion tai a phreswylwyr, wyth datblygwr a nifer o gwmnïau rheoli, awdurdodau lleol, asiantau gosod a chyfreithwyr eiddo. O hyn ymddengys bod y swm blynyddol wedi'i dalu mewn daliadau ystad gan drigolion yng Nghymru yn amrywio o £50 i £500, gyda'r rhan fwyaf yn talu oddeutu £100–150.
- Cyn Deddf 2024 nid oedd unrhyw fframwaith rheoleiddio ar waith i reoli costau a gwneud rheolwyr ystadau yn atebol. Nid oedd gan berchnogion tai lawer o hawliau ac i rai eu hunig bŵer oedd gwneud cais i'r llys sirol am dorri contract. Roedd gwneud hyn yn gostus, ac mae'n parhau i fod yn gostus a chymryd llawer o amser. Mae hyd yn oed perchnogion tai sy'n byw ar ystadau sy'n cael eu rhedeg gan gwmnïau rheoli preswylwyr yn wynebu anawsterau, oherwydd bod eu dylanwad yn gyfyngedig o hyd a gallent ei chael yn anodd cael y wybodaeth a oedd ei hangen arnynt am eu taliadau neu gael iawn pan aeth pethau'n o'i le.
- Mae Rhan 5 o Ddeddf 2024 yn rhoi hawliau ac amddiffyniadau statudol newydd i berchnogion tai i wneud yn siŵr bod rheolwyr ystad yn atebol am yr arian maent yn ei wario, ac i geisio iawn pan fyddant yn ystyried bod taliadau yn afresymol.
Atebolrwydd rheolwyr ystadau
- Ar hyn o bryd, ychydig iawn o ofynion cyfreithiol sydd ar reolwyr ystadau, y tu hwnt i'r rhai a nodir ar weithredoedd eiddo, i fod yn dryloyw wrth godi a mynnu taliadau rheoli ystad ac i ddarparu gwybodaeth i berchnogion tai.
- Bydd perchnogion tai, o dan delerau gweithredoedd eiddo, fel arfer yn derbyn bil am ddarparu gwasanaethau i gynnal a chadw mannau cymunedol ar ystadau. Mae amlder biliau a'r wybodaeth a roddir ochr yn ochr â nhw yn dibynnu ar y telerau a nodir yn y gweithredoedd eiddo ac, y tu hwnt i hynny, bydd yn fater i'r cwmni rheoli ystadau. Mae'r un peth yn berthnasol i geisiadau am wybodaeth i helpu perchnogion tai i ddeall beth maent yn talu amdano.
Taliadau gweinyddu
- Mae adrannau 83 i 87 o Ddeddf 2024 yn creu fframwaith rheoleiddio newydd sy'n ymwneud â thalu taliadau gweinyddu. Dyma'r taliadau y gall rheolwr ystad eu codi, yn ychwanegol at y tâl rheoli ystad, am ddelio â cheisiadau penodol (megis ymgymryd â newidiadau eiddo neu is-osod). Mae adran 83(1) o Ddeddf 2024 yn diffinio'r math o geisiadau neu amgylchiadau a all arwain at daliadau gweinyddu. Mae adran 83(2) yn egluro nad yw'r diffiniad o 'tâl gweinyddu' yn cynnwys faint sy'n daladwy gan denant annedd lle bodlonir amodau penodol. Bwriad y ddarpariaeth hon yw eithrio'n benodol 'ffioedd digwyddiadau', a ddefnyddir yn aml yn y sector tai ar gyfer pobl sydd wedi ymddeol. Bydd adrannau 86 ac 87 o'r Ddeddf, pan fyddant wedi cychwyn, yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl daliadau gweinyddu fod yn rhesymol ac yn agored i gael eu herio yn y tribiwnlys priodol, sef y Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yng Nghymru.
- Mae adran 83(3) o Ddeddf 2024 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygio'r diffiniad o 'administration charge'. Ein safbwynt cychwynnol yw nad oes angen newid y diffiniad ar hyn o bryd, ond byddwn yn parhau i adolygu'r mater hwn. Hoffem dderbyn eich sylwadau ynghylch y safbwynt hwn.
83 Meaning of “administration charge”
(1) For the purposes of this Part, “administration charge” means an amount payable, directly or indirectly, by an owner of a dwelling—
(a) for or in connection with—
(i) the grant of approvals in connection with a relevant obligation, or
(ii) applications for such approvals;
(b) for or in connection with the provision of information or documents by or on behalf of an estate manager;
(c) for or in connection with—
(i) the sale or transfer of land to which a relevant obligation relates, or
(ii) the creation of an interest in or right over that land;
(d) in respect of a failure by the owner to make a payment by the due date under a relevant obligation;
(e) in connection with a breach (or alleged breach) of a relevant obligation.
(2) But “administration charge” does not include an amount payable by a tenant of a dwelling in a case where all of the following conditions are met—
(a) the tenant’s lease specifies that only a person who has attained a minimum age may occupy the dwelling;
(b) the amount is payable under a term of the tenant’s lease or is otherwise payable in connection with the tenant’s lease;
(c) the amount is payable if—
(i) the tenant’s lease is granted, assigned or terminated,
(ii) a lease of the dwelling which is inferior to the tenant’s lease is granted, assigned or terminated, or
(iii) there is a change in the person or persons occupying the dwelling;
(d) the amount is fixed or is calculated by a method determinable in advance;
(e) any other conditions specified in regulations made by the appropriate authority.
(3) The appropriate authority may by regulations make provision (including provision amending this Act) so as to amend the definition of “administration charge”.
(4) A statutory instrument containing regulations under this section (whether alone or with other provision) is subject to the affirmative procedure
Dyletswydd i gyhoeddi atodlen taliadau gweinyddu
- Mae Adran 84 o Ddeddf 2024 yn cyflwyno gofyniad newydd ar reolwyr ystadau, sy'n disgwyl y byddant yn codi tâl gweinyddu, i gyhoeddi atodlen taliadau gweinyddu sy'n dangos y taliadau gweinyddol y bydd angen i berchnogion tai unigol eu talu. Fel arall, os na ellir dweud yn union faint fydd y tâl ymlaen llaw yn yr atodlen, dylid dangos y ffordd y bydd y tâl yn cael ei gyfrifo. Mae'n bosibl y bydd rheolwyr ystadau adolygu atodlen gyhoeddedig ac os ydynt yn gwneud hynny rhaid iddynt ei chyhoeddi. O dan adran 86, nid yw rheolwyr ystadau cael gofyn am daliadau tan 28 diwrnod ar ôl i'r atodlen ddiwygiedig sy'n eu nodi gael ei chyhoeddi. Bydd hyn yn cynyddu tryloywder taliadau gweinyddol ar gyfer perchnogion tai, gan eu galluogi i gael gwybod yn well am daliadau gweinyddu y gallant eu hwynebu a chaniatáu iddynt fod yn fwy gwybodus os ydynt yn dymuno herio taliadau gweinyddu y maent yn teimlo eu bod yn afresymol.
- Yn nes ymlaen yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnig y dylid anfon yr atodlen taliadau gweinyddu at berchnogion tai bob blwyddyn, ar unrhyw adeg mae taliadau yn cael eu diweddaru – neu ar gais. Am y rheswm hwn, nid ydym yn cynnig y dylai rheoliadau bennu sut y dylid cyhoeddi taliadau. Ni fydd hyn yn atal taliadau rhag cael eu cyhoeddi drwy wefan neu ddulliau addas eraill.
Ffurf a chynnwys yr atodlen taliadau gweinyddu
- Credwn y dylai'r atodlen taliadau gweinyddu fod yn glir, yn hawdd ei deall ac yn ddigon manwl i roi gwybod i berchnogion tai am gostau posibl y byddant yn gorfod eu talu dros y flwyddyn ganlynol. Bydd safoni ffurf a chynnwys yr atodlen taliadau gweinyddu yn ceisio pennu'r manylion gofynnol mae angen eu cynnwys, yn hytrach na chyfyngu ar yr wybodaeth ar roddir. Mae rheolwyr ystad yn gallu dewis darparu rhagor o fanylion os dymunant. Hoffem gael barn ynghylch yr wybodaeth ofynnol mae angen ei darparu ar yr atodlen taliadau gweinyddu newydd.
- Mae ffurf a chynnwys arfaethedig yr atodlen taliadau gweinyddu yn Atodiad A. Fel sy'n ofynnol gan adran 84(2) o Ddeddf 2024, mae'n nodi costau sefydlog lle y gellir nodi'r union gost, a gwybodaeth am sut y bydd y taliad yn cael ei gyfrifo, os nad yw'r union gost yn hysbys
Darparu'r atodlen taliadau gweinyddu
- Rydym yn cynnig y dylid darparu'r atodlen taliadau gweinyddu o leiaf unwaith y flwyddyn. Rydym yn nodi bod Llywodraeth y DU yn cynnig yn eu hymgynghoriad y dylid cynnwys yr atodlen taliadau gweinyddu yn yr adroddiad blynyddol (sy'n ofynnol o dan adran 79 o Ddeddf 2024). Rydym yn cynnig y byddai gwneud hyn bob blwyddyn yn caniatáu i'r atodlen taliadau gweinyddu gael ei darparu yn y modd hwn, os dymunir. Yn ogystal, rydym yn cynnig y dylid ei roi i'r perchennog tŷ ar wahân pan fydd rheolwr ystâd yn adolygu ei atodlen taliadau gweinyddu. Rydym hefyd yn cynnig y dylid darparu'r atodlen taliadau gweinyddu i berchnogion tai ar unrhyw adeg ar gais.
- Dylai rheolwyr ystadau ddarparu'r atodlen taliadau gweinyddu mewn fformat hygyrch. Rydym o'r farn y dylai rheolwyr ystad gael darparu'r wybodaeth hon yn electronig ond dylent hefyd wneud hynny drwy'r post, os yw perchennog y tŷ yn dymuno neu'n gofyn am hynny.
- Rydym hefyd yn ystyried a ddylid rhoi'r atodlen i brynwyr hefyd yn ystod y broses drawsgludo.
Trefniadau pontio - Rheolwyr ystadau ac asiantau rheoli yn unig
- Mae'r adran ganlynol a'r cwestiynau ar gyfer rheolwyr ystadau ac asiantau rheoli yn unig. Mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw gostau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â gweithredu'r gofyniad am atodlenni taliadau gweinyddu.
- Rydym yn cydnabod y bydd cost y gofynion newydd hyn yn effeithio ar gwmnïau rheoli ystadau ac asiantau rheoli mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu ar y systemau sydd ganddynt ar hyn o bryd a'r graddau y maent eisoes yn darparu gwybodaeth am daliadau.
- Rydym am ddeall sut y bydd y gofyniad newydd hwn yn effeithio ar fusnesau, ac rydym hefyd yn cydnabod y gallai fod angen cyfnod pontio, er enghraifft i ddiweddaru systemau TG, hyfforddi staff neu addasu eu prosesau i fodloni'r gofynion newydd.
- Rydym am i'r cyfnod pontio fod mor fyr â phosibl ac yn cynnig y byddai 12 mis yn briodol. Fodd bynnag, byddem yn croesawu barn ynghylch cyfnod pontio addas a fyddai'n briodol i baratoi ar gyfer y gofyniad newydd i ddarparu atodlen taliadau gweinyddu.
Atodiad A: Fformat yr atodlen taliadau gweinyddu
TEMPLED ATODLEN TALIADAU GWEINYDDU
Rhaid i bob rheolwr ystad (ac asiant rheoli) lenwi'r ffurflen hon os yw'n disgwyl codi tâl gweinyddu. Mae'n rhaid i'r ffurflen hon gael ei darparu i berchnogion tai bob blwyddyn, ac ar gais. Rhaid i bob rheolwr ystad (ac asiant rheoli) ddiweddaru a darparu'r ffurflen hon i berchnogion tai fwy na 28 diwrnod cyn i daliadau newydd ddod i rym. Bydd methu â chydymffurfio â'r gofynion hyn yn caniatáu i berchennog tŷ wneud cais i'r tribiwnlys priodol, a all ddyfarnu iawndal o hyd at £1,000.
| Disgrifiad: Mae'r ffioedd hyn yn cael eu pennu gan delerau trosglwyddo gweithredoedd eiddo neu maent yn gostau wedi'u pennu ymlaen llaw. | |
|---|---|
| Tariff arfaethedig (heb gynnwys TAW) | |
| Unrhyw dâl am gopi papur o anfoneb*[5] | |
| Tâl am hysbysiad cyntaf am dalu'n hwyr* | £xx |
| Taliadau am hysbysiad talu dilynol* | £xx |
| Ffi am amrywio telerau gweithredoedd eiddo* | £xx |
| Ffi am ddarparu gwybodaeth benodol* | £xx |
| Cost ceisio caniatâd i wneud newidiadau i wedd allanol yr eiddo* | £xxx |
| Disgrifiad: Mae'r rhain yn gostau nad yw'n bosibl eu nodi ymlaen llaw. Ar gyfer pob tâl y gellir ei godi, dylai'r disgrifiad gynnwys sut y bydd maint y tâl yn cael ei gyfrifo os bydd yn daladwy. | |
|---|---|
| Disgrifiad o'r tâl | Disgrifiad o sut y bydd y tâl sy'n daladwy yn cael ei gyfrifo |
Cwestiynau
Cwestiwn 1
A oes angen newid y diffiniad o 'dâl gweinyddu' (administration charge) ar hyn o bryd? Oes/Nac oes
Os OES, rhowch fanylion [testun rhydd]
Cwestiwn 2
Mae adran 83(2) yn nodi amodau sydd, os cânt eu bodloni, yn golygu na fydd tâl yn cael ei ystyried yn dâl weinyddu. Allwch chi feddwl am unrhyw amodau eraill a ddylai, pe baent yn cael eu bodloni, yn golygu na ddylai swm sy'n daladwy gan berchennog cartref gael ei ystyried yn 'dâl gweinyddu'?
Rhowch fanylion [Testun rhydd]
Cwestiwn 3
A ydych yn meddwl bod angen nodi sut y dylid cyhoeddi taliadau gweinyddu, os yw rheoliadau'n nodi y dylid anfon yr amserlen i berchnogion tai bob blwyddyn, ac ar unrhyw adeg mae'r taliadau'n cael eu diweddaru? [Ydw/Nac ydw]
Os nad ydych, sut ydych yn ystyried y dylid cyhoeddi'r atodlen taliadau gweinyddu? [Testun rhydd]
Cwestiwn 4
A ydych yn cytuno â'r cynigion i safoni ffurf a chynnwys yr atodlen taliadau gweinyddu fel y nodir yn Atodiad A? [Ydw/Nac ydw]
Cwestiwn 5
Allwch chi feddwl am unrhyw wybodaeth ychwanegol y dylid ei chynnwys yn Atodiad A [Ydw/Na]
Os ydych, pa newidiadau sydd eu hangen yn eich barn chi? [Testun rhydd]
Cwestiwn 6
A ydych yn meddwl y dylai'r tâl gweinyddu gael ei roi i berchnogion tai bob blwyddyn? [Ydw/Nac ydw]
Os nac ydych, pa mor aml y dylid gwneud hyn?
Cwestiwn 7
A ydych yn credu y dylai'r atodlen taliadau gweinyddu fod ar gael drwy'r post a/neu'n electronig? [Ydw/Nac ydw]
Os nac ydych, esboniwch [Testun rhydd].
Cwestiwn 8
A ydych yn meddwl y dylai rheolwyr ystadau wneud yr atodlen taliadau gweinyddol ar gael ar gais, yn ogystal ag yn flynyddol a phan fydd diwygiadau wedi cael eu gwneud? [Ydw/Nac oes] Os nac ydych, esboniwch [testun rhydd]
Cwestiwn 9
A ydych yn meddwl y dylai'r atodlen taliadau gweinyddu fod ar gael i ddarpar brynwyr fel rhan o'r broses drawsgludo? [Ydw/Nac ydw] Esboniwch os oes unrhyw broblemau neu bryderon ynghylch y dull hwn [Testun rhydd]
Cwestiwn 10
A oes unrhyw sefyllfaoedd eraill pan fyddwch yn meddwl y dylai rheolwyr ystadau allu, neu orfod, rhoi'r atodlen taliadau gweinyddu i berchnogion tai? Rhowch fanylion [Testun rhydd]
Cwestiwn 11
Rheolwyr ystadau ac asiantau rheoli yn unig: A fyddai angen ichi wneud addasiadau sylweddol i'ch systemau i fodloni'r gofyniad am atodlen taliadau gweinyddu newydd? [Byddai/Na fyddai/Ansicr]
Os byddai, a fyddai unrhyw addasiadau yn cael eu rhoi ar gontract allanol (er enghraifft, i ddarparwr meddalwedd TG)? [Testun rhydd]
Cwestiwn 12
Rheolwyr ystadau ac asiantau rheoli yn unig: Faint fyddai'n ei gostio i chi (neu i'r darparwr pe bai'n cael ei roi ar gontract allanol) o ran costau sefydlu i addasu systemau i gasglu a darparu'r wybodaeth a gynigir ar gyfer yr atodlen taliadau gweinyddu ac wedi hynny costau parhaus ychwanegol?
Rhowch ddadansoddiad o'r costau sefydlu/untro a allai fod eu hangen ac unrhyw gostau ychwanegol am ddarparu'r wybodaeth a allai barhau i fod, ar ôl sefydlu'r broses. [Testun rhydd]
Cwestiwn 13
Rheolwyr ystadau ac asiantau rheoli yn unig: A ydych yn credu bod cyfnod o 12 mis yn gyfnod pontio derbyniol i baratoi ar gyfer y gofyniad am atodlen taliadau gweinyddu newydd? [Ydw/Nac ydw/Ansicr]
Os na, beth fyddai'n briodol ar gyfer cyfnod pontio? [Testun rhydd]
Cwestiwn 14
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
A ydych yn credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
A ydych yn credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 15
Yn eich barn chi, a ellid geirio neu newid y cynnig er mwyn:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Cwestiwn 16
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch eu nodi yma:
Cwestiwn 17
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad / neu ddim fel perchennog tŷ Ble mae'r cartrefi rydych yn delio â nhw? Ticiwch bob un sy'n berthnasol:
- Lloegr
- Cymru
- Arall (nodwch os gwelwch yn dda)
Cwestiwn 18
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad:
- Faint o aelodau o staff rydych yn eu cyflogi? [Nifer]
- Faint o ystadau rydych yn gyfrifol amdanynt? [Nifer]
- Beth yw cyfanswm y cartrefi ar yr ystadau rydych yn eu rheoli? [Nifer]
Cwestiwn 19
Os ydych yn ymateb fel unigolyn, a ydych yn:
- Berchennog tŷ
- Landlord
- Cynrychiolydd cyfreithiol
- Arall (nodwch). [Testun rhydd]
Cwestiwn 20
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- A ydych yn credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- A ydych yn credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 21
Yn eich barn chi, a ellid geirio neu newid y cynnig er mwyn:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Cwestiwn 22
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch eu nodi yma:
Nodwch yma: [Testun rhydd]
Gall ymatebion i'r ymgynghoriad gael eu cyhoeddi. Bydd eich ymateb yn ddienw.
Fodd bynnag, os hoffech i'ch enw gael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, ticiwch y blwch.
Rwy'n cytuno i'm henw gael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'm hymateb i'r ymgynghoriad hwn.
[1] RMC – Cwmni Rheoli Preswylwyr. Cwmni nid-er-elw a ymgorfforwyd gan ddatblygwr tai i reoli a bod yn gyfrifol am y cyfleusterau a rennir a'r amwynderau cyhoeddus ar ystad dai newydd
[2] EMC – wedi'i benodi gan yr adeiladwr tai i reoli rhannau o ystadau tai newydd. Mae'r cwmni rheoli a ymgorfforwyd yn cael ei wneud yn barti i'r weithred drosglwyddo. Ffynhonnell: Housebuilding Market Study Final Report, February 2024 | Glossary
[3] Competition and Markets Authority – Housebuilding market study – final report (February 2024) – Paragraph 3.80.
[4] Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru:Cyhoeddiad: Crynodeb o'r ymatebion i'r cais am dystiolaeth ar daliadau ystadau (Tachwedd 2020).
[5] Rhoddir eitemau gyda * yn enghraifft. Dylid llenwi'r atodlen taliadau gweinyddu â'r costau sy'n berthnasol i'r eiddo neu'r ystad benodol mae wedi cael ei darparu ar ei chyfer
