Neidio i'r prif gynnwy

O heddiw ymlaen, bydd yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i gael trefn ar eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y newidiadau'n cynyddu ailgylchu ac yn lleihau faint o wastraff sy'n cael ei losgi ac sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.

Bydd y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes a gweithleoedd y sector cyhoeddus a'r trydydd sector wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae cartrefi eisoes yn ei wneud ar hyd ac ar led y wlad.

Bydd angen gwahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu, a'u casglu ar wahân:

  • Bwyd
  • Papur a cherdyn
  • Gwydr
  • Metel, plastig a chartonau
  • Tecstilau nas gwerthwyd
  • Offer trydanol ac electronig gwastraff bach nas gwerthwyd

Bydd rhoi'r gwastraff ailgylchu mewn biniau gwahanol yn gwella ei ansawdd, gan ei gwneud yn fwy tebygol y gall busnesau Cymru ddefnyddio'r deunyddiau yn hytrach na'u hallforio.

Bydd gwaharddiad hefyd ar:

  • Anfon gwastraff bwyd i garthffos (unrhyw swm)
  • Gwastraff a gesglir ar wahân yn cael ei losgi a mynd i safleoedd tirlenwi
  • Pob gwastraff pren yn mynd i safleoedd tirlenwi

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: 

"Cymru yw'r gorau yn y DU ar gyfer ailgylchu domestig a'r trydydd gorau yn y byd.

"Rydyn ni nawr eisiau gwella ansawdd ailgylchu a faint o wastraff rydyn ni'n ei ailgylchu o weithleoedd. Mae hwn yn gam pwysig tuag at sicrhau Cymru ddiwastraff, lleihau ein hallyriadau carbon a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

"Rydyn ni am barhau i ddefnyddio deunyddiau cyn hired â phosibl. Gyda chostau deunyddiau yn codi, bydd parhau i ddefnyddio deunyddiau o ansawdd uchel yn helpu ein heconomi ac yn cefnogi ein cadwyni cyflenwi.

"Bydd hefyd yn gwella ansawdd a maint deunyddiau ailgylchadwy a gesglir o weithleoedd, a fydd yn ei dro yn dal deunyddiau pwysig i'w bwydo'n ôl i economi Cymru.