Neidio i'r prif gynnwy

Dynion bob dydd mewn lleoliadau bob dydd, yn gofyn y cwestiynau sydd o bwys.

I lansio Iawn, sef platfform i ddynion allu gofyn cwestiynau am berthnasoedd iach, rydyn ni wedi creu pedwar fideo gan ddefnyddio lleoliadau bob dydd i annog dynion i drafod eu hymddygiadau.

Os wyt ti’n anfon gormod o negeseuon, yn hynod o gariadus, neu’n rhoi llawer o anrhegion i rywun er mwyn cael rheolaeth drostyn nhw – nid yw’n ymddygiad iawn – lovebomio yw hyn.

Gall egni perthynas newydd achosi i ti grefu cysylltiad cyson gyda dy crush. Ond pan gaiff y cyswllt hwnnw ei ddefnyddio i ennill rheolaeth, nid yw'n ymddygiad iawn – lovebomio yw hyn.

Mae cenfigen yn deimlad cyffredin ond mae ei ddefnyddio i reoli partner yn ymddygiad annerbyniol. Gall cyfyngu ar ddewisiadau dy bartner eu gwneud i deimlo’n unig, yn ddiwerth ac yn anhapus.

Mae’n anodd cyfaddef pan fyddi di’n teimlo’n ansicr, ond mae checio ffôn, DMs neu leoliad dy bartner yn torri eu hymddiriedaeth.

Cael y newyddion diweddaraf gan Iawn:

Rho dy berthynas ar y trywydd iawn a dilyna Iawn Cymru ar TikTok, Instagram and YouTube am ragor o gyngor iawn.