Neidio i'r prif gynnwy

Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 31 Mawrth 2020.

Dyma’r ail gyhoeddiad chwarterol o ddata staffio’r GIG i ddarparu data mwy amserol. Mae data yn y diweddariad hwn yn cwmpasu dechrau cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Fodd bynnag, o ystyried yr amseru, ni fyddai unrhyw effaith ar niferoedd staff mewn ymateb i COVID-19 yn debygol o fod yn fawr yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru, yn ôl grŵp staff, ar 31 Mawrth 2019 a 2020. Mae pob grŵp, ac eithrio ‘Cynorthwywyr a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd’ a ‘Staff anfeddygol arall’, wedi cynyddu ers 31 Mawrth 2019.

Rhwng 31 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2020 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn)

  • Bu cynnydd o 2,334 (2.9%) yn nifer staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol i 82,404.
  • Bu cynnydd o 294 (4.5%) yn y staff meddygol a deintyddol i 6,802.
  • Bu cynnydd o 476 (1.4%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 33,639.
  • Bu cynnydd o 1,564 (3.9%) yn nifer y grwpiau staff eraill i 41,964.

Nodiadau

Cyhoeddwyd data ar StatsCymru. Does dim adroddiad ystadegol.

Mae rhai patrymau tymhorol yn y data hwn. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data. Mae hyn yn bennaf yn effeithio rhai o’r dadansoddiadau manylach o staff. Ceir manylion llawn yn y adroddiad ystadegol blynyddol diweddaraf.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.