Neidio i'r prif gynnwy

Nifer y staff yn y sector addysg uwch ar gyfer Medi 2020 i Awst 2021.

Prif bwyntiau

  • Bu gostyngiad bach yn nifer y staff ym mhrifysgolion Cymru o 20,720 yn 2019/20 i 20,385 yn 2020/21 (i lawr 2%)
  • Bu gostyngiad yn nifer y staff ar draws yr holl sefydliadau ac eithrio Prifysgol Caerdydd, lle’r oedd cyfanswm y staff yn aros yn weddol debyg, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd lle cynyddodd staff o 1,470 i 1,500 (i fyny 2%) a Phrifysgol Glyndŵr lle cynyddodd staff o 465 i 495 (cynnydd o 6%).
  • Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi’r nifer mwyaf o staff (6,915), y cyflogwr mwyaf nesaf oedd Prifysgol Abertawe (3,660).
  • Prifysgol Glyndŵr oedd y brifysgol leiaf o ran nifer y staff. Fe gyflogodd 495 yn 2020/21.
  • Roedd gan ychydig o dan hanner yr holl aelodau staff (49%) gontractau academaidd.
  • Roedd ychydig yn llai na dau o bob tri aelod o staff ar gontractau academaidd yn llawn amser, y ffigwr ar gyfer staff ar gontractau nad ydynt yn rhai academaidd yw ychydig dros ddau o bob tri.
  • O’r rheini nad oedd â chontractau academaidd, roedd gan 4,340 alwedigaethau proffesiynol neu dechnegol.  Roedd gan 3,620 alwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol ac roedd gan 765 ‘alwedigaethau elfennol’.
  • Menywod oedd yn llenwi 55% o’r holl swyddi. Fodd bynnag, 47% ohonynt oedd yn cyflawni chontractau academaidd.  Roedd ychydig dros ddau o bob tri o’r aelodau staff rhan-amser yn fenywod (67%).
  • Dywedodd 11% o staff ar gontract academaidd eu bod yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. 54% o’r rheiny a ddwedodd hynny oedd yn gwneud mewn gwirionedd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.