Neidio i'r prif gynnwy

Mae bod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru yn golygu bod yn rhan o rywbeth unigryw ar gyfer pobl Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw Statws Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae bod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru yn golygu bod yn rhan o rywbeth unigryw ar gyfer pobl Cymru. Bydd adeiladu rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru yn:

  • gwella’r amgylchedd
  • creu cyfleoedd economaidd
  • helpu cymunedau i gysylltu gyda’r coetiroedd sy’n eu hamgylchynu, a’u gwerthfawrogi

Mae cael Statws Coedwig Genedlaethol Cymru yn rhoi’r canlynol i goetiroedd:

  • cydnabyddiaeth fel coetir rhagorol
  • cyfle i fod yn etifeddiaeth barhaus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
  • y cyfle i fod yn aelod o Rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru

Coedwig Genedlaethol Cymru – Cynllun Statws

Ar 23 Mehefin 2023, fe wnaethom agor Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae’r cynllun yn galluogi coetiroedd rhagorol i ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

  • gall unrhyw un sy'n berchen ar goetir neu'n rheoli coetir yng Nghymru wneud cais, gan gynnwys sefydliadau nid-er-elw a pherchnogion preifat.
  • nid oes cyfyngiad ar nifer y coetiroedd fydd yn gallu derbyn Statws Coedwig Genedlaethol Cymru
  • gallwch ymgeisio ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond byddwn yn ystyried eich cais ar adegau penodol.
  • rhaid ichi ddangos sut mae eich prosiect yn bodloni Canlyniadau perthnasol Coedwig Genedlaethol Cymru
  • nid cyfle i gael cyllid yw'r Cynllun Statws. Mae ar gyfer safleoedd coetir sy'n barod i ymuno â Choedwig Genedlaethol Cymru
  • mae cyllid ar gael drwy’r Grant Buddsoddi mewn Coetir ar gyfer:
    • safleoedd sydd ddim yn bodloni’r Canlyniadau eto
    • gwelliannau pellach i safleoedd sydd â Statws Coedwig Genedlaethol Cymru.
  • gallwch drafod safleoedd arfaethedig gyda Swyddogion Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru sydd wedi eu lleoli ar hyd a lled Cymru.
  • mae Statws yn wirfoddol a bydd yr opsiwn gan safleoedd i adael Coedwig Genedlaethol Cymru ar unrhyw adeg.

Pwy all wneud cais

I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid ichi:

  • fod yn berchen ar goetir neu reoli coetir yng Nghymru,
  • dangos sut mae’ch safle yn bodloni Canlyniadau Coedwig Genedlaethol Cymru
  • bod â chynllun rheoli coetir yn ei le

Sut i wneud cais

Cyn cwblhau cais:

Gwneud cais am Statws Coedwig Genedlaethol Cymru.

Byddwn yn ystyried eich cais. Byddwn yn gwneud argymhellion i Weinidogion bob chwarter.

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth gwblhau neu gyflwyno eich cais, cysylltwch â ni:

Anfonwch eich ceisiadau at flwch post StatwsCoedwigGenedlaetholCymru@cyfoethnaturiol.cymru, neu yn y post at:

Tîm Statws Coedwig Genedlaethol Cymru 
Hwb Cwsmeriaid 
Maes y Ffynnon 
Penrhosgarnedd 
Bangor 
Gwynedd 
LL57 2DW

Amserlenni a dyddiadau cau

Mae’r cynllun hwn yn gynllun treigl. Mae’r dyddiadau isod yn cynnwys blwyddyn gyntaf y cynllun.

  • 23 Mehefin 2023: cynllun yn agor
  • Medi 2023: dyddiad cau ar gyfer y cyfnod ymgeisio cyntaf
  • Hydref 2023: cyhoeddi penderfyniad
  • Rhagfyr 2023: dyddiad cau ar gyfer yr ail gyfnod ymgeisio
  • Ionawr 2024: cyhoeddi penderfyniadau
  • Mawrth 2024: dyddiad cau ar gyfer trydydd cyfnod ymgeisio
  • Ebrill 2024: cyhoeddi penderfyniadau
  • Mehefin 2024: dyddiad cau ar gyfer pedwerydd cyfnod ymgeisio
  • Gorffennaf 2024: cyhoeddi penderfyniadau