Stoc tai landlordiaid cymdeithasol a rhent: adroddiad ansawdd
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw'r ystadegau hyn?
Mae ystadegau stoc dai landlordiaid cymdeithasol a rhent yn darparu gwybodaeth gryno am gyfanswm y stoc a'r math o stoc y mae'r holl landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn berchen arni neu'n berchen arni'n rhannol ar 31 Mawrth bob blwyddyn, gan gynnwys tai cymdeithasol a mathau eraill o dai. Maent hefyd yn rhoi gwybodaeth am renti wythnosol cyfartalog ar gyfer yr holl unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol fel y'u pennir ar 1 Ebrill bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol.
Yn ogystal â'r wybodaeth isod, gellir cael rhagor o wybodaeth yn yr Adroddiad Ansawdd Ystadegau Tai sydd ar gael ar ein gwefan.
Cefndir
Stoc tai cymdeithasol
Mae'r mwyafrif o unedau tai cymdeithasol sy'n eiddo i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac sy'n cael eu rhentu oddi wrthynt yn rhai rhent cymdeithasol. Caiff tai rhent cymdeithasol eu darparu gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru lle mae lefelau rhent yn is na lefelau'r farchnad ac maent wedi'u gosod o fewn fframwaith Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru. Maent yn cynnwys unedau tai gwarchod hunangynhwysol ac anghenion cyffredinol hunangynhwysol.
Fodd bynnag, mae'r term tai cymdeithasol hefyd yn cynnwys unedau tai cymdeithasol eraill na chânt eu cwmpasu gan Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys unedau tai ‘â chymorth eraill’ ac unedau tai ‘gofal ychwanegol’ hunangynhwysol lle darperir lefel ychwanegol o gymorth yn ogystal â fflatiau un ystafell nad ydynt yn hunangynhwysol a lleoedd gwely mewn hosteli.
Y stoc o ‘dai eraill’ sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol neu'n cael eu rheoli ganddynt
Yn ogystal â'r stoc tai rhent cymdeithasol a thai cymdeithasol eraill, gall landlordiaid cymdeithasol hefyd fod yn berchen neu'n berchen yn rhannol ar fathau eraill o dai a'u rheoli. Mae'r rhain yn cynnwys unedau tai a gaiff eu gosod ar renti canolradd (gan gynnwys Rhent yn Gyntaf) lle caiff rhenti eu pennu uwchlaw rhent cymdeithasol ond islaw lefelau rhent y farchnad. Maent hefyd yn cynnwys Rhanberchnogaeth: Cymru (cynllun prynu rhannol, rhentu rhannol ar gyfer darpar brynwyr sydd â rhyw flaendal ond na allant gael y morgais sydd ei angen i brynu'r tŷ ar eu pen eu hunain) a Rhentu i Berchnogi: Cymru (nad yw ar gael bellach i ymgeiswyr newydd) lle mae prynwyr yn talu rhenti'r farchnad am gartrefi newydd ac yn cael yr opsiwn i brynu'r cartref o ddiwedd yr ail flwyddyn. Maent hefyd yn cynnwys cynlluniau deiliadaeth hyblyg i bobl oedrannus, unedau tai a gaiff eu gosod ar lefelau rhent y farchnad, ‘Prynu cartref’ a thai buddsoddi eraill.
Rhenti tai cymdeithasol
Caiff gwybodaeth am renti cyfartalog wythnosol tai cymdeithasol ei chasglu ar gyfer yr holl unedau tai cymdeithasol (rhai hunangynhwysol a rhai nad ydynt yn hunangynhwysol). Fodd bynnag, dim ond gwybodaeth am y rhenti wythnosol cyfartalog a godir am unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol a geir yn y datganiad hwn. Unedau tai hunangynhwysol yw llety a feddiennir gan aelwyd ac sy'n cynnwys bath/cawod, toiled mewnol a rhai cyfleusterau coginio sydd at ddefnydd yr aelwyd honno yn unig.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth am renti unedau tai nad ydynt yn dai cymdeithasol sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ac a gaiff eu rheoli ganddynt.
Y rhenti tai cymdeithasol a ddangosir yn y datganiad hwn yw'r rhenti wythnosol cyfartalog wedi'u pwysoli a bennir ar 1 Ebrill bob blwyddyn gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw lwfansau rhent, taliadau gwasanaeth a thaliadau am amwynderau nac ardrethi dŵr.
Mae Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn gosod fframwaith sy'n golygu bod pob landlord cymdeithasol yn gyfrifol am bennu'r rhenti am ei unedau tai ei hun. Mae'r Safon Rhenti yn gymwys i bob landlord cymdeithasol ac yn pennu trothwy uchaf na all y landlord ragori arno. Cafodd y Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth ei rhoi ar waith gan landlordiaid cymdeithasol ym mis Ebrill 2020.
Mae'r wybodaeth a ddangosir yn y datganiad hwn yn cynnwys y rhenti wythnosol cyfartalog a godir am yr holl dai cymdeithasol hunangynhwysol ac nid dim ond yr unedau tai y mae'r Safon Rhenti yn gymwys iddynt.
Cyd-destun polisi a chyd-destun gweithredol
Polisi rhenti
Mae'r mwyafrif o unedau tai cymdeithasol sy'n eiddo i awdurdodau lleol (ALlau) a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac sy'n cael eu rhentu oddi wrthynt yn rhai rhent cymdeithasol. Caiff tai rhent cymdeithasol eu darparu gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru lle mae lefelau rhent yn is na lefelau'r farchnad. Mae Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn gosod fframwaith sy'n golygu bod pob landlord cymdeithasol yn gyfrifol am bennu'r rhenti am ei unedau tai ei hun. Mae'r Safon Rhenti yn gymwys i bob landlord cymdeithasol ac yn pennu trothwy uchaf na all y landlord ragori arno.
Argymhellodd yr adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy a gynhaliwyd yn 2018-19, y dylid cyflwyno cytundeb rhentu pum mlynedd er mwyn rhoi sefydlogrwydd i denantiaid a landlordiaid. Cafodd y Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth ei rhoi ar waith gan landlordiaid cymdeithasol ym mis Ebrill 2020. Bydd y cytundeb rhentu pum mlynedd yn rhedeg rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2025.
Mae'r Safon Renti yn rhoi uchafswm cynnydd rhent blynyddol o CPI+1% ar waith yn seiliedig ar y ffigur CPI a gyhoeddwyd yn ystod y mis Medi blaenorol. Dyma'r cynnydd cyffredinol uchaf y gall unrhyw landlord cymdeithasol ei osod dros ei stoc gyfan mewn unrhyw flwyddyn a landlordiaid cymdeithasol sy'n gyfrifol am osod eu rhenti a'u taliadau gwasanaeth eu hunain. Mae ganddynt hyblygrwydd o fewn eu stoc i rewi, lleihau neu gynyddu eu rhenti y tu hwnt i CPI+1% (hyd at uchafswm cynnydd rhent eiddo unigol o CPI+1% ynghyd â £2.00). Fodd bynnag, ni all eu hincwm rhent cyffredinol o'u stoc tai gynyddu mwy na CPI+1%.
Mae'r Safon Renti yn cynnwys y ddarpariaeth pe bai CPI yn disgyn y tu allan i'r ystod o 0% i 3%, gall Gweinidogion Cymru adolygu a phennu'r cynnydd rhent uchaf ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Defnyddwyr a defnyddiau
Stoc tai cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth hon i gadarnhau a monitro cyfanswm y tai cymdeithasol a'r math o dai cymdeithasol sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol ac asesu hyn mewn perthynas â'r angen presennol am dai a'r angen am dai yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio'r data am stoc i gyfrifo amcangyfrifon o'r stoc anheddau ar lefel awdurdod lleol a Chymru gyfan. I gael gwybodaeth fanwl am fethodoleg ac ansawdd ar gyfer amcangyfrifon o'r stoc anheddau, darllenwch y datganiad ystadegol cyntaf.
Mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn datblygu eu Hasesiadau o'r Farchnad Dai Leol; meincnodi; dangos sut mae'r galw am dai yn cael ei fodloni'n lleol ac asesu gofynion ac anghenion yn y dyfodol er mwyn cynllunio a dyrannu adnoddau'n effeithiol.
Rhenti tai cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth i gael syniad o'r rhenti wythnosol cyfartalog a godir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ôl math o dŷ ym mhob awdurdod yng Nghymru ac edrych ar dueddiadau dros amser.
Mae ALlau a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn defnyddio'r wybodaeth i ddangos cydymffurfiaeth â'r polisi rhenti presennol fel yr amlinellir uchod a llywio prosesau a gweithdrefnau mewnol. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn datblygu eu Hasesiadau o'r Farchnad Dai Leol; meincnodi a chynllunio a dyrannu adnoddau'n effeithiol.
Yn gyffredinol, caiff y wybodaeth ei defnyddio er mwyn:
- monitro tueddiadau tai
- datblygu polisïau
- rhoi cyngor i Weinidogion
- llywio dadleuon yn Senedd Cymru a thu hwnt
- gwaith proffilio daearyddol, cymharu a meincnodi.
Mae amrywiaeth o bobl yn defnyddio'r ystadegau hyn, gan gynnwys llywodraeth genedlaethol a lleol, ymchwilwyr, academyddion a myfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth am y defnyddwyr a'r defnyddiau, cyfeiriwch at yr Adroddiad Ansawdd Ystadegau Tai.
Ffynonellau a chwmpas y data
Mae copïau o'r ffurflenni casglu data ar y stoc tai cymdeithasol a rhenti ar gael.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cylch prosesu data yn yr Adroddiad Ansawdd Ystadegau Tai sydd ar gael ar ein gwefan hefyd.
Cafodd data ar stoc ar 31 Mawrth 2023 a data ar renti ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 (fel y'u pennir ar 1 Ebrill 2023) eu casglu gan bob awdurdod lleol a phob landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, gan gynnwys cymdeithasau Abbeyfield, elusendai a chymdeithasau cyfberchnogaeth.
Bydd trosglwyddiadau gwirfoddol stoc awdurdodau lleol ar raddfa fawr wedi dylanwadu ar y gyfran o stoc tai cymdeithasol a reolir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fel y dangosir isod. Roedd yr holl drosglwyddiadau'n cyfrif am 100% o stoc dai awdurdodau lleol.
Awdurdod lleol |
Dyddiad trosglwyddo |
Landlord cymdeithasol cofrestredig |
Pen-y-bont ar Ogwr |
12 Medi 2003 |
Cymoedd i'r Arfordir |
Rhondda Cynon Taf |
10 Rhagfyr 2007 |
Cartrefi RCT |
Sir Fynwy |
17 Ionawr 2008 |
Tai Sir Fynwy |
Torfaen |
01 Ebrill 2008 |
Cymdeithas Tai Bron Afon |
Conwy |
29 Medi 2008 |
Cartrefi Conwy |
Casnewydd |
09 Mawrth 2009 |
Cartrefi Dinas Casnewydd |
Merthyr Tudful |
20 Mawrth 2009 |
Merthyr Valleys Homes |
Ceredigion |
30 Tachwedd 2009 |
Tai Ceredigion |
Gwynedd |
12 Ebrill 2010 |
Cartrefi Cymunedol Gwynedd |
Blaenau Gwent |
26 Gorffennaf 2010 |
Tai Cymunedol Tai Calon |
Castell-nedd Port Talbot |
05 Mawrth 2011 |
Cartrefi CNPT |
Mae'r data ar stoc yn y datganiad hwn yn cynnwys yr holl stoc dan berchnogaeth, boed hynny drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru neu fel arall. Dim ond unedau y mae gan y landlord cymdeithasol cofrestredig gyfran ecwiti ynddynt sydd wedi'u cynnwys (ac eithrio mewn perthynas â Chymorth Prynu). Nid yw'r data yn cynnwys unrhyw eiddo amhreswyl. Nid yw'n cynnwys unrhyw unedau tai ar brydles a ddefnyddir i gartrefu pobl ddigartref dros dro nac unrhyw unedau tai a gaiff eu rheoli fel asiantaeth gosod tai cymdeithasol ychwaith.
Cysylltwyd hefyd â phob landlord cymdeithasol sydd wedi'i gofrestru yn Lloegr ac sy'n gweithio yng Nghymru er mwyn cael gwybodaeth am lefel a lleoliad y stoc y mae'n berchen arni neu'n berchen arni'n rhannol yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw'r ffigur hwn wedi'i gynnwys yng nghyfanswm y stoc dai a ddangosir yn y datganiad hwn sy'n cwmpasu landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn unig.
Mae'r datganiad hwn yn cynnwys y rhenti wythnosol cyfartalog gwirioneddol a godir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig am y flwyddyn ariannol fwyaf diweddar. At ddibenion y casgliad hwn, nid ydynt yn cynnwys unrhyw lwfansau rhent, taliadau gwasanaeth a thaliadau am amwynderau nac ardrethi dŵr. Fodd bynnag, ni all rhai awdurdodau lleol ddadgyfuno'r wybodaeth hon a gallent fod wedi cynnwys rhai taliadau gwasanaeth o fewn eu ffigurau rhent.
Mae'r wybodaeth am renti cyfartalog a ddangosir yn y datganiad hwn yn cynnwys y rhenti wythnosol cyfartalog a godir am yr holl dai cymdeithasol hunangynhwysol ac nid dim ond yr unedau tai y mae Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn gymwys iddynt.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn cyrraedd y safonau uchaf o ran y gallu i ymddiried ynddynt, ansawdd a gwerth i'r cyhoedd.
Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt ar ôl i gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU eu hasesu. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.
Mae cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn amau a yw'r ystadegau hyn yn cyrraedd y safonau priodol o hyd, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod ar unwaith. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg lle na lwyddir i gynnal y safonau uchaf, a'i ailddatgan pan gaiff y safonau eu cyrraedd unwaith eto.
Cafodd yr ystadegau hyn eu hasesu'n llawn yn erbyn y Cod Ymarfer ddiwethaf yn 2011.
Ers adolygiad diweddaraf y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- Wedi cynnwys gwybodaeth am y mathau gwahanol o dai landlordiaid cymdeithasol a'r derminoleg a ddefnyddir.
- Wedi newid cynllun y datganiad er mwyn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr wahaniaethu rhwng y mathau gwahanol o stoc y mae landlordiaid cymdeithasol yn berchen arnynt neu'n berchen arnynt yn rhannol ac yn eu rheoli - tai â rhenti cymdeithasol, tai cymdeithasol eraill ac unedau tai nad ydynt yn dai cymdeithasol.
- Gwella'r gallu i ymddiried yn yr ystadegau drwy adolygu a lleihau nifer y swyddogion sydd â mynediad atynt cyn iddynt gael eu cyhoeddi
Sicrhau ansawdd data gweinyddol
Mae'r datganiad hwn wedi cael ei sgorio yn erbyn matrics Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae Awdurdod Ystadegau'r DU yn defnyddio'r matrics fel safon rheoleiddio ar gyfer sicrhau ansawdd data gweinyddol. Mae'r Safon yn cydnabod y rhan gynyddol y mae data gweinyddol yn ei chwarae wrth lunio ystadegau swyddogol ac yn esbonio beth y dylai cynhyrchwyr ystadegau swyddogol ei wneud er mwyn sicrhau eu hunain o ansawdd y data hyn. Mae'r pecyn cymorth sy'n ategu'r Safon yn rhoi arweiniad defnyddiol i gynhyrchwyr ystadegol am yr arferion y gallant eu mabwysiadu er mwyn sicrhau ansawdd y data a gânt, ac mae'n nodi'r safonau ar gyfer asesu ystadegau yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.
Mae'r matrics yn asesu'r datganiad yn erbyn y meini prawf canlynol:
- cyd-destun gweithredol a threfniadau casglu data gweinyddol
- cyfathrebu â phartneriaid sy'n cyflenwi data
- yr egwyddorion, y safonau a'r gwiriadau sicrhau ansawdd a ddefnyddir gan gyflenwyr data
- ymchwiliadau a dogfennaeth sicrhau ansawdd y cynhyrchydd.
Mae'r datganiad wedi cael sgôr ‘A2:Sicrwydd uwch’ ar gyfer pob un o'r categorïau uchod ac mae gwaith yn mynd rhagddo i lunio disgrifiad llawnach o'r sicrwydd sydd ei angen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Awdurdod Ystadegau'r DU.
Caiff data eu casglu gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig drwy daenlenni Excel. Caiff y rhain eu lawrlwytho o wefan trosglwyddo ffeiliau Afon, sy'n rhoi dull diogel i ddefnyddwyr o gyflwyno data. Mae'r taenlenni'n galluogi'r ymatebwyr i ddilysu'r data cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Rhoddir cyfle hefyd i'r ymatebwyr gynnwys gwybodaeth gyd-destunol lle y bu newidiadau mawr (e.e. lle bydd eitemau data wedi newid o fwy na 10% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol). Mae hyn yn golygu y gellir glanhau'r data i raddau yn y ffynhonnell a lleihau nifer yr ymholiadau dilynol sydd eu hangen.
Caiff awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu hysbysu am amserlen yr ymarfer casglu data ymlaen llaw. Mae hyn yn rhoi digon o amser i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig goladu eu gwybodaeth, a chodi unrhyw broblemau a allai fod ganddynt. Mae'r daenlen yn cynnwys canllawiau sy'n helpu defnyddwyr i gwblhau'r ffurflen.
Mae enghreifftiau o'r gwiriadau dilysu sydd wedi'u cynnwys yn y ffurflenni yn cynnwys newidiadau blwyddyn ar flwyddyn, croeswiriadau â thablau data perthnasol eraill a gwiriadau i sicrhau bod y data yn rhesymegol gyson.
Ansawdd
Mae ystadegau tai Cymru yn cydymffurfio â Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol Llywodraeth Cymru, sy'n cyd-fynd â'r piler a'r egwyddorion Ansawdd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Ceir rhagor o fanylion am y ffordd y cydymffurfir â'r rhain yn yr Adroddiad Ansawdd Ystadegau Tai sy'n ymwneud â'r egwyddorion a'r prosesau cyffredinol sy'n arwain at lunio ein hystadegau tai. Mae'r adroddiad yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys diffiniadau, cwmpas, amseroldeb, perthnasedd a chymharedd.
Mae gwybodaeth fanylach am ansawdd sy'n ymwneud yn benodol â'r stoc tai cymdeithasol a rhenti, nad yw wedi'i chynnwys yn yr adroddiad ansawdd, i'w gweld isod.
Cywirdeb
Ar ôl i'r ffurflenni casglu data ddod i law, aeth y tîm casglu data ati i wneud gwaith dilysu eilaidd a chydweithio'n agos â'r darparwyr gwahanol er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a roddwyd yn gywir ac yn gyson. Rydym yn gwirio bod y data yn gyson â nifer yr unedau newydd a gwerthiannau a gofnodwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn datrys unrhyw ymholiadau gyda landlordiaid. Nesaf, rydym yn cymharu'r data a ddarparwyd gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig â'r data a ddarparwyd ganddynt y flwyddyn flaenorol. Os yw'r ffigurau hyn yn anghyson, rydym yn gweithio gyda'r darparwyr data i sicrhau bod y data terfynol a gofnodir yn gyson.
Cymharedd
Cyn casgliad 2011-12, casglwyd gwybodaeth am werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol bob chwarter. Mae'r ffigurau chwarterol wedi cael eu cyfuno i greu cyfansymiau blynyddol sy'n gymaradwy â'r data ar gyfer 2011-12 ymlaen.
Yn dilyn ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r casgliad data ar Werthiannau Tai Landlordiaid Cymdeithasol, o 2013-14 defnyddiwyd un ffurflen ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol fel rhan o'r casgliad. Gwnaed newidiadau hefyd i'r eitemau data a gasglwyd, yn unol â chynigion yr ymgynghoriad. Gofynnwyd am wybodaeth ar wahân am werthiannau anheddau cymdeithasol ac anheddau nad ydynt yn rhai cymdeithasol. Adlewyrchir y newidiadau hyn yn y datganiad.
Diwygiadau
Gall fod angen gwneud diwygiadau o ganlyniad i amrywiaeth o ddigwyddiadau, er enghraifft, os bydd awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig yn dychwelyd ffurflen yn hwyr, neu os bydd cyflenwr data yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru ei fod wedi cyflwyno gwybodaeth anghywir, ac yn ei hailgyflwyno.
Weithiau, gall fod angen gwneud diwygiadau oherwydd gwallau yn ein prosesau ystadegol. Os felly, byddwn yn penderfynu a yw'r newid yn ddigon pwysig i ni gyhoeddi datganiad ystadegol diwygiedig. Lle nad ystyrir bod y newidiadau yn bwysig h.y. mân newidiadau, cânt eu diweddaru yn natganiad ystadegol y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y caiff mân ddiwygiadau i'r ffigurau stoc eu hadlewyrchu yn nhablau StatsCymru cyn y datganiad nesaf hwnnw.
Caiff data diwygiedig eu nodi â (d) yn y datganiad ystadegol
Rydym yn dilyn polisi diwygiadau ystadegol Llywodraeth Cymru.
Hygyrchedd ac eglurder
Mae hygyrchedd yn golygu pa mor hawdd y gall defnyddwyr gael gafael ar y data, ac mae hefyd yn golygu fformat(au) y data a ph'un a oes gwybodaeth ategol ar gael. Mae eglurder yn cyfeirio at ansawdd a digonolrwydd y metadata, darluniadau a chyngor cysylltiedig.
Caiff ystadegau ar stoc dai landlordiaid cymdeithasol a rhenti yng Nghymru eu cyhoeddi mewn modd hygyrch a threfnus, a chânt eu rhag-gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi.
Ein nod yw rhoi gwybod i ddefnyddwyr allweddol hysbys pan gaiff yr ystadegau eu cyhoeddi. Anfonir e-bost i'r Grŵp Gwybodaeth Tai.
Ceisiwn ddefnyddio iaith syml yn ein hallbynnau ac mae ein holl allbynnau yn cydymffurfio â pholisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Ar ben hynny, caiff ein holl benawdau eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ystadegau drwy gysylltu â'r staff perthnasol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y datganiad, neu drwy e-bostio ystadegau.tai@llyw.cymru.
Mae set lawn o ddata ar y stoc tai cymdeithasol a rhenti yn ôl math, gan gynnwys gwybodaeth yn ôl awdurdodau lleol unigol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig unigol yn ôl hyd at 2002-03, ar gael i'w lawrlwytho o wefan ryngweithiol StatsCymru.
Cydlyniaeth
Caiff amcangyfrifon blynyddol o gyfanswm yr anheddau yn ôl deiliadaeth eu cyfrifo gan Lywodraeth Cymru ar sail data o'r cyfrifiadau poblogaeth a data a gesglir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. I gael gwybodaeth fanwl am fethodoleg ac ansawdd ar gyfer amcangyfrifon o'r stoc anheddau, darllenwch y datganiad ystadegol cyntaf diweddaraf.
Bydd yr amcangyfrifon o gyfanswm stoc anheddau awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a gyhoeddir yn y datganiad blynyddol o'r amcangyfrifon o'r stoc anheddau yn wahanol i'r ffigurau a ddangosir yn y datganiad hwn sy'n cyflwyno nifer yr unedau tai (anheddau, fflatiau un ystafell a lleoedd gwely). Mae'r cyfansymiau yn y datganiad o'r amcangyfrifon o'r stoc anheddau yn tybio bod 3 lle gwely mewn uned nad yw'n hunangynhwysol yn cyfateb i 1 annedd. Mae'r cyfansymiau yn yr amcangyfrifon o'r stoc anheddau hefyd yn eithrio deiliadaethau canolradd a deiliadaethau eraill nad ydynt ar renti cymdeithasol gan fod yr anheddau hyn yn ymddangos yn y categori perchen-feddiannydd, rhentu preifat a deiliadaethau eraill. Nid oes gwybodaeth ar gael am nifer yr unedau nad ydynt yn hunangynhwysol ar gyfer deiliadaethau canolradd a deiliadaethau eraill ac felly ni ellir defnyddio'r un cyfrifiad.
Defnyddiwyd amcangyfrifon aelwydydd canol 2020 yn y datganiad hwn i gyfrifo cyfradd yr unedau tai cymdeithasol fesul 100 o aelwydydd.
Ystadegau cysylltiedig ar gyfer gwledydd eraill y DU
Lloegr
Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn casglu gwybodaeth am stoc dai awdurdodau lleol a rhenti cyfartalog awdurdodau lleol yn Lloegr. Caiff yr wybodaeth ei chasglu bob blwyddyn o'r ffurflen Ystadegau Tai Awdurdodau Lleol. Mae'r data diweddaraf sydd wedi'u cyhoeddi yn cwmpasu'r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.
Casglwyd gwybodaeth am landlordiaid cymdeithasol cofrestredig/darparwyr cofrestredig preifat drwy Ffurflen Data Ystadegol yr Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau rhwng 2012 a 2019 pan gafodd y cyfrifoldeb dros yr Asiantaeth ei drosglwyddo i'r Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol. Arolwg ar-lein blynyddol yw'r Ffurflen Data Ystadegol (Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol) a gaiff ei gwblhau gan bob darparwr cofrestredig preifat sy'n darparu tai cymdeithasol yn Lloegr ac mae'n casglu amrywiaeth eang o wybodaeth gan bob darparwr cofrestredig preifat am yr holl dai y mae'n berchen arnynt. Mae'r ffurflen hefyd yn casglu gwybodaeth am y gost o rentu tai darparwyr cofrestredig preifat (cymdeithas dai). Mae'r data diweddaraf sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer 2021 i 2022 ar gael ar wefan GOV.UK.
Yr Alban
Bob blwyddyn, bydd Rheoleiddiwr Tai yr Alban yn llunio tablau perfformiad yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd yn y Ffurflen Ystadegau a Pherfformiad Blynyddol (APSR), a thablau ariannol yn seiliedig ar fewnbwn gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o'u cyfrifon archwiliedig. Mae'r ffigurau diweddaraf ar stoc y sector cymdeithasol (awdurdodau lleol a chymdeithasau tai) ar gael ar wefan Llywodraeth yr Alban.
Mae'r data diweddaraf sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer yr Alban ar renti wythnosol cyfartalog ar gyfer unedau tai awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gael ar wefan Llywodraeth yr Alban. Daw data awdurdodau lleol o ffurflenni Cyfrif Refeniw Tai a gyflwynir gan awdurdodau lleol i Lywodraeth yr Alban. Daw data landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o Ffurflen Ystadegau a Pherfformiad Blynyddol Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Rheoleiddiwr Tai yr Alban.
Gogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r Adran Datblygu Cymdeithasol yn llunio cyhoeddiad blynyddol sy'n dod ag ystadegau tai a gasglwyd gan yr Adran ynghyd, gan gynnwys ystadegau ar dai cymdeithasol.
Gwerthuso
Rydym bob amser yn croesawu adborth ar unrhyw rai o'n hystadegau. Cysylltwch â ni drwy e-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Lluniwyd gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru