Neidio i'r prif gynnwy

Nifer o unedau tai sydd yn berchen neu’n rhannol berchen ac yn cael eu rheoli gan holl landlordiaid cymdeithasol ar 31 Mawrth 2022.

Mae hyn yn cynnwys y 11 awdurdod lleol sydd yn cadw stoc a holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.  Bydd yn cynnwys tai cymdeithasol a mathau eraill o dai.

Sylwer, oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae’r data ar stoc tai landlordiaid cymdeithasol ar gyfer 2019-20 a rhenti ar gyfer 2020-21 yn anghyflawn. Gweler y COVID-19 a chynhyrchu ystadegau ac ymchwil gymdeithasol am ragor o wybodaeth.

Stoc

  • Parhaodd cynnydd bychan (ychydig o dan 1%) yn y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru. Roedd 237,395 o unedau tai cymdeithasol ar 31 o Fawrth 2022 o gymharu gyda 235,399 (r) flwyddyn yn gynt.
  • O’r 237,395 o unedau tai cymdeithasol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig oedd berchen ar 63% ac awdurdodau lleol oedd berchen ar y 37% arall.
  • Ar 31 Mawrth 2021, roedd 15,479 o unedau tai eraill yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol neu'n rhannol berchen arnynt. O’r rhain, roedd 97% yn eiddo i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

(r) 2020-21 data sydd wedi ei diwygiedig  ers iddi gael ei gyhoeddi o’r blaen.

Rhent

  • Y rhenti wythnosol gyfartalog a osodwyd gan awdurdodau lleol ar 1 Ebrill 2022 ar gyfer 2022-23 ar gyfer yr holl dai cymdeithasol hunangynhwysol oedd £99.20. Mae'r holl dai cymdeithasol hunangynhwysol yn cynnwys anghenion cyffredinol, cysgodol, tai â chymorth eraill a gofal ychwanegol. Mae hyn yn gynnydd o 3% o'i gymharu â 2021-22.
  • Y rhent wythnosol cyfartalog cyfatebol ar gyfer stoc landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer 2022-23 oedd £101.04.  Mae hyn hefyd yn gynnydd o 3% o'i gymharu â 2021-22.
  • Mae'r bwlch rhwng lefelau rhent wythnosol cyfartalog awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi aros yn agos yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar gyfer 2022-23, roedd rhent wythnosol cyfartalog a osodwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn uwch gan £1.84.

Adroddiadau

Stoc tai landlordiaid cymdeithasol a rhent: ar 31 Mawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 816 KB

PDF
Saesneg yn unig
816 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Craig Mcleod

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.