Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir yn flynyddol gan bob landlord cymdeithasol yng Nghymru.

Cyflwynir gwybodaeth am gyfanswm y stoc a'r math o stoc y mae'r holl landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn berchen arni neu'n berchen arni'n rhannol ar 31 Mawrth 2023, gan gynnwys tai cymdeithasol a mathau eraill o dai. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am renti wythnosol cyfartalog ar gyfer yr holl unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol fel y'u pennir ar 1 Ebrill 2023 ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol, 2023-24.

Mae data hanesyddol ar gyfer y casgliad hwn ar gael ar wefan StatsCymru

Prif bwyntiau

Mae stoc dai landlordiaid cymdeithasol yn cynnwys unedau tai (gan gynnwys fflatiau un ystafell a lleoedd gwely) y mae'r 11 o awdurdodau lleol sy'n cadw stoc a'r holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn berchen arnynt neu'n berchen arnynt yn rhannol ac yn eu rheoli. Mae hyn yn cynnwys tai cymdeithasol a mathau eraill o dai.

Stoc

Gwelwyd cynnydd bach (1%) eto yn y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru gyda 238,966 o unedau tai cymdeithasol (gan gynnwys fflatiau un ystafell a lleoedd gwely) ar 31 Mawrth 2023, o gymharu â 237,373 (d) y flwyddyn flaenorol.

Image

O'r rhain, roedd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn berchen ar 63% ohonynt ac roedd awdurdodau lleol yn berchen ar y 37% arall, sy'n debyg i'r blynyddoedd diwethaf.

Ar 31 Mawrth 2023, roedd landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn berchen neu'n berchen yn rhannol ar 16,551 o fathau eraill o unedau tai ac yn eu rheoli ac o'r rhain, roedd 98% yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu'n cael eu rheoli ganddynt.

Rhenti

Y rhent cyfartalog a bennwyd gan awdurdodau lleol ar 1 Ebrill 2023 ar gyfer 2023-24 ar gyfer yr holl dai cymdeithasol hunangynhwysol (anghenion cyffredinol, gwarchod, cymorth arall a gofal ychwanegol) oedd £105.08 yr wythnos. Mae hyn yn gynnydd o 6% o gymharu â 2022-23. Y rhent cyfartalog cyfatebol a bennwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer 2023-24 oedd £107.34 yr wythnos. Roedd hyn hefyd yn gynnydd o 6% o gymharu â 2022-23. 

Mae lefelau rhent wythnosol cyfartalog awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi aros yn debyg dros y blynyddoedd diwethaf. Ar gyfer 2023-24 roedd rhent wythnosol cyfartalog landlordiaid cymdeithasol cofrestredig £2.26 yn fwy. 

(d) ffigurau ar gyfer 2021-22 sydd wedi cael eu diwygio ers iddynt gael eu cyhoeddi'n wreiddiol. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad ansawdd

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn yn dadansoddi data ar holl stoc dai landlordiaid cymdeithasol sy'n cynnwys y canlynol:

Tai ar renti cymdeithasol 

Mae hyn yn cynnwys tai anghenion cyffredinol hunangynhwysol (gan gynnwys fflatiau un ystafell hunangynhwysol) a thai gwarchod hunangynhwysol a gaiff eu gosod gan landlordiaid cymdeithasol ar rent cymdeithasol o dan Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru. System rentu y cytunwyd arni yw hon sy'n pennu trothwy rhent uchaf ar gyfer landlordiaid cymdeithasol.

Tai cymdeithasol eraill

mae hyn yn cynnwys tai  ‘â chymorth eraill’ hunangynhwysol, tai gofal ychwanegol hunangynhwysol a fflatiau un ystafell nad ydynt yn hunangynhwysol a lleoedd gwely mewn hosteli. Nid yw Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn gymwys i'r rhain.

Unedau tai eraill

unedau tai a gaiff eu gosod ar lefelau rhent canolradd (gan gynnwys rhent yn gyntaf) lle mae'r rhenti yn uwch na thai rhent cymdeithasol ond yn is na rhenti ar y farchnad dai gan gynnwys rhanberchnogaeth; deiliadaeth hyblyg i bobl oedrannus; tai a gaiff eu gosod ar renti'r farchnad; Cymorth Prynu a thai buddsoddi eraill.

Image

Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad ansawdd

Stoc tai cymdeithasol

Ar 31 Mawrth 2023, roedd cyfanswm o 238,966 o unedau tai cymdeithasol yng Nghymru. O'r rhain, roedd 95% (227,068) yn unedau angen cyffredinol hunangynhwysol neu'n unedau tai gwarchod a osodwyd gan landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ar renti cymdeithasol (fel y'u rheoleiddir gan Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru). Roedd y 5% (11,898) sy'n weddill yn unedau tai cymdeithasol nas cwmpesir gan Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru ond sy'n dal i gael eu hystyried yn dai cymdeithasol.

Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a oedd yn berchen ar 63% (150,437 o unedau) o'r holl unedau tai cymdeithasol ar 31 Mawrth 2023 a'r 11 o awdurdodau a oedd yn cadw stoc a oedd yn berchen ar y 37% arall (88,529 o unedau).

Ffigur 1: Canran yr holl unedau tai cymdeithasol yn ôl math ar 31 Mawrth 2023 

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart siâp cylch yn dangos bod 84% o holl dai cymdeithasol Cymru yn llety anghenion cyffredinol yn 2023, ac yna tai gwarchod gydag 11%.

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc landlordiaid cymdeithasol 

Cyfanswm y stoc ar rent cymdeithasol yn ôl ardal awdurdod lleol a math o lety (StatsCymru)

Tabl 1:  Unedau tai cymdeithasol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, ar 31 Mawrth bob blwyddyn [Nodyn 1]
Landlordiaid cymdeithasol Cyfanswm tai rhent cymdeithasol Cyfanswm tai cymdeithasol 'eraill' Cyfanswm tai cymdeithasol
Awdurdodau lleol      
2018-19 85,596 1,808 87,404
2019-20 85,545 1,779 87,324
2020-21 85,663 1,896 87,559
2021-22 85,798 2,129 87,927
2022-23 86,298 2,231 88,529
Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig      
2018-19 134,986 9,018 144,004
2019-20 [2] - - -
2020-21 138,639 9,201 147,840
2021-22 (d) 139,610 9,836 149,446
2022-23 140,770 9,667 150,437
Pob landlord cymdeithasol      
2018-19 220,582 10,826 231,408
2019-20 [2] 85,545 1,779 87,324
2020-21 224,302 11,097 235,399
2021-22 (d) 225,408 11,965 237,373
2022-23 227,068 11,898 238,966

Disgrifiad o Dabl 1: Tabl yn dangos bod cyfanswm nifer yr unedau tai cymdeithasol wedi cynyddu bob blwyddyn dros y 3 blynedd diwethaf, gyda niferoedd y tai rhent cymdeithasol a thai cymdeithasol ‘eraill’ wedi aros yn weddol gyson. 

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc landlordiaid cymdeithasol 

Am ragor o ddadansoddiadau gweler Cyfanswm y stoc (yn cynnwys y stoc tai nad ydynt yn dai cymdeithasol) yn ôl ardal awdurdod lleol a'r math o lety (StatsCymru).

[Nodyn 1] Heb gynnwys data ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn Lloegr sydd â stoc yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2023, roeddent yn berchen ar tua 207 o unedau o stoc yng Nghymru.

[Nodyn 2] O ganlyniad i COVID-19, ni chasglwyd data ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn 2019-20.

(d) Diwygiwyd y data ar gyfer 2021-22 ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

‘-‘  =  ddim ar gael

Tai ar renti cymdeithasol

Llety anghenion cyffredinol hunangynhwysol (gan gynnwys fflatiau un ystafell hunangynhwysol), nad yw wedi'i ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnyddwyr penodol, oedd y rhan fwyaf o unedau tai ar renti cymdeithasol o hyd, ac roedd yn cyfrif am 89% (201,819) o'r 227,068 o unedau tai rhent cymdeithasol ar 31 Mawrth 2023. 

Unedau tai gwarchod hunangynhwysol (gan gynnwys fflatiau un ystafell hunangynhwysol) i'r rhai ag anghenion penodol o ganlyniad i oedran, anabledd neu fregusrwydd arall, oedd yr 11% (25,249) arall. Roedd y rhain yn debyg i'r cyfrannau a welwyd yn 2021-22.

Roedd gan awdurdodau lleol ganran ychydig yn uwch o unedau tai gwarchod hunangynhwysol yn eu stoc o gymharu â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a oedd yn cyfrif am 12% (o gymharu â 10% o stoc landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) o'u holl stoc rhent cymdeithasol ar 31 Mawrth 2023.

Tai cymdeithasol eraill

Ar 31 Mawrth 2023, roedd 11,898 o unedau tai cymdeithasol eraill ledled Cymru nad oeddent yn cael eu cwmpasu gan Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru. Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig oedd yn dal y mwyafrif o'r unedau hyn o hyd, gan gyfrif am 81% ohonynt (9,667 o unedau).  

Ar 31 Mawrth 2023, roedd y mwyafrif (64%) o unedau tai cymdeithasol eraill yn hunangynhwysol, sy'n golygu y caiff y llety ei feddiannu gan aelwyd a'i fod yn cynnwys bath/cawod, toiled mewnol a rhai cyfleusterau coginio sydd at ddefnydd yr aelwyd honno yn unig. Unedau nad ydynt yn hunangynhwysol oedd y 36% (4,301 o unedau) arall, gan gynnwys fflatiau un ystafell (161 o unedau) a lleoedd gwely mewn hosteli (4,140 o unedau).

Tai ‘â chymorth eraill’ oedd 64% o'r unedau hunangynhwysol (4,900 o unedau). Roedd yr unedau tai hyn yn cyfrif am 86% o stoc tai cymdeithasol eraill awdurdodau lleol, a oedd yn llawer uwch na'r hyn a welwyd ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (31%).

Unedau tai gofal ychwanegol, sy'n cynnig lefel uwch o ofal na ‘thai gwarchod’, oedd y 36% arall o unedau hunangynhwysol (2,697 o unedau). Mae'r gwasanaethau a gynigir yn amrywio o gynllun i gynllun ond gallant gynnwys prydau bwyd, help gyda thasgau domestig a gofal personol arall. Ar 31 Mawrth 2023, roedd yr holl unedau tai gofal ychwanegol hunangynhwysol yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac yn cael eu rheoli ganddynt.

Bu gostyngiad o 4% yn nifer y lleoedd gwely mewn hosteli nad ydynt yn hunangynhwysol rhwng 2021-22 a 2022-23 (o 4,314 i 4,140 o unedau). Bu cynnydd o 2% (o 4,787 i 4,900 o unedau) yn nifer yr unedau tai ‘â chymorth eraill’ hunangynhwysol yn yr un cyfnod.

Roedd 20% yn llai o fflatiau un ystafell nad ydynt yn hunangynhwysol ym mis Mawrth 2023 nag ym mis Mawrth 2022, gan ostwng i 161 o unedau. Roedd y mwyafrif o'r unedau hyn (104 o unedau, 65%) yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Tai cymdeithasol yn ôl ardal awdurdod lleol 

Mae Ffigur 2 isod yn dangos cyfradd yr holl dai cymdeithasol (tai ar renti cymdeithasol a thai cymdeithasol eraill ar y cyd) fesul 100 o aelwydydd ar lefel awdurdodau lleol unigol.

Ffigur 2: Cyfradd yr holl unedau tai cymdeithasol fesul 100 o aelwydydd ar 31 Mawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar yn dangos bod gan fwyafrif yr awdurdodau lleol trefol gyfraddau uwch o dai cymdeithasol fesul 100 o aelwydydd nag awdurdodau lleol gwledig. Mae gan 9 awdurdod lleol gyfradd uwch na chyfartaledd Cymru. 

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc landlordiaid cymdeithasol

Cyfanswm y stoc tai cymdeithasol yn ôl ardal awdurdod lleol a math o ddarparwr (StatsCymru)

[Nodyn 1] Defnyddir amcangyfrifon aelwydydd canol-2020 ar gyfer Cymru a luniwyd gan Lywodraeth Cymru yn y datganiad hwn i gyfrifo cyfradd yr unedau tai cymdeithasol fesul 100 o aelwydydd. Mae'r amcangyfrifon hyn ar gael o wefan StatsCymru.

Gan ystyried nifer yr aelwydydd yn ardal pob awdurdod lleol, yr awdurdodau â'r cyfraddau uchaf o'r holl fathau o dai cymdeithasol (rhent cymdeithasol a thai cymdeithasol eraill) fesul 100 o aelwydydd oedd Torfaen a Blaenau Gwent (25.4 a 25.2 yn y drefn honno). Ceredigion oedd â'r gyfradd isaf, sef 11.2, gyda Chonwy yn dilyn â chyfradd o 12.2 (Ffigur 2).

Roedd cyfran yr holl fathau o unedau tai cymdeithasol fesul 100 o aelwydydd yn dal i fod yn uwch mewn awdurdodau trefol na rhai gwledig, yn enwedig rhai o awdurdodau cymoedd y de gan gynnwys Torfaen, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, ac roedd y naw awdurdod gwledig wedi parhau i gofnodi cyfraddau islaw cyfartaledd Cymru, sef 17.3 o unedau fesul 100 o aelwydydd.

Tabl 2: Amcangyfrifon o'r stoc tai cymdeithasol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn ôl ardal awdurdod lleol, ar 31 Mawrth 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Awdurdodau Lleol Cyfanswm tai rhent cymdeithasol Cyfanswm tai cymdeithasol 'eraill' Cyfanswm tai cymdeithasol
Ynys Môn 4,879 228 5,107
Gwynedd 8,447 429 8,876
Conwy 5,973 523 6,496
Sir Ddinbych 5,433 494 5,927
Sir y Fflint 9,917 519 10,436
Wrecsam 13,050 431 13,481
Powys 8,647 256 8,903
Ceredigion 3,327 204 3,531
Sir Benfro 7,453 1,281 8,734
Sir Gaerfyrddin 12,417 399 12,816
Abertawe 21,450 756 22,206
Castell-nedd Port Talbot 12,379 370 12,749
Pen-y-bont ar Ogwr 8,915 403 9,318
Bro Morgannwg 6,931 904 7,835
Caerdydd 25,564 1,866 27,430
Rhondda Cynon Taf 15,547 654 16,201
Merthyr Tudful 5,740 127 5,867
Caerffili 14,875 341 15,216
Blaenau Gwent 7,724 167 7,891
Torfaen 9,294 1,056 10,350
Sir Fynwy 5,675 96 5,771
Casnewydd 13,431 394 13,825
Cymru 227,068 11,898 238,966

Disgrifiad o Dabl 2: Tabl yn dangos dadansoddiad o'r tai rhent cymdeithasol a'r tai cymdeithasol ‘eraill’ ym mhob awdurdod lleol.

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc landlordiaid cymdeithasol 

Am ragor o ddadansoddiadau, gweler Cyfanswm y stoc (yn cynnwys y stoc tai nad ydynt yn dai cymdeithasol) yn ôl ardal awdurdod lleol a'r math o lety (StatsCymru)

[Nodyn 1] Yn cynnwys anghenion cyffredinol hunangynhwysol, tai gwarchod a gofal ychwanegol, fflatiau un ystafell nad ydynt yn hunangynhwysol a hosteli nad ydynt yn hunangynhwysol.

[Nodyn 2] Heb gynnwys data ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn Lloegr sydd â stoc yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2022, roeddent yn berchen ar tua 208 o unedau o stoc yng Nghymru (noder mai ffigur dros dro yw hwn ac y gall newid cyn y datganiad terfynol). 

Tai ar renti cymdeithasol yn ôl ardal awdurdod lleol

Ar lefel Cymru ac ar lefel awdurdodau lleol unigol, llety anghenion cyffredinol hunangynhwysol oedd y mwyafrif (rhwng 72% a 98%) o'r holl dai rhent cymdeithasol, ac roedd gan 12 awdurdod lleol fwy na 90% a oedd yn llety anghenion cyffredinol. Torfaen oedd â'r ganran uchaf, sef 98%. 

Roedd canran yr holl dai rhent cymdeithasol a oedd yn dai gwarchod hunangynhwysol yn amrywio o 2% i 28% ar lefel awdurdod lleol. Yn Sir y Fflint, Powys a Sir Ddinbych, roedd y math hwn o lety yn cyfrif am chwarter neu fwy o'r holl dai rhent cymdeithasol (28%, 25% a 25% yn y drefn honno).

Tai cymdeithasol eraill yn ôl ardal awdurdod lleol

Ar lefel Cymru, roedd 41% (4,900 o unedau) o unedau tai cymdeithasol eraill yn dai ‘â chymorth eraill’ hunangynhwysol ac roedd ychydig llai na chwarter (23%, 2,697 o unedau) yn dai gofal ychwanegol hunangynhwysol. 

Roedd y 36% sy'n weddill o unedau ‘tai cymdeithasol eraill’ yng Nghymru yn cynnwys 161 o fflatiau un ystafell nad ydynt yn hunangynhwysol a 4,140 o leoedd gwely mewn hosteli nad ydynt yn hunangynhwysol. Ar lefel awdurdod lleol, Caerdydd a gofnododd y nifer mwyaf o fflatiau un ystafell nad ydynt yn hunangynhwysol (65 o unedau), ac yna Abertawe (27 o unedau) ac ni chofnodwyd unrhyw unedau o'r fath mewn 12 o'r 22 awdurdod lleol.

Roedd niferoedd a chyfrannau'r tai ‘â chymorth eraill’ hunangynhwysol a'r tai gofal ychwanegol hunangynhwysol yn amrywio'n sylweddol o un awdurdod lleol i'r llall. Roedd cyfran y tai ‘â chymorth eraill’ hunangynhwysol yn amrywio o 89% yn Nhorfaen i 7% yn unig yn Sir Ddinbych. Roedd cyfran y tai gofal ychwanegol hunangynhwysol yn amrywio o 51% yn Ynys Môn, Blaenau Gwent a Cheredigion, i 5% ym Mro Morgannwg. 

Unwaith eto, Caerdydd ac Abertawe a gofnododd y niferoedd uchaf o leoedd gwely mewn hosteli nad ydynt yn hunangynhwysol, gyda 903 yng Nghaerdydd (i lawr o 910) a 343 yn Abertawe (i lawr o 387).

Y stoc o ‘dai eraill’ sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol neu'n cael eu rheoli ganddynt

Ar 31 Mawrth 2023, roedd landlordiaid cymdeithasol yn berchen neu'n berchen yn rhannol ar 16,551 o unedau tai ac yn eu rheoli nad oeddent yn cael eu cyfrif yn ‘dai cymdeithasol’. Mae hyn yn gynnydd o 7% (1,072 o unedau) o gymharu â 31 Mawrth 2022 ac o'r rhain, roedd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn berchen neu'n berchen yn rhannol ar 98% ohonynt ac yn eu rheoli (Tabl 3).

Ar lefel Cymru, ar 31 Mawrth 2023, roedd 35% (5,730 o unedau) o'r unedau tai eraill a oedd yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol neu'n cael eu rheoli ganddynt yn unedau tai a oedd yn cael eu gosod ar renti canolradd. At hynny, roedd 28% o'r unedau tai eraill (4,638 o unedau) yn cael eu gosod ar rent y farchnad. 

Roedd 12% (1,929 o unedau) o'r holl unedau tai cymdeithasol eraill yn rhai Cymorth Prynu, sy'n cynnwys tai lle mae'r landlord cymdeithasol wedi rhoi benthyciad i denant blaenorol er mwyn ei alluogi i brynu'r tŷ ei hun; er nad oes gan y cyn-landlord unrhyw gyfran ecwiti yn y stoc, mae cyllid wedi cael ei ddarparu ac nid yw wedi'i ad-dalu. 

Roedd unedau tai rhanberchnogaeth yn cyfrif am 10% (1,728 o unedau) ac roedd 15% arall (2,435 o unedau) yn dai buddsoddi eraill.

Dim ond 91 (ychydig llai nag 1%) o unedau tai deiliadaeth hyblyg a oedd ar gael i bobl oedrannus yng Nghymru ar 31 Mawrth 2023 (Ffigur 3).

Ffigur 3: Canran yr holl unedau tai eraill yn ôl math ar 31 Mawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart siâp cylch sy'n dangos dadansoddiad manwl o'r holl unedau tai eraill. Mae mwy na hanner yr holl unedau hyn yn cynnwys rhenti canolradd ac eiddo am renti'r farchnad. 

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc landlordiaid cymdeithasol 

Cyfanswm y stoc (gan gynnwys stoc tai nad ydynt yn dai cymdeithasol) yn ôl ardal awdurdod lleol a math o lety (StatsCymru)

[Nodyn 1] O ganlyniad i dalgrynnu, efallai na fydd rhai ffigurau yn adio i 100%.

Ar 31 Mawrth 2023, roedd unedau tai sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol a gaiff eu gosod ar lefelau rhent y farchnad wedi'u canoli i raddau helaeth mewn dim ond tri awdurdod o hyd. Roedd ychydig o dan draean wedi'u cofnodi yng Ngheredigion (1,497 o unedau) ac Abertawe (1,399 o unedau) a chwarter yng Ngwynedd (1,150 o unedau). Llety myfyrwyr yw'r unedau hyn yn bennaf sy'n eiddo i un landlord cymdeithasol cofrestredig. Nid oedd gan 4 awdurdod lleol (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin a Rhondda Cynon Taf) unrhyw unedau tai a oedd yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol a oedd yn cael eu gosod ar rent y farchnad.

Ar 31 Mawrth 2023, roedd hanner yr unedau tai rhent canolradd wedi'u rhannu rhwng 4 awdurdod lleol: roedd 15% yng Nghaerdydd (860 o unedau), cofnodwyd 14% (824 o unedau) arall yng Nghasnewydd, 11% (634 o unedau) yn Sir Benfro a 10% (568 o unedau) yn Abertawe.

Bro Morgannwg a gofnododd y gyfran uchaf o unedau tai Cymorth Prynu, sef 13%, gyda Gwynedd yn dilyn wedyn ar 12%. Cofnododd 6 awdurdod lleol lai nag 1%.

Awdurdodau lleol Caerdydd, Casnewydd a Chonwy oedd â'r gyfran uchaf o hyd o unedau tai rhanberchnogaeth gyda 21%, 16% ac 11% yn y drefn honno.

Roedd ychydig dros hanner yr unedau tai buddsoddi eraill wedi'u canoli'n bennaf mewn tri awdurdod lleol yn unig, gyda 35% (844 o unedau) wedi'u cofnodi yng Nghaerdydd, 13% (308 o unedau) yn Nhorfaen a 12% (281 o unedau) ym Mro Morgannwg. Nid oedd Sir Benfro wedi cofnodi unrhyw unedau tai buddsoddi eraill.

Roedd bron i ddwy ran o dair (64%) o'r 91 o unedau tai deiliadaeth hyblyg i bobl oedrannus ar 31 Mawrth 2023 yng Nghonwy. Efallai bod hyn yn deillio o'r ffaith bod ychydig dros chwarter (27%) o boblogaeth Conwy yn 65 oed neu'n hŷn yn 2021 [Nodyn 2] o gymharu â dim ond 21% o boblogaeth Cymru. Nid oedd 17 o'r 22 awdurdod lleol wedi cofnodi unrhyw unedau deiliadaeth hyblyg i bobl oedrannus.

[Nodyn 2] Mae amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn yn ôl awdurdod lleol ac oedran ar gael ar StatsCymru

Mae data ar gael ar wefan StatsCymru. Cyfanswm y stoc (yn cynnwys y stoc tai nad ydynt yn dai cymdeithasol) yn ôl ardal awdurdod lleol a'r math o lety (StatsCymru)

Rhenti tai cymdeithasol

Dim ond gwybodaeth am y rhenti wythnosol cyfartalog a godir am unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol a geir yn y datganiad hwn. Unedau tai hunangynhwysol yw llety a feddiennir gan aelwyd ac sy'n cynnwys bath/cawod, toiled mewnol a rhai cyfleusterau coginio sydd at ddefnydd yr aelwyd honno yn unig. 

Mae gwybodaeth am renti'r holl unedau tai cymdeithasol nad ydynt yn hunangynhwysol (gan gynnwys fflatiau un ystafell a lleoedd gwely mewn hosteli) wedi'i hepgor o'r dadansoddiad ond mae ar gael ar StatsCymru.

Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad ansawdd.

Rhenti ar gyfer yr holl unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol

Mae Ffigurau 4 a 5 yn cyflwyno gwybodaeth am y rhenti wythnosol cyfartalog a godir gan yr 11 awdurdod lleol sy'n cadw stoc a'r holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig am yr holl unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol. Mae hyn yn cynnwys unedau tai anghenion cyffredinol ac unedau tai gwarchod hunangynhwysol sy'n dod o dan y Polisi Rhenti yn ogystal â thai cymdeithasol hunangynhwysol eraill gan gynnwys unedau tai â chymorth ‘eraill’ ac unedau gofal ychwanegol. 

Y rhenti wythnosol cyfartalog ar gyfer 2023-24 a bennwyd (ar 1 Ebrill 2023) ar gyfer yr 88,211 o unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol sy'n eiddo i awdurdodau lleol ac yn cael eu rheoli ganddynt oedd £105.08. Roedd hyn 2% yn is na'r rhent wythnosol cyfartalog o £107.34 a bennwyd ar gyfer y 146,454 o unedai tai cymdeithasol hunangynhwysol sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac yn cael eu rheoli ganddynt.  

Mae lefelau rhent wythnosol cyfartalog landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi bod yn gyson uwch na lefelau rhent wythnosol cyfartalog awdurdodau lleol ers nifer o flynyddoedd, a hynny'n bennaf o ganlyniad i wahaniaethau hanesyddol rhwng polisïau pennu rhent. O fis Ebrill 2015 ymlaen, fodd bynnag, mae'r un polisi pennu rhent wedi bod yn gymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol. Mae'n amlwg hefyd fod gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ganran uwch o unedau 4 neu 5 ystafell wely nag awdurdodau lleol fel arfer ac, yn anochel, codir rhent wythnosol cyfartalog uwch am y rhain.

Ffigur 4: Rhenti wythnosol cyfartalog (£oedd) yr holl unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ac yn cael eu rheoli ganddynt, 2003-04 i 2023-24 [Nodyn 1] [Nodyn 2] 

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Graff llinell yn dangos bod pris rhent wythnosol cyfartalog awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi cynyddu bob blwyddyn rhwng 2003-04 a 2023-24 ar gyfer yr holl unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol. Mae rhenti wythnosol cyfartalog landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi aros yn gyson uwch na rhenti awdurdodau lleol. 

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc landlordiaid cymdeithasol 

Rhenti wythnosol cyfartalog stoc ar rent cymdeithasol yn ôl math o annedd, nifer yr ystafelloedd gwely a'r math o ddarparwr (StatsCymru)

[Nodyn 1] Yn cynnwys tai anghenion cyffredinol, tai gwarchod, tai â chymorth eraill a thai gofal ychwanegol hunangynhwysol. Nid yw'n cynnwys unrhyw unedau tai cymdeithasol nad ydynt yn hunangynhwysol, fflatiau un ystafell nad ydynt yn hunangynhwysol na hosteli nad ydynt yn hunangynhwysol. Nid yw'n cynnwys unrhyw unedau tai nad ydynt yn dai cymdeithasol.

[Nodyn 2] Mae'r rhenti yn berthnasol i'r sefyllfa ar 1 Ebrill cyn i'r flwyddyn ariannol ddechrau. 

[Nodyn 3] Ni chasglwyd data landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer 2020-21 oherwydd COVID-19

(d) Diwygiwyd y data ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

Y rhenti wythnosol cyfartalog a bennwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer 2023-24 am yr holl dai cymdeithasol hunangynhwysol oedd £105.08 yr wythnos, sy'n gynnydd o 6% ers 2022-23. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 3% rhwng 2020-21 a 2021-22. 

Y rhenti wythnosol cyfartalog a bennwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer 2023-24 am yr holl dai cymdeithasol hunangynhwysol oedd £107.34 yr wythnos, sy'n gynnydd o 6% ers 2022-23. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 3% mewn rhenti landlordiaid cymdeithasol cofrestredig rhwng 2020-21 a 2021-22.  

Roedd y rhent wythnosol cyfartalog am unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer 2022-23 £2.26 yn uwch nag unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol awdurdodau lleol. Roedd y bwlch ychydig yn fwy na'r gwahaniaeth o £1.73 yn 2021-22 a £1.56 yn 2020-21, ond yn is na'r ffigur ar gyfer 2016-17 (£2.45 yr wythnos) sy'n awgrymu bod y bwlch rhwng lefelau rhent wythnosol cyfartalog awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi bod yn cau yn gyffredinol. 

Mae Ffigur 5 isod yn dangos y rhenti wythnosol cyfartalog ar gyfer y gwahanol fathau o unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, gan gynnwys tai anghenion cyffredinol, tai gwarchod, tai ‘â chymorth eraill’ a thai ‘gofal ychwanegol’. 

Gall y rhenti a godir am dai gofal ychwanegol hunangynhwysol fod yn sylweddol uwch, ar gyfartaledd, na'r rhai a godir am dai anghenion cyffredinol, tai gwarchod a thai ‘â chymorth eraill’ hunangynhwysol, yn dibynnu ar y math o gynllun gofal ychwanegol a'r math o wasanaethau a ddarperir. Mae'r gwasanaethau a gynigir yn amrywio o gynllun i gynllun ond caiff prydau bwyd, help gyda thasgau domestig a rhywfaint o ofal personol eu darparu'n aml ar gyfer tai gofal ychwanegol. 

Ffigur 5: Rhenti wythnosol cyfartalog (£oedd) holl unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer 2023-24 yn ôl math o dŷ [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar sy'n dangos cymhariaeth rhwng rhent wythnosol cyfartalog unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol awdurdodau lleol, a landlordiaid cymdeithasol. Roedd unedau gofal ychwanegol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gryn dipyn yn uwch nag unrhyw fath arall o dai. 

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc landlordiaid cymdeithasol 

Rhenti wythnosol cyfartalog stoc ar renti cymdeithasol yn ôl ardal, llety a math o ddarparwr (StatsCymru)

[Nodyn 1] Yn cynnwys tai anghenion cyffredinol, tai gwarchod, tai â chymorth eraill a thai gofal ychwanegol hunangynhwysol. Nid yw'n cynnwys unrhyw unedau tai cymdeithasol nad ydynt yn hunangynhwysol, fflatiau un ystafell nad ydynt yn hunangynhwysol na hosteli nad ydynt yn hunangynhwysol. Nid yw'n cynnwys unrhyw unedau tai nad ydynt yn dai cymdeithasol.

[Nodyn 2] Pennir rhenti ar 1 Ebrill 2023 ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24.

Y gwahaniaeth rhwng y rhenti wythnosol cyfartalog a godir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol am yr holl dai cymdeithasol hunangynhwysol yw £2.26 yr wythnos ond dim ond £0.55 yr wythnos yw'r gwahaniaeth rhwng rhenti cyfartalog am unedau tai anghenion cyffredinol hunangynhwysol. 

Mae'r cymysgedd tai yn amrywio rhwng awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a gall hyn effeithio ar y lefelau rhent wythnosol cyfartalog a godir am yr holl dai cymdeithasol hunangynhwysol. Mae'r rhenti wythnosol cyfartalog am dai gwarchod hunangynhwysol a thai ‘â chymorth eraill’ hunangynhwysol awdurdodau lleol yn is ar y cyfan nag unedau cyfatebol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac mae hynny'n arbennig o wir yn achos unedau tai â chymorth arall hunangynhwysol (Ffigur 5).

Mae data ar gael ar wefan StatsCymru. Rhenti wythnosol cyfartalog ar gyfer y stoc tai cymdeithasol i'w rhentu yn ôl y math o annedd, nifer yr ystafelloedd gwely a'r math o ddarparwr (StatsCymru)

Roedd rhenti cyfartalog tai cymdeithasol ar gyfer 2023-24 yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar y darparwr, y math o dŷ a'r ardal awdurdod lleol. 

Gwelwyd y rhenti wythnosol isaf am holl unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer 2023-24 yn awdurdodau cymoedd y de ym Mlaenau Gwent (£95.18 yr wythnos) a Merthyr Tudful (£96.84 yr wythnos). Gwelwyd y rhenti uchaf unwaith eto yn Sir y Fflint (£117.40 yr wythnos), Caerdydd (£116.81 yr wythnos) a Bro Morgannwg (£116.25 yr wythnos).

Ar gyfer yr 11 awdurdod lleol sy'n cadw stoc o hyd, unwaith eto, gwelwyd y rhenti wythnosol cyfartalog isaf am holl unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol awdurdodau lleol ar gyfer 2023-24 yn Sir Benfro ar £96.39 yr wythnos a gwelwyd y rhai uchaf yng Nghaerdydd ar £118.56 yr wythnos.

Roedd y bwlch mwyaf rhwng lefelau rhent awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig am unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol yn Sir y Fflint, lle roedd rhenti cyfartalog landlordiaid cymdeithasol cofrestredig £12.08 yr wythnos yn fwy na rhenti'r awdurdod lleol. Yng Nghaerdydd ac Abertawe, roedd rhent wythnosol cyfartalog yr awdurdod lleol yn fwy na rhent landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda gwahaniaeth o £1.75 a £0.62 yn y drefn honno. 

Er bod rhenti landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn parhau i fod yn uwch yn gyffredinol na rhenti awdurdodau lleol yn achos pob math o dŷ, roedd rhai eithriadau. Roedd rhent cyfartalog yr awdurdod lleol am dai anghenion cyffredinol ar gyfer 2023-24 yn uwch na rhent landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghaerdydd (£3.22 yr wythnos) ac yn Abertawe (£0.27 yr wythnos). Yn achos tai gwarchod, roedd rhenti 4 awdurdod lleol yn uwch na rhenti landlordiaid cymdeithasol cofrestredig: Sir Ddinbych (£5.81 yr wythnos), Abertawe (£1.92 yr wythnos), Bro Morgannwg (£1.01 yr wythnos) ac Ynys Môn (£0.14 yr wythnos). 

Tai gofal ychwanegol – hunangynhwysol

Y rhent wythnosol cyfartalog a godir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig am dai gofal ychwanegol hunangynhwysol ar gyfer 2023-24 yng Nghymru yw £161.17, sy'n gynnydd o'r £150.44 a godwyd yn 2021-22, ac yn sylweddol uwch na rhenti wythnosol cyfartalog landlordiaid cymdeithasol cofrestredig am fathau eraill o unedau tai cymdeithasol hunangynhwysol. Roedd rhenti gofal ychwanegol yn amrywio'n sylweddol rhwng yr awdurdodau unigol a hynny, fwy na thebyg, o ganlyniad i wahaniaethau yn y cynlluniau gofal ychwanegol a'r lefelau gwasanaeth a gofal a ddarperir. Unwaith eto, cofnodwyd y rhenti uchaf gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig am ofal ychwanegol ar gyfer 2023-24 ym Merthyr Tudful ar £244.28 yr wythnos a chofnodwyd y rhent isaf o hyd yn Sir Fynwy ar £95.91 yr wythnos.

Tai anghenion cyffredinol – hunangynhwysol

Tabl 3: Rhenti wythnosol cyfartalog unedau tai anghenion cyffredinol hunangynhwysol landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, yn ôl math o landlord a math a maint yr uned [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] 
        £oedd yr wythnos
Dwelling 2022-23 ALI 2022-23 LCC (d) 2023-24 ALI 2023-24 LCC
1 ystafell wely:        
Tai a byngalos 88.91 86.67 94.30 89.86
Fflatiau 85.09 83.24 90.19 88.32
2 ystafell wely:        
Tai a byngalos 98.61 102.42 104.56 109.10
Fflatiau 92.57 92.57 98.07 98.63
3 ystafell wely:        
Tai a byngalos 108.42 110.24 114.80 117.31
Fflatiau 99.53 104.11 105.55 114.80
4 ystafell wely:        
Tai a byngalos 118.97 126.88 126.10 134.93
Fflatiau 127.57 116.19 135.85 124.97
5 ystafell wely (neu fwy):      
Tai a byngalos 128.87 152.84 136.66 158.82
Fflatiau - - - -
Pob annedd 100.86 101.00 106.83 107.38

Disgrifiad o Dabl 3: Tabl yn dangos y rhent wythnosol cyfartalog am unedau tai awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely, ar gyfer 2022-23 a 2023-24. Ar gyfer 2023-24, mae'r rhent wythnosol cyfartalog wedi cynyddu ar gyfer pob nifer o ystafelloedd gwely, gydag unedau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gyson uwch. 

Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc landlordiaid cymdeithasol

Rhenti wythnosol cyfartalog stoc ar rent cymdeithasol yn ôl math o annedd, nifer yr ystafelloedd gwely a'r math o ddarparwr (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae'r tabl hwn yn cynnwys unedau anghenion cyffredinol hunangynhwysol yn unig (gan gynnwys fflatiau un ystafell hunangynhwysol)

[Nodyn 2] Mae'r rhenti ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn berthnasol i'r sefyllfa ar 1 Ebrill ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. Er enghraifft, caiff rhenti 2023-24 eu pennu ar 1 Ebrill 2023.

[Nodyn 3] Mae fflatiau un ystafell hunangynhwysol wedi'u cynnwys gyda fflatiau un ystafell wely.

'-'  = ddim yn gymwys. 

Ar ôl gweithredu'r Bandiau Rhent Targed yn y fframwaith polisi rhent blaenorol, gwelwyd lleihad cyffredinol yn y gwahaniaeth rhwng y rhenti wythnosol cyfartalog (o £0.69 yn 2014-15 i £0.55 yn 2023-24), ond mae'r bwlch wedi dechrau cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf

Y rhenti cyfartalog a bennwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar 1 Ebrill 2023 am yr holl dai anghenion cyffredinol hunangynhwysol yn ystod 2023-24 oedd £107.38 yr wythnos, dim ond £0.55 yr wythnos yn fwy na'r rhent a godwyd gan awdurdodau lleol.

Roedd y bwlch rhwng y rhent uchaf ac isaf a godir am yr unedau tai amrywiol ar gyfer 2023-24 yn parhau i fod yn fwy yn achos landlordiaid cymdeithasol cofrestredig nag awdurdodau lleol. Tra bod rhenti awdurdodau lleol yn amrywio o £90.19 yr wythnos am fflat 1 ystafell wely i £136.66 yr wythnos am dŷ neu fyngalo â 5 ystafell wely (neu fwy), roedd rhenti landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn amrywio o £88.32 yr wythnos am fflat 1 ystafell wely i £158.82 yr wythnos am dŷ neu fyngalo â 5 ystafell wely (neu fwy). 

O blith y gwahanol fathau o dai, ar gyfer tai a byngalos â 5 ystafell wely (neu fwy) y gwelwyd y gwahaniaeth mwyaf rhwng prisiau awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Ar gyfartaledd, roedd tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn talu £22.16 yn fwy bob wythnos na thenantiaid awdurdodau lleol am y mathau hyn o dai. Gan mai nifer cymharol fach o unedau tai mawr sydd ar gael, mae'n bosibl bod tebygolrwydd uwch o renti cyfartalog hynod o uchel neu isel. Ar gyfer fflatiau 2 ystafell wely lle roedd tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn talu £0.56 yn fwy yr wythnos ar gyfartaledd y gwelwyd y gwahaniaeth lleiaf mewn prisiau. 

Fel gyda blynyddoedd blaenorol, roedd awdurdodau lleol hefyd yn codi rhenti wythnosol uwch na landlordiaid cymdeithasol cofrestredig am fflatiau mawr (4 ystafell wely). Ar gyfer 2023-24, roedd rhent cyfartalog awdurdodau lleol am y mathau hyn o fflatiau £10.88 yr wythnos yn uwch na rhenti landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Fodd bynnag, dim ond 15 o fflatiau 4 ystafell wely oedd ar gael gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2023. O'r rhain, roedd 13 ohonynt yng Nghaerdydd lle mae rhenti yn uwch ar y cyfan nag awdurdodau lleol eraill, roedd un yn Ynys Môn ac roedd un yn Sir y Fflint.

Rhestr termau

Anghenion cyffredinol 

Unedau hunangynhwysol na chânt eu cadw ar gyfer grwpiau cleientiaid penodol. Mae unedau tai sydd wedi'u haddasu i'w defnyddio gan bobl ag anableddau wedi'u cynnwys lle na chaiff unrhyw wasanaethau neu gymorth ychwanegol eu darparu fel rhan o delerau'r ddeiliadaeth.

Annedd

Fel y'i diffiniwyd yng Nghyfrifiad 2021, annedd yw uned llety a all fod yn wag neu a all fod wedi'i feddiannu, er enghraifft tai neu fflatiau. Dim ond un aelwyd sy'n byw mewn annedd fel arfer, ond caiff y rhai sy'n cynnwys mwy nag un aelwyd eu rhannu ac fe'u gelwir yn “anheddau a rennir”.

Os nad oes unrhyw breswylwyr arferol yn byw mewn annedd, er enghraifft, annedd sy'n wag ar ôl cael ei gwerthu, gelwir y rhain yn “anheddau heb eu meddiannu” ond gallant gael eu defnyddio gan breswylwyr byrdymor neu ymwelwyr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, er enghraifft, cartrefi gwyliau.

Cymorth Prynu

Stoc lle mae'r landlord cymdeithasol wedi rhoi benthyciad i denant blaenorol er mwyn ei alluogi i brynu'r tŷ ei hun. Er nad oes gan y landlord cymdeithasol unrhyw gyfran ecwiti yn y stoc, mae cyllid wedi cael ei ddarparu ac nid yw wedi'i ad-dalu.

Deiliadaeth hyblyg i bobl oedrannus

Yn cynnwys cynlluniau tai penodol a ddatblygwyd yn y 1990au i ddarparu opsiynau deiliadaeth hyblyg i bobl hŷn mewn cynlluniau tai a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer eu hanghenion.

Fflatiau un ystafell

Cyfuniad o ystafell wely ac ystafell fyw yw fflatiau un ystafell. 

Gofal ychwanegol

Mae ‘tai gwarchod gofal ychwanegol’ neu ‘dai byw â chymorth’ yn cynnig lefel uwch o ofal na ‘thai gwarchod’. Mae'r gwasanaethau a gynigir yn amrywio o gynllun i gynllun ond caiff prydau bwyd, help gyda thasgau domestig a rhywfaint o ofal personol eu darparu'n aml. Caiff ‘tai gofal agos’ eu lleoli ar dir cartref gofal fel arfer, gyda staff y cartref yn darparu gofal a chymorth ychwanegol. Bydd lefelau rhent yn amrywio yn dibynnu ar lefel y gofal a ddarperir.

Hosteli

Hostel yw adeilad:

  • sy'n darparu llety domestig nad yw mewn safle hunangynhwysol ar wahân, a
  • sy'n darparu prydau bwyd neu gyfleusterau i baratoi bwyd sy'n ddigonol i anghenion y bobl hynny, neu brydau bwyd a chyfleusterau, a
  • sy'n cael ei reoli gan landlord cymdeithasol neu sy'n eiddo iddo, neu
  • sy'n cael ei ariannu'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan adran o'r llywodraeth neu asiantaeth neu'r awdurdod lleol ac sy'n gweithredu ar sail nad yw'n fasnachol, neu
  • sy'n cael ei reoli gan sefydliad gwirfoddol neu elusen ac yn darparu gofal, cymorth neu oruchwyliaeth gyda'r nod o helpu'r preswylwyr i adsefydlu neu ailgartrefu yn y gymuned, a
  • nad yw'n gartref gofal, yn ysbyty annibynnol nac yn Gartref Abbeyfield.

Mae'r diffiniad cyfreithiol o hostel yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Budd-dal Tai 2006.

Lleoedd gwely

Gweler ‘Lleoedd gwely mewn hosteli’.

Lleoedd gwely mewn hosteli

Lleoedd neu welyau unigol o fewn hostel yw'r rhain.

Rhanberchnogaeth

Cynlluniau yw'r rhain sy'n galluogi prynwyr cymwys i brynu cyfran o'r uned dai gyda rhent cymesurol yn daladwy i'r landlord cymdeithasol ar y gyfran sy'n weddill.

Rhent canolradd 

Unedau tai yw'r rhain lle mae'r rhenti yn uwch na thai rhent cymdeithasol ond yn is na rhenti'r farchnad.

Rhent yn Gyntaf

Ateb rhent canolradd â chymhorthdal yw Rhent yn Gyntaf sy'n darparu ateb tai rhent canol y farchnad i bobl yn ogystal â'u helpu o bosibl i brynu eu cartref eu hunain yn y dyfodol.Nod Rhent yn Gyntaf yw helpu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gyflawni eu hamcanion tai. Mae'r rhain yn cynnwys creu datblygiadau a chymunedau incwm cymysg a all gael gafael ar eiddo fforddiadwy i'w brynu neu rentu.

Rhenti

Y rhent wythnosol cyfartalog yw cyfartaledd y rhent safonol taladwy, cyn didynnu lwfansau rhent ac nid yw'n cynnwys taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill am amwynderau (e.e. gwres canolog, cyflenwad dŵr poeth neu gyfleusterau golchi dillad) nac ardrethi dŵr ychwaith.

Mae rhenti yn seiliedig ar flwyddyn 52 wythnos. Os ceir wythnosau heb rent, caiff y cyfanswm sy'n daladwy ei rannu â 52. Caiff unedau tai o faint anarferol eu rhoi yn y categori agosaf sydd ar gael. Caiff fflatiau deulawr eu cyfrif fel fflatiau.

Tai â chymorth

Mae hyn yn cynnwys stoc tai â chymorth hunangynhwysol a rentir nad yw'n cyd-fynd â'r diffiniad o lety gwarchod, lle mae cyfyngiadau ar bwy y gellir eu dyrannu i'r uned. Bydd y llety wedi cael ei ddynodi'n benodol ar gyfer grŵp neu grwpiau o gleientiaid er mwyn galluogi preswylwyr i addasu i fyw'n annibynnol neu'u galluogi i fyw'n annibynnol.

Tai a gaiff eu gosod ar renti'r farchnad

Unedau tai eraill a gaiff eu gosod ar renti'r farchnad yw'r rhain.

Tai buddsoddi eraill

Unrhyw dai eraill nad ydynt wedi'u cynnwys yn barod mewn tai a gaiff eu gosod ar renti'r farchnad neu Gymorth Prynu. Dim ond eiddo preswyl y dylid ei gynnwys.

Tai gwarchod

Mae hyn yn cynnwys unedau tai gwarchod sydd naill ai:

  • yn cynnwys system larwm galw warden gyda larwm galw warden yn unig; neu
  • yn cynnwys system larwm galw warden a rheolwr cynllun preswylwyr.

Unedau hunangynhwysol

Uned hunangynhwysol yw llety a feddiennir gan aelwyd ac sy'n cynnwys bath/cawod, toiled mewnol a rhai cyfleusterau coginio sydd at ddefnydd yr aelwyd honno yn unig.

Unedau hunangynhwysol

Uned hunangynhwysol yw llety a feddiennir gan aelwyd ac sy'n cynnwys bath/cawod, toiled mewnol a rhai cyfleusterau coginio sydd at ddefnydd yr aelwyd honno yn unig.

Unedau nad ydynt yn hunangynhwysol

Uned nad yw'n hunangynhwysol yw llety a feddiennir gan aelwyd heb fath/cawod neu doiled mewnol neu rai cyfleusterau coginio sydd at ddefnydd yr aelwyd honno yn unig. Fflatiau un ystafell, tai a rennir, hostel neu lety tebyg i hostel yw'r rhain fel arfer. Felly, fel arfer, ystyrir bod pob lle gwely yn uned nad yw'n hunangynhwysol.

Unedau tai eraill

Dylai unedau tai eraill gynnwys unrhyw fath arall o dai nad ydynt yn dai rhent cymdeithasol nac yn dai cymdeithasol eraill. Gall hyn gynnwys llety myfyrwyr sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol ac yn cael ei reoli ganddynt.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ceir gwybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Maent yn anelu at greu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog a lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol ger bron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) cyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt ger bron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ger bron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r gyfres a osodwyd ar 16 Mawrth 2016. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a gellid eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Mcleod
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR: 88/2023