Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae lansio'r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn nodi blwyddyn ers cyflwyno'r cyfyngiadau symud cyntaf yng Nghymru i reoli lledaeniad Covid 19. Yn ystod y cyfnod hwn, clywais gan lawer o ofalwyr di-dâl sydd wedi cael trafferth ymdopi heb eu rhwydweithiau cymorth arferol. Rwy'n ymwybodol bod gofalwyr di-dâl o bob oed wedi wynebu heriau newydd, pwysau ac, mewn sawl achos, trasiedi bersonol.

Arweiniodd y pandemig at fwy o ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad ymysg y cyhoedd o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, ond dylai'r gwerthfawrogiad hwnnw ymestyn i ofalwyr di-dâl - heb eu cymorth hwy, byddai'r pwysau ar system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru wedi bod yn fwy difrifol fyth. 

Dros y 12 mis diwethaf, efallai fod llawer ohonom wedi ymgymryd â rôl gofalwr di-dâl am y tro cyntaf ac wedi cael anhawster i gydbwyso gwaith ac amser hamdden gydag ymrwymiadau gofalu newydd neu gynnydd mewn ymrwymiadau gofalu. Gobeithio y bydd y profiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth o'r holl ofalwyr di-dâl yn ein cymunedau, o blant neu bobl ifanc sy'n cefnogi brodyr a chwiorydd neu rieni, i bobl hŷn sy'n gofalu am bartner, neu'r llu o gymdogion a ffrindiau sy'n treulio llai o oriau yn gofalu ond sy'n dal i ddarparu cymorth hanfodol i gadw pobl yn iach ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Efallai na fydd angen cymorth ffurfiol gan wasanaethau statudol ar bob un ohonynt, ond mae pob un yn haeddu ein diolch.

I lawer, gall cefnogi ffrindiau, teuluoedd a chymunedau greu ymdeimlad o lesiant. I eraill, gall cyfrifoldebau gofalu gael effaith fawr ar bob agwedd ar eu bywydau ac mae angen cymorth ychwanegol arnynt i ymdopi â gofynion y rôl.

Mae gennym rwymedigaeth foesol a chyfreithiol i gefnogi pobl sy'n darparu swm sylweddol o ofal neu sy'n cydbwyso gofal ochr yn ochr ag ymrwymiadau sylweddol eraill megis gwaith neu addysg.  Rhwymedigaeth foesol, oherwydd ein hymrwymiad i lesiant pawb yng Nghymru. Rhwymedigaeth gyfreithiol, oherwydd bod hawliau gofalwyr wedi'u hymgorffori yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Bydd y gwaith o gyflawni'r strategaeth hon yn cael ei arwain gan fy Ngrŵp Cynghori ar Ofalwyr Di-dâl a'i grŵp ymgysylltu ategol. Byddwn yn cyhoeddi cynllun cyflawni ategol yn nhymor yr hydref 2021 yn nodi camau gweithredu, amserlenni a mesurau clir ar gyfer monitro cynnydd.

Mae gofalu yn fusnes i bawb - mae'n debygol y bydd y mwyafrif ohonom yn ymgymryd â rôl ofalu ar ryw adeg yn ystod ein bywydau. Rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth hon a'r cynllun cyflawni ategol yn arwain proses o weithio mewn partneriaeth i greu cymdeithas sy'n cydnabod, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed a chefndir i fyw'n dda a chyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain.

Cyflwyniad

Y Strategaeth newydd hon ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yw ein hymrwymiad newydd i wella'r gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Mae'n disgrifio ein blaenoriaethau cenedlaethol diwygiedig ar gyfer gofalwyr, gan gynnwys ychwanegu blaenoriaeth newydd ar addysg a chyflogaeth. Mae hefyd yn nodi ein meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ac mae cynllun cyflawni mwy manwl i ddilyn ym mis hydref 2021.

Mae'r strategaeth hon yn deillio o ymgysylltu â gofalwyr di-dâl o bob oed a'u cynrychiolwyr drwy Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a'i grŵp ymgysylltu ategol, a hwylusir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Bydd y ddau grŵp hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu cynllun cyflawni ac yn monitro gweithrediad y strategaeth.

Cawsom hefyd dros 90 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan ofalwyr di-dâl a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Roedd yr ymatebion hyn yn dangos y niwed mawr y mae Covid 19 wedi'i achosi i lesiant corfforol, meddyliol ac ariannol gofalwyr. I lawer, mae'r anawsterau yr oeddent yn eu hwynebu cyn y pandemig wedi gwaethygu, ond mae heriau newydd wedi dod i'r amlwg hefyd. Mae'r oriau a dreulir yn gofalu wedi cynyddu ac mae gofalwyr yn ysgwyddo mwy o dasgau gofalu neu dasgau gofalu gwahanol. Nodir bod y risg o ddal Covid 19, yn enwedig os oes gan y sawl y gofelir amdano anghenion iechyd cymhleth, neu os oes gan y gofalwr di-dâl gyflyrau iechyd sylfaenol ei hun, yn bryder cyffredinol.

Mae pob un o'n pedair blaenoriaeth genedlaethol newydd yn ystyried effaith Covid 19 ar fywydau gofalwyr di-dâl ac yn adlewyrchu'r ffaith y bydd y profiadau hyn yn llywio anghenion cymorth dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Mae ein hymatebion hefyd yn dangos yn glir bod angen dull proffil uchel ag iddo fwy o ffocws o ddarparu cymorth i ofalwyr di-dâl. Mae hefyd yn amlwg bod yn rhaid i gymorth i ofalwyr fod yn ehangach nag iechyd a gofal cymdeithasol - mae ymateb cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat yn hollbwysig.

Rhaid cydnabod a dathlu cyfraniad gofalwyr di-dâl i economi Cymru fel nad yw llesiant gofalwyr yn cael ei fwrw i'r cysgod gan bryderon am yr unigolyn neu'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Fodd bynnag, mae peidio â gwneud rhagdybiaethau bod pob gofalwr yn gwbl abl neu'n barod i ymgymryd â rôl ofalu neu barhau â'r rôl hon yr un mor bwysig.

Mae Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn amlinellu rôl hanfodol gofalwyr di-dâl yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol:

Mae ein staff, eu sgiliau, eu profiad a'u gwerthoedd, yn hollbwysig i GIG a system gofal cymdeithasol lwyddiannus. Mae darparu system iechyd a gofal wirioneddol ddi-dor yn galw am newid sylfaenol yn ein dealltwriaeth o bwy yw'r gweithlu a sut rydym yn cefnogi'r cyfraniad y mae pob unigolyn yn ei wneud. 

Mae hyn yn gofyn am fwy o barch cydradd rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a gofal yn ogystal â chydnabod a chefnogi'r rôl hanfodol y mae'r gweithlu anffurfiol o ofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr yn ei chwarae, na fyddai system gyffredinol yn bodoli hebddynt.

Yn unol â'r weledigaeth yn Cymru Iachach, rydym yn parhau i weithio tuag at ddull system gyfan o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar gadw pobl yn iach drwy ragweld eu hanghenion iechyd, atal salwch, a lleihau effeithiau iechyd gwael. Mae'r dull gweithredu hwn wedi dod yn bwysicach yng ngoleuni effaith Covid-19 ar unigolion a chymunedau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ffordd radical a gwahanol o weithio i oresgyn yr heriau mwyaf sylfaenol y mae'r genedl yn eu hwynebu. Mae hyn yn cydnabod bod gwasanaethau wedi'u hintegreiddio a gwasanaethau sy'n cydweithio wedi'u hategu gan ymyrraeth gynnar a dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar bobl, yn hanfodol i sicrhau canlyniadau hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol.

Mae ymyrraeth gynnar a gwaith atal yn hollbwysig ac mae angen inni ymgorffori'r agweddau ataliol ar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn fwy effeithiol mewn gwasanaethau cyhoeddus a symud darparwyr gwasanaethau allweddol, gan gynnwys y trydydd sector, tuag at fodel gwell o gymorth i ofalwyr. Os na fyddwn yn datrys y materion allweddol hyn nawr, bydd mwy o ofalwyr di-dâl a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn wynebu argyfwng cyn iddynt ddefnyddio gwasanaethau cymorth hanfodol. Bydd hyn, yn ei dro, yn cynyddu'r pwysau ar y GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn gosod rhagor o ddyletswyddau ar awdurdodau lleol i ymgorffori dull ataliol drwy ystyried effaith hirdymor eu gweithredoedd. Mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus fabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig o ddylunio a darparu gwasanaethau. Rhaid iddynt hefyd weithio mewn partneriaeth ag unigolion a chymunedau. Mae'r dull hwn yn cefnogi cyfeiriad strategol a bwriad y strategaeth hon.

Gofalwyr di-dâl yng Nghymru

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn diffinio gofalwr fel rhywun sy'n darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl.

Gall y person sy'n derbyn gofal fod yn aelod o'r teulu neu'n ffrind na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, ymdopi heb eu cymorth. Gallai gofalwr fod yn ŵr sy'n gofalu am ei wraig, yn rhiant sy'n gofalu am blentyn a chanddo anghenion gofal a chymorth neu'n blentyn sy'n gofalu am ei riant.

Noda Gofalwyr Cymru fod mwy na 370,000 o ofalwyr di-dâl o bob oed yn darparu gofal, sy'n werth tuag £8.1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn amcangyfrif bod 12 y cant o boblogaeth Cymru yn ofalwyr a gallai'r ffigur hwn gynyddu i 16 y cant erbyn 2037. Mae'r ffigurau hyn yn cynnwys unrhyw un sy'n gofalu am rywun am gyn lleied ag awr yr wythnos ac ni fydd angen unrhyw gymorth ychwanegol ar y mwyafrif o bobl sy'n treulio ychydig iawn o amser yn gofalu. Fodd bynnag, mae gan Gymru hefyd y gyfran uchaf o ofalwyr hŷn a gofalwyr sy'n darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos. Ers dechrau'r pandemig, mae nifer y gofalwyr yng Nghymru wedi cynyddu - cyhoeddodd Arolwg Cenedlaethol Cymru adroddiad misol ym mis Mehefin 2020, a ddangosodd fod 35% o bobl yn gofalu am aelodau'r teulu, ffrindiau, cymdogion neu eraill, neu'n rhoi cymorth neu gefnogaeth iddynt. Mae hyn wedi cynyddu o 29% yn arolwg blwyddyn lawn 2019-20.

Beth yw'r sefyllfa bresennol?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cyson i wella bywydau gofalwyr di-dâl. Cyhoeddwyd strategaeth gyntaf Cymru ar gyfer gofalwyr yn 2000, cyhoeddwyd Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) yn 2010 a chyhoeddwyd Strategaeth ar gyfer Gofalwyr ar ei newydd wedd a Chynllun Cyflawni 2013-2016 yn 2013.

Disodlwyd Mesur Gofalwyr 2010 Llywodraeth Cymru gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gryfhau hawliau statudol gofalwyr di-dâl. Am y tro cyntaf roedd gan ofalwyr di-dâl yr un hawl i gael asesiad a chymorth â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Bellach, nid oes angen i ofalwyr di-dâl brofi eu bod yn darparu swm sylweddol o ofal yn rheolaidd er mwyn cael eu hystyried yn ofalwr. Os oes gan ofalwyr di-dâl anghenion sy'n eu gwneud yn gymwys i gael cymorth, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd statudol i gynllunio ar gyfer yr anghenion hynny a'u diwallu drwy ddarparu 'Cynllun Cymorth i Ofalwyr.' Pan nodir anghenion sy'n gwneud i ofalwr di-dâl fod yn gymwys i gael cymorth, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu diwallu.

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru drwy'r setliad llywodraeth leol. Mae'r cyllid hwn yn cynnig cryn hyblygrwydd i awdurdodau flaenoriaethu eu gwasanaethau yn unol ag anghenion eu cymunedau, gan gynnwys anghenion gofalwyr di-dâl.

O ystyried eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, dylai gofalwyr di-dâl fod yn cael mynediad at gymorth ac yn derbyn cymorth o gyllidebau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol prif ffrwd. Fodd bynnag, yn ychwanegol at y setliad llywodraeth leol, mae'r Gronfa Caledi Llywodraeth Leol yn parhau i fod ar gael i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r costau ychwanegol sy'n deillio o'r pandemig a byddwn yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ddeall yr angen parhaus am gymorth.

Mae cyllid prosiectau Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i wasanaethau statudol. Er enghraifft, rydym yn darparu £2.6 miliwn dros dair blynedd i Gofalwyr Cymru, Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac Age Cymru drwy ein Cynllun Grant ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.

Rydym yn hwyluso ymgysylltiad â gofalwyr di-dâl a gweithwyr proffesiynol o bob sector drwy Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a'i grŵp ymgysylltu ategol sy'n cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Rydym hefyd yn ariannu Plant yng Nghymru i gynnal y Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc. Mae'r mecanweithiau hyn yn sicrhau bod llais y gofalwr di-dâl yn llywio'r gwaith o ddatblygu a chyflawni polisi.

Yn 2020‒21, fe wnaethom ddarparu £236,000 i gyflwyno cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc. Rydym yn parhau i ariannu’r prosiect cardiau adnabod cenedlaethol i ofalwyr ifanc gyda buddsoddiad o £150,000 yn 2021‒22, gan  weithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Dangosodd y pandemig bod yna angen dybryd i gyflwyno cerdyn er mwyn cefnogi gofalwyr ifanc di-dâl sydd yn cefnogi rhywun, er enghraifft i gael mynediad at fwyd neu feddyginiaeth. Cynhyrchiodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru gyfres o adnoddau cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr iechyd a fferylliaeth o anghenion gofalwyr ifanc ac i herio camddealltwriaeth ynghylch eu rôl.

Wedi'i lansio ym mis Hydref 2020, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £1.25 miliwn ar gyfer Cronfa Gymorth genedlaethol i Ofalwyr yng nghyd-destun Covid-19. Wedi'i chyflwyno drwy Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'i phartneriaid lleol, mae'n galluogi gofalwyr sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol i brynu eitemau hanfodol gan gynnwys bwyd, dodrefn, nwyddau gwyn megis peiriant golchi, neu liniadur. Bydd y gronfa bresennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2021.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hadroddiad blynyddol cyntaf ar y Gronfa Gofal Integredig. Mae'r adroddiad yn dangos bod £1.141 miliwn wedi'i wario yn 2018-19 ar wasanaethau i gefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn uniongyrchol. Roedd hyn yn ychwanegol at y buddsoddiad drwy brosiectau ehangach eraill sy'n cefnogi, er enghraifft, pobl hŷn a phlant ag anghenion cymhleth, sydd hefyd yn gallu cael effaith gadarnhaol ar fywydau gofalwyr di-dâl.

Yn 2019-20, gwariwyd £7.891 miliwn yn uniongyrchol ar brosiectau a gwasanaethau i gefnogi gofalwyr. Bydd ein hadroddiad blynyddol nesaf ar y Gronfa Gofal Integredig, a gyhoeddir yn nhymor yr hydref 2021, yn dangos sut y mae'r grŵp pwysig hwn o bobl yn elwa o'r gronfa.

Ym mis Tachwedd 2019 fe wnaethom lansio ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr di-dâl i bob oed yn hysbysu gofalwyr di-dâl am eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd yr ymgyrch hon yn ailddechrau pan fydd yr amgylchiadau'n caniatáu.

Rydym yn parhau i weithio gyda Gofalwyr Cymru fel aelodau corfforaethol o raglen Cyflogwyr i Ofalwyr Cymru. Mae Hwb Cymru yn cefnogi pob cyflogwr i ddeall a gweithredu polisïau ac arferion yn well er mwyn cefnogi eu gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Gofalu am ein dyfodol

Dechreuodd pwyllgor y Senedd ei ymchwiliad yn dwyn y teitl “Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr” yn 2018. Roedd cylch gwaith yr ymchwiliad yn cynnwys:

  • asesu angen
  • darparu cymorth, gan gynnwys gofal seibiant
  • darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth
  • gwybodaeth a gesglir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol am ofalwyr a’u hanghenion
  • ystyried polisi ehangach Llywodraeth Cymru ar ofalwyr

Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor, Gofalu am ein dyfodol, ar 21 Tachwedd 2019. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i 31 o argymhellion yr adroddiad ym mis Ionawr 2020 ac anfonodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol lythyr diweddaru dilynol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dr Dai Lloyd AS, ym mis Gorffennaf 2020.

Gofalwyr di-dâl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd cydraddoldeb gyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus Cymru i roi 'sylw dyledus' i'r angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, yn ogystal â hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt yn rhannu'r nodwedd honno.

Drwy ein hymgynghoriad ar y strategaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl, rydym yn awyddus i ddeall sut y gallai fod angen mathau penodol o gymorth ar wahanol grwpiau o bobl â nodweddion gwarchodedig, fel bod y ffordd y mae ein strategaeth yn cael ei dylunio a'i chyflawni yn ystyried anghenion y grwpiau hynny. Gwyddom fod casglu a dadansoddi adborth gan ofalwyr â nodweddion gwarchodedig yn hanfodol er mwyn inni ddeall eu hanghenion a'u profiadau, ac i roi gwybod inni beth y mae angen inni ei wneud i gael gwared ar rwystrau a gwella gwasanaethau iddynt. Felly cafodd cwestiwn cydraddoldeb penodol ei gynnwys yn y ddogfen ymgynghori. Er mwyn cael ymateb eang gan ofalwyr â nodweddion gwarchodedig, rhannwyd yr ymgynghoriad yn uniongyrchol â nifer o fforymau cydraddoldeb. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Fforwm Hil Cymru
  • y Fforwm Cymunedau Ffydd
  • Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio
  • y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl
  • y Grŵp Llywio Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

O dan ein dyletswyddau cydraddoldeb penodol yng Nghymru mae'n ofynnol inni gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb mewn perthynas â grwpiau gwarchodedig, ar draws ein polisïau a'n harferion arfaethedig, y rhai yr ydym wedi penderfynu eu hadolygu, ac unrhyw newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud. Mae ein trefniadau asesu effaith hefyd yn rhan allweddol o gyflawni ein dyletswydd cydraddoldeb o dan adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yn ogystal â'r adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus, mae tystiolaeth ar gydraddoldeb yn cael ei chasglu a'i dadansoddi'n barhaus at ddibenion cwblhau Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn gysylltiedig â'r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Rydym wedi adolygu'r dystiolaeth gydraddoldeb werthfawr sydd ar gael inni ynghylch y gwahanol safbwyntiau a phrofiadau o fod yn ofalwr di-dâl sy'n byw yng Nghymru. Aseswyd yr wybodaeth hon ar yr un pryd ag y datblygwyd y strategaeth i nodi ei heffaith bosibl ar y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig neu sydd dan anfantais fel arall. Mae rhai o'r ystyriaethau cydraddoldeb yr ydym wedi bod yn ymwybodol ohonynt wrth ddatblygu'r strategaeth hon yn cynnwys y canlynol:

  • Rydym yn ymwybodol y gall meintiau sampl pobl hŷn o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, er eu bod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru, yn aml fod yn rhy fach i wneud cymariaethau dibynadwy â phobl hŷn gwyn Cymreig neu Brydeinig. Fodd bynnag, mae yna brofiadau a materion sy'n benodol berthnasol i bobl hŷn o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig neu sy'n fwy amlwg ymysg y bobl hynny.
  • Yn aml mae'r disgwyliadau cymdeithasol mai menywod yw'r rhai sy'n darparu gofal yn parhau. Dangosodd cyfrifiad 2011 mai menywod yw mwyafrif y gofalwyr - mae 57% o ofalwyr yng Nghymru yn fenywod ac mae menywod o oedran gweithio (25 i 64) yn sylweddol fwy tebygol na dynion o fod yn darparu gofal di-dâl i rywun ag anabledd neu salwch neu i berson hŷn.
  • Wrth i'n cymdeithas heneiddio, mae nifer y bobl sy'n byw gydag anghenion cymhleth yn cynyddu. Felly mae'n anochel y bydd mwy o bobl hŷn yn ymgymryd â rôl ofalu. Mae'r rhan fwyaf o ofalwyr hŷn yn byw ar eu pen eu hunain gyda'r person y maen nhw'n gofalu amdano ac mae llawer hefyd yn byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Mewn ymateb i'r ddemograffeg sy'n heneiddio yng Nghymru, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ein strategaeth newydd, sef Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio. O ystyried y nifer cynyddol o bobl hŷn a'r rhai o oedran gweithio sy'n darparu gofal di-dâl, mae'n hollbwysig integreiddio'r strategaeth honno â'r ddogfen hon.
  • Mae llawer o ofalwyr yn nodi bod gofalu yn cael effaith negyddol a pharhaol yn aml ar eu hiechyd corfforol a meddyliol, ond fel gyda gweddill y boblogaeth, mae llawer o bobl ag anableddau presennol neu gyflyrau hirdymor hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu. Canfu Arolwg o Gleifion Meddygon Teulu a gynhaliwyd yn 2019 (Lloegr) fod gofalwyr yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt gyflwr hirdymor, anabledd neu salwch na phobl nad ydynt yn ofalwyr - 63% o ofalwyr o gymharu â 51% o'r rhai nad ydynt yn ofalwyr.
  • Er nad oes unrhyw ystadegau clir ar ofalwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol neu Drawsrywiol (LGBT), mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyfrifo bod y ffigur hwn yn 1.5% o'r boblogaeth (gydag 1.5% o ddynion yn dweud eu bod yn hoyw a 0.7% o fenywod yn dweud eu bod yn lesbiaidd; 0.3% o ddynion yn arddel hunaniaeth ddeurywiol o gymharu â 0.5% o fenywod). Yn seiliedig ar yr amcangyfrifon gan Stonewall bod 3.7 miliwn o bobl yn y DU yn LGBT, mae Carers UK yn amcangyfrif bod 390,000 o ofalwyr LGBT ym Mhrydain. Yn anffodus, hyd yma, prin fu'r ymchwil yn y meysydd gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol sy'n archwilio materion penodol yn ymwneud â gofalwyr LGBT mewn perthynas â chael mynediad i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae'r dystiolaeth o gydraddoldeb ac ymgysylltu a gasglwyd fel rhan o'r broses Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn gam pwysig tuag at ddeall yr heriau hyn yn well. Bydd mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn yn ystyriaeth allweddol wrth ddatblygu’r cynllun cyflawni mwy manwl, y bwriedir ei gyhoeddi yn yr hydref.

Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, a'r Asesiad Effaith Integredig ehangach yn cael eu cwblhau a byddant yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Yna bydd yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei fonitro a'i ddiweddaru'n rheolaidd i asesu a yw'r cynllun yn cael yr effeithiau cadarnhaol a ddymunir ar gydraddoldeb, ac i benderfynu a oes angen ei adolygu i liniaru unrhyw effeithiau negyddol.

Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol

Byddwn hefyd yn ystyried unrhyw anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol a allai fod yn berthnasol i'r camau gweithredu yn y cynllun. Mae hyn yn adlewyrchu ein cyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010, a fydd yn dod i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Er enghraifft, gwyddom o Gyfrifiad 2011 fod mwyafrif y gofalwyr o oedran gweithio ac mae arolygon ac ymgynghoriadau a gwblhawyd gan sefydliadau gofalwyr y trydydd sector yn dangos bod y mwyafrif yn dymuno gweithio, ond mae llawer yn methu â gwneud hynny oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Gall caledi ariannol hefyd gael effaith anghymesur ar fenywod oherwydd eu bod yn fwy tebygol o fod yn darparu gofal a mwy o oriau o ofal a chydbwyso gwaith neu eu cyflyrau iechyd eu hunain ar yr un pryd. Canfu ymchwil gan Ysgol Economeg Llundain yn 2018 fod y costau i lywodraeth y DU yn sgil gofalwyr di-dâl sy’n gadael cyflogaeth yn fwy na £2.9 biliwn y flwyddyn. Nod Blaenoriaeth 4, y flaenoriaeth newydd yn y strategaeth hon, sef Cefnogi gofalwyr di-dâl mewn addysg ac yn y gweithle yw cael effaith gadarnhaol ar ofalwyr o oedran gweithio drwy sicrhau bod mwy o gefnogaeth ar gael i ofalwyr yn y gweithle.

Gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc

Mae tua 30,000 o ofalwyr di-dâl dan 25 oed yng Nghymru. Yn ôl cyfrifiad 2011, Cymru sydd â'r gyfran uchaf o ofalwyr di-dâl o dan 18 oed yn y DU. Mae'r nifer hwn yn debygol o fod wedi cynyddu yn ystod y pandemig.

Plant neu bobl ifanc sy'n ymgymryd â rôl arwyddocaol o ran gofalu am aelod o'r teulu yw gofalwyr ifanc. Gallai'r aelod o'r teulu fod yn dioddef o broblem iechyd gorfforol neu feddyliol, anabledd neu broblemau'n ymwneud â chyffuriau ac alcohol, er enghraifft. Efallai na fydd gofalwyr ifanc yn cydnabod bod eu rôl yn y teulu yn wahanol i rôl plant a phobl ifanc eraill, ond yn aml maent yn ysgwyddo beichiau corfforol a seicolegol mawr. Yn aml nid oes gan ofalwyr ifanc fawr ddim amser iddyn nhw eu hunain, os o gwbl, a gallant golli rhannau o'u plentyndod.

Ymhlith rhai o'r problemau y gallai gofalwyr ifanc eu hwynebu mae anawsterau gyda'r ysgol a gwneud gwaith cartref; dim digon o amser i weld ffrindiau; poeni am y person maen nhw'n gofalu amdano; teimlo'n wahanol i bobl ifanc eraill a phobl eraill ddim yn deall beth mae'n ei olygu i fod yn ofalwr ifanc.

Mae gofalwyr sy'n oedolion ifanc fel arfer yn ofalwyr rhwng 16 a 25 oed. Gallant fod yn jyglo eu cyfrifoldebau gofalu gydag addysg bellach neu addysg uwch; gyda chwilio am waith neu geisio ymdopi â'r system budd-daliadau; gyda dechrau eu bywydau gwaith; gyda pherthynas emosiynol ddwys neu gyda meddwl am adael cartref. Gallant felly wynebu problemau sy'n wahanol i broblemau gofalwyr ifanc.

Yn ystod y cyfyngiadau symud yn sgil Covid-19, nid oedd llawer o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn gallu defnyddio eu dulliau cymorth arferol, megis ffrindiau neu deulu ehangach, ac efallai eu bod wedi bod o dan fwy o bwysau emosiynol o ganlyniad. Efallai fod gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc wedi bod yn gofalu am fwy o oriau bob wythnos ac yn ymgymryd â thasgau fel siopa ar gyfer y cartref a chasglu meddyginiaeth o fferyllfeydd, ynghyd â cheisio dysgu gartref pan oedd ysgolion a cholegau ar gau.

Mae Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant llawn yn cael ei gwblhau a bydd yn cael ei gyhoeddi fel rhan o'r Asesiad Effaith Integredig ehangach.

Y blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gofalwyr

Ym mis Tachwedd 2017, fe wnaethom gyhoeddi tair blaenoriaeth genedlaethol i gefnogi cyflwyno hawliau gwell i ofalwyr di-dâl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, diweddarwyd y blaenoriaethau hyn ac ychwanegwyd pedwaredd flaenoriaeth yn ymwneud â gofalwyr di-dâl mewn gwaith ac addysg. Bydd y pedair blaenoriaeth hyn yn darparu ffocws traws-lywodraethol ar gyfer cyflawni'r strategaeth hon mewn cydweithrediad â gofalwyr di-dâl, eu cynrychiolwyr a'u darparwyr gwasanaeth.

Blaenoriaeth 1

Adnabod a gwerthfawrogi gofalwyr di-dâl - rhaid gwerthfawrogi a chefnogi pob gofalwr di-dâl i wneud dewis gwybodus am y gofal y maent yn ei ddarparu ac i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt wrth ofalu a phan ddaw'r rôl ofalu i ben.

Rhaid i ofalwyr di-dâl gael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi am eu cyfraniadau at gymdeithas, eu trin fel partneriaid cyfartal i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol a'u cefnogi i leisio'u barn yn yr iaith o'u dewis. Gall asesiadau gofalwyr gynnig porth i gynllun cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ond heb wybodaeth amserol am hawliau a sut a ble i gael cymorth, gallai iechyd a llesiant y gofalwr, ac iechyd y rhai y maent yn gofalu amdanynt, ddioddef.

Byddwn yn gweithredu ar y flaenoriaeth hon drwy wneud y canlynol:

Gwerthfawrogi gofalwyr di-dâl

Byddwn yn parhau i gefnogi digwyddiadau blynyddol sy'n dathlu hawliau gofalwyr ac yn defnyddio negeseuon gweinidogol a sianeli'r cyfryngau i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu cyfraniadau at gymunedau lleol, economi Cymru a'r system iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cydnabod.

Bydd ein deunyddiau cyfathrebu yn mabwysiadu'r term 'gofalwr di-dâl' er mwyn osgoi dryswch gyda'r gweithlu proffesiynol a byddwn yn annog ein partneriaid i ddefnyddio'r un derminoleg ac i sicrhau bod pob neges yn hygyrch i ofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i barhau â'n Hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o Hawliau Gofalwyr ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i hyrwyddo ei negeseuon i gynulleidfa ehangach gan gynnwys gofalwyr ifanc.

Nod yr ymgyrch fydd ceisio hysbysu gofalwyr di-dâl am eu hawliau a'u hopsiynau ar gyfer cael gafael ar gymorth.

Codi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl

Mae adnabod gofalwyr di-dâl yn gynnar yn gam pwysig tuag at sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Byddwn yn annog mwy o ofalwyr di-dâl i hunanadnabod drwy godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol a allai ddod i gysylltiad â nhw, ar draws y sector statudol, y sector preifat a'r trydydd sector. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i archwilio sut y gall gwasanaethau statudol nodi a chofnodi gwybodaeth am ofalwyr di-dâl yn well. Bydd hyn yn caniatáu mynd i'r afael ag anghenion mwy o ofalwyr di-dâl yn gynnar, ond bydd hefyd yn darparu data gwerthfawr sy'n ymwneud â niferoedd y gofalwyr di-dâl yng Nghymru a'u hamgylchiadau.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Gofalwyr Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ar hyn o bryd i drawsnewid cydnabyddiaeth, parch a chymorth i ofalwyr ar draws lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ariennir y prosiect tair blynedd hwn drwy Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy a bydd yn cryfhau a gwella gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, drwy godi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl, effaith gofalu a hawliau gofalwyr ymysg y cyhoedd yn gyffredinol a gweithwyr proffesiynol perthnasol.

Gall y stigma sydd ynghlwm â rhai mathau o gyfrifoldebau gofalu fod yn broblem fawr i ofalwyr ifanc sydd wedi mynegi pryderon y gallai gofalu am berson ag anableddau gael ei weld fel rhywbeth sy'n teilyngu mwy o gydymdeimlad na gofalu am riant sy'n gaeth i alcohol.

Byddwn yn parhau i weithio gyda gofalwyr di-dâl a'u cynrychiolwyr i herio unrhyw stigma sy'n gysylltiedig â'u rôl ofalu.

Rydym yn cydnabod bod angen dulliau gwell o adnabod gofalwyr di-dâl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, gofalwyr hŷn, gofalwyr LGBTQ+, y rhai ag anableddau a gofalwyr di-dâl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, a bod angen ymgysylltu â'r gofalwyr hyn yn well. Mae Women Connect First yn gwella mynediad at ymyrraeth gynnar a gwasanaethau ataliol ar gyfer menywod o leiafrifoedd ethnig dros 50 oed, y mae gan lawer ohonynt gyfrifoldebau gofalu. Nod y prosiect tair blynedd hwn, sydd wedi'i ariannu drwy'r Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yw rhoi'r sgiliau a'r hyder i gyfranogwyr gymryd camau ataliol i wella eu llesiant presennol a'u llesiant yn y dyfodol. Nod y prosiect yw creu model sy'n addas i'w gyflwyno'n genedlaethol ac sy'n arddangos pwysigrwydd ymgysylltu â gofalwyr di-dâl yn y man lle maent yn byw ac yn eu hiaith gyntaf.

Mae Cymru yn genedl ddwyieithog ac felly mae angen i bobl allu cyfathrebu yn yr iaith o'u dewis, a dylent allu gwneud hynny. Rhaid cynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion yr unigolyn sy'n cynnwys derbyn triniaeth a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall pobl ifanc, neu bobl sy'n byw gyda dementia, gael anawsterau wrth gyfleu eu teimladau a'u hemosiynau os nad ydynt yn defnyddio eu dewis iaith. 

Mae Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr yn strategaeth ar gyfer Cymru gyfan, ac rydym am i bob rhan o'r wlad rannu yn y weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae angen inni sicrhau bywiogrwydd cymunedau Cymraeg yn y dyfodol fel lleoedd sy'n hwyluso'r defnydd o'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd. Ar yr un pryd, rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol, yn y gwaith, ac wrth ddefnyddio gwasanaethau.

Mae ein cynnig rhagweithiol yn golygu y dylai gael gwasanaeth Cymraeg heb orfod gofyn amdano ac mae'n ceisio sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd.

Gweithio gydag awdurdodau lleol i wella asesiadau gofalwyr

Byddwn yn defnyddio'r data a gasglwn drwy werthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r Fframwaith Perfformiad a Gwella diwygiedig i weithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu ystod o atebion sy'n galluogi awdurdodau lleol i ddarparu asesiadau statudol sy'n ymatebol i anghenion unigol gofalwyr di-dâl mewn modd amserol ac effeithiol. Bydd ein Siarter Gofalwyr Di-dâl yn hwyluso symud tuag at ddealltwriaeth gyffredin o'r iaith a'r derminoleg y dylai gweithwyr proffesiynol sy'n cynnal asesiadau gofalwyr ei defnyddio er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb. I lywio'r gwaith hwn, mae'r Sefydliad Gofal Cymdeithasol dros Ragoriaeth yng Nghymru (SCIE) yn cynnal astudiaeth ansoddol i ddeall pam nad yw llawer o ofalwyr di-dâl yn manteisio ar asesiadau pan fyddant yn gymwys i wneud hynny ac, o ran gofalwyr di-dâl sy'n manteisio arnynt, beth yw'r pethau llwyddiannus a beth y gellid ei wella.

Byddwn yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn ei gomisiynu i ddatblygu rhagor o adnoddau hyfforddi a gwybodaeth, fel sy'n briodol, ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, i gynyddu ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr a'r rôl ofalu a gwella'r modd y darperir gwasanaethau.

Cefnogi gofalwyr di-dâl i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed

Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn mecanweithiau sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl i leisio'u barn ar lefelau cenedlaethol, lleol a rhanbarthol. Mae sgyrsiau'n parhau gyda'n rhanddeiliaid ynghylch sut i gefnogi gofalwyr di-dâl ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac mewn cymunedau lleol i deimlo'n fwy hyderus yn eu rolau cynrychioliadol. Mae Cymunedau Newid Gofalgar yn brosiect arloesol sy'n rhoi gofalwyr teuluol anabledd dysgu a'u perthnasau wrth wraidd cydweithredu wrth gynllunio a darparu gwasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r prosiect tair blynedd hwn, a ariennir drwy Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ac a arweinir gan Fforwm Cymru Gyfan o Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu, yn canolbwyntio ar dri maes allweddol – pontio, seibiant a gwneud pethau gwahanol.

Blaenoriaeth 2

Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth - mae'n hanfodol bod gan bob gofalwr fynediad at y wybodaeth a'r cyngor cywir ar yr amser cywir ac mewn fformat priodol.

Mae darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth priodol yn gamau cyntaf hanfodol o ran rhoi dull ataliol ar waith. Mae llawer o ofalwyr nad oes angen gwasanaethau cymdeithasol neu ddarpariaeth iechyd ffurfiol neu benodol arnynt. Y cyfan sydd ei angen arnynt yw'r wybodaeth iawn, yn y fformat iawn, ar yr adeg iawn, er mwyn rheoli eu rôl ofalu. Gall gwybod ble a sut i gael gafael ar wahanol fathau o wybodaeth, cyngor a chymorth fel budd-daliadau lles neu hawliau mwy cyffredinol, hefyd fod yn gam ataliol. Dylai'r wybodaeth, y cyngor a'r cymorth a ddarperir fod yn gymesur ag anghenion yr unigolyn.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rhaid i awdurdodau lleol roi cyhoeddusrwydd i wybodaeth am:

  • sut mae'r system gofal a chymorth yn gweithredu yn ardal yr awdurdod lleol
  • y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael
  • sut i gael gafael ar y gofal a'r cymorth sydd ar gael
  • sut i godi pryderon ynghylch llesiant unigolyn yr ymddengys fod ganddo anghenion gofal a chymorth

Bwriad gwybodaeth, cyngor a chymorth yw cefnogi gwaith atal ac ymyrraeth gynnar a darparu ystod ehangach o wasanaethau yn y gymuned drwy bartneriaethau a gwaith amlasiantaeth. Wedi'u cyflwyno'n dda, ac ar yr adeg iawn, gall gwybodaeth, cyngor a chymorth alluogi gofalwyr, a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt, i fyw bywydau iach a chyflawn cyhyd ag y bo modd. Er mwyn osgoi amrywiadau daearyddol yn y gwasanaethau sydd ar gael ledled Cymru ('loteri cod post'), mae'n hanfodol bod yr holl wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth yng Nghymru o ansawdd uchel ac yn hygyrch i bawb.

Byddwn yn gweithredu ar y flaenoriaeth hon drwy wneud y canlynol:

Codi ymwybyddiaeth o ffyrdd o gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i wella mynediad cyfartal at wybodaeth, cyngor a chymorth ar draws pob rhan o Gymru gan gydnabod nad cyrff statudol yw'r unig ffordd o ddarparu'r gwasanaeth hwn - mae angen codi ymwybyddiaeth o ffyrdd amgen o gael gafael ar wybodaeth fel meddygfeydd, gwasanaethau cymunedol, neu adnoddau ar-lein fel DEWIS Cymru.

Mae Age Cymru yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddatblygu modelau gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i adnabod anghenion gofalwyr hŷn a gofalwyr pobl â dementia a sicrhau eu bod yn cael eu diwallu'n well. Bydd y prosiect tair blynedd hwn, a ariennir drwy Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, yn gwella mynediad gofalwyr hŷn at wybodaeth, cyngor a chymorth, ac yn creu cyfleoedd i ofalwyr ddylanwadu ar wasanaethau a'u llunio.

Byddwn yn archwilio sut i wella mynediad ymhellach at wasanaethau eiriolaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau, neu'n ei chael hi'n anodd siarad am eu problemau. Drwy ein Grant i'r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, rydym hefyd yn ariannu'r Prosiect HOPE sy'n anelu at gefnogi pobl hŷn a gofalwyr i gael mynediad at wasanaethau ataliol yn y gymuned drwy ystod o fodelau eiriolaeth dan arweiniad cymheiriaid, grwpiau gwirfoddol a dinasyddion.

Yn ystod y pandemig, addasodd darparwyr statudol a darparwyr y trydydd sector eu ffyrdd o weithio i sicrhau y gallai gofalwyr di-dâl barhau i gael y wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Pwysleisiodd ein hymatebion i'r ymgynghoriad bod sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael gwybodaeh yn gyflym yn helpu gofalwyr i gael gafael ar gymorth cymunedol hanfodol gan gynnwys parseli bwyd, cymorth gyda siopa a chasglu presgripsiynau. Dosbarthwyd gwybodaeth gyflym a chlir drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac e-bost, drwy gyflwyno llinellau cymorth ffôn newydd neu ehangu'r rhai sydd ar gael eisoes a defnyddio llwyfannau priodol i'w hoedran, fel Tik Tok neu Instragram, i gyrraedd gofalwyr ifanc. Sylweddolodd sefydliadau'r trydydd sector hefyd fod angen iddynt adolygu canllawiau ffurfiol gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill, gan eu troi'n wybodaeth fyrrach a hawdd ei deall i ofalwyr di-dâl a defnyddwyr gwasanaethau. Yn y ffordd hon fe wnaethant sicrhau bod y wybodaeth fwyaf hanfodol yn cael ei rhannu.

Byddwn yn parhau i ddysgu o'r addasiad llwyddiannus o wasanaethau mewn ymateb i'r pandemig gan gydnabod bod gan ofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill fel tai, trafnidiaeth, gwasanaethau amddiffynnol a chynlluniau cyflogadwyedd i gyd gyfrifoldeb i ddarparu gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl.

Oherwydd y cysylltiad rhwng gofalu ac incwm isel, gall gwiriadau budd-daliadau a gwybodaeth am hawliau helpu gofalwyr di-dâl i reoli'r straen sy'n gysylltiedig â'u rôl ofalu. Fodd bynnag, gwyddom fod miloedd o bobl yng Nghymru nad ydynt eto'n hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Nod ein hymgyrch gyfathrebu integredig Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi yw annog pobl i wirio a hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

Gan gysylltu â blaenoriaeth 1, drwy'r dull hwn a dulliau eraill byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar yr hawliau a chodi ymwybyddiaeth ohonynt mewn perthynas â budd-daliadau datganoledig a heb eu datganoli.

Mynd i'r afael â'r gagendor digidol

Mae'r pandemig hefyd wedi symud mwyafrif y gwasanaethau ar-lein ac mae llawer o bobl wedi dechrau defnyddio technoleg o reidrwydd, ond mae gagendor digidol clir wedi dod i'r amlwg y mae angen mynd i'r afael ag ef.

Drwy ein Strategaeth Ddigidol i Gymru, rydym yn gweithio i sicrhau cymdeithas ac economi ddoethach, sydd â chysylltiadau gwell drwy sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at dechnolegau digidol, a'u bod yn gwybod sut i'w defnyddio. Mae un o chwe chenhadaeth y strategaeth yn ymwneud â chynhwysiant digidol er mwyn rhoi cymhelliant, mynediad, sgiliau a hyder i bobl ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion. Bydd y strategaeth hefyd yn dylanwadu ar sut rydym yn harneisio technoleg ddigidol, data, technoleg a deallusrwydd artiffisial yn effeithiol nawr ac yn y dyfodol er budd pobl Cymru, gan gynnwys gofalwyr di-dâl.

Blaenoriaeth 3

Helpu i fyw yn ogystal â gofalu - rhaid i bob gofalwr di-dâl gael cyfle i gymryd seibiannau o'u rôl ofalu i'w galluogi i gynnal eu hiechyd a'u llesiant eu hunain a bw yn ogystal â gofalu.

Mae gofalwyr di-dâl yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i'r bobl y maent yn gofalu amdanynt a chymdeithas yn gyffredinol ond gallant esgeuluso eu hanghenion eu hunain. Dylai gofalwyr di-dâl gael mynediad cyfartal at wahanol fathau a mathau arloesol o wyliau byr a/neu ofal seibiant gyda'r sawl y maent yn gofalu amdano neu hebddo. Gall gofal seibiant gynnwys chwaraeon, hamdden neu weithgareddau diwylliannol, yn ogystal â mathau mwy traddodiadol o ofal fel gofal amgen neu wasanaeth eistedd dros nos gyda'r person sy'n derbyn gofal. Gan gysylltu â blaenoriaeth pedwar, gall byw yn ogystal â gofalu hefyd gynnwys gallu gweithio neu ymgymryd â hyfforddiant.

Byddwn yn gweithredu ar y flaenoriaeth hon drwy wneud y canlynol:

Gwella mynediad i wyliau byr a gofal seibiant

Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd i ddatblygu model cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant yng Nghymru.

Gall gofal seibiant fod ar sawl ffurf, gan gynnwys amser i 'ymlacio' a mwynhau amser gyda theulu a ffrindiau, dilyn hobi neu ymuno â dosbarth ymarfer corff, mynd ar drywydd addysg a hyfforddiant neu fynd ar wyliau byr gyda'r unigolyn sy'n derbyn gofal. Nid oes diffiniad penodol o wasanaeth seibiant ond nid yw wedi'i gyfyngu i aros dros nos mewn cartref gofal neu wasanaeth gofal i'r unigolyn ag anghenion gofal, er mwyn galluogi ei ofalwr i gael egwyl. Gellid ei ystyried yn unrhyw fath o wasanaeth, cymorth neu brofiad sy'n caniatáu i ofalwyr di-dâl gael digon o amser i ffwrdd o'u trefn neu gyfrifoldebau gofalu, a hynny'n rheolaidd. Gall gofal seibiant a gwyliau byr fod yn rhan hanfodol o'r gofal a'r cymorth sydd eu hangen ar ofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc i ymdopi â'u rôl ofalu.

Wrth i ofal seibiant symud i ffwrdd o'r model “traddodiadol” o ofal dros nos i'r unigolyn ag anghenion gofal, mae angen inni ddeall sut y gellir ailddiffinio gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion unigolion.

Byddwn yn gweithio tuag at sicrhau gwell dealltwriaeth o sut y gellir cael gafael ar ofal seibiant neu egwyl o ofalu, sut y gellir eu hariannu a sut y gall ystod o ddarparwyr eu darparu, gan gynnwys cyrff statudol. Er mwyn cyflawni'r nod hwn, byddwn yn gweithio gyda gofalwyr di-dâl a'n partneriaid i sicrhau bod y derminoleg a ddefnyddir i ddisgrifio gofal seibiant yn gweddu i'r cyd-destun a'r gwasanaeth a gynigir ac i'w gwneud yn glir y gall gofal seibiant fod yn ataliol, nid dim ond rhywbeth a gynigir mewn argyfwng.

Byddwn yn archwilio sut mae dulliau arloesol o ddarparu gofal seibiant, gan gynnwys model yr Alban o ‘respitality’ yn medru cael eu cyflwyno yng Nghymru. Er mwyn cyflawni hyn, rydym eisoes yn ariannu Fforwm Cymru Gyfan ar gyfer Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu, i ddatblygu rhwydwaith 'aros', cynllun 'seibiant uniongyrchol' a model cymorth ‘respitality’ o fewn cymunedau gwledig.

Er gwaethaf ein nod i annog modelau gofal seibiant mwy arloesol, rydym yn cydnabod y bydd galw cynyddol am ganolfannau dydd a gwasanaethau eistedd gyda rhywun a gofal amgen mwy traddodiadol ar ôl Covid 19. Byddwn yn blaenoriaethu'r angen hwn ochr yn ochr â modelau mwy arloesol o ddarparu gofal seibiant dros y flwyddyn i ddod.

Ehangu mynediad at gymorth seicolegol

Mae'r pandemig wedi gwneud niwed mawr i iechyd meddwl gofalwyr di-dâl o bob oed. Rydym wedi diweddaru ein Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-22 i sicrhau bod y camau gweithredu yn ymateb i'r pandemig.

Dylid nodi unrhyw anghenion cymorth seicolegol yn ystod asesiad o anghenion gofalwyr ac yna gael sgwrs i gytuno ar y ffordd fwyaf llwyddiannus o ddiwallu'r anghenion hynny. Dylid teilwra'r gwasanaethau a gynigir i anghenion ac amgylchiadau unigol y gofalwr. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig i ofalwyr ifanc, rhieni sy'n ofalwyr a'r rhai sy'n gofalu am bobl â chyflyrau penodol fel dementia neu broblemau iechyd meddwl.

Wedi'i ariannu drwy Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, mae'r prosiect Dementia Integration And Links (DIAL) yn cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Ymhlith y gweithgareddau i gefnogi iechyd meddwl mae rhaglenni llesiant i Ofalwyr, gwasanaethau cwnsela a therapïau cyflenwol i ofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia. Yn yr un modd, yn ystod y pandemig, estynnodd Gofalwyr Cymru eu sesiynau 'Me Time' a ariennir yn amrywio o 'wylio fel grŵp i ryfeddodau mawr y byd' i ymarfer corff, ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar.

Rydym hefyd yn cydnabod y gallai gofalwyr elwa o gymorth seicolegol ar ffurf cwnsela ar gyfer straen neu brofedigaeth. Yn ystod Covid-19, fe wnaethom ddarparu cyllid ychwanegol i Gofal mewn Galar Cruse i ymestyn ei wasanaethau cwnsela a llesiant emosiynol. Mae Gofal mewn Galar Cruse yn gweithio i drawsnewid gofal profedigaeth yng Nghymru. Nod y prosiect tair blynedd hwn, a ariennir drwy Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, yw trawsnewid gwasanaethau profedigaeth cenedlaethol a lleol, drwy ddatblygu Hyb Profedigaeth; gan gwmpasu un pwynt mynediad 'Y Porth' i lwybr cymorth wedi'i bersonoli.

Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn ystod o gymorth seicolegol ac i archwilio sut y gall modelau cymorth newydd sy'n dod i'r amlwg i ofalwyr di-dâl yn ystod y pandemig arwain at welliannau wrth ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Blaenoriaeth 4

Cefnogi gofalwyr di-dâl mewn addysg ac yn y gweithle - dylid annog cyflogwyr a lleoliadau addysg / hyfforddiant i addasu eu polisïau a'u harferion gan alluogi gofalwyr i weithio a dysgu ochr yn ochr â'u rôl ofalu.

Mae cael y cyfle i weithio a dysgu yn rhan bwysig o fywyd. Gall ddarparu sefydlogrwydd ariannol a chyflwyno manteision ehangach, sef gyrfa sy'n cynnig boddhad, iechyd meddwl cadarnhaol a chyfle i ryngweithio'n gymdeithasol. Dylai gofalwyr nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant allu cael gafael ar y wybodaeth, y cyngor a'r cymorth cywir i ddatblygu'r sgiliau i gael gwaith addas, p'un a ydynt yn ailymuno â'r gweithlu, neu'n cael swydd am y tro cyntaf. Mae hefyd yn bwysig cydnabod y gall gofalwr hefyd fod yn hunangyflogedig, rheoli ei fusnes neu ei sefydliad ei hun, ac felly wynebu heriau gwahanol.

Byddwn yn gweithredu ar y flaenoriaeth hon drwy wneud y canlynol:

Annog awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth i adnabod gofalwyr ifanc

Mae'r holl flaenoriaethau cenedlaethol a'r camau gweithredu arfaethedig yr un mor berthnasol i ofalwyr di-dâl o bob oedran a chefndir. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o ofalwyr ifanc yn yr ysgol neu'r coleg ac felly mae angen iddynt gydbwyso eu dysgu a'u datblygiad personol â'u cyfrifoldebau gofalu. Mae gofalwyr sy'n oedolion ifanc (a ystyrir fel arfer yn bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed) yn wynebu gwahanol amgylchiadau a gallant fod mewn addysg uwch neu gyflogaeth.

Noda ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr y gall problemau gyda phresenoldeb neu gyrhaeddiad yn yr ysgol gael effaith negyddol ar ddyfodol gofalwyr ifanc. Mae datblygiad y cwricwlwm newydd, Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys ffocws llawer cryfach ar lesiant, ac ar greu dysgwyr uchelgeisiol a galluog ac mae ganddo'r potensial i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu.

Rydym yn amlwg yn cydnabod yr angen am gysylltiad cryf rhwng ysgolion a'u gwasanaethau lleol i ofalwyr ifanc er mwyn sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael cefnogaeth lawn. Fel rhan o hyn, rydym yn ymwybodol bod rhai ysgolion wedi penodi arweinydd ar gyfer gofalwyr ifanc er mwyn goruchwylio'r cymorth y mae gofalwyr ifanc yn ei gael, a'u cyfeirio at wasanaethau i ofalwyr ifanc, ond rydym yn cydnabod y gellir cymhwyso hyn yn fwy cyson.

Gweithio gyda chyflogwyr a'u cyrff cynrychioliadol i hyrwyddo gweithleoedd sy'n gyfeillgar i ofalwyr di-dâl

Bydd y gwaith hwn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i'r egwyddorion Gwaith Teg a osodir gan y Comisiwn Gwaith Teg i Gymru a bydd yn anelu at ddarparu gwell cymorth i'r nifer cynyddol o weithwyr hŷn, gofalwyr di-dâl, a gofalwyr sy'n oedolion ifanc, yn ein gweithlu.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Hwb Cyflogwyr i Ofalwyr Cymru, sy'n helpu sefydliadau yng Nghymru i gefnogi staff sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Byddwn yn parhau i gefnogi'r cynnig gan Lywodraeth y DU am hawl cyflogaeth newydd, sef wythnos o absenoldeb di-dâl i ofalwyr ar gyfer gweithwyr cymwys.

Gallai'r cynnydd presennol mewn diswyddiadau, diweithdra oherwydd Covid-19 a'r ffaith bod cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU yn dod i ben gael effaith negyddol ar sefyllfa ariannol llawer o ofalwyr. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru, Gorffennaf 2020, yn dangos bod statws economaidd 25% o bobl yng Nghymru wedi newid ers y brigiad o'r coronafeirws. Dywedodd 74% fod y coronafeirws wedi achosi problemau yn eu bywyd gwaith.

Byddwn yn cysylltu'r flaenoriaeth newydd hon â phryderon cymdeithasol ac economaidd ehangach gan gynnwys cydraddoldeb rhywiol, incwm isel ac effaith gofalu ar dlodi. Mae ein Hasesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn ein helpu i ddeall yr effaith ariannol ac emosiynol ar fenywod, sy'n fwy tebygol o weithio'n rhan-amser neu roi'r gorau i weithio oherwydd anawsterau gyda chydbwyso eu swydd â'u rôl ofalu, ac ymateb i hynny.

Hyrwyddo gwytnwch ariannol

Mae argyfwng Covid-19 wedi amlygu, efallai yn fwy nag erioed, y rôl hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae wrth atal gwasanaethau statudol rhag cael eu gorlwytho. Ac eto mae gan lawer o'r gofalwyr hyn incwm isel ac, oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu, ni allant gynyddu eu hincwm drwy weithio'n llawn-amser.

Felly byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i gynyddu cyfradd gyfredol y lwfans gofalwyr er mwyn codi gofalwyr allan o dlodi.

Mae trechu tlodi a darparu help i'r rhai mwyaf anghenus yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'r newidiadau i'r system Budd-daliadau Lles a Nawdd Cymdeithasol wedi creu eu problemau eu hunain yma yng Nghymru ac mae Gweinidogion Cymru yn parhau i wneud sylwadau ar y newidiadau hyn ac yn gweithredu polisi i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau.

Mae'n bwysicach nag erioed bod pawb sy'n gymwys i gael cymorth yn ymwybodol o'r ystod lawn o hawliau sydd ar gael, ac yn manteisio arnynt, gan gynnwys budd-daliadau a gwasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r rhai a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Siarter i ofalwyr

Mae gofalwyr di-dâl a'u cynrychiolwyr wedi lleisio pryderon ynghylch gwahaniaeth sylweddol yn y lefelau cymorth rhwng gwahanol fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Mewn ymateb i hyn, rydym yn awyddus i weithio tuag at gyd-ddealltwriaeth o hawliau gofalwyr di-dâl a lefel y gwasanaeth y dylent ei gael, yn enwedig yn ystod senarios cyffredin y mae gofalwyr yn dod ar eu traws megis rhyddhau pobl o'r ysbyty neu dderbyniadau brys.

Rydym am i'r siarter fod yn adnodd y bydd gofalwyr di-dâl, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy'n ceisio darparu cymorth, yn troi ato fel blaenoriaeth. Bydd y siarter yn cael ei chydgynhyrchu gyda darparwyr gofal di-dâl o bob oedran a bydd yn diffinio'n glir beth yw rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, sefydliadau'r trydydd sector a gofalwyr di-dâl eu hunain.

Bydd y siarter yn helpu gofalwyr di-dâl i hunanadnabod a deall eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gobeithiwn y bydd y siarter yn helpu i herio canfyddiadau negyddol o wasanaethau statudol. Bydd yn cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf ac yn amlinellu'n glir safonau arfer da sy'n sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cymryd rhan fel partneriaid cyfartal ac yn cael llais yn y gwaith o ddatblygu polisi, cynllunio, ymchwil a hyfforddiant.

Mesur llwyddiant: data ac ymchwil

Gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014

Byddwn yn nodi'n glir y camau gweithredu a'r amserlenni ar gyfer gweithredu'r strategaeth hon yn llwyddiannus mewn cynllun cyflawni a gyhoeddir yn nhymor yr hydref 2021. Bydd datblygiad y cynllun yn cael ei arwain gyda chyngor a mewnbwn gan ein Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a'i grŵp ymgysylltu ategol.

Byddwn yn gweithio gydag aelodau o Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl i ddatblygu set glir o fetrigau gan ddefnyddio'r data a amlinellir uchod a ffynonellau eraill sy'n ymwneud â phob un o'r pedair blaenoriaeth genedlaethol a nodir yn y strategaeth hon.

Bydd y cynllun cyflawni hefyd yn nodi'r mesurau ar gyfer mesur llwyddiant a fydd yn cynnwys ein gwerthusiad annibynnol, ffurfiol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy'n cael ei arwain gan Brifysgol De Cymru, ac a fydd yn parhau tan 2022. Bydd y gwerthusiad hwn yn ein helpu i wella dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru a bydd yn rhoi dealltwriaeth o'r modd y mae egwyddorion y Ddeddf megis 'llais a rheolaeth' wedi'u cymhwyso a'u heffaith ar lesiant gofalwyr di-dâl. Defnyddir canfyddiadau'r gwerthusiad i'n helpu i ddeall sut y gallwn wella bywydau unigolion a gofalwyr di-dâl ymhellach. Bydd y prosiect yn dechrau ar ei waith maes ym mis Ebrill 2021 ar gyfer y gwerthusiad o effaith. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid ac unigolion allweddol, gan gynnwys gofalwyr di-dâl a bydd yn fodd o feincnodi sefyllfa bresennol gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Cyhoeddir canfyddiadau dros dro o'r cam hwn ar ddiwedd 2021.

Mesurwyd Deddf 2014 hefyd drwy ddull gwahanol, ond cyflenwol, o'r enw Mesur y Mynydd, sef prosiect ar y cyd a lansiwyd ym mis Ionawr 2018 a ddadansoddodd brofiadau pobl o ofal a chymorth. Casglodd tîm Mesur y Mynydd oddeutu 500 o straeon yn 2019/20 gan unigolion yng Nghymru - roedd tua hanner y straeon gan ofalwyr di-dâl. Cyhoeddwyd canfyddiadau diweddaraf y prosiect ym mis Rhagfyr 2020.

Yn dilyn ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid allweddol, bydd data y Fframwaith Perfformiad a Gwella newydd ar gyfer awdurdodau lleol a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2020, yn cael eu casglu yn unol â'r bwriad ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21. O ystyried amgylchiadau digynsail y flwyddyn ariannol ddiwethaf, bydd y casgliadau yn gyfle i awdurdodau lleol barhau â'r datblygiadau sy'n angenrheidiol i fodloni'r gofynion newydd a chaniatáu i Lywodraeth Cymru dreialu'r casgliadau i ddeall pa mor llwyddiannus fu gweithredu'r fframwaith. Bydd yr holl ddata a gesglir eleni yn ddata arbrofol ac nid ystadegau swyddogol.

Bydd Cam 2 y fframwaith perfformiad a gwella hefyd yn dechrau cyn bo hir, gan gynnwys comisiynu partner i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu canllawiau ar gyfer casglu a dadansoddi data ar brofiad a chanlyniadau pobl sy'n derbyn gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl y mae angen cymorth arnynt. Mae gwaith hefyd yn parhau ar ddatblygu adnoddau ychwanegol ar ddefnyddio tystiolaeth i ysgogi gwelliant, gan gynnwys ymgymryd â phrosiectau ymchwil ar ofal di-dâl a chymryd rhan ynddynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gofal Cymdeithasol Cymru gyflawni ail gam Ymagwedd Strategol at Ddata Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, i barhau â'r gwaith a wnaed fel rhan o'r Adroddiad ar y Cam Darganfod ym mis Rhagfyr 2020. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a chyda chymorth KPMG i gyflawni'r gwaith hwn gyda rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad personol.

Ar ran Llywodraeth Cymru, mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd wedi comisiynu'r Sefydliad Gofal Cymdeithasol dros Ragoriaeth yng Nghymru i gynnal ymchwil ansoddol gyda gofalwyr di-dâl i ddeall eu hagweddau tuag at asesiadau gofalwyr a'u profiadau ohonynt.