Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y gweinidog

Rhagair gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yn y flwyddyn hon, sy’n dathlu 75 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, rydym yn edrych ymlaen at y 75 mlynedd nesaf a sut y bydd y gwaith o foderneiddio’r GIG yn cael ei ysgogi gan dechnoleg ddigidol, data, arloesi a gwyddoniaeth dros y degawdau nesaf. Dangosodd pandemig COVID-19 pa mor hanfodol oedd galluoedd digidol a data i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yn yr unfed ganrif ar hugain a’r rôl ganolog y byddant yn ei chwarae wrth sicrhau Cymru Iachach.

Mae’r strategaeth ddiwygiedig hon yn adeiladu ar ein llwyddiannau blaenorol, ac mae’n bleser gennyf ei rhannu. Mae wedi’i chynllunio i ddiwallu anghenion gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol modern yng Nghymru, ac ymateb i anghenion gwasanaeth o’r fath. Drwy sicrhau bod technoleg ddigidol a data wrth wraidd ein cynlluniau, byddwn yn gallu darparu gwasanaeth i’r wlad sy’n galluogi pawb i fyw bywydau hirach a hapusach, ac i aros yn heini ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag sy’n bosibl. Bydd sefydlu dull system gyfan yn darparu gofal o ansawdd gwell ac yn sicrhau canlyniadau iechyd mwy cyfartal i ddinasyddion yng Nghymru.

Mae meddyginiaethau, technolegau a ffyrdd newydd cyffrous o weithio yn dechrau cael eu cyflwyno, gan achub ac ymestyn bywyd ein hanwyliaid, neu wella ansawdd ein bywyd yn aruthrol. Mae Ap GIG Cymru, a’i wefan gysylltiedig, yn enghraifft o drawsnewid y ffordd y mae cleifion yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Drwy’r Ap, gall cleifion, sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu, gael mynediad at eu cofnod iechyd cryno a gweld eu hanes iechyd, archebu presgripsiynau rheolaidd, gweld hen bresgripsiynau gan feddygon teulu yn ogystal â threfnu, gweld a chanslo apwyntiadau gyda staff practisau. Bydd yr Ap hefyd yn darparu mwy o dryloywder o ran rhestrau aros, yn hwyluso rhyngweithio rhwng cleifion a chlinigwyr gofal eilaidd cyn ac ar ôl llawdriniaethau, yn ogystal â chyflwyno ateb post hybrid i ddigideiddio llythyrau a gohebiaeth.

Byddwn yn dal ati i fuddsoddi’n barhaus mewn seilwaith modern, er mwyn sicrhau bod yr holl glinigwyr yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth iawn ar yr adeg iawn ar gyfer pob un o’u cleifion i wella diogelwch a gofal cleifion. Yn ogystal, byddwn yn gwella ein hadnoddau data i’n galluogi i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd anhygoel y mae deallusrwydd artiffisial yn eu cynnig, ynghyd â datblygiadau genetig a meddyginiaethau manwl i drawsnewid y ffordd rydym yn rhyngweithio ac yn darparu gwasanaethau’r GIG.

Mae’r strategaeth hefyd yn cyfleu dyhead Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwaith o ddatblygu ein gwasanaethau digidol a data yn canolbwyntio ar gynnal gwaith ymchwil ac ymgysylltu â defnyddwyr, sefydlu safonau digidol a data cenedlaethol, meithrin cynlluniau peilot arloesol ochr yn ochr â datblygu gwasanaethau cenedlaethol Unwaith i Gymru.

Gyda’i gilydd, drwy harneisio’r priodoleddau hyn sy’n perthyn i drawsnewid digidol, bydd y strategaeth yn arwain at wella’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i’n dinasyddion. Bydd hyn yn cael ei gyflawni wrth i ddinasyddion gymryd rhan mewn gwasanaethau seibergadarn ac effeithiol sy’n rhoi gwerth am arian, a defnyddio gwasanaethau o’r fath. Bydd technoleg yn galluogi ac yn cefnogi ein dinasyddion ledled Cymru i gael gofal yn agosach at eu cartrefi ac i reoli eu cyflyrau iechyd a gofal eu hunain yn well.

Rwy’n annog ein holl staff a rhanddeiliaid ymroddedig i ymgorffori egwyddorion y strategaeth a chymryd rhan weithredol yn y gwaith o’i gweithredu. Drwy gael gwared ar seilos, rhoi ein dinasyddion wrth wraidd ein gwasanaethau a gweithio mewn partneriaeth ar draws sectorau, gyda’n gilydd gallwn weithio ar yr heriau sydd o’n blaenau ac felly creu dyfodol mwy disglair i’n dinasyddion a’r staff sy’n gweithio mor galed i ddarparu’r gofal gorau posibl i gefnogi pob un ohonom i fyw bywydau hapusach ac iachach.

Hoffwn ddiolch i’r holl unigolion a’r sefydliadau sydd wedi rhannu eu harbenigedd, eu dealltwriaeth a’u hadborth wrth inni ddatblygu’r strategaeth hon. Drwy ein hymdrechion ar y cyd, rydym wedi gallu datblygu cynllun cadarn a blaengar sydd wedi’i gynllunio i helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau ein dinasyddion yng Nghymru pan fyddant yn rhyngweithio â’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol.

Wrth sicrhau bod ein polisïau, ein buddsoddiadau a’n camau gweithredu yn cyd-fynd ag egwyddorion, nodau a chenadaethau’r strategaeth, edrychaf ymlaen at weld yr effeithiau cadarnhaol y byddwn yn gallu eu cyflawni drwy ddatblygu dull modern o drawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddigidol.

Y Farwnes Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru

Crynodeb gweithredol 

Mae’r ddogfen hon yn pennu dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â thechnoleg ddigidol a data drwy gyfrwng ei Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dogfen ar ei newydd wedd yw hon, ac mae’n adeiladu ar y cyfeiriad strategol a bennwyd yn strategaeth 2015 sydd wedi bod yn un o ddulliau galluogi allweddol Cymru Iachach. Bwriad y ddogfen hon yw cyflwyno ein gweledigaeth graidd i helpu pobl yng Nghymru i fyw bywydau hapusach, iachach a hirach drwy gyfrwng gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr - gwasanaethau digidol a gaiff eu hadeiladu ar sgiliau, partneriaethau, data a phlatfformau digidol gwell.

Lluniwyd y ddogfen hon mewn ymateb i nifer o heriau strategol:

  • adferiad parhaus y GIG a’r pwysau ar ofal cymdeithasol ar ôl y pandemig
  • demograffeg gynyddol ar draws ein poblogaeth a chydafiacheddau mwy cymhleth
  • cyfyngiadau ariannol a daw i ran dinasyddion a sefydliadau, a sbardunir gan yr argyfwng costau byw
  • disgwyliadau cynyddol dinasyddion ar gyfer gwasanaethau digidol, ond risg uwch o allgáu digidol
  • marchnad gystadleuol ar gyfer y gweithlu digidol a data

Ond mae gennym gyfle i ymateb i’r heriau drwy wneud y canlynol

  • defnyddio technoleg i optimeiddio a safoni er mwyn lleihau’r amrywio a welir mewn darpariaethau a chanlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol
  • manteisio ar dechnolegau a gwyddorau datblygol, fel Deallusrwydd Artiffisial a genomeg
  • galluogi ein gweithlu digidol i fwrw ymlaen â newidiadau yn y modd y darperir iechyd a gofal cymdeithasol
  • parhau â’n siwrnai i wella’r modd y rhannwn wybodaeth ar draws lleoliadau darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol
  • defnyddio a churadu data er mwyn ategu’r modd y rheolir iechyd y boblogaeth a dangos gwerth a manteision ein buddsoddiada.

Rydym yn adeiladu ar lwyddiannau ein strategaeth genedlaethol gyntaf, Iechyd a Gofal Gwybodus: Strategaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ddigidol ar gyfer Cymru (2015) drwy: 

  • Sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy’n helpu ac yn ategu’r modd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol eu cyflwyno drwy ddefnyddio technoleg, data a safonau digidol.
  • Datblygu Strategaeth a Rhaglen yr Adnodd Data Cenedlaethol sy’n bwriadu dwyn gwybodaeth glinigol ynghyd ar yr adeg iawn ar gyfer y bobl iawn.
  • Mae’r rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd yn cydgysylltu’r modd y darperir atebion digidol a chymwysiadau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru, yn cynnwys Ap y GIG.
  • Cofnod Gofal Nyrsio Cymru sy’n galluogi nyrsys mewn lleoliadau cleifion mewnol (oedolion) i lenwi asesiadau ar-lein ar gyfer cleifion mewn amser real.
  • Llwyddo i ddigideiddio’r siwrnai rheoli meddyginiaethau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd – fe’i gelwir yn Bortffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP).
  • Defnyddiwyd systemau newydd, sef y System Wybodaeth Radioleg (RIS) a’r System Archifo a Chyfathrebu Lluniau (PACS), er mwyn rhoi mynediad digidol diogel i glinigwyr at ddelweddau, waeth o ba sefydliad y tarddodd yr wybodaeth/lluniau.
  • Ehangwyd Porth Clinigol Cymru er mwyn cynnig golwg gyffredinol ar gofnodion digidol cleifion, gan sicrhau eu bod yn hygyrch ar draws ffiniau sefydliadau a lleoliadau gyda’r nod o ategu gofal diogel ac effeithiol.

Dyma nodau craidd ein Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

  • trawsnewid ein sgiliau a’n partneriaethau digidol
  • adeiladu platfformau digidol sy’n diwallu anghenion Cymru
  • canolbwyntio ar wneud gwasanaethau yn ‘wasanaethau digidol yn gyntaf’

Bydd ein cynlluniau cyflawni’n seiliedig ar chwe chenhadaeth:

  • Sgiliau digidol - datblygu ein gweithlu er mwyn sicrhau y bydd ein gweithwyr yn meddu ar y sgiliau a’r hyder angenrheidiol i wneud y gorau o wasanaethau digidol a gwella gofal.
  • Economi ddigidol - gweithio mewn partneriaeth â darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, y byd academaidd a’r sector preifat fel y gellir esgor ar werth ychwanegol, cyflymu arloesi a chryfhau economi Cymru.
  • Data a chydweithredu - gweithio er mwyn sicrhau bod data o’r radd flaenaf ar gael i lywio’r modd y darperir iechyd a gofal cymdeithasol ac ategu gwasanaethau digidol.
  • Seilwaith a chysylltedd digidol - datblygu sylfaen ddiogel, gadarn a chynaliadwy fel y gellir rhannu data iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd di-dor er mwyn ategu gwasanaethau digidol ystwyth.
  • Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr - darparu gwasanaethau digidol o’r radd flaenaf a gaiff eu seilio ar anghenion dinasyddion, gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau.
  • Cynhwysiant digidol - rhoi mynediad i ddefnyddwyr at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol ar sail eu hanghenion neu eu dewisiadau penodol, yn ogystal â rhoi iddynt y sgiliau a’r hyder i ymgysylltu â’r gwasanaethau hyn.

Mae camau gweithredu allweddol sy’n ategu ein strategaeth yn cynnwys y canlynol:

  • lansio ap GIG Cymru, a’i ddatblygu’n barhaus, er mwyn cynorthwyo dinasyddion i reoli eu hiechyd
  • cyflymu’r dasg o ddarparu adnoddau data cenedlaethol er mwyn sicrhau y gall pob corff iechyd a gofal cymdeithasol gael gafael arnynt a’u defnyddio
  • cyflwyno canolfannau rhagoriaeth yn ehangach fel y gellir creu gweithlu sy’n barod ar gyfer y byd digidol
  • parhau i gyflwyno dull electronig o ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau drwy’r sector iechyd a gofal
  • gweithredu ac ymwreiddio safonau ar draws iechyd digidol ar gyfer data, y gallu i ryngweithredu a chaffael

Bydd y canlynol yn ategu hyn:

  • seilwaith agored, rhyngweithredol a mwy cadarn 
  • safoni ac optimeiddio’r modd y gweithiwn
  • pennu cyfleoedd i foderneiddio seilwaith fel y gellir ategu trawsnewid pellach
  • datblygu gwasanaethau mewn modd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr 
  • cyd-ddatblygu a gweithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi strategaethau digidol ar waith

Er mwyn cyflawni ein strategaeth ledled Cymru, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • gweithio gyda chydweithwyr o awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y byd academaidd a’r sector preifat
  • gweithio er mwyn datblygu modelau cyllido a fydd yn ategu fframwaith buddsoddi mwy cynaliadwy
  • cryfhau dulliau llywodraethu er mwyn sicrhau dull portffolio cydgysylltiedig ar gyfer rheoli ein rhaglenni gwaith
  • gweithio gyda chydweithwyr drwy’r DU, ac yn rhyngwladol, fel y gallwn arwain technoleg ddigidol a data a gwneud yn fawr o’i photensial er mwyn gwella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol

Byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni ein Gweledigaeth pan allwn ddweud y canlynol yn hyderus:

  • mae dinasyddion yn teimlo bod ganddynt fwy o rym i reoli eu hiechyd eu hunain drwy gyfrwng offer digidol gwell
  • mae ein gweithlu’n cael yr wybodaeth iawn ar yr amser iawn ar gyfer darparu gofal gwell
  • mae clinigwyr yn treulio llai o amser yn gwneud tasgau gweinyddol a mwy o amser gyda chleifion
  • deallwn y gwerth sy’n deillio o fuddsoddi mewn elfennau digidol a thechnoleg
  • defnyddir data i ategu’r modd y darperir system iechyd a gofal sy’n dysgu

Mae Cymru mewn sefyllfa gref i barhau i adeiladu ar y gwaith a wnaed dros y degawd diwethaf – gwaith a’n galluogodd i ymateb yn effeithiol i heriau’r pandemig. Bwriad y Strategaeth hon ar ei newydd wedd yw cynorthwyo i ddelio â’r pwysau parhaus a welir drwy’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl y pandemig, ac ymateb i’r heriau hyn.

Mike Emery
Y Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyflwyniad

Uchelgais ‘Cymru Iachach’, a gyhoeddwyd yn 2018, a’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol ategol, yw cyflwyno ‘dull system gyfan’ o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol – hynny yw, un elfen yn unig yw gwasanaethau yn y dasg o gynorthwyo pobl i sicrhau iechyd a llesiant gwell drwy gydol eu bywydau. ‘Gwell iechyd’ fydd byrdwn y system hon, a bydd yn anelu at ategu a rhagweld anghenion iechyd, ynghyd ag atal salwch a lleihau’r effeithiau sy’n gysylltiedig ag iechyd gwael. Rydym yn anelu at ddwyn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd a sicrhau y cânt eu llunio a’u darparu ar sail anghenion a dewisiadau unigolion, gan roi llawer mwy o bwyslais ar gadw pobl yn iach. Yn 2023, mae’r nod hwnnw’n dal i fod mor berthnasol ag erioed. Mae digwyddiadau ac effeithiau’r pandemig COVID-19 wedi dangos y manteision sy’n perthyn i drawsnewid digidol a data, a’r angen am drawsnewid o’r fath, trwy’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru a’n partneriaid cyflawni yn y GIG a’r sector Gofal Cymdeithasol wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran dechrau gwireddu’r uchelgais hon trwy gyfrwng Iechyd a Gofal Gwybodus; Strategaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ddigidol ar gyfer Cymru (2015) (llyw.cymru) (i gael rhagor o wybodaeth, gweler Atodiad A Cymharu Strategaethau Digidol 2015 a 2023, yn cynnwys cofnod o’r hyn a gyflawnwyd yn sgil y strategaeth gyntaf).

Wrth wireddu hyn oll, cydnabyddir y bydd angen newid mwy ar ein system gogyfer cyflwyno iechyd a gofal cymdeithasol cydgysylltiedig ledled y wlad. Os ydym am gyflawni ein huchelgais, bydd angen datblygu ymhellach welliannau’n ymwneud ag ansawdd y data, hygyrchedd, cynhwysiant a safonau, ynghyd â chydweithredu mwy.

O’r herwydd, lluniwyd y Strategaeth Ddigidol a Data newydd hon er mwyn ategu a chyflymu’r trawsnewid a bennir yn ‘Cymru Iachach’, ynghyd â chyflawni Strategaeth 2015 yn llwyddiannus a chyd-fynd â’r cyfeiriad clir a nodwyd yn 2021 yn ‘Strategaeth Ddigidol i Gymru’. Rydym wedi datblygu’r Strategaeth Ddigidol a Data newydd hon ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cyd â rhanddeiliaid a phartneriaid cyflawni trwy’r system er mwyn adeiladu mwy ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes, cynorthwyo sefydliadau a rhaglenni a chynnig cyfeiriad clir ar gyfer y siwrnai tuag at drawsnewid technoleg ddigidol a data. Ymhellach, bydd cydweddu nodau’r strategaeth hon â chynlluniau’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol yn rhoi anghenion pobl Cymru uwchlaw buddiannau sefydliadau, gan helpu i ddarparu gofal iechyd darbodus sy’n seiliedig ar werth. Yn benodol, bydd y strategaeth hon yn helpu i wella iechyd a llesiant y boblogaeth ac yn helpu i ddarparu ymyriadau o ansawdd gwell. Bydd yn helpu i sicrhau bod y gwasanaethau’n fwy hygyrch a diogel a’u bod yn canolbwyntio mwy ar bobl a’u hanghenion trwy optimeiddio’r modd y defnyddir gwasanaethau digidol a data iechyd a gofal cymdeithasol.

Trwy roi’r strategaeth hon ar waith yn llwyddiannus, bydd modd ategu’r pedwar nod a bennir yn ‘Cymru Iachach’. Yn gyntaf, bydd yn defnyddio dylanwad technoleg ddigidol a data i ddatblygu ansawdd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gwella profiad defnyddwyr a chleifion. Byddwn yn cyflawni’r nod hwn trwy lunio ein gwasanaethau digidol gyda chleifion, defnyddwyr a darparwyr gofal cymdeithasol, a chlinigwyr. Yn ail, bydd y strategaeth yn grymuso pobl i reoli eu hiechyd eu hunain ynghyd ag atal clefydau trwy gyfrwng gwasanaethau digidol cynhwysol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, yn ogystal â chryfhau ein seilwaith a’n cysylltedd. Bydd hyn yn helpu pobl Cymru i atal clefydau a bydd yn gwella iechyd a llesiant y boblogaeth. Yn drydydd, byddwn yn esgor ar iechyd a gofal cymdeithasol uwch ei werth trwy feithrin arloesi a gwelliannau cyflym, trwy ddefnyddio dulliau ystwyth a dulliau sy’n canolbwyntio ar gynhyrchion a thrwy hwyluso’r dasg o rannu data ar draws y system fel y gallwn elwa i’r eithaf ar rym data. Yn olaf, byddwn yn defnyddio gwasanaethau digidol i gynorthwyo ein gweithlu a lleihau’r pwysau ar ein gweithwyr. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chlinigwyr a staff anghlinigol i lunio gwasanaethau a gaiff eu teilwra’n ôl eu hanghenion, ynghyd ag adeiladu ‘gweithlu a fydd yn barod ar gyfer y byd digidol’ – gweithlu a fydd yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i wneud y gorau o’r gwasanaethau hyn.

Bwriad y strategaeth yw cynnig cyfeiriad clir i arweinwyr a’u timau cyflawni trwy’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n dwyn ynghyd gydymdrechion awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd arbennig, y byd academaidd a phartneriaid masnachol, Llais, byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, darparwyr addysg, a’r trydydd sector a phartneriaethau cymdeithasol.

Os cânt eu darparu’n effeithiol, bydd gwasanaethau digidol yn rhoi pobl Cymru wrth galon a chraidd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gyd. Bydd hyn yn ein helpu i symud tuag at system lle ceir gwasanaethau personol sydd wedi’u cydlunio, a lle canolbwyntir ar atal. Bydd y strategaeth yn gwella’r modd y cesglir ac y defnyddir data o’r radd flaenaf sy’n sail i wasanaethau digidol. Bydd hyn yn arwain at benderfyniadau cytbwys a thryloyw a chanddynt atebolrwydd clir. Bydd y dechnoleg fodern a ddefnyddir i ddarparu’r data trwy’r systemau yn arwain at system iechyd a gofal fwy hygyrch, diogel, ymatebol a deallus.

Bydd ein gwasanaethau digidol yn cael eu cynllunio a’u darparu gyda’r nod o gynyddu manteision cymdeithasol. Byddwn yn defnyddio dulliau ystwyth gyda saernïaeth agored. Pa bryd bynnag y bo’n ymarferol, byddwn yn mabwysiadu blociau adeiladu ffynhonnell agored a thechnolegau cwmwl. Hefyd, bydd ein strategaeth yn ategu’r arfer o feithrin sgiliau digidol yng Nghymru mewn ffordd gynhwysol a deallus, gan wneud y gorau o syniadau a gwybodaeth academaidd sy’n deillio o wledydd eraill drwy’r byd.

Bydd gwasanaethau digidol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol o ran ategu rhyngweithiadau iechyd a gofal cymdeithasol trwy greu rhwydwaith gwybodaeth sy’n seiliedig ar ddata. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth amserol a sianeli adborth i bobl, timau clinigol, timau darparu gofal a sefydliadau sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau. Yn ei dro, bydd hyn yn ein galluogi i fesur y canlyniadau sydd bwysicaf i unigolion a phennu ble y dylid dyrannu adnoddau ar eu cyfer.

Cefndir

Mae a wnelo iechyd a gofal cymdeithasol â mabwysiadu a datblygu technolegau digidol er mwyn gwella llif gwaith gofal fel y gellir rhoi triniaeth gyflymach a mwy diogel i bobl, a hynny mor agos â phosibl at eu cartrefi. Bwriad iechyd a gofal cymdeithasol digidol yw rhoi mwy o amser i weithwyr proffesiynol trwy symleiddio prosesau, ynghyd â gwella profiad pobl. Wrth fynd ati i ddatblygu gwasanaethau digidol trwy roi blaenoriaeth i bobl, cleifion a defnyddwyr, bydd y gwasanaethau hynny’n arwain at wella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol yn fawr. Mae’r elfen ddigidol yn cynnwys methodolegau a dulliau digidol, megis darparu gwasanaethau ystwyth a llunio gwasanaethau trwy ganolbwyntio ar y defnyddiwr.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar drawsnewid, arloesi a gweithredu arferion gorau, oherwydd gwyddom fod gan ein system iechyd a gofal cymdeithasol bresennol sylfaen gref y gallwn adeiladu arni. Ers 2015, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ac wedi buddsoddi llawer yn ein gweithlu, ein sefydliadau, ein seilwaith a’n saernïaeth. Er enghraifft:

  • Fe wnaethom bennu cyfeiriad polisi cryf yn ‘Cymru Iachach’. Cafodd y cyfeiriad hwn ei gryfhau’n sylweddol yn gynnar yn 2023 trwy benodi Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru a GIG Cymru, a thrwy sefydlu’r swyddfa. Mae gan Swyddfa’r Prif Swyddog Digidol gylch gwaith system gyfan gogyfer annog, hyrwyddo a chefnogi trawsnewid digidol a data trwy’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â gweithredu’r strategaeth, bydd yn arwain y proffesiwn digidol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a bydd yn hyrwyddo iechyd a gofal cymdeithasol digidol yng Nghymru.
  • Aethom ati i sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sef sefydliad newydd sy’n perthyn i GIG Cymru. Canolbwynt y sefydliad hwn yw trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal digidol eu darparu trwy ddefnyddio technoleg, data a safonau digidol.

Rydym yn parhau i sefydlu portffolio o raglenni cenedlaethol a lleol sy’n canolbwyntio ar adolygu a gwella ein data a’n seilwaith. Bydd pob un o’r rhain yn ein helpu i gyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol yn fwy effeithlon a byddant yn darparu gwell canlyniadau gofal yn gyflymach. Mae rhai o’n rhaglenni cenedlaethol allweddol hyd yn hyn yn cynnwys:

  • Rhaglen yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR). Dyma fenter strategol sydd â’r bwriad o helpu i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru trwy ddefnyddio data mewn modd mwy cysylltiedig a chydweithredol.
  • Uned Seibergadernid GIG Cymru, a gynhelir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae’r uned hon yn rhoi sicrwydd ac arweiniad i weithredwyr gwasanaethau hanfodol yn y maes iechyd ledled Cymru. Mae hi hefyd yn cynnig cymorth, cyngor ac arweiniad arbenigol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â Rheoliadau Rhwydwaith a Systemau Gwybodaeth 2018.
  • Mae’r rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd (DSPP), a sefydlwyd ym mis Mawrth 2021, yn helpu i gydgysylltu’r gwaith o ddarparu atebion digidol a chymwysiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gyflym ar gyfer cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru, yn cynnwys datblygu Ap GIG Cymru.
  • Cyflwynwyd Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) yn 2021 mewn nifer o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru. Mae’n galluogi nyrsys mewn lleoliadau cleifion mewnol (oedolion) i lenwi ffurflen asesu ar-lein wrth erchwyn gwely’r claf.
  • Mae’r System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS) a rhaglenni TEC Cymru a Llwybrau Trawsffiniol wedi gwella’r modd y gweithredir technolegau newydd, nodweddion a threfniadau rhannu data trwy sefydliadau gofal.
  • Canolfan Ragoriaeth Microsoft Office 365 – cynorthwyo ein gweithlu trwy foderneiddio ffyrdd o weithio yn ymwneud â diogelwch a chydweithredu ar draws lleoliadau iechyd a gofal.
  • Bydd y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) yn sicrhau y bydd y gwaith o ragnodi, cyflenwi a gweinyddu meddyginiaethau trwy Gymru yn rhwyddach, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol, a hynny trwy gyfrwng trawsnewid digidol a nodweddion digidol.

Ymhellach, buddsoddir yn barhaus mewn seilwaith a galluogrwydd digidol ledled Cymru – o gyflawni galluogrwydd sefydliadau hyd at ganolfannau data, rhwydweithiau a dyfeisiau. Byddwn yn adeiladu ar y canfyddiadau sydd wedi deillio o’r canlynol:

  • Yr Adolygiad o Saernïaeth Ddigidol (DAR) – Dyma adolygiad pwysig o’r modd y cyflwynir technoleg ddigidol yng Nghymru. Cyflwynwyd argymhellion pellgyrhaeddol a rhyngddibynnol lle nodir bod angen cyflwyno newidiadau fesul cam.
  • Rhaglen Seilwaith Cymru Gyfan (AWIP) – Ei nod yw datblygu safonau ac egwyddorion cyffredin trwy GIG Cymru ar gyfer pob agwedd ar seilwaith digidol, megis defnyddio system gwmwl, rheoli hunaniaeth ddigidol a rhwydweithiau digidol.

Yn unol â phroses Llywodraeth Cymru ar gyfer pontio oddi wrth bandemig tuag at glefyd endemig a rheoli COVID-19 yn barhaus, rhaid inni barhau i ddysgu ar sail y profiad a gawsom wrth ymateb i’r pandemig, yn ogystal â phrofiad sefydliadau byd-eang eraill, gan roi’r gwersi a ddysgwyd ar waith [troednodyn 1]. Byddwn yn cynnwys yr elfennau hyn yn ein gweithgareddau‘busnes fel arfer’ er mwyn gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bob defnyddiwr.

Sut beth fydd iechyd a gofal cymdeithasol os awn ar drywydd y strategaeth hon a’r nodau isod

Bydd modd i bobl ofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain yn rhwyddach ac mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw a’u hamgylchiadau. Bydd gan bawb, ni waeth be fo’u hiaith na’u galluogrwydd fynediad at amrywiaeth ehangach o offer a gwasanaethau digidol a fydd wedi’u cynllunio ar eu cyfer o’r cychwyn, mewn lleoliad ac ar adeg a fydd yn gweddu iddyn nhw. Bydd y gwasanaethau hyn yn helpu pobl i ddeall sut i reoli eu gofal, eu triniaethau a’u hiechyd, a chynnal ansawdd bywyd annibynnol. Ni fydd yn rhaid iddynt gyflwyno’r un wybodaeth drosodd a throsodd.

Bydd ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu defnyddio data i ddarparu gwasanaethau. Byddant yn meddu ar y sgiliau, yr hyder a’r wybodaeth i fynd i’r afael â’u swyddi’n fwy effeithlon gyda gwelliannau mewn diogelwch, effeithlonrwydd ac ansawdd. Bydd gwasanaethau digidol yn cael eu cynllunio gyda nhw er mwyn iddynt allu darparu’r gofal gorau posibl mewn ffordd sy’n ategu eu rôl a’u ffyrdd o weithio.

Bydd ein gwasanaethau digidol yn y dyfodol yn cynnig mynediad diogel at y data iawn ar yr adeg iawn i’r bobl iawn. Golyga hyn y bydd gan weithwyr proffesiynol well mynediad at ddata a gwybodaeth safonedig o’r radd flaenaf. Bydd hyn yn ategu penderfyniadau ar bob lefel pan fo angen. Bydd gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol fynediad at systemau a gwybodaeth a fydd yn eu helpu i wybod beth sy’n digwydd, ble, a sut i ddarparu’r canlyniad gofal gorau. O ganlyniad, bydd pobl yng Nghymru yn cael gofal a chymorth mwy personol a fydd yn seiliedig ar ddata dibynadwy a manwl gywir. Bydd gwell mynediad at ddata, ynghyd â gwell argaeledd data, yn ysgogi gwelliannau mewn perfformiad ac ansawdd. Hefyd, trwy gydweithredu ledled Cymru â’n partneriaid academaidd a masnachol, bydd modd esgor ar ychwaneg o bartneriaethau ac annog arloesi digidol newydd. Bydd yr elfennau hyn yn gwella ein system iechyd a gofal cymdeithasol ac yn lleihau risgiau a chostau.

Bydd modd i sefydliadau iechyd, sefydliadau gofal cymdeithasol a sefydliadau’r trydydd sector weithio’n well gyda’i gilydd i greu llwybrau gofal a siwrneiau di-dor i ddefnyddwyr gwasanaethau, gan wella profiad y defnyddwyr yn gyffredinol. Bydd modd iddynt weithio ledled Cymru i bennu tueddiadau a phatrymau fel y gellir gwella gofal ataliol, gwella cymorth ac addasu gwasanaethau i ddiwallu anghenion newydd.

Egwyddorion

Eisoes, rydym wedi dechrau datblygu a lansio atebion digidol sy’n gwneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru, megis Profi, Olrhain, Diogelu, y gwasanaeth Dewis Fferyllfa a Phorth Clinigol Cymru. Ond rydym eisiau gwneud llawer mwy er mwyn osgoi ailadrodd ymdrechion ac adeiladu gwasanaethau gwell. Mae sefydliadau trwy’r byd wedi dangos bod modd darparu gwasanaethau digidol yn llwyddiannus trwy roi egwyddorion allweddol ar waith yn gyson yn ystod y camau datblygu a gweithredu [troednodyn 2]. Rydym wedi datblygu naw egwyddor er mwyn helpu i lunio a darparu ein gwasanaethau digidol. Mae ein hegwyddorion yn cyd-fynd â safonau gwasanaethau digidol y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a byddant yn cael eu defnyddio wrth ddatblygu gwasanaethau digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Trwy ddefnyddio ein hegwyddorion, bydd ein gwasanaethau fel a ganlyn:

Byddant yn canolbwyntio ar y defnyddiwr, a byddant yn gynhwysol ac yn hygyrch

1.    Rhoi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn nwylo’r bobl trwy roi mynediad i bobl at eu cofnodion iechyd a gofal digidol ar ddyfais o’u dewis. Ei gwneud hi’n haws i bobl gysylltu â gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, gan ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig er mwyn gwella’u llesiant yn awr ac yn y dyfodol.

2.    Caiff ‘cynwysoldeb i bawb’ ei ymgorffori yn yr holl wasanaethau digidol a ddatblygir.

3.    Gwneud yn fawr o ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) trwy gyfathrebu â defnyddwyr gwasanaethau a’u cynnwys yn y gwaith o lunio a darparu gwasanaethau drwy gydol y broses.

Byddant yn grymuso staff a pherchnogion gwasanaethau

4.    Cynnig gwasanaethau modern a deallus i staff iechyd a gofal cymdeithasol lle gallant gael mynediad diogel a pherthnasol at wybodaeth yn ymwneud â chleifion a defnyddwyr gwasanaethau pa le bynnag y byddant angen gweithio, er mwyn ategu rhyngweithiadau a’r modd y darperir gofal. Bydd y gwasanaethau digidol hyn yn cael eu datblygu ar y cyd â chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol rheng flaen gan eu bod mewn sefyllfa ddelfrydol i bennu systemau a gwasanaethau a fyddai’n elwa fwyaf ar gael eu trawsnewid, er mwyn esgor ar fanteision i ddinasyddion a staff.

Byddant yn defnyddio seilwaith agored, rhyngweithredol a chadarn

5.    Rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio saernïaeth agored a seilwaith cwmwl cadarn y gellir ei ehangu’n gyflym fel y bydd modd rhannu data iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd effeithlon ar draws darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

6.    Defnyddio’r technolegau mwyaf priodol a diogel i ategu gallu pob partner i ryngweithredu yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.

Byddant yn meithrin ymddiriedaeth yn y modd y defnyddiwn ddata pobl

7.    Defnyddio data o ansawdd er mwyn sicrhau dealltwriaeth ynghyd â gwella’r modd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a’r modd y caiff pobl fynediad cyfreithlon, diogel a moesegol at y gwasanaethau hynny. Meithrin ymddiriedaeth trwy gyfrwng dull safonedig a thryloyw o ymdrin â llywodraethu gwybodaeth.

8.    Sicrhau bod ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddiogel ac yn gadarn, a bod modd i sefydliadau adnabod bygythiadau seiber, diogelu rhagddynt, eu canfod, ymateb iddynt ac adfer ar eu hôl.

Byddant yn safoni ac yn optimeiddio’r modd y gweithiwn

9.    Ailadrodd ac yna gwella ein gwasanaethau’n fynych, gan weithio ar draws sefydliadau a defnyddio timau amlddisgyblaethol. Defnyddio safonau dylunio a thechnoleg yn gyson wrth ddatblygu a gweithredu gwasanaethau digidol fel y gellir sicrhau datblygiadau a gwelliannau parhaus yn gyflymach. Byddwn yn mabwysiadu dull ystwyth a byddwn yn gweithio mewn modd addasol er mwyn sicrhau ein bod yn system iechyd a gofal cymdeithasol sy’n dysgu, fel y gallwn gynnig gwell cymorth ac ymateb yn well i anghenion pobl yng Nghymru.

10.    Defnyddio technoleg ddigidol a data i optimeiddio a safoni llif gwaith a lleihau’r amrywio a welir, er mwyn gwella canlyniadau i gleifion a chynorthwyo ein gweithlu.

Tri nod allweddol i helpu Cymru i baratoi ar gyfer y byd digidol

Yn ôl y weledigaeth, rhaid i bob sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol baratoi ac addasu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol digidol. Nid yw pob sefydliad yn barod yn hyn o beth nac yn gallu adeiladu gwasanaethau trwy ddefnyddio’r egwyddorion uchod. Mae angen sawl peth i helpu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i ymbaratoi. Mae yna dri nod a fydd yn helpu pob sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol i baratoi eu staff, eu technoleg, eu data a’u ffyrdd o weithio ar gyfer darparu gwasanaethau digidol trwy ddefnyddio’r egwyddorion hyn, sef:

Nod 1 – Trawsnewid sgiliau a phartneriaethau digidol

Cyflawni gwasanaethau ‘digidol yn gyntaf’ ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i’r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol feddwl a gweithio’n wahanol. Mae angen inni wella llythrennedd digidol a hyder ein gweithwyr, gan ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i’w helpu i foderneiddio gofal, cyflawni mewn modd ystwyth a rheoli data pobl. Er mwyn helpu’r gweithlu i ddefnyddio technolegau newydd yn y ffordd orau, rhaid darparu hyfforddiant.

Byddwn yn defnyddio arbenigedd ledled Cymru i esgor ar ganlyniadau gofal gwell a manteision i’n heconomi. Byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid yn y sector masnachol a’r byd academaidd fel y gallwn arloesi a gwella ymyriadau. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau gofal a’r sector preifat gan ddefnyddio’r atebion gorau a mwyaf cost-effeithiol i gyflawni’r canlyniadau gofal gorau. Byddwn yn mynd i’r afael â hyn trwy gyfrwng y canlynol:

1.    Sgiliau digidol

Bydd gan ein gweithlu y sgiliau a’r hyder angenrheidiol i wneud y gorau o wasanaethau digidol ac i wella gofal. 

2.    Economi ddigidol

Ffurfio partneriaethau â darparwyr gofal, y byd academaidd a’r sector preifat er mwyn creu gwerth ychwanegol, cyflymu arloesi a chryfhau economi Cymru.

Nod 2 – Adeiladu platfformau digidol sy’n addas i Gymru

Mae data o’r radd flaenaf yn gwbl allweddol o ran darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Hefyd, rhaid inni allu rhannu data’n rhwydd ac yn ddi-dor rhwng sefydliadau pan fônt angen y data hwnnw, a hynny mewn amser real. Er mwyn gallu rheoli data pobl, rhaid i’n platfformau a’n seilwaith fod yn ddiogel ac yn gadarn, a dim ond y bobl briodol mewn sefydliadau gofal a ddylai allu cael gafael ar y data hwnnw. Rhaid i’n platfformau a’n seilwaith allu rhyngweithredu’n llwyr a rhaid iddynt allu rhannu gwybodaeth ar draws gofal iechyd, llywodraeth leol, darparwyr cymeradwy a chymunedau ymchwil ac arloesi. Byddwn yn cyflawni hyn trwy gyfrwng y canlynol:

3.    Data a chydweithredu

Mae data o safon uchel ar gael i lywio pob rhan o’r gwaith o ddarparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac i ategu gwasanaethau digidol. 

4.    Seilwaith a chysylltedd digidol

Sylfaen ddiogel, gadarn a chynaliadwy i rannu data iechyd a gofal cymdeithasol yn hwylus er mwyn ategu gwasanaethau digidol ystwyth.

Nod 3 – Sicrhau bod gwasanaethau yn ‘ddigidol yn gyntaf’

Bydd Cymru yn mabwysiadu dull ‘digidol yn gyntaf’, hollol gynhwysol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y defnyddwyr yn gallu cael mynediad at wasanaethau digidol a luniwyd ac a adeiladwyd gyda nhw ac ar eu cyfer. Bydd hyn yn cynnwys gwasanaethau ac offer newydd a fydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â gwella’u hiechyd a’u llesiant. Byddwn yn cyflawni hyn trwy gyfrwng y canlynol:

5.    Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Darparu gwasanaethau digidol o safon uchel sydd wedi’u cynllunio ar sail anghenion y defnyddiwr er mwyn gwella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol. 

6.    Cynhwysiant digidol

Rhoi’r mynediad, y sgiliau a’r hyder angenrheidiol i ddefnyddwyr allu manteisio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol ar sail eu hanghenion neu eu dewisiadau penodol.

Cydweithredu a ffyrdd newydd o weithio

Dyma strategaeth ddigidol a data yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer holl bobl Cymru. Mae hi’n hanfodol inni barhau i adeiladu ar y dull cydweithredol a’n helpodd i ymateb mor effeithiol i’r pandemig. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i wahanol gyrff weithio ar y cyd, yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bolisi iechyd a gosod blaenoriaethau ar lefel genedlaethol, a bydd y Prif Swyddog Digidol (Iechyd a Gofal) yn diffinio safonau cenedlaethol ac yn ysgogi trawsnewid trwy’r holl system.
  • GIG Cymru, awdurdodau lleol, clystyrau gofal sylfaenol a phartneriaid cyflawni eraill fel TEC Cymru, yn cynnwys y trydydd sector. Dyma’r sefydliadau sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau digidol i bobl yng Nghymru fel rhan o’n system gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw’r sefydliad arweiniol o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal digidol, a bydd yn allweddol wrth hyrwyddo a gweithredu’r strategaeth hon.
  • Bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a Phrif Swyddogion Digidol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol yn gweithio ochr yn ochr â Chyrff y GIG a sefydliadau gofal y trydydd sector er mwyn helpu i greu gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu seilio ar anghenion y bobl sy’n eu defnyddio.
  • Prifysgolion, yr Hwb Gwyddorau Bywyd a phartneriaid masnachol sy’n ymhél ag ymchwil, arloesi, datblygu gweithwyr a darparu cynhyrchion a gwasanaethau digidol.

Yn ychwanegol at weithio ar y cyd, dylid adolygu’r dull cyfredol o ganolbwyntio ar elfennau cyfalaf gan ystyried canllawiau Trysorlys Ei Fawrhydi ar achosion busnes ystwyth [troednodyn 3]a gweithredu safonau newydd yn ymwneud ag adrodd ariannol [troednodyn 4]. Mae angen i’r model ariannol amlflwyddyn presennol sy’n seiliedig ar elfennau cyfalaf, a gynlluniwyd ar gyfer buddsoddiadau seilwaith asedau sefydlog gweddol fawr, addasu er mwyn esgor ar arlwy cwmwl dynamig sy’n seiliedig i raddau mwy ar refeniw. Bydd yr angen i weithredu a datblygu cynhyrchion yn gyflym gydag adnoddau rheolaidd yn peri y bydd angen methodolegau cyllido newydd sy’n gysylltiedig â threfniadau llywodraethu ariannol a masnachol da a chynhyrchu manteision sy’n seiliedig ar ganlyniadau defnyddwyr.

Yn achos sefydliadau sy’n ceisio cyflawni’n ddigidol trwy ddefnyddio egwyddorion strategaeth ddigidol a data, byddant angen amser i gyflwyno’r newidiadau. Mae’r strategaeth hon yn nodi’r uchelgais hyd at 2023, ond dylid cynllunio a chyflawni’r camau gweithredu mewn cylchoedd tair blynedd. Dyma’r dull a fabwysiadwyd ar gyfer Cymru Iachach a’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig tair blynedd trwy GIG Cymru.

Mae’r weledigaeth, y nodau a’r cenadaethau a bennir ar y tudalennau nesaf yn fath o fframwaith y dylai GIG Cymru a sefydliadau Awdurdodau Lleol ei ddefnyddio i gynllunio’u camau gweithredu, a bydd yn cael ei hyrwyddo ymhlith partneriaid fel rhan o ddull ‘system gyfan’ cydgysylltiedig. Disgwylir y bydd y strategaeth hon yn cael ei hadlewyrchu mewn Cynlluniau Tymor Canolig Integredig o 2023 ac y bydd yn cael ei hymwreiddio’n llwyr yng nghynlluniau a pherfformiad y GIG erbyn 2024.

Ymhellach, rhagwelir y cynhelir adolygiad o’r cynnydd yn erbyn y strategaeth hon yn 2025 ac y bydd y blaenoriaethau a’r camau gweithredu diweddaraf ar gyfer y cylch tair blynedd nesaf yn cael eu rhoi mewn grym o 2026.

Yn y rhan hon o’r strategaeth, nodir yn fanylach y cenadaethau sy’n sail i’n nodau a disgrifir y dull a’r gweithgareddau y bwriedir mynd i’r afael â nhw.

Nod 1 – Trawsnewid sgiliau a phartneriaethau digidol

Cenhadaeth 1 – sgiliau digidol

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Darparu hyfforddiant a chymorth er mwyn creu ‘gweithlu sy’n barod ar gyfer y byd digidol’ trwy’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, sef gweithlu a fydd yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i ddefnyddio gwasanaethau digidol a data i’w llawn botensial ar bob lefel, o weithlu’r dyfodol hyd at uwch-arweinwyr.
  • Cynorthwyo’r cyhoedd a’r cleifion trwy hyrwyddo llythrennedd digidol a sicrhau bod gwasanaethau digidol yn rhwyddach i’w defnyddio, gan ddefnyddio dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i lywio hyn.
  • Cryfhau’r proffesiwn iechyd a gofal cymdeithasol digidol yng Nghymru trwy gyfrwng hyfforddiant a recriwtio a dargedir at anghenion y dyfodol.
  • Defnyddio dull ‘Canolfan Ragoriaeth’ i ddatblygu arbenigedd proffesiynol dwfn mewn meysydd allweddol: Dylunio Ystwyth sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, Microsoft 365, Systemau Cwmwl, Dealltwriaeth Data a Llywodraethu Gwybodaeth.
  • Ymrwymo i feithrin sgiliau ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sector cyhoeddus yn fwy cyffredinol trwy ddefnyddio meistr-fynegai o staff i olrhain ac archwilio sgiliau, galluogrwydd ac arbenigedd.

Rydym wedi ymrwymo i helpu a grymuso ein gweithlu i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol yn effeithiol. Os ydym am sicrhau y bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol yn gweithio, mae hyfforddi, ailsgilio a phartneriaethau yn hanfodol.

Trwy lwyddo yn hyn o beth, bydd modd i bobl fwynhau gofal mwy ymatebol a phersonol – gofal y gallant deimlo’n gyfforddus ag ef a gofal y gallant ryngweithio gydag ef.

Fel y nodir yn ‘Strategaeth y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (2020), mae profiad gwell ymhlith y staff yn cyfrannu at ddiwylliant lle darperir gofal tosturiol, gan arwain at ofal gwell i’r bobl a wasanaethwn. Mae angen inni sicrhau bod pobl yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny i’w llawn botensial.

Hefyd, mae angen inni lunio ein rhyngwynebau defnyddwyr mewn modd a fydd yn hwyluso pobl i elwa i’r eithaf ar wasanaethau digidol. Wrth inni ddarparu ychwaneg o wasanaethau’n ddigidol, a hynny ar amrywiaeth eang o ddyfeisiau, ni fydd modd ehangu’n ddigonol ddull traddodiadol y ddesg wasanaeth na’r hyfforddiant traddodiadol a roddir i ddefnyddwyr. Bydd angen i’r ecosystem ddigidol ddarparu rhyngwynebau mwy personol i ddefnyddwyr. Felly, rhaid i’n dull gynorthwyo i dywys ein gweithlu trwy lythrennedd digidol a sicrhau bod gwasanaethau digidol yn haws eu defnyddio, gan ddefnyddio dulliau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Er budd pobl Cymru, rhaid inni ddefnyddio’r cyfuniad hwn, ond rhaid inni roi mwy fyth o bwyslais ar ddulliau dylunio da sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, yn ogystal â thargedu cymorth yn ofalus tuag at y bobl hynny a fydd yn elwa fwyaf ar sgiliau digidol gwell. Er enghraifft, pobl sy’n rheoli cyflyrau hirdymor, pobl sy’n gofalu am gyfeillion a theulu, pobl y mae eu cyfeillion a’u teulu yn gofalu amdanynt, neu bobl sydd eisiau neu sy’n benderfynol o newid eu ffordd o fyw yn sylweddol er mwyn gwella’u llesiant.

Ein bwriad yw datblygu’r gallu a’r sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer y pum mlynedd nesaf a mwy trwy fynd ati i ailbroffilio ein proffesiwn digidol trwy gyfrwng dulliau recriwtio a hyfforddi penodol ledled y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dim ond ar ôl mabwysiadu ffordd safonol o ddarparu gwasanaethau digidol y gellir gweithredu gwasanaethau digidol yn effeithiol. Bydd modd i bartneriaethau rhwng Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yr Academi Dysgu Dwys (ILA), Gofal Cymdeithasol Cymru a Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) helpu i ddatblygu sgiliau ledled y wlad trwy ganfod a llenwi bylchau mewn sgiliau digidol, sgiliau dadansoddeg a sgiliau technoleg ar draws sefydliadau. Trwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn llunio ac yn gweithredu rhaglenni sy’n anelu at ddatblygu sgiliau digidol gweithlu’r dyfodol. Yna, bydd modd i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac awdurdodau lleol hyrwyddo’r arfer o fabwysiadu system gyfan ar gyfer darparu hyfforddiant mewn sgiliau digidol. Bydd modd teilwra’r rhaglenni hyn yn ôl anghenion y gweithwyr a bydd modd i’r sefydliadau penodol eu darparu.

Byddwn hefyd yn cefnogi cynlluniau prentisiaeth yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol digidol a byddwn yn gweithio gyda’n sefydliadau addysg uwch er mwyn datblygu ein galluoedd digidol, ein galluoedd seiber a’n galluogrwydd data. Bydd hyn yn helpu i ddenu doniau a sgiliau newydd i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn ychwanegol at yr hyfforddiant gorfodol a gyflwynir ar hyn o bryd mewn perthynas â llywodraethu gwybodaeth, bydd sgiliau ‘ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch’ yn rhan o hyfforddiant gorfodol ar gyfer newydd-ddyfodiaid i’r gweithlu. Ymhellach, bydd sesiynau diweddaru a sesiynau addysg yn cael eu cyflwyno i’n gweithlu presennol.

Byddwn yn defnyddio Canolfannau Rhagoriaeth i ddatblygu ein galluogrwydd, ein sylfaen sgiliau a’n harbenigedd. Bydd y Canolfannau Rhagoriaeth hyn yn cynnwys nifer o bartneriaid cyhoeddus a masnachol, megis Iechyd a Gofal Digidol Cymru, awdurdodau lleol, y trydydd sector a chyflenwyr masnachol. Gyda’i gilydd, byddant yn defnyddio dull dysgu cyfunol a fydd yn gwella’n barhaus a byddant yn gweithredu fel llyfrgelloedd hirdymor ar gyfer galluogrwydd a gwybodaeth ddigidol. Bydd y rhain yn cael eu rhannu a’u defnyddio ledled Cymru er mwyn adeiladu gwasanaethau digidol newydd a hyfforddi gweithlu digidol y genhedlaeth nesaf.

Bydd ein Cenhadaeth Sgiliau Digidol yn esgor ar fanteision, yn cynnwys:

  • Gwell canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol trwy gyfrwng gwasanaethau digidol cyflymach a mwy effeithiol a ategir gan staff hyfforddedig.
  • Cyflwynir hyfforddiant yn fwy cyson ar sail y ‘system gyfan’; gwell dealltwriaeth o blatfformau a gwasanaethau digidol trwy’r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Bydd gwell dealltwriaeth o dechnoleg ddigidol a’r hyn y gall ei gyflawni yn arwain at well adborth gan ddefnyddwyr a gwasanaethau digidol gwell, fel y gellir datblygu’n system sy’n hunanddysgu.
  • Proffesiwn digidol cryfach a chanddo well gallu a galluogrwydd i ddatblygu gwasanaethau mewnol mewn modd ystwyth a chyflym.
  • Arbenigedd dwfn mewn meysydd allweddol, gan gryfhau ein dealltwriaeth dechnegol a’n sefyllfa drafod fasnachol, a chan sbarduno cyfleoedd ac arloesi newydd.
  • Gweithlu sy’n ymwybodol o faterion seiber – gweithlu a fydd yn sicrhau bod gwasanaethau a data yn fwy diogel ac a fydd yn diogelu preifatrwydd ac enw da, gan gryfhau ymddiriedaeth pobl Cymru.

Cenhadaeth 2 – Economi ddigidol

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Parhau i weithio gyda phartneriaid cyflawni er mwyn cryfhau’r economi ddigidol ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar ddulliau’r economi sylfaenol.
  • Parhau i ddefnyddio cydberthnasau strategol a phlatfformau partneriaid i adeiladu gallu a galluogrwydd yn ein cadwyn gyflenwi.
  • Parhau i weithio gyda phartneriaid iechyd digidol trwy’r DU a’r byd er mwyn ysgogi’r arfer o fabwysiadu safonau a gwella gwasanaethau.
  • Sicrhau bod arferion caffael yn cael eu harwain ar sail dull Cymru gyfan gan y corff priodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cynyddu’r gwerth cymdeithasol ac economaidd yn yr hirdymor.

Mae agenda’r Economi Sylfaenol yn ysgogi ffyniant a manteision eraill. Trwy brynu nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr lleol, gallwn gryfhau economi Cymru, lleihau allyriadau carbon, creu swyddi a llwybrau gyrfa, ac adfywio canol trefi a chymunedau. Ymhellach, gall cadwyni cyflenwi lleol fod yn fwy cadarn a chynaliadwy ac arwain at effeithiau clystyru a rhwydweithio. Rydym angen rhagor o ddoniau a sgiliau digidol i gyflawni ein huchelgeisiau o ran trawsnewid digidol. Byddwn yn ategu ein gweithlu gyda phartneriaid cyflawni allanol; dyma gyfle i gyfoethogi economi ddigidol Cymru, gan ychwanegu technoleg iechyd a gofal cymdeithasol at ein clystyrau yn y sector Technoleg Ariannol a’r sector creadigol.

Er mwyn inni allu cyflawni hyn, byddwn yn rhoi dull deublyg ar waith. Yn gyntaf, byddwn yn datblygu cydberthnasau strategol hirdymor gyda phartneriaid cyflenwi pwysig, megis darparwyr cwmwl byd-eang a chwmnïau meddalwedd rhyngwladol. Byddwn yn defnyddio dyfnder eu harbenigedd a’u rhwydweithiau byd-eang i adeiladu ein galluoedd. Yn ail, byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr lleol llai mewn modd a fydd yn eu hannog i dyfu gyda ni yng Nghymru. Bydd hyn yn ein galluogi i ddod i gysylltiad ag arloesi a thechnolegau datblygol yn gynnar yn y broses.
Byddwn yn canolbwyntio bob amser ar ddiogelu’r gwerth cyhoeddus ac ysgogi canlyniadau gwell i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau; ond pan fo modd, byddwn hefyd yn cefnogi cyfleoedd i fusnesau Cymru dyfu, fel rhan o ddull polisi integredig ar draws y llywodraeth.

Mae addysg uwch a phrifysgolion o’r radd flaenaf yn cynnig doniau a chyfleoedd toreithiog ac arloesol a all helpu i symud iechyd a gofal cymdeithasol digidol yng Nghymru i’r lefel nesaf. Trwy weithio gyda sefydliadau academaidd, gallwn gyfuno data ac arbenigedd ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol gydag ymchwil, cyfleusterau a galluogrwydd ein prifysgolion er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o gyflawni canlyniadau gofal iechyd gwell i bobl Cymru.

Yn ystod y pandemig buom yn gweithio’n agos gyda phartneriaid cyflawni trwy’r DU, gan gyfuno gwasanaethau profi COVID-19 yng Nghymru ac ar draws rhwydwaith y DU o labordai goleudy, a chan fynd ati ar y cyd i gyflwyno Ap COVID-19 y GIG ar gyfer Cymru a Lloegr. Dengys hyn y gellir defnyddio technoleg ddigidol a data i ddarparu gwasanaethau iechyd ar draws ffiniau. Dengys hefyd sut gellir teilwra cynhyrchion digidol cyffredin ar sail eu lleoliad a’u dewis iaith.

Trwy fabwysiadu safonau cyffredin ledled y DU a’r byd, gall cleifion fynd â’u cofnodion iechyd gyda nhw wrth iddynt symud o un system i system arall – rhywbeth a fydd yn ategu gofal gwell. I gefnogi’r gwaith hwn, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid ar safonau ac elfennau rhyngweithredol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ategu gofal trawsffiniol gyda GIG Lloegr.

Byddwn yn parhau i weithio’n rhagweithiol gyda’r DU a chyrff safonau rhyngwladol a byddwn yn adolygu ein dulliau llywodraethu a’n trefniadau seilwaith ar gyfer mabwysiadu safonau cenedlaethol yng Nghymru. Hefyd, wrth ddarparu gwasanaethau digidol byddwn yn sicrhau bod arferion caffael yn cael eu harwain ar sail Cymru gyfan, yn hytrach na’u bod yn cael eu harwain gan un sefydliad. Bydd hyn yn cael ei arwain gan y corff priodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a bydd yn cyd-fynd â Datganiad Polisi Caffael Cymru. Yn arbennig, byddwn yn gwella nodweddion integreiddio ein cymwysiadau a’n hatebion digidol, yn ogystal â gwella profiad y bobl a fydd yn defnyddio’r atebion a’r cymwysiadau hynny, a byddwn yn gwneud y gorau o’r modd y defnyddir ein data caffael i ategu penderfyniadau.

Bydd ein Cenhadaeth Economi Ddigidol yn esgor ar fanteision, yn cynnwys:

  • Gwella gallu a galluogrwydd digidol trwy gyfrwng cadwyn gyflenwi gryfach a mwy amrywiol a chanddi gydberthnasau strategol da.
  • Gwell gwerth cymdeithasol ac economaidd yn yr hirdymor trwy gyfrwng arferion caffael cydgysylltiedig.
  • Bydd rhagor o bethau arloesol yn ymwneud ag iechyd digidol yn cael eu datblygu ar blatfformau, gan roi mynediad cynnar i weithwyr proffesiynol a chleifion at gynhyrchion a gwasanaethau digidol gwell.
  • Economi sylfaenol gryfach a fydd yn cynorthwyo busnesau i dyfu ac yn creu cyfleoedd gwaith yng Nghymru.
  • Caiff gwell gwasanaethau gofal ar draws ffiniau eu hymwreiddio trwy gyfrwng y gallu i ryngweithredu’n ddigidol a thrwy rannu data ar sail safonau dibynadwy.
  • Bydd gwaith ymchwil yn esgor ar ddealltwriaeth newydd, gan arwain at feddyginiaethau ac ymyriadau gwell.
  • Amrywiaeth o gyfleoedd gwaith digidol i bobl a myfyrwyr yng Nghymru.

Nod 2 – Adeiladu platfformau digidol sy’n addas i Gymru

Cenhadaeth 3 – Defnyddio data a chydweithredu

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Parhau i ddatblygu un cofnod iechyd a gofal cymdeithasol digidol i Gymru.
  • Parhau i gyhoeddi a gweithredu rheolau sy’n seiliedig ar safonau, sef rheolau’n ymwneud â llywodraethu mynediad at gofnod iechyd a gofal cymdeithasol cyffredin at wahanol ddibenion, yn cynnwys gofal clinigol, cynllunio, a rheoli gwasanaethau, ymchwil ac arloesi yn y maes iechyd.
  • Ystyried cyflawni Addewid Data a fydd yn ategu data iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn egluro sut caiff data o’r fath ei ddefnyddio.
  • Ystyried sefydlu Uned Addewid Data oddi mewn i GIG Cymru er mwyn rhoi sicrwydd i bobl Cymru fod eu data’n cael ei reoli mewn modd diogel a phriodol.
  • Ystyried sefydlu Canolfan Ragoriaeth Deall Data fel y gellir datblygu’r sgiliau proffesiynol sy’n angenrheidiol i wneud y gorau o ddata iechyd a gofal cymdeithasol.

Data yw man cychwyn pob dim. Mae data pobl yn sylfaen hanfodol i iechyd a gofal cymdeithasol o’r radd flaenaf. Heb ddata cynhwysfawr a phenodol, ni ellir cael gafael ar wybodaeth ddibynadwy. Mae gwybodaeth dda yn ysgogi penderfyniadau clinigol gwell, cynlluniau gwell ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a rheolaeth weithredol well. O ran y cyhoedd, y cleifion a defnyddwyr gofal cymdeithasol, mae gwybodaeth dda yn helpu i atal salwch, yn cynorthwyo i reoli cyflyrau hirdymor ac yn helpu i gyflymu adferiad.

Mae ein gwasanaethau’n cynhyrchu llawer o ddata, ond ni chedwir pob elfen o’r data hwn yn ddigidol ac ni chaiff digon ohono ei rannu ar draws system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Mae cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, clinigwyr a darparwyr gofal angen yr holl wybodaeth berthnasol ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn, a dylai’r wybodaeth honno gael ei chyflwyno mewn ffyrdd hawdd eu deall. Gall gwasanaethau digidol sy’n defnyddio data hyrwyddo’r wybodaeth fwyaf perthnasol, yn ogystal â helpu pobl i ddeall setiau data mawr a gwarchod rhag gwallau a phenderfyniadau gwael. Mae hyn oll yn lleihau niwed, yn gwella ansawdd ac yn ysgogi canlyniadau gwell i unigolion.

Mae pobl yn cynhyrchu mwy o ddata gwerthfawr gyda’u dyfeisiau personol. Mae’r defnydd a wneir o ddyfeisiau clyfar trwy GIG Cymru yn cynyddu wrth ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol. Golyga hyn fod yn rhaid mynd ati i reoli mwy a mwy o ddata. Wrth i’r defnydd cydgysylltiedig o wneir o ddata defnyddwyr dyfu ac wrth i’r arfer o ddefnyddio dyfeisiau clyfar gynyddu, bydd angen i berchnogion gwasanaethau digidol wneud penderfyniadau clir ynglŷn â rheoli data, dulliau moesegol o ddefnyddio data, a’r gallu i ryngweithredu. Bydd hyn yn sicrhau cydbwysedd o ran defnyddio’r data iawn sy’n deillio o’r ffynhonnell iawn, heb lethu’r system na’r rhai sy’n darparu gofal.

Ers 2016, mae gan Gymru gofnod iechyd a rennir. Hefyd, mae gennym un meistr-fynegai o gleifion ac rydym wedi bod yn defnyddio hwn trwy Gymru ers blynyddoedd lawer. Wrth ymateb i COVID-19, crëwyd Cofnod Pandemig Cymru; roedd hwn yn cynnwys data cynhwysfawr yn ymwneud â’r pandemig ac fe’i lluniwyd ar sail amryfal ffynonellau data, yn cynnwys ffynonellau data a oedd yn deillio o’r tu hwnt i Gymru. Defnyddiwyd y data amser real hwn mewn cyd-destun clinigol, a hefyd fe’i defnyddiwyd i lywio penderfyniadau polisi. Trwy rannu data’n genedlaethol, bu modd modelu a rhagfynegi lledaeniad y feirws a bu modd cynllunio gwasanaethau o ddiwrnod i ddiwrnod ac o wythnos i wythnos. Helpodd y gwasanaeth olrhain cysylltiadau i esgor ar gyfraddau dilynol uchel iawn, a galluogodd Gymru i gyflwyno un o’r rhaglenni brechu cyflymaf a mwyaf effeithiol drwy’r byd. Arweiniodd at arbed arian ac, yn bwysicach fyth, arweiniodd at achub bywydau. Yn awr, rhaid inni ailadrodd hyn ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Fodd bynnag, yr unig ddata gwerthfawr yw data o ansawdd da a rennir gyda’r gweithwyr gofal iawn ar yr adeg iawn. Mae’r Adnodd Data Cenedlaethol eisoes ar waith. Dyma blatfform data a dadansoddeg modern ar gyfer Cymru y gellir ei ehangu’n gyflym, a bydd yn ei gwneud yn bosibl i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol reoli data ar draws pob system, mewn amser real neu bron yn real. Bydd yr Adnodd Data Cenedlaethol yn arwain at alluogrwydd adrodd newydd yn ogystal â ffyrdd o ddadansoddi digwyddiadau mewn amser real, modelau data/penderfyniadau, ac algorithmau a all hwyluso awtomatiaeth a phenderfyniadau, fel y gellir esgor ar ganlyniadau gofal gwell.

Fel rhan o’n dull system gyfan o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol, rhaid cael rheolau lle eglurir y gofynion a’r mesurau diogelu sy’n angenrheidiol i rannu a defnyddio data hynod sensitif yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol. Er mwyn gwneud hyn, bydd rheolau sy’n seiliedig ar safonau – sef rheolau sy’n cyd-fynd â barn dinasyddion ynglŷn â safonau a dulliau moesegol o ddefnyddio data – yn cael eu cyhoeddi gyda rhaglen yr Adnodd Data Cenedlaethol ar gyfer data o bob math, wedi’u teilwra’n ôl dibenion gwahanol. Er enghraifft, mae gofal clinigol angen data sy’n nodi pwy yw’r unigolion y rhoddir gofal iddynt, ond nid yw gwaith cynllunio na gwaith modelu angen data o’r fath. Rhoddir ystyriaeth ar hyn o bryd i Addewid Data a fydd yn ategu data iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn egluro sut a pham y defnyddir data i esgor ar fanteision. Ymhellach, rhoddir ystyriaeth i sefydlu Uned Addewid Data newydd oddi mewn i GIG Cymru er mwyn helpu i roi sicrwydd i bobl Cymru a rhoi gwybod iddynt am y modd y defnyddir eu data, a sut y caiff ei reoli.

Y prif ganolbwynt yn hyn o beth fydd data iechyd a gofal cymdeithasol a gedwir gan GIG Cymru. Bydd egwyddorion, rheolau, safonau a phrosesau’n cael eu llunio mewn ffyrdd y gellir eu hymestyn i bartneriaid cyflawni eraill, yn enwedig i bartneriaid yn y sector gofal cymdeithasol. Dyma dasg anodd, oherwydd caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol eu darparu gan economi gymysg sy’n cynnwys sefydliadau o bob maint o blith y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol. Er mwyn inni allu darparu un cofnod iechyd a gofal cymdeithasol a rhoi dull system gyfan ar waith, bydd angen dod o hyd i ffyrdd o dderbyn a rhannu data’n ddiogel gyda’r holl ddarparwyr.

Mae hyrwyddo pwysigrwydd data yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau ‘gweithlu sy’n barod ar gyfer y byd digidol’, fel y nodir yn ‘Strategaeth y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, bydd Canolfan Ragoriaeth Deall Data yn cael ei chreu. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu arbenigedd dwfn mewn nifer fechan o feysydd â blaenoriaeth, a bydd yn ategu’r Cyflymydd Cenedl Ddata o dan arweiniad consortiwm o brifysgolion o Gymru. Hefyd, mae angen inni gynorthwyo’r cyhoedd, y cleifion a defnyddwyr y gwasanaethau i ddeall y data, cyfrannu ato a’i ddefnyddio. Gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio pethau fel yr Addewid Data posibl ac Ap GIG Cymru.

Bydd ein cenhadaeth ynglŷn â data a chydweithredu yn esgor ar fanteision, yn cynnwys:

  • Gwell gwybodaeth at ddibenion clinigol, gan alluogi gweithwyr proffesiynol, defnyddwyr gwasanaethau a chleifion i wneud penderfyniadau gwell gyda’i gilydd.
  • Bydd gan bobl Cymru well mynediad at eu cofnodion iechyd a gofal a bydd modd iddynt eu rhannu gydag eraill.
  • Bydd safonau a rheolau cytunedig yn nodi’n glir pa ddata y gellir ei rannu, gyda phwy, ac at ba ddibenion, gan ei gwneud yn bosibl inni rannu data gyda phartneriaid cyflawni iechyd a gofal cymdeithasol ac ategu arloesi; byddant yn cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â barn y cyhoedd ynglŷn â moeseg a safonau.
  • Data o’r radd flaenaf ar gyfer llywio gwaith cynllunio trwy fodelu a rhagfynegi; gwybodaeth amser real a all ategu rheolaeth weithredol. Trwy hyn, bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy effeithlon a chynaliadwy.
  • Dealltwriaeth gliriach a chyson o fframweithiau rhannu data, preifatrwydd data a llywodraethu gwybodaeth a gaiff eu sicrhau trwy gyfrwng cyfundrefn megis Uned Addewid Data GIG Cymru. Bydd hyn yn arwain at ddull mwy diogel, priodol a hyderus o ddefnyddio gwybodaeth trwy’r sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Cenhadaeth 4 – Seilwaith a chysylltedd digidol

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Sicrhau bod seilwaith digidol holl sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru â gallu digonol i ategu gwasanaethau digidol, a sicrhau bod y seilwaith hwnnw’n ddiogel, yn gadarn ac yn amgylcheddol gynaliadwy.
  • Ystyried gwella perfformiad a chadernid trwy gyfrwng Canolfan Gweithrediadau TG GIG Cymru, a fydd yn monitro ac yn diogelu pob platfform a gwasanaeth digidol.
  • Pan fo’n briodol, trosglwyddo data, seilwaith a gwasanaethau i’r cwmwl, gan uwchraddio cynhyrchion etifeddol i saernïaeth fodiwlar ar y cwmwl pan fo modd.
  • Sefydlu Canolfan Ragoriaeth y Cwmwl er mwyn datblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i reoli gwasanaethau cwmwl a chydberthnasau masnachol.
  • Cryfhau seiberddiogelwch a seibergadernid ar draws ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol a’n cadwyn gyflenwi trwy roi strwythurau a pholisïau llywodraethu effeithiol ar waith, gan fabwysiadu a gosod safonau, a hyfforddi ein gweithlu.
  • Llunio cofrestr lawnach o seilwaith digidol, o ganolfannau data i ddyfeisiau, o’r cenedlaethol i’r lleol, fel y gellir cynllunio ar gyfer yr angen i fuddsoddi mewn seilwaith digidol ac ariannu anghenion o’r fath.
  • Ymchwilio i’r asesiad o aeddfedrwydd digidol sefydliadol er mwyn ategu’r angen i fuddsoddi mewn technoleg ddigidol yn y dyfodol.

Mae pob gwasanaeth digidol angen seilwaith cadarn a sefydlog: canolfannau data, gweinyddion, rhwydweithiau, band eang, byrddau gwaith a dyfeisiau. Rhaid inni sicrhau seiberddiogelwch a seibergadernid pob agwedd ar ein platfformau digidol, boed y platfformau hynny’n cael eu rheoli’n lleol neu’n genedlaethol neu’n gweithredu fel un system integredig. Ar hyn o bryd, os bydd rhan allweddol o’r seilwaith hwn yn rhoi’r gorau i weithio neu’n wynebu rhyw fygythiad, efallai na fydd modd parhau i ddarparu rhai gwasanaethau digidol, ac ni allwn ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol o’r radd flaenaf.

Byddwn yn parhau i roi saernïaeth data agored ar waith ar gyfer GIG Cymru a hefyd byddwn yn diffinio dulliau cyson o ymdrin â seilwaith etifeddol, dulliau o fabwysiadu system gwmwl a rhwydweithiau ardal eang a lleol. Byddwn yn disgrifio elfennau allweddol ein seilwaith digidol fel ‘blociau adeiladu saernïol’ a byddwn yn pennu rheolau a fydd yn ysgogi’r gallu i ryngweithredu rhwng platfformau a gwasanaethau, trwy gyfrwng Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau (API). Ymhellach, byddwn yn mapio ac yn catalogio ein tirlun digidol er mwyn helpu i gynllunio a datblygu gwasanaethau digidol newydd yn y dyfodol.

Mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn rhan o’r oes ddigidol a ddatblygodd yn sgil twf adnoddau systemau cwmwl. Mae digideiddio’r modd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddibynnol ar gael system iechyd amser real, lle defnyddir technoleg systemau cwmwl a thechnoleg integreiddio yn helaeth. Pan fo’n briodol, byddwn yn defnyddio gwasanaethau’r cwmwl a gwasanaethau integreiddio mewn modd strategol gyda’n gwasanaethau presennol. Ein bwriad yw helpu sefydliadau i oresgyn rhwystrau o ran mabwysiadu’r system gwmwl trwy ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risgiau. Bydd Canolfan Ragoriaeth y Cwmwl yn cael ei ffurfio fel y gellir dysgu gwersi, datblygu arferion da a lleihau risgiau i sefydliadau sy’n symud at wasanaethau digidol ar y cwmwl. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth hon yn helpu i ddatblygu galluogrwydd ein gweithlu a gwella ein sylfaen sgiliau a’n harbenigedd gogyfer mabwysiadu technoleg systemau cwmwl, yn ogystal â chynorthwyo i bennu’r galluogrwydd, y rolau a’r sgiliau y mae eu hangen oddi mewn i sefydliadau er mwyn llwyddo yn hyn o beth.

Anelwn at ddarparu gofal diogel o’r radd flaenaf i gleifion yn y ffyrdd mwyaf effeithiol. Bydd technoleg ddigidol a thelefeddygaeth yn cael eu defnyddio i ategu ymrwymiadau i liniaru newid hinsawdd, gwella effeithlonrwydd a lleihau teithio. Rhaid inni sicrhau y bydd gweithwyr Cymru yn cael eu cefnogi gyda seilwaith digidol fel y gellir hwyluso ffyrdd gwahanol o weithio – gall hyn helpu i gyflawni un o dargedau Llywodraeth Cymru, sef gweld 30% o weithlu Cymru yn gweithio o bell. Wrth roi’r dull hwn ar waith, fe fydd hi’n bwysicach fyth inni ddiogelu ein seilwaith. Mae gwasanaethau digidol gwell a mwy niferus yn golygu y byddwn yn dibynnu mwy fyth ar eu hargaeledd di-baid ar draws yr holl system. Mae systemau mwy integredig, ynghyd â’r ffaith y bydd mwy o bobl yn defnyddio’r systemau hynny, yn eu gwneud yn fwy bregus, a gwyddom fod seiberfygythiadau’n cynyddu o ran eu niferoedd a’u soffistigeiddrwydd. Mae hi’n hollbwysig inni gael seilwaith modern a chymryd camau i gryfhau seibergadernid.

Er mwyn inni allu monitro seiberfygythiadau a pherfformiad ein systemau mewn amser real, byddwn yn sefydlu Canolfan Gweithrediadau TG oddi mewn i GIG Cymru, a fydd ar waith 24/7. Bydd y ganolfan hon yn gweithredu ar lefel genedlaethol a lleol a bydd yn cadw golwg barhaus ar ein platfformau a’n gwasanaethau digidol i gyd ac yn cyhoeddi rhybuddion pe bai angen. Bydd modd canfod problemau cyn gynted â phosibl a bydd modd cymryd camau’n ddi-oed i ddiogelu systemau bregus neu drwsio elfennau nad ydynt yn perfformio’n ôl y disgwyl. 

Bydd hyfforddiant gorfodol yn cael ei gyflwyno i’r staff er mwyn sicrhau y bydd yr holl weithlu’n deall seiberddiogelwch yn well. Mae gwasanaethau digidol newydd angen mesurau diogelu yn ogystal â gweithlu sy’n deall y bygythiadau cyfnewidiol. Bydd hyfforddiant effeithiol yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o ddiogelwch yn helpu’r gweithlu i ddeall seiberhylendid, y risgiau diogelwch sy’n gysylltiedig â’r pethau a wnânt, a’r seiberfygythiadau y gellir dod ar eu traws trwy gyfrwng gwasanaethau digidol, systemau e-bost ac ar y we.

Er mwyn sicrhau cyfanrwydd a diogelwch ein system iechyd a gofal cymdeithasol, bydd angen inni ystyried risgiau seiber ar y lefel briodol. Hefyd, bydd angen inni ddatblygu ein gallu i fwrw ymlaen â newid yn effeithiol a di-oed. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn gwella strwythurau llywodraethu, atebolrwydd, a phrosesau rheoli risgiau. Bydd sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystyried bod materion seiber yn elfen hanfodol o’u risgiau busnes a’u dulliau rheoli cadernid, wedi’u sicrhau, pan fo’n briodol, gan Uned Seibergadernid GIG Cymru yn achos iechyd, ac wedi’u hategu gan dimau Llywodraeth Cymru yn achos gofal cymdeithasol. Hefyd, byddwn yn parhau i fabwysiadu a sefydlu safonau seiberddiogelwch a seibergadernid a byddwn yn gwella’r arfer o rannu gwybodaeth ar draws y system.

Bydd ein Cenhadaeth Seilwaith a Chysylltedd Digidol yn esgor ar fanteision, yn cynnwys:

  • Platfformau seilwaith cryf, diogel a chadarn sy’n ein galluogi i ddarparu’r holl wasanaethau digidol yn ogystal â rhannu gwybodaeth ar draws gwasanaethau a sectorau.
  • Y gallu i fabwysiadu technolegau y gellir eu hehangu’n gyflym – hynny yw, technoleg y system gwmwl a thechnoleg integreiddio. Bydd hyn yn ein galluogi i ymateb i ofynion mewn modd dynamig a chynyddu gwerth am arian.
  • Platfformau a saernïaeth agored sy’n cyflymu’r dasg o ddatblygu meddalwedd ac sy’n ategu arloesi ac ymchwil.
  • Mwy o hyder yn niogelwch a chadernid y seilwaith, trwy ddatblygu arbenigedd a chryfhau trefniadau monitro a rheoli.
  • Gwell dealltwriaeth o’n cylch diweddaru seilwaith a thechnoleg, fel y bydd modd cydamseru a chynnal platfformau digidol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • Lleihau ein hôl troed carbon trwy gyfrwng gweithio digidol a gweithio o bell.

Nod 3 – Sicrhau bod gwasanaethau yn ddigidol yn gyntaf

Cenhadaeth 5 – Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Parhau i ddarparu gwasanaethau a gaiff eu llywio gan ymchwil defnyddwyr, dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac adborth gan ddefnyddwyr.
  • Gweithredu Canolfan Ragoriaeth ystwyth lle canolbwyntir ar y defnyddiwr fel y gellir cyfleu’r pethau a ddysgwyd gennym, cynorthwyo sefydliadau i fabwysiadu’r dull hwn ac adeiladu arbenigedd ledled y wlad.
  • Gweithio’n agos gyda defnyddwyr clinigol a rhwydweithiau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau clinigol yn ategu adferiad ac yn sbarduno trawsnewid yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Llunio cofrestr lawn o wasanaethau digidol, fel y gallwn gynllunio ein dull strategol a datblygu map trywydd ac anghenion adnoddau ar gyfer pob gwasanaeth.
  • Sicrhau bod y gwasanaethau digidol a brynwn ar ffurf cynhyrchion masnachol yn cydymffurfio â’n safonau digidol, ein hiaith a saernïaeth ein systemau.
  • Yn achos gwasanaethau digidol, cynyddu’r defnydd a wnawn o ddulliau ystwyth a dulliau sy’n canolbwyntio ar gynhyrchion – dulliau y byddwn yn eu datblygu ac yn eu cyflwyno.
  • Gweithio gyda phartneriaid i ysgogi arloesi, yn enwedig arloesi’n ymwneud â Deallusrwydd Artiffisial a deall data.

Caiff modelau clinigol a gofal cymdeithasol y dyfodol eu seilio ar set gyffredin o safonau y gellir eu cyflymu trwy ddefnyddio gwasanaethau digidol. Bydd y strategaeth hon yn rhoi ar waith nifer o elfennau a fydd yn darparu’r safonau hynny trwy gynnwys pobl a gweithwyr gofal proffesiynol yn y dasg o wneud penderfyniadau cytbwys ar y cyd. Mae hyn yn rhan allweddol o’r ymrwymiadau a wnaed yn rhaglen y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol a’r rhaglen Gwerth mewn Iechyd.

Dylai pob sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol a’n holl bartneriaid cyflawni gyd-fynd â’n hegwyddorion, sef cyfres o fesurau y gall unrhyw un eu dilyn er mwyn gwneud yn siŵr bod anghenion y defnyddwyr wastad wrth galon a chraidd y ffordd y caiff gwasanaethau eu llunio a’u darparu. Ymhellach, bydd ein gwasanaethau digidol yn cydymffurfio â’r gyfraith ynglŷn â hygyrchedd er mwyn lleihau anghydraddoldebau o ran mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol.

I’r perwyl hwnnw, bydd ein gwasanaethau digidol yn gyson, yn hawdd eu defnyddio ac yn hygyrch i bawb, a byddant yn cynnig systemau adborth er mwyn i bobl allu rhoi gwybod inni am eu profiadau. Mae hyn yn cynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, defnyddwyr a staff. Yr elfen hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau digidol yw rhoi’r defnyddiwr wrth galon a chraidd y modd y cynllunnir y gwasanaeth trwy ddefnyddio Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Bydd ein gwasanaethau digidol yn cael eu seilio ar ddealltwriaeth benodol o’n defnyddwyr, eu hanghenion a’u hamgylchedd. Bydd ein gwasanaethau’n cael eu hysgogi a’u mireinio gan waith gwerthuso ac adborth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, a byddant yn ymdrin â phrofiad cyfan y defnyddiwr. Bydd ein proses yn cynnwys defnyddwyr drwy gydol y camau dylunio a datblygu, a bydd yn broses ailadroddol.

Bydd angen amser er mwyn rhoi’r dull hwn ar waith. Bydd angen i nifer o sefydliadau feithrin eu harbenigedd a’u sgiliau trwy ymarfer, profi ac arloesi. Byddwn yn adeiladu’r sylfaen wybodaeth mewn perthynas â gwaith dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a thechnegau cysylltiedig ar gyfer busnesau allweddol ac arweinwyr TG, a hynny trwy gyfrwng Canolfan Ragoriaeth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr.

Hefyd, byddwn yn sefydlu rhaglen datblygiad proffesiynol a fydd yn cynnwys hyfforddiant, gweithdai, mynediad at ymarferwyr profiadol ac adnoddau ategol. Wrth i’r dasg o fabwysiadu’r drefn newydd fynd rhagddi, bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei ymestyn a’i ategu gan y Ganolfan Ragoriaeth ar draws y sefydliad a rhwng partner sefydliadau.

Byddwn yn gweithio’n agosach o lawer gyda gweithwyr proffesiynol clinigol a gweithwyr proffesiynol yn y maes gofal cymdeithasol, gan ddefnyddio’u profiadau a’u gwybodaeth i esgor ar ddulliau cyflawni gwell. Fel defnyddwyr gwasanaethau digidol, bydd eu cyfraniad at lunio gwasanaethau yn hollbwysig. Bydd rhai ohonynt yn ‘berchnogion cynnyrch’. Y bobl hyn fydd y prif bwynt cyswllt ar ran y defnyddwyr gogyfer pennu anghenion y cynnyrch ar gyfer y tîm datblygu. Bydd perchnogion cynnyrch yn cynyddu gwerth gwasanaethau digidol a byddant yn cyflawni er budd defnyddwyr gan ategu adferiad ac ysgogi’r dasg o drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol.

Wrth i’n gwasanaethau digidol dyfu, byddwn yn datblygu cofrestr i ategu dull system gyfan gogyfer ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y gofrestr hon yn cynnig darlun llawn o’r tirlun iechyd a gofal cymdeithasol digidol a bydd yn cynnwys gwybodaeth am gost gwasanaethau. Bydd yn ein galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynglŷn â chyfleoedd i gyfuno gwasanaethau, gwella gwerth am arian a blaenoriaethu gwasanaethau digidol newydd.

Bydd y dasg o ddatblygu gwasanaethau digidol newydd yn cael ei blaenoriaethu a bydd y gwasanaeth, y gweithlu a chanolfannau rhagoriaeth yn gallu cyfrannu at hyn. Wrth i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol ymestyn ac wrth i ofynion a phrofiadau pobl Cymru dyfu, bydd angen inni ymgysylltu’n barhaus â phartneriaid masnachol i brynu gwasanaethau digidol na allwn eu datblygu’n fewnol. Rhaid i gynhyrchion masnachol a brynir ar gyfer ategu neu gyfoethogi gwasanaethau digidol gydymffurfio â’r ethos a’r iaith Gymraeg, a hefyd â safonau digidol, diogelwch a saernïaeth systemau.

Er mwyn inni allu symud tuag at system iechyd a gofal cymdeithasol a hwylusir drwy dechnolegau digidol, bydd angen inni weithio’n gyflymach ar y cyd a mabwysiadu dulliau ystwyth a dulliau sy’n canolbwyntio ar gynhyrchion. Dengys gwaith ymchwil a phrofiadau a gafwyd yn ystod COVID-19 y gall defnyddio ffyrdd ystwyth o weithio ar draws awdurdodau lleol, gofal iechyd a’r trydydd sector esgor ar ganlyniadau cyflym a manteision cyflymach i bobl. Dyma’r dull a ffefrir ar gyfer cyflawni gwasanaethau digidol newydd.

Ni ellir cyflawni popeth yn y ffordd hon nac ychwaith gennym ni ar ein pen ein hunain. Felly, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid masnachol mewn meysydd lle mae ganddynt arbenigedd, er enghraifft yn y maes Deallusrwydd Artiffisial neu Roboteg. Yn achos gwasanaethau nad ydynt yn cydweddu’n dda â dulliau ystwyth, yn ogystal â gwasanaethau y mae’r costau mwyaf ynghlwm wrthynt neu wasanaethau sydd â’r risgiau mwyaf, mae’n bosibl y byddwn yn parhau i ddefnyddio ffyrdd cyfredol o weithredu gwasanaethau a hwylusir drwy dechnoleg.

Bydd ein Cenhadaeth Gwasanaethau Digidol yn esgor ar fanteision, yn cynnwys:

  • Adeiladu gwasanaethau gyda phobl sy’n gwbl ganolog i’r broses gynllunio er mwyn sicrhau y bydd y gwasanaethau hynny’n hawdd eu defnyddio ac y byddant yn cynnig profiad di-dor i ddefnyddwyr ar draws pob sianel (e.e. ffonau symudol, byrddau gwaith, canolfannau galwadau).
  • Defnyddio arbenigedd gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, ac eraill, i gynllunio, ysgogi, hyrwyddo a gweithredu gwasanaethau newydd ar sail gwybodaeth a sgiliau’n ymwneud â’r maes.
  • Cydweddu’r modd y darperir gwasanaethau digidol â model y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol a’r model Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth er mwyn helpu i gyflawni Cymru Iachach.
  • Ystyried datblygu model ariannu diwygiedig sy’n ategu buddsoddi gweithredol amlflwyddyn a gwasanaethau digidol a gaiff eu gwella’n barhaus.

Cenhadaeth 6 – Cynhwysiant digidol

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Datblygu gwasanaethau digidol sy’n rhoi mwy o ddewis i bobl ynglŷn â phryd, ble a sut gallant gael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Darparu gwasanaethau digidol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau digidol trwy eu gwneud mor ddeniadol, mor ddiogel ac mor hawdd eu defnyddio â phosibl.
  • Datblygu gwasanaethau digidol sy’n gwella’r ddarpariaeth i bobl ag anghenion neu ddewisiadau penodol.
  • Darparu sianeli amgen (sianeli digidol â chymorth) i bobl na allant ddefnyddio, neu sy’n dewis peidio â defnyddio, gwasanaethau’n ddigidol.

Ein huchelgais yw rhoi cyfle, cymhelliant, sgiliau a hyder i bawb yng Nghymru i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd digidol. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid cyflawni ac ar draws y llywodraeth i ategu polisi trawsffiniol sy’n gwella cysylltedd, llythrennedd digidol a hyder. Er enghraifft, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn Cymunedau Digidol Cymru, a byddwn yn gweithio’n agos gyda phortffolio economi a phortffolio digidol Llywodraeth Cymru. Hefyd, byddwn yn parhau i annog Ofcom a Llywodraeth y DU i gyflwyno band eang gwibgyswllt ym mhob rhan o Gymru. 

Byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein gwasanaethau digidol mor ddeniadol a hawdd eu defnyddio â phosibl, yn enwedig trwy ymgysylltu’n uniongyrchol â’r defnyddwyr. Bydd angen i’r dull hwn (sef dull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr) fod yn ehangach na’r gwasanaeth digidol ei hun. Ni fydd rhai pobl yn dymuno nac yn gallu defnyddio’r gwasanaeth digidol ac ni ddylid esgeuluso’r gwasanaeth ‘analog’; rhaid iddo fod mor ddeniadol a hawdd ei ddefnyddio â phosibl, hyd yn oed os oes yna rai pethau na ellir eu gwneud ond trwy gyfrwng dulliau digidol (megis personoli neu Ddeallusrwydd Artiffisial).

Bydd ein dull yn defnyddio enghreifftiau fel rhaglen wobrwyol Cofnod Gofal Nyrsio Cymru, a lwyddodd i ymgysylltu â’r defnyddwyr yn ystod y cam cynllunio i safoni a symleiddio ffurflenni a ddefnyddir mewn ysbytai. Llwyddodd hyn i wella’r gwasanaeth papur a llwyddodd i sicrhau bod modd cyflwyno datblygiadau digidol yn gyflymach ac yn rhwyddach.

Ymhellach, gall gwasanaethau digidol gynnig darpariaethau gwell i bobl ag anghenion neu ddewisiadau penodol, er enghraifft, trwy fodloni safonau hygyrchedd, trwy ddarparu darllenyddion testun-i-lais neu ryngwynebau pobl-peiriannau amgen.
Gall dull digidol ddarparu gwasanaethau ar raddfa briodol yng Nghymru. Bydd hyn yn ategu ein strategaeth iaith Gymraeg ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (Mwy na Geiriau) a’n strategaeth ar gyfer Cymru (Cymraeg 2050). Er enghraifft, trwy gyfrwng rhyngwynebau defnyddwyr amlieithog, testun a sgwrsio rhyngweithiol, a gwasanaethau ymgynghori a fideo o bell.

Bydd ein Cenhadaeth Cynhwysiant Digidol yn esgor ar fanteision, yn cynnwys:

  • Ychwaneg o ddewisiadau i bobl ynglŷn â phryd, ble a sut gallant gael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – bydd hyn yn eu hwyluso i wneud hynny.
  • Gwell llythrennedd digidol, hyder a chynhwysiant trwy ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol.
  • Darpariaeth i bobl ag anghenion neu ddewisiadau penodol, gan roi gwell mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sydd fwyaf angen y gwasanaethau hynny.
  • Bydd ychwaneg o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gael ar raddfa briodol yng Nghymru, heb i’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg a chan gynnig rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Mynediad at wasanaethau digidol i bawb trwy ddilyn rheoliadau hygyrchedd y sector cyhoeddus a safonau perthynol.
  • Gellir teilwra negeseuon cyfathrebu ar gyfer cynulleidfaoedd penodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o wasanaethau digidol newydd yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Gweithredu’r strategaeth

Cydnabyddir bod y Strategaeth hon yn hanfodol ac yn uchelgeisiol a bod angen arweiniad, cydweithredu a chyd-ddatblygu rhwng pob parti er mwyn cyflawni’r Strategaeth a diwallu anghenion y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Trwy gydweithredu yn y fath fodd, gellir darparu’r elfennau diwylliannol, yr elfennau technolegol a’r elfennau arwain sy’n angenrheidiol i gyflawni trawsnewid digidol a rhoi’r Strategaeth ar waith yn llwyddiannus.

Byddwn yn sefydlu ac yn cyd-ddatblygu mapiau trywydd cyflawni ar gyfer pob Cenhadaeth mewn partneriaeth â’r system iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr clinigol a gweithwyr proffesiynol, gan ddangos arweiniad ar draws y sector. Deallwn y bydd llwyddiant yn hyn o beth yn ddibynnol ar gynrychiolaeth eang a brwd, a bwriadwn gynnwys a cheisio cyfraniad gan yr holl randdeiliaid allweddol trwy gyfrwng rhaglen gyfathrebu ac ymgysylltu, ac wrth i’r mapiau trywydd a’r cerrig milltir gael eu datblygu. Bydd hyn yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid o’r sectorau masnachol, gwirfoddol, academaidd a chymunedol, a byddwn yn ystyried y pethau cadarnhaol a ddysgwyd mewn gwledydd a sectorau eraill.

Byddwn yn rhoi dull ystwyth ar waith wrth ddatblygu’r mapiau trywydd, gan bennu sefydliadau cyflawni arweiniol yn ogystal â delio ag unrhyw ddyblygu ac ailadrodd dulliau fel y gellir sicrhau’r manteision gorau i’n gwasanaethau a’u defnyddwyr. Bydd sefydlu strwythurau llywodraethu yn sail i’r dasg o gyflawni’r mapiau ffyrdd – strwythurau llywodraethu a fydd yn adlewyrchu’r gwahanol lefelau arwain sy’n angenrheidiol i ategu a hyrwyddo’r dulliau cyflawni. Bydd hyn yn cynnwys grŵp cenedlaethol cryfach a fydd yn cynnwys cynrychiolaeth draws-sector, fel y gellir rhoi sicrwydd a gwarant. Mae ein portffolio o fuddsoddiadau a mentrau yn esgor ar fanteision i’r gweithlu ac i bobl Cymru, gan ategu a chefnogi’r broses barhaus o drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol.

Rydym wedi ymrwymo i dryloywder yn y modd y rhoddir y Strategaeth ar waith, a byddwn yn ystyried y ffyrdd mwyaf effeithiol o sicrhau y bydd cynlluniau a gweithgareddau ar gael yn gyhoeddus er mwyn i ddinasyddion a phartïon â buddiant allu dilyn y cynnydd. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar bennu ac arddangos y manteision a fydd yn deillio o weithredu’r Strategaeth, gan sicrhau bod ein rhaglenni’n dangos yn glir sut maent yn cyflawni’r Strategaeth a’i blaenoriaethau.

Atodiad A Cymharu Strategaethau Digidol 2015 a 2023, yn cynnwys cofnod o’r hyn a gyflawnwyd yn sgil y strategaeth gyntaf.

Cymharu’r strategaethau

Mae’r tabl isod yn cymharu cynnwys Iechyd a Gofal Gwybodus: Strategaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ddigidol ar gyfer Cymru (2015) a Strategaeth Ddigidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (2023). Mae’n amlwg bod y cyflawni llwyddiannus a welwyd dros y saith mlynedd diwethaf wedi esgor hefyd ar fwy o aeddfedrwydd digidol yn natblygiad ein gwasanaethau digidol, yn ein partneriaid cyflawni ac yn y modd mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw o’r newydd i bwysigrwydd cyflawni ar y cyd. Ymhellach, pum mlynedd oedd oes Strategaeth wreiddiol 2015, ond oherwydd COVID fe’i hestynnwyd i saith mlynedd. Ar y cyd, mae hi’n briodol inni lunio fersiwn ddiweddarach o’r Strategaeth hon, gan ystyried pethau y llwyddwyd i’w cyflawni hyd yn hyn, aeddfedrwydd digidol cynyddol, datblygiadau mewn technoleg ddigidol a dull mwy hyblyg o bennu a chyflawni blaenoriaethau’r Gweinidogion oddi mewn i dirlun cyflawni heriol.
 

Cymharu strategaethau 2015 a 2023
Cynnwys            Iechyd a Gofal Gwybodus: Strategaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ddigidol ar gyfer Cymru (2015)Strategaeth Ddigidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (2023)
    Hyd     5 mlynedd  3 blynedd
Canolbwynt
  • Gweithredu a dysgu fesul cam
  • Adroddiadau manwl yn ymwneud â heriau
  • Dysgu/esblygu ar sail heriau blaenorol
  • Mae trawsnewid digidol yn allweddol i ganlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol llwyddiannus a gwell
  • Arweiniad strategol
  • Blaenoriaethu
  • Gwireddu manteision
  • Dull ystwyth: gwneud, dysgu, mireinio
Gweledigaeth a Nodau Lefel Uchel

Mae’r Strategaeth hon yn pennu pedair elfen yn ymwneud â’i Gweledigaeth:

  1. Gwybodaeth i chi – bydd pobl yn cysylltu trwy ddefnyddio gwybodaeth ar-lein, apiau ac offer digidol i ategu hunanofal.
  2. Cefnogi Gweithwyr Proffesiynol – bydd gweithwyr proffesiynol yn defnyddio offer digidol ac yn cael gwell mynediad at wybodaeth. Bydd dull ‘Unwaith i Gymru’ yn ategu safonau cyffredin, y gallu i ryngweithredu a mynediad at gofnodion electronig strwythuredig cleifion.
  3. Gwelliant ac Arloesedd – gwneud gwell defnydd o’r data sydd ar gael er mwyn gwella penderfyniadau ac ysgogi newid mewn gwasanaethau; gweithio gyda phartneriaid i sicrhau y gellir gwneud yn fawr o arloesedd.
  4. Dyfodol Cynlluniedig – bydd iechyd a gofal cymdeithasol digidol yn ffactor allweddol i drawsnewid gwasanaethau yng Nghymru. Bydd angen cyd-gynllunio, gweithio mewn partneriaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel er mwyn blaenoriaethu cyfleoedd ac uchelgeisiau’r Strategaeth. 

Mae’r Strategaeth hon yn pennu tri Nod:

Nod 1 – Trawsnewid Sgiliau a Phartneriaethau Digidol. Bydd y Nod hwn yn cyflawni gwasanaethau ‘digidol yn gyntaf’ ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i’r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol feddwl a gweithio’n wahanol. Mae angen inni wella llythrennedd digidol a hyder ein gweithwyr, gan ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i’w helpu i foderneiddio gofal, cyflawni mewn modd ystwyth a rheoli data pobl.

Nod 2 – Adeiladu Platfformau Digidol sy’n Addas i Gymru. Bydd y Nod hwn yn ymdrin â rheoli data pobl trwy sicrhau bod ein platfformau a’n seilwaith yn ddiogel ac yn gadarn a thrwy sicrhau mai dim ond y bobl briodol mewn sefydliadau gofal a ddylai allu cael gafael ar y data hwnnw. Rhaid i’n platfformau a’n seilwaith allu rhyngweithredu’n llwyr a rhaid iddynt allu rhannu gwybodaeth ar draws gofal iechyd, llywodraeth leol, darparwyr cymeradwy a chymunedau ymchwil ac arloesi.

Nod 3 – Sicrhau bod Gwasanaethau yn ‘Ddigidol yn Gyntaf’. Bydd y nod hwn yn galluogi Cymru i fabwysiadu dull ‘digidol yn gyntaf’, hollol gynhwysol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y defnyddwyr yn gallu cael mynediad at wasanaethau digidol a luniwyd ac a adeiladwyd gyda nhw ac ar eu cyfer. Bydd hyn yn cynnwys gwasanaethau ac offer newydd a fydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â gwella’u hiechyd a’u llesiant.

Newidiadau allweddol rhwng y ddwy StrategaethAmherthnasol

Mae’r Strategaeth hon yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Gweithlu digidol (denu, recriwtio, cadw)
  • Gwella ac arloesi
  • Deallusrwydd artiffisial
  • Cyd-ddatblygu gwasanaethau – bydd y gwaith hwn yn cael ei lywio gan ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gyda’r nod o ddiwallu anghenion y defnyddwyr
  • Cyflawni mewn modd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • Defnyddio methodolegau ystwyth
  • Dull Cymru Gyfan; dull cyffredin
  • Rhoi’r Strategaeth ar waith trwy ddefnyddio dull cydweithredol

Pethau y llwyddwyd i’w cyflawni ar ôl strategaeth 2015

Yma, ceir crynodeb o’r pethau y llwyddwyd i’w cyflawni o ganlyniad i Iechyd a Gofal Gwybodus: Strategaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ddigidol ar gyfer Cymru (2015).

Ailgynllunio gwasanaethau

Camau a nodir yn y strategaeth

Bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cynllunio ar y cyd sut bydd angen ailddylunio gwasanaethau a sut caiff arferion gweithio newydd eu cyflwyno, ar draws timau iechyd a gofal cymdeithasol unedig, gyda chymorth System Wybodaeth Gofal Cymunedol Integredig Cymru (WCCIS).    

Yr hyn a gyflawnwyd

Mae sefydliadau’n dal i fabwysiadu WCCIS. Trwy hyn, gellir rhannu data iechyd a gofal rhwng lleoliadau er budd profiad y cleifion. Ers 2020, mae 19 o blith 29 o sefydliadau wedi cael eu hintegreiddio. 

System Gwybodaeth Glinigol

Camau a nodir yn y strategaeth

Bydd staff sy’n gweithio mewn adrannau achosion brys ysbytai yn cael system wybodaeth glinigol newydd i hyrwyddo arferion gweithio effeithlon a lleihau dibyniaeth ar bapur.

Yr hyn a gyflawnwyd

Gall staff gael gafael ar ganlyniadau gofal clinigol, dogfennau, yn cynnwys atgyfeiriadau, llythyrau rhyddhau, llythyrau clinigol, gwybodaeth am fynychu adrannau damweiniau ac achosion brys, llythyrau gan feddygon teulu ac ati, ar draws ffiniau daearyddol ledled Cymru. Cymru yw un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i gyflawni hyn. 

Rhannu delwedd radioleg

Camau a nodir yn y strategaeth

O 2015 ymlaen, caiff system radioleg newydd ar gyfer rhannu delweddau ei gweithredu i roi mynediad digidol diogel i glinigwyr at ddelweddau, ni waeth beth fo’r sefydliad lle y cychwynnodd yr ymchwiliad.

Yr hyn a gyflawnwyd

Rhoddwyd System Wybodaeth Radioleg (RIS) a System Archifo a Chyfathrebu Lluniau (PACS) ar waith ledled Cymru.

Sefydlu fferyllfa ysbyty a system ePresgripsiynu

Camau a nodir yn y strategaeth

Yng nghynlluniau cyflawni 2016 i 2017, rhoddir blaenoriaeth i offer rheoli meddyginiaethau’n electronig ac offer i gynorthwyo i wneud penderfyniadau a chynllunio gofal er mwyn hwyluso llif gwaith a diogelwch cleifion. Sefydlir bwrdd rhaglen newydd i arwain ar y gwaith hwn a dechrau caffael system fferylliaeth ac e-ragnodi mewn ysbytai yng Nghymru.   

Yr hyn a gyflawnwyd

Mae’r gwaith o ddigideiddio’r siwrnai Rheoli Meddyginiaethau mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn ogystal â mynediad i gleifion a chofnod meddyginiaethau a rennir, yn mynd rhagddo’n dda. Gelwir hyn bellach yn Bortffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol.    

Porth ar-lein clinigol Cymru

Camau a nodir yn y strategaeth

Bydd Porth Clinigol Cymru yn cael ei ymestyn i’w gwneud yn bosibl i edrych ar gofnodion gofal unigolion, a gedwir yn ddigidol, fydd yn hygyrch ar draws ffiniau sefydliadau a lleoliadau gofal, i’w gweld pryd bynnag a lle bynnag y bo’u hangen i gefnogi gofal diogel ac effeithiol. 

Yr hyn a gyflawnwyd

Erbyn hyn, mae 70% o atgyfeiriadau rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd yn digwydd yn electronig, gan gyflymu’r broses atgyfeirio’n fawr a chan gael gwared â’r gost sydd ynghlwm wrth atgyfeiriadau papur.

Lansiwyd modiwl ‘Profi a Thrin Dolur Gwddf’ Dewis Fferyllfa, gan alluogi fferyllwyr cymunedol i brofi a diagnosio cleifion cyn eu trin neu cyn argymell ffordd o weithredu – gan leihau llwyth gwaith practisau meddygon teulu.

Lansiwyd system a elwir yn ‘System Iechyd Plant’ (CYPrIS), gan sicrhau bod gwasanaethau iechyd plant yn gwneud cynnydd ochr yn ochr â thechnolegau digidol.

Mae fersiwn symudol o Borth Clinigol Cymru yn cael ei threialu, gan alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i reoli cleifion yn well mewn amser real.

Cyflwynwyd y system ‘Profion Pwynt Gofal’ yng Nghymru. Mae’r system hon yn ei gwneud yn bosibl i weld canlyniadau profion cleifion (sydd wedi deillio o amryw byd o ddyfeisiau profi) ar Borth Clinigol Cymru.

Y porth dinasyddion ar-lein

Camau a nodir yn y strategaeth

Porth ar-lein i ddinasyddion lle bydd modd i bobl weld, cadarnhau a golygu eu manylion.

Yr hyn a gyflawnwyd

Bydd modd i gleifion weld eu cofnod meddygol manwl ar ‘Fy Iechyd Ar-lein’ trwy gyfrwng practisau meddygon teulu. 

Video calling

Camau a nodir yn y strategaeth

Pan fo’n briodol, dylai pobl ddisgwyl y bydd modd iddynt ddefnyddio galwadau fideo i gynnal rhith-apwyntiadau a rhith-ymgynghoriadau ar draws gwasanaethau iechyd a gofal.

Yr hyn a gyflawnwyd

Yn 2020, cyflwynodd GIG Cymru a Llywodraeth Cymru Wasanaeth Ymgynghori Fideo Cenedlaethol, gan alluogi cleifion i ymgysylltu â chlinigwyr trwy gyfrwng galwadau fideo ar ddyfeisiau personol. Hefyd, mae’r gwasanaeth yn galluogi clinigwyr i geisio cymorth gan glinigwyr arbenigol heb fod angen i’r claf fynd i leoliad arall.

Rhaglen seilwaith

Camau a nodir yn y strategaeth

Bydd sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn parhau i weithio gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ar anghenion seilwaith Cymru gyfan.  

Yr hyn a gyflawnwyd

 Mae Rhaglen Seilwaith Cymru Gyfan (AWIP), a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, yn cynorthwyo i roi dull cydlynol ac unedig ar waith wrth ymdrin â blociau adeiladu saernïol sylfaenol ar draws byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd. Mae AWIP yn darparu diffiniadau, strategaethau a “phatrymau” saernïol y mae’n rhaid i blatfformau o’r fath eu dilyn.

Defnyddio data cenedlaethol

Camau a nodir yn y strategaeth

Canolbwyntio ar wneud defnydd gwell o ffynonellau data cenedlaethol a gwybodaeth leol i fod o gymorth i wneud penderfyniadau gwybodus a gwella’r modd y cynllunnir gwasanaeth, iechyd y boblogaeth, ymchwil a datblygiad.

Yr hyn a gyflawnwyd

Datblygwyd a chytunwyd ar strategaeth yr Adnodd Data Cenedlaethol mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae’r hyn a gyflawnwyd yn cynnwys Strategaeth Saernïaeth Agored, Strategaeth Ddata, Caffael ar gyfer y Platfform Data Cenedlaethol.

Atodiad B: Gweithgareddau trawsnewid digidol yng Nghymru

Fel rhan o’n hymrwymiad i dryloywder o ran y modd y rhoddir y Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar waith, rydym eisiau i ddinasyddion a phartïon â buddiant ddilyn ein cynnydd, a chanfod ac archwilio’r manteision yn rhwydd.

Mae’r wybodaeth isod yn pennu’r gweithgareddau a’r rhaglenni trawsnewid digidol (yn y maes iechyd) a ariennir gan Lywodraeth Cymru er mwyn ategu iechyd a gofal gwell i ddinasyddion Cymru.

I gael manylion cryno am y gweithgareddau a’r arian a ddyrannwyd ar eu cyfer, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau, cliciwch ar y dolenni sy’n arwain at wefannau allanol, pan fônt ar gael.

Byddwn yn gweithio gyda phob un o’n rhaglenni i sicrhau y ceir dolenni at ragor o fanylion am bob gweithgaredd maes o law.


Rhaglen / Prosiect 1: Portffolio trawsnewid gweinyddu meddyginiaethau’n ddigidol (DMTP)

Manylion y rhaglen

Trawsnewid prosesau’n ymwneud â gweinyddu presgripsiynau a meddyginiaethau ledled Cymru. Mae’r gwaith hwn yn cwmpasu gofal sylfaenol (meddygon teulu hyd at fferylliaeth gymunedol), gofal eilaidd, gallu cleifion i gael mynediad at/olrhain presgripsiynau, a storfa ganolog o bob presgripsiwn.

Yr arian a ddyrannwyd

£24.4m (Ceir darpariaeth ar gyfer £21m yn ychwaneg dros y ddwy flynedd nesaf yn amodol ar achosion busnes)

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol - Iechyd a Gofal Digidol Cymru (gig.cymru)

Rhaglen / Prosiect 2: System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)

Manylion y rhaglen

Fe’i sefydlwyd yn 2015 er mwyn darparu gofal integredig ar draws gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd cymunedol, gan ddefnyddio un system a chofnod electronig cyffredin ar draws Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Cymru.

Yr arian a ddyrannwyd

£42m

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Cofnod Digidol Gofal Cymdeithasol (gig.cymru)

Rhaglen / Prosiect 3: Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP) 

Manylion y rhaglen

Drwy gyflwyno Ap GIG Cymru, bydd modd rhoi mynediad ‘ar gais’ i bobl at gofnodion meddygon teulu, gan eu galluogi i drefnu apwyntiadau a chael gafael ar eu data iechyd.

Yr arian a ddyrannwyd

£27m

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (gig.cymru)

Rhaglen / Prosiect 4: Patholeg Gellog Cymru (DCP)

Manylion y rhaglen

Caffael a gweithredu patholeg gellog ddigidol ar gyfer diagnosio sbesimenau histolegol. 

Yr arian a ddyrannwyd

Arhosir am achos busnes llawn. 

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Patholeg Gellog Ddigidol (gig.cymru)

Rhaglen / Prosiect 5: Gwasanaeth ymgynghori fideo cenedlaethol  

Manylion y rhaglen

Dyma raglen a gynhelir gan TEC Cymru. Mae’r rhaglen hon wedi rhoi gwasanaeth ymgynghori fideo ar waith ar gyfer clinigwyr ledled Cymru (fe’i rhoddwyd ar waith o fewn chwe wythnos ar ddechrau’r pandemig), gan eu galluogi i ryngweithio â chleifion a chydweithwyr o bell ac mewn ffordd fwy effeithlon.

Yr arian a ddyrannwyd

£12.3m 

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru

Rhaglen / Prosiect 6: Safoni System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS)

Manylion y rhaglen

Y brif system yng Nghymru ar gyfer rheoli/gweinyddu cleifion mewn ysbytai. Caiff y system ei defnyddio gan ysbytai a chlinigau i reoli llwybrau cleifion a gweithgareddau cleifion allanol, gan sicrhau y gellir cael gafael ar wybodaeth berthnasol am gleifion mewn gwahanol adrannau o fewn yr ysbyty. 

Yr arian a ddyrannwyd

£7.5m 

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 7: Rhaglen Gwybodeg Canser (Canisc)

Manylion y rhaglen

Rhaglen ar gyfer datblygu Ateb Gwybodeg Canser (CIS). Fe’i hadeiladwyd oddi mewn i blatfformau digidol presennol ar gyfer ei defnyddio ledled Cymru. Bydd y nodweddion cyntaf yn cael eu cyflwyno ddiwedd 2022; ac erbyn 2024, bydd holl gofnodion canser cleifion yn cael eu cyflwyno ar blatfform TG modern a chadarn a fydd yn arwain at integreiddio gofal yn well ac yn darparu data perthnasol i lywio datblygiad y gwasanaeth. 

Yr arian a ddyrannwyd

£10.6m

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 8: Adnodd Data Cenedlaethol (NDR)

Manylion y rhaglen

Menter strategol a fydd yn darparu platfform data cenedlaethol ar gyfer iechyd a gofal. Bydd yn arwain at welliannau mawr yn y ffordd y bydd modd i systemau iechyd a gofal cymdeithasol ryngweithredu, yn ogystal â darparu mynediad diogel at ddata at ddibenion dadansoddi data a gwella gwasanaethau.

Yr arian a ddyrannwyd

£23m    

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Adnodd Data Cenedlaethol

Rhaglen / Prosiect 9: Rhaglen Seilwaith Cymru Gyfan (AWIP)

Manylion y rhaglen

Bydd targedau AWIP yn hanfodol o ran cynorthwyo i roi dull cydlynol ac unedig ar waith wrth ymdrin â blociau adeiladu saernïol sylfaenol ar draws byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, er mwyn sicrhau cysondeb, sicrwydd a diogelwch i brosiectau GIG Cymru.

Yr arian a ddyrannwyd

£4.2m 

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 10: E-ragnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau mewn Ysbytai (HEPMA)

Manylion y rhaglen

Mae cynllun braenaru Bae Abertawe ar gyfer ePMA (rhan o DMTP), sef HEPMA, yn dysgu gwersi ar gyfer Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd eraill – gwersi y gellir eu hystyried wrth fabwysiadu ePMA.

Yr arian a ddyrannwyd

£958,300k  

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 11: Technology Enabled Care (TEC) Cymru

Manylion y rhaglen

Mae Tec Cymru ynghanol y broses o’i sefydlu ei hun yn Ganolfan TEC Cymru. Bydd TEC yn darparu’r sgiliau ar gyfer pennu ac ehangu gwasanaethau teleiechyd a theleofal drwy Gymru i gyd, a hynny ar sail gwaith ymchwil a gwerthuso cadarn.

Yr arian a ddyrannwyd

£11.2m   

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

TEC Cymru

Rhaglen / Prosiect 12: Uned Gofal Dwys Digidol

Manylion y rhaglen

Gweithredu un ateb digidol ar gyfer monitro cleifion mewn Unedau Gofal Dwys ledled Cymru. Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno drwy gydol 2023 a bydd yn sicrhau y defnyddir ffyrdd mwy effeithiol o weithio mewn Unedau Gofal Dwys.

Yr arian a ddyrannwyd

£8.1m  

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 13: Cofnod Clinigol Cleifion Electronig (ePCR) Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST)

Manylion y rhaglen

Digideiddio cofnod clinigol cleifion mewn ambiwlansys. Erbyn hyn, mae’r system hon wedi cyflwyno trefn yn holl ambiwlansys Cymru ar gyfer gwella eglurder y cofnodion a lunnir gan weithwyr ambiwlans a chynorthwyo i wella amseroedd trosglwyddo. Bydd gwelliannau yn y dyfodol yn rhoi mynediad o’r fath i ymatebwyr cyntaf cymunedol a grwpiau perthnasol eraill.

Yr arian a ddyrannwyd

£5.1m    

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 14: Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) – cam 2

Manylion y rhaglen

Rhaglen weddnewidiol yn ymwneud â digideiddio a safoni dogfennau nyrsio ar gyfer cleifion mewnol sy’n oedolion. Y nod yw digideiddio’r holl ddogfennau nyrsio ar gyfer cleifion mewnol sy’n oedolion, gan sicrhau cysondeb a chyfanrwydd y cofnodion.

Yr arian a ddyrannwyd

£5.1m    

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

WNCR - Digital Health and Care Wales (nhs.wales)

Rhaglen / Prosiect 15: Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) – cam 3

Manylion y rhaglen

Digideiddio a safoni dogfennau nyrsio ar gyfer cleifion mewnol pediatrig. Sefydlir y rhaglen ym mis Ebrill 2023.

Yr arian a ddyrannwyd

£1.8m  

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 16: Canolfan Ragoriaeth Office 365

Manylion y rhaglen

Arian iro ar gyfer sefydlu Canolfan Ragoriaeth Office 365 GIG Cymru, gan ddarparu tîm o arbenigwyr Office 365 i helpu byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i wneud y gorau o drwyddedau O365 a brynwyd gan GIG Cymru. Maes o law, y bwriad yw darparu’r un gwasanaeth i sector cyhoeddus ehangach Cymru er mwyn uno sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus â’r wybodaeth y maent ei hangen i elwa i’r eithaf ar O365.

Yr arian a ddyrannwyd

£2.03m

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

NHS Wales Microsoft 365 Centre of Excellence

Rhaglen / Prosiect 17: Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LINC)

Manylion y rhaglen

Bydd y rhaglen hon yn safoni ac yn cyflwyno platfform meddalwedd newydd gogyfer y gwasanaeth patholeg ar ffurf un system fodern ar gyfer Cymru gyfan. Erbyn 2025, bydd ateb patholeg digidol ‘o’r dechrau i’r diwedd’ ar gael, yn cynnwys dull ar gyfer gwneud cais am brofion ac adrodd am ganlyniadau, ynghyd â hysbysiadau safonedig ledled Cymru a’r gallu i ryngweithredu â systemau eraill y GIG.

Yr arian a ddyrannwyd

£19.8m 

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol 

Laboratory Information Network Cymru (LINC) - NHS Wales Health Collaborative  

Rhaglen / Prosiect 18: Caffael y System Wybodeg Radioleg (RISP)

Manylion y rhaglen

Dull caffael ar gyfer cyflawni’r weledigaeth o gael ateb electronig di-dor a fydd yn galluogi’r gwasanaeth Radioleg i ddarparu gwasanaeth delweddu clinigol amserol, diogel ac o’r radd flaenaf i gleifion yng Nghymru. 

Yr arian a ddyrannwyd

£454,000k

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 19: Gofal Llygaid

Manylion y rhaglen

Mae’r rhaglen hon yn mynd ati’n ddigidol i drawsnewid y broses atgyfeirio rhwng optegwyr y stryd fawr ac ymgynghorwyr optometreg gofal eilaidd, gan arbed llawer o amser a gwella llif cofnodion cleifion rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd.

Yr arian a ddyrannwyd

£4.8m 

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 20: Olrhain Gwaed o Wythïen i Wythïen 

Manylion y rhaglen

Erbyn hyn, mae cam darganfod ar gyfer ateb Cymru Gyfan i olrhain cynhyrchion gwaed drwy gyfrwng dulliau digidol wedi dod i ben, ac mae cynigion wrthi’n cael eu hystyried ynglŷn â sut gellir bwrw ymlaen â hyn. Mae’r dull ‘gwlad gyfan’ hwn yn unigryw i Gymru.

Yr arian a ddyrannwyd

£93,614k

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 21: Rhaglen Llwybrau Trawsffiniol Powys

Manylion y rhaglen

Cynorthwyo gyda phrosesau atgyfeirio, prosesau rhyddhau, prosesau adrodd a phrosesau trosglwyddo data yn ymwneud â chleifion o Gymru a gaiff eu trin yn Lloegr, gan eu trosglwyddo mewn modd effeithlon ac effeithiol i systemau Cymru er mwyn sicrhau y cânt ofal diogel ac effeithlon.

Yr arian a ddyrannwyd

£1.19m    

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 22: Mamolaeth Ddigidol Cymru

Manylion y rhaglen

Mae ymarfer darganfod wedi’i gwblhau ac mae cynigion wrthi’n cael eu hystyried ynglŷn â sut gellir digideiddio gwasanaethau mamolaeth yn genedlaethol, gan roi gwell mynediad i gleifion at ddata perthnasol. Sefydlir y rhaglen ym mis Ebrill 2023.

Yr arian a ddyrannwyd

£7.47m

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 23: Fframwaith Galluogrwydd Digidol ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru

Manylion y rhaglen

Mae’r rhaglen hon yn mapio anghenion digidol gweithlu proffesiynol annigidol Cymru, ar gyfer y presennol a’r dyfodol. Mae’n datblygu cynigion ar gyfer esblygu ac ymestyn y gweithlu gyda’r sgiliau a’r cymwyseddau digidol y mae’r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol modern eu hangen yn awr a thros y 10 mlynedd nesaf.

Yr arian a ddyrannwyd

£207,230k 

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 24: Cyllid Iro ar gyfer Gwireddu Manteision Digidol a Newid Busnes

Manylion y rhaglen

Recriwtio cymuned effeithiol o ymarferwyr arbenigol yn y maes newid busnes a gwireddu manteision er mwyn ategu rhaglenni trawsnewid digidol cenedlaethol a lleol ar draws holl Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau Iechyd ac Awdurdodau Iechyd Arbennig Cymru.

Yr arian a ddyrannwyd

£0.582m

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 25: Rhwydwaith Newid Digidol

Manylion y rhaglen

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn datblygu rhaglen Llysgenhadon Newid: cynllun hyfforddi byr ar gyfer yr holl staff, waeth be fo’u gradd na’u swydd, ar draws y GIG er mwyn eu huwchsgilio gyda hyfforddiant yn ymwneud â systemau clinigol, e-ddysgu, sgiliau meddal, cymwyseddau proffesiynol, methodoleg newid a gwelliannau i wasanaethau

Yr arian a ddyrannwyd

£2.55m  

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 26: Trawsnewid Iechyd Plant

Manylion y rhaglen

Gweithgaredd darganfod i archwilio ffyrdd cyfredol o weithio ar draws pob lleoliad iechyd er budd plant/pobl ifanc; cwmpasu gwelliannau i systemau digidol fel y gellir darparu gwell mynediad at ddata perthnasol.

Yr arian a ddyrannwyd

£40,000k  

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Nid yw ar gael ar hyn o bryd.

Rhaglen / Prosiect 27: Fframwaith Trawsnewid Brechu

Manylion y rhaglen

Menter ar gyfer adolygu a phennu’r cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu systemau brechu’n barhaus. Fe’i gweinyddir gan y GIG yng Nghymru, gan adeiladu ar waith Gwasanaeth Imiwneiddio Cymru a’r porth archebu cyhoeddus.

Mae’r porth yn cynnig ffordd ddigidol i ddinasyddion aildrefnu eu brechiadau COVID-19, gan eu galluogi i gynllunio’u hapwyntiadau brechu ar sail eu hymrwymiadau.

Yr arian a ddyrannwyd

Darganfyddiadau technegol, atebion a dylunio £345,000

Costau cymorth blynyddol ar gyfer y porth – i’w cadarnhau

Dolenni’n arwain at raglenni/prosiectau allanol

Fframwaith imiwneiddio cenedlaethol Cymru

Y rhaglen brechu rhag COVID-19

Troednodiadau

[1] Fel y nodir yn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych Tua’r Dyfodol

[2] Ymchwil Gartner - ‘Use real-time health system principles to drive digital transformation’ 10 Mai 2022, Barry Runyon, Gregg Pessin.

[3] https://www.gov.uk/government/publications/the-green-book-appraisal-and-evaluation-in-central-governent/agile-digital-and-it-projects-clarification-of-business-case-guidance

[4] Canllawiau ymgeisio’r IFRS (Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol), Rhagfyr 2020