Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion ar gyfer tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion hynny. Mae amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi plant yn seiliedig ar yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym ynglŷn â ble y gallwn gael yr effaith fwyaf o ran gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc sy'n tyfu i fyny mewn teuluoedd incwm isel.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes balch o weithio i sicrhau bod safbwyntiau pobl Cymru wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn. Mae'r ddyletswydd i roi sylw dyledus i CCUHP a osodir ar Weinidogion Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn golygu bod ceisio barn plant a phobl ifanc yn rhan annatod o'n proses o wneud penderfyniadau ar bolisi.

Roedd hyn yn golygu, pan wnaethom benderfynu datblygu Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Cymru er mwyn ymgynghori arni, ein bod am glywed gan blant a phobl ifanc, eu teuluoedd, a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi.  Roeddem am wybod beth sy'n bwysig i bobl sydd â phrofiad o dlodi a ble y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf, yn eu barn nhw.

Gwnaethom weithio gyda'n partneriaid (gweler Atodiad 1) i gynnal digwyddiadau ymgysylltu yng nghymunedau pobl, wedi'u cynnal gan sefydliadau y mae pobl yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt. Roedd hyn yn arbennig o bwysig er mwyn ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl a niwrowahanol, pobl LHDTC+ a menywod sy'n cael cymorth oherwydd materion y ddau ryw.

Mae'r gweithgarwch ymgysylltu hwn wedi cynnwys ymgysylltu â 3,272 o bobl. Ymgysylltodd 1,953 o'r bobl hyn drwy waith wedi'i dargedu at y rheini â nodweddion gwarchodedig. O blith y cyfanswm, roedd 1,402 yn blant a phobl ifanc, 1,329 yn rhieni/gofalwyr, a 319 yn neiniau a theidiau/hen neiniau a theidiau Mae hyn wedi cynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal a gofalwyr sy'n berthnasau. Gwnaethom hefyd ymgysylltu â 222 o gynrychiolwyr sefydliadau yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Gwnaethom ofyn i bobl drafod pedwar maes ac i ddweud wrthym a oedd unrhyw beth arall yr oedd angen inni ei ystyried (gweler Atodiad 2).  Dewiswyd y pedwar maes y gwnaethom ofyn ar ôl i adolygiad o Dlodi ac Allgáu Cymdeithasol a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru awgrymu mai'r rhain oedd y meysydd y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arnynt.

Cafodd yr wybodaeth a gasglwyd drwy'r gweithgarwch ymgysylltu hwn effaith uniongyrchol ar ein penderfyniadau ynglŷn â'r hyn y dylid canolbwyntio arno yn y Strategaeth Tlodi Plant ddrafft, yr ydym wedi ymgynghori arni.

Mae'r adroddiad hwn yn rhannu gwybodaeth fanylach am yr hyn y dywedodd plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi wrthym drwy'r digwyddiadau ymgysylltu.

Mae'r dystiolaeth a gasglwyd wedi cael effaith uniongyrchol ar y penderfyniadau rydym wedi'u gwneud ynglŷn â'r hyn y gwnaethom ei gynnwys yn y Strategaeth Tlodi Plant ddrafft er mwyn ymgynghori arni, a'r hyn y dylid ei gynnwys yn Strategaeth Tlodi Plant derfynol Cymru. Mae'r wybodaeth a gasglwyd yn berthnasol i lawer o feysydd polisi ac mae wedi'i rhannu ar draws Llywodraeth Cymru. 

Yr hyn y dywedodd plant a phobl ifanc wrthym

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn i'r 1,402 o blant a phobl ifanc a roddodd o'u hamser i fynd i ddigwyddiadau a siarad am yr hyn sy'n bwysig iddynt.

Gweithiodd sefydliadau a hwylusodd y gwaith ymgysylltu hwn ar ein rhan gyda phlant a phobl ifanc mewn nifer o ffyrdd: 

  • Gwnaethom gomisiynu Plant yng Nghymru, Achub y Plant a Voices from Care, a weithiodd gyda 102 o blant a phobl ifanc drwy ysgolion a grwpiau sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.
  • Gwnaethom hefyd gomisiynu EYST a Women Connect First i gynnig digwyddiadau ymgysylltu i deuluoedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ac fel rhan o'r gwaith hwnnw, gwnaethant ymgysylltu â 68 o blant a phobl ifanc drwy grwpiau ffocws.
  • Ymgysylltodd grwpiau cymunedol a sefydliadau y rhoddwyd grantiau bach iddynt er mwyn ymgysylltu â theuluoedd â nodweddion gwarchodedig, â 1,070 o blant a phobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc anabl a niwrowahanol, pobl ifanc LHDTC+, pobl ifanc â phrofiad o fod yn ddigartref, rhieni ifanc a phobl ifanc sy'n Sipsiwn, Teithwyr neu Roma. Cafodd y gwaith hwn ei wneud mewn nifer o ffyrdd, drwy grwpiau sy'n bodoli eisoes a digwyddiadau ymgysylltu pwrpasol, ac fel rhan o sesiynau chwarae a gweithgareddau i deuluoedd.
  • Dyfarnwyd grantiau Llywodraeth Cymru i Gynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol lleol drwy gynllun a weinyddwyd gan CGGC ar ein rhan er mwyn ymgysylltu â theuluoedd ac aelodau cymunedau, ac fel rhan o’r gwaith hwn, gwnaethant ymgysylltu â 162 o blant a phobl ifanc.

Rhannwyd fersiwn i bobl ifanc o Fframwaith Trafod (Atodiad A) â’r sefydliadau hyn, a defnyddiodd y sefydliadau wahanol ddulliau i rannu'r pedwar maes trafod â phlant a phobl ifanc.

1. Lleihau costau a chynyddu incwm teuluoedd fel bod plant a phobl ifanc yn cael digon o gymorth ariannol a pherthnasol i ddiwallu eu hanghenion

Daeth nifer o themâu cyffredin i'r amlwg yn y dystiolaeth a gasglwyd gan blant a phobl ifanc drwy'r gweithgarwch ymgysylltu, mewn perthynas â lleihau costau a chynyddu incwm.

Costau byw

Siaradodd plant a phobl ifanc am gostau bwyd, tanwydd a biliau. Gwnaethant ddweud bod angen bwyd cost isel ac am ddim, a gostwng prisiau ynni. Ymysg plant a phobl ifanc o deuluoedd sy’n Ffoaduriaid ac yn Geiswyr Lloches yr oedd tlodi bwyd yn fwyaf tebygol o gael ei nodi.

Nodwyd bod allgau cymdeithasol yn ymwneud â chostau mynediad a chyfarpar yn broblem. Roedd cost trafnidiaeth hefyd yn broblem, yn enwedig i blant a phobl ifanc o deuluoedd sy’n Ffoaduriaid ac yn Geiswyr Lloches. Gwnaethant hefyd nodi bod costau tai a rhent yn broblem sy'n rhoi pwysau ariannol ar eu teuluoedd.

Roedd plant a phobl ifanc yn ymwybodol iawn o'r pwysau ariannol ar eu rhieni, a gwnaethant ddweud eu bod yn diogelu eu rhieni rhag ceisiadau am bethau sy'n costio arian a'u bod yn ceisio helpu.

‘Rydych chi'n cael papur decpunt gan eich mam, ac mae'n dweud wrthych chi fod angen iddo bara'r wythnos, felly mae'n rhaid ichi fod yn llawer mwy ymwybodol o'ch arian oherwydd yn ogystal â rhoi arian ichi fynd i'r ysgol, mae'n rhaid iddi brynu pethau ar gyfer y tŷ hefyd.

Felly, unwaith rydych chi'n gwybod hynny, mae'n rhaid ichi fod yn fwy ymwybodol, felly, er enghraifft, os byddwch chi'n prynu dau ddarn o dost, efallai y byddwch chi'n teimlo'n llwglyd, ond wedyn gallwch chi brynu un a chael mwy o frecwast gartref. Felly, mae hynny'n helpu eich mam, ac mae'n gallu eich helpu chi hefyd.

Costau’r ysgol: Roedd bwyd yn yr ysgol yn un o'r prif themâu a nodwyd gan blant a phobl ifanc, a oedd am i fwy o blant a phobl ifanc gael brecwast a phrydau am ddim yn yr ysgol. Siaradodd pobl ifanc hefyd am gost bwyd yn yr ysgol uwchradd. Gwnaethant ddweud nad oes gan eu rhieni ddigon o arian i dalu am fwyd iddynt yn yr ysgol bob dydd. Dywedodd rhai plant a phobl ifanc eu bod yn mynd heb fwyd yn yr ysgol.

Gwneud yn siŵr bod pawb wedi cael brecwast neu fel arall, allan nhw ddim dysgu'n iawn.

Nododd llawer o blant a phobl ifanc gost gwisg ysgol ac offer ysgol, gan gynnwys hanfodion fel beiros, pensiliau a llyfrau cyrsiau. Roedd pobl ifanc yn cydnabod y costau sy'n gysylltiedig â gwisg ysgol, a gwnaethant ddweud bod hyn yn rhoi pwysau ariannol ar eu rhieni.

Yn yr un modd, dywedodd plant a phobl ifanc fod cost teithiau ysgol yn rhy uchel ac na all eu teuluoedd eu fforddio.

Teithiau ysgol rhatach i'w gwneud yn gynhwysol. Fel arall, dyw'r plant y mae angen y cyfleoedd hyn arnyn nhw fwyaf ddim yn eu cael.

Soniodd plant a phobl ifanc o deuluoedd sy'n Ffoaduriaid ac yn Geiswyr Lloches hefyd am ddiffyg trafnidiaeth am ddim i gyrraedd yr ysgol.

Incwm a chyngor

Dywedodd plant a phobl ifanc fod angen swyddi â chyflog teg a newidiadau i'r system dreth er budd y rheini ar incwm isel. Gwnaethant hefyd ddweud bod angen i'w rhieni allu manteisio ar ofal plant am ddim er mwyn iddynt allu gweithio.

Soniodd rhai plant a phobl ifanc am gymhlethdod y system budd-daliadau, anawsterau o ran cael gafael ar wybodaeth am hawliau a lefelau budd-daliadau (gwerth ariannol), a manteisio arnynt. Soniodd pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal am hyn, ac am eu hanawsterau personol o ran cael gafael ar gymorth ariannol a'i ddeall.

Siaradodd plant â rhieni y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt am ba mor anodd yw deall ffurflenni, a phwysigrwydd darparu gwybodaeth a ffurflenni hawlio mewn ieithoedd gwahanol.

Helpu pobl nad ydyn nhw'n deall Cymraeg a Saesneg i lenwi ffurflenni budd-daliadau.

Dywedodd pobl ifanc sy'n Roma fod angen mwy o gymorth gan y llywodraeth mewn perthynas â chynnig cyfleoedd am swyddi, bwyd, arian a chyngor.

Siaradodd pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal am gymhlethdod systemau cymorth ariannol, a pha mor aml y gall cael gafael ar gyngor syml fod.

Un galwad ffôn, un wyneb, un gydberthynas i'w meithrin, er mwyn inni gael gafael ar yr hyn sydd ei angen, peidiwch â gwneud inni ddefnyddio systemau cymhleth.

Dywedodd plant a phobl ifanc hefyd fod angen darparu addysg ariannol a chyngor ar gyllidebu mewn ysgolion, er mwyn eu paratoi ar gyfer y dyfodol, ac roedd rhai plant a phobl ifanc am i'w rhieni allu cael gafael ar addysg ariannol

2. Creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael digon o gymorth ariannol a pherthnasol i ddiwallu eu hanghenion a'u galluogi i wireddu eu potensial

Siaradodd plant a phobl ifanc am yr hyn a fyddai'n gwneud gwahaniaeth, yn eu barn nhw, i'w helpu i wireddu eu potensial, ond gwnaethant hefyd ddweud wrthym am y cymorth a fyddai'n helpu eu rhieni, yn eu barn nhw.

Addysg

Siaradodd plant a phobl ifanc hefyd am gost addysg wrth feddwl am lwybrau allan o dlodi. Gwnaethant nodi ei bod hi'n bwysig buddsoddi mewn addysg er mwyn datblygu llwybrau allan o dlodi.

Addysg am ddim….Fydd llawer o blant ddim yn llwyddo i godi allan o dlodi eu teuluoedd. Mae llawer o gwmnïau yn chwilio am addysg dda o brifysgolion da, ond mae hynny'n ddrud iawn, ac efallai y byddan nhw'n wynebu gwahaniaethu yn yr ysgol.

Dywedodd pobl ifanc eu bod am gael cynnig ehangach o addysg ‘ymarferol,’ galwedigaethol a ‘hanfodol i fywyd’. Roeddent yn teimlo bod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar bynciau traddodiadol a mwy academaidd, ac y dylid rhoi'r un pwyslais ar ddysgu ymarferol a galwedigaethol.

Dylai addysg bwysleisio sgiliau trosglwyddadwy sy'n berthnasol i gyflogadwyedd, e.e. dylai Mathemateg ymdrin â chyllid a hunangyflogaeth, nid dim ond algebra!

Peidio â gwthio pynciau penodol. Mae pynciau creadigol yn werth chweil hefyd, ac yn sicrhau swyddi i bobl ifanc. Mae'n dorcalonnus cael eich gwthio i ffwrdd oddi wrth bynciau creadigol. 

Mae rhai o'r pynciau sy'n cael eu haddysgu yn yr ysgol yn ddiangen, ac yn lle hynny, dylai ysgolion ganolbwyntio ar addysgu sgiliau sy'n berthnasol i fywyd pob dydd, fel cyllidebu, cadw'n ddiogel ar y rhyngrwyd, a rheoli arian.

Cymorth gyda chyllid a chyllidebu yn yr ysgol efallai. Mae'n beth pwysig erbyn hyn, a dydyn nhw ddim yn dweud llawer wrthych chi amdano.

Roedd plant a phobl ifanc am gael mwy o addysg ariannol yn yr ysgol. Roeddent yn credu ei bod yn bwysig dysgu mwy am sut i reoli arian fel oedolyn, a sut i gyllidebu a chynilo. Dywedodd plant a phobl ifanc fod angen mwy o gymorth ar y rheini sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel mewn perthynas â llythrennedd ariannol.

Dywedodd plant a phobl ifanc Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol fod angen mwy o gymorth addysgol ar y rheini sydd wedi dod i'r DU yn fwy diweddar ac sy'n ymuno â'r cwricwlwm yn ddiweddarach mewn bywyd, yn ogystal â'r rheini â lefelau cymhwyster is yn eu rhwydwaith teulu ehangach.

Cymerodd pobl ifanc sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr ran yn y gwaith ymgysylltu, a dywedodd pobl ifanc sy'n Roma fod angen mwy o gymorth gan y llywodraeth mewn perthynas â chynnig cyfleoedd am swyddi, bwyd, arian a chyngor.

Fel rhan o'r gweithgarwch ymgysylltu gyda phobl ifanc sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, dywedodd pobl ifanc sy'n Roma fod angen mwy o gymorth gan y llywodraeth mewn perthynas â chynnig cyfleoedd am swyddi, bwyd, arian a chyngor.

Dywedodd pobl ifanc sy'n Roma fod angen mwy o gymorth yn yr ysgol i ddisgyblion sy'n Roma er mwyn iddynt allu deall y deunydd dysgu a llwyddo i ennill cymhwyster, yn ogystal â dosbarthiadau Saesneg i bob disgybl sy'n Roma.

Dywedodd pobl ifanc anabl, pobl ifanc niwrowahanol a phobl ifanc â nodweddion gwarchodedig nad oeddent bob amser yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn yr ysgol. Nid oedd llawer o bobl ifanc wedi cael diagnosis nes eu bod yn hŷn, a oedd wedi ei gwneud hi'n anodd iddynt lywio'r system addysg. Teimlai eraill nad oedd athrawon wedi'u haddysgu'n ddigon da am anawsterau dysgu, ac nad oedd digon o adnoddau ar gael i brofi a oedd rhywun yn niwrowahanol.

Dywedodd rhai pobl ifanc fod angen cynnal cymorth un i un ar gyfer plant ag anableddau ond bod cyllid yn broblem, yn enwedig pan fyddai plant yn pontio i'r ysgol uwchradd. Gwnaethant hefyd ddweud nad oedd digon o ysgolion sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, a bod rhai myfyrwyr ag anableddau yn cael eu haddysgu mewn ystafelloedd sbâr am na allent gyrraedd lefelau uchaf yr ysgol.

Dywedodd pobl ifanc hefyd fod angen iddyn nhw a'u rhieni gael cyfleoedd hyfforddi a dysgu gydol er mwyn eu hysbrydoli a'u galluogi i feithrin sgiliau i wella eu rhagolygon cyflogaeth.

Gyrfaoedd ac uchelgeisiau

Dywedodd plant a phobl ifanc eu bod am gael mwy o gymorth a chyngor ar yrfaoedd. Gwnaethant hefyd ddweud y byddent yn gwerthfawrogi cael mwy o gyswllt ag oedolion a allai fod yn fodelau rôl iddynt a'u helpu i gredu y gallent wireddu eu dyheadau.

O ran Gyrfa Cymru, rwy'n cofio gorfod llenwi arolwg, a chael cyngor yn seiliedig ar hwnnw. Roedd hynny ym Mlwyddyn 9, a nawr fy mod yn agosáu at fynd i'r coleg, cawson ni wasanaeth am y peth, ond mewn gwirionedd, doeddwn i ddim yn gwybod bod yr adnoddau hynny'n bodoli tan i mi gael apwyntiad gydag ef.

Gwnaethant dynnu sylw at bwysigrwydd darparu'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar bobl ifanc i ddilyn eu dewis gyrfa, yn ogystal â chymorth ac arweiniad i'w helpu i gyflawni eu nodau. Gallai hyn gynnwys darparu cyngor ar yrfaoedd, rhaglenni mentora, a chyfleoedd rhwydweithio er mwyn helpu pobl ifanc i gysylltu â gweithwyr proffesiynol yn eu dewis feysydd.

Dwedodd pobl ifanc Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wrthym fod llawer o rwystrau gweladwy ac anweladwy i bobl ifanc fanteisio ar gael opsiynau/cyfleoedd newydd a'u deall. Gall rhwystrau gynnwys diffyg rhwydweithiau, teimlo nad yw cyfleoedd wedi'u hanelu atyn nhw, a rhwystrau ariannol i achub ar gyfleoedd newydd.

Teimlai pobl ifanc na all rhieni o deuluoedd incwm isel rannu gwybodaeth am lwybrau gyrfa â'u plant am na chawsant brofiadau gyrfa eu hunain. Roeddent yn credu y gallai gwasanaethau ac elusennau helpu i bontio'r bwlch drwy ddarparu modelau rôl a gweithdai er mwyn i bobl ifanc ddysgu mwy am yr hyn sydd ei angen i ddilyn eu dewis gyrfa.

Cymerodd pobl ifanc sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr ran yn y gweithgarwch ymgysylltu, a dywedodd pobl ifanc sy'n Roma eu bod am allu manteisio ar amrywiaeth ehangach o gyfleoedd gwaith ymarferol. Roeddent hefyd yn teimlo y dylai cyfleoedd dysgu ymarferol i oedolion fod ar gael, er mwyn iddynt allu uwchsgilio a chamu ymlaen o'u profiadau gwaith blaenorol.

Dywedodd llawer o bobl ifanc eu bod am gael hyfforddiant galwedigaeth yn gynt mewn meysydd fel lletygarwch, rheoli tir, adeiladu, ac entrepreneuriaeth. Roeddent yn teimlo y dylai fod amrywiaeth ehangach o raglenni prentisiaeth a chysylltiadau gwell â busnesau a lleoliadau gwaith ledled Cymru.

Dywedodd un unigolyn ei fod wedi methu ei arholiadau oherwydd anawsterau dysgu a bod hyn bellach yn rhwystr iddo, gan y byddai'n rhaid iddo dalu er mwyn ennill y cymhwyster sydd ei angen i wneud y swydd y mae am ei chael.

Alla i ddim cael y swydd rwyf am ei chael oherwydd does gen i ddim y cymwysterau. Yna rydych chi'n gyfyngedig i swyddi sy'n talu'r isafswm cyflog, a dyw hynny ddim yn ddigon i dalu'ch rhent hyd yn oed.

Galluogi rhieni i weithio: Dywedodd llawer o blant a phobl ifanc fod angen i'w rhieni allu manteisio ar ofal plant am ddim er mwyn iddynt allu hyfforddi neu weithio. Gwnaethant sôn am ofal plant llawn-amser a'r angen am glybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol am ddim.

Problem arall yw gofal plant, oherwydd yn amlwg, mae'n rhaid i rai rhieni unigol fynd i'r gwaith, a phan nad oes gan blentyn frawd neu chwaer hŷn. Er enghraifft, byddwn i bob amser yn gofalu am fy chwaer pan oedd fy mam yn gweithio.

Mae angen gofal plant rhatach, neu gymorth gyda chostau gofal plant, er mwyn helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith.

Gofal plant am ddim i bobl ar fudd-daliadau er mwyn iddynt allu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi ac addysg a chodi allan o dlodi.

Dywedodd plant a phobl ifanc hefyd fod angen i'w rhieni gael cyfleoedd hyfforddi am ddim i'w galluogi i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gael gwaith neu gamu ymlaen mewn gwaith. Gwnaethant hefyd ddweud bod angen swyddi a chyflogau teg, a chymorth i rieni eu cael. 

Dysgu oedolion am ddim, fel hyfforddiant ar gyfer swyddi a gwersi gyrru am ddim.

Mae angen mwy o gyfleoedd am swyddi i rieni, yn enwedig rhieni unigol. … mae plant yn dioddef yn anuniongyrchol pan nad oes gan rieni swydd â thâl.

Trafnidiaeth

Nododd plant a phobl ifanc fod trafnidiaeth cost isel neu am ddim yn bwysig er mwyn iddyn nhw a'u rhieni fanteisio ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Dywedodd pobl ifanc hefyd y byddai trafnidiaeth am ddim yn eu galluogi i fanteisio ar weithgareddau cymdeithasol, chwaraeon a diwylliannol.

Soniodd plant a phobl ifanc hefyd am argaeledd a dibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd rhai pobl ifanc sy'n byw mewn cymunedau gwledig y dylai gwersi gyrru am ddim neu am bris gostyngol fod ar gael i'w galluogi i gael hyfforddiant a chymudo i ardaloedd lle mae swyddi ar gael.

Cymerodd pobl ifanc sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr ran yn y gwaith ymgysylltu, a dywedodd pobl ifanc sy'n Roma hefyd ei bod hi'n anodd cael gafael ar drafnidiaeth gyhoeddus, a bod y safle bws 20 munud ar droed o'r safle lle roeddent yn byw. 

Dywedodd plant a phobl ifanc Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wrthym fod angen cynllun cymhorthdal teithio er mwyn manteisio ar addysg a hyfforddiant.

Dywedodd pobl ifanc anabl wrthym am broblemau o ran trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, yn enwedig os oeddent yn defnyddio cadair olwyn.

3. Cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell 

Roedd y themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ymwneud â chymunedau, cydberthnasau sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, mynediad haws at gymorth ar gyfer iechyd a llesiant, a chynhwysiant. Siaradodd plant a phobl ifanc hefyd am eu profiad o addysg, ac roedd llawer o'r ymatebion yn adlewyrchu'r rhai a gafwyd i'r meysydd trafod eraill.

Cymunedau

Dywedodd plant a phobl ifanc wrthym eu bod am gael cymunedau diogel i dyfu i fyny ynddynt, gyda mwy o fannau gwyrdd, lleoedd i chwarae a phethau i'w gwneud.

Dyw plant mewn tlodi ddim yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau llawn hwyl.

Does dim digon o weithgareddau dargyfeirio ysbrydoledig i bobl ifanc. Mae'r gwasanaeth ieuenctid/hybiau lleol yn allweddol i hyn.

Mae gennym ni'r hawl i chwarae, ond does gennym ni ddim unrhyw le i wneud hynny.

Cyfeiriodd rhai pobl ifanc at ysgolion fel hybiau cymunedol a allai gynnig cymorth a gweithgareddau. Gwnaethant hefyd nodi pwysigrwydd llyfrgelloedd a gwasanaethau tebyg yn eu cymunedau.

Cymerodd plant a phobl ifanc sy'n Sipsiwn neu Deithwyr ran yn y gweithgarwch ymgysylltu, ac fel rhan o hynny, siaradodd plant a phobl ifanc sy'n Sipsiwn neu Deithwyr am ddiffyg mannau awyr agored o ansawdd uchel i chwarae ar safleoedd swyddogol, a diffyg cysylltiadau trafnidiaeth i weithgareddau eraill. Mae plant a phobl ifanc sy'n Roma am gael mannau cymunedol diogel.

Dywedodd plant a phobl ifanc Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, yn enwedig y rheini o deuluoedd sy'n Geiswyr Lloches, eu bod yn teimlo wedi'u hymyleiddio a'u hynysu yn eu cymunedau. Nodwyd hiliaeth fel problem sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc hefyd, y mae angen ei herio a mynd i'r afael â hi.

Dywedodd pobl ifanc anabl a niwrowahanol fod angen gweithgareddau a chyfleoedd chwarae cynhwysol yn eu cymunedau.

Teimlai pobl ifanc LHDTC+ fod angen mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar lefel y gymuned er mwyn hyrwyddo cynhwysiant a'u hatal rhag teimlo wedi'u hymyleiddio.

Gallen ni greu ein clwb ein hunain. Er enghraifft, gallech chi greu clwb lle y gallan nhw ariannu'r offer, fel nad oes rhaid inni dalu amdano.

Dywedodd rhai plant a phobl ifanc hefyd fod angen gwybodaeth, cyngor a chymorth ar rieni a theuluoedd yn y gymuned. Dywedodd rhai hefyd fod angen tai sefydlog a chartrefi clyd i fyw ynddynt, ond y prif ffocws oedd y cymunedau lle maent yn byw.

Soniodd plant a phobl ifanc hefyd am bwysigrwydd cyfleoedd i lywio'r penderfyniadau a wneir am ddatblygiadau yn eu cymunedau.

Cyfathrebu â grwpiau gwahanol wrth geisio casglu syniadau, fel y bydden ni'n ei wneud gyda chi mewn clwb ieuenctid.

Dylen nhw anelu at greu cymuned well.

Cost gweithgareddau, cyfleoedd chwarae a chwaraeon

Dywedodd plant a phobl ifanc nad oeddent yn gallu manteisio ar weithgareddau, gan gynnwys celf a cherddoriaeth, chwarae a chwaraeon, oherwydd costau. Cafodd y rhain eu disgrifio fel gweithgareddau allgyrsiol weithiau. Roedd plant a phobl ifanc am allu manteisio ar y cyfleoedd hyn yn yr un ffordd â'u cyfoedion. Gwnaethant ddweud eu bod am gael gweithgareddau, cyfleoedd chwarae a chwaraeon am ddim yn eu cymunedau, am fod costau teithio hefyd yn gallu fod yn rhwystr i gymryd rhan mewn gweithgareddau cost isel/am ddim.

Dylen nhw ganolbwyntio ar fwy na sgiliau 'sylfaenol', mae gan blant yr hawl i chwarae a chael hwyl hefyd!

Cymorth ar gyfer llesiant corfforol ac emosiynol

Dywedodd plant a phobl ifanc y gall fod yn anodd cael cymorth ar gyfer eu llesiant. Lle roeddent yn rhan o grŵp/yn cael cymorth gan wasanaeth, gwnaethant ddweud eu bod am i fwy o wasanaethau lleol wrando arnynt, cydnabod eu hanghenion a bod yn gynhwysol, ac roedd hyn yn arbennig o wir am y rheini a oedd yn mynychu grŵp/gwasanaeth arbenigol mewn perthynas â nodwedd warchodedig.

Soniodd rhai pobl ifanc am bwysigrwydd cydberthnasau sy'n seiliedig ar ymddiriedolaeth yn y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio, sef gwasanaethau trydydd sector yn aml. Dywedodd pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal wrthym eu bod yn aml yn teimlo nad yw hyn ar gael iddynt, ond lle roedd ganddynt gydberthynas gadarnhaol â gweithiwr, gwnaethant ddweud:

Cymerodd amser i feithrin cydberthynas â FI, cydberthynas roeddwn i'n gallu ymddiried ynddi, a byddai bob amser yn gwneud yr hyn roedd wedi dweud y byddai'n ei wneud, a bob amser yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi. Roeddwn yn teimlo ei fod yn poeni amdana i, a fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi a fy mharchu.

Soniodd pobl ifanc hefyd am restrau aros a rhwystrau i gael gwasanaethau iechyd meddwl mwy ffurfiol.

Dywedodd plant a phobl ifanc hefyd fod mynediad at fannau gwyrdd, cyfleoedd chwarae, gweithgareddau cymdeithasol a chwaraeon yn bwysig i'w llesiant corfforol ac emosiynol.

4. Sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi

Dywedodd plant a phobl ifanc fod amgylchiadau ariannol eu teuluoedd yn effeithio ar ganfyddiadau pobl eraill ohonynt, bod diffyg dealltwriaeth o'u sefyllfa a'u bod yn gallu cael eu trin yn annheg oherwydd hyn.

Dywedodd rhai plant a phobl ifanc hefyd eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hymyleiddio a bod pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu nodweddion gwarchodedig.

Nodwyd bod addysg a hyfforddiant ar hawliau plant, gwahaniaethu a thrin pobl â thosturi yn ffyrdd posibl o wella pethau.

Teimladau yn ymwneud â stigma sy'n gysylltiedig â thlodi

Dywedodd plant a phobl ifanc hefyd eu bod yn teimlo embaras ac wedi'u stigmateiddio y tu allan i addysg oherwydd tlodi. Roedd hyn yn seiliedig ar deimladau bod sefyllfa economaidd eu teulu yn amlwg iawn.

Gorfod prynu pethau wedi'u disgowntio mewn archfarchnadoedd, gan ei bod yn llai amlwg.

Defnyddio banciau bwyd a phrynu pethau rhad, dyw hynny ddim yn deimlad da, ac mae pobl y gallu cael eu beirniadu am hynny.

Mewn rhai lleoedd, mae gwahaniaeth mawr rhwng faint o arian sydd gan bobl, ac wedyn mae'n amlwg iawn ac mae pobl yn cael eu trin yn wahanol.

Roedd rhai cynhyrchion wedi'u marcio â lliw penodol, ac roedd y lliw llachar yn bloeddio ‘edrycha arna i, rwy'n dlawd.

Efallai fod ar rai pobl ormod o ofn gofyn amdano (cymorth ariannol) er wyn osgoi'r embaras.

Teimladau yn ymwneud â stigma ym maes addysg a diffyg dealltwriaeth o dlodi

Rhannodd plant a phobl ifanc negeseuon clir â ni ynglŷn â theimlo eu bod yn cael eu stigmateiddio a'u heithrio yng nghymuned yr ysgol.  Roedd rhywfaint o hyn yn ymwneud â chost y diwrnod ysgol (gwisg ysgol, teithiau ysgol) a chost y flwyddyn ysgol, gan gynnwys gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud â dysgu, fel diwrnodau dim gwisg ysgol, promiau, ac ati.

Yn gysylltiedig â hyn roedd teimladau plant a phobl ifanc eu bod yn cael eu beirniadu a'u stigmateiddio oherwydd y ffordd y mae cymorth i ddysgwyr o aelwydydd incwm isel yn cael ei reoli. Teimlai plant a phobl ifanc fod diffyg dealltwriaeth ymysg staff ysgolion o broblemau tlodi yn aml, a bod rhai dysgwyr yn teimlo embaras neu'n cael eu bwlio gan ddysgwyr eraill am fod angen cymorth ariannol arnynt.

Yn yr ysgol hon, mae pobl yn edrych i lawr arnoch chi os ydych chi'n cael prydau ysgol am ddim ar gyfer teithiau a phethau.

Gofynnais am nwyddau mislif (yn swyddfa'r ysgol), a gwrthodon nhw gan fy mod wedi cael mislif bythefnos yn ôl. Gofynnon nhw ‘Pam wyt ti'n ei gael eto?’ Doedden nhw ddim yn deall mai gofyn ar ran ffrind oeddwn i, a ches i ddim yr help.

Dywedodd rhai pobl ifanc eu bod yn cael eu cosbi am nad oes ganddynt y wisg ysgol gywir neu'r deunydd ysgrifennu cywir am nad ydynt yn gallu eu fforddio. Gwnaethant hefyd ddweud eu bod yn cael eu cosbi am gyrraedd yn hwyr, ac nad oeddent yn cael y cyfle i esbonio pam.

Gwnaethant ddweud nad oedd athrawon yn deall y pwysau y maent yn ei wynebu. Dywedodd un person ifanc “mae jyst bod yn yr ysgol yn gyflawniad” ambell ddiwrnod, ond doedd yr athrawon ddim yn deall hyn.

Dywedodd plant a phobl ifanc wrthym fod angen hyfforddiant ar bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill er mwyn iddynt ddeall effaith tlodi ar ddysgwyr yn well. Dywedodd rhai ohonynt hefyd fod angen addysgu dysgwyr eraill er mwyn iddynt ddeall problemau tlodi yn well.

Addysg a hyfforddiant i athrawon a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda theuluoedd. Gweithdai gyda gweithwyr cymdeithasol.

Bydd pobl bob amser yn barnu. Dylai gael ei addysgu mewn ysgolion oherwydd fel arfer, bydd pobl iau yn bwlio eraill amdano.

Gwahaniaethu

Siaradodd plant a phobl ifanc hefyd am wahaniaethu a diffyg dealltwriaeth o faterion yn cynnwys ethnigrwydd, rhywioldeb, niwrowahaniaeth neu'r profiad o fod mewn gofal.

Siaradodd rhai plant a phobl ifanc Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol am hiliaeth a gwahaniaethu. Dywedodd plant a phobl ifanc sy'n geiswyr lloches fod pobl yn gwneud iddynt deimlo nad ydynt yn perthyn i gymdeithas Cymru.

Peidio â thrin pobl yn wahanol oherwydd lliw eu croen a'u crefydd.

Siaradodd pobl ifanc sy'n Sipsiwn, Teithwyr neu Roma am stigma a gwahaniaethu yn yr ysgol ac mewn cymunedau.

Dywedodd rhai pobl ifanc sydd â dyslecsia, awtistiaeth neu ADHD eu bod yn teimlo'n bryderus wrth ddelio ag asiantaethau, a gwnaethant ofyn am ddealltwriaeth well a mwy o hyblygrwydd. Roeddent am gael sgyrsiau â phobl yn hytrach na ffurflenni i'w llenwi.

Dylai fod gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymysg y cyhoedd o blant a phobl ifanc awtistig a niwrowahanol. Mae pethau wedi gwella, ond nid yn gyfan gwbl, ac mae hynny'n wir am lefel y parch hefyd. Dylai fod gwell dealltwriaeth o ferched sydd â'r nodweddion hyn hefyd. Mae angen i wybodaeth fod yn fwy amlwg.

Dywedodd pobl ifanc eu bod yn teimlo'n anghysurus wrth gael eu labelu fel rhai 'anghenus', p'un a oedd hynny am eu bod yn dlawd neu am fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol. Gwnaethant ddweud ei bod yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu bychanu a chywilydd, a'i bod yn effeithio ar eu hunan-barch a'u gallu i siarad i fyny drostynt eu hunain.

Dywedodd pobl ifanc LHDTC+ fod pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail eu rhywioldeb.

Cael eu clywed mwy, a pheidio â chael eu labelu'n rhywbeth dydyn nhw ddim am fod.  Ddylen nhw ddim cael eu barnu am y ffordd maen nhw'n teimlo ac os ydyn nhw'n hoyw neu'n lesbiaidd, dylen nhw deimlo'n dda m hynny.

Teimlai pobl ifanc â phrofiad o fod yn ddigartref neu gamddefnyddio sylweddau eu bod yn cael eu stigmateiddio a'u trin yn wael gan wasanaethau oherwydd eu profiadau.

Dywedodd pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal eu bod yn cael eu beirniadu a'u labelu.

Rwy'n teimlo fel nad ydw i'n werth yr ymdrech, yna rwy'n cael fy labelu fel rhywun sy'n anodd ymwneud ag ef.

Soniodd plant a phobl ifanc am y gwahaniaeth y gall ei wneud pan fyddant yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u parchu.

Pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, byddan nhw'n gwerthfawrogi eu hunain.

Addysgu a chodi ymwybyddiaeth er mwyn helpu staff i ddeall y materion

Teimlai plant a phobl ifanc fod llawer o'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi yn deillio o'r ffordd y mae pobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau yn siarad ac yn ymddwyn. Roedd hyn yn wir ym mhob gwasanaeth, ond gan fod llawer o blant a phobl ifanc yn treulio llawer o'u hamser mewn lleoliadau addysg, roedd pwyslais ar brofiadau mewn ysgolion.

Dywedodd plant a phobl ifanc wrthym eu bod yn credu y dylai pobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau gael hyfforddiant, gweithdai a gwybodaeth er mwyn iddynt feithrin dealltwriaeth well o faterion cydraddoldeb a dealltwriaeth, effaith tlodi plant, a'r ffyrdd y gall hyn effeithio ar allu plant a phobl ifanc i arfer eu hawliau.

Parchu cefndir teuluoedd a cheisio helpu teuluoedd mewn tlodi yn hytrach na'u hamharchu.

Addysgu pawb am sut i drin pobl.

Peidio â thrin pobl yn wahanol oherwydd lliw eu croen a'u crefydd.

Rhoi hyfforddiant iddyn nhw ar hawliau plant.

Dywedodd plant a phobl ifanc hefyd fod angen gwaith i'w helpu i gael eu clywed ac i gael llais fel ffordd o oresgyn yr embaras a'r stigma sy'n gysylltiedig â gofyn am help. 

Defnyddio cyfranogiad a hawliau plant fel ffordd o rymuso pobl ifanc.

Yr hyn y dywedodd rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau wrthym

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ddiolchgar iawn i'r rhieni, y gofalwyr a'r neiniau a'r teidiau a roddodd o'u hamser i fynd i ddigwyddiadau a siarad am yr hyn a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddyn nhw a'u teuluoedd. 

Gweithiodd sefydliadau a hwylusodd y gwaith ymgysylltu hwn ar ein rhan gyda phlant a phobl ifanc mewn nifer o ffyrdd.

  • Gwnaethom gomisiynu EYST, Race Council Cymru a Women Connect First i gynnig digwyddiadau ymgysylltu i deuluoedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ac fel rhan o'r gwaith hwnnw, gwnaethant ymgysylltu â 71 o rieni/gofalwyr drwy gyfweliadau a grwpiau ffocws.
  • Ymgysylltodd grwpiau cymunedol a sefydliadau y rhoddwyd grantiau bach iddynt er mwyn ymgysylltu â theuluoedd â nodweddion gwarchodedig, â 757 o rieni a gofalwyr, gan gynnwys rhieni/gofalwyr sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, rhieni/gofalwyr sy'n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid, menywod sy'n rhieni unigol a rhieni/gofalwyr plant anabl a niwrowahanol neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Cafodd y gwaith hwn ei wneud mewn nifer o ffyrdd, drwy grwpiau sy'n bodoli eisoes a digwyddiadau ymgysylltu pwrpasol, ac fel rhan o sesiynau gweithgareddau i deuluoedd.
  • Dyfarnwyd grantiau Llywodraeth Cymru i Gynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol lleol drwy gynllun a weinyddwyd gan CGGC ar ein rhan er mwyn ymgysylltu â theuluoedd ac aelodau cymunedau, ac fel rhan o’r gwaith hwn, gwnaethant ymgysylltu â 501 o rieni/gofalwyr, 293 o neiniau a theidiau a 26 o hen neiniau a theidiau ar ein rhan.

Rhannwyd Fframwaith Trafod (Atodiad B) a fersiwn Hawdd ei Deall (Atodiad C) â’r sefydliadau hyn, a defnyddiodd y sefydliadau wahanol ddulliau i rannu'r pedwar maes trafod â'r bobl a gymerodd ran yn y gweithgarwch ymgysylltu.

Ar gyfer pob un o'r meysydd hyn, gofynnwyd i bob un o'r grwpiau ystyried “Beth yw'r tri pheth a fyddai'n  gwneud y gwahaniaeth mwyaf i blant a'u teuluoedd, nawr ac yn y dyfodol?” Roedd eu hymatebion yn amrywio o addysg, cymorth i deuluoedd a phlant, mwy o incwm, cyllid cyhoeddus, parch, gwasanaethau hygyrch i amrywiaeth a chynhwysiant a stigma, ymhlith eraill.

1. Lleihau costau a chynyddu incwm teuluoedd er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael digon o gymorth ariannol a pherthnasol i ddiwallu eu hanghenion

Daeth nifer o themâu cyffredin i'r amlwg yn y dystiolaeth a gasglwyd gan rieni/gofalwyr, a neiniau a theidiau drwy'r gweithgarwch ymgysylltu, mewn perthynas â lleihau costau a chynyddu incwm. Roedd pwysigrwydd mentrau lleol sy'n cynnal dewis ac urddas yn thema glir.

Dywedodd rhieni/gofalwyr wrthym fod nifer o bethau sy'n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw a'u teuluoedd. Cynyddu'r isafswm incwm a lefelau budd-daliadau yn gyson, a mwy o gymorth i fanteisio ar fudd-daliadau i'r rhai sy'n gweithio a'r rhai sy'n ddi-waith.

Gwnaethant hefyd gyfeirio at bwysigrwydd mwy o gynlluniau lleol sy'n helpu pobl i leihau costau aelwydydd a bod y rhain yn cynnig cymorth hanfodol i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Ymhlith yr enghreifftiau a roddwyd roedd prosiectau bwyd fel pantrïoedd ac oergelloedd cymunedol, a mentrau economi gylchol eraill. Ymhlith awgrymiadau eraill roedd prydau am ddim i blant yn ystod gwyliau'r ysgol.

Costau byw

Dywedodd rhieni/gofalwyr a neiniau a theidiau ei bod hi'n anodd ymdopi â phrisiau cynyddol bwyd a thanwydd, gan gyfeirio at gostau tai, costau trafnidiaeth ac allgau digidol.

Gofynnodd llawer o rieni/gofalwyr am fwy o gymorth ariannol uniongyrchol a nwyddau am ddim i'w helpu i ymdopi â chostau byw.

Pa fudd-daliadau/cymorth sydd ar gael i deulu lle mae un rhiant yn fyfyriwr a'r llall yn gweithio'n llawn-amser.  Rydyn ni'n ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol oherwydd allwn ni ddim cael budd-daliadau (e.e. gofal plant di-dreth) am fod fy ngŵr yn fyfyriwr ac, felly, yn cael grant gofal plant. Ond rydyn ni'n dal i'w chael hi'n anodd talu'r bil o £1000+ bob mis.

Dylai'r llywodraeth gamu i'r adwy drwy orfodi cwmnïau ynni i leihau prisiau nwy a thrydan, ddylen nhw ddim fod yn gwneud y lefelau uchaf erioed o elw tra bod pob un ohonon ni ei chael hi'n anodd ymdopi.

Mae angen mwy o arian ar bobl, a dylid rhoi'r gorau i dorri cyllid gan wasanaethau.

Fel mam i dri, yr hyn sydd ei angen arna i mewn gwirionedd yw mwy o help/cymorth ariannol tuag at gostau dillad, gwresogi, a helpu i dalu'r rhent eithafol o £800 y mis.

Beth fyddai'n well gennych chi ei wneud, rhoi bwyd sothach i'ch plant, neu ddim byd o gwbl? Mae fy mhlentyn yn gwrthod bwyta llysiau, oherwydd dyw e ddim wedi arfer eu cael. Rwy'n ei chael hi'n anodd rheoli fy mhwysau fy hun oherwydd dim ond bwyd afiach rwy'n gallu ei fforddio.

Dywedodd rhieni/gofalwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ac, yn benodol, rhieni/gofalwyr sy'n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid, wrthym y gall fod yn anodd iawn iddynt gael arian i dalu costau bwy a bod angen mwy o gymorth ariannol.

Dywedodd rhieni fod y costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â phlentyn sydd ag anghenion ychwanegol neu anghenion ychwanegol cymhleth yn rhoi pwysau eithriadol ar gyllid aelwydydd. Mae hyn yn ei gwneud hi'n arbennig o anodd ymdopi â chostau byw.

Siaradodd pobl sy'n ofalwyr sy'n berthnasau neu sydd â chyfrifoldebau gofalu eraill am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar eu gallu i dalu costau byw a'r angen am fwy o gymorth ariannol.

Mwy o gymorth i deuluoedd anrhaddodiadol, fel teuluoedd lle mae neiniau a theidiau/brodyr a chwiorydd yn gyfrifol am blant. Cymorth ac arweiniad ariannol, grwpiau cymorth, ac ati.

Soniodd rhieni unigol, yr oedd y mwyafrif ohonynt yn fenywod, hefyd am y caledi ariannol sy'n gysylltiedig â bod yn aelwyd un rhiant, yn enwedig mewn perthynas â phethau fel costau tai a chyfleustodau.

Rwy'n aros mewn llety i'r digartref gyda fy mabi. Mae bywyd digartref yn fforddiadwy (dim biliau), mae cael cartref yn rhy ddrud ac mae'n amhosibl sicrhau sefydlogrwydd, ond ddylai pethau ddim fod fel hyn.

Costau addysg: Siaradodd rhieni/gofalwyr am heriau costau ysgol a chost mynd â'u plant a'u pobl ifanc i weithgareddau ac allgau digidol.

Mae'r rhyngrwyd yn hawl. Dyw dyfeisiau ddim yn ddigon, mae angen Wi-Fi, data, y rhyngrwyd, hyfforddiant a chymorth arnoch chi hefyd.

Gweithgareddau rhad neu am ddim i fy mhlant yn yr ardal leol. Dim ffordd o gyrraedd canol y ddinas.

Roedd cost ac argaeledd trafnidiaeth i fanteisio ar gyfleoedd dysgu, gwasanaethau a gweithgareddau hefyd yn thema, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Roedd cost gwisg ysgol a dillad chwaraeon yn un o'r prif themâu a ddaeth i'r amlwg ymysg rhieni sy'n gweithio/teuluoedd incwm isel sy'n gweithio, ynghyd â'r stigma sy'n gysylltiedig â hynny. Roedd rhieni'n sylweddoli y gallai eu plant gael eu bwlio, eu hanfon gartref, neu eu gwahardd pe baent yn mynd i'r ysgol yn y wisg ysgol anghywir, neu mewn gwisg fudr/heb ei golchi. Fodd bynnag, mae cost gwisg ysgol a defnyddio peiriant golchi, os oes un ar gael i'r teulu, yn golygu y gall fod yn anodd iawn sicrhau bod plant yn gwisgo'r wisg a ddisgwylir, a bod y wisg honno'n lân, bob dydd.

Cyfeiriodd rhieni/gofalwyr a neiniau a theidiau am bwysigrwydd Prydau Ysgol Am Ddim, a gwnaethant ddweud bod darpariaeth gyffredinol yn lleihau'r stigma a bod angen cymorth arnynt pan fydd eu plant yn yr ysgol uwchradd, nid dim ond yn yr ysgol gynradd.

Mae angen ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, a dylai gynnwys brecwast a chinio. Dyw'r terfyn presennol ddim yn ddigon i blant gael bwyd yn ystod egwyliau.

Soniodd rhieni/gofalwyr hefyd am gost teithiau ysgol a diwrnodau arbennig yn yr ysgol, fel diwrnod dim gwisg ysgol neu ddiwrnod pan fydd pawb yn gwisgo dillad penodol (e.e. diwrnod Siwmperi Nadolig). Dywedodd rhai rhieni eu bod yn cadw eu plant adref o'r ysgol ar y dyddiau hyn am na allant fforddio prynu'r dillad 'cywir' iddynt ac nad ydynt am i'w plant deimlo embaras neu gael eu bwlio oherwydd hyn. Soniodd rhai rhieni hefyd am gostau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm.

Llai o bwysau gan ysgolion ar rieni o ran ymrwymiadau ariannol, mae gwersi TGAU coginio yn costio £2 i £3 yr wythnos ar gyfartaledd dros gyfnod y cwrs.

Cyngor

Siaradodd rhieni/gofalwyr a neiniau a theidiau am gymhlethdod a heriau defnyddio'r system budd-daliadau, gwybod beth yw eu hawliau a manteisio arnynt, cael gafael ar gredyd fforddiadwy, rheoli dyledion a lleihau costau. Gwnaethant hefyd ddweud eu bod yn gwerthfawrogi cyngor wyneb yn wyneb gan bobl y maent yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt.

Ei gwneud hi'n haws cael budd-daliadau ac annog y rheini a allai gael budd ohonyn nhw i fanteisio arnyn nhw.

Gormod o geisiadau mynych am dystiolaeth, dylai tystiolaeth y meddyg fod yn ddigon. Maen nhw'n beirniadu pob manylyn lleiaf, ac mae hyn yn gwastraffu adnoddau. Doeddwn i ddim yn gallu cael PIP er nad ydw i'n gallu cerdded.

Byddai mynediad gwell at wybodaeth, a gwybodaeth well yn galluogi pobl i weld a oes ganddyn nhw hawl i gael cymorth ariannol ac i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â'u sicrwydd ariannol.

Helpu i gefnogi teuluoedd drwy wneud gwaith allgymorth traddodiadol ac ennyn ymddiriedaeth ar sail canlyniadau.

Mae ein sgôr credyd yn ofnadwy.  Pan oedd angen peiriant golchi newydd arnon ni, doedden ni ddim yn gallu cael cynllun talu i brynu un, a doedd gennym ni ddim unrhyw gynilion i dalu'r gost. Roedd yn rhaid i mi ofyn i fy rhieni am fenthyciad. Nawr mae'n rhaid inni dalu hwn yn ôl. Rwy'n adnabod cymaint o bobl yr un sefyllfa, rydych chi bob amser yn poeni bod rhywbeth yn mynd i fynd o'i le.

Siaradodd rhai o'r teuluoedd y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt am ba mor bwysig ydyw bod gwybodaeth ar gael mewn ieithoedd eraill, gan fod hyn yn hanfodol i feithrin dealltwriaeth llawer o deuluoedd yn ogystal â'r gwasanaethau sy'n ymwneud â nhw. Cymerodd rhieni/gofalwyr sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr ran yn y gweithgarwch ymgysylltu, ac fel rhan o hynny, dywedodd rhieni/gofalwyr sy'n Sipsiwn neu Deithwyr fod lefelau isel o lythrennedd ac allgau digidol yn golygu ei bod hi'n anodd deall a chael gafael ar wybodaeth a chyngor sydd ar ffurf ysgrifenedig, ar-lein neu all-lein, ac nad yw'n diwallu eu hanghenion.

Dywedodd llawer o rieni/gofalwyr fod gwendidau'r system nawdd cymdeithasol bresennol yn un o'r ffactorau sy'n eu hatal rhag gallu codi allan o dlodi. Dywedodd teuluoedd nad oedd ganddynt ddigon o arian ar y pryd i dalu am yr hanfodion ac er eu bod am gynilo, nad oedd ganddynt unrhyw fodd ariannol i wneud hynny.

Mae'r cymorth yn dod pan nad does gan bobl ddim byd ar ôl, pan fyddan nhw mewn tlodi yn barod, yn hytrach na chyn hynny. Efallai fod gan bobl swyddi da ond maen nhw'n ei chael hi'n anodd ymdopi; ofn cysylltu â llywodraeth leol oherwydd does dim unrhyw gymorth os ydych chi'n ennill mwy na swm penodol, ond efallai fod angen mathau eraill o gymorth.... Cymryd yn ganiataol os yw pobl yn gweithio, nad ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd ymdopi. Disgwyl bod angen i bobl ddefnyddio eu cynilion i gyd cyn bod ganddyn nhw hawl i gael cymorth.

2. Creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael digon o gymorth ariannol a pherthnasol i ddiwallu eu hanghenion a'u galluogi i wireddu eu potensial

Dywedodd rhieni/gofalwyr fod angen y cymorth cywir i gael cyflogaeth, gwaith teg â chyflog da. Gwnaethant hefyd gyfeirio at y rhwystrau i gyflogaeth ac i sicrhau bod gwaith yn talu.

Cymorth i gael gwaith teg: Siaradodd rhieni/gofalwyr am yr heriau a wynebir gan bobl ifanc ac oedolion sy'n ymuno â'r farchnad lafur neu'n camu ymlaen ynddi.

Dywedodd rhai rhieni/gofalwyr fod angen cysylltiadau gwell rhwng yr ysgol, y coleg a gwaith. Gwnaethant ddweud bod angen mwy o gymorth ar bobl ifanc mewn perthynas â sgiliau trosglwyddadwy a llwybrau dysgu anacademaidd.

Sgiliau/gwaith ymarferol yn cael eu gwerthfawrogi cymaint â swyddi seiliedig ar wasanaeth/sgiliau academaidd. Cyfleoedd drwy addysg a thu hwnt i ddatblygu sgiliau ymarferol a chael cyflog da amdanyn nhw. Cyfleoedd gyrfa clir drwy brentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith.

Roedd rhieni/gofalwyr plant ag anghenion dysgu ychwanegol, plant anabl a phlant niwrowahanol yn poeni'n benodol na fyddai eu plant yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt i gamu ymlaen i waith, ac y byddent yn wynebu rhwystrau i gael gwaith o ganlyniad i wahaniaethu.

Teimlo bod eich plentyn/person ifanc yn dal i gael ei werthfawrogi a'i ddeall wrth greu lleoliadau galwedigaethol addysgol. Does dim addysg ar gael i'r rheini dros 19 oed os oes ganddyn nhw anghenion cymhleth a dyw llawer ddim yn gymwys i fynychu'r coleg o gwbl.

Roedd rhieni Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn poeni am y blwch cyrhaeddiad i blant ac am lwybrau gyrfa, yn enwedig i bobl ifanc sy'n geiswyr lloches.

Ffyrdd haws eu deall a gwell yn ariannol o ddilyn llwybrau addysg ôl-16. Yn enwedig i bobl ifanc sy'n geiswyr lloches nad oes ganddyn nhw hawl i gyllid cyhoeddus ar gyfer addysg. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl mewn limbo, yn bryderus ac yn teimlo'n isel am nad ydyn nhw'n gallu parhau i ddatblygu wrth aros am brosesau fewnfudo.

Dywedodd rhieni/gofalwyr wrthym hefyd am yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio ymuno â'r farchnad lafur oherwydd diffyg profiad i ddangos eu bod yn bodloni meini prawf y swydd.

Gofynion mynediad is. Sut gall pobl ifanc gael cyfleoedd os ydyn nhw'n gofyn am brofiad? Dylai sefydliadau gyflogi pobl ifanc er mwyn rhoi profiad iddyn nhw, heb ofyn am brofiad.

Dywedodd rhieni/gofalwyr hefyd fod angen mwy o gymorth ar gyfer y rheini sy'n wynebu anfantais benodol wrth geisio cael cyflogaeth a chamu ymlaen mewn cyflogaeth o ganlyniad i wahaniaethu ar sail eu nodweddion gwarchodedig, fel anabledd neu ethnigrwydd.

Ehangu cyfleoedd, a chreu cyfleoedd gyrfa, cyfleoedd am swyddi/cyflogaeth a chyfleoedd addysgol/hyfforddiant i bobl sy'n wynebu rhwystrau ieithyddol neu economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â chyfleoedd i'r rheini ag anabledd.

Siaradodd rhieni/gofalwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol hefyd am yr heriau a'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu i sicrhau gwaith teg â chyflog byw. Roedd hyn yn cynnwys yr angen am fwy o gyfleoedd i gael hyfforddiant a meithrin sgiliau i'w helpu i gamu ymlaen mewn gyrfa.

Mae angen mwy o gyfleoedd am swyddi i rieni, yn enwedig rhieni unigol, a gofal plant rhatach neu gymorth gyda chostau gofal plant, er mwyn eu helpu i ddychwelyd i'r gwaith. A mwy o hyfforddiant yn y gwaith yn hytrach na bod cyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â'r cymwysterau a'r profiad yn barod. Mwy o gyfleoedd i oedolion sydd wedi cyrraedd y wlad yn ddiweddar i astudio ymhellach a fydd yn eu helpu i gael gwaith. Pan na all rhieni weithio, mae gan blant ddyheadau isel, ac oherwydd hynny, does ganddyn nhw ddim y cymhelliant i wireddu eu potensial yn llawn. Mae plant yn dioddef yn anuniongyrchol pan nad oes gan rieni swydd â thâl.

Cymerodd rhieni/gofalwyr sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr ran yn y gweithgarwch ymgysylltu, a dywedodd rhieni/gofalwyr sy'n Roma wrthym fod angen cymorth i feithrin sgiliau pobl ifanc ac oedolion a'u helpu i sicrhau cyflogaeth.

Mae angen amrywiaeth ehangach o gyfleoedd gwaith ymarferol (ar bobl ifanc). Mae hyn hefyd yn wir am gyfleoedd dysgu ymarferol er mwyn i oedolion allu uwchsgilio a chamu ymlaen o'u profiadau gwaith blaenorol.

Dywedodd rhieni/gofalwyr hefyd fod angen cymorth ar bobl ifanc ac oedolion i feithrin hunan-barch, er mwyn iddynt deimlo'n fwy hyderus i ddechrau gweithio a chael cymorth i gamu ymlaen ar ôl iddynt gael cyflogaeth.

Cymorth cyflogaeth i gynnwys goresgyn rhwystrau fel diffyg hunan-barch a hyder, a darparu'r amgylchedd a'r profiadau cywir, a'r cymorth cywir gan gymheiriaid. Meddwl y tu allan i'r bocs wrth edrych ar sgiliau trosglwyddiadau.

Dylai cyflogaeth fod yn llwybr allan o dlodi, ond pan does gennych chi ddim dewis ond gwneud swydd sy'n talu'r isafswm, ac mae eich cyflog i gyd yn mynd ar filiau a gofal plant, rydych chi'n cwestiynu beth yw'r pwynt. Byddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i ddysgu rhywbeth newydd a dod o hyd i waith mwy gwerth chweil sy'n talu'n well, ond mae popeth yn costio a does gennym ni ddim yr arian.

Dim ond i bobl mewn gwaith y mae llawer o raglenni cyflogaeth ar gael. Mae hyn yn golygu mai cyfleoedd cyfyngedig iawn sydd ar gael i rieni sydd am ddatblygu sgiliau newydd er mwyn camu ymlaen yn y gweithle neu newid gyrfa. 

Rhwystrau i sicrhau bod gwaith yn talu

Nodwyd bod mynediad at ofal plant a thrafnidiaeth fforddiadwy yn rhwystrau i weithio, neu sicrhau bod gwaith yn talu. Nodwyd hefyd fod angen amodau gweithio a chyflog sy'n golygu bod gweithio yn ariannol hyfyw.

Siaradodd rhai rhieni/gofalwyr am rwystrau i ymuno â'r farchnad lafur, a chyfeiriodd rhai at yr heriau sy'n gysylltiedig â sicrhau gwaith sy'n talu digon i godi eu teuluoedd allan o dlodi.

Dywedodd rhieni unigol yn benodol, yr oedd y mwyafrif ohonynt yn fenywod, ei bod hi'n anodd sicrhau gwaith y gallant ei gydbwyso â gofalu am eu plant ac sy'n talu digon i'w codi allan o dlodi ar ôl costau. Roeddent yn teimlo y byddai amodau gweithio gwell gydag oriau penodol, tâl salwch a gwyliau yn eu galluogi i weithio mwy ac yn rhoi hyder iddynt wneud hynny.

Rwy'n rhiant unigol a byddwn i'n waeth fy myd [mewn gwaith] oherwydd rhent, y dreth gyngor, ac ati,  a byddai angen mwy o help arna i o ran fy iechyd meddwl.

Hyd yn oed os yw rhiant unigol yn cael swydd, mae'n rhaid inni dalu rhent, y dreth gyngor, cinio ysgol, felly rydyn ni'n waeth ein byd, hyd yn oes os oes gennych chi bartner. Oni bai bod y swyddi'n talu'n dda, rydych chi'n dal i fod yn yr un sefyllfa.

Dywedodd rhieni/gofalwyr sy'n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid wrthym fod rheolau yn ymwneud â chaniatâd i weithio yn cael effaith enfawr ar eu bywydau nhw a'u teuluoedd.

Dywedodd rhieni/gofalwyr mai dim ond gwaith tymhorol â chyflog isel, heb oriau wedi'u gwarantu (dim oriau) na fawr ddim hyblygrwydd y gallent ei wneud. Roedd hyn yn broblem arbennig i rieni unigol.  Roeddent yn teimlo y byddai amodau gweithio fel oriau penodol, tâl salwch a gwyliau yn eu galluogi i weithio mwy ac yn rhoi hyder iddynt wneud hynny.

Dywedodd rhieni eraill ei bod hi'n anodd sicrhau bod gwaith yn talu oherwydd costau byw.

Fi yw'r unig un sy'n ennill cyflog yn fy nghartref, yn rhan-amser. Dyw fy ngŵr ddim yn gallu gweithio ond does ganddo ddim hawl i gael budd-daliadau. Allwn ni ddim dod o hyd i unrhyw beth i'n helpu, rydyn ni'n mynd drwy broses tribiwnlys ffurfiol ac mae'n anodd.

Rwy'n gweithio, dechreuais wirfoddoli a nawr rwy'n gweithio fel gweithiwr cymorth. Does dim pwynt imi gynyddu fy oriau oherwydd bydd y cyfan yn mynd ar dreth a bydda i'n waeth fy myd.  Mae'r cymorth gyda chostau trydan a nwy yn dod i ben nawr, felly dydw i ddim yn gwybod sut byddwn ni'n mynd i allu talu ein biliau.

Mae costau'n fwy nag incwm. Rydyn ni'n byw i weithio yn hytrach na gweithio i fyw, ac mae hyn yn effeithio ar fagwraeth a datblygiad plant o fewn y teulu.  Mae biliau yn uchel ac incwm yn isel, ac mae bywyd yn anodd.  Biliau rhatach, mwy fforddiadwy. Mae angen cynyddu budd-daliadau os na allwch chi ddychwelyd i'r gwaith. Dim arian i fwynhau bywyd.

Rwy'n gweithio 15 awr, alla i ddim gwneud mwy neu bydda i'n waeth fy myd. Mae'r arian i gyd yn mynd i dalu'r biliau. Rydyn ni'n deulu o 7. Roeddwn i wedi llwyddo i leihau fy nyledion ac roedd cynllun y gaeaf a'r gronfa ynni wedi helpu yn hyn o beth, ond nawr bod y cymorth hwn yn dod i ben, dydw i ddim yn siŵr sut byddwn ni'n ymdopi.  Mae'r plant yn bwyta llawer felly mae'n anodd gwneud i fwyd bara, ac mae arian yn mynd mor gyflym!

Dywedodd rhai rhieni/gofalwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol eu bod yn gweithio oriau hir a gwaith shifft er mwyn ceisio ennill digon o arian, a bod hyn yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd eu teulu.

Trafnidiaeth

Dywedodd llawer o rieni/gofalwyr a neiniau a theidiau wrthym y gallai argaeledd a chost trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhwystr i ddysgu, hyfforddi a gweithio. Gwnaethant ddweud bod angen lleihau costau teithio, yn enwedig i'r gwaith ac oddi yno.

Trafnidiaeth fforddiadwy i bawb er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl gyrraedd gwasanaethau, cyflogaeth a hyfforddiant.  

Bydd trafnidiaeth am ddim i blant a phobl ifanc dan 18 oed a theuluoedd mewn tlodi yn helpu i wella mynediad at gyfleoedd a lleihau rhwystrau i gyflogaeth, yn enwedig i'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig lle mae llai o gyfleoedd cyflogaeth lleol.

Mwy o gymorth i deuluoedd sy'n gweithio nad ydyn nhw'n ennill digon i ymdopi'n ariannol. Mae fy wyres yn gwario'r rhan fwyaf o'i chyflog ar docynnau bws, gan ei bod hi'n mynd ar y bws sawl gwaith y dydd, er mwyn mynd â'r plant i'r ysgol a mynd i'r gwaith, a dod i fy ngweld i.

Gofal plant

Dywedodd llawer o rieni/gofalwyr wrthym fod diffyg gofal plant fforddiadwy yn rhwystr mawr i gael cyflogaeth a chamu ymlaen mewn cyflogaeth, a dywedodd rhieni eu bod, er gwaethaf eu hawydd i weithio mwy o oriau, yn teimlo nad oedd ganddynt unrhyw ddewis ond parhau mewn gwaith rhan-amser am resymau ariannol. Siaradodd rhieni/gofalwyr hefyd am heriau dod o hyd i ofal plant ar gyfer plant hŷn, a'r angen am ofal cofleidiol cyn ac ar ôl yr ysgol ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

Gall costau gofal plant ei gwneud hi'n anodd i rieni/gofalwyr sicrhau bod gwaith yn talu, ac roedd hyn yn arbennig o wir am rieni unigol.

Gofal plant sy'n fy rhwystro i ennill fy arian fy hun.

Mae diffyg cyfleoedd cyflogaeth yn golygu cyflogau isel; mae hyn yn golygu bod rhieni unigol yn well eu byd allan o waith, a bod costau gofal plant a thrafnidiaeth y golygu nad ydyn nhw'n gallu dychwelyd i'r gwaith.

O ran y rhieni/gofalwyr hynny a oedd yn gweithio, roedd costau gofal plant yn rhoi straen ar incwm y teulu ac yn gallu bod yn rhwystr i gamu allan o waith rhan-amser.

Rwy'n gweithio am ddim byd; ar ôl talu costau gofal plant, does dim byd ar ôl. Rydyn ni'n defnyddio'r arian hwnnw i dalu am ofal plant ac mae cyflog fy ngŵr yn ddigon i dalu'r morgais a chostau hanfodion. Does dim byd ar ôl ar gyfer unrhyw beth arall. Rwy'n teimlo fy mod yn colli allan ar flynyddoedd cynnar fy mhlentyn, ond mae angen imi barhau i weithio gan fod hynny'n bwysig i mi.

Mor gynnar â 9 mis oed oes yw rhieni'n mynd yn ôl i weithio neu hyfforddi ar gyfer gwaith. Dau ddiwrnod llawn yr wythnos ac nid 2.5 awr y dydd. Byddai'n fy ngalluogi i ddechrau swydd 16 awr yr wythnos. Gofal plant sy'n fy rhwystro i ddatblygu ac ennill arian ar gyfer fy nheulu. Does gen i ddim teulu i helpu, ac rwy'n gwneud hyn ar fy mhen fy hun.

Dywedodd rhai rhieni/gofalwyr a neiniau a theidiau hefyd fod gorddibyniaeth ar aelodau o'r teulu am ofal plant yn effeithio ar gydberthnasau ac yn rhoi pwysau ar neiniau a theidiau.

Dywedodd rhieni/gofalwyr â phlant anabl, plant ag anghenion ychwanegol neu blant â chyflyrau iechyd fod cael gafael ar ofal plant yn arbennig o anodd o ran dod o hyd i le fforddiadwy sy'n diwallu anghenion eu plentyn.

Dim ond lleoedd i blant hyd at 12 oed y mae lleoliadau gofal plant yn eu cynnig, ond mae angen i lawer o blant ag ADY dderbyn gofal yn ystod y gwyliau/y tu allan i oriau'r ysgol pan fyddant yn hŷn na hyn.

Dyw gwarchodwyr plant ddim yn gallu diwallu anghenion plant ag anghenion cymhleth.

Dywedodd rhieni y byddai darparu gofal plant am ddim sy'n diwallu anghenion plant anabl yn fuddiol tu hwnt. Roeddent hefyd yn teimlo bod angen cyflwyno pasys bws am ddim i blant a'u gofalwyr er mwyn sicrhau nad yw plant anabl yn colli allan ar gyfleoedd addysgol ac allgyrsiol, nac apwyntiadau meddygol.

3. Cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell

Dywedodd rhieni/gofalwyr a neiniau a theidiau wrthym am bwysigrwydd gwasanaethau cymunedol lleol, gweithgareddau i deuluoedd a mynediad at fannau agored. Gwnaethant sôn am bwysigrwydd gwrando ar bobl sy'n byw mewn cymunedau er mwyn deall yr hyn sy'n bwysig iddynt.

Gwrando ar bobl

Dywedodd rhieni/gofalwyr wrthym eu bod am i wasanaethau ymgysylltu â nhw yn eu cymunedau ac nad ydynt bob amser yn teimlo eu bod yn gwrando arnynt, a gwnaethant hefyd sôn am bwysigrwydd gwrando ar bobl ifanc.

Dyw 99% o'r bobl o'r cyngor sir (a gwasanaethau statudol eraill) byth yn dod i'r ystâd. Mae angen mwy o ymgysylltu wyneb yn wyneb, ac mae angen gwrando ar bobl, eu trin yn gyfartal a gwrando ar eu profiadau.

Gwneud yn siŵr bod gan bobl ifanc lais, a'n bod yn dathlu cyflawniadau pobl ifanc sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.

Y llywodraeth/cynghorau yn gofyn i'r gymuned beth rydyn ni am ei gael a beth sydd ei angen arnon ni. Cyn heddiw, does neb byth wedi gofyn i mi.

Soniodd rhieni/gofalwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol am bwysigrwydd gwrando fel sail i gydberthnasau sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, yr angen am gymhwysedd diwylliannol a'r angen i ddeall rhwystrau ieithyddol a darparu ar eu cyfer. 

Gwasanaethau yn rhoi o'u hamser i siarad mwy â phobl a gwrando mwy arnyn nhw. Mae siarad â phobl yn ffordd llawer gwell o gysylltu â phobl ac ennyn ymddiriedaeth rhwng pobl a gwasanaethau. Gall hyn gynnwys mynd yr ail filltir i sicrhau cyfathrebu priodol drwy gyfieithwyr wrth i bobl sydd wedi dod i Gymru yn ddiweddar ddechrau ar eu taith i ddysgu Cymraeg/Saesneg.

Mae llawer o deuluoedd yn fewnfudwyr cenhedlaeth gyntaf neu ail genhedlaeth, ac mae gan lawer o'u hanwyliaid anableddau dysgu. Ar wahân i'r stigma diwylliannol sy'n gysylltiedig â hyn a chael cymorth, maen nhw wedi dod o ddiwylliant lle nad yw hawliau personol yn cael eu hyrwyddo, felly mae'n cymryd amser, ymddiriedaeth a pharch tuag at natur unigryw'r cymunedau i  chwalu'r rhwystrau hyn. Yn aml, mae cymunedau nad ydyn nhw'n Wyn yn cael eu labelu'n annefnyddiol gan ddefnyddio termau ambarél fel BAME, nad ydyn nhw bob amser yn parchu amrywiaeth barn y cymunedau hyn nac yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau fel diffyg cymorth a thlodi.

Dywedodd rhieni/gofalwyr â phlant anabl neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd nad ydynt yn teimlo bod neb yn gwrando arnynt wrth ddefnyddio gwasanaethau.

Mae rhieni yn aml yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnyn nhw a bod gweithwyr proffesiynol yn edrych i lawr arnyn nhw pan fyddan nhw'n cyfarfod â nhw. Mae rhieni'n teimlo y byddai cydberthnasau'n gwella pe bai mannau diogel ar gael, lle nad oedden nhw'n teimlo dan fygythiad.

Cymunedau

Soniodd llawer o rieni/gofalwyr am bwysigrwydd cymorth yn y gymuned a chynnwys y gymuned wrth ddatblygu cynigion lleol i gefnogi iechyd a llesiant.

Mwy o ganolfannau cymunedol, a mynediad ehangach. Ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Gallai hyn helpu i ddod â mwy o bobl at ei gilydd ac annog y gymuned i fod yn rhan o'r gwaith o redeg pethau. Addysgu pobl i ddatrys problemau drostyn nhw eu hunain cyhyd a bod yr holl wybodaeth i'w helpu a'u cefnogi wrth law.

Mwy o allgymorth yn y gymuned fel bod pobl yn defnyddio drws ffrynt niwtral i gael gwasanaethau a chymorth.

Mae swyddfeydd y cyngor yn teimlo'n ffurfiol ac yn ddigroeso; hyd yn oed os oes gen i reswm dros fod yno, rwy'n teimlo fy mod yn cael fy monitro. Dydyn ni ddim wedi bod i rai o'r digwyddiadau maen nhw wedi eu cynnal i deuluoedd gan eu bod nhw wedi eu cynnal yno yn hytrach na dod allan i'r gymuned.

Help yn y gymuned, adnoddau hygyrch a chyfathrebu haws ar gyfer adnoddau.

Mentrau mewn cymunedau lleol sy'n cael eu cynnal gan bobl sy'n deall yr heriau.

Canolfannau cymunedol ym mhob cymuned ac annog pawb i chwarae mwy o ran. Gofalu am eich ardal leol. Datrys eich problemau eich hun fel cymuned os oes modd. 

Mwy o hybiau cymunedol i deuluoedd a phlant. Gallai gweithwyr yr hybiau hyn fod yn bwynt cyswllt ar gyfer teuluoedd a'u cymorth. Cefnogi ein canolfannau cymunedau lleol, maen nhw'n hanfodol i deuluoedd.

Dywedodd rhai rhieni/gofalwyr eu bod yn teimlo'n unig yn eu cymunedau a'u bod am allu cyfarfod â rhieni eraill yn lleol. Gwnaethant hefyd ddweud wrthym eu bod am allu cael gafael ar wasanaethau lleol i gefnogi eu hiechyd meddwl, eu hiechyd corfforol a'u llesiant.

Dylai rhieni allu cwrdd â rhieni eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae angen gwneud mwy o ymdrech i ddarparu mannau cwrdd a gweithgareddau i bawb y tu allan i dymor yr ysgol.

Mynediad gwell at wasanaethau iechyd, yn agos at gartref.

Mae angen gwella gwasanaethau iechyd a'u darparu'n nes at y cartref.

Siaradodd rhai rhieni/gofalwyr am rai o'r pethau y byddent yn hoffi eu gweld yn eu cymunedau. 

Cymorth pantrïoedd bwyd, bwyd rhatach mewn cymunedau lleol, mae prisiau'n cynyddu. Rydyn ni'n defnyddio mwy o wres ar gyfer bwyd ac ati yn ystod Ramadan.

Cyrsiau iaith i mi yn lleol. Coginio, unrhyw beth i fy helpu i wella fy sgiliau iaith.

Mwy o ddigwyddiadau i'r gymuned fwynhau dod ynghyd.

Gweithgareddau cymunedol a mannau agored

Dywedodd pobl wrthym na allant fforddio trafnidiaeth i deithio i ddigwyddiadau am ddim y tu allan i'w cymuned.

Gweithgareddau i blant a phobl ifanc. Does dim digon ar gael, mae'r plant yn aros gartref, alla i ddim fforddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd i ganol y ddinas.

Canolfan gymunedol leol sydd ar agor i blant, lle y gallan nhw fynd bob dydd, ar unrhyw adeg o'r dydd, i ymlacio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau. Does dim unrhyw weithgareddau fforddiadwy ar gael yn lleol, mae angen ichi fynd ar y bws i gyrraedd popeth.

Mae angen help gyda chostau trafnidiaeth a chostau gweithgareddau i blant. Mae'n rhaid dewis rhwng talu'r bil nwy a thalu am weithgareddau.

Mae rhieni/gofalwyr am gael mwy o weithgareddau lleol am ddim neu gost isel a mannau agored i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Roedd hyn yn arbennig o wir am rieni/gofalwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Mae prinder pethau am ddim i blant a phobl ifanc eu gwneud mewn cymunedau lleol. Mae angen digwyddiadau am ddim yn amlach.

Mae angen parciau chwarae a mannau gwyrdd lleol gwell er mwyn i blant chwarae'n ddiogel yn agos at gartref. Mwy o weithgareddau cymunedol, prisiau teithio is a digwyddiadau am ddim.

Mynediad gwell at fannau gwyrdd; perllannau cymunedol, rhandiroedd cymunedol a pharciau chwarae.

Mwy o bethau am ddim ar hyd a lled y gymuned sy'n annog pawb i gymryd rhan. Bydd hyn yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant pawb.

Mynediad at weithgareddau chwaraeon/diwylliannol/cymdeithasol/amgylcheddol, gwella llesiant plant yn ogystal â rhieni yn y gymuned.

Cymerodd rhieni/gofalwyr sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr ran yn y gweithgarwch ymgysylltu, a dywedodd rhieni/gofalwyr sy'n Roma fod angen mannau cymunedol diogel lle y gallai plant a phobl ifanc feithrin eu diddordebau a thyfu, yn hytrach na chrwydro'r strydoedd. 

Teimlai rhieni/gofalwyr fod diffyg cyfleoedd cymunedol yn arbennig o acíwt i blant a phobl ifanc anabl a phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, sy'n aml yn cael cynnig cyfleoedd cyfyngedig i gymysgu â phlant nad oes ganddynt anghenion cymhleth drwy'r system addysg. 

Mae prinder gweithgareddau chwaraeon i blant anabl ddysgu sgiliau newydd, magu hyder a gwella eu ffitrwydd.

Dywedwyd wrthym hefyd fod rhieni/gofalwyr yn teimlo ei bod hi'n anodd i bobl LHDTC+ gael gafael ar gymorth lleol. 

Does dim llawer o gymorth ar gael yn lleol i aelodau LHDTC+ o'r gymuned, yn enwedig i bobl ifanc yn eu harddegau hwyr / oedolion ifanc.

4. Sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi

Dywedodd rhieni/gofalwyr wrthym eu bod yn teimlo nad yw'r gwasanaethau sy'n cefnogi eu teuluoedd yn gwrando arnynt nac yn eu trin â pharch bob amser. Gwnaethant hefyd sôn am stigma a gwahaniaethu, a'u bod yn teimlo eu bod yn cael eu barnu oherwydd eu sefyllfa ariannol.

Teimlo eu bod yn cael eu trin â pharch a bod rhywun yn gwrando arnynt

Dywedodd llawer o rieni/gofalwyr eu bod yn gallu teimlo eu bod yn cael eu dad-ddynoli wrth geisio cymorth, yn enwedig cymorth ariannol.

Peidio â thrin pobl sydd eisoes yn agored i niwed mewn ffordd nawddoglyd.

Bod yn fwy personol yn hytrach na thicio blychau fel gofyn ‘sut ydych chi?

Peidio â thrin pobl fel rhifau.

Yn gysylltiedig â hyn roedd pwysigrwydd cydberthnasau â gweithwyr y gellir ymddiried ynddynt wrth gael cymorth.

Cysondeb a dilyniant y bobl sy'n cynnig cymorth, dylai'r un person fod ar gael drwy'r broses wrth ddelio â gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd llawer o rieni/gofalwyr â phlant anabl, plant niwrowahanol neu blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wrthym nad ydynt yn teimlo bod y gwasanaethau sy'n cefnogi eu plant yn gwrando arnynt nac yn eu cymryd o ddifrif. 

Ddylech chi ddim teimlo bod yn rhaid ichi “frwydro” i gael yr help sydd ei angen arnoch chi.

Mae angen i ymarferwyr iechyd ac addysg gydnabod mai rhieni sy'n adnabod eu plant orau.

Teimlai rhieni/gofalwyr fod diffyg cyfathrebu rhwng y gwasanaethau gwahanol sy'n ymwneud â'u plentyn ac nad ydynt yn aml yn gwybod pwy yw pwy.

Stigma

Dywedodd rhieni/gofalwyr wrthym eu bod yn gallu teimlo eu bod yn cael eu  barnu a'u stigmateiddio oherwydd eu sefyllfa ariannol.

Mae diwylliant o amheuaeth mewn gwasanaethau lleol os ydych chi'n mynd yn ôl i ofyn am help fwy nag unwaith; mae hyd yn oed ein banc bwyd eisiau cyfyngu ar yr help mae'n ei gynnig, ond does neb i weld yn barod i'n helpu ni yn yr hirdymor felly dydyn ni ddim yn ei ddefnyddio.

Mae stigma yn gysylltiedig â'r sylw sy'n cael ei roi yn y cyfryngau i'r ‘tlawd annheilwng’ neu is-ddosbarth o bobl sydd ar fai am eu sefyllfa ac yn ‘ddiog’ neu'n gwario eu harian ar y pethau anghywir. Mae tlodi yn ymwneud â mwy na bwyd, tanwydd, arian, ac ati. Mae'n ymwneud â phrofiadau a chyfleoedd hefyd.  Does dim digon o garedigrwydd na thosturi mewn gwasanaethau, yn y system. Mae angen mwy o empathi yn y system.

Dylai systemau anghyffredinol gael eu dylunio fel nad ydyn nhw'n adnabod person sy'n cael cymorth sy'n dibynnu ar brawf modd er mwyn annog pobl i fanteisio arnyn nhw a lleihau stigma.

Sicrhau nad yw gwasanaethau'n trin plant yn wahanol, fel mam i berson ifanc yn ei arddegau, mae'n casáu hynny, ac rwy'n gwybod bod plant yn yr ysgol gyfun y mae angen cymorth arnyn nhw ond sy'n gwrthod gofyn amdano gan y bydd eu cyfoedion yn dod i wybod am hynny.

Dywedodd rhieni/gofalwyr fod angen i bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau ddeall yr heriau a wynebir gan rai teuluoedd a gwerthfawrogi eu profiadau bywyd a'u gwybodaeth.

Dywedodd rhai rhieni/gofalwyr wrthym eu bod yn credu nad yw gofalwyr di-dâl yn cael eu gwerthfawrogi digon a bod angen mwy o ddealltwriaeth o'r cyfraniad y maent yn ei wneud i gymdeithas a pharch tuag at hynny.

Teimlai rhai rhieni/gofalwyr eu bod yn cael eu barnu pan fyddant yn gofyn am help i rieni a chymorth i deuluoedd.

Mae'r lleoedd rwy'n mynd iddyn nhw i ofyn am help cyn i bethau droi'n argyfwng yn dweud wrtha i fy mod yn fam wael, a fy mod yn gwneud pethau'n anghywir.

Addysgu'r bobl yn y gwasanaethau sy'n darparu cymorth i blant a theuluoedd fod angen iddyn nhw drin pawb â pharch a pheidio â bychanu neb.

Gwahaniaethu

Dywedodd rhai rhieni/gofalwyr a neiniau a theidiau wrthym eu bod wedi wynebu gwahaniaethu a bod angen i wasanaethau fod yn fwy ymwybodol o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cefais brofiad o hiliaeth yn ddiweddar, a doedd neb yn fy nghymryd o ddifrif. Dilynais yr holl weithdrefnau gwnaethon nhw ofyn i mi eu dilyn, a threuliais lawer o amser yn gwneud hynny, a digwyddodd dim byd yn y pen draw. Dywedon nhw nad oedd digon o dystiolaeth, ond beth maen nhw ei eisiau, camerâu ym mhob man? Nhw benderfynodd nad oedd yn ddigon, a dyw hynny ddim yn deg; rheithgor ddylai benderfynu hynny. Bydd hiliaeth yn parhau oni bai eu bod nhw'n gwneud rhywbeth amdano. Mae'n anodd iawn ei dangos. Roeddwn i'n teimlo nad oedd neb yn ymddiried ynof fi.

Gwneud yn siŵr bod staff wedi cael eu hyfforddi'n dda ar ymwybyddiaeth ddiwylliannol a'u bod yn trin pobl yn unigol ac yn ymwybodol bod ganddyn nhw anghenion gwahanol.

Gwell cymorth a chynhwysiant, llai o wahaniaethu, i blant o deuluoedd mudol.

Dywedodd rhai rhieni/gofalwyr a neiniau a theidiau eu bod yn cael eu heithrio rhag cymorth am nad yw gwasanaethau'n gynhwysol.

Mae llawer o hybiau bwyd a banciau bwyd cymunedol o gwmpas, ond dyw pobl anabl ddim bob amser yn gallu eu defnyddio.  Mae hyn yn effeithio ar y person anabl ei hun, ei blant a'i wyrion ac wyresau. Dylai fod ffyrdd/arian i hybiau bwyd ddarparu bwyd i deuluoedd lle mae rhywun yn anabl.

Yr hyn y dywedodd sefydliadau allanol wrthym

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ddiolchgar i'r 222 o gynrychiolwyr o sefydliadau a chyrff statudol a'r trydydd sector a gymerodd ran yng ngweithdai ymgysylltu Llywodraeth Cymru neu mewn digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd gan Gynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol lleol neu sefydliadau eraill a gafodd grantiau bach i ymgymryd â'r gwaith.

1. Lleihau costau a chynyddu incwm teuluoedd er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael digon o gymorth ariannol a pherthnasol i ddiwallu eu hanghenion

Costau byw

Dywedodd pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau wrthym am bwysau costau byw ar deuluoedd incwm isel. Y prif faterion a godwyd oedd: 

  • Tlodi bwyd: Codi ymwybyddiaeth o sut i gael gafael ar fanciau bwyd lleol/darparwyr bwyd cymunedol, a'r stigma sy'n gysylltiedig â chael help gyda bwyd.
  • Bwyd mewn ysgolion: Dod o hyd i ffordd well o adnabod teuluoedd incwm isel sy'n cael prydau ysgol am ddim drwy'r ddarpariaeth i bawb mewn ysgolion cynradd, cynyddu'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd a'r stigma sy'n gysylltiedig â phrydau ysgol am ddim.
  • Tlodi tanwydd: Teuluoedd sy'n talu costau uwch drwy fesuryddion rhagdaledig, costau tanwydd ar gyfer cyfarpar i aelodau anabl o'r teulu, eiddo rhent sydd wedi'i inswleiddio'n wael ac sy'n ddrutach i'w wresogi.

Ar hyn o bryd mae'r broses o gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim yn eithaf caeth; mae rhieni'n falch a dydyn nhw ddim am gael eu labelu fel rhywun y mae ei blant yn cael prydau ysgol am ddim.

Dyw lwfansau tanwydd ddim yn ddigon ac mae rhai pobl yn mynd tridiau heb nwy/trydan; dyw pobl ddim yn bodloni'r gofynion sylfaenol ac mae'r argyfwng tanwydd wedi cynyddu.

Dywedodd pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau fod teuluoedd yn byw o ddydd i ddydd, gan ei chael hi'n anodd talu costau byw sylfaenol. Siaradodd rhai hefyd am gost tai a'r farchnad rhentu a'r angen am fwy o dai fforddiadwy.

Cost y diwrnod/blwyddyn ysgol

Roedd cost y diwrnod/blwyddyn ysgol yn un o'r prif themâu a ddaeth i'r amlwg drwy ymgysylltu â phobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau. Y prif faterion a godwyd oedd:

  • Gwisg ysgol, dillad chwaraeon: Mae gwisg ysgol a dillad chwaraeon yn rhy ddrud, yn enwedig i deuluoedd â mwy nag un plentyn.
  • Dillad: Mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau dillad ar gyfer diwrnodau dim gwisg ysgol, digwyddiadau, diwrnodau siwmperi Nadolig, sioeau ysgol, teithiau ysgol, ac ati. Nid ydynt am i'w plant gael eu barnu am eu dillad ac weithiau, byddant yn cadw eu plant adref o'r ysgol er mwyn osgoi hyn. Gall cynlluniau ailgylchu gwisg ysgol ar safle'r ysgol wneud i rieni/gofalwyr a'u plant deimlo eu bod y cael eu stigmateiddio pan fydd pobl eraill yn eu gweld yn defnyddio'r cynllun. Nodwyd cost promiau ysgol hefyd a galwyd am iddynt gael eu gwahardd ar sail y costau i deuluoedd, a all atal plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan.
  • Teithiau ysgol: Mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd talu costau teithiau ysgol ac mae dweud na allant eu fforddio yn codi cywilydd arnynt. Mae mwy o deithiau ysgol bellach yn gysylltiedig â'r Cwricwlwm i Gymru ac mae ysgolion yn ceisio ehangu profiadau dysgwyr, ond mae costau yn gysylltiedig â'r teithiau hyn hefyd.
  • Offer: Ni all teuluoedd fforddio gliniaduron, Wi-Fi, data na deunyddiau cyrsiau i gefnogi'r dysgu a gwaith cartref.

Dylai ysgolion wneud yn siŵr bod hanfodion ar gael er mwyn osgoi embaras i blentyn neu deulu sy'n byw mewn tlodi, nid dim ond prydau ysgol am ddim, ond gwisg ysgol, ac mae angen iddynt  hefyd ystyried hyn pan fydd plentyn yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Mae'n dda bod yr ysgol yn rhoi cyfleoedd i blant gymryd rhan mewn digwyddiadau o'r fath, ond efallai na fydd ganddynt ddillad addas ar gyfer y digwyddiad, ac efallai na fydd gan rieni yr arian i brynu dillad ychwanegol, ac ati. Teithiau ysgol/teithiau'r Urdd; mae plant yn cael rhestr o bethau i fynd gyda nhw, ac eto, efallai na fydd arian ar gael i brynu'r eitemau hynny. Ddylai'r gost hon ddim cael ei throsglwyddo i'r rhieni.

Lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â phrydau ysgol am ddim, gwisg ysgol ail-law, teuluoedd yn defnyddio banciau bwyd neu'n hawlio budd-daliadau.

Faint o waith cartref sy'n cael ei wneud ar-lein drwy Hwb? A oes teuluoedd o hyd sydd ag ond un gliniadur gartref, a thri o blant? Sut mae sicrhau bod plant yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd? Mae angen gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael cyfleoedd, fel nad yw'n teimlo'n wahanol i'r plentyn drws nesaf oherwydd amgylchiadau ei deulu.

Gweithgareddau cymdeithasol, chwaraeon, cyfleoedd chwarae, mannau agored

Dywedodd pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau wrthym fod angen i blant, pobl ifanc a theuluoedd allu manteisio ar weithgareddau, chwaraeon a chyfleoedd chwarae am ddim neu gost isel i gefnogi eu hiechyd a'u llesiant. Gwnaethant ddweud bod argaeledd a chostau trafnidiaeth yn rhwystro llawer o deuluoedd incwm isel rhag manteisio ar y cyfleoedd hyn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Nodwyd bod rhaglenni fel ‘Haf o Hwyl’ a ‘Gaeaf Llawn Lles’ wedi cael effaith gadarnhaol iawn a'i bod yn siomedig nad oedd y rhaglenni hyn yn parhau.

Incwm a chyngor

Dywedodd pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau wrthym y gall fod yn anodd i deuluoedd gael gafael ar gyngor ar fudd-daliadau a dyledion, yn ogystal ag eitemau am ddim neu gost isel.

Nodwyd mai'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth yw prif ddarparwr cyngor addas, ond dywedodd pobl fod pwysau ar wasanaethau cynghori yn golygu bod teuluoedd yn aml yn gorfod aros am gyngor ac yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gwasanaethau hyn. Trafodwyd yr angen i brosesau gwneud cais am gymorth ariannol gael eu hintegreiddio a'u symleiddio.

2. Creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael digon o gymorth ariannol a pherthnasol i ddiwallu eu hanghenion a'u galluogi i wireddu eu potensial

Addysg

Teimlai pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau fod angen i addysg a'r Cwricwlwm i Gymru fod yn fwy hyblyg ac y dylai fod modd eu haddasu yn unol ag anghenion dysgwyr gwahanol. Ystyriwyd bod cynnig cyfleoedd dysgu i rieni ar faterion fel addysg ariannol yn bwysig er mwyn i rieni/gofalwyr allu helpu eu plant i ddysgu.

Gwnaethant hefyd ddweud bod angen dulliau prawfesur o safbwynt tlodi mewn ysgolion a hyfforddiant ar gyfer athrawon er mwyn iddynt ddeall effaith tlodi.

Ystyriwyd bod addysg gydgysylltiedig, hyfforddiant a chymorth i rieni/gofalwyr gael gwaith yn bwysig hefyd.

Gwell cymorth i rieni gael addysg, hyfforddiant ac, yn arbennig, cyfleoedd cyflogaeth. Porth un stop ar gyfer cyflogadwyedd yn hytrach na gwahanol lwybrau, y Ganolfan Byd Gwaith, Cymunedau am Waith, Cymunedau am Waith a Mwy, ac ati. Sesiwn Sgiliau Rhianta ar gael yn eang i gefnogi teuluoedd ethnig leiafrifol sy'n wynebu rhwystrau ieithyddol.

Gofal plant

Dywedodd pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau wrthym fod diffyg gofal plant fforddiadwy yn rhwystro llawer o rieni/gofalwyr rhag gweithio a bod hyn yn effeithio ar fenywod yn benodol.

Dywedodd pobl wrthym y dylid buddsoddi ymhellach yn y gweithlu gofal plant a bod angen i ofal plant fod ar gael i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a phlant hŷn.

Cafwyd trafodaethau hefyd am ddarpariaeth Dechrau'n Deg a'r ffaith na all pob teulu fanteisio ar y cymorth, yn dibynnu ar ble y maent yn byw.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod gofal plant yn gynaliadwy, mae angen i ddarpariaeth neu weithgareddau fod ar gael yn ystod yr haf/gwyliau'r ysgol.

Mae angen i ofal plant fod yn fforddiadwy i rieni, ac mae angen cymorth ariannol ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn arbennig, fel eu bod yn gallu manteisio ar ofal plant ac nad yw'r baich hwn yn un ychwanegol y mae'n rhaid i'r rhieni ei ysgwyddo.

Mae gofal plant yn loteri cod post, os ydych chi'n byw mewn ardal benodol, dydych chi ddim yn gymwys i gael cymorth.

Cludiant

Dywedodd pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau fod argaeledd a fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr i gael addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, yn ogystal â defnyddio gwasanaethau. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd gwledig lle y gall fod yn arbennig o anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

‘Mae angen gwneud yn siŵr bod gwasanaethau cyhoeddus ar gael i bawb. Mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy yn effeithio ar dlodi a'r gallu i siopa, cyrraedd yr ysgol, gweithio, cymdeithasu, mynd i apwyntiadau ysbyty, ac ati.

3. Cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell

Cymunedau

Soniodd pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau am bandemig COVID-19 a'r ffaith bod y pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cymorth yn gymuned.

Gwnaethant ddweud wrthym fod angen mwy o hybiau cymunedol a bod y galw am fannau cymunedol at y diben hwn yn cynyddu.

Canolfannau Clyd ar er mwyn darparu cymorth, cyngor a phwynt cyfeirio yn y gymuned.  Gall hybiau cymdeithasol fel y cartrefi newydd i'r henoed fod yn ffordd dda o adfer cymunedau i bobl o bob oed. Addysg yw'r cyswllt allweddol drwy ddefnyddio ysgolion fel hybiau cymdeithasol ac ar gyfer sesiynau coginio a sesiynau bwyta cymunedol, heb ddibynnu ar athrawon i addysgu pob agwedd ar fywyd a defnyddio gweithwyr proffesiynol eraill, yn enwedig y rheini o fusnesau a all gefnogi cymunedau fel archfarchnadoedd, banciau, cwmnïau ynni.

Trafodwyd ysgolion bro hefyd. 

Os gwnawn ni ddatblygu'r model cymorth y mae Dechrau'n Deg yn ei gynnig yn ein hysgolion – wrth gwrs, mae prydau ysgol am ddim a gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion effeithiol, iaith a lleferydd ac iechyd meddwl yn rhan allweddol o hyn, ond os oes gennym ni ysgolion bro go iawn, mae hyn yn diwallu anghenion unigol y plentyn a'i deulu

Fodd bynnag, dywedodd pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau hefyd fod costau cynyddol cadw mannau cymunedol ar agor oherwydd pethau fel prisiau ynni neu gostau gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn golygu mai dim ond yn rhan amser y gall llawer o'r mannau cymunedol presennol weithredu.

Yr angen i fynd i'r afael â mynediad at fannau cymunedol o herwydd yr argyfwng costau byw. Mae awdurdodau lleol yn dweud na allan nhw fforddio darparu'r cyfleusterau hyn oherwydd yr argyfwng costau byw gan fod eu gwresogi a'u goleuo yn costio gormod o arian. Mae angen i rywbeth gael ei wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod y mannau hyn yn parhau ond mewn modd cynaliadwy, gan ddarparu cyllid i sicrhau bod hybiau cymunedol sy'n bodoli eisoes yn gallu parhau i ddarparu gweithgareddau fel clybiau ieuenctid, ac ati.

4. Sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi

Hawliau plant

Dywedodd rhai pobl  sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau fod angen gwneud yn siŵr bod hawliau plant wrth wraidd popeth a wneir i fynd i'r afael â thlodi plant. Awgrymwyd y dylai fod yn ofynnol i bob ysgol yng Nghymru ddod yn Ysgol sy'n Parchu Hawliau, er mwyn sicrhau bod plant yn deall eu hawliau. Byddai hyn yn sicrhau y byddai hawliau plant yn rhan annatod o bolisïau ac arferion ym maes addysg.

Stigma, parch ac urddas

Dywedodd pobl sy'n gweithio mewn  sefydliadau a gwasanaethau wrthym  fod yr iaith a ddefnyddir i ddisgrifio tlodi a'r ffordd y caiff ei defnyddio yn nheitl rhaglenni a chyllid yn stigmateiddio. Nodwyd ‘Llwgu yn ystod y Gwyliau’, ‘Cronfa Caledi’ a ‘Grant Amddifadedd Grant’ fel enghreifftiau o ffyrdd negyddol o ddisgrifio cymorth.

Cafodd yr angen i ddefnyddio dull sy'n ystyriol o drawma a chydnabod baich meddyliol byw mewn tlodi hefyd eu nodi mewn nifer o sesiynau ymgysylltu.

Mae angen i ddull sy'n ystyriol o drawma ystyried yr effaith ar iechyd meddwl a dylai hyn fod wrth wraidd popeth.  Mae'n gylch dieflig ac mae angen i fesurau gael eu rhoi ar waith er mwyn helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi; mae angen gwneud mwy na darparu arian. Mae angen inni ymateb er mwyn mynd i'r afael â'r baich meddyliol; mae'n gylchol gan mai tlodi sy'n achosi'r problemau.

Gwahaniaethu

Teimlai llawer o bobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau fod angen mwy o hyfforddiant a chymorth ar staff er mwyn iddynt ddeall arferion gwrth-hiliol ac anghenion penodol teuluoedd lle mae rhywun yn anabl.

Pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, dyw 70% o'r cymunedau hynny ddim yn ymddiried yn y GIG, mae 50% yn teimlo mai sefydliadau cywirol yw lleoliadau addysg.

Yn aml, dyw plant a phobl ifanc anabl ddim yn cael yr addysg maen nhw'n ei haeddu.

5. Sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol

Drwy ein gweithgarwch ymgysylltu gyda phobl sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau, daeth thema drawsbynciol i'r amlwg o ran yr angen am fwy o integreiddio ar draws polisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau cydweithio gwell ar lefel ranbarthol a lleol i fynd i'r afael â thlodi plant.

Nodwyd nifer o faterion:

  • Nid yw pethau wedi cydgysylltu: Dywedodd pobl wrthym y gall fod yn anodd cael darlun clir o'r hyn y mae sefydliadau gwahanol yn ei wneud mewn ardaloedd a rhanbarthau lleol. Mae hyn yn llesteirio cydweithio ac yn golygu nad yw adnoddau cyfyngedig yn cael eu defnyddio'n effeithiol. 
  • Meini prawf cyllido anghyson: Dywedwyd wrthym fod y meini prawf ar gyfer rhaglenni, contractau neu gyllid grant yn aml yn wahanol, ond yn debyg iawn. Mae hyn yn golygu y gall rhai sefydliadau fod yn ‘cystadlu’ i weithio gyda'r un teuluoedd, yn hytrach na gweithio gyda'i gilydd.  Dywedodd pobl pe bai'r holl bartneriaid mewn sectorau gwahanol yn defnyddio'r un gyfres o feini prawf cyllido/dulliau monitro canlyniadau, y byddai hyn yn arwain at gydweithio cryfach ac ymyriadau mwy effeithiol. Gwnaethant hefyd ddweud bod angen cyllid cynaliadwy tymor hwy. 
  • Integreiddio polisi: Dywedodd pobl wrthym fod angen cysylltiad clir rhwng polisïau Llywodraeth Cymru, gan weithio tuag at agenda gyffredin glir i fynd i'r afael â thlodi plant. 

Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried symleiddio ffrydiau ariannu gwasanaethau a sicrhau mwy o integreiddio a chydweithio mewn perthynas â nhw. Mae angen i fentrau fod yn fwy cydgysylltiedig a dylai fod strategaeth glir ar waith o ran pa gyllid fydd ar gael, gydag amserlen glir i alluogi cwmnïau i gynllunio ar gyfer y tymor hwy.

Er mwyn inni liniaru tlodi plant, mae angen rhoi ystyriaeth ddyledus i greu targedau a strategaethau synhwyrol i'w rhoi ar waith. Mae cyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru a chyrff sy'n cael eu noddi ganddi ddefnyddio hyn fel strategaeth i ddod â'r gwaith hwnnw ynghyd ac ystyried ble y gellir gwneud y buddsoddiad trawslywodraethol. 

Ystyried cydweithio a gweithio mewn partneriaeth wrth gynllunio strategaethau ar gyfer y dyfodol er mwyn osgoi cyngor a blaenoriaethau anghyson gan adrannau gwahanol a ffrydiau ariannu gwahanol. Byddai hyn yn sicrhau dull traws-sector cydgysylltiedig sy'n targedu strategaethau traws-sector sy'n hanfodol i osgoi sefyllfa lle mae sefydliadau'n gweithio ar wahân. 

Casgliad

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r dystiolaeth a gasglwyd drwy weithgarwch ymgysylltu cyn ymgynghori gyda phlant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr a neiniau a theidiau sydd â phrofiad bywyd o dlodi a'r sefydliadau a'r gwasanaethau sy'n siarad ar eu rhan ac yn eu cefnogi.

Er na allwn adlewyrchu pob safbwynt a rannwyd â ni yn y strategaeth derfynol, mae Strategaeth Tlodi Plant Cymru wedi'i llunio'n uniongyrchol ac yn gyfan gwbl ar sail y dystiolaeth hon. Wrth edrych i'r dyfodol, rydym wedi ymrwymo i gynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o dlodi er mwyn ein helpu i ddeall ein cynnydd tuag at gyflawni'r strategaeth a gwneud gwahaniaeth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Atodiad 1

Atodiad 2

Atodiad 3

Atodiad 4