Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid er mwyn annog newid o ran trechu tlodi ac anghydraddoldeb a chael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a'u teuluoedd yng Nghymru. I gefnogi hyn, yn 2010 gwnaeth y Senedd gyfraith sy'n golygu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod Strategaeth Tlodi Plant ar waith ar gyfer Cymru sy'n nodi Amcanion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfrannu at ddileu tlodi plant. Bydd mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn parhau i fod yn sail i'n hamcanion o ran tlodi plant, y camau gweithredu rydym yn eu cymryd a'r penderfyniadau a wnawn i'w cyflawni.

Bu'r Strategaeth Tlodi Plant bresennol ar gyfer Cymru ar waith ers 2015. Dros y tair blynedd diwethaf, mae teuluoedd wedi wynebu pwysau ychwanegol oherwydd pandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw. Ar yr un pryd, mae pwysau wedi bod ar gyllideb Llywodraeth Cymru ac rydym wedi gorfod blaenoriaethu'r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn gwario arian er mwyn cefnogi anghenion uniongyrchol pobl.

Mae tlodi ac allgáu cymdeithasol yn broblemau mawr yng Nghymru o hyd. Cyn yr argyfwng costau byw presennol, roedd cyfraddau tlodi wedi bod yn gymharol ddisymud ers 20 mlynedd ac, am gryn dipyn o'r cyfnod hwnnw, yn uwch nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (StatsCymru, 2020); gyda bron chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad o strategaethau, rhaglenni ac ymyriadau tlodi ac allgáu cymdeithasol rhyngwladol er mwyn llywio'r gwaith o leddfu problemau tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru. Bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Ei nod yw gwneud i gyrff cyhoeddus feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a gyda'i gilydd, gan geisio atal problemau a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig.

Rydym eisoes wedi ystyried tystiolaeth gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Archwilio Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a sefydliadau fel Plant yng Nghymru a Sefydliad Bevan. Mae'r wybodaeth hon wedi cynnwys tystiolaeth gan blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi. 

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i blant a phobl ifanc, teuluoedd ac aelodau o'r gymuned, a sefydliadau sy'n cefnogi plant mewn tlodi ac sy'n siarad ar eu rhan, i'n helpu i wneud penderfyniadau (cyd-awduro) am yr hyn y dylem ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant ac mae'n gwneud gwaith ymgysylltu dwys i sicrhau y ceir amrywiaeth eang o fewnbwn i'r Strategaeth ddrafft.

Yn dilyn y gweithgarwch cyd-awduro hwn, rydym wedi nodi pum amcan sydd, yn ein barn ni, yn adlewyrchu'r meysydd y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau newid mesuradwy i fywydau plant a phobl ifanc mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, a darparu ar gyfer y teuluoedd a'r cymunedau y mae plant a phobl ifanc yn tyfu i fyny ynddynt:

  • Lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd.
  • Creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial.
  • Cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell.
  • Sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi.
  • Sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.

Rydym wedi nodi pum blaenoriaeth lle byddwn yn cynyddu ein hymdrechion i gyflawni yn erbyn y pum amcan:

  • Blaenoriaeth 1: Hawl (rhoi arian ym mhocedi pobl).
  • Blaenoriaeth 2: Creu cenedl Gwaith Teg (heb adael neb ar ôl).
  • Blaenoriaeth 3: Creu Cymunedau (gwasanaethau cydgysylltiedig hygyrch i ddiwallu anghenion y gymuned).
  • Blaenoriaeth 4: Cynhwysiant (gwasanaethau caredig, tosturiol nad ydynt yn stigmateiddio).
  • Blaenoriaeth 5: Galluogi cydweithio (ar lefel ranbarthol a lleol).

Mae'r strategaeth ddrafft yn esbonio lle byddwn yn targedu ein gwaith o dan y blaenoriaethau hyn er mwyn cyflawni yn erbyn ein hamcanion.

Tymor hir

Nid dim ond cynllun i Lywodraeth Cymru weithredu arno ddylai'r Strategaeth ddrafft ddiwygiedig fod, ond cynllun i Gymru gyfan. Mae hyn yn cydnabod y cyfraniad y mae'n rhaid i bob un ohonom ei wneud i gyflawni'r newid sydd ei angen i blant a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi. Bydd yn ein helpu i greu Cymru y mae pob un ohonom am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Mae llawer o'r newidiadau a all roi mwy o arian ym mhocedi pobl, fel budd-daliadau lles, trethi a lefelau gwariant cyhoeddus, yn dibynnu ar Lywodraeth y DU. Ond mae llawer o bethau y gall Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ei wneud o hyd i wella bywydau plant a'u teuluoedd sy'n byw mewn aelwydydd tlotach a lleihau tlodi yn y tymor hwy. Yn enwedig pan fydd pob un ohonom yn cydweithio.

Mae'r trydydd sector (sefydliadau gwirfoddol ac elusennau) yn darparu cymorth hollbwysig i blant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru ac yn chwarae rôl allweddol wrth fynd i'r afael â thlodi plant. Gall y sector preifat (busnesau) hefyd fod yn allweddol i gefnogi llwybrau allan o dlodi drwy weithgarwch uniongyrchol busnesau a thrwy weithio mewn partneriaeth, drwy sefydliadau elusennol, ag elusennau bach a lleol, pobl a chymunedau.

Mae'r Strategaeth ddrafft yn esbonio'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud a pham rydym yn bwriadu gwneud hynny, ac yn amlinellu ein cynigion o ran sut y byddwn yn gwybod a ydym yn cyflawni'r hyn rydym yn dymuno ei gyflawni. 

Atal

Dylai mynd ati i ymgorffori'r Strategaeth ddrafft ym mhob sector yng Nghymru gael effaith gadarnhaol ar leihau lefelau tlodi yn gyffredinol, ac iechyd gwael sy'n deillio o dlodi.

Mae'r arolwg diweddar a gynhaliwyd gan sefydliad Plant yng Nghymru yn dangos bod byw mewn tlodi yn cael effaith enfawr ar iechyd plentyn. Rhestrwyd blinder, llwgu, straen ychwanegol ac iechyd meddwl sy'n dirywio fel y prif broblemau mewn perthynas ag addysg.

Bydd y Strategaeth ddrafft yn ceisio mynd i'r afael ag achosion tlodi, er y gwneir hynny gyda phwerau cyfyngedig dros lawer o'r elfennau sy'n cyfrannu at hyn yng Nghymru. Fel y casglodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae'n rhaid i'r strategaeth ddrafft ganolbwyntio ar fynd i'r afael ag ysgogwyr strwythurol sylfaenol tlodi, wedi'i ategu gan ymyriadau sy'n targedu elfennau penodol fel tlodi bwyd a thlodi tanwydd.

Integreiddio

Yn fewnol ac yn allanol, gallai ffyrdd o weithio mewn seilos fod yn heriol i'r broses o roi Strategaeth ddrafft integredig ar waith. Mae'n bosibl nad ystyrir bod rhai mathau o weithgarwch polisi yn cael effaith ar dlodi plant, felly mae angen gwneud gwaith i ymgorffori hyn fel bod swyddogion a rhanddeiliaid yn gwybod bod cyfrifoldeb ganddynt i ystyried effeithiau posibl, boed yn rhai mawr neu fach.

Bydd yn bwysig i'r strategaeth ddrafft hon gysylltu'n uniongyrchol â pholisïau amrywiol y Rhaglen Lywodraethu ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru. Gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • Gwaith i fynd i'r afael â thlodi bwyd
  • Gwaith i ymateb i'r argyfwng costau byw
  • Ymgyrchoedd Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi
  • Cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl ifanc sy'n gadael gofal yng Nghymru
  • Prydau Ysgol am Ddim
  • Cynnig Gofal Plant Cymru
  • Dechrau'n Deg
  • Dull gweithredu ‘Meithrin Gallu drwy Ofal Cymunedol, Ymhellach, Yn Gyflymach’ y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Tegwch mewn addysg
  • Tegwch o ran cyrhaeddiad

Y bwriad fydd i'r Strategaeth ddrafft hon lywio unrhyw waith i ddatblygu polisïau yn y dyfodol, ac i Dlodi Plant fod yn ystyriaeth a gaiff ei blaenoriaethu mewn unrhyw Raglen Lywodraethu. 

Cydweithio

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phartneriaid ym maes iechyd, addysg, y trydydd sector ac adrannau eraill y llywodraeth er mwyn llunio strategaeth sy'n ystyrlon ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth. 

Cynhaliwyd gwaith ymgysylltu cyn-strategaeth a chymerodd dros 3,000 o randdeiliaid mewnol ac allanol ran. Roedd hyn yn cynnwys barn dros 1,400 o blant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae'r ymatebion a gafwyd wedi cael eu defnyddio i lywio'r dull gweithredu a'r Strategaeth ddrafft. Caiff y Strategaeth ddrafft ei rhannu ar gyfer cyfnod ymgynghori ffurfiol o 12 wythnos dros fisoedd yr haf.

Cyfranogiad

Roedd Gweinidogion Cymru yn glir o'r dechrau y dylai'r strategaeth gael ei chyd-awduro gyda phlant, phobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi, a chyda'r sefydliadau sy'n eu cefnogi.

Fel y gallai plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd â phrofiad bywyd fod yn rhan o ddweud wrthym beth sydd angen inni ei newid drwy'r strategaeth ddrafft hon, rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid i ariannu digwyddiadau ymgysylltu yn y cymunedau y mae pobl yn byw ynddynt. Mae hyn wedi cynnwys gweithgarwch ymgysylltu a gyflwynwyd gan sefydliadau y mae pobl yn gyfarwydd â nhw ac yn ymddiried ynddynt. Roedd hyn yn arbennig o bwysig o ran ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl a niwrowahanol, pobl LHDTC+ a menywod sy'n cael cymorth oherwydd materion y ddau ryw.

Gwnaethom hyn mewn sawl ffordd. Gwnaethom:

  • gomisiynu dwy elusen plant, Plant yng Nghymru ac Achub y Plant, i wneud gweithgarwch ymgysylltu â chymorth da ar raddfa fach
  • comisiynu Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), Race Council Cymru ac Women Connect First, sy'n cefnogi pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, i gynnal sesiynau ymgysylltu gyda'r plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi
  • dyfarnu 15 o grantiau bach i sefydliadau i gynnal sesiynau ymgysylltu gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd sydd â nodweddion gwarchodedig
  • darparu cyllid grant i Gynghorau y Gwasanaethau Gwirfoddol ledled Cymru, drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a weinyddodd y grantiau ar ein rhan. Roedd hyn er mwyn cynnal sesiynau ymgysylltu gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd ac aelodau o'r gymuned

Gwnaethom ofyn i'r sefydliadau hyn siarad â phobl am bedwar maes trafod a'r hyn a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt mewn perthynas â phob maes. Mae'r pedwar maes hwn wedi llywio amcanion y Strategaeth ddrafft hon. 

Mae'r gweithgarwch ymgysylltu a gynhaliwyd ar ein rhan wedi cynnwys 2,909 o bobl, ac ymgysylltwyd â 1,930 o'r bobl hyn drwy waith a dargedwyd at y rheini â nodweddion gwarchodedig.

Yn ogystal ag ymgysylltu'n uniongyrchol â phobl â phrofiad bywyd, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio tystiolaeth o arolygon ac adroddiadau diweddar a gwblhawyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Plant yng Nghymru er mwyn deall y materion allweddol i'r unigolion hynny. 

Hefyd, comisiynwyd sefydliadau partner o'r trydydd sector i ddefnyddio eu cydberthnasau a'u rhwydweithiau presennol i ymgymryd â gwaith ymgysylltu cam 1 â phlant a phobl ifanc eu hunain.

Effaith

Mae dadleuon o blaid y Strategaeth ddrafft yn gwrthbwyso'r holl rai yn erbyn yn sylweddol am y rhesymau a nodwyd uchod. Mae Rhanddeiliaid, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru, wedi parhau i alw am ddiweddaru strategaeth 2015. Mae gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi atgyfnerthu'r cais am strategaeth y gall partneriaid ymrwymo iddi/ymuno â hi er mwyn gweithredu.

Costau ac arbedion

Fel strategaeth drawsbynciol, mae llawer o raglenni a chamau gweithredu sy'n cefnogi ac yn cyfrannu at ein gweithgarwch i atal tlodi a chefnogi'r rhai sy'n byw mewn tlodi. Yn ystod 2022 i 2023 a 2023 i 2024, rydym wedi neilltuo gwerth mwy na £3.3 biliwn o gymorth drwy raglenni sy'n mynd tuag at helpu i ddiogelu aelwydydd difreintiedig a helpu i roi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd.

Er nad oes cyllideb benodol wedi'i neilltuo i ddatblygu'r strategaeth, y bwriad yw y bydd cyllideb fach yn debygol o fod ar gael ar gyfer blwyddyn 2024 i 2025 er mwyn buddsoddi mewn cefnogi rhywfaint o weithgarwch i roi'r strategaeth ar waith am gyfnod penodol. 

Byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd ar y cam cyd-awduro i dargedu'r arian hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Adran 8: Casgliad

Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi helpu i'w ddatblygu?

Roedd Gweinidogion Cymru yn glir o'r dechrau y dylai'r Strategaeth gael ei chyd-awduro gyda phlant, phobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi, a chyda'r sefydliadau sy'n eu cefnogi.

Gwnaed gweithgarwch cyd-awduro a chymerodd llawer o randdeiliaid mewnol ac allanol ran yn hyn. Roedd hyn yn cynnwys barn Plant a Phobl Ifanc ledled Cymru ac mae'r ymatebion a gafwyd wedi cael eu defnyddio i lywio'r dull gweithredu a'r strategaeth ddrafft. Yna caiff y Strategaeth ddrafft ei rhannu ar gyfer cyfnod ymgynghori ffurfiol.

Er mwyn i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd â phrofiad bywyd fod yn rhan o ddweud wrthym beth sydd angen inni ei newid drwy'r Strategaeth ddrafft hon, rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid i ariannu digwyddiadau ymgysylltu yn y cymunedau y mae pobl yn byw ynddynt. Mae hyn wedi cynnwys gweithgarwch ymgysylltu a gyflwynwyd gan sefydliadau y mae pobl yn gyfarwydd â nhw ac yn ymddiried ynddynt. Roedd hyn yn arbennig o bwysig o ran ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol , pobl anabl a niwrowahanol, pobl LHDTC+ a menywod sy'n cael cymorth oherwydd materion y ddau ryw.

Gwnaethom hyn mewn sawl ffordd. Gwnaethom:

  • gomisiynu dwy elusen plant, Plant yng Nghymru ac Achub y Plant, i wneud gweithgarwch ymgysylltu â chymorth da ar raddfa fach
  • comisiynu Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), Race Council Cymru ac Women Connect First, sy'n cefnogi pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, i gynnal sesiynau ymgysylltu gyda'r plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi
  • dyfarnu 15 o grantiau bach i sefydliadau i gynnal sesiynau ymgysylltu gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd sydd â nodweddion gwarchodedig
  • darparu cyllid grant i Gynghorau y Gwasanaethau Gwirfoddol ledled Cymru, drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a weinyddodd y grantiau ar ein rhan. Roedd hyn er mwyn cynnal sesiynau ymgysylltu gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd ac aelodau o'r gymuned

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Effeithiau cadarnhaol

Bwriedir i'r Strategaeth ddrafft hon fod o fudd i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel. Yn benodol, bydd y Strategaeth ddrafft yn effeithio ar blant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi. Bydd yn ceisio mynd i'r afael â thlodi incwm, a sicrhau bod rhieni yn ennill digon i wneud yn siŵr nad yw eu plant yn byw mewn aelwyd incwm isel, gan eu gwneud yn fwy tebygol o allu cael mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i hawlio eu hawliau dynol sylfaenol. Yn hanfodol, bydd hefyd yn ceisio gwella canlyniadau addysgol ac iechyd plant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi.

Gwyddom fod 28% o blant Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai). Mae hyn yn cyfateb i tua 190,000 o blant dibynnol dan 19 oed.

Hefyd, nod y strategaeth ddrafft yw rhoi'r strwythurau a'r strategaethau sydd eu hangen ar waith er mwyn rhoi cyfleoedd ac adnoddau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn unol â'u hanghenion, sy'n gyfartal â rhai pobl eraill, er mwyn sicrhau y gallant ddatblygu hyd eithaf eu potensial yng Nghymru.

Effeithiau negyddol

Nid ydym yn rhagweld y bydd unrhyw effeithiau negyddol yn deillio o'r Strategaeth ddrafft. 

Nod y Strategaeth ddrafft a'i bwriad sylfaenol yw helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd yn uniongyrchol i fyw bywydau hapus ac iach sy'n sefydlog yn ariannol. 

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant?

Rydym wedi ymgorffori'r pum ffordd o weithio a bennir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y Strategaeth ddrafft hon. Mae'r egwyddorion hyn yn ganolog i'n gwaith o gyflawni ein hagenda gwrthdlodi ar gyfer gweithredu, y mae anghenion ein cymunedau a'r rheini sydd â phrofiad bywyd o dlodi yn rhan greiddiol ohoni, ar y cyd â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ledled Cymru. Bydd cyflawni'r saith nod llesiant, yn ei dro, yn helpu i wireddu ein huchelgeisiau o ran trechu tlodi plant.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, gosododd ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion hynny. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad diweddaraf ar Strategaeth Tlodi Plant 2015 ym mis Rhagfyr 2022.

Rydym yn ymrwymedig i nodi'r ffyrdd gorau i blant, pobl ifanc a phobl sydd â phrofiad bywyd o dlodi gael eu cynnwys yn y gwaith o fesur ein cynnydd a rhoi gwybod inni a yw'r strategaeth ddrafft hon yn cael effaith.

Carreg Filltir Genedlaethol: Mae trechu annhegwch ehangach yn un o uchelgeisiau sylfaenol y llywodraeth hon ac rydym yn ymrwymedig i leihau'r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig (sy'n golygu eu bod yn fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a'r rheini nad oes ganddynt y nodweddion hynny erbyn 2035, ac yn ymrwymedig i bennu targed ymestynnol erbyn 2050.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at gyflawni'r garreg filltir hon yn adroddiad blynyddol Llesiant Cymru, a cherrig milltir eraill sy'n gysylltiedig â thlodi, a byddwn yn parhau â'n sgwrs â rhanddeiliaid fel rhan o'n rhaglen waith, Llunio Dyfodol Cymru. Bydd hyn yn cynnwys gwaith pellach i atgyfnerthu a mireinio'r data ategol.

Yn ogystal â'r cerrig milltir cenedlaethol ehangach hyn, byddwn yn ceisio cyngor ymchwil annibynnol ar ddangosyddion tlodi cenedlaethol addas, argaeledd data a fframwaith i fonitro a dangos atebolrwydd tryloyw wrth adrodd ar ein cynnydd tuag at drechu tlodi a gwaith i gynnwys pobl â phrofiad bywyd er mwyn dweud wrthym a ydym yn cyflawni. Byddwn yn ymgynghori ar y cynigion hyn ar wahân.

Hawliau plant

Gwnaeth y Senedd gyfraith sy'n golygu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod Strategaeth Tlodi Plant ar waith ar gyfer Cymru. Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi gofyniad cyfreithiol ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant ar gyfer Cymru, a gosod amcanion ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant a gwella canlyniadau teuluoedd incwm isel.

Bu'r Strategaeth Tlodi Plant bresennol ar gyfer Cymru ar waith ers 2015. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ar Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig ar gyfer Cymru.

Bydd y Strategaeth ddrafft hon yn ystyried yr anawsterau sy'n wynebu pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn ystod y cyfnod economaidd ansefydlog hwn. Mae ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd, yr ergydion economaidd sy'n deillio o'r pandemig a'r argyfwng costau byw presennol wedi cael effaith andwyol ar lesiant economaidd aelwydydd sy'n agored i niwed yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gydnabod a gwarantu hawliau plant fel y'u nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae CCUHP yn darparu, fel safon ofynnol, lefel na ddylai unrhyw blentyn ostwng yn is na hi.

Yn 2011, Cymru oedd y weinyddiaeth gyntaf yn y DU i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) mewn cyfraith ddomestig, drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae'r Mesur yn ymgorffori'r ddyletswydd i ystyried CCUHP a Phrotocolau Dewisol yng nghyfraith Cymru, ac yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i ofynion CCUHP wrth wneud eu penderfyniadau.

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei drin yn deg, a chael mynediad cyfartal at y cymorth a'r cyfleoedd i wneud y mwyaf o'i fywyd a'i ddoniau. Ni ddylai unrhyw blentyn ddioddef cyfleoedd bywyd gwael oherwydd gwahaniaethu neu allu annheg i hawlio eu hawliau.

Nod y Strategaeth ddrafft yw rhoi'r strwythurau a'r strategaethau sydd eu hangen ar waith er mwyn rhoi cyfleoedd ac adnoddau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn unol â'u hanghenion, sy'n gyfartal â rhai pobl eraill, er mwyn sicrhau y gallant ddatblygu hyd eithaf eu potensial yng Nghymru.

Cyhoeddir y Strategaeth ddrafft am gyfnod ymgynghori o 12 wythnos o fis Mehefin tan fis Medi 2023.

Bwriedir i'r Strategaeth ddrafft hon fod o fudd i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel. Yn benodol, bydd y Strategaeth ddrafft yn effeithio ar blant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi. Bydd yn ceisio mynd i'r afael â thlodi incwm, a sicrhau bod rhieni yn ennill digon i wneud yn siŵr nad yw eu plant yn byw mewn aelwyd incwm isel, gan eu gwneud yn fwy tebygol o allu cael mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i hawlio eu hawliau dynol sylfaenol. Yn hanfodol, bydd hefyd yn ceisio gwella canlyniadau addysgol ac iechyd plant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi.

Gwyddom fod 28% o blant Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai). Mae hyn yn cyfateb i tua 190,000 o blant dibynnol dan 19 oed.

Mae'r Strategaeth ddrafft hon yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r materion hyn, drwy gyflwyno polisïau a rhaglenni ar draws holl Adrannau'r Llywodraeth.

Tystiolaeth o waith ymgysylltu gyda Phlant a Phobl Ifanc

Mae'r strategaeth ddrafft yn seiliedig ar strategaeth 2015 a'r Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm dilynol ac yn adeiladu arnynt, ac mae wedi'i chyd-awduro â phlant, pobl ifanc, teuluoedd a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi, er mwyn eu helpu i flaenoriaethu meysydd ffocws yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

Drwy'r gweithgarwch ymgysylltu, llwyddwyd i ymgysylltu â 3,358 o bobl. Ymgysylltwyd â 1,953 o'r rhain drwy waith wedi'i dargedu at y rheini â nodweddion gwarchodedig. O blith y cyfanswm, roedd 1,402 yn blant neu'n bobl ifanc, 1,329 yn rhieni/gofalwyr a 319 yn neiniau a theidiau/hen neiniau a theidiau. Roedd hyn yn cynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal a gofalwyr sy'n berthnasau. Gwnaethom hefyd ymgysylltu â 222 o gynrychiolwyr o sefydliadau yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Mae'r wybodaeth a gasglwyd drwy'r gweithgarwch ymgysylltu hwn wedi cael effaith uniongyrchol ar ein penderfyniadau ynghylch y meysydd y dylid canolbwyntio arnynt yn y strategaeth ddrafft hon. 

Mae'r wybodaeth a gasglwyd drwy'r gweithgarwch ymgysylltu hwn wedi cael effaith uniongyrchol ar ein penderfyniadau ynghylch y meysydd y dylid canolbwyntio arnynt yn y Strategaeth ddrafft hon, gyda datganiadau fel:

  • mae plant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr, neiniau a theidiau a sefydliadau wedi dweud wrthym fod y system ar gyfer hawlio cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU a thrwy lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn gymhleth ac yn anodd ei deall
  • dywedodd pobl ifanc, rhieni a gofalwyr wrthym am y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn gwneud i waith dalu
  • dywedodd plant, pobl ifanc, eu teuluoedd a sefydliadau wrthym eu bod yn gwerthfawrogi cymorth cydgysylltiedig yn y gymuned
  • dywedodd plant a phobl ifanc wrthym eu bod am deimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn llawn yn y lleoedd y maent yn mynd iddynt am addysg

Yn bwysig, rydym wedi cynnwys y pethau y mae pobl wedi'u dweud wrthym yn y Strategaeth ddrafft. Rydym hefyd wedi gwneud yn siŵr bod swyddogion sy'n gweithio ym mhob rhan o'r llywodraeth mewn meysydd polisi gwahanol yn gwybod beth y mae plant, pobl ifanc a'u teuluoedd wedi'i ddweud sydd o bwys iddynt. 

Effaith ar hawliau plant

Mae gwella canlyniadau plant a phobl ifanc o gefndiroedd incwm isel yn rhan ganolog o sicrhau hawliau plant yng Nghymru. Mae Erthygl 26 CCUHP (bod gan blant, naill ai drwy eu gwarcheidwaid neu'n uniongyrchol, yr hawl i gael cymorth gan y llywodraeth os byddant yn dlawd neu mewn angen) ac Erthygl 27 (mae gan blant yr hawl i safon byw sy'n ddigon da i ddiwallu eu hanghenion corfforol a meddyliol) yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â thlodi incwm ac amddifadedd materol. Mae'r hawl i bob plentyn gael safon byw sy'n ddigonol ar gyfer ei ddatblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moseol a chymdeithasol yn elfen allweddol. Dylai llywodraethau ddarparu cymorth materol a rhaglenni cymorth, yn enwedig mewn perthynas â bwyd, dillad a thai. 

Mae erthyglau perthnasol eraill o CCUHP yn cynnwys:

  • Erthygl 2: Mae'r Confensiwn yn gymwys i bob plentyn waeth beth fo'i hil, crefydd, galluoedd, waeth beth y mae'n ei feddwl neu'n ei ddweud a ni waeth pa fath o deulu y daw ohono.
  • Erthygl 3 (Lles pennaf y plentyn): Y prif beth y mae’n rhaid ei ystyried wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar blant yw lles pennaf y plant. Dylai pob oedolyn wneud yr hyn sydd orau i blant. Pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau, dylent feddwl am y ffordd y bydd eu penderfyniadau yn effeithio ar blant. Mae hyn yn ymwneud yn benodol â'r rhai sy'n llunio cyllidebau, polisïau a chyfreithiau.
  • Erthygl 6 (Hawl i fyw): Mae gan bob plentyn hawl i fyw. Dylai llywodraethau ofalu bod plant yn goroesi ac yn datblygu'n iach. 
  • Erthygl 12 (Parchu barn y plentyn): Pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar blant, mae gan blant yr hawl i fynegi eu barn ar yr hyn a ddylai ddigwydd ac i’w barn gael ei hystyried.
  • Erthygl 18 (Cyfrifoldebau rhiant; cymorth gan y wladwriaeth): Mae’r ddau riant yn rhannu’r cyfrifoldeb dros fagu eu plant, a dylent bob amser feddwl am yr hyn sydd orau ar gyfer pob plentyn. Mae'n rhaid i lywodraethau barchu cyfrifoldeb rhieni i roi arweiniad priodol i'w plant, nid yw'r Confensiwn yn cymryd cyfrifoldeb am blant oddi wrth eu rhieni ac yn rhoi mwy o awdurdod i lywodraethau. Mae'n rhoi cyfrifoldeb ar lywodraethau i ddarparu gwasanaethau cymorth i rieni, yn enwedig os yw'r ddau riant yn gweithio y tu allan i'r cartref.
  • Erthygl 24 (Hawl i ofal iechyd): Mae gan blant yr hawl i gael gofal iechyd o ansawdd da ac i ddŵr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân fel y byddant yn cadw’n iach. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn. 
  • Erthygl 28 (Hawl i addysg): Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg gynradd, a ddylai fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni'r hawl hon. Mae'r Confensiwn yn rhoi gwerth uchel ar addysg. Dylid annog pobl ifanc i gyrraedd y lefel uchaf o addysg sydd o fewn eu gallu.
  • Erthygl 29 (Nodau addysg): Dylai addysg plant ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd pob plentyn i'r eithaf.
  • Erthygl 31 (Hamdden, chwarae a diwylliant): Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol, celfyddydol a gweithgareddau hamdden eraill.
  • Erthygl 36 (gweithgareddau sy'n niweidio datblygiad): Dylai plant gael eu diogelu rhag unrhyw weithgareddau a allai niweidio eu datblygiad.

Cyngor a phenderfyniad gweinidogol

Nododd swyddogion yn yr Is-adran Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd gynigion mewn perthynas â datblygu'r strategaeth ddrafft Ddiwygiedig mewn cyflwyniad i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.

Cytunodd y Gweinidog i'r dull gweithredu drafft cyffredinol ddiwedd mis Mai 2023. Cymeradwyodd Cabinet Llywodraeth Cymru y Strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori ar 5 Mehefin 2023.

Cyfathrebu â Phlant a Phobl Ifanc

Lluniwyd y Strategaeth ddrafft hon ar y cyd â'r plant, y bobl ifanc, y teuluoedd a'r sefydliadau sydd wedi rhoi o'u hamser er mwyn ein helpu i ddeall beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt. Rydym yn ymrwymedig i gynnal y ffordd hon o weithio wrth inni gyflwyno'r Strategaeth ddrafft.

Bydd cyfathrebu parhaus yn sicrhau y bydd plant a phobl ifanc, teuluoedd a sefydliadau sydd eisoes wedi helpu yn y broses hon, yn parhau i gael eu cynnwys wrth ddatblygu gwaith ac wrth weithredu unrhyw argymhellion a wneir o ganlyniad i'r ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft ddiwygiedig ar gyfer Cymru.

Cynhelir yr ymgynghoriad ar y Strategaeth ddrafft rhwng mis Mehefin a chanol mis Medi 2023.

Bydd y dogfennau ymgynghori yn cynnwys fersiwn addas i bobl ifanc a fersiwn hawdd ei deall.

Monitro ac Adolygu

Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, rhoddodd ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion hynny.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn llywio penderfyniadau gwell yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn cydbwyso anghenion y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r cerrig milltir cenedlaethol yn mesur ein proses ar y cyd fel cenedl a bydd y cynnydd a wneir tuag at gyflawni'r cerrig milltir cenedlaethol hyn yn ein helpu i greu Cymru fwy cynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. 

Carreg Filltir Genedlaethol ar dlodi: Mae trechu annhegwch ehangach yn un o uchelgeisiau sylfaenol y llywodraeth hon ac rydym yn ymrwymedig i leihau'r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig (sy'n golygu eu bod yn fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a'r rheini nad oes ganddynt y nodweddion hynny erbyn 2035, ac yn ymrwymedig i bennu targed ymestynnol erbyn 2050.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at gyflawni'r garreg filltir hon yn adroddiad blynyddol Llesiant Cymru, a cherrig milltir eraill sy'n gysylltiedig â thlodi, a byddwn yn parhau â'n sgwrs â rhanddeiliaid fel rhan o'n rhaglen waith, Llunio Dyfodol Cymru. Bydd hyn yn cynnwys gwaith pellach i atgyfnerthu a mireinio'r data ategol.

Yn ogystal â'r cerrig milltir cenedlaethol ehangach hyn, byddwn yn ceisio cyngor ymchwil annibynnol ar ddangosyddion tlodi cenedlaethol addas, argaeledd data a fframwaith i fonitro a dangos atebolrwydd tryloyw wrth adrodd ar ein cynnydd tuag at drechu tlodi a gwaith i gynnwys pobl â phrofiad bywyd er mwyn dweud wrthym a ydym yn cyflawni. Byddwn yn ymgynghori ar y cynigion hyn ar wahân.