Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ystyried y flwyddyn ysgol er mwyn helpu i fynd i'r afael ag anfantais a chefnogi llesiant, er budd dysgwyr, staff a rhieni. Mae hyn yn rhan o genhadaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru i sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb drwy fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol er budd pob dysgwr.

Yn 2023, rydym fwy neu lai yn dilyn yr un strwythur o ran tymhorau'r ysgol neu “galendr ysgol” â'r hyn roeddem yn ei ddilyn yn 1873, er ein bod yn byw, yn dysgu ac yn gweithio mewn byd gwahanol iawn heddiw o'i gymharu â 150 mlynedd yn ôl. Rydym am i'r calendr ysgol fod yn fwy cyson â bywyd yn y 21ain ganrif a'n helpu i fynd i'r afael ag anfantais, lleihau anghydraddoldeb addysgol, a chefnogi llesiant dysgwyr a staff.

Rydym yn gofyn am eich barn ar dri mater:

  • (a) Egwyddor diwygio'r flwyddyn ysgol.
  • (b) Opsiynau ar gyfer rhoi unrhyw addasiadau i'r flwyddyn ysgol ar waith, gan gynnwys gwneud rhai newidiadau yn 2025 i 2026.
  • (c) Dyddiadau tymhorau a awgrymir ar gyfer blwyddyn ysgol 2025 i 2026.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ategu'r newidiadau a'r gwelliannau blaengar niferus rydym wedi'u gwneud i addysg yng Nghymru yn ddiweddar. Mae gennym Gwricwlwm newydd i Gymru, rhoddir mwy o bwyslais ar ddysgu proffesiynol i athrawon, mae gennym ffyrdd newydd o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, a thros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno cymwysterau Gwneud-i-Gymru, sy'n gyson ag uchelgeisiau'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn ceisio eich barn ar nifer o addasiadau (neu newidiadau) penodol i'r calendr ysgol. Rydym yn cynnig gweithio gyda chyrff perthnasol i newid paramedrau traddodiadol y calendr ysgol i sicrhau bod y tymhorau'n fwy cyson o ran hyd a chynyddu rhai gwyliau hanner tymor fel bod pob hanner tymor fwy neu lai yr un hyd. Mae cwestiynau penodol yr ymgynghoriad wedi'u nodi ar ddiwedd y ddogfen hon.

Ni fydd nifer y diwrnodau a ddarperir ar gyfer dysgu, gwyliau a hyfforddiant staff yn newid. Byddwn yn cynnal y ddarpariaeth bresennol o 380 sesiwn/190 diwrnod dysgu (38 wythnos), 13 wythnos o wyliau, a'r nifer presennol o ddiwrnodau hyfforddiant staff (HMS) fesul blwyddyn ysgol.[troednodyn 1] Yn yr un modd, ni fydd nifer y gwyliau cyhoeddus yn newid.

Strwythur cyfredol y flwyddyn ysgol

Mae'r flwyddyn ysgol yng Nghymru yn dechrau ym mis Medi ac yn dod i ben ym mis Gorffennaf.

Nid yw strwythur y calendr ysgol wedi'i bennu mewn deddfwriaeth ac nid oes ffordd ragnodedig o ddosbarthu'r 13 wythnos o wyliau ysgol.

Tymhorau'r ysgol

Fel rhan o'r calendr ysgol cyfredol, mae tymor yr hydref fel arfer yn hirach na thymor y gwanwyn a thymor yr haf. Rhwng y tymhorau hyn ceir cyfanswm o 13 wythnos o wyliau, sy'n amrywio o ran hyd.

Gwyliau'r ysgol

Mae'r calendr ysgol cyfredol fel arfer yn cynnwys wythnos o wyliau sy'n rhannu pob tymor yn ddau hanner tymor (y cyfeirir ato fel “gwyliau hanner tymor”), pythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor yr hydref a thymor y gwanwyn (y naill yn cyd-daro â'r Nadolig a'r llall â'r Pasg, ar hyn o bryd), a thua chwe wythnos o wyliau ar ddiwedd tymor yr haf.

Gwahaniaethau ledled Cymru

Mae patrwm wedi dod i'r amlwg dros y 150 mlynedd diwethaf o ran strwythuro'r calendr ysgol. Fodd bynnag, gan nad yw'r calendr ysgol wedi'i bennu mewn deddfwriaeth, nid yw dyddiadau'r tymhorau bob amser yr un peth ledled Cymru na'r DU. Mae'r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gydweithio i geisio cysoni dyddiadau'r tymhorau gymaint â phosibl, ond ceir mân wahaniaethau lleol.

Dyma ddosbarthiad y calendr ysgol cyfredol:

Image
Calendr ysgol cyfredol

 

Tymor yr hydref (mis Medi i fis Rhagfyr)

  • Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Hydref/Tachwedd)
  • Gwyliau diwedd tymor: 2 wythnos (ym mis Rhagfyr/Ionawr)

Tymor y gwanwyn (mis Ionawr i fis Mawrth/Ebrill)

  • Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Chwefror)
  • Gwyliau diwedd tymor: 2 wythnos (ym mis Mawrth/Ebrill yr un adeg â’r Pasg)

Tymor yr haf (mis Ebrill i fis Gorffennaf)

  • Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Mai/Mehefin)
  • Gwyliau diwedd tymor: 6 wythnos (ym mis Gorffennaf/Awst)

Pam y mae angen newid y flwyddyn ysgol

Yng Nghymru, mae hawliau plant wrth wraidd popeth a wnawn, felly rydym am sicrhau bod y calendr ysgol yn seiliedig ar ddysgwyr ac addysg. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried newid strwythur yr calendr ysgol am sawl rheswm.

Mae hyn yn gyfle i lunio calendr yn fwriadol er mwyn cefnogi dysgwyr, systemau addysg a theuluoedd yn well. 

Mae tymhorau'r calendr ysgol cyfredol yn anghyson o ran hyd, gan fod tymor yr hydref yn hirach na thymor y gwanwyn a thymor yr haf. Nid yw hyd pob tymor a'r hanner tymhorau cysylltiedig yn fwriadol, ac yn draddodiadol, mae dyddiadau'r tymhorau wedi cael eu pennu yn unol â dyddiadau gwyliau cyhoeddus, megis y Nadolig a'r Pasg. Er enghraifft, nid yw Sul y Pasg yn disgyn ar ddyddiad penodol bob blwyddyn.

Rheswm 1: Calendr ysgol diwygiedig i ddiwallu anghenion dysgwyr dan anfantais a'u teuluoedd yn well

Mae'n hanfodol ystyried y ffordd rydym yn strwythuro'r dysgu a’r addysgu er mwyn sicrhau safonau a dyheadau uchel i bob dysgwr, yn enwedig i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a dysgwyr sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Wrth ystyried effeithiau'r calendr ysgol cyfredol, gwelwyd mai ar y dysgwyr hyn y mae'r strwythur yn cael yr effaith fwyaf; yn yr un modd, nhw fydd hefyd yn elwa fwyaf ar strwythur newydd[troednodyn 2].

Awgryma ymchwil fod cysylltiad rhwng strwythur rhwng y calendr ysgol a llesiant a chyflawniad addysgol dysgwyr. Er enghraifft, mae colli'r hyn a ddysgwyd, sy'n cyfeirio at ddysgwyr yn mynd ar ei hôl hi yn academaidd yn ystod gwyliau'r ysgol, yn fwy amlwg yn ystod gwyliau'r haf o gymharu â'r gwyliau eraill, gan fod gwyliau'r haf yn hirach nag unrhyw gyfnodau eraill o wyliau'r ysgol[troednodyn 3].

Mae'n rhaid neilltuo amser wedyn, yn ystod tymor yr hydref, i adennill y tir a gollwyd yn hytrach na datblygu'r dysgu. Fodd bynnag, gall hyn gymryd mwy o amser i ddysgwyr ag ADY a'r rhai sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol. At hynny, mae colli'r hyn a ddysgwyd a tharfu ar y drefn arferol yn newidiadau sylweddol i ddysgwyr ag ADY, ac mae'r calendr ysgol yn cyfrannu at hyn[troednodyn 4]. O ganlyniad, gallai hyd gwyliau'r haf fod yn cyfrannu at y bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol a'u cyfoedion.

Yn ogystal â hyn, gall gwyliau'r ysgol waethygu'r pwysau ariannol a'r ansicrwydd bwyd y mae teuluoedd incwm isel eisoes yn eu hwynebu, gan roi pwysau ar deuluoedd yn ogystal â'r dysgwyr eu hunain [troednodyn 5].

Gall gwyliau'r haf fod yn brofiad cadarnhaol i ddysgwyr a all gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ymestyn eu dysgu ac yn meithrin eu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw dysgwyr eraill yn cael yr un cyfleoedd, a all gyfrannu at fwlch cyrhaeddiad. At hynny, mae nifer sylweddol o rieni yn teimlo bod chwe wythnos o wyliau dros yr haf yn rhy hir, gan nodi diflastod, llai o weithgarwch corfforol, a risg o ynysu dros y gwyliau[troednodyn 6].

Rheswm 2: Calendr ysgol diwygiedig i gefnogi llesiant dysgwyr ac athrawon yn well a lleihau blinder

Os yw'r tymhorau yn rhy hir heb ddigon o wyliau, gall blinder gael effaith negyddol ar lefel yr addysgu, y dysgu a'r ymgysylltu sy'n digwydd mewn ystafelloedd dosbarth. Mae hyn yn arbennig o wir yn ystod tymor yr hydref, sef y tymor hiraf sy'n cynnwys y nifer mwyaf o wythnosau addysgu[troednodyn 7]. Mae staff ysgolion yn fwy tebygol o wynebu blinder a salwch yn ystod hanner tymor hirach, a bydd athrawon yn aml yn gweithio yn ystod rhan fawr o'r wythnos o wyliau yn yr hydref[troednodyn 8], a all gyfrannu at eu blinder. Er bod hyd tymor yr hydref yn rhoi'r cyfle i addysgu llawer iawn o gynnwys y cwricwlwm, prin yw'r cyfle i orffwys, sy'n arwain at flinder[troednodyn 9]. Yn yr un modd, mae dysgwyr yn blino erbyn diwedd tymhorau hir, ac mae'r effeithiau hyn yn arbennig o amlwg ymysg dysgwyr niwrowahanol a'r rhai sy'n teithio pellteroedd hir i'r ysgol[troednodyn 10].

Felly, gall hyd tymhorau effeithio ar ansawdd y dysgu a’r addysgu ac, o bosibl, effeithio ar brofiadau dysgwyr. Pan fydd nifer cymharol lai o wythnosau addysgu mewn tymor, bydd gan athrawon lai o amser i addysgu cynnwys y cwricwlwm a bydd gan ddysgwyr lai o amser i archwilio'r cwricwlwm.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwyliau'r ysgol i roi amser i ddysgwyr a'r gweithlu addysg orffwys a hamddena. Byddai calendr ysgol diwygiedig yn dal i roi cyfleoedd i blant a phobl ifanc orffwys ac, o bosibl, manteisio ar brofiadau y mae cynlluniau chwarae a gwersylloedd allgyrsiol yn eu cynnig.

Yn fwy cyffredinol, mae effeithiau gwyliau'r haf yn cynnwys diflastod, ynysu,[troednodyn 11] diffyg trefn a chymorth rheolaidd, a llai o ffocws ar lesiant a gweithgarwch corfforol. At hynny, gan mai gwyliau'r haf yw'r cyfnod hiraf o wyliau'r ysgol, y cyfnod hwn sy'n peri'r pryder diogelu mwyaf am nad yw dysgwyr yn cael cymorth proffesiynol wyneb yn wyneb gan ysgolion am chwe wythnos neu fwy.

Ar yr un pryd, efallai nad yw wythnos o wyliau yn ystod tymor hirach yr hydref yn ddigon hir i ddysgwyr ac athrawon orffwys ac adfer. Mae deall p'un a ellid ailstrwythuro gwyliau'r ysgol er mwyn cefnogi llesiant dysgwyr ac athrawon yn well yn hanfodol, ac mae casglu barn y cyhoedd ar y cam hwn yn un o'r rhesymau sylfaenol dros gynnal yr ymgynghoriad hwn.

Rheswm 3: Calendr ysgol diwygiedig i gefnogi'r dysgu a’r addysgu yn well

Gall tymhorau'r ysgol sy'n amrywio'n fawr o ran hyn gael effaith negyddol ar ddysgwyr a'r gweithlu addysg. Fel y nodwyd, mae amrywiadau o ran hyd y tymhorau yn golygu bod athrawon yn cael cyfnod anghyfartal o amser i addysgu cynnwys y cwricwlwm a bod dysgwyr yn wynebu anghydraddoldeb o un flwyddyn i'r llall, gan olygu y byddai un flwyddyn yn cynnwys mwy o wythnosau i addysgu a dysgu pwnc na blynyddoedd eraill. Gall yr anghysondeb o ran hyd tymor y gwanwyn a thymor yr haf hefyd effeithio ar waith adolygu'r dysgwyr hynny mewn blynyddoedd pan fyddant yn sefyll arholiadau[troednodyn 12].

Ar y llaw arall, gallai tymhorau sy'n fwy cyfartal o ran hyd fod o fantais wirioneddol ac ymarferol i athrawon a dysgwyr. Mae tymhorau sy'n gyfartal o ran hyd yn cynnig cyfleoedd cyson i archwilio’r cwricwlwm dros y flwyddyn yn ogystal â hyblygrwydd i athrawon ddewis pryd i addysgu pynciau/modiwlau yn ystod y flwyddyn ysgol yn ôl yr hyn sydd fwyaf addas i'r dysgwyr yn hytrach na chyfyngiadau o ran hyd y tymhorau. Awgryma ymchwil fod rhai athrawon yn cynllunio'r broses o gyflwyno cynnwys mewn blociau a'u bod yn ei chael hi'n anodd cyflawni blociau addysgu yn effeithiol mewn tymhorau byr iawn o bum wythnos neu lai[troednodyn 13].

Gallai ailddosbarthu cyfnodau o wyliau fel bod y tymhorau yn fwy cyfartal o ran hyd helpu ysgolion i gynllunio'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm gan roi ffocws mwy byth ar wella cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr.

Mae tystiolaeth i awgrymu y gall y ffordd y caiff cyfnodau o wyliau eu dosbarthu a'u hamseru effeithio ar gynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr. Gall amrywiadau o ran hyd y tymhorau gael effaith negyddol ar ddysgwyr. Mae hyn yn peri pryder penodol yn ystod tymor hirach yr hydref (pan fydd dysgwyr yn blino), a phan fydd y Pasg yn disgyn yn hwyrach yn y gwanwyn, gan olygu bod llai o amser yn yr ysgol yn union cyn yr arholiadau allanol.

Er enghraifft, gwelwyd bod dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg nad ydynt yn siarad llawer o Gymraeg, os o gwbl, gartref yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r dysgu a gollwyd yn ystod y chwe wythnos o wyliau dros yr haf. Mae'n rhaid wedyn neilltuo amser ar ôl iddynt ddychwelyd i'r ysgol yn nhymor yr hydref i adfer yr hyn a oedd eisoes wedi'i ddysgu ar ddiwedd y tymor blaenorol[troednodyn 14]. Er bod y rhan fwyaf o'r dysgu yn cael ei adfer yn nhymor yr hydref,[troednodyn 15] mae hyn, yn amlwg, yn golygu bod llai o amser i ddatblygu'r dysgu. Mae'r un peth yn wir i ddysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg nad ydynt yn siarad llawer o Saesneg, os o gwbl, gartref[troednodyn 16].

Rheswm 4: Calendr ysgol diwygiedig i gefnogi patrymau byw a gweithio modern

Mae'r ffordd rydym yn byw ac yn gweithio wedi newid yn fawr dros y degawdau diwethaf, ac maent yn debygol o barhau i newid ymhellach. Fodd bynnag, nid yw'r calendr ysgol wedi newid. Mae patrymau a chyfraddau cyflogaeth wedi newid[troednodyn 17], gan olygu bod mwy o fenywod yn gweithio y tu allan i'r cartref nag yn y gorffennol a bod pobl yn gweithio ac yn byw'n hirach. Gan fod teuluoedd estynedig yn aml yn byw ymhellach i ffwrdd oddi wrth ei gilydd, bod teidiau a neiniau yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth, a bod teuluoedd yn llai tebygol o fod â rhiant neu ofalwr sy'n aros yn y cartref[troednodyn 18], gall gofal plant yn ystod gwyliau'r ysgol fod yn heriol iawn i deuluoedd.

Y nifer cyfartalog o ddiwrnodau o wyliau blynyddol i'r rhai mewn cyflogaeth lawn-amser yw 28, sy'n gyfystyr â 5.6 wythnos. Gall y gwahaniaeth rhwng yr hawliad gwyliau blynyddol cyfartalog a'r 13 wythnos o wyliau'r ysgol olygu bod angen i rieni/gofalwyr sy'n gweithio ddod o hyd i ofal plant am tua saith wythnos yn ystod y flwyddyn. Mae llawer o deuluoedd yn dibynnu ar ofal plant ffurfiol. Fodd bynnag, yn ystod gwyliau'r ysgol, gall teuluoedd wynebu pwysau costau byw cynyddol, gan gynnwys yr angen i ddod o hyd i ddarpariaeth gofal plant hirach a'i hariannu, i'w galluogi i barhau i weithio neu astudio[troednodyn 19]. Er nad yw ailddosbarthu'r gwyliau yn dileu'r angen am ofal plant am 13 wythnos o'r flwyddyn, gallai gwyliau sydd wedi'u dosbarthu'n fwy cyson alluogi teuluoedd i gynllunio gofal plant anffurfiol yn well neu gyllidebu'n well ar gyfer cost gofal plant ffurfiol.

Mae Llywodraeth Cymru yn deall bod yn rhaid, wrth edrych ar strwythur y flwyddyn ysgol, ystyried yr effaith ddilynol y mae'r calendr ysgol yn ei chael ar sectorau gwahanol, gan gynnwys twristiaeth a lletygarwch, trafnidiaeth, gofal plant a chwarae, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus (gan gynnwys y GIG a gofal cymdeithasol), yn ogystal â grwpiau â nodweddion gwarchodedig. Mae gwaith ymgysylltu eisoes wedi'i wneud gyda chynrychiolwyr o'r grwpiau hyn er mwyn casglu safbwyntiau ar y calendr ysgol, a bydd y gwaith ymgysylltu hwn yn parhau drwy gydol yr ymgynghoriad.

Sut beth fyddai newid

Wrth fynd ar drywydd ein diwygiadau a'n polisïau addysg ehangach, mae'n bwysig deall y gall y calendr ysgol helpu i gefnogi dysgwyr, teuluoedd a'r gweithlu addysg drwy fynd i'r afael ag anfantais, cefnogi dysgu a llesiant, ac adlewyrchu'r ffordd rydym yn byw ac yn gweithio nawr.

Rydym am foderneiddio'r calendr ysgol er mwyn creu strwythur mwy cytbwys ledled Cymru. Rydym yn cynnig dosbarthiad gwahanol o wyliau dros y flwyddyn er mwyn creu tymhorau sy'n fwy cyson o ran hyd.

Bwriedir i unrhyw newidiadau a wnawn sicrhau'r manteision posibl canlynol:

Tymhorau sy'n fwy cyfartal o ran hyd

Byddai hyn yn hyrwyddo patrwm mwy sefydlog o ddysgu parhaus gyda chyfnodau rheolaidd o wyliau, gan gynnig cyfleoedd gwell i athrawon a dysgwyr adfer. Gallai helpu dysgwyr i wneud cynnydd mwy parhaus drwy roi'r cyfle iddynt atgyfnerthu ac adeiladu ar eu dysgu dros amser, gan roi mwy o gyfleoedd i ysgolion gynllunio cynnydd mewn modd cyson a gwneud defnydd llawn o bob tymor.

Ailddosbarthu cyfnodau o wyliau

Er mwyn lleihau blinder yn ystod y flwyddyn. Gall ailddosbarthu gwyliau er mwyn helpu i reoli'r llwyth gwaith hefyd gefnogi deilliannau addysgol; os bydd athrawon yn llai blinedig, gallant fod mewn sefyllfa well i gynllunio ac addysgu ac, yn yr un modd, gall dysgwyr sydd wedi dadflino fod mewn sefyllfa well i ddysgu. Yn yr un modd, gall dyrannu gwyliau i adegau gwahanol o'r flwyddyn gynnig cyfleoedd teithio a hamdden mwy fforddiadwy.

Cwtogi gwyliau'r haf

Drwy ailddosbarthu rhywfaint o'r amser hwn fel bod gwyliau'n cael eu rhannu'n fwy cyson dros y flwyddyn. Gallai hyn helpu i leihau effaith achosion o golli'r hyn a ddysgwyd dros wyliau'r haf a sicrhau bod amser yn yr ysgol yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r dysgu yn hytrach nag adfer yr hyn a gollwyd, er mwyn gwella deilliannau addysgol, cau'r bwlch cyrhaeddiad, a chysoni'r calendr ysgol yn well â phatrymau byw, dysgu a gweithio modern. Ar hyn o bryd, mae gwyliau'r haf yn defnyddio chwech o'r 13 o wythnosau o wyliau'r ysgol.

Pa newidiadau penodol rydym yn eu cynnig

Mae'r newidiadau hyn wedi'u hamlinellu yn yr opsiynau isod a chynigir y byddai'r broses o'u rhoi ar waith yn dechrau ym mlwyddyn ysgol 2025 i 2026. Byddai'r newidiadau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Ymestyn gwyliau hanner tymor mis Hydref i bythefnos a chwtogi gwyliau'r haf wythnos. 
  • Yr hyblygrwydd i ddatgysylltu gwyliau'r gwanwyn â gŵyl gyhoeddus y Pasg. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Pasg i lawer o bobl, ac mae'n bwysig nodi pe bai'r Pasg yn disgyn y tu allan i wyliau'r ysgol, y byddai gwyliau cyhoeddus yn dal i fod yn gymwys, a dylai'r amser dysgu gael ei ailddosbarthu, h.y. byddai'r ysgolion ar gau Ddydd Gwener yn Groglith a Dydd Llun y Pasg. Yn fras, bydd y Pasg a'r Wythnos Sanctaidd yn disgyn y tu allan i wyliau'r gwanwyn mewn dwy flwyddyn ysgol ym mhob cyfnod o ddeng mlynedd.

Er bod calendr ysgol â thymhorau sy'n fwy cyfartal o ran hyd yn cael ei gynnig, byddai lle o hyd i rywfaint o hyblygrwydd i ymateb i anghenion penodol. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd digwyddiadau lleol, diwylliannol, untro neu genedlaethol a all olygu bod angen newid y patrwm arferol.

Pa gynigion eraill rydym yn ystyried eu rhoi ar waith maes o law

Rydym hefyd yn ceisio barn am newidiadau posibl pellach y gellid eu cyflwyno maes o law. Byddai'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Rhoi'r hyblygrwydd i ymestyn gwyliau hanner tymor mis Mai a/neu pe bai angen, symud y gwyliau i ffwrdd oddi wrth yr ŵyl gyhoeddus, gan gwtogi gwyliau'r haf wythnos o ganlyniad hynny.
  • Symud diwrnod canlyniadau'r arholiadau TGAU i'r un wythnos â diwrnod canlyniadau'r arholiadau Safon UG/Safon Uwch.

Gallai fod manteision i hyn, yn arbennig i staff ysgolion uwchradd. Mae'r manteision hyn yn cynnwys 'rhyddhau' mwy o wythnosau yn ystod gwyliau'r haf i wrthbwyso'r cyfnod byrrach o wyliau[troednodyn 20].

Pa newidiadau rydym wedi'u diystyru

Drwy waith ymgysylltu â rhanddeiliaid, tystiolaeth ac ymchwil, rydym wedi ystyried gwahanol opsiynau amgen ar gyfer y calendr ysgol a allai ein helpu i gyflawni dosbarthiad mwy cyfartal o wythnosau dysgu.

Yn dilyn hynny, rydym wedi diystyru nifer o opsiynau amgen. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cynnig opsiwn lle byddai'r flwyddyn ysgol yn dechrau ym mis Ionawr ac yn dod i ben ym mis Rhagfyr. Rydym hefyd wedi diystyru opsiynau â chyfnod hirach o wyliau dros y Nadolig, ac unrhyw opsiynau â llai na phedair wythnos o wyliau dros yr haf.

Byddwn yn cadw'r un nifer o ddiwrnodau ysgol, ond cynigir y dylid eu hailddosbarthu'n fwy cyson dros y flwyddyn ysgol. O ystyried hynny, nid ydym o'r farn y byddai'r cynnig yn golygu bod angen newid Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol[troednodyn 21] na'r Llyfr Bwrgwyn[troednodyn 22].

Newidiadau a awgrymir

Er mwyn creu calendr ysgol mwy cyfartal sydd wedi'i lunio i gefnogi deilliannau addysgol i bawb, llesiant a bywyd modern, rydym yn cynnig calendr ysgol newydd i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae pob opsiwn yn cynnwys yr hyblygrwydd neu weithiau y gofyniad i ddefnyddio hanner wythnosau er mwyn sicrhau y darperir 190 o ddiwrnodau dysgu.

Bras amcanion yw’r tablau a’r disgrifiadau a ganlyn at ddibenion eglurhaol yn unig ac ni fwriedir iddynt ddangos dyddiadau union. 

Opsiwn 1: Y calendr ysgol presennol (Y Status Quo)

Mae'r strwythur presennol yn cynnwys wythnos o wyliau ym mis Hydref, pythefnos o wyliau dros y Nadolig, wythnos o wyliau ym mis Chwefror, pythefnos o wyliau dros y Pasg, wythnos o wyliau ym mis Mai a chwe wythnos o wyliau dros yr haf.

Image
Y calendr ysgol presennol

 

Tymor yr hydref (mis Medi i fis Rhagfyr)

  • Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Hydref/Tachwedd)
  • Gwyliau diwedd tymor: 2 wythnos (ym mis Rhagfyr/Ionawr)

Tymor y gwanwyn (mis Ionawr i fis Mawrth/Ebrill)

  • Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Chwefror)
  • Gwyliau diwedd tymor: 2 wythnos (ym mis Mawrth/Ebrill yr un adeg â’r Pasg)

Tymor yr haf (mis Ebrill i fis Gorffennaf)

  • Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Mai/Mehefin)
  • Gwyliau diwedd tymor: 6 wythnos (ym mis Gorffennaf/Awst)

Opsiwn 2: Calendr ysgol newydd (“Yr Opsiwn Newydd”) o 2025 i 2026 ymlaen

Yn yr opsiwn hwn, rydym yn cynnig calendr ysgol â phythefnos o wyliau ym mis Hydref, yr hyblygrwydd i ddatgysylltu gwyliau'r gwanwyn (“Y Pasg”) â gŵyl gyhoeddus y Pasg, a phum wythnos o wyliau dros yr haf, i'w cyflwyno o flwyddyn ysgol 2025 i 2026.

*Ni fyddai gwyliau mis Chwefror, y Nadolig na mis Mai yn newid yn yr opsiwn hwn.

Image
Calendr ysgol newydd

 

Tymor yr hydref (mis Medi i fis Rhagfyr)

  • Gwyliau hanner tymor: 2 wythnos (ym mis Hydref/Tachwedd)
  • Gwyliau diwedd tymor: 2 wythnos (ym mis Rhagfyr/Ionawr)

Tymor y gwanwyn (mis Ionawr i fis Mawrth/Ebrill)

  • Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Chwefror)
  • Gwyliau diwedd tymor: 2 wythnos (ym mis Mawrth/Ebrill a allai gael ei ddatgysylltu oddi wrth y Pasg)

Tymor yr haf (mis Ebrill i fis Gorffennaf)

  • Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos ym mis Mai/Mehefin)
  • Gwyliau diwedd tymor: 5 wythnos (ym mis Gorffennaf/Awst)

Opsiwn 3: Calendr Ysgol Newydd (“Yr Opsiwn Newydd a Mwy”) yn y dyfodol

Byddai'r opsiwn hwn ar gyfer calendr ysgol newydd yn cael ei gyflwyno mewn dau gam.

Opsiwn 3 Cam 1

Byddai Cam 1 yn cael ei roi ar waith o flwyddyn ysgol 2025 i 2026 ymlaen a byddai yr un peth ag Opsiwn 2. Yn y cam hwn, rydym yn cynnig calendr ysgol â phythefnos o wyliau ym mis Hydref, yr hyblygrwydd i ddatgysylltu gwyliau'r gwanwyn (“Y Pasg”) â gŵyl gyhoeddus y Pasg, a phum wythnos o wyliau dros yr haf.

Opsiwn 3 Cam 2

Yn ychwanegol at y newidiadau yng Ngham 1, rydym yn cynnig newidiadau ychwanegol i'r calendr ysgol ar ôl rhoi newidiadau Cam 1 ar waith. Mae'r newidiadau ychwanegol hyn yn cynnwys pythefnos o wyliau ym mis Mai a phedair wythnos o wyliau dros yr haf. Gallai newidiadau pellach hefyd gynnwys cynnal diwrnodau canlyniadau'r arholiadau Safon UG/Safon Uwch a TGAU yn ystod yr un wythnos.

*Ni fyddai gwyliau mis Chwefror na gwyliau'r Nadolig yn y naill gam na'r llall o'r opsiwn hwn.

Image
Opsiwn 3 Cam 1: Calendr Ysgol Newydd

 

Tymor yr hydref (mis Medi i fis Rhagfyr)

  • Gwyliau hanner tymor: 2 wythnos (ym mis Hydref/Tachwedd)
  • Gwyliau diwedd tymor: 2 wythnos (ym mis Rhagfyr/Ionawr)

Tymor y gwanwyn (mis Ionawr i fis Mawrth/Ebrill)

  • Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Chwefror)
  • Gwyliau diwedd tymor: 2 wythnos (ym mis Mawrth/Ebrill a allai gael ei ddatgysylltu oddi wrth y Pasg)

Tymor yr haf (mis Ebrill i fis Gorffennaf)

  • Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos ym mis Mai/Mehefin)
  • Gwyliau diwedd tymor: 5 wythnos (ym mis Gorffennaf/Awst)
Image
Opsiwn 3 Cam 2 Calendr ysgol newydd

 

Tymor yr hydref (mis Medi i fis Rhagfyr)

  • Gwyliau hanner tymor: 2 wythnos (ym mis Hydref/Tachwedd)
  • Gwyliau diwedd tymor: 2 wythnos (ym mis Rhagfyr/Ionawr)

Tymor y gwanwyn (mis Ionawr i fis Mawrth/Ebrill)

  • Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Chwefror)
  • Gwyliau diwedd tymor: 2 wythnos (ym mis Mawrth/Ebrill a allai gael ei ddatgysylltu oddi wrth y Pasg)

Tymor yr haf (mis Ebrill i fis Gorffennaf)

  • Gwyliau hanner tymor: 2 wythnos ym mis Mai/Mehefin)
  • Gwyliau diwedd tymor: 4 wythnos (ym mis Gorffennaf/Awst)

Y camau nesaf

Cynhelir yr ymarfer ymgynghori o 21 Tachwedd 2023 hyd 12 Chwefror 2024. Bydd Gweinidogion Cymru yn mynd ati wedyn i ystyried y canfyddiadau a phenderfynu ar galendr ysgol y blynyddoedd i ddod, gyda'r nod o ddechrau rhoi rhai o'r newidiadau ar waith yn 2025 i 2026.

Rydym yn cydnabod y bydd unrhyw newidiadau i'r calendr ysgol yn effeithio ar ddysgwyr, teuluoedd, ysgolion, a chymdeithas yn ehangach. Felly, bydd cryn amser paratoi yn cael ei neilltuo cyn i unrhyw newid gael ei wneud, fel bod modd i bob rhanddeiliaid gynllunio ac addasu'n briodol. Yn yr un modd, byddem yn anelu at roi unrhyw newidiadau ar waith yn unol â chymwysterau Gwneud-i-Gymru.

Dyddiadau tymhorau arfaethedig ar gyfer blwyddyn ysgol 2025 i 2026

Pe bai opsiwn 2 neu opsiwn 3 uchod yn cael ei gefnogi, rydym yn cynnig y dyddiadau canlynol ar gyfer tymhorau blwyddyn ysgol 2025 i 2026.

Dyddiadau tymhorau arfaethedig ar gyfer blwyddyn ysgol 2025 i 2026
Cyfnod Dechrau Diwedd (At ddibenion y ddogfen hon, os daw tymor i ben ar ŵyl gyhoeddus, caiff ei chynnwys fel rhan o'r tymor.)
Tymor yr Hydref 2025 Dydd Llun 1 Medi Dydd Gwener 19 Rhagfyr
Hanner Tymor yr Hydref 2025 Dydd Llun 20 Hydref Dydd Gwener 31 Hydref
Tymor y Gwanwyn 2026 Dydd Llun 5 Ionawr Dydd Gwener 3 Ebrill
Hanner Tymor y Gwanwyn 2026 Dydd Llun 16 Chwefror Dydd Gwener 20 Chwefror
Tymor yr Haf 2026 Dydd Llun 20 Ebrill Dydd Mercher 29 Gorffennaf
Hanner Tymor yr Haf 2026 Dydd Llun 25 Mai Dydd Gwener 29 Mai

Mae'r dyddiadau hyn yn creu calendr ysgol sy'n cynnwys y canlynol:

  • 190 o ddiwrnodau dysgu (defnyddir pum diwrnod o'r opsiwn uchod fel diwrnodau HMS i'w pennu gan y cyrff perthnasol ar lefel leol).
  • Pythefnos o wyliau ym mis Hydref, a phum wythnos o wyliau dros yr haf.
  • Gwyliau'r gwanwyn wedi'u datgysylltu â'r Pasg er mwyn creu tymhorau sy'n fwy cyfartal o ran hyn.
  • Bydd yr holl wyliau eraill yn aros yr un peth â'r rhai cyfredol o ran eu hamseriad a'u hyd.

Rydym yn ceisio eich barn ar y dyddiadau penodol hyn fel rhan o holiadur yr ymgynghoriad.

Os penderfynir bwrw ati ag unrhyw un o'r newidiadau i'r flwyddyn ysgol o flwyddyn ysgol 2025/26 ymlaen, byddai angen i Weinidog y Gymraeg ac Addysg gyhoeddi cyfarwyddyd yn unol ag adran 32B o Ddeddf Addysg 2002. Mae cyfarwyddyd drafft yn seiliedig ar y cynigion ar gyfer Opsiwn 2 ac Opsiwn 3 Cam 1 wedi'i nodi yn Atodiad A.

O flwyddyn ysgol 2026 i 2027, byddai'r cyrff perthnasol sy'n gyfrifol fel arfer am bennu dyddiadau'r tymhorau yn parhau i fod yn gyfrifol am wneud hynny, a byddent yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i bennu dyddiadau'r tymhorau gan ystyried canlyniad yr ymgynghoriad hwn.

Cwestiynau’r Ymgynghoriad

Dewiswch bob un o'r canlynol sy'n berthnasol i chi:

  • 17 oed ac yn iau
  • 18 oed ac yn hŷn
  • Y gweithlu addysg
  • Y sector twristiaeth
  • Y sector gofal plant
  • Gwaith llawn-amser (rhowch fanylion)
  • Gwaith rhan-amser (rhowch fanylion)
  • Rhiant neu ofalwr (Defnyddiwyd ‘rhiant’ fel term llaw fer i gynnwys mamau, tadau, gofalwyr maeth, rhieni mabwysiadol, llys-rieni, gofalwyr sy'n berthnasau, theidiau a neiniau a gwarcheidwaid)
  •  Arall
  1. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y gallai'r calendr ysgol gael ei lunio'n well i gefnogi'r ffordd rydym yn byw, yn dysgu ac yn gweithio heddiw?
  2. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y gallai'r calendr ysgol gael ei lunio'n well i gefnogi dysgwyr sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol?
  3. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y gallai'r calendr ysgol gael ei lunio'n well i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)?
  4. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y gallai'r calendr ysgol gael ei lunio'n well i gefnogi llesiant athrawon a/neu ddysgwyr a lleihau blinder? 
  5. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â chyflwyno wythnos ychwanegol o wyliau (wedi'i thynnu oddi ar wyliau'r haf) i rannu'r tymor hiraf (yr hydref)?
  6. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â chael y hyblygrwydd i ddatgysylltu (gwahanu) gwyliau'r gwanwyn â gŵyl gyhoeddus y Pasg?
  7. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â chyflwyno wythnos ychwanegol o wyliau ym mis Mai neu fis Mehefin (wedi'i thynnu oddi ar wyliau'r haf a'i hychwanegu at wyliau presennol mis Mai), er mwyn creu tymhorau cyson o ran hyd?
  8. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â chynnal diwrnodau canlyniadau arholiadau Safon Uwch, Safon UG a TGAU yn ystod yr un wythnos?
    Ar hyn o bryd, dosberthir canlyniadau'r arholiadau yn ystod trydedd neu bedwaredd wythnos mis Awst, yn y drefn honno. Byddai cysoni'r diwrnodau canlyniadau yn golygu y byddai canlyniadau arholiadau TGAU yn cael eu dosbarthu'n gynt yn ystod yr un wythnos â chanlyniadau'r arholiadau Safon Uwch a Safon UG.
  9. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno ag Opsiwn 1: Cadw at y calendr ysgol presennol?
  10. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno ag Opsiwn 2 a'r cyfarwyddyd drafft arfaethedig: calendr ysgol â phythefnos o wyliau ym mis Hydref, gwyliau'r gwanwyn ar yr un pryd fwy neu lai bob blwyddyn (ni waeth pryd y bydd y Pasg yn disgyn), a 5 wythnos o wyliau dros yr haf?
  11. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno ag Opsiwn 3: calendr ysgol â phythefnos o wyliau ym mis Hydref, gwyliau'r gwanwyn ar yr un pryd fwy neu lai bob blwyddyn (ni waeth pryd y bydd y Pasg yn disgyn), pythefnos o wyliau ym mis Mai, a 4 wythnos o wyliau dros yr haf?
  12. Ar gyfer 2025 i 2026, i ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r dyddiadau arfaethedig a nodwyd ar gyfer y tymhorau yn Opsiwn 2 ac Opsiwn 3?
  13. Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
    A ydych yn meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
    A ydych yn meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol?
  14. Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r cynigion er mwyn sicrhau:
    er mwyn cael effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar drin y Gymraeg yn ddim llai ffafriol na’r Saesneg; neu
    er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar y Gymraeg ac ar drin y Gymraeg yn ddim llai ffafriol na’r Saesneg?
  15. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd rheolydd data unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Bydd Gweinidogion Cymru yn dibynnu ar y pwerau statudol sydd ganddynt i brosesu'r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau hyddysg ar y ffordd y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol, Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, nodwch hynny wrth i chi ddychwelyd eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu dileu cyn cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Fel arall, caiff unrhyw ddata a ddelir gan Lywodraeth Cymru amdanoch eu cadw am ddim mwy na tair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a ddelir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i ofyn i'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r defnydd a wneir ohoni, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/

Troednodyn

[1] Yn amodol ar unrhyw addasiad o flwyddyn i flwyddyn.

[2] Adroddiad MR.

[3] Adroddiad MR.

[4] Adroddiad MR.

[5] Kelloggs (2015) Isolation and hunger: the reality of school holidays for struggling families [ar-lein]. [Cyrchwyd 04 Hydref 2022].

Manylion: “41 per cent of parents on low household incomes say they sometimes feel isolated in the school holiday due to being unable to afford to go out and entertain their children” (Kelloggs, 2015).

[6] Y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant.

[7] Adroddiad Miller 2023, paragraff 5.7.

[8] Adroddiad MR.

[9] Adroddiad MR, paragraff 5.7 Teacher Tapp, ‘Which half term do teachers find the most and least enjoyable?’, Gorffennaf 2022; TES (2019) Autumn term is the NQT slayer [ar-lein]. [Cyrchwyd 29 Mehefin 2022].

Manylion: Dywed y Bartneriaeth Cymorth Addysg, elusen sy'n cynnal llinell gymorth i athrawon â phroblemau iechyd meddwl, fod straen yn cronni ymysg athrawon yn ystod tymor yr hydref. For Miller work to corroborate.

Canfu Teacher Tapp (Gorffennaf 2022) fod 39% o athrawon uwchradd yn teimlo mai ail hanner tymor yr hydref yw'r hanner tymor y maent yn ei fwynhau leiaf, o gymharu â 24% o athrawon cynradd a ddywedodd eu bod yn teimlo fel hyn.
Bydd rhai ANGau yn treulio'r mwyafrif o wyliau hanner tymor yr hydref yn gweithio, a nodwyd mai gwyliau'r Nadolig yw'r prif ‘seibiant’ (TES, 2019). Adroddiad Miller

[10] Adroddiad MR.

[11] Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (2021): Adroddiad Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2019 i 2020 [ar-lein]. [Cyrchwyd 22 Medi 2022]

Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (2022): Cymharu canfyddiadau o arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2019 a 2021 gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion [ar-lein]. [Cyrchwyd 22 Medi 2022]

Manylion: Canfu'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn 2019 fod 31 y cant o ddysgwyr uwchradd yn teimlo'n unig yn ystod gwyliau'r haf.

[12] Adroddiad MR.

[13] Adroddiad Miller 2023, paragraff 5.7 a 5.8.

[14] “Learning loss was also thought to be a problem for learners at Welsh-medium school who spoke little or no Welsh at home, resulting in six weeks without speaking the language. A few education workforce participants explained that the long break impacted on these learners’ language development and made it difficult for them to re-engage with the language” (Beaufort a Cazbah, 2022).

[15] Adroddiad MR.

[16] Adroddiad MR.

[17] Office for National Statistics (March 2022) Families and households in the UK: 2021 [ar-lein]. [Cyrchwyd 14 Tachwedd 2022].

Office for National Statistics (July 2022) Families and the labour market, UK: 2021 [ar-lein]. [Cyrchwyd 14 Tachwedd 2022].

Manylion: Noda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (2022) fod 71.9% o fenywod mewn cyflogaeth yn 2021 o gymharu â 52.7% yn 1971 a bod 78.3% o ddynion mewn cyflogaeth yn 2021 o gymharu â 91.4% yn 1971.

[18] Office for National Statistics (July 2022) Families and the labour market, UK: 2021 [ar-lein]. [Cyrchwyd 14 Tachwedd 2022]. [Cyrchwyd 14 Tachwedd 2022]. Manylion: Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2022) “from 2020, in families where both parents are employed, it has become more common for both parents to work full-time, rather than a man working full-time with a partner working part-time” (SYG, Gorffennaf 2022).

[19] Cyngres yr Undebau Llafur (2021) Summer holiday childcare: no let up for working mums A TUC Gender Equality Briefing [ar-lein]. [Cyrchwyd 10 Hydref 2022].

“Families on low incomes experience a range of challenges during holiday periods, including financial pressures and difficulties in sourcing childcare or holiday activities which are accessible, affordable and fit with parental employment and the needs of the family” (Y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, 2015).
Noda Cyngres yr Undebau Llafur (2021) “nearly two thirds (63 per cent) of mums with primary aged children do not have sufficient childcare for the summer holidays. This rises to three quarters (76 per cent) for single parents” (Cyngres yr Undebau Llafur, 2021).

“Where holiday childcare is unavailable or too expensive, parents are left with few options. Rather than looking forward to the long break, many parents dread the juggling act between family, friends and annual leave to make sure that their children are well looked after, and some struggle to stay in work” (Cottell, Descateaux a Coleman, 2019).

[20] Y rhesymau dros ystyried y cynigion uchod o flwyddyn ysgol 2029 i 2030 ymlaen yw bod y Cydgyngor Cymwysterau yn gyfrifol am yr amserlen arholiadau gyffredinol ledled Cymru a Lloegr ac yn cynnwys pum diwrnod o wyliau ym mis Mai/Mehefin yn ystod cyfres arholiadau'r haf. Y disgwyliad yw, wrth i'r cymwysterau Gwneud-i-Gymru gael eu cyflwyno, y gallai Cymru symud i ffwrdd oddi wrth amserlen y Cyd-Gyngor Cymwysterau, gan roi'r opsiwn iddi symud neu ymestyn gwyliau mis Mai yn y dyfodol. Er mwyn symud diwrnod canlyniadau arholiadau TGAU, byddai angen i'r amserlen arholiadau TGAU gyffredinol ddechrau'n gynt er mwyn hwyluso'r broses o ddyfarnu'n gynt. Mae hyn yn ddibynnol ar symud i fwrdd oddi wrth amserlen y Cyd-Gyngor Cymwysterau.

[21] Mae'r telerau ac amodau cyfredol wedi'u nodi yng Ngorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 (O.S. 2023/443), a wnaed yn unol ag adran 122 o Ddeddf 2002 (yn ymwneud â phŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i ragnodi cyflog ac amodau athrawon ysgol.

[22] Cytundeb rhwng Sefydliad Cenedlaethol Cyflogwyr Athrawon Ysgol, undebau athrawon a Chymdeithasau Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr yw'r Llyfr Bryngwyn. Mae'n 'gydgytundeb' o dan adran 178(1) o Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992.