Cynllun Ffermio Cynaliadwy:
mae cymorth ffermydd yn newid
Cyflwyno y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
O fis Ionawr 2026 ymlaen, bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn disodli'r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) fel prif ffynhonnell cymorth ffermydd yng Nghymru. Rydym wedi dylunio'r SFS gyda ffermwyr, ar gyfer ffermwyr.
Bydd yr SFS yn eich cefnogi i:
- Barhau i gynhyrchu bwyd o'r radd flaenaf yn gynaliadwy
- Eich helpu i reoli effeithiau newid yn yr hinsawdd ar eich fferm
- helpu natur i ffynnu
Mae'n cynnwys camau fel:
- profion pridd i'ch helpu i wella iechyd pridd
- meincnodi er budd gwytnwch busnesau fferm
- creu a chynnal cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd
- plannu coed a gwrychoedd i wella'ch fferm
- gwella ymhellach y safonau uchel o iechyd a lles anifeiliaid ar eich fferm
- cefnogaeth ar gyfer dysgu parhaus i adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol
Pwy sy'n gymwys
Bwriad yr SFS yw cefnogi ffermwyr sydd:
- yn cynnal gweithgareddau amaethyddol
- bydd gennych o leiaf dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru, neu gallwch ddangos i chi weithio mwy na 550 awr o lafur safonol
- â rheolaeth lwyr ar y tir am o leiaf ddeng mis y flwyddyn
Gwyliwch ein animeiddiad sy'n esbonio'r cynllun
Beth mae'r Cynllun yn ei gynnwys
Mae gan yr SFS dair lefel:
Gweithredoedd Cyffredinol
12 gweithgaredd craidd yr ydym yn gofyn i bob ffermwr eu gwneud. Fodd bynnag, efallai na fyddant i gyd yn berthnasol i'ch fferm, ac efallai eich bod eisoes yn gwneud rhai ohonynt.
Gweithredoedd Opsiynol
Gweithgareddau ychwanegol y gallwch ddewis eu gwneud am gyllid ychwanegol.
Gweithredoedd Cydweithredol
Cefnogaeth i ffermwyr weithio gyda'i gilydd i gyflawni canlyniadau na ellir eu cyflawni ar un fferm.
Gweler y disgrifiad o'r cynllun am gyflwyniad i'r Camau Gweithredu Dewisol a Chydweithredol.
Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi wrth i'r camau gweithredu hyn ddod ar gael.
Dyddiadau allweddol ar gyfer yr SFS
1 Ionawr 2026
Bydd yr Haen Gyffredinol yn rhedeg yn flynyddol ar raglen dreigl gyda'r Cynllun yn dechrau 1 Ionawr bob blwyddyn.
2 Mawrth 2026
Dyddiad agor Ffurflen Cais Sengl 2026 y SAF yw'r broses lle rydych yn cadarnhau eich bod yn mynd dechrau ar y Cynllun ac yn gwneud cais am y taliad.
Nid yw dechrau Haen Gyffredinol yr SFS yn broses gystadleuol. Os byddwch yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cynllun ac yn ymrwymo i ymgymryd â'r Camau Gweithredu Cyffredinol, byddwch yn gallu cymryd rhan yn y Cynllun.
15 Mai 2026
Dyddiad Cau Ffurflen Cais Sengl 2026.
Rhagor o wybodaeth
Darganfod mwy am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar LLYW. CYMRU
