Symleiddio Budd-daliadau Cymru: adolygiad o ddeddfwriaeth, meini prawf cymhwysedd a pholisi
Adolygu'r rheolau sy'n llywodraethu'r 3 budd-dal Cam 1.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Y budd-daliadau dan sylw oedd:
- Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS)
- Prydau Ysgol Am Ddim (FSM)
- Grant Hanfodion Ysgol (SEG)
Ynglŷn â'r budd-daliadau
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yw'r mecanwaith a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru i gefnogi aelwydydd incwm isel i fodloni eu rhwymedigaeth Treth Gyngor.
Prydau Ysgol Am Ddim
Roedd cyflwyno trothwy incwm a enillir ar gyfer teuluoedd sy'n cael Credyd Cynhwysol (CC) o 1 Ebrill 2019 yn cadw hawl i brydau ysgol am ddim i deuluoedd sy'n cael CC ond dim ond os ydynt yn ennill llai na £7,400 y flwyddyn.
Mae'r rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i:
"Barhau i gwrdd â'r cynnydd yn y galw am Brydau Ysgol Am Ddim sy'n deillio o'r pandemig ac adolygu'r meini prawf cymhwysedd, gan estyn yr hawl cyn belled ag y mae adnoddau'n ei ganiatáu ac o leiaf i bob plentyn ysgol gynradd."
Grant Hanfodion Ysgol
Mae'r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i blant a phobl ifanc sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM) a Phlant sy'n Derbyn Gofal (CLA), a gofynnir i ALlau ddangos eu disgresiwn wrth ddyfarnu'r grant i ddysgwyr y mae eu teuluoedd yn nosbarth Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus (NRPF), yn y grwpiau Derbyn i Flwyddyn 11. Bydd y cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2025.
Mae ymgyrch 'Cael help gyda chostau ysgol' ar y cyd â Phrydau Ysgol am Ddim yn annog rhieni i barhau i gofrestru ar gyfer eFSM a SEG a denu cyllid ar gyfer eu hysgol neu leoliad drwy'r Grant Datblygu Disgyblion.
Cyllido
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Cymeradwywyd Rheoliad CTRS 2013 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 26 Tachwedd 2013. Mae gwerth hawliau dyfarnu yn cael ei dalu'n lleol gan bob awdurdod lleol. Darparodd Llywodraeth Cymru £244m yn y Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer CTRS yn 2013 i 2014 a phob blwyddyn ers hynny.
Mae'r cyllid hwn yn cymryd lle incwm y Dreth Gyngor y byddai awdurdodau fel arall yn gallu ei gasglu gan aelwydydd sy'n gymwys i gael CTRS.
Prydau Ysgol Am Ddim
Ariennir prydau ysgol am ddim drwy'r Grant Cynnal Refeniw sydd heb ei neilltuo ac felly ni ellir ei ynysu / ei nodi, er bod cyfrifo a dosbarthu'r cyllid yn defnyddio'r ffigurau eFSM sy'n cael eu cofnodi yn rhan o'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Mae'n ofynnol i ALlau fodloni'r galw am Brydau Ysgol am Ddim o’r Grant Cynnal Refeniw; os yw'r galw’n amrywio, nid yw’r cyllid. Mae hyn yn wahanol i gyllido cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Bawb ar lefel gynradd.
Grant Hanfodion Ysgol
Caiff ei arwain gan alw gyda chyllideb neilltuedig ac mae’n seiliedig ar y nifer sy’n manteisio ar Brydau Ysgol am Ddim o CYBLD. Rhwng 2024 a 2025, rhyddhawyd £13.1m o gyllid ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgolion.
Sail ddeddfwriaethol Cymru / y DU
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Mae'r pwerau i wneud Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi'u cynnwys yn adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi. Mae'r pwerau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ofyn, drwy reoliadau, bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithredu Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a rhagnodi cynnwys cynlluniau o'r fath.
Gwneir rheoliadau diwygio'n flynyddol i uwchraddio'r ffigurau ariannol yn Rheoliadau 2013 yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru i gynnal hawliau, ac i wneud unrhyw ddiwygiadau canlyniadol a thechnegol angenrheidiol i sicrhau bod CTRS yn adlewyrchu newidiadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol cysylltiedig a systemau eraill a’i fod yn parhau i fod yn addas i'r diben.
Prydau Ysgol Am Ddim
Mae Deddf Addysg 1996 (y DU) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi'r amgylchiadau lle gall disgyblion o deuluoedd sy'n cael Credyd Cynhwysol fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ar hyn o bryd, mae hyn wedi'i ragnodi yng Ngorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth Am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2019.
O dan adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cinio ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys:
- os ydynt yn mynychu ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth (ar gyfer disgyblion oedran meithrin mae gofyniad rhagnodedig drwy Orchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005 fod yn rhaid i'r disgybl fynychu sesiynau’r bore a’r prynhawn er mwyn i'r ddyletswydd godi)
- os yw eu teuluoedd yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim
- os oes cais wedi'i wneud gan y rhiant neu'r disgybl, neu ar eu rhan, am brydau ysgol am ddim (h.y. ni ellir dyfarnu prydau ysgol am ddim yn awtomatig heb fod cais wedi’i wneud gan y rhiant neu'r disgybl neu ar eu rhan).
Grant Hanfodion Ysgol
Rhyddheir y cyllid hwn ar sail ac yn destun yr amodau o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru, sy'n gweithredu yn unol â swyddogaethau a drosglwyddwyd o dan adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002.
Bwriad y polisi
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Darparu cymorth i aelwydydd ar incwm isel gyda'u rhwymedigaeth Treth Gyngor drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a lleihau tlodi plant a darparu cymorth ariannol i aelwydydd incwm isel
Prydau Ysgol Am Ddim
Sicrhau bod prydau iach ar gael i blant o aelwydydd incwm isel i wella iechyd a chanlyniadau dysgu.
Grant Hanfodion Ysgol
Darparu cymorth i helpu aelwydydd incwm isel i dalu costau hanfodion ysgol h.y. gwisg ac offer.
Cymhwysedd/hawl
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Cyfalaf o lai na £16,000. Os yw ymgeisydd yn cael 'budd-dal wedi’i basbortio', mae’n gallu hawlio’r gostyngiad mwyaf yn ei rwymedigaeth Treth Gyngor yn awtomatig. Mae hyn yn golygu gostyngiad i sero (llai unrhyw ddidyniadau ar gyfer pobl nad ydynt yn ddibynnol).
Mae budd-daliadau wedi’u pasbortio yn cynnwys:
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm: a delir i'r rhai sy'n ddi-waith ac sydd ar incwm isel.
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm: a delir i'r rhai ar incwm isel y mae eu gallu i weithio wedi'i gyfyngu gan salwch neu anabledd.
- Cymhorthdal Incwm: a delir i’r rhai ar incwm isel ac sydd o dan oedran pensiwn y wladwriaeth.
- Credyd Pensiwn (Credyd Gwarant): a delir i'r rhai ar incwm isel sydd dros yr oedran cymwys.
Os nad yw ymgeisydd yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn wedi’u pasbortio, caiff ei gategoreiddio’n ymgeisydd 'heb ei basbortio'. Er mwyn penderfynu a yw’n gymwys i gael gostyngiad yn y dreth gyngor, mae'r aelwyd yn destun prawf modd.
Prydau Ysgol Am Ddim
Plant o deuluoedd incwm isel sy'n cael budd-dal cymwys perthnasol h.y. Credyd Cynhwysol neu sydd ag enillion net o dan £7,400 ac sy'n mynychu ysgol a gynhelir gan ALl.
Grant Hanfodion Ysgol
Yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu’n byw mewn aelwyd Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus (yn amodol ar gyfarwyddyd ALl).
Beth mae'r ymgeisydd yn ei gael?
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Hyd at 100% o ostyngiad yn ei rwymedigaeth Treth Gyngor.
Prydau Ysgol Am Ddim
Pryd o fwyd am ddim bob dydd yn ystod y tymor.
Grant Hanfodion Ysgol
Cael £125 o grant y dysgwr neu £200 i ddysgwyr sy'n dechrau ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda’r costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau'r ysgol uwchradd).
Proses ymgeisio
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Gall yr aelwyd gysylltu ag adran Treth Gyngor ei hawdurdod lleol a gwneud cais dros y ffôn neu wneud cais ar-lein trwy wefan yr awdurdod lleol. Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu ffurflen copi caled ar gais.
Gellir cwblhau cais yn rhan o'u hawliad Credyd Cynhwysol.
Prydau Ysgol Am Ddim
Nid yw'r term cais wedi'i ddiffinio yn Neddf Addysg 1996, felly mae gan bob awdurdod lleol yr ymreolaeth i bennu’r hyn sy'n cyfrif fel cais. O ystyried bod angen data penodol i benderfynu ar gymhwysedd, mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gofyn bod ffurflen gais yn cael ei llenwi.
Gall rhiant neu ofalwr gasglu ffurflen o ysgol y plentyn neu'r awdurdod lleol neu mae opsiynau i wneud cais drwy wefan yr awdurdod lleol. Yn gyffredinol, caiff cymhwysedd ei asesu gan ddefnyddio'r System Gwirio Cymhwysedd a ddarperir gan yr Adran Addysg, ac os cadarnheir cymhwysedd gellir darparu pryd ysgol am ddim. Gall ymgeiswyr hawlio prydau ysgol am ddim yn rhan o gais am ostyngiad yn y dreth gyngor trwy rai ALlau.
Grant Hanfodion Ysgol
Mae gan ALlau ffurflen gais ar wahân sydd ar gael pan fydd y cynllun yn agor. Mae rhai ALlau yn dyfarnu grant ar yr un pryd ag y maent yn dyfarnu prydau ysgol am ddim. Mae eraill yn defnyddio cofrestru awtomatig pan fydd y cynllun yn agor.
Trothwyon incwm
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Caiff cymhwysedd ei asesu yn seiliedig ar incwm a chyfalaf. Gall person cymwys gael hyd at £16,000 o gyfalaf. Os yw person yn cael Gwarant Credyd Pensiwn, bydd yn dal i fod yn gymwys hyd yn oed os yw ei gyfalaf yn fwy na £16,000.
Prydau Ysgol Am Ddim
Teuluoedd sy'n cael Credyd Cynhwysol gydag enillion net blynyddol o dan £7,400.
Grant Hanfodion Ysgol
Teuluoedd sy'n cael Credyd Cynhwysol ac sy'n ennill llai na £7,400.
Nid yw disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim trwy drefniadau diogelu trosiannol neu sy'n cael Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb yn yr Ysgol Gynradd (UPFSM) yn gymwys i gael y cyllid hwn.
Y Nifer yn Manteisio yn 2023 i 2024
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Mae ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor gwerth £244m yn helpu i leihau'r Dreth Gyngor a delir gan bron i 260,000 o aelwydydd (tuag un o bob pump o aelwydydd). O'r rhain, nid yw dros 216,000 o aelwydydd yn talu Treth Gyngor o gwbl.
Prydau Ysgol Am Ddim
Nid yw'r data hwn ar gael oherwydd afreoleidd-dra wrth gasglu data CYBLD.
Grant Hanfodion Ysgol
Ar gyfartaledd, mae 90% yn manteisio ers mis Ionawr 2025 ar gyfer ffurflenni ail chwarter ALlau, gyda diwedd blwyddyn grant 2025.
Newidiadau diweddar i'r rheoliadau a'r rhesymeg
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Gwneir diwygiadau blynyddol i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013. Mae hawliadau budd-daliadau a ddefnyddir i gyfrifo swm y gostyngiad yn cael eu huwchraddio yn unol â Budd-daliadau'r DU i adlewyrchu cynnydd mewn costau byw.
Cyflwynodd Rheoliadau Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2025 ddarpariaethau i ganiatáu i ALlau drin cais CC fel ‘bwriad i hawlio’ gostyngiad yn y dreth gyngor. Bydd y newid hwn yn galluogi integreiddio llyfnach rhwng Credyd Cynhwysol a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, gan leihau beichiau gweinyddol i ymgeiswyr ac ALlau. Mae hyn yn dibynnu ar yr ymgeisydd CC yn cytuno i wneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor (trwy dicio blwch) ac o ganlyniad bydd yr wybodaeth am yr ymgeisydd yn cael ei rhannu gyda'r ALl a all asesu cymhwysedd ar gyfer CTRS. Bob tro y bydd newid amgylchiadau, bydd yr ALl yn cael gwybodaeth wedi'i diweddaru.
Prydau Ysgol Am Ddim
Dim newidiadau diweddar.
Byddai angen gweithredu unrhyw newidiadau i'r trothwy incwm Credyd Cynhwysol sy'n pennu cymhwysedd am brydau ysgol am ddim trwy is-ddeddfwriaeth.
Byddai angen deddfwriaeth sylfaenol er mwyn cyflwyno categori newydd o ddysgwr cymwys (e.e. dysgwyr sy'n byw gyda rhieni/gofalwyr heb hawl i gyllid neu sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor).
Grant Hanfodion Ysgol
Dim newidiadau diweddar ac nid oes unrhyw newidiadau ar y gweill ar hyn o bryd.
Newidiadau wedi’u cynllunio i'r rheoliadau a'r rhesymeg
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud un Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor cenedlaethol drwy reoliadau sydd â'r gallu i wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn. Mae rheoliadau wedi'u cynllunio ar gyfer Ebrill 2027.
Prydau Ysgol Am Ddim
Dim ar y gweill.
Grant Hanfodion Ysgol
Dim ar y gweill.
Synergeddau
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Mae'r ddau yn cefnogi teuluoedd incwm isel a phlant, gyda'r nod o leihau tlodi plant. Maent i gyd yn anelu at welliant hirdymor mewn canlyniadau boed yn ariannol, yn faethol neu'n addysgol.
Prydau Ysgol Am Ddim
Nod y tri yw mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau plant: Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor trwy gymorth ariannol, Prydau Ysgol am Ddim trwy bryd ysgol am ddim, a’r Grant Hanfodion Ysgol trwy gymorth ac adnoddau addysgol ychwanegol.
Grant Hanfodion Ysgol
Mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol i gyd yn canolbwyntio ar leihau rhwystrau i deuluoedd incwm isel a'r rhai sydd â phlant, gan weithio gyda'i gilydd i ddarparu cymorth cynhwysfawr.
Gwahaniaethau
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Mae’r Cynllun hwn yn mynd i'r afael ag anghenion ariannol yn bennaf trwy ryddhad treth, tra bod FSM a SEG yn canolbwyntio'n fwy uniongyrchol ar blant yn cael bwyd a chymorth addysgol.
Prydau Ysgol Am Ddim
Mae cymhwysedd am brydau ysgol am ddim wedi'i ddiffinio'n glir h.y. mae rhywun yn gymwys neu beidio, mae'r profion modd i ystyried amgylchiadau, incwm a chyfalaf yr aelwyd yn cael eu cynnal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau/y Swyddfa Gartref mewn perthynas ag asesu budd-daliadau lles/taliadau cymorth sy'n pasbortio hawl i brydau ysgol am ddim. Fel y cyfryw, mae cymhwysedd am brydau ysgol am ddim yn ddyledus i raddau i unrhyw newidiadau sylfaenol a wneir i'r meini prawf cymhwysedd/hawl ar gyfer y budd-daliadau a'r taliadau lles o dan reolaeth llywodraeth y DU.
Mae canlyniad llwyddiannus o ran prydau ysgol am ddim yn arwain at y gallu i gael at wasanaeth h.y. pryd o fwyd maethol yn yr ysgol. Mae dysgwr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim hefyd yn gymwys am y Grant Hanfodion Ysgol, ond nid yw pob dysgwr sy’n hawlio prydau ysgol am ddim yn byw mewn aelwydydd sy'n gymwys i gael gostyngiad yn y dreth gyngor ac i'r gwrthwyneb.
Grant Hanfodion Ysgol
Mae’r grant hwn yn canolbwyntio ar gymorth addysgol ac i blant ac ysgolion, tra bod prydau ysgol am ddim a gostyngiad yn y dreth gyngor yn canolbwyntio ar gymorth cymdeithasol ehangach, rhyddhad ariannol, a darparu pryd o fwyd maethol i blant yn yr ysgol.
