Neidio i'r prif gynnwy

Sut i waredu adar gwyllt marw neu ofyn iddynt gael eu symud.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhoi gwybod am adar marw

Peidiwch â chodi na chyffwrdd ag unrhyw adar gwyllt marw neu sâl.

Cael gwared ar adar gwyllt marw ar dir cyhoeddus, tir preifat ac ystadau a reolir

Os ydych chi am gael gwared ar adar gwyllt marw, dylech wneud y canlynol:

  • cysylltu â'ch awdurdod lleol os ydynt ar dir cyhoeddus
  • cysylltu â'r perchennog tir neu'r rheolwr tir os ydynt ar dir preifat neu ystad a reolir

Gwaredu nifer fach o adar gardd marw y dewch o hyd iddynt yn eich cartref

Gallwch roi gwybod am niferoedd bach o adar gardd marw i Iechyd Bywyd Gwyllt yr Ardd.

Os byddwch yn dod o hyd i niferoedd bach o adar gardd marw yn eich cartref (eiddo preswyl domestig yn unig) gallwch eu gwaredu yn eich bin gwastraff trefol neu gartref, neu fe allwch eu claddu.

Os ydych chi'n gwaredu aderyn gwyllt marw gyda’ch gwastraff cartref neu wastraff trefol, dylech wneud y canlynol:

  • gwisgwch fenyg diogelu untro wrth godi ac ymdrin ag adar marw gwyllt
  • rhowch yr aderyn gwyllt marw mewn bag plastig addas, nad yw’n gollwng, a'i glymu
  • os nad oes menyg untro ar gael, defnyddiwch fag plastig addas, nad yw’n gollwng, fel maneg dros dro. Ar ôl i chi godi'r aderyn, trowch y bag yn ôl arno'i hun a'i glymu
  • gofalwch nad yw tu allan i’r bag yn cael ei halogi
  • rhowch y bag mewn ail fag plastig
  • os ydych chi'n gwisgo menyg, tynnwch nhw drwy eu troi y tu mewn allan ac yna eu rhoi yn yr ail fag plastig
  • clymwch y bag a'i waredu yn y gwastraff cartref arferol (bin wedi'i orchuddio y tu allan)
  • golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr

Os ydych chi'n claddu aderyn gwyllt marw, dylech wneud y canlynol:

  • cloddiwch dwll o leiaf 60cm o ddyfnder i atal anifeiliaid rhag ei gloddio i fyny
  • peidiwch â'i gladdu mewn bag plastig
  • os ydych chi'n defnyddio bag plastig i godi'r aderyn rhowch ef yn eich gwastraff cartref arferol (bin wedi'i orchuddio y tu allan)
  • peidiwch â'i gladdu ger unrhyw gyrsiau dŵr neu mewn man lle gallai halogi cyflenwadau dŵr lleol
  • golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr pan fyddwch wedi gorffen

Gwaredu nifer fawr o adar gwyllt marw y dewch o hyd iddynt yn eich cartref

Dylech roi gwybod am nifer fawr o adar gwyllt marw a ddarganfuwyd yn eich cartref.

Mae ffliw adar yn fwy tebygol pan fydd llawer o adar yn marw yn yr un ardal.

Efallai na fydd yr adar yn cael eu casglu ar ôl i chi roi gwybod amdanynt. Os na chaiff yr adar eu casglu o fewn 4 diwrnod a'ch bod am eu symud oddi yno, gallwch ofyn i gontractwr gwastraff arbenigol drefnu gwaredu. Mae’n bosibl y bydd eich awdurdod lleol hefyd yn gallu helpu.

Rheolau ar gael gwared ar adar gwyllt marw os ydych yn cadw dofednod neu adar caeth eraill

Os ydych chi'n cadw dofednod neu adar caeth eraill, mae'n rhaid i chi gael gwared ag adar gwyllt marw o unrhyw ardaloedd lle rydych chi'n cadw adar neu gyflenwadau adar fel bwyd anifeiliaid neu sarn.

Cyngor i geidwaid heidiau bach.

Rheolau ar gyfer awdurdodau lleol, perchnogion tir a rheolwyr tir

Os ydych chi'n awdurdod lleol, perchennog tir neu reolwr tir, mae'n rhaid i chi gael gwared ag adar gwyllt marw os ydyn nhw'n risg i iechyd pobl.

Dylech hefyd ystyried cael gwared ar adar gwyllt marw os ydynt:

  • mewn eiddo preswyl
  • mewn ardal a ddefnyddir gan blant neu anifeiliaid anwes
  • ar hawl tramwy cyhoeddus neu mewn ardal y mae pobl yn ymweld â hi yn aml
  • mewn ardal lle mae adar gwyllt yn bwydo, yn bridio neu’n clwydo'n rheolaidd
  • mewn ardal lle mae anifeiliaid yn debygol o'u hysglyfaethu

Mae'n rhaid i chi dalu unrhyw gostau.

Os byddwch yn penderfynu cael gwared ar adar gwyllt marw, rhaid i chi eu gwaredu fel sgil-gynnyrch anifail categori 1 os:

  • ydynt mewn ardal lle cadarnhawyd ffliw adar
  • ydych yn credu y gallai'r adar gael eu heintio â chlefyd fel ffliw adar

Gallwch ddefnyddio contractwyr gwastraff arbenigol i gael gwared ar adar gwyllt marw.

Efallai y bydd perchnogion tir neu reolwyr tir hefyd yn gallu cael help gan eu hawdurdod lleol.

Os byddwch yn penderfynu cael gwared ar adar gwyllt marw ac nad ydych yn amau bod clefyd arnynt, nid oes angen i chi eu gwaredu fel sgil-gynnyrch anifeiliaid categori 1. Er mwyn cael canllawiau, cysylltwch â:

  • gwasanaeth gwaredu gwastraff masnachol
  • yr awdurdod lleol

Gallwch lawrlwytho posteri i'w rhoi ar eich safle os oes risg o ffliw adar.