Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar ffactorau sy'n cyfrannu tuag at synnwyr cryf o gymuned ar gyfer Ebrill 2013 i Fawrth 2014.

Roedd pobl yn fwy tebygol o gael synnwyr cryf o gymuned os oeddent:

  • yn dod o ardal wledig
  • yn hŷn
  • yn fodlon â bywyd yn gyffredinol
  • yn siarad Cymraeg
  • yn berchen-feddianwyr
  • heb anabledd neu salwch cyfyngus hirdymor.

Roedd yr awdurdod lleol yr oedd pobl yn byw ynddo hefyd yn gwneud gwahaniaeth; er enghraifft roedd pobl oedd yn byw yn Sir Benfro yn fwy tebygol o fod â synnwyr cryf o gymuned na'r rhai yn Rhondda Cynon Taf.

Ni welwyd cysylltiad rhwng y canlynol a synnwyr o gymuned:

  • statws priodasol
  • statws economaidd
  • lefel cymwysterau
  • cael plant ar yr aelwyd
  • chael mynediad at y rhyngrwyd ar yr aelwyd.

Adroddiadau

Pwy sydd fwyaf tebygol o fod ag ymdeimlad cryf o gymuned?, Ebrill 2013 i Fawrth 2014 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 507 KB

PDF
507 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.