Neidio i'r prif gynnwy

Tribiwnlysoedd sydd o fewn cwmpas y Prosiect Diwygio Tribiwnlysoedd

Mae'r tribiwnlysoedd datganoledig sy'n dod o fewn cwmpas y prosiect hwn wedi’u nodi isod:

Tribiwnlysoedd Adran 59

Y Tribiwnlysoedd Cymreig fel y'u rhestrir yn Adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017:

  1. Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru
  2. Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
  3. Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru
  4. Tribiwnlys Addysg Cymru
  5. Tribiwnlys Apêl Arolygwyr Ysgolion Cofrestredig a Thribiwnlys Apêl Arolygwyr Addysg Feithrin Cofrestredig
  6. Panel Dyfarnu Cymru
  7. Tribiwnlys y Gymraeg

Tribiwnlysoedd datganoledig eraill

Nid yw'r tribiwnlysoedd canlynol yn "dribiwnlysoedd Cymru" a restrir yn adran 59 o Ddeddf Cymru 2017. Nid oes ganddynt unrhyw berthynas ffurfiol â Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac nid ydynt yn cael eu gweinyddu gan Uned Tribiwnlysoedd Cymru.

  1. Tribiwnlys Prisio Cymru
  2. Paneli apêl annibynnol: paneli apêl derbyniadau i ysgolion; a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion

Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru

Sefydlwyd tribiwnlysoedd amaethyddol gan Ddeddf Amaethyddiaeth 1947. Yn wreiddiol, nid oedd y Ddeddf yn darparu ar gyfer Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru, gan roi’r pŵer i’r Arglwydd Ganghellor wneud gorchmynion i sefydlu tribiwnlysoedd ar gyfer ardaloedd penodol yng Nghymru a Lloegr. Roedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 yn diddymu tribiwnlysoedd tir amaethyddol ar gyfer ardaloedd yn Lloegr, gan drosglwyddo eu swyddogaethau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Roedd y Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer parhad Tribiwnlys Tir Amaethyddol i Gymru.

Mae’r tribiwnlys yn gwrando ar anghydfodau rhwng landlordiaid amaethyddol a thenantiaid ac anghydfodau draenio. Yn ystod cyfnod adrodd 2021-2022, cafodd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru gyfanswm o 20 cais. Gan fod gwaith y tribiwnlys yn dibynnu’n helaeth ar ymweliadau safle, cynhelir ei wrandawiadau mewn gwestai, neuaddau tref neu adeiladau cyngor yn ardal y tir dan sylw.

Gall Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru adolygu ei benderfyniadau ei hun, naill ai ar ei liwt ei hun neu ar gais gan barti, os bydd mwy o dystiolaeth ar gael, neu os bydd y penderfyniad yn cynnwys gwall clerigol. Gellir gwneud apêl hefyd i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) ar unrhyw bwynt cyfreithiol.

Penodir Llywydd Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru gan yr arglwydd Ganghellor a rhaid iddo fod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr ag o leiaf saith mlynedd o brofiad. Rhaid i gadeirydd y panel fod â chymhwyster cyfreithiol a bydd aelodau panel lleyg gydag ef a fydd â gwybodaeth a phrofiad o ffermio, draenio tir a materion perchnogion tir.

Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru

Sefydlwyd Tribiwnlysoedd Adolygu Iechyd Meddwl yn wreiddiol ar sail ranbarthol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1959. Darparwyd yn benodol ar gyfer Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru gan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae’n gwrando ceisiadau gan ac mewn cysylltiad â phersonau a gadwyd mewn ysbyty yng Nghymru, neu gan berson sy’n preswylio yng Nghymru sydd wedi’i ryddhau i’r gymuned o dan amodau neu’n dod o dan warcheidiaeth, o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007. Yn Lloegr, mae Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gwrando hawliadau cyfatebol.

Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru sy’n delio â’r nifer mwyaf o geisiadau o’r holl dribiwnlysoedd datganoledig a restrir yn adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017. Cafodd 1,840 o geisiadau ac atgyfeiriadau am wrandawiad Tribiwnlys yn 2021-2022. Oherwydd natur gwaith Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, cynhelir y rhan fwyaf o’i wrandawiadau mewn ysbytai seiciatrig. Mae hawl i apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n codi o benderfyniad gan Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.

Mae Llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru, sef yr unig farnwr cyflogedig yn Nhribiwnlysoedd Cymru, yn gyfrifol am aelodau a phenderfyniadau’r tribiwnlys. Bydd tri aelod tribiwnlys ar bob panel gwrandawiadau: aelod cyfreithiol, aelod meddygol (seiciatrig) ac aelod lleyg. Penodir aelodau Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru gan yr Arglwydd Ganghellor, heblaw aelodau cyfreithiol sy’n eistedd ar y panel cleifion dan gyfyngiadau. Fe’u penodir gan yr Arglwydd Brif Ustus drwy ymgynghori â’r Arglwydd Ganghellor. Mae’r Arglwydd Brif Ustus wedi dirprwyo’r swyddogaeth penodi i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru

Mae Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru yn gwrando apeliadau sy’n ymwneud ag eiddo rhentu preifat ac eiddo lesddaliadol o dan nifer o ddeddfiadau. Mewn gwirionedd, mae Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru yn dribiwnlys ‘ambarél’ sy’n cynnwys tri thribiwnlys gwahanol, pob un wedi’i seilio ar wahanol ddeddfiadau: Pwyllgorau Asesu Rhenti, Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau a Thribiwnlysoedd Eiddo Preswyl. Yn Lloegr, gwrandewir hawliadau tebyg yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Eiddo).

Gellir gwneud ceisiadau am adolygiad o benderfyniad Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru ar sail gyfyngedig i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd).

Oherwydd natur llwyth gwaith Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru, cynhelir gwrandawiadau mewn neuaddau tref/pentref neu westai yn ardal yr eiddo mae anghydfod yn ei gylch. Lle bo’n briodol, gwrandewir rhai achosion yn swyddfa’r tribiwnlys, ym Mharc Cleppa yng Nghasnewydd. Rydym yn gwybod am un achos mawr a oedd yn cynnwys rhwng 30 a 40 o gyfranogwyr a gafodd ei wrando yn Llys Sirol Caerdydd. Roedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru wedi cael, ac wedi cofrestru, cyfanswm o 113 o geisiadau ar gyfer 2021-2022.

Mae’r Arglwydd Ganghellor yn penodi cadeiryddion tribiwnlysoedd, sydd â chymwysterau cyfreithiol. Mae Gweinidogion Cymru yna’n penodi llywydd ac is-lywydd o blith y cadeiryddion hynny. Mae holl aelodau eraill y tribiwnlys yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru. Cynhelir gwrandawiadau tribiwnlys gan gadeirydd sydd â chymwysterau cyfreithiol, aelod proffesiynol ac, mewn rhai achosion, aelod lleyg.

Tribiwnlys Addysg Cymru

Sefydlwyd Tribiwnlys Addysg Cymru yn 2003, gan Adran 333 (1ZA) o Ddeddf Addysg 1996. Ar y pryd, fe’i gelwid yn Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ac fe’i rheolir gan Ddeddfau Addysg 1996 a 2002. Newidiwyd ei enw o fis Medi 2021 ymlaen gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”).
Mae’r tribiwnlys yn gwasanaethu Cymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys plant sy’n byw yn Lloegr, ond sy’n cael eu haddysg yng Nghymru. Tribiwnlys Addysg Cymru sy’n gyfrifol am wrando a phenderfynu ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach ynghylch anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc, neu anghenion addysgol arbennig.  Mae Tribiwnlys Addysg Cymru hefyd yn gyfrifol am ddelio â hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yng Nghymru o dan adran 116 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae Tribiwnlys Addysg Cymru hefyd yn gwrando hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd. Yr hyn sy’n cyfateb i Dribiwnlys Addysg Cymru yn Lloegr yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd) sy’n rhan o Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol y Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae Deddf 2018 yn newid y ffordd y mae anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cael eu diwallu mewn ysgolion a chyrff addysg eraill. Bydd yn disodli deddfwriaeth flaenorol am anghenion addysgol arbennig yn araf. Bob blwyddyn, bydd grŵp o flynyddoedd ysgol yn symud o’r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd. Yn y flwyddyn gyntaf, cafodd plant ysgolion meithrin eu cynnwys yn y system, ac yn y drydedd flwyddyn, bydd pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yn cael eu cynnwys. Dim ond plant o oedran ysgol gorfodol oedd yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth AAA.

Mae adran 70 o Ddeddf 2018 yn darparu rhestr o’r holl achlysuron pryd y gall plentyn, person ifanc neu riant apelio i’r Tribiwnlys. Mae’r adran hon yn cael ei dwyn i rym fesul grŵp oedran. Mae adran 72 o Ddeddf 2018 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr hawl i apelio penderfyniadau sy’n effeithio ar bersonau dan gadwad.

Cafodd Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 151 o geisiadau yn ystod 2021-2022. Gellir gwneud apeliadau o Dribiwnlys Addysg Cymru i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) ar bwynt cyfreithiol.

Yn ystod 2021-2022 cynhaliodd Tribiwnlys Addysg Cymru 69 o wrandawiadau, o’r rheini cynhaliwyd chwe gwrandawiad ar sail y papurau yn unig, cynhaliwyd 62 fel rhith wrandawiadau ac un gwrandawiad wyneb yn wyneb. Pan fo’r gwrandawiadau’n digwydd wyneb yn wyneb, maent yn cael eu cynnal mewn adeiladau cyhoeddus sydd fel arfer o fewn awr o bellter teithio o gartref y plentyn neu’r unigolyn ifanc.

Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru ei arwain gan Lywydd a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor ac a fydd yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr sydd ag o leiaf saith mlynedd o brofiad. Mae paneli’n cynnwys cadeirydd, y mae’n rhaid iddo feddu ar gymhwyster cyfreithiol, ac aelodau lleyg sydd â phrofiad ym maes addysg neu bwnc cysylltiedig.

Tribiwnlys Apêl Arolygwyr Ysgolion Cofrestredig a Thribiwnlys Apêl Arolygwyr Addysg Feithrin Cofrestredig

Roedd Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 (a oedd yn berthnasol i Gymru a Lloegr) yn darparu ar gyfer cofrestr o arolygwyr ysgolion. Cafodd cofrestr debyg o arolygwyr addysg feithrin ei chreu gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Roedd arolygydd a anghytunai â phenderfyniad i’w dynnu oddi ar y rhestr, neu i beidio â’i gynnwys ynddi, neu i osod amodau ar gofrestriad, yn gallu gwneud cais i dribiwnlys. Fe wnaeth Deddf Addysg 2005 ddileu’r gofyniad i gadw cofrestrau o arolygwyr ysgolion ac arolygwyr addysg feithrin yn Lloegr.

Roedd y darpariaethau sy’n ymwneud ag arolygwyr ysgolion wedi’u cadw i Gymru gan adran 27 o Ddeddf Addysg 2005. Mae arolygwyr meithrinfeydd yng Nghymru hefyd yn gallu parhau i wneud cais i dribiwnlys a gyfansoddwyd o dan adran 27 o Ddeddf Addysg 2005. Mae’r rheoliadau sy’n rheoli gweithdrefnau’r ddau dribiwnlys yn cyfeirio atynt fel dau dribiwnlys ar wahân: y Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Ysgolion a’r Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Addysg Feithrin.

Rydym yn deall nad yw’r tribiwnlys wedi’i gyfansoddi fel y cyfryw, ac na chafwyd ceisiadau er 2007/2008. Fodd bynnag, mae aelodau Tribiwnlys Addysg Cymru yn gymwys i ddelio ag unrhyw achosion sy’n codi yn awdurdodaeth Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Ysgolion a Thribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Addysg Feithrin. Gellid cymryd y byddai modd gwrando achosion Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Ysgolion a Tribiwnlys Apeliadau Arolygwyr Cofrestredig Addysg Feithrin yn yr un lleoliadau a ddefnyddir gan Dribiwnlys Addysg Cymru, pe bai’r angen yn codi.

Mae tribiwnlys a sefydlwyd o dan adran 27 o Ddeddf Addysg 2005 yn gallu adolygu, rhoi o’r neilltu neu amrywio ei benderfyniadau ei hun: os gwnaed penderfyniad drwy gamgymeriad o ganlyniad i wall ar ran staff y tribiwnlys; os bydd parti’n methu ag ymddangos heb achos rhesymol; os bydd tystiolaeth newydd ar gael; neu os oes angen gwneud hynny er mwyn cyfiawnder. Nid oes apêl gan y tribiwnlys. Penodir cadeirydd y tribiwnlys gan yr Arglwydd Brif Ustus drwy ymgynghori â’r Arglwydd Ganghellor. Penodir dau aelod tribiwnlys arall gan Weinidogion Cymru.

Panel Dyfarnu Cymru

Sefydlwyd Panel Dyfarnu Cymru o dan Rhan III o'r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a phenodwyd ei aelodau cyntaf yn 2002.

Mae’n gyfrifol am benderfynu ar achosion honedig o dorri codau ymddygiad awdurdodau gan aelodau o gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned, ac awdurdodau tân a pharciau cenedlaethol Cymru.

Mae gan Banel Dyfarnu Cymru ddwy swyddogaeth statudol. Y cyntaf yw ystyried atgyfeiriadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dilyn ymchwiliad gan yr Ombwdsmon i honiad bod aelod o awdurdod lleol wedi torri cod ymddygiad statudol. Mae’r cyfeiriadau hyn yn cael eu gwrando gan dribiwnlysoedd achosion neu dribiwnlysoedd achosion interim. Mae Panel Dyfarnu Cymru hefyd yn penderfynu ar apeliadau pwyllgorau safonau awdurdodau lleol, sy’n cael eu gwrando gan dribiwnlysoedd apêl. Cafodd y tribiwnlys cyfatebol yn Lloegr, Panel Dyfarnu Lloegr, ei ddiddymu yn 2010.

Mae hawl i apelio o dribiwnlysoedd achos i’r Uchel Lys. Mae gan Banel Dyfarnu Cymru lwyth achosion bach ac ym mlwyddyn ariannol 2021-22 cafodd 10 cais.

Mae Panel Dyfarnu Cymru yn cael ei arwain gan Lywydd Tribiwnlys, sy’n aelod cyfreithiol. Mae gan y tribiwnlys Ddirprwy Lywydd hefyd. Mae panel gwrandawiad fel arfer yn cynnwys tri aelod: dau aelod lleyg a’r cadeirydd, sy’n aelod cyfreithiol. Gall mwy nag un aelod cyfreithiol eistedd ar y panel; rydym yn deall bod y dull hwn wedi cael ei ddefnyddio at ddibenion hyfforddi, neu lle mae gwrthdaro rhwng buddiannau, neu brinder aelodau lleyg.

Tribiwnlys y Gymraeg

Sefydlwyd Tribiwnlys y Gymraeg yn 2015 o dan adran 120 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’n gwrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg. Nid oes tribiwnlys cyfatebol yn Lloegr.

Mae tri math o apêl. (1) lle mae’r Comisiynydd yn hysbysu person am y penderfyniad nad yw’r gofyniad i gydymffurfio â Safon yn afresymol neu’n anghymesur, gall y Tribiwnlys benderfynu a yw’r gofyniad yn afresymol neu’n anghymesur neu beidio; (2) mae person sydd wedi cwyno i’r Comisiynydd bod person arall wedi methu â chydymffurfio â Safon yn gallu apelio (a) yn erbyn penderfyniad gan y Comisiynydd nad yw’r person arall wedi methu â chydymffurfio â’r Safon; neu (b) yn erbyn penderfyniad gan y Comisiynydd i beidio â chynnal ymchwiliad, i beidio ag ystyried a fydd yn cynnal ymchwiliad neu i beidio â pharhau ag ymchwiliad.

Cafodd y tribiwnlys dri cais yn 2021-2022. Gwnaed un cais o dan Adran 99(2) o’r Mesur; gwnaed un cais o dan adran 103 ac roedd un cais yn nodi adrannau 95(2) a 95(4) yn yr un cais.

Gall Tribiwnlys y Gymraeg adolygu, amrywio neu ddiddymu ei benderfyniadau ei hun. Mae hawl hefyd i apelio i’r Uchel Lys ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n codi o benderfyniad a wnaed gan Dribiwnlys y Gymraeg. Hyd yma, ni chafwyd apeliadau o Dribiwnlys y Gymraeg i’r Uchel Lys.

Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg sy’n gyfrifol am drefnu gwaith yr aelodau, ac am wneud penderfyniadau mewn perthynas ag apeliadau a chwynion. Penodir y Llywydd gan Weinidogion Cymru a rhaid iddo naill ai fod yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr gydag o leiaf deng mlynedd o brofiad. Gwrandewir ar achosion gan aelod cyfreithiol, a dau aelod lleyg.

Tribiwnlys Prisio Cymru

Mae hanes hir i dribiwnlysoedd prisio, a gellir eu holrhain i Ddeddf Pwyllgorau Asesu Undebau 1862. Yn hanesyddol, roedd cysylltiad agos rhyngddo â llywodraeth leol, gyda thribiwnlysoedd prisio ar gyfer pob awdurdod lleol.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru wedi’i sefydlu drwy statud ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel Corff hyd braich a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Er bod yr arian i redeg y Tribiwnlys yn dod gan Lywodraeth Cymru, nid yw’r Tribiwnlys yn rhan o Lywodraeth Cymru. Mae'n sefyll ar ei ben ei hun fel tribiwnlys annibynnol gyda'i staff ei hun, nad ydynt yn weision sifil. Mae'r staff yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y Tribiwnlys ei hun. Mae'n ymdrin ag apeliadau mewn perthynas â Phrisiadau Ardrethu Annomestig, Prisio'r Dreth Gyngor a Phrisiadau Ardrethi Draenio.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn cael mwy o geisiadau na thribiwnlysoedd datganoledig eraill. Yn 2021-2022 cafodd Tribiwnlys Prisio Cymru 4,808 o geisiadau a gwnaeth 1,070 o benderfyniadau tribiwnlys. 

Mae achosion yn cael eu gwrando gan aelodau sy’n wirfoddolwyr lleol di-dâl. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol er mwyn bod yn aelod. Mae'r Tribiwnlys yn ceisio penodi amrywiaeth o unigolion sydd â chefndiroedd, profiadau a chymwysterau gwahanol. Mae'n ofynnol i bob aelod ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd mewn materion tribiwnlys prisio. Yn ôl Adroddiad Blynyddol 2021-2022 Tribiwnlys Prisio Cymru, roedd 71 o aelodau. Mae tri aelod fel arfer yn gwrando ar apeliadau, gyda chlerc yn eu cynorthwyo. Mae clercod yn gyflogeion i Dribiwnlys Prisio Cymru, sydd ag arbenigedd a hyfforddiant manwl yn sylwedd gwaelodol yr apêl. Eu rôl yw rhoi cyngor ar y gyfraith a’r weithdrefn berthnasol. Mae gan Dribiwnlys Prisio Cymru chwe chlerc tribiwnlysoedd a dau uwch glerc tribiwnlysoedd.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn gallu adolygu ei benderfyniadau ei hun. Gwneir apeliadau pellach i’r Uchel Lys (ar bwynt cyfreithiol ar gyfer achosion y Dreth Gyngor) neu i’r Uwch Dribiwnlys (ar gyfer achosion Ardrethi Annomestig). Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn gwrando achosion yn lleol ledled Cymru.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn cynnal ei weinyddiaeth ei hun. Mae ganddo ei Brif Weithredwr ei hun. Caiff ei reoli gan Gyngor Llywodraethu sy’n cynnwys Llywydd Tribiwnlys Prisio Cymru, tri chynrychiolydd cenedlaethol, a hyd at dri aelod a benodir gan Lywodraeth Cymru.

Paneli apêl annibynnol

Mae paneli apêl derbyniadau i ysgolion yn gwrando apeliadau a wneir o awdurdodau derbyn, sy’n penderfynu i ba ysgol y dylai plentyn fynd. Mae paneli apêl gwaharddiadau yn gwrando apeliadau a wneir o gyrff llywodraethu ysgol sydd wedi penderfynu y dylai disgybl gael ei wahardd o ysgol. Awdurdodau lleol sy’n gweinyddu’r ddau banel fel arfer. Yn ymarferol, mae’n gyffredin iddynt gael eu rhedeg gyda’i gilydd, dan y term cyffredinol ‘panel apêl annibynnol’.

Er bod gweinyddu’r panel yn gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol fel arfer, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cod statudol ar apeliadau derbyniadau (y “Cod Apêl Derbyniadau”). Mae hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar wahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (“y Canllawiau Gwahardd”).

Dylai gwrandawiadau paneli apêl derbyn i ysgolion a gwahardd o ysgolion gael eu cynnal mewn lleoliadau niwtral, ac nid yn yr ysgol sy’n derbyn/gwahardd. Mae adeiladau awdurdodau lleol yn fannau a ganiateir, ar yr amod bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal mewn adeilad nad yw’n gysylltiedig â’r awdurdod addysg neu dimau derbyn neu wahardd yr awdurdod lleol.

Yn dilyn mesurau dros dro a roddwyd ar waith yn ystod pandemig COVID-19 a oedd yn caniatáu i apeliadau derbyn i ysgolion gael eu gwrando o bell, nododd Llywodraeth Cymru y manteision i bob parti o gael yr opsiwn o apeliadau derbyn i ysgolion o bell ar sail barhaol. Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 wedi dod i rym yn ddiweddar, sy’n rhoi’r dewis i awdurdodau derbyn gynnal apeliadau derbyn i ysgolion o bell. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd cyfran fawr o apeliadau derbyn i ysgolion yn cael eu cynnal o bell yn y dyfodol.

Paneli apêl derbyniadau i ysgolion

Mae adran 94(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn darparu bod awdurdodau derbyn yn gyfrifol am weinyddu paneli apêl derbyniadau. Awdurdodau lleol yw'r awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir (y mwyafrif o ysgolion yng Nghymru), tra mai cyrff llywodraethu yw'r awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Yng Nghymru, ysgolion ffydd yw’r rhain yn aml, sy’n cael eu rhedeg gan yr Eglwys Gatholig neu’r Eglwys yng Nghymru.

Yn ymarferol, gall cyrff llywodraethu benderfynu gofyn i’r awdurdod lleol drefnu’r paneli apêl y mae’r corff llywodraethu yn gyfrifol amdanynt. Mae’r Cod Apêl Derbyniadau hefyd yn rhagweld y posibilrwydd o gydweithio rhwng awdurdodau lleol. O ran aelodau panel, mae’r Cod Apêl Derbyniadau yn nodi y “gall cronni adnoddau gydag awdurdodau derbyn ac awdurdodau lleol cyffiniol fod o gymorth i sicrhau nad yw’r un aelodau’n eistedd ar baneli ar gyfer ysgol dro ar ôl tro”.

Mae paneli apêl derbyniadau i ysgolion yn cynnwys hyd at dri neu bump o aelodau. Rhaid i un o’r aelodau hynny fod â phrofiad o fyd addysg, neu fod yn rhiant i ddisgybl sydd wedi ei gofrestru mewn ysgol arall. Rhaid i un arall fod yn aelod “lleyg”: rhywun “heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol”. Mae’n ofynnol i awdurdodau derbyn ailhysbysebu am aelodau lleyg bob tair blynedd.

Gall y panel apêl gyfarwyddo bod plentyn i gael lle mewn ysgol benodol. Bydd y penderfyniad hwnnw’n rhwymo’r awdurdod derbyn a chorff llywodraethu’r ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir lle mae’r paneli’n penderfynu y dylai’r plentyn gael ei leoli.

Mae apeliadau derbyniadau ysgolion yn fwy cyffredin o lawer nag apeliadau yn erbyn gwahardd.

Paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion

Darperir ar gyfer paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion gan Ddeddf Addysg 2002. Maent yn gwrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau pwyllgorau disgyblu cyrff llywodraethu ar waharddiadau parhaol. Cânt eu trefnu gan yr awdurdod lleol. Mae cyfansoddiad y panel yn debyg i hwnnw mewn paneli apêl derbyniadau; mae panel yn cynnwys tri neu bum aelod, yn cynnwys aelodau lleyg, aelodau sy’n gweithio ym maes addysg neu reoli addysg, ac aelodau sydd neu a fu’n llywodraethwyr ysgolion a gynhelir. Mae panel yn gallu gorchymyn bod:

  1. y gwaharddiad yn cael ei gadarnhau
  2. y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl, neu
  3. bod yr achos yn un eithriadol lle nad yw derbyn yn ôl yn ffordd ymarferol ymlaen, ond y byddai hynny’n gyfarwyddyd priodol fel arall.

Mae llai o apeliadau gwahardd nag o apeliadau derbyn.