Rhaid i weithredwyr safleoedd derbyn gwastraff ddefnyddio'r system tracio gwastraff yn ddigidol o 1 Hydref 2026. Nid yw hyn yn cynnwys Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HWRCs).
Economi gylchol
Bydd tracio gwastraff yn ddigidol yn ei gwneud yn haws deall y gwastraff a grëir a beth sy'n digwydd iddo. Gall busnesau ddefnyddio'r wybodaeth hon i ailddefnyddio ac ailgylchu mwy. Bydd hefyd yn helpu i frwydro yn erbyn troseddau gwastraff.
Y system tracio gwastraff yn ddigidol
Cytunodd pob un o'r pedair llywodraeth yn y DU i weithio gyda'i gilydd i gyflwyno System Tracio Gwastraff yn Ddigidol ledled y DU. Yng Nghymru, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorfodi'r Rheoliadau. E-bost: wastetracking@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rheoliadau
Cytunodd y Senedd ar Reoliadau Tracio Gwastraff yn Ddigidol (Cymru) 2026 ar 24 Mawrth. Byddant yn dod i rym ar 1 Hydref 2026. Rhaid i weithredwyr safleoedd derbyn gwastraff trwyddedig fewnbynnu gwybodaeth benodedig am y gwastraff y maent yn ei dderbyn i'r System Tracio Gwastraff yn Ddigidol. Nid yw Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HWRCs) yn rhan o gwmpas y rheoliadau yng Nghymru.
Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) yw'r prif lwybr cyflwyno gwybodaeth. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio taenlen dros dro os nad oes gennych eich meddalwedd eich hun ar hyn o bryd. Bydd y prosiect yn tracio'r defnydd a disgwylir i'r daenlen fod ar waith tan fis Hydref 2027. Rydym yn disgwyl y bydd angen llwybr API erbyn hynny.
Yr wybodaeth ddiweddaraf
Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf drwy ymweld â thudalen y prosiect ar y we - System orfodol ar gyfer tracio gwastraff yn ddigidol [GOV.UK]
Canllawiau
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y prosiect ganllawiau [GOV.UK] ar sut i ddefnyddio'r gwasanaeth rhoi gwybod bod gwastraff wedi dod i law.
Cael help gyda thracio gwastraff yn ddigidol
Llinell gymorth tracio gwastraff yn ddigidol
Ffôn: 03000 203 781
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Ynghau ar wyliau banc
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau
Diweddariadau ar gynnydd
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y prosiect hwn:
Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf am ddiwygiadau Defra i'r Economi Gylchol, sy'n cynnwys diweddariadau ar dracio gwastraff yn ddigidol.
Cofrestrwch eich diddordeb mewn grwpiau defnyddwyr y gwasanaeth tracio gwastraff [defragroup.eu].
