Mae'r tablau yn rhoi cipolwg ar economi Cymru ac yn manylu ar y perthnasoedd prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau rhwng pob rhan ohoni ar gyfer 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu cyfres o Dablau Cyflenwad a Defnydd (SUTs) a Thablau Mewnbwn-Allbwn (IOTs) ar gyfer 2019. Mae'r tablau hyn yn rhoi cipolwg ar Economi Cymru ac yn manylu ar y perthnasoedd prynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau rhwng pob rhan ohoni. Cyhoeddir tablau tebyg hefyd gan Lywodraeth yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA), yn ogystal â chan yr ONS ar gyfer y DU gyfan.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn ganlyniad prosiect 3 blynedd i ddeall economi Cymru yn well. Ymunodd yr Athro Calvin Jones â Llywodraeth Cymru ar secondiad i ddatblygu'r gwaith hwn, ac rydym yn ddiolchgar iddo am ei arbenigedd gwerthfawr.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys dolenni i'r tablau cyflenwad a defnydd a’r tablau mewnbwn-allbwn ar fformat excel, dogfen fethodoleg sy'n egluro ein dulliau a blog gan Calvin Jones sy'n manylu ar y broses gynhyrchu a'r goblygiadau ar gyfer tirwedd data Cymru (Blog Digidol a Data). Byddwn yn cyhoeddi adnodd fydd yn galluogi defnyddwyr i gynnal dadansoddiadau gyda'u tablau eu hunain yn hwyrach yn ystod Gwanwyn 2025.
Nodyn ar y Tabl Cyflenwad a Defnydd ar gyfer Cymru (ychwanegwyd ar 23 Gorffennaf 2025)
Mae Tabl Cyflenwad a Defnydd (SUT) 2019 ar gyfer Cymru wedi'i fynegi mewn termau domestig (gyda mewnforion wedi'u cofnodi ar wahân i ddefnydd rhanbarthol) ac mewn prisiau sylfaenol (gyda threthi a chymorthdaliadau ar gynhyrchion wedi’u heithrio). Defnyddiwyd y dull hwn oherwydd y diffyg data a fyddai ei angen i boblogi matrics ar wahân ar ochr y cyflenwad ar gyfer Cymru.
Dylai defnyddwyr nodi nad yw'r dull hwn yn gwbl gyson â'r System Cyfrifon Gwladol (Eurostat), lle mae SUTs fel arfer yn cael eu cyflwyno ym mhrisiau’r prynwyr (sy'n cynnwys trethi a chymorthdaliadau ar gynhyrchion). O ganlyniad, mae trethi ar gynhyrchion, costau a godir ar gludo a masnachu, a mewnforion yn cael eu cofnodi’n wahanol o’i gymharu â SUTs ar gyfer gwledydd eraill y DU.
Mae gan hyn oblygiadau pwysig wrth ddehongli'r SUT ar gyfer Cymru. Er enghraifft, ni ellir defnyddio'r SUT i ddeillio amcangyfrifon cyfartal o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) gan ddefnyddio'r tair hunaniaeth (incwm, cynhyrchu a gwariant), fel y byddai'n bosibl gyda SUT cwbl gytbwys ym mhrisiau’r prynwyr.
Yn hollbwysig, nid yw hyn yn effeithio ar y Tablau Mewnbwn-Allbwn ar gyfer Cymru, sydd bob amser yn cael eu cyflwyno mewn prisiau sylfaenol a thermau domestig, ac felly mae’r rhain yn gyson.
Am fwy o fanylion neu arweiniad ar ddefnydd priodol o'r tablau, cyfeiriwch at yr erthygl fethodoleg neu cysylltwch â'r tîm Tablau Mewnbwn-Allbwn (TablauMewnbwnAllbwn@llyw.cymru).
Ystadegau Swyddogol o dan ddatblygiad
Cyhoeddwyd yr ystadegau hyn fel 'Ystadegau Swyddogol o dan ddatblygiad', yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU). Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad yw ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu; efallai eu bod yn ystadegau newydd neu gyfredol, a byddant yn cael eu profi gyda defnyddwyr, yn unol â'r safonau o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gellir dod o hyd i'n Datganiad Cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ar ddiwedd y ddogfen Fethodoleg sy'n cyd-fynd â’r cyhoeddiad hwn.
Mae'r tablau cyflenwad a defnydd a’r tablau mewnbwn-allbwn yn ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi a byddant yn cael eu profi a’u trafod gyda defnyddwyr. Mae'r ddogfen fethodoleg sy'n cyd-fynd â’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu'r cyfyngiadau o ran argaeledd ac ansawdd data. Mae ein dulliau wedi cael eu hadolygu gan gydweithwyr ledled y DU a bydd y mewnwelediadau o'r broses hon yn cael eu defnyddio i lywio datblygiad y gwaith hwn yn y dyfodol.
Yn ystod y flwyddyn nesaf, rydym yn cynllunio gwaith datblygu pellach ar dablau mewnbwn-allbwn:
- Ymgysylltu â defnyddwyr – Byddwn yn gofyn am adborth gan randdeiliaid ar gyhoeddi'r tablau hyn, ac yn gweithio gyda nhw i ddeall sut maen nhw'n defnyddio'r tablau o fewn eu gwaith. Bydd ein grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd yn trafod y gwaith hwn fis Mawrth 2025. Bydd adborth defnyddwyr yn bwydo i mewn i'r rhaglen waith yn y dyfodol.
- Datblygiadau methodolegol – byddwn yn gweithredu ar adborth o'r broses adolygu cymheiriaid i weithredu newidiadau i’r tablau mewnbwn-allbwn yn y dyfodol lle bo hynny'n ymarferol.
- Ansawdd data - byddwn yn datblygu cynllun ar gyfer gwella argaeledd ac ansawdd y data sy'n bwydo i mewn i'r tablau mewnbwn-allbwn. Bydd hyn yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â'r ONS, llywodraethau datganoledig a rhanddeiliaid a darparwyr data eraill.
Adborth
Byddem yn croesawu adborth ar y cynhyrchion hyn ac yn gwahodd defnyddwyr i gyflwyno hyn i TablauMewnBwnAllbwn@llyw.cymru.
Hoffem ddiolch yn arbennig i gydweithwyr yn yr ONS, Llywodraeth yr Alban a NISRA, y mae eu mewnwelediad a'u harbenigedd wedi bod yn amhrisiadwy drwy gydol y prosiect hwn.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn ar gyfer Cymru: 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 133 KB
Cyswllt
Jonathan Bonville-Ginn
E-bost: TablauMewnBwnAllbwn@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
