Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mater a chamau a gynigir

Mae Gweinidogion wedi cyhoeddi y bydd Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei sefydlu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol penodol o fis Ebrill 2022. Maent wedi gofyn am gyngor ar gyfer cynllun taliadau i staff a fydd yn gymwys ar gyfer cam cyntaf cyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol. 

Bydd y cynllun taliadau hefyd yn cyd-fynd â gwaith Gweinidogion a'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ar delerau ac amodau gofal cymdeithasol a'r agenda i broffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol a darparu gwell llwybrau gyrfa. 

Byddai'r cynllun taliadau yn gwneud taliad ychwanegol i grŵp penodedig o weithwyr gofal cymdeithasol, ac yn cael ei dalu ym mis Mehefin 2022. 

Ffyrdd o weithio

Hirdymor  

Bwriad y taliad ychwanegol hwn yw annog recriwtio a chadw staff yn y sector, yn y maes gofal cartref a chartrefi gofal yn benodol.

Os bydd yn llwyddiannus yn hyn o beth, gallai gael effaith fuddiol yn yr hirdymor ar allu gwasanaethau gofal, gan leddfu'r pwysau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar bobl Cymru, gyda mwy o gapasiti yn y gwasanaethau gofal i gefnogi’r gwaith o leihau ôl-groniad triniaethau’r GIG. Os yw'n cael effaith ar recriwtio staff i'r sector, gall pobl wedyn ddilyn gyrfaoedd hirdymor o fewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys cael dyrchafiad o ran cyflog a dilyniant gyrfa.

Atal

Bwriad y cynnig yw cyfrannu at atal anghenion rhag gwaethygu gan y bydd mwy o gapasiti gan wasanaethau gofal cartref i gynorthwyo pobl â'u hanghenion gofal. Bydd hyn yn caniatáu i bobl gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn brydlon ac osgoi'r dirywiad corfforol a seicolegol sy'n digwydd pan fydd pobl yn yr ysbyty yn hirach nag y dylent fod. Bydd mwy o allu gofal cartref yn lliniaru’r rhwystrau presennol mewn gwasanaethau ailalluogi. Bydd hyn yn caniatáu i wasanaethau ail-alluogi weithredu'n fwy effeithiol a, thrwy hynny, yn hyrwyddo adferiad. 

Integreiddio

Mae'r cynnig hwn yn cyd-fynd â’r agenda gyffredinol i wella amodau o fewn y sector gofal cymdeithasol, ac yn cyfrannu ati. Mae hefyd yn cysylltu ag amcanion polisi yn y grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran hyrwyddo iechyd a llesiant y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau. Bydd yn cymryd y camau sydd fwyaf tebygol o ganiatáu i unigolion gyflawni canlyniadau cadarnhaol, a bydd y rhain yn cael eu heffeithio gan fwy o gapasiti yn y gweithlu a gwell morâl. 

Dylai'r cynnig hwn hefyd gysylltu'n benodol â ffrydiau gwaith COVID-19 cyfredol mewn cartrefi gofal ac yn y maes gofal cartref (gan gynnwys defnyddio Cynorthwywyr Personol), gan y gallai morâl uwch ymhlith staff gael effaith gadarnhaol ar ansawdd y gofal a lleihau absenoldebau y gellir eu hosgoi.

Cydweithredu a chyfranogiad

Mae cydweithio wedi galluogi datblygu'r cynnig, yn enwedig y meini prawf cymhwysedd, yn gyflym. Rydym wedi cynnal sawl trafodaeth gyda rhanddeiliaid allanol sy'n cynrychioli gweithwyr gofal, darparwyr gofal ac awdurdodau lleol (comisiynwyr) h.y. cynrychiolwyr o GMB, Unsain, Fforwm Gofal Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC). Drwy gyfrwng y cyfarfodydd hyn, bu’n bosibl i adeiladu ar yr adborth a gafwyd o'r cynlluniau cydnabyddiaeth blaenorol ar gyfer staff gofal cymdeithasol ac asesu'r gwersi a ddysgwyd. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ddarparwyr gofal ac awdurdodau lleol a fydd yn gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru. Byddwn yn cymryd rhan mewn trafodaethau cydweithredol pellach wrth inni ddrafftio canllawiau manwl ar y cynllun.

Effaith 

Effaith gadarnhaol y cynnig yw cydnabod gweithwyr gofal cymdeithasol penodol yn y cyfnod interim cyn iddynt dderbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol a dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella amodau a strwythurau gyrfa o fewn gofal cymdeithasol yn unol â'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol. 

Y brif ddadl yn erbyn y polisi hwn yw'r risg y bydd y cynllun yn cael ei herio gan y rhai hynny nad ydynt wedi'u cynnwys i gael y taliad ac na fydd gweithwyr allweddol eraill nad ydynt yn gymwys yn cael y taliad. 

Costau 

Amcangyfrifir mai cyfanswm cost y cynllun yw £100.6m. Bydd y gost yn cael ei thalu o danwariant yn y cronfeydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol presennol ym mlwyddyn ariannol 2021 i 2022, a chyllideb newydd o flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Mecanwaith

Nid oes angen deddfwriaeth ar gyfer y cynnig hwn. Cyhoeddir canllawiau gan gynnwys meini prawf cymhwysedd. Bydd awdurdodau lleol yn gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.

Adran 8. Casgliad

Sut y mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys  yn y gwaith o'i ddatblygu?

Rydym wedi cynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid allanol sy'n cynrychioli gweithwyr gofal, darparwyr gofal ac awdurdodau lleol (comisiynwyr). Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o GMB, Unsain, Fforwm Gofal Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC). Byddwn yn cynnal cyfarfodydd pellach i ddatblygu manylion y cynllun.  

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Bwriad y cynllun yw darparu'r taliad i grŵp penodedig o weithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi'u cynnwys yng ngham cyntaf ymrwymiad y Gweinidog i gyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Gall y taliad gael effaith gadarnhaol ar recriwtio a chadw staff gofal cartref a staff cartrefi gofal, a bydd yn cyd-fynd â gwaith Gweinidogion a'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ar delerau ac amodau yn y maes gofal cymdeithasol a'r agenda i broffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol a darparu gwell llwybrau gyrfa. 

Gall staff gofal cymdeithasol a staff sectorau eraill nad ydynt yn gymwys i gael y taliad hwn deimlo yn siomedig a/neu herio rheolau'r cynllun. Bydd proses apêl ar gael.

Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig: 

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu 
  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Prif ddiben y cynnig yw darparu taliad ychwanegol i weithwyr gofal cymdeithasol cymwys. Rhagwelir y bydd hyn derbyn ymateb cadarnhaol ac yn hyrwyddo nodau llesiant y rhai sy'n derbyn gwasanaethau gofal, yn anuniongyrchol, drwy wella morâl staff a gallu’r gwasanaeth, os bydd y taliad yn cyfrannu at welliannau o ran recriwtio a chadw staff.  

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth i’r cynnig fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?  

Caiff y cynllun ei fonitro i ganfod y nifer sy'n manteisio ar daliadau o’i gymharu â’r niferoedd disgwyliedig o staff cymwys. Bydd gwerthusiad o'r cynllun yn cael ei gwblhau wedi i'r broses ddod i ben. Mae gan y cynllun broses apelio glir sy'n sicrhau bod gan bobl fynediad at broses i adolygu eu cymhwysedd i gael taliad. Mae gan Banel Apeliadau Llywodraeth Cymru bwerau gwneud penderfyniadau a ddirprwyir gan Weinidogion Cymru.