Neidio i'r prif gynnwy

Data am y math o dân, anafiadau, difrod a ffynhonnell ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Prif bwyntiau

Tanau

  • Ymatebodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru i 4,015 o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yn 2018-19, bron i ddwbl y nifer yn 2017-18.
  • Mae nifer y tanau hyn yn dueddol o amrywio ac mae'r ffigur 2018-19 yw'r uchaf ers 2011-12.
  • Roedd bron i 4 gwaith mwy o danau glaswelltir cynradd yn 2018-19 i gymharu â 2017-18, cynnydd o 68 i 253.
  • Cynyddodd nifer o danau eilaidd ar laswelltir, cnydau a choedwigoedd gan 86% yn 2018-19 (o'i gymharu â 2017-18).
  • Yn 2018-19, cafodd tua 7 o bob 10 o danau ar laswelltir, cnydau a choedwigoedd eu cychwyn yn fwriadol.
  • Digwyddodd 46% o danau glaswelltir yn 2018-19 ym mis Gorffennaf 2018, bron i 9 gwaith yn fwy ag ym mis Gorffennaf 2017. Dengys data’r Swyddfa Dywydd y gwelwyd tua 40% o oriau o heulwen ychwanegol a tua hanner y glawiad yng Ngorffennaf 2018, o'i gymharu â Gorffennaf 2017.
  • Digwyddodd mwy na hanner nifer y tanau glaswelltir ym 2018-19 yn Ne Cymru (52%); 32% yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru a 16% yng Ngogledd Cymru.

Anafiadau

  • Roedd 2 o anafiadau nad oedd yn angheuol, o ganlyniad i danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yng Nghymru yn 2018-19.
  • Cafwyd y farwolaeth ddiwethaf ym 2007-08 o ganlyniad i danau glaswelltir.

Difrod

  • Yn 2018-19, fe ddifrododd dros hanner y tanau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd ardaloedd llai na 20 metr sgwâr.
  • Niweidiodd ardal o fwy na 200 metr sgwâr gan bron i bumed.

Nodyn

Cyhoeddir data tân glaswelltir yn fwletin atodol i’r ystadegau digwyddiad tân ac achub a gynhyrchwyd ym mis Awst 2019.

Adroddiadau

Tanau glaswelltir, Ebrill 2018 i Fawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Tanau glaswelltir, Ebrill 2018 i Fawrth 2019: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 98 KB

ODS
Saesneg yn unig
98 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.