Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Cyflwyniad

Cenhadaeth ein cenedl ar gyfer addysg yw cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, gan gefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei lawn botensial.

Mae presenoldeb ac ymgysylltiad da yn rhagofynion ar gyfer cyflawni hyn. Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc a dylanwad mawr ar ddeilliannau, safonau a chynnydd dysgwyr.

Ni ellir ystyried presenoldeb ar ei ben ei hun. Mae nifer o ffactorau sy'n cydberthyn neu'n gorgyffwrdd yn achosi absenoldeb, ac mae hynny, ynghyd â natur amrywiol profiad y dysgwr yn yr ysgol ac yn y cartref yn golygu bod angen strategaethau ysgol gyfan a threfniadau gweithio amlasiantaethol cryf, sydd wedi eu cynllunio i gefnogi pob dysgwr.

Mae problemau presenoldeb yn aml yn symptom o achos sylfaenol arall, ar wahân i iechyd corfforol. Yn aml iawn, mae'r rhesymau eraill hyn yn aml yn ymwneud â datgysylltu o addysg neu broblemau lles neu iechyd meddwl. Gall presenoldeb isel dysgwyr fod o ganlyniad i nifer o ffactorau cymhleth, cysylltiedig â'i gilydd.

Mae angen dull amlasiantaethol, sy'n cynnwys teuluoedd a chymunedau, lle mae gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau yn cyfathrebu'n effeithiol â'i gilydd i gydlynu'r gefnogaeth.

Diben

Mae angen cefnogaeth asiantaethau arbenigol a gwasanaethau ehangach i gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i sicrhau lefelau presenoldeb da. Byddai cydweithio'n well a chyfeirio at yr asiantaethau priodol yn sicrhau bod y rhai sydd yn y sefyllfa orau i gynnig cymorth yn gwneud hynny. Gallai hyn gynyddu'r effaith y gall ysgolion ac Awdurdodau Lleol ei chael pan fyddant yn cymryd camau penodol i wella presenoldeb.

Bydd y Tasglu yn darparu cyfeiriad strategol, yn gosod blaenoriaethau ac yn nodi camau pellach i wella presenoldeb ac ail-ennyn diddordeb ein dysgwyr. Wrth wneud hyn, tynnwn ar yr enghreifftiau sydd eisoes i'w gweld mewn ysgolion ledled Cymru ac adeiladu arnyn nhw, gan rannu arfer gorau, a thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol am yr hyn sy'n gweithio.

Rôl y Bwrdd

Rôl y Bwrdd yw:

  • diffinio a llywio gweithgareddau ac ymyriadau ar lefel leol i gefnogi gwelliannau mewn presenoldeb
  • defnyddio eu harbenigedd a'u profiad i nodi'r materion sy'n rhwystro presenoldeb rheolaidd plant yn yr ysgol a'r atebion sy'n cael gwared ar rwystrau
  • nodi arferion arloesol a gorau o ran gwella presenoldeb a hyrwyddo eu mabwysiadu ledled Cymru.
  • ymgysylltu â chymunedau am y materion sy'n effeithio arnynt (yng nghyd destun presenoldeb) a defnyddio'r wybodaeth hon i lywio neu osod blaenoriaethau a chreu gweithgareddau
  • gwasanaethu fel sianel gyngor proffesiynol o fewn y meysydd arbenigedd a gynrychiolir ar y grŵp
  • cynnig barn a nodi cyfleoedd a thueddiadau newydd
  • rhoi barn ar yr heriau gweithredol a strategol o ran sicrhau gwelliannau mewn presenoldeb a gweithio mewn partneriaeth ar lefel genedlaethol a lleol i oresgyn y rhain
  • nodi a datblygu syniadau ac atebion newydd mewn ymateb i'r gwahanol faterion sy'n wynebu dysgwyr a sut mae hyn yn effeithio ar bresenoldeb
  • cynghori'r Gweinidog a swyddogion Llywodraeth Cymru ar heriau ac atebion i fynd i'r afael â phresenoldeb
  • darparu cyngor ar sut y dylid dyrannu cyllid yn y blynyddoedd i ddod i gefnogi gwelliannau parhaus mewn presenoldeb
  • cynghori ar ddulliau o fesur gwelliant ar sail y blaenoriaethau cenedlaethol ac alinio â'r camau y cytunwyd arnynt i wella presenoldeb
  • hyrwyddo a chefnogi nodi arfer da o fewn a thu allan i Gymru ac ystyried sut y gellid gweithredu arfer da yn eang i sicrhau presenoldeb gwell yng Nghymru

Aelodaeth

Bydd aelodau'r Bwrdd yn cynrychioli eu sector a byddant yn cefnogi proses adrodd ddwyffordd (materion cysylltiedig o'u meysydd perthnasol i'w hystyried gan y Bwrdd ac adrodd penderfyniadau a chyfarwyddiadau'r Bwrdd yn ôl i'w meysydd perthnasol).

Gofynnir i swyddogion a rhanddeiliaid eraill ddod i gyfarfodydd y Bwrdd Prosiect i roi cyngor pan fo hynny'n briodol. Er enghraifft, cydweithwyr polisi ychwanegol mewn perthynas â natur draws lywodraethol y gwaith.

Trefniadau llywodraethiant

Mae'r Bwrdd yn atebol yn uniongyrchol i Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

Gall y Bwrdd gytuno i sefydlu is-grwpiau i ystyried materion a gweithgarwch penodol ac adrodd yn ôl.

Bydd y Bwrdd yn ystyried y dystiolaeth ddadansoddol a'r dystiolaeth ehangach ddiweddaraf sy'n ymwneud â'r mesurau sydd eu hangen i atal absenoldeb a chefnogi gwelliannau, nodi achosion ac ymyrryd yn gynnar ar lefel leol a chenedlaethol.

Wrth wneud hynny, bydd yn cael ei gefnogi gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi ag aelodau o'r byd academaidd i fonitro a dadansoddi'r dystiolaeth ddiweddaraf i gefnogi'r rhaglen waith.

Bydd cyfarfodydd y Bwrdd Prosiect yn cael eu cynnal bob yn ail fis, yn amodol ar ymrwymiadau dyddiadur y Gweinidogion. Os na fydd aelod yn gallu bod yn bresennol, gall enwebu cydweithiwr i fod yn bresennol ar ei ran. Caiff yr agenda a'r papurau ategol eu dosbarthu o leiaf 5 diwrnod cyn pob cyfarfod.

Bydd papurau'n cael eu dosbarthu i aelodau'r Bwrdd yn gyfrinachol ac ni ddylid eu rhannu'n ehangach, er enghraifft gyda chyrff eraill sy'n aelodau o sefydliad ymbarél. O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl y bydd aelodau yn gweld gwybodaeth gyfrinachol, megis adroddiadau ymchwil cyn iddynt gael eu rhyddhau, er mwyn sicrhau trafodaethau gwybodus a gonest a chefnogi'r broses o wneud penderfyniadau. Bydd hyn hefyd yn cael ei gwmpasu gan gymal cyfrinachedd.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth i'r Bwrdd.

Adolygu

Caiff y cylch gorchwyl hwn ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i'w ddiben, a bod aelodau priodol gennym.