Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r gwerthusiad ffurfiannol o Gwricwlwm i Gymru. 

Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth ansoddol ynghylch tegwch a chynwysoldeb, dan arweiniad Prifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Nod yr ymchwil oedd cynnig atebion i 2 brif gwestiwn ymchwil:

  1. Sut mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn cael eu gweithredu yn ymarferol i gynorthwyo tegwch a chynwysoldeb?
  2. Sut mae lleoliadau ac ymarferwyr yn cael eu cynorthwyo i weithredu Cwricwlwm i Gymru mewn ffordd sy’n cynorthwyo tegwch a chynwysoldeb?

Methodoleg

Nodir y fethodoleg ym mhennod 2 yr adroddiad hwn, ac roedd yn cynnwys: 

  • recriwtio 9 ysgol ac un uned cyfeirio disgyblion (UCD) i gymryd rhan yn yr astudiaeth.
  • trafodaethau lled-strwythuredig a grwpiau ffocws gydag uwch arweinwyr sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros y cwricwlwm, Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) ac ymarferwyr sy’n cyflawni amrediad o rolau ac sy’n gyfrifol am gynorthwyo tegwch a chynwysoldeb dysgwyr
  • gwnaethpwyd gwaith i ddadansoddi cynnwys thematig trawsgrifiadau’r trafodaethau

Mae’r adroddiad yn amlygu nifer o gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r astudiaeth hon, sef:

  • natur fach a hunan-ddewisol y sampl, sy’n golygu nad yw’r canfyddiadau yn rhai y mae modd eu cyffredinoli.
  • y ffaith bod y canfyddiadau’n seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd ar un adeg yn unig, gan gyfyngu ar y cyfleoedd i archwilio cynnydd ysgolion gydag amser
  • amser cyfyngedig a oedd ar gael er mwyn gallu archwilio pob agwedd ar waith cynllunio a gweithredu ysgolion.
  • gwybodaeth gyfyngedig a ddarparwyd gan gyfranogwyr mewn perthynas ag arfer i gynorthwyo dysgwyr sydd â nodweddion gwarchodedig a dysgwyr eFSM
  • y ffaith bod gweithgarwch i hyrwyddo tegwch a chynwysoldeb mewn ysgolion yn gyfyngedig i ystod o ganllawiau statudol ac anstatudol ehangach; o ganlyniad, nid oedd hi wastad yn glir a oedd unrhyw benderfyniadau a gweithredoedd yr adroddwyd amdanynt yn seiliedig ar bolisi a chanllawiau ehangach, neu’n ymwneud â’u gweithrediad o’r cwricwlwm yn uniongyrchol

Canfyddiadau

Mae canfyddiadau’r astudiaeth wedi’u strwythuro ar sail 5 adran, gan adlewyrchu’r prif themâu a oedd yn codi dro ar ôl tro o’r trafodaethau. 

Newidiadau i brofiadau dysgu dysgwyr trwy gyfrwng Cwricwlwm i Gymru

Adroddodd y rhan fwyaf o uwch arweinwyr ac ymarferwyr eu bod yn cynorthwyo tegwch a chynwysoldeb trwy gyfrwng amrediad o strategaethau ac arferion ar draws yr ysgol, a gyflwynwyd i gynorthwyo wrth wireddu Cwricwlwm i Gymru. Adroddodd y rhan fwyaf o ysgolion bod Cwricwlwm i Gymru wedi arwain at fwy o ffocws ar degwch a chynwysoldeb i bob dysgwr. Er bod rhai o’r newidiadau yr adroddwyd amdanynt wedi cychwyn cyn trefniadau Cwricwlwm i Gymru efallai, roeddent yn teimlo bod Cwricwlwm i Gymru wedi cyflymu’r datblygiadau, neu ei fod wedi cyd-fynd â nhw.

Nododd uwch arweinwyr ac ymarferwyr o bob ysgol bod Fframwaith Cwricwlwm i Gymru wedi cynnig cyfle iddynt ddatblygu cwricwlwm wedi’i deilwra i anghenion eu dysgwyr a’u cymunedau.

Adroddodd uwch arweinwyr yn gyson y bu mwy o bwyslais ar adnabod anghenion dysgwyr ac addasu dulliau er mwyn rhoi sylw i’r rhain mewn ffyrdd mwy cynhwysol. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • ffocws ar gymorth ac addysgeg wahaniaethol wrth ymateb i anghenion dysgwyr sydd â nodweddion penodol.
  • newidiadau i addysgeg er mwyn cynorthwyo mwy o degwch o ran y ffordd y mae dysgwyr yn profi’r cwricwlwm (gan gynnwys cymorth wedi’i dargedu ynghylch dulliau astudio, ac adborth gwell gan ddysgwyr er mwyn helpu dysgwyr i ddeall yn well y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt er mwyn sicrhau cynnydd).

Cyfeiriodd rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr at newidiadau i arfer yn y dosbarth, gan gynnwys mwy o gymorth un-i-un a gwaith gyda grwpiau llai er mwyn cynorthwyo cynnydd dysgwyr.

Yn ystod trafodaethau, cyfeiriadau prin a gafwyd gan uwch arweinwyr ac ymarferwyr at ddysgwyr eFSM a dysgwyr â nodweddion gwarchodedig. Nododd uwch arweinwyr ac ymarferwyr, fodd bynnag, eu bod yn bodloni anghenion dysgwyr eFSM a’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig trwy ganolbwyntio ar fodloni anghenion unigol pob dysgwr.

Yn gyffredinol, roedd y data yn dynodi symud i ffwrdd o’r arfer o osod dysgwyr mewn grwpiau ar sail gallu, fodd bynnag, adroddodd rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr am lwyddiant a phrofiadau cyferbyniol mewn perthynas â hyn.

Adroddodd y rhan fwyaf o ysgolion bod Cwricwlwm i Gymru wedi cyfrannu at newidiadau o ran y ffordd y maent yn asesu cynnydd dysgwyr, gan gynnwys hwb o’r newydd i adnabod a chynorthwyo anghenion unigol. Roedd hyn yn cynnwys gwneud mwy o ddefnydd o asesiadau parhaus ac mewn rhai achosion, defnyddio proffiliau un tudalen i gyfrannu at waith cynllunio. Nododd nifer o uwch arweinwyr ac ymarferwyr bod hyn yn galluogi dull mwy unigoledig, gan adlewyrchu mannau cychwyn a chynnydd dysgwyr yn well. 

Mewn rhai ysgolion, roedd cyflwyno camau cynnydd yn dynodi newid o ddefnyddio nodau cyrhaeddiad yn seiliedig ar oedran, i arfer sy’n briodol ar lefel ddatblygiadol ac addysgegol. Er bod rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr o’r farn bod y camau cynnydd yn ddefnyddiol, roedd eraill yn beirniadu eu ‘haneglurder’ tybiedig, gan nodi bod y disgrifiadau dysgu dan bob cam yn anodd i ddysgwyr a’u rhieni/gofalwyr eu deall.

Nododd rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr bod newidiadau a gyflwynwyd dan drefniadau’r cwricwlwm newydd wedi arwain at fwy o ddefnydd o hunanasesu ac asesu gan gymheiriaid hefyd, gan feithrin mwy o gyfrifoldeb ac annibyniaeth ymhlith dysgwyr.

Adolygu dysgu a phrofiadau’r cwricwlwm

Adroddodd pob ysgol eu bod wedi gwneud newidiadau er mwyn cynnwys ac adlewyrchu anghenion dysgwyr yn eu cwricwlwm mewn ffyrdd sy’n cynorthwyo tegwch a chynwysoldeb. Pwysleisiont bwysigrwydd sicrhau bod dysgu ac addysgu yn berthnasol ac o ddiddordeb i ddysgwyr, gan adlewyrchu anghenion dysgwyr wrth gynllunio profiadau dysgu.

Adroddodd ysgolion yn gyson eu bod yn manteisio ar adborth dysgwyr i gyfrannu at weithgarwch cynllunio y cwricwlwm, gan adolygu ac addasu’r cwricwlwm er mwyn sicrhau ei fod yn briodol ar gyfer mathau penodol o ddysgwyr a dosbarthiadau.

Adroddodd rhai ysgolion bod cynllunio’r cwricwlwm mewn ffordd sy’n bodloni anghenion amrywiol yn arwain at fanteision o ran ymgysylltu â dysgwyr. Roedd rhai ymarferwyr yn teimlo bod cyswllt rhwng gweithgarwch cynllunio cwricwlwm gwell a lefelau presenoldeb.

Nododd pob ysgol eu bod yn rhoi pwyslais ar gynorthwyo sgiliau cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr, a chynnig cyfleoedd i ddysgwyr feithrin hyder a gwydnwch. Gwelwyd bod hyn yn rhan o ddull mwy holistaidd tuag at gynorthwyo sgiliau a chynnydd dysgwyr.

Adroddodd bron pob ysgol eu bod yn cynorthwyo dyheadau uchel a’u bod yn meithrin sgiliau mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo egwyddorion tegwch a chynwysoldeb. Roedd hyn yn cynnwys annog cyfranogiad dysgwyr mewn gweithgareddau chwaraeon a’r celfyddydau, annog datblygiad sgiliau trawsgwricwlaidd a sgiliau gydol oes megis cyfathrebu, arweinyddiaeth ac empathi, yn ogystal â meithrin sgiliau cyflogadwyedd.

Adroddodd nifer o’r ysgolion uwchradd nad ydynt yn siŵr sut i gysoni’r dull mwy holistaidd ac sy’n canolbwyntio ar y dysgwr wrth weithredu’r cwricwlwm, a’r gofynion sy’n gysylltiedig â chymwysterau TGAU. Gofynnwyd cwestiynau gan uwch arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion uwchradd ynghylch sut i ymwreiddio dull sy’n seiliedig ar degwch a chynwysoldeb ar gyfer y cwricwlwm, os yw systemau atebolrwydd yn parhau i flaenoriaethu canlyniadau arholiadau.

Nodi anghenion unigol a chynnig cymorth priodol

Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn ymdrechu i ymwreiddio tegwch a chynwysoldeb trwy adnabod anghenion unigol ac amgylchiadau teuluol, gan gynnig cymorth priodol. Adroddodd nifer o uwch arweinwyr ac ymarferwyr bod hyn wedi arwain at fwy o ddealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar ddysgwyr a’u cynnydd, yr oeddent yn aml y tu hwnt i’w rheolaeth uniongyrchol nhw.

Adroddodd sawl ysgol am fwy o ymdrechion i ymgysylltu â theuluoedd, gyda chymorth swyddogion ymgysylltu â theuluoedd. Adroddodd rhai ysgolion bod hyn wedi eu galluogi i addasu dysgu ac addysgu, a chynnig cymorth priodol i ddysgwyr.

Mynegwyd rhybudd gan sawl cyfranogydd ei bod hi’n anodd sicrhau, wrth geisio bodloni anghenion grwpiau penodol o ddysgwyr, bod pob dysgwr yn cael eu cynorthwyo mewn ffordd briodol, a cheir risg y gallai anghenion dysgwyr gael eu hanwybyddu mewn ffordd anfwriadol wrth ganolbwyntio ar grwpiau sydd ag anghenion dysgu penodol.

Yn ogystal, mynegwyd pryder gan rai uwch arweinwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd y gallai cyfyngiadau ar y gyllideb arwain at heriau wrth barhau’r cymorth sy’n targedu grwpiau penodol o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr sy’n cael eu heffeithio gan dlodi. Roedd hyn yn cynnwys gostyngiad yn nifer y swyddi cynorthwywyr addysgu a gweithgareddau allgyrsiol, a bod gan hyn y potensial i gyfyngu ar gyfleoedd i gynorthwyo dulliau mwy unigoledig tuag at addysgu a dysgu, sy’n rhywbeth a ystyrir yn rhan ganolog o ymdrechion i gynorthwyo tegwch a chynwysoldeb trwy weithredu’r cwricwlwm. 

Capasiti y system i gynorthwyo tegwch a chynwysoldeb

Roedd gweithredu Cwricwlwm i Gymru mewn ffordd a oedd yn cynorthwyo tegwch a chynwysoldeb wedi arwain at newidiadau o ran arfer, yr adroddwyd eu bod wedi arwain at alwadau ychwanegol ar uwch arweinwyr ac ymarferwyr ar draws pob ysgol yn y sampl. Er bod uwch arweinwyr ac ymarferwyr yn gwerthfawrogi’r galluogedd i deilwra dysgu yn unol ag anghenion amrywiol yn gyffredinol, nododd rhai bod datblygu, cynllunio a darparu adnoddau ar gyfer y dulliau hyn yn cymryd amser ac nad oedd hyn yn cael ei ariannu. Yn ystod trafodaethau gyda rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr, datgelwyd y cyfyngiadau yr oeddent yn eu hwynebu, wrth i’r cyfranogwyr hyn gyfeirio at heriau yn y meysydd canlynol yn benodol:

  • amser cynllunio ar gyfer ac ymateb i anghenion cymorth dysgwyr unigoledig a gwahaniaethol.
  • manteisio ar ddysgu proffesiynol priodol i gynorthwyo, a chynorthwyo gweithgarwch cynllunio cwricwlwm a dulliau o fonitro cynnydd dysgu yn benodol.
  • cynnig cymorth ychwanegol i athrawon newydd gymhwyso (ANG), nad oeddent ar brydiau yn ddigon parod i gynorthwyo wrth wireddu Cwricwlwm i Gymru ar ôl cwblhau eu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), yn ôl rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr.
  • sicrhau cydbwysedd rhwng eu cyfrifoldebau sy’n ymwneud â Chwricwlwm i Gymru a’u dyletswyddau dan y trefniadau diwygio anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan arwain at fwy o bwysau o ran llwyth gwaith.

Amrywioldeb arfer

Er bod y rhan fwyaf o ymarferwyr yn gwerthfawrogi’r gallu i deilwra’r cwricwlwm er mwyn adlewyrchu anghenion eu dysgwyr, roedd rhai yn gofidio y gallai dehongliadau ac arferion anghyson arwain at fwy o amrywiadau o ran profiadau dysgwyr rhwng ysgolion, trwy amryfusedd.

Bu nifer o uwch arweinwyr ac ymarferwyr yn myfyrio am yr amrywiad rhwng arferion ysgolion, gan gynnwys gwahaniaethau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd wrth weithredu’r cwricwlwm. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch ffactorau cymdeithasol-economaidd ehangach, megis y ffaith bod yr adnoddau sydd ar gael yn anghyfartal, a bod ymarferwyr yn ofni y gallai hyn danseilio eu hymdrechion i gynnig profiadau teg dan Gwricwlwm i Gymru. Roedd hyn yn cynnwys pryderon am y cyfyngiadau ariannol y mae rhai teuluoedd mewn cymunedau difreintiedig yn eu hwynebu, sy’n dylanwadu ar y math o brofiadau a theithiau yr oedd ysgolion yn gallu eu cynnig i ddysgwyr fel rhan o’u cwricwlwm. Nododd rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr y byddai gan ysgolion sydd ag adnoddau neu gyfleusterau gwell – gan gynnwys y rhai sy’n gwasanaethu cymunedau mwy cefnog – fantais. Nododd y cyfranogwyr hyn – cynrychiolwyr ysgolion uwchradd yn bennaf – y gallai ffactorau cymdeithasol-economaidd gyfrannu at amrywiadau o ran y ffordd y mae ysgolion yn ymateb i’r diwygiadau, gan ehangu’r bylchau o ran canlyniadau a phrofiadau dysgwyr o bosibl.

Roedd rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion cynradd yn priodoli’r amrywioldeb o ran arfer yn eu hysgolion eu hunain i wahanol feddylfryd ymhlith ymarferwyr: adroddwyd bod rhai ymarferwyr, gan gynnwys ymarferwyr profiadol yr oeddent yn gyfarwydd â gweithredu cwricwlwm mwy rhagnodol, wedi gweld y profiad o addasu eu haddysgeg i’r dull mwy hyblyg ac sy’n canolbwyntio ar y dysgwr sy’n ofynnol dan Gwricwlwm i Gymru, yn un heriol.

Roedd y persbectifau hyn yn amlygu tensiwn: er yr ystyriwyd yn aml bod galluogedd lleol yn rhywbeth cadarnhaol er mwyn cynllunio cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, roedd rhai cyfranogwyr yn ofni y gallai arwain at arfer tameidiog hefyd.

Meysydd i’w hystyried

Canllawiau mwy penodol am sut y gall dulliau cwricwlwm helpu i fodloni anghenion dysgwyr sydd ag ADY, dysgwyr mwy abl a thalentog (MAT), dysgwyr sy’n profi tlodi, a’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig

Roedd cyfranogwyr yn gwerthfawrogi’r hyblygrwydd a gynigir gan Gwricwlwm i Gymru i addasu’r cwricwlwm i adlewyrchu amgylchiadau unigol dysgwyr. Fodd bynnag, ni allai’r rhan fwyaf o gyfranogwyr adnabod strategaethau penodol Cwricwlwm i Gymru sydd wedi’u teilwra i grwpiau penodol megis dysgwyr sydd ag ADY, dysgwyr sy’n cael eu heffeithio gan dlodi, (gan gynnwys y rhai sy’n eFSM), neu’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn awgrymu y byddai’r rhan fwyaf o’r ysgolion wedi cael budd o gael canllawiau mwy manwl ynghylch sut y gall Cwricwlwm i Gymru gynorthwyo’r grwpiau hyn o ddysgwyr yn uniongyrchol. Gallai hyn helpu i ddiffinio ac egluro’r cyfraniad y bwriedir i Gwricwlwm i Gymru ei wneud i welliannau o ran tegwch a chynwysoldeb mewn ysgolion.

Mwy o eglurder ynghylch sut y gall camau cynnydd gynorthwyo tegwch a chynwysoldeb

Er y nododd pob ysgol eu bod wedi cyfeirio at y camau cynnydd er mwyn cyfrannu at eu dulliau i fonitro cynnydd dysgwyr, roedd nifer o gyfranogwyr (yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda dysgwyr sydd ag ADY) wedi mynegi pryder ynghylch aneglurder neu nifer y camau. Dylid ystyried datblygu enghreifftiau, fel rhan o ganllawiau ychwanegol, sy’n dangos sut i ddefnyddio camau cynnydd mewn ffyrdd sy’n cynorthwyo tegwch a chynwysoldeb i bob dysgwr. 

Mwy o gymorth ar gyfer grwpiau amrywiol o ddysgwyr er mwyn cryfhau tegwch a chynwysoldeb wrth wireddu Cwricwlwm i Gymru

Dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i’r ffordd y caiff adnoddau eu neilltuo i ysgolion sy’n gwasanaethu niferoedd anghymesur o uchel o ran dysgwyr sydd ag ADY, dysgwyr sy’n cael eu heffeithio gan effaith tlodi, neu sydd ag anghenion eraill. Gallai hyn gynnwys archwilio cyfleoedd (gan gynnwys trwy gyfrwng y Grant Datblygu Disgyblion) i gynorthwyo staffio ychwanegol, dysgu proffesiynol, a phartneriaethau cymunedol sy’n gallu cryfhau’r ddarpariaeth mewn ysgol. Mae gofyn gwneud ymdrechion i sicrhau bod y Grant Datblygu Disgyblion, a ffrydiau ariannol eraill, yn ddigon hyblyg i alluogi ysgolion i ganlyn dulliau mwy creadigol (er enghraifft rhaglenni pontio estynedig, ymyriadau cymdeithasol-emosiynol) sydd wedi’u hymwreiddio yn egwyddorion Cwricwlwm i Gymru.

Gallai camau sy’n cael eu cymryd gan ysgolion i gryfhau tegwch a chynwysoldeb ymestyn i sicrhau bod cyfle cyfartal i ddysgwyr o bob cefndir i ymwneud â gweithgarwch llais y dysgwr hefyd. Dylid annog grwpiau amrywiol o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr sydd â nodweddion gwarchodedig, i gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgysylltu sy’n cyfrannu at ddulliau ysgolion tuag at gynllunio a gweithredu’r cwricwlwm.

Rhoi sylw i amrywioldeb wrth weithredu’r cwricwlwm er mwyn hyrwyddo tegwch a chynwysoldeb

Mae amrywioldeb o ran arferion ysgolion wrth iddynt weithredu’r cwricwlwm yn peryglu tanseilio’r nod o sicrhau tegwch a chynwysoldeb trwy wneud profiadau dysgwyr yn ddibynnol iawn ar gyd-destun penodol yr ysgol. Gallai gweithgarwch dan arweiniad awdurdod lleol i gynorthwyo dysgu proffesiynol ystyried hwyluso gweithgarwch ar y cyd sy’n canolbwyntio ar degwch a chynwysoldeb yng Nghwricwlwm i Gymru. Gallai hyn olygu galluogi partneriaethau dysgu proffesiynol gweithredol lle y mae arweinwyr ac ymarferwyr yn cael cyfleoedd i weld dysgu, addysgu ac arweinyddiaeth sy’n cynorthwyo tegwch a chynwysoldeb y tu allan i’w hysgol nhw, y mae modd manteisio arno er mwyn cyfrannu at welliannau. Gallai hyn ddatblygu sgyrsiau a gafwyd yn flaenorol trwy’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm, gan gynnwys trafodaethau ynghylch tegwch a chynwysoldeb.

Cydweithio gwell rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn cynorthwyo parhad o ran tegwch a chynwysoldeb

Byddai modd ystyried cynorthwyo trefniadau clwstwr ffurfiol neu fframweithiau pontio sy’n pennu dulliau cyffredin o ran cynnydd, monitro dysgwyr, a dulliau addysgegol cyson rhwng pontio ar gyfer dysgwyr agored i niwed (er enghraifft, y rhai sydd ag ADY neu sydd dan anfantais gymdeithasol-economaidd). Gallai hyn gynnwys hyrwyddo cyfleoedd hyfforddiant ar draws clwstwr neu gymunedau dysgu proffesiynol lle y gall ymarferwyr cynradd ac uwchradd gydweithio ar strategaethau i wireddu Cwricwlwm i Gymru sy’n cynorthwyo parhad ar gyfer dysgwyr sy’n wynebu risg.

Mwy o ffocws ar Gwricwlwm i Gymru a chynwysoldeb mewn AGA a dysgu proffesiynol parhaus

Canfu’r astudiaeth bod angen gwneud gwelliannau mewn AGA a dysgu proffesiynol parhaus er mwyn cynorthwyo tegwch a chynwysoldeb. Gallai rhaglenni AGA gynnwys modiwlau penodol sy’n ymwneud â Chwricwlwm i Gymru ynghylch datblygiad plant a phobl ifanc, gan gynnwys ffocws ar ddeall anghenion a datblygiad dysgwyr sydd ag ADY, dysgwyr sy’n cael eu heffeithio gan dlodi a’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, a darpariaeth wahaniaethol i fodloni’r anghenion hyn. Efallai y bydd angen i raglenni ymsefydlu ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso atgyfnerthu ethos Cwricwlwm i Gymru trwy gynnig arweiniad strwythuredig ynghylch addysgeg gynhwysol a chaniatáu trefniadau mentoriaeth gydag athrawon profiadol.

Gwaith ymchwil pellach ar rôl Cwricwlwm i Gymru wrth wella tegwch a chynwysoldeb

Mae safbwyntiau ymarferwyr trwy gydol yr astudiaeth hon yn dynodi bod angen gwneud gwaith craffu parhaus ar effaith Cwricwlwm i Gymru ar degwch a chynwysoldeb – yn enwedig wrth i ddulliau ysgolion barhau i esblygu ac wrth i drefniadau atebolrwydd newydd ddod i’r amlwg. Mae persbectif sy’n canolbwyntio ar y dysgwr yn hanfodol, gan bod tystiolaeth uniongyrchol gan blant a phobl ifanc ynghylch sut y maent yn profi Cwricwlwm i Gymru, yn gyfyngedig.

Mae gwaith ymchwil pellach yn ddymunol er mwyn: 

  • archwilio graddau ac ansawdd y ddarpariaeth ar degwch a chynwysoldeb yn AGA a rhaglenni ymsefydlu, gan nodi lle y gellir cryfhau hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar Gwricwlwm i Gymru.
  • cynnal gwaith ymchwil sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, yn enwedig ymhlith dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, er mwyn asesu sut y mae newidiadau Cwricwlwm i Gymru yn effeithio ar eu hymdeimlad o gynwysoldeb a’u cynnydd.
  • archwilio pwyntiau pontio i ddysgwyr, yn enwedig arferion pontio rhwng y cynradd a’r uwchradd dan Gwricwlwm i Gymru, gan werthuso pa mor effeithiol y maent yn cynnal dulliau cynhwysol ac a oes angen ymyriadau ychwanegol. Dylai hyn ddatblygu gwaith Estyn ynghylch pontio a chynnydd disgyblion[troednodyn 1].
  • asesu’r amrywioldeb wrth wireddu Cwricwlwm i Gymru ar draws ysgolion sydd â gwahanol ddemograffeg cymdeithasol-economaidd er mwyn deall sut y mae’r amrywiad hwn yn dylanwadu ar gyrhaeddiad grwpiau amrywiol o ddysgwyr

Troednodyn

[1] Estyn (2024). Adroddiad Thematig: Pontio a chynnydd disgyblion 

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Dr Nigel Newton, Athro David Egan, Dr Mirain Rhys (Prifysgol Metropolitan Caerdydd); Brett Duggan, Dr Felicity Morris (Arad)

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Cangen Ymchwil Cwricwlwm
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ymchwil.cwricwlwm@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 70/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-114-7

GSR logo