Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o ymchwil ansoddol sy'n archwilio barnau a phrofiadau arweinwyr uwch ac ymarferwyr o ran cynllunio cwricwlwm ac asesu, ac addysgeg.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad ffurfiannol o Gwricwlwm i Gymru
Mae'r gwerthusiad ffurfiannol o Gwricwlwm i Gymru yn mabwysiadu dulliau cymysg gan gynnwys arolygon o uwch arweinwyr ac ymarferwyr, arolygon o rieni/gofalwyr a dysgwyr, astudiaethau achos hydredol i ddeall teithiau gwireddu cwricwlwm ysgolion, a sawl astudiaeth ansoddol seiliedig ar bynciau sy'n archwilio elfennau penodol o Gwricwlwm i Gymru. Ei nod yw darparu darlun ansoddol a meintiol eang o sut mae'r diwygiadau'n gweithio, sut mae arfer yn newid a sut mae ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd yn profi'r newidiadau hyn.
Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau un o’r astudiaethau ansoddol seiliedig ar bwnc y gwerthusiad. Roedd yr ymchwil yn cynnwys gwaith maes gyda 9 ysgol ac 1 Uned Cyfeirio Disgyblion (5 ysgol gynradd, 3 ysgol uwchradd, 1 ysgol arbennig ac 1 Uned Cyfeirio Disgyblion), a gynhaliwyd rhwng Mehefin a Hydref 2024. Fe'i harweiniwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a'i gefnogi gan Ymchwil Arad.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ar:
- newidiadau i brofiadau plentyn neu berson ifanc o ddysgu drwy Gwricwlwm i Gymru
- adolygu dysgu cwricwlwm a phrofiadau a gynigir
- nodi anghenion unigol a darparu cefnogaeth briodol
- capasiti system i gefnogi tegwch a chynwysoldeb
- amrywiaeth ymarfer
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried canfyddiadau’r adroddiad ac wedi cyhoeddi ymateb.
