Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae llwyddiant ein diwygiadau addysg ers 2016 yn perthyn i bawb a gyfrannodd at y gwaith cenedlaethol ar y cyd hwnnw. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cafwyd ymdrech genedlaethol hefyd yn erbyn coronafeirws (COVID-19). Mae'r teulu addysg o 3.2 miliwn wedi ymateb i'r her hon gyda'i gilydd, gan gamu ymlaen i sicrhau bod dysgwyr o bob oed yn derbyn cymorth gyda’u lles, a gyda’u gallu i ddysgu a thyfu.

Mae wedi bod yn fynegiant o genhadaeth gyffredin ein cenedl. Rydym wedi mynd ati i geisio codi safonau i bawb, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau bod gennym system addysg sy’n ennyn hyder y cyhoedd ac yn destun balchder cenedlaethol.

Yn y cytundeb a ddaeth â mi i'r Llywodraeth i ddechrau, fe wnaethom ymrwymo i:

Hyrwyddo a gwella llwybrau academaidd a galwedigaethol ym maes addysg bellach ac addysg uwch, a rolau ein sefydliadau addysg yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd rhan-amser a llawn amser a fydd o fudd i ddysgwyr o bob oed, cyflogwyr a chymunedau.

Wrth gyflawni'r amcanion hyn, rydym wedi canolbwyntio ar degwch a rhagoriaeth, gan geisio sicrhau'r safonau uchaf a'r cyfleoedd gorau i bawb.

Ochr yn ochr â'n gwaith yn y sector cyn-16, mae wedi bod yn fraint enfawr i mi weithio gyda'n colegau a'n prifysgolion, ymchwilwyr a darlithwyr, undebau a chyflogwyr, i ddatblygu dyfodol mwy cadarn i ddysgwyr, ein sefydliadau a'n cenedl.

Ar draws tair thema Codi Safonau, Lleihau'r Bwlch Cyrhaeddiad a Balchder Cenedlaethol, mae'n dda gennyf gyflwyno sut rydym wedi symud ymlaen gyda'n gilydd a nodi rhai camau nesaf yn y meysydd hyn.

Codi safonau

Yn y degawd cyn 2016, roedd nifer y myfyrwyr o Gymru yn dilyn cyrsiau ôl-radd wedi gostwng yn sylweddol. Roedd hyn nid yn unig yn ganlyniad gwael i'r unigolion hynny a oedd yn methu â manteisio ar addysg ôl-radd; ond roedd yn niweidiol hefyd i les economaidd, i gyfleoedd pobl o gefndiroedd amrywiol i gael gwaith yn y proffesiynau, ac i ddemocratiaeth a chymdeithas fwy ymgysylltiol.

Gosodais darged o gynnydd o 10% yn ystod tymor y Llywodraeth. Rydym wedi rhagori'n sylweddol ar y targed hwn, a bu cynnydd o 51% yn nifer yr ôl-raddedigion blwyddyn gyntaf, llawn amser o Gymru, a chynnydd o 20% yn nifer yr ôl-raddedigion rhan-amser o Gymru. Rydym yn gweld mwy o fyfyrwyr o ardaloedd gwahanol yn camu ymlaen o fod yn israddedigion i fod yn fyfyrwyr ôl-radd, ond gallwn wneud hyd yn oed mwy. Bydd llawer o'r graddedigion hyn yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, diolch i'r cyllid grant rydym wedi'i ddarparu, ac rydym yn cefnogi cyfleoedd addysg a hyfforddiant dwyieithog yn ystod pob cam.

Ar ôl ymrwymo i ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae'r Coleg yn gwneud cynnydd sylweddol ym maes addysg a hyfforddiant dwyieithog ôl-16. Mae Prentis-iaith (y modiwl ymwybyddiaeth o'r Gymraeg ar-lein ar gyfer prentisiaid) wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac mae darparwyr wedi cynnwys y modiwl yn eu cyrsiau cynefino ar gyfer pob dysgwr. Ers ei sefydlu, mae'r Coleg wedi cynyddu darpariaeth mewn 14 maes, ac mae modiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael mewn 26 prif grŵp pwnc.

Hefyd, rydym wedi buddsoddi'r symiau uchaf erioed mewn dysgu a hyfforddiant proffesiynol ar gyfer ein gweithwyr addysg proffesiynol. Rydym wedi cyflwyno'r Safonau Proffesiynol cyntaf erioed i'w llunio yng Nghymru ar gyfer Athrawon AB ac ymarferwyr DSW. Ategir y Safonau gan gronfa datblygiad proffesiynol a phecyn cymorth adnoddau sy'n unigryw i Gymru.

Hefyd, rydym wedi canolbwyntio ar ddarlithwyr ac athrawon y dyfodol. Diolch i gymorth ariannol y Llywodraeth, mae bron i 200 o israddedigion ledled y wlad wedi gweithio gydag ysgolion i fentora disgyblion mewn pynciau fel ieithoedd a ffiseg, gan arddangos cyfleoedd y pynciau hynny, cynyddu'r niferoedd sy'n dewis y pynciau ac ysbrydoli myfyrwyr prifysgol i ddewis addysgu fel gyrfa.

Mae hyfforddiant athrawon wedi'i ddiwygio hefyd, a bu newidiadau yn y dulliau darparu, pwy sy'n darparu hyfforddiant, beth sy'n cael ei astudio a ble mae'n cael ei ddarparu. Nid oes gan yr un sefydliad hawl ddwyfol i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o athrawon. Mae'n llawer rhy bwysig i hynny. O ganlyniad, bu'n rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd, ond rydym mewn sefyllfa well erbyn hyn, ac rydym wedi gosod disgwyliadau uchel ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal â gweithio'n agosach gydag ysgolion, mae ein prifysgolion yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus a'r sector preifat i ddarparu gradd-brentisiaethau. Rydym yn buddsoddi £20 miliwn yn y maes hwn, gan gefnogi dros 200 o gyflogwyr a 600 o ddysgwyr. Mae'r graddau pwrpasol hyn yn canolbwyntio ar feysydd hanfodol fel y diwydiannau digidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch, ac maent yn cynnwys elfen o brofiad gwaith.

Am y tro cyntaf erioed yng Nghymru, rydym wedi cyflwyno Strategaeth Mwy Abl a Thalentog, gan gynorthwyo dysgwyr o bob cefndir mewn ysgolion a cholegau i wireddu eu potensial. Mae dros 16,000 o ddysgwyr wedi cael cymorth trwy ein dwy Raglen Seren, ac mae mwy o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig ac annhraddodiadol nag erioed o'r blaen yn camu ymlaen i addysg uwch.

Ar ôl sefydlu Comisiwn newydd sy'n gyfrifol am addysg a hyfforddiant trydyddol o bob math, gallwn godi disgwyliadau hyd yn oed yn uwch drwy broses alinio ac uchelgais cyffredin. Dylem fod yn barod i ddefnyddio'r cyfle hwn i edrych yn fanylach ar y berthynas rhwng deilliannau, cyllid, gwahaniaethu cenhadaeth, yr economi genedlaethol a rhanbarthol, heriau sgiliau a dinasyddiaeth, a chymorth ymchwil ac arloesi ehangach.

Bwlch cyrhaeddiad

Wrth fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad, rydym wedi canolbwyntio ar godi uchelgais, mynd i'r afael ag enghreifftiau o ddisgwyliadau isel, ac ehangu mynediad at gyfleoedd academaidd a galwedigaethol.

Diolch i'n buddsoddiad gwerth £15.5 miliwn yn y Cyfrifon Dysgu Personol newydd, mae dros 2,000 o unigolion yn manteisio ar raglenni unigol yn eu colegau lleol.

Mae'r bartneriaeth hon rhwng y Llywodraeth a cholegau yn cynorthwyo unigolion i ennill sgiliau a chymwysterau lefel uwch, gan greu cyfleoedd i newid gyrfa neu ddysgu sgiliau newydd yn eu galwedigaeth. Mae'n darparu cymorth ar gyfer pobl gyflogedig, gweithwyr ar ffyrlo neu unigolion sydd wedi'u heffeithio gan COVID-19.

Mae cynorthwyo pob dysgwr i oresgyn rhwystrau posibl wedi bod yn un o egwyddorion allweddol ein dull gweithredu. Er enghraifft, rydym wedi cadw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg sy'n cynorthwyo myfyrwyr 16-18 oed sydd am barhau â'u haddysg ar ôl oedran gadael yr ysgol. Mae'r lwfans hwn yn cynorthwyo dros 18,000 o fyfyrwyr ledled y wlad yn 2020 i 2021.

Yn 2018, Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno system cymorth i fyfyrwyr flaengar a theg newydd ar gyfer ariannu israddedigion ac ôl-raddedigion llawn amser a rhan-amser.

Rydym wedi gweithredu mewn ffordd radical trwy fabwysiadu dull 'system gyfan' a thrwy osgoi canolbwyntio'n gyfan gwbl ar israddedigion llawn amser ar draul myfyrwyr eraill. Bu'r broses hon yn hanfodol wrth gynorthwyo unigolion i gyfuno gwaith ac astudio, i ddysgu sgiliau newydd, ac i gynyddu cyfranogiad mewn addysg.

Mae'n dda gweld bod nifer y myfyrwyr rhan-amser wedi parhau i gynyddu ar ôl cyflwyno ein diwygiadau, ac mae nifer y myfyrwyr rhan-amser o Gymru sy'n astudio gyda'r Brifysgol Agored, er enghraifft, wedi cynyddu 81% yn ôl y data swyddogol diweddaraf sydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20. Ar ben hynny, yn ôl eu ffigurau eu hunain, mae’r Brifysgol Agored yn honni bod 150% o gynnydd yn nifer y myfyrwyr israddedig cyfwerth ag amser llawn yn y flwyddyn academaidd bresennol. Dylem fod yn falch o'n dulliau gweithredu a'n llwyddiant, ond mae angen gwneud llawer o waith o hyd er mwyn sicrhau bod gan ddinasyddion hawl i ddysgu gydol oes er mwyn diweddaru neu ehangu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiadau.

Mae cefnogi iechyd meddwl a lles staff a myfyrwyr yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad ac ehangu mynediad at lwyddiant addysg. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig rydym wedi buddsoddi dros £55.7 miliwn i gefnogi iechyd meddwl a lles mewn colegau a phrifysgolion. Mae prifysgolion yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru drwy'r Fframwaith Colegau a Phrifysgolion Iach a Chynaliadwy, i sicrhau bod pob agwedd ar fywyd prifysgol wedi'i chynllunio i ddarparu'r lefel uchaf o gymorth i fyfyrwyr. Mae'r 'dull prifysgol gyfan' o ymdrin ag iechyd meddwl yn sicrhau bod iechyd meddwl a lles da yn rhan annatod o holl weithgareddau prifysgolion fel rhan o'u cynnig i fyfyrwyr a staff. 

Rydym wedi comisiynu Estyn i gwblhau adolygiad thematig o les dysgwyr AB yn ystod y pandemig Covid-19. Bydd cyllid yn arwain at ddosbarthu adnoddau ledled y sector yn ystod 2021, gan gynnwys pecynnau cymorth wedi'u comisiynu i gefnogi dulliau coleg cyfan o ymdrin â chamddefnyddio sylweddau a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Wrth godi ein huchelgais ar gyfer pob dysgwr ac ar gyfer ein system addysg, rydym wedi sicrhau cyfleoedd byd-eang newydd cyffrous. Mae mwy o fyfyrwyr partner o Gymru yn cymryd rhan yn Rhaglen Ysgolheigion Ifanc Fyd-eang Yale nag unrhyw ranbarth neu genedl arall y tu allan i'r Unol Daleithiau; dim ond ein llywodraeth ni ac un llywodraeth arall sydd â phartneriaeth Gilman International gydag Adran Gwladwriaeth yr Unol Daleithiau, ac mae gennym gytundebau symudedd ac academaidd gyda phartneriaid fel Fietnam. Hefyd, rydym wedi datblygu ac ariannu cynllun symudedd allanol cenedlaethol cyntaf Cymru - Cymru Fyd-eang Darganfod - gan ehangu mynediad i symudedd tramor trwy ddarparu cyfleoedd mwy tymor byr.

Roeddem yn hynod siomedig ag agwedd fyrbwyll Llywodraeth y DU tuag at Erasmus+, a byddwn yn parhau i wneud popeth posibl i gynorthwyo mwy o bobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd profiad rhyngwladol, gan sicrhau bod Cymru ar agor i fyfyrwyr rhyngwladol hefyd.

Yn nes at adref yn y DU, diolch i'n rhaglen Seren, mae nifer y myfyrwyr o ysgolion gwladol yng Nghymru sy'n cael eu derbyn i Brifysgol Rhydychen wedi cynyddu 55%, ac mae nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n cael eu derbyn i Brifysgol Caergrawnt wedi cynyddu 33%. Hefyd, mae myfyrwyr Seren yn ennill lle mewn prifysgolion gyda'r gorau yn y byd yma yng Nghymru, yn Rhydychen a Chaergrawnt, ac mewn prifysgolion uchel mawr eu bri yn yr Unol Daleithiau gan gynnwys Yale, Harvard, Stanford, Chicago a Princeton.

Balchder cenedlaethol

Mae'r OECD wedi nodi bod diwygiadau diweddar Cymru yn enghraifft ryngwladol flaenllaw o newid system yn llwyddiannus. Mae'n destun balchder i mi fod ein system, ein hysgolion, ein colegau a’n prifysgolion yn cael eu dyrchafu fel esiampl i weddill y byd. Mae colegau a phrifysgolion sydd wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau ond sydd ag agweddau a dyheadau byd-eang yn drysorau yn ein coron genedlaethol. Oherwydd eu gwaith ymchwil a'u gwaith arloesol, eu haddysgu rhagorol a'u hymdeimlad o genhadaeth ddinesig, mae ein sector addysg ôl-orfodol yn destun edmygedd i'r byd.

Rydym wedi buddsoddi mewn ail-sefydlu cyllid ymchwil ac arloesi yn dilyn argymhelliad gan Adolygiad Diamond ac Adolygiad Reid. Mae hyn yn cynorthwyo prifysgolion ac ymchwilwyr i weithio gyda diwydiannau a busnesau, sy'n hanfodol i’r gwaith adfer ac adnewyddu economaidd yn y cyfnod sydd i ddod.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes da o fuddsoddi yn ein sylfaen ymchwil, a dangoswyd hynny gan raglen Sêr Cymru sydd wedi'i chydnabod yn rhyngwladol. Hyd yn hyn, mae'r cyllid hwn wedi cefnogi dros 450 o swyddi ymchwil (o fyfyrwyr PhD i Gadeiryddion Ymchwil) ac mae wedi cynorthwyo ymchwilwyr o 29 o wledydd i ddod i Gymru i weithio yn ein prifysgolion. Yn 2019 yn unig, fe aethom ati i fuddsoddi £8.4 miliwn yn ychwanegol yn y rhaglen hon i gefnogi partneriaethau academaidd a diwydiannol rhyngwladol sy'n canolbwyntio ar ragoriaeth ymchwil. Roedd cyfrannau cyllid diweddaraf Sêr Cymru yn cynnwys y Gwobrau Partneriaeth Strategol. Mae'r cyfrannau hyn wedi galluogi cydweithio rhwng prifysgolion Cymru a phrifysgolion yn yr Unol Daleithiau, Tsieina a Malaysia. Yn 2020, buddsoddwyd £2.9m ychwanegol i ysgogi a chefnogi gweithgarwch ymchwil yn ymwneud â’r Coronafeirws ym mhrifysgolion Cymru.

Yn ogystal â chynorthwyo pob myfyriwr i fynd i’r afael â'r prif fater o dalu costau byw ymlaen llaw, rydym wedi cyflwyno'r 'Difidend Diamond' i'r sector addysg uwch, gan sicrhau cynnydd o 80% ers 2016 i CCAUC a thrwy CCAUC. 

Mae'n dda gennyf nodi ein bod wedi cyflawni ar fy addewid i CCAUC y byddai incwm y sefydliad yn parhau i gynyddu ym mhob blwyddyn o'r Llywodraeth hon, wrth i ni gyflwyno'r diwygiadau i addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr fesul cam. Rydym yn cynnal cyllid craidd CCAUC er mwyn cydnabod effaith y pandemig ar y sector addysg uwch a'i rôl yn datblygu economi'r dyfodol, drwy gynyddu lefelau sgiliau uchel, ymchwil ac arloesi a chenhadaeth ddinesig.

Rwyf wrth fy modd bod ein prifysgolion, CCAUC a Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi cydweithio i sicrhau mai Cymru yw'r sector Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig addysg uwch cyntaf yn y DU, gan achub y blaen ar lawer o'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn hyn o beth. Mae pob coleg a sefydliad dynodedig wedi ymrwymo i egwyddorion cyflog byw gwirioneddol ar gyfer eu holl weithwyr cyflogedig uniongyrchol, ac mae'n amlwg mai dyma’r cam nesaf tuag at sicrhau sector cyfrifol a blaengar.

Gan weithredu fel stiwardiaid i’n cymunedau a'r genedl, mae ein colegau a'n prifysgolion yn gweithio gyda ni i gynorthwyo dysgwyr i bontio i'r brifysgol yn ystod y cyfnod cymhleth hwn. Mae hyn yn adeiladu ar ein hymdrechion cydweithredol i geisio sicrhau bod Cymru ar y brig o ran canlyniadau Safon Uwch. Yn 2019, llwyddodd 27 y cant o holl fyfyrwyr Safon Uwch yng Nghymru i ennill graddau A*–A, sef y ganran uchaf yn y DU. Roedd y ganran hon wedi codi o 23 y cant yn 2016, pan oedd Lloegr a Gogledd Iwerddon yn perfformio'n well o lawer na ni, gan arwain at fy mhenderfyniad i gyflwyno cynllun gwella pwrpasol. Gwelwyd y perfformiad cryf yn  parhau y llynedd wrth i ganolfannau asesu bennu graddau.

Wrth ymateb i'r her a osodais yn ôl yn 2016, mae prifysgolion Cymru bellach yn arwain y ffordd o ran cyflawni eu cenhadaeth ddinesig. Mae 35 o brosiectau penodol wedi'u hariannu i gefnogi dros 50 o weithgareddau, ar ôl cael eu dwyn ynghyd trwy Rwydwaith Cenhadaeth Ddinesig cenedlaethol unigryw a’r Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig. Gallwn ddatblygu'r maes hwn ymhellach, gan barhau i fod yn esiampl i weddill y byd. Mae'r ddyletswydd cenhadaeth ddinesig benodol yn y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil drafft yn hanfodol i'n dull gweithredu yn y dyfodol ledled y sector ôl-orfodol. Drwy ffurfioli rôl a hyrwyddo cenhadaeth ddinesig, yn unol â nodau llesiant Cymru, rydym ar drothwy rhywbeth cyffrous iawn.

Mae'r cwricwlwm ysgol cenedlaethol newydd yn canolbwyntio ar ddatblygu pobl ifanc foesegol, gwybodus sy'n barod i gyfrannu a bod yn ddinasyddion. Yn ystod y cyfnod nesaf, bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i'n system addysg – gan gynnwys y sector ôl-orfodol – ganolbwyntio ar ddinasyddiaeth a rennir, diwylliant cyffredin a grymuso pawb â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i newid cymdeithas er gwell. Wrth adolygu dyfodol cymwysterau ac arholiadau, rhaid i’r materion hyn fynnu lle blaenllaw yn ein hystyriaethau.

Un o flaenoriaethau fy her cenhadaeth ddinesig oedd menter gymdeithasol ac entrepreneuriaeth. Erbyn hyn, mae mwy o raddedigion yn llwyddo i sefydlu busnesau newydd yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU, a bydd ein Rhaglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid wedi helpu i greu 900 o fusnesau newydd erbyn diwedd y flwyddyn. 

Rwy'n parhau i ymrwymo i ehangu cyfleoedd a gorwelion ar gyfer ein myfyrwyr, ein colegau a'n prifysgolion. Dyna pam rydym wedi rhoi blaenoriaeth i weithio gyda phrifysgolion gorau'r byd megis Yale, MIT a Rhydychen ym meysydd llwybrau myfyrwyr, cymorth addysgu i ysgolion a chysylltiadau ymchwil. Mae defnyddio ein talentau ein hunain, yn enwedig ein talentau ôl-raddedig, yn allweddol ar gyfer twf diwydiannau uwch-dechnoleg, yr economi ehangach a democratiaeth ymgysylltiol.

Rydym wedi cyflwyno bwrsariaeth Meistr ar gyfer pynciau STEMM ac ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gymell myfyrwyr i aros yng Nghymru, neu ddychwelyd i Gymru, i ymgymryd ag astudiaethau ôl-radd. Mae'r cynllun hwn wedi cynorthwyo sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i gymell proses o recriwtio'r myfyrwyr mwyaf talentog yng Nghymru, yn unol â'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi a'm hymateb i Adolygiad Diamond. Mae'r bwrsariaethau'n darparu cymorth ychwanegol ar ben y prif becyn cymorth ar gyfer myfyrwyr ôl-radd o Gymru. 

Casgliadau

Rydym yn llwyddo i godi safonau a chyflwyno system sydd wedi ennyn hyder y cyhoedd ac sy’n destun balchder i ddinasyddion, cymunedau a'r genedl gyfan. Rhaid i'n prifysgolion gael eu gweld fel sefydliadau sy'n perthyn i'n cymunedau ledled Cymru ac sy'n bodoli ar eu cyfer - wedi'u gwreiddio ynddynt ac yn atebol i'w rhanbarthau a'u cenedl. Rydym wedi gwneud cynnydd enfawr dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae heriau'n parhau. Rhaid i'n sefydliadau – sy'n cynrychioli'r gorau o ymrwymiad Cymru i ddatblygu a gweithredu cymunedol - barhau i helpu i fynd i'r afael â materion cydlyniant cymdeithasol, dinasyddiaeth weithredol a thrafodaeth wybodus.

Gwyddom y bydd ein system addysg yn ffynnu os oes gan bawb fuddiant ynddi. Wrth osod safonau uchel i bawb, gwrthod derbyn disgwyliadau isel, a siarad â'r byd yn hyderus, rydym yn cyflawni ein cenhadaeth genedlaethol. Gyda'n gilydd gallwn barhau i ddarparu addysg gwasanaeth cyhoeddus wirioneddol, gan gyfuno tegwch a rhagoriaeth, a chyflawni ar gyfer pob dinesydd.

Kirsty Williams AS
Y Gweinidog Addysg

Image