Neidio i'r prif gynnwy

Caiff teithio llesol ei fesur fel cerdded neu feicio am o leiaf 10 munud fel dull o dethio i gyrraedd cyrchfan benodol.  Nid yw’n cynnwys cerdded neu feicio er pleser, rhesymau iechyd neu hyfforddiant.  Caiff gwybodaeth am deithio llesol gan bobl yng Nghymru ei gasglu drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru.

1. Prif bwyntiau

Cafodd y cwestiynau teithio llesol yn Arolwg Cenedlaethol diweddaraf Cymru eu holi yn Arolwg Cenedalethol diweddaraf Cymru i oedolion 16+ a hŷn.  Mae data teithio llesol ar gyfer plant ar gael yn ein datganiad Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020:

  • roedd 4% o oedolion yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol
  • roedd 60% o oedolion yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol, ychydig o gynnydd o gymharu â’r flwyddyn flaenorol
  • roedd 32% o oedolion mewn iechyd da iawn yn cerdded pob diwrnod yn y 3 mis diwethaf
  • roedd 74% o  bobl mewn ardaloedd trefol yn cerdded mwy na 10 munud fel dull o deithio o leiaf unwaith y mis, o gymharu â 59% o bobl mewn ardaloedd gwledig
  • mae data o GIG Cymru yn dangos bod cyfanswm o 226 o feicwyr wedi’u niweidio’n ddifrifol wedi mynd i’r ysbyty yn 2019

Beicio

  • Yn ystod 2019-20, roedd 4% o oedolion yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol. 
  • Roedd gostyngiad ym maint y sampl yn 2019-20 ar gyfer atebion i gwestiynau teithio llesol am feicio, sy’n golygu na ddylid cymharu gyda blynyddoedd blaenorol. 
  • Aeth 226 o feicwyr oedd wedi eu niweidio’n ddifrifol i’r ysbyty yn 2019; mae hyn yn gynnydd o 3% o’r flwyddyn flaenorol ac yn ostyngiad o 16% ar ffigur 2014.

Cerdded

Roedd canran y bobl oedd yn cerdded yn aml am o leiaf 10 munud yn llawer uwch na’r canran oedd yn beicio yn aml fel dull o deithio.  

Image
Mae Siart 1 yn dangos bod 45% wedi teithio’n llesol ar droed o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos yn 2019-20.

 

Pan ofynnwyd pa mor aml oeddent wedi cerdded am dros 10 munud fel dull o deithio yn y tri mis blaenorol, dywedodd 27% eu bod wedi cerdded am dros 10 munud y diwrnod.  Roedd hyn 3 pwynt canran yn uwch na 2018-19. Roedd 18% yn datgan eu bod wedi cerdded lawer gwaith yr wythnos, a dywedodd 15% unwaith neu ddwywaith yr wythnos, fel y cyfnod blaenorol (Siart 1).  Roedd 9% arall yn cerdded unwaith neu ddwywaith y mis a dywedodd 31% eu bod yn cerdded yn llai aml na hynny neu byth yn cerdded.  Roedd pa mor aml yr oedd merched yn teithio’n llesol trwy gerdded ychydig yn llai nac ar gyfer dynion.

Image
Mae Siart 2 yn dangos bod 27% yn dweud iddynt gerdded am fwy na 10 munud bob dydd, bod 18% wedi gwneud hynny sawl gwaith yr wythnos a bod 15% wedi gwneud hynny unwaith neu ddwywaith yr wythnos.

 

Mae pobl sydd â salwch hirdymor cyfyngus yn llai tebygol o gerdded ar gyfer mwy na 10 munud o gymharu â’r rhai heb salwch cyfyngus. 

Image
Mae Siart 3 yn dangos bod pobl sydd â salwch cyfyngus hirdymor, sy’n anabl neu’n eiddil yn llai tebygol o gerdded am fwy na 10 munud na’r rheini sydd heb salwch cyfyngus.

Teithio llesol yn ôl dosbarthu trefol a gwledig

Roedd pobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol o gerdded am fwy na 10 munud fel dull o deithio. Roedd 74% o bobl mewn ardaloedd trefol yn cerdded am fwy na 10 munud fel dull o deithio llesol o leiaf unwaith y mis, o gymharu â 59% o bobl mewn ardaloedd gwledig.  Roedd pobl mewn ardaloedd trefol hefyd yn fwy tebygol o gerdded yn amlach, gyda 31% yn cerdded bob diwrnod o gymharu â 19% mewn ardaloedd gwledig (Siart 4).

Image
Mae Siart 4 yn dangos bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol o deithio ar droed am fwy na 10 munud. Roedd 74% o bobl mewn ardaloedd trefol yn teithio ar droed am fwy na 10 munud o leiaf unwaith y mis, o gymharu â 59% o bobl mewn ardaloedd gwledig.

Teithio llesol yn ôl amddifadedd materol

Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys cwestiynau ynghylch amddifadedd materol.  Ar gyfer cerdded, roedd cyfrannau sy’n cerdded fel ffordd o deithio bob dydd yn uwch ar gyfer y rhai hynny mewn amddifadedd materol o gymharu â’r rhai hynny nad oedd (32% a 26% yn y drefn honno, Siart 5).  Fodd bynnag, roedd pobl nad oeddent mewn amddifadedd materiol yn fwy tebygol o gerdded sawl gwaith yr wythnos fel ffordd o deithio o gymharu â’r rhai hynny mewn amddifadedd materol (13%).

Image
Mae Siart 5 yn dangos bod y canrannau a oedd yn cerdded o leiaf unwaith y mis yn agos iawn ar gyfer pobl sydd mewn amddifadedd materol a’r rheini sydd heb fod mewn amddifadedd materol (71% a 68%, yn y drefn honno).

2. Gwybodaeth bwysig am ansawdd

Mae gwybodaeth bwysig am ansawdd i’w weld yng nghyhoeddiad 2019  Teithio Llesol.  Yn 2018/19 roedd maint y sampl ar gyfer cwestiynau’n gysylltiedig â beicio yn 12,000. Yn 2019/20 roedd maint y sampl yn 2,000, sy’n ddigon mawr i grynhoi yr ymatebion, er nad oeddent yn cael eu hystyried yn ddigon cadarn i’w cymharu â blynyddoedd blaenorol.

3. Cwestiynau sy’n cael eu cynnwys

Mae’r tabl isod yn dangos cwestiynau oedd wedi’u cynnwys yn 2019-20 ar deithio llesol.  Roedd y bwletin hwn yn cynnwys dadansoddi dros sawl blwyddyn ble y mae cwestiynau’r arolwg wedi bod yr un fath.

Categoriau y cwestiynau a ofynnwyd ar deithio llesol (oedolion) yn arolwg 2019-20
  2012-13 2013-14 2014-15 2016-17 2017-18 2018-19 2019-20
Pa mor aml ddefnyddiwyd beic i gyrraedd rhywle N N N D D D D
Pa mor aml cerddwyd am 10 munud i gyrraedd rhywle N N N N D D D
Cerdded (10 munud +) neu feicio o leiaf unwaith yr wythnos fel ffordd o drafnidiaeth N N N N N D D

D: wedi ei ofyn N: heb ei ofyn

Daw y data derbyn i ysbytai ar gyfer beicwyr wedi’u niweidio’n ddifrifol o GIG Cymru.

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 43/2020