Gallai teuluoedd fod yn gymwys i gael rhwng £125 a £200 y dysgwr i helpu â chostau gwisg ysgol, yr offer sy'n hanfodol ar gyfer yr ystafell ddosbarth megis deunyddiau ysgrifennu a bagiau, a dillad ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi.
Bydd y Grant Hanfodion Ysgol yn gwahodd ceisiadau ym mis Gorffennaf ac mae'n cefnogi teuluoedd â phlant o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11, sydd ar incwm is ac sy'n cael budd-daliadau penodol.
Mae'r grant yn darparu £125 y dysgwr, a £200 i ddysgwyr sy'n dechrau ym mlwyddyn 7er mwyn helpu â'r costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau mewn ysgol uwchradd.
Gall teuluoedd edrych i weld a ydynt yn gymwys a gwneud cais trwy'r awdurdod lleol lle mae eu plentyn yn mynd i'r ysgol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn 'hawliwch help gyda chostau ysgol'.
Yn ogystal â darparu cymorth uniongyrchol i deuluoedd, mae pob cais llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cyllid llawn sydd ar gael i gefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm is.
Gall rhieni a gofalwyr hawlio unwaith ar gyfer pob plentyn bob blwyddyn ysgol. Ochr yn ochr â chostau gwisg ysgol, gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu gyda'r canlynol:
- gweithgareddau ysgol, gan gynnwys dysgu offeryn cerddorol, dillad chwaraeon ac offer arall ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol.
- hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys offer ysgrifennu, pensiliau a bagiau ysgol
- cyfarpar arbenigol ar gyfer gweithgareddau'r cwricwlwm newydd, megis dylunio a thechnoleg
- cyfarpar TG: gliniaduron a llechi yn unig (dim ond mewn sefyllfaoedd cyfyngedig lle nad yw ysgol yn gallu benthyg offer i'r teulu y dylid defnyddio'r Grant Hanfodion Ysgol)
- cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol megis dysgu yn yr awyr agored (er enghraifft, dillad sy'n dal dŵr)
- eitemau hanfodol nad ydynt yn ddillad ysgol fel dillad er mwyn gallu cymryd rhan mewn sesiynau preswyl addysg awyr agored
- gwisg ysgol ar gyfe gweithgareddau cyfoethogi gan gynnwys, ymhlith eraill: sgowtiaid, geids, cadetiaid, crefft ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio neu ddawnsio
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:
Rydyn ni'n gwybod bod costau byw yn cael effaith wirioneddol ar deuluoedd ac mae'r Llywodraeth newydd hon wedi gwneud ymrwymiad clir i gefnogi teuluoedd, drwy ymestyn gofal plant a ariennir, cyflwyno Cynnal, sef y cynllun peilot ar gyfer taliadau plant ac yn ddiweddar, y cyhoeddiad am ehangu prydau ysgol am ddim i'r rhai sy'n derbyn credyd cynhwysol. Ein huchelgais yw sicrhau ein bod yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant.
Mae'r Grant Hanfodion Ysgol yn helpu gyda chostau ysgolion, Mae'n bwysig bod y rhai sy'n gymwys yn cofrestru er mwyn derbyn y taliad untro a chyllid ychwanegol ar gyfer eu hysgol.
