Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o achosion o dipio anghyfreithlon, camau gorfodi a chanlyniadau erlyn ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r ffigurau hyn oherwydd newidiadau parhaus a gwelliannau mewn prosesau cofnodi data a chanllawiau.

Mae'r cyfnod hwn yn cwmpasu'r prif gyfnod o gyfyngiadau yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19). Dylid cymryd gofal wrth gymharu canlyniadau 2021-21 â blynyddoedd blaenorol gan nad yw'n glir pa effeithiau sy'n rhai tymor byr oherwydd y pandemig a pha rai sy'n fwy hir dymor.

Ceir gwybodaeth bellach un yr adroddiad ansawdd.

Prif bwyntiau

  • Cofnodwyd 41,333 o achosion o dipio yng Nghymru. Mae’r ffigur hwn 1% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol [troednodyn 1].  Yn dilyn uchafbwynt o bron i 62,000 o ddigwyddiadau yn 2007-08, gostyngodd y nifer yn raddol tan 2014-15, ond mae wedi cynyddu eto yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
  • Roedd y newid blynyddol yn nifer yr achosion yn amrywio ar draws Cymru. Cofnododd 16 awdurdod lleol ostyngiad a 6 gynnydd.
  • Cafwyd y cynnyddion blynyddol mwyaf yng Casnewydd, a Abertawe (87% a 26% yn y drefn honno). Yn ôl yr awdurdodau lleol, roedd hyn yn rhannol oherwydd mynediad cyfyngedig y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, ffigurau llwyth lluosog, a phrosesau cofnodi gwell.
  • Cafwyd y gostyngiad blynyddol uchaf yn Gwynedd (46%) gyda gostyngiadau nodedig ym Wrecsam, Sir y Fflint, a Bro Morgannwg (41%, 38%, a 35% yn y drefn honno)
  • Roedd 73% o achosion yn ymwneud â gwastraff cartref (bag du neu wastraff arall y cartref)
  • Amcangyfrifir fod costau clirio tipio yng Nghymru tua £1.93 miliwn [troednodyn 2].
  • Cymerwyd 29,820 o gamau gorfodi yng Nghymru; y nifer uchaf ers 2017-18.
  • O’r camau 91 gorfodi a gymerwyd gan awdurdodau lleol, arweiniodd 82% at ddirwy.

Troednodiadau

[1] Yn dilyn eglurhad o ganllawiau ar dipio anghyfreithlon yn 2017, nid yw gwastraff ochr (gormod o wastraff a osodir wrth ymyl bin)  bellach yn cael eu cofnodi fel digwyddiadau tipio anghyfreithlon.
[2] Mae costau clirio amcangyfrifedig yn seiliedig ar nifer yr achosion wedi'u cofnodi yn ôl maint. Ni chofnodir y wybodaeth hon ar gyfer pob digwyddiad. Yn 2021-22, darparwyd gwybodaeth am faint yr achos tipio ar gyfer 94% o achosion.

Gwybodaeth gefndir

Mae'r ystadegau yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol i’r gronfa ddata ‘Waste Data Flow’. Er y cofnodir rhai achosion, nid yw’r ystadegau yma yn cynnwys pob achos o dipio anghyfreithlon ar dir preifat, ac ni chofnodir pob digwydd tipio anghyfreithlon gydag awdurdod lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Stuart Neil

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.