Neidio i'r prif gynnwy

Data am fynediad i orsafoedd, digwyddiadau ar drenau, marwolaethau ar reilffyrdd a throsedd ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn fyrrach na’r bwletin ystadegol arferol, gan ein bod yn blaenoriaethu adnoddau er mwyn dadansoddi pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae’r data yn y penawdau hyn yn ymwneud â’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, sy’n cynnwys cyfnod bach ar ddechrau pandemig. Mae’n bosibl bod COVID-19 wedi cael effaith fach ar rai o’r setiau data gan iddo ddechrau tua diwedd blwyddyn ariannol 2019-20.

Prif bwyntiau

Image
Bu gostyngiad yn nifer y siwrneiau gan deithwyr yn 2019–20 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Gostyngodd nifer y siwrneiau rheilffordd gan deithwyr yng Nghymru 3.8% yn 2019-20 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Bu 29.9 miliwn o siwrneiau rheilffordd gan deithwyr a oedd naill ai wedi dechrau neu wedi dod i ben yng Nghymru yn 2019-20, o’u cymharu â 31.1 miliwn yn 2018-19. Roedd dau draean (69%) o’r siwrneiau hyn o fewn Cymru.
  • Gostyngodd nifer y siwrneiau rheilffordd o fewn Cymru i 20.5 miliwn yn 2019-20, gostyngiad o 5.2% o’i chymharu â 2018-19.
  • Caerdydd oedd y cyrchfan mwyaf poblogaidd ar gyfer siwrneiau o fewn Cymru, gan gyfrif am 42.9% o’r holl siwrneiau.
  • Yn 2020 bu farw 11 o bobl ar y rheilffyrdd, roedd pob un o’r rhain yn achosion o hunanladdiad.
  • Yn ystod y pum mlynedd diwethaf bu rhwng 5 a 14 achos a gofnodwyd o hunanladdiad bob blwyddyn, a llai na 3 marwolaeth arall.
  • Yn 2019-20 gostyngodd troseddau ar reilffyrdd Cymru 5.9%.
  • Adroddwyd am 1,459 o droseddau hysbysadwy ar reilffyrdd Cymru yn 2019-20, gostyngiad o 91 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Rhagor o wybodaeth

Mae Ffocws ar Drafnidiaeth hefyd yn rhyddhau tablau ar foddhad teithwyr gyda gweithredwyr rheilffyrdd yn eu Harolwg Cenedlaethol o Deithwyr Rheilffyrdd. Fodd bynnag, nid yw’r ystadegau hyn bellach yn ystadegau cenedlaethol oherwydd bod yr arolwg yn cael ei gynnal yn y gwanwyn a’r hydref yn unig, ac maent yn gofyn i ymatebwyr am eu siwrnai ddiwethaf yn unig, nid eu boddhad cyffredinol gyda’r gweithredwr.

Mae tablau manylach ar gael ar wefan StatsCymru ac mae gwybodaeth o ansawdd ar gael yn yn adroddiad Ebrill 2017 i Fawrth 2018.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.