Neidio i'r prif gynnwy

Data am fynediad i orsafoedd, digwyddiadau ar drenau, marwolaethau ar reilffyrdd a throsedd ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Effeithiwyd yn drwm ar wasanaethau trafnidiaeth ar y rheilffyrdd yn 2020-21 (1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021) gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Gweler tudalen 2 y bwletin ystadegol am ragor o fanylion.

Prif bwyntiau

Image
Siwrneiau teithwyr rheilffordd i/o Gymru neu o fewn Cymru rhwng 1995–96 a 2020–21, bu gostyngiad yn nifer y siwrneiau gan deithwyr yn 2020–21 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Gostyngodd nifer y siwrneiau rheilffordd gan deithwyr yng Nghymru yn 2020-21, gan gwympo i’r lefel isaf erioed.
  • Bu 5.1 miliwn o siwrneiau rheilffordd gan deithwyr a oedd naill ai wedi dechrau neu wedi gorffen yng Nghymru yn 2020-21, gostyngiad o 82.8% o’u cymharu â’r flwyddyn cynt. Roedd dau draean (69%) o’r siwrneiau hyn o fewn Cymru.
  • Gostyngodd nifer y siwrneiau rheilffordd o fewn Cymru i 3.5 miliwn yn 2020–21, gostyngiad o 82.7% o’i chymharu â 2019-20.
  • Caerdydd oedd y cyrchfan mwyaf poblogaidd ar gyfer siwrneiau o fewn Cymru, gan gyfrif am 37.4% o’r holl siwrneiau.
  • Yn 2021 bu farw 8 o bobl ar y rheilffyrdd – roedd pob un o’r rhain yn achosion o hunanladdiad.
  • Yn y blynyddoedd diwethaf bu rhwng 4 a 11 achos o hunanladdiad bob blwyddyn, a rhwng 0 a 4 marwolaeth arall.
  • Yn 2020-21 gostyngodd troseddau ar reilffyrdd Cymru 27.1%.
  • Adroddwyd am 1,063 o droseddau hysbysadwy ar reilffyrdd Cymru yn 2020-21, gostyngiad o 396 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Rhagor o wybodaeth

Mae tablau manylach ar gael ar wefan StatsCymru ac mae gwybodaeth o ansawdd ar gael yn yn adroddiad Ebrill 2017 i Fawrth 2018.

Adroddiadau

Trafnidiaeth rheilffyrdd, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 955 KB

PDF
Saesneg yn unig
955 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.