Neidio i'r prif gynnwys

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer sesiwn wybodaeth Grant Cyfalaf 2025 i 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiwn wybodaeth ar 10 Mawrth 2025 am 11:30am i 12:30pm, yn rhithwir drwy Teams i roi cyflwyniad i Grant Cyfalaf VAWDASV 2025 i 2026 a'r blaenoriaethau ar gyfer cyllido.

Mae Llywodraeth Cymru yn cael gwybodaeth bersonol (enw a chyfeiriad e-bost) y rhai sy'n ymuno â'r digwyddiad pan fyddant yn cofrestru eu diddordeb drwy e-bostio:  CSJ.Finance@llyw.cymru.

Beth ydyn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth?

Bydd yr wybodaeth bersonol (manylion cyswllt) a ddarperir gennych yn cael ei chadw er mwyn darparu gwybodaeth am y broses ymgeisio ar gyfer Grant Cyfalaf VAWDASV 2025 i 2026.

Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio i anfon dolen Teams atoch ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad. Ni fydd yn bosibl i Lywodraeth Cymru na chynrychiolwyr eraill weld unrhyw wybodaeth bersonol drwy Teams, ac eithrio'r enw rydych yn dewis ei ddarparu er mwyn cael mynediad at Teams.

Pan fyddwch yn cofrestru eich diddordeb yn y digwyddiad, byddwch yn cael cyfle hefyd i ddweud wrthym a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i gymryd rhan yn y cyfarfod. Os ydych am ofyn am unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer y cyfarfod, yna bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich enw a'ch cyfeiriad e-bost er mwyn gohebu â chi.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data?

Llywodraeth Cymru (‘ni’) fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol yr ydych yn eu darparu a byddwn yn eu prosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus ac o dan yr awdurdod swyddogol a roddwyd inni i gyflawni gwaith gweinyddol y digwyddiad. 

Am ba hyd fyddwn ni'n cadw eich gwybodaeth?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt y cyfranogwyr, ac unrhyw wybodaeth a anfonwyd gan gyfranogwyr yn gofyn am addasiadau rhesymol ar gyfer y digwyddiad, tan y digwyddiad. Yna bydd yn dileu'r wybodaeth hon o fewn wythnos i'r digwyddiad.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol: 

  • cael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch;
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk.

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.   

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.   

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:  

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd  
CF10 3NQ 

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru. 

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno. 

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r defnydd ohoni, neu os ydych chi'n dymuno arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Tîm Cyllid CSJ
Cyfarwyddiaeth Cymunedau a Threchu Tlodi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ CTP

E-bost: CSJ.Cyllid@llyw.cymru

I gael gwybod mwy am eich hawliau o ran gwybodaeth, cysylltwch â: 

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ 

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru